5 minute read

CEO’s welcome

It gives me great pleasure to welcome you to CYBERUK 2022, and to the state-of-the-art International Convention Centre, here in the historic city of Newport, Wales.

It has been three years since the NCSC last brought the cyber security community together, in person, at CYBERUK 2019 in Scotland. I’m anticipating an event with even more than the usual amount of buzz, as delegates, speakers and exhibitors reconnect.

Advertisement

Once again you’ll find the kind of incisive, engaging and comprehensive programme you have come to expect from the NCSC’s flagship conference. We are making part of the event accessible online, through our YouTube channel. However, it is only here in Wales that you get the full CYBERUK experience. We have 200 speakers contributing to over 35 hours of original talks, presentations and indepth panel discussions. Hot topics will include ransomware, nation state threats and the evolution of security technology. And, if you’re looking for hands-on and technical engagement, we have our new Masterclass sessions.

I would like to take this opportunity to thank our lead sponsors, AWS and BT, for supporting CYBERUK 2022. They, along with a range of private and public sector organisations, are instrumental in making this year’s conference dynamic, diverse and digitally accessible. It has been a long and eventful year. There is much to discuss, many lessons to be learned and ideas to share. However, there is one fact upon which we can all agree - cyber security is vital to the future safety and prosperity of the UK and our global partners.

“This idea of cyber security’s importance to all of us is at the heart of this year’s CYBERUK. The golden thread running throughout the two-day conference is Cyber Security for the Whole of Society, a theme which flows from the UK Cyber Strategy. Building the UK’s resilience requires everyone to play their part.”

- Lindy Cameron

This idea of cyber security’s importance to all of us is at the heart of this year’s CYBERUK. The golden thread running throughout the two-day conference is Cyber Security for the Whole of Society, a theme which flows from the UK Cyber Strategy. Building the UK’s resilience requires everyone to play their part. Central to this strategy is a vision of the UK in 2030 as a leading, responsible and democratic cyber power. To achieve that, we must work together as a nation, continuing to build a vibrant ecosystem of cyber security businesses, researchers and professionals. At CYBERUK 2022 we’ve worked hard to create an experience that matches the huge diversity of opportunities, challenges, skills and craft which make up the world of cyber security. In that spirit, I encourage you to explore everything that is on offer. Take part in some of the Cyber Games and activities, catch some of the lightning talks on the Spotlight Stage, visit the Cyber Ecosystem zone and schedule some time to catch up with colleagues in the meeting hub. CYBERUK is about community, so I hope that you will also take the time to enjoy the company of your fellow leaders and professionals, many of whom live and work here in Wales. Reaffirm long-standing relationships and forge new connections. It’s by working together that we will succeed in making the UK the safest place to live and work online. Have a great event!

Gair o Groeso gan y Prif Weithredwr

Pleser o’r mwyaf yw eich croesawu i CYBERUK 2022, ac i’r Ganolfan Gynadledda Ryngwladol flaengar yma yn ninas hanesyddol Casnewydd, yng Nghymru.

Mae tair blynedd wedi mynd heibio ers i’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) ddod â’r gymuned seiberddiogelwch ynghyd, wyneb-yn-wyneb, yn CYBERUK 2019 yn yr Alban. Rwy’n rhagweld y bydd hyd yn oed mwy o fwrlwm nag erioed yn y digwyddiad hwn, wrth i gynrychiolwyr, siaradwyr ac arddangoswyr ddod at ei gilydd unwaith eto. Unwaith eto, gallwch ddisgwyl rhaglen dreiddgar, diddorol a chynhwysfawr yng nghynhadledd flaenllaw yr NCSC. Bydd rhan o’r digwyddiad ar gael ar-lein, drwy ein sianel YouTube. Fodd bynnag, dim ond yma yng Nghymru y gallwch gael profiad llawn o CYBERUK. Mae gennym 200 o siaradwyr yn cyfrannu at dros 35 awr o sgyrsiau gwreiddiol, cyflwyniadau a thrafodaethau panel manwl. Ymysg y pynciau llosg mae meddalwedd wystlo, bygythiadau i genedl-wladwriaethau ac esblygiad technoleg diogelwch. Ac os ydych yn chwilio am ddulliau ymarferol a thechnegol o ymgysylltu, mae sesiynau Dosbarthiadau Meistr newydd ar gael. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’n prif noddwyr, AWS a BT, am gefnogi CYBERUK 2022. Maen nhw, ynghyd ag amrywiaeth o sefydliadau yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus, yn rhan hanfodol o sicrhau bod y gynhadledd eleni yn ddeinamig, yn amrywiol ac ar gael yn ddigidol. Bu’n flwyddyn hir yn llawn digwyddiadau. Mae llawer iawn i’w drafod, llawer o wersi i’w dysgu a syniadau i’w rhannu. Fodd bynnag, gall pob un ohonom gytuno ar un ffaith – mae seiberddiogelwch yn rhan hanfodol o ddiogelwch a ffyniant y DU a’n partneriaid byd-eang yn y dyfodol.

“Y syniad yma o bwysigrwydd seiberddiogelwch i bob un ohonom sydd wrth wraidd CYBERUK eleni. Yr edefyn euraid drwy’r gynhadledd ddeuddydd yw Seiberddiogelwch i Gymdeithas Gyfan, thema sy’n deillio o Strategaeth Seiber y DU. Er mwyn datblygu gwydnwch y DU, mae angen i bawb chware eu rhan.”

- Lindy Cameron

Y syniad yma o bwysigrwydd seiberddiogelwch i bob un ohonom sydd wrth wraidd CYBERUK eleni. Yr edefyn euraid drwy’r gynhadledd ddeuddydd yw Seiberddiogelwch i Gymdeithas Gyfan, thema sy’n deillio o Strategaeth Seiber y DU. Er mwyn datblygu gwydnwch y DU, mae angen i bawb chware eu rhan. Rhan ganolog o’r strategaeth hon yw ein gweledigaeth o’r DU yn 2030, fel gwlad sydd â phŵer seiber arweiniol, cyfrifol a democrataidd. Er mwyn cyflawni hynny, rhaid i ni gydweithio fel cenedl, a pharhau i greu ecosystem ffyniannus o fusnesau, ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes seiberddiogelwch. Yn CYBERUK 2022 rydym wedi gweithio’n galed i greu profiad sy’n cyfleu’r amrywiaeth eang o gyfleoedd, heriau, sgiliau a chrefftau sy’n llunio’r byd seiberddiogelwch. I’r perwyl hwnnw, hoffwn eich annog i archwilio popeth sydd ar gael. Cymerwch ran mewn rhai o’r Gemau a’r gweithgareddau Seiber, ewch i rai o’r sgyrsiau byr ar y prif lwyfan, ewch i’r ardal ecosystem a neilltuo amser i gwrdd â chydweithwyr yn yr hyb cyfarfod. Hanfod CYBERUK yw cymuned, felly rwy’n gobeithio y byddwch hefyd yn defnyddio rhywfaint o’ch amser i fwynhau cwmni eich cyd-arweinwyr a’ch cydweithwyr proffesiynol, y mae llawer ohonynt yn byw ac yn gweithio yma yng Nghymru. Ceisiwch atgyfnerthu perthnasoedd sy’n bodoli eisoes a chreu cysylltiadau newydd. Dim ond drwy gydweithio y gallwn sicrhau mai’r DU yw’r lle mwyaf diogel i fyw ac i weithio ar-lein. Mwynhewch y digwyddiad!

This article is from: