Handbook 2014 15 cy (no bleed)

Page 1

Llawlyfr


/UMaberSU @UMAber_Addysg

2

www.umaber.co.uk/cynrychiolaeth undeb.cynrychiolaeth@aber.ac.uk


Llongyfarchiadau! Go dda chi am fod yn Gynrychiolydd Academaidd; mae gennych chi flwyddyn gyffrous o’ch blaen. Fel y byddwch efallai’n gwybod eisoes, mae cryn lawer wedi newid ynglŷn â Phrifysgol Aberystwyth yn ddiweddar. Fel Cynrychiolydd Academaidd, rydych yn gwbl allweddol mewn sicrhau bod disgwyliadau myfyrwyr yn cael eu cwrdd a’u bod yn cael y gorau posib o’u hamser yn Aberystwyth. Mae ‘Myfyrwyr fel Partneriaid’ yn ymadrodd poblogaidd dros ben yn y sector addysg uwch, ond myfyrwyr fel chi, yn fwy na neb, sy’n hanfodol mewn gwneud yn sicr bod myfyrwyr yn cael cyfle gwirioneddol i lunio eu haddysg. Dylai bod yn Gynrychiolydd Academaidd hefyd fod o fudd i chi, gan roi sgiliau i’ch

Grace Burton Swyddog Addysg undeb.addysg@aber.ac.uk

Sam Reynolds Cydlynydd Cynrychiolaeth undeb.cynrychiolaeth@aber.ac.uk

gwneud yn fwy cyflogadwy, ynghyd â rhwydwaith o gydfyfyrwyr i’ch helpu yn eich rôl.

rôl. Dim ond man cychwyn yw’r llyfryn hwn – mae croeso i chi ddod i gael sgwrs ag un ohonom os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu syniadau.

Bydd eich amser fel Cynrychiolydd hefyd yn mynd ar eich Adroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch sy’n cynnwys Mae gennym lawer o bethau manylion o’ch amser yn y ar y gweill ar gyfer y flwyddyn Brifysgol. y byddwch chi’n allweddol i’w gwireddu, felly cofiwch gadw Byddwn yn gwneud popeth mewn cysylltiad a chyfranogi y gallwn i’ch cefnogi yn eich cymaint â phosib!

Ar ran Prifysgol Aberystwyth, hoffwn ddiolch i chi am fod yn Gynrychiolydd Academaidd ar gyfer y flwyddyn. Mae’r rôl y byddwch yn ei chwarae mewn llunio eich profiad dysgu yn hanfodol i ddatblygiad parhaus y Brifysgol, a’r cyfloed rydym yn eu darparu ar gyfer ein myfyrwyr. Eleni, fe welwn ddatblygiadau a newidiadau cyffrous ar draws y sefydliad fel rhan o’n hymrwymiad i ddarparu addysg o’r safon uchaf. Cred y Brifysgol fod myfyrwyr wrth

galon popeth rydym yn ei wneud ac rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu â chi fel partner cyfartal mewn creu newid cadarnhaol, ond hefyd mewn mynd i’r afael â’r heriau rydym yn eu hwynebu gyda’n gilydd. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i chi ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi fel cydweithiwr gwerthfawr mewn darparu profiad ardderchog i fyfyrwyr. Yr Athro John Grattan Pro Is-Ganghellor

3


Cynnwys Eich Rôl 5 Ble ydw i’n perthyn? 7 Cynrychiolwyr Athrofa 8 Hyrwyddo eich hun 10 Cyfarfodydd 11 Adnoddau 13 Datrys Jargon 14

4


Eich Rôl Mae eich rôl fel Cynrychiolydd Academaidd yn hanfodol i Undeb y Myfyrwyr. Mae’n wirioneddol bwysig ein bod ni’n cael blwyddyn gynhyrchiol y gallwn hefyd ei mwynhau gyda’n gilydd, felly dyma’r hyn y dylem ddisgwyl gan ein gilydd.

Rydym yn disgwyl i chi:

Dylech ddisgwyl i’r Undeb:

• Cyfathrebu â’ch cyd Gynrychiolwyr

• Eich cadw’n hysbys ynglŷn â materion lleol a chenedlaethol

• Gwneud eich hun yn adnabyddus ymysg corff y myfyrwyr

• Eich darparu â hyfforddiant a chyfleoedd ychwanegol

• Mynychu’r Pwyllgor Ymgynghorol Myfyrwyr-Staff

• Eich darparu â rhybudd digonol ynglŷn ag unrhyw gyfarfodydd yr hoffem i chi eu mynychu

• Adrodd yn ôl i Undeb y Myfyrwyr yn rheolaidd • Rhoi gwybod i ni os ydych chi mewn unrhyw anhawster

• Eich cynorthwyo gydag unrhyw anawsterau y gallwch eu hwynebu yn y rôl • Cydnabod eich cyfraniad i fywyd y Brifysgol

Fel Cynrychiolydd Academaidd, mae dyw ran bwysig i’ch rôl:

Bod yn Adweithiol.

Golyga hyn weithredu fel llais myfyrwyr ar eich cwrs, gan ddwyn unrhyw gwynion, materion a phroblemau i sylw eich adran, yr Undeb a’r Brifysgol.

Bod yn Rhagweithiol.

Mae hyn yn golygu meddwl am y darlun mawr. Drwy weithio gyda’ch adran a ni yma yn yr Undeb, dylech fod wrth galon newid yn ein Prifysgol, yn gweithio ar wella pethau i fyfyrwyr y presennol a’r dyfodol.

Cofiwch - mae bod yn Gynrychiolydd Academaidd yn gyfrifoldeb pwysig, ond ni ddylech adael iddo ymyrryd â’ch astudiaethau na’ch bywyd tu allan i’r Brifysgol. Os ydych yn teimlo na allwch ymdopi â’r gwaith, yna dewch i siarad â ni ar bob cyfrif.

5


Eich swyddogaeth chi yw:

Nid eich swyddogaeth chi yw:

Cynrychioli eich cyd fyfyrwyr. Dod â’u syniadau a’u pryderon i’ch cyfarfodydd PYMS a dilyn i fyny ar faterion ar eu rhan.

Ymdrin â pherfformiad myfyrwyr unigol. Megis presenoldeb gwael neu apelio yn erbyn marc a roddwyd.

Ystyried y ffordd mae’r cwrs yn cael ei redeg. A yw’r oriau cyswllt yn ddigonol? Oes gennych chi ddigon o lyfrau yn y llyfrgell? Ydy’r amserlen yn ddigon da? Rhowch wybod i’ch adran. Byddwch yn gyfaill beirniadol i’ch adran. Ydych chi’n anfodlon â’r adborth ar eich gwaith neu’r ffordd y cewch eich asesu? Gweithiwch gyda’ch adran i wneud pethau’n well! Helpwch i wella’r Brifysgol. Cyfathrebwch â’ch Cynrychiolwyr Athrofa ynglŷn â materion a pholisïau’r Brifysgol gyfan, megis safon darlithfeydd a threfniadau ar gyfer cyflwyno gwaith cwrs.

6

Codi cwynion ynglŷn ag aelodau staff unigol. Ni ddylech ddwyn y materion hyn ger bron y PYMS. Yn hytrach, dewch i siarad â ni os oes gennych chi gŵyn am aelod staff. Ymdrin â materion nad ydynt yn academaidd. Gall myfyrwyr estyn allan atoch am gymorth, ond nid eich cyfrifoldeb chi yw hyn. Os oes gan fyfyrwyr faterion yn ymwneud â lles, megis tai neu iechyd meddwl, dylech eu cyfeirio at y Ganolfan Gynghori yn Undeb y Myfyrwyr.


Ble ydw i’n perthyn?

7


Cynrychiolwyr Athrofa Beth yw Athrofeydd? Yn 2013, ail-drefnodd y Brifysgol strwythur yr adrannau academaidd. O’r blaen, roedd pob adran academaidd yn perthyn i un o dair cyfadran, ond nawr maent yn perthyn i un o chwe athrofa. Mae rhestr o adrannau, ynghyd â’r athrofeydd maent yn perthyn iddynt, ar y dudalen nesaf. Gelwir pennaeth pob Athrofa yn Gyfarwyddwr Athrofa, a gynorthwyir gan dîm y cyfeirir ato fel Pwyllgor Gwaith yr Athrofa. Mae Athrofeydd yn gyfrifol am bolisïau sy’n ymwneud â’ch addysg, megis amgylchiadau arbennig a marciau arholiadau, ond hefyd am sicrhau bod eich gradd o’r safon angenrheidiol.

Beth yw Cynrychiolwyr Athrofa? Fel bo myfyrwyr yn cael eu cynrychioli ar lefel athrofa, fel yr oeddynt mewn cyfadrannau, mae yno bellach rôl newydd, sef Cynrychiolydd Athrofa. Ym mhob athrofa, bydd un Cynrychiolydd Athrofa’n gyfrifol am israddedigion ac un am ôlraddedigion. Yn ogystal â chyfrifoldebau Cynrychiolydd Academaidd, mae Cynrychiolwyr Athrofa hefyd yn: • Mynychu pwyllgorau o’r Athrofa a gweithredu fel prif lais myfyrwyr i reolwyr yr Athrofa. • Cydlynu â Chynrychiolwyr Academaidd ar draws yr Athrofa, gan sicrhau bod materion yn cael eu pasio ymlaen i reolwyr yr Athrofa ac Undeb y Myfyrwyr. • Mynychu cyfarfodydd rheolaidd o Bwyllgor Gwaith Academaidd Undeb y Myfyrwyr, sef y pwyllgor sy’n cynghori’r Swyddog Addysg ar bolisi academaidd.

Sut allaf i fod yn Gynrychiolydd Athrofa? Unwaith y bydd pob Cynrychiolydd Academaidd ym mhob Athrofa wedi cael eu hethol, bydd Undeb y Myfyrwyr yn cysylltu â hwy i esbonio’r broses ar gyfer bod yn Gynrychiolydd Athrofa. Os nad ydych wedi derbyn e-bost, neu os hoffech drafod y broses, mae croeso i chi gysylltu â ni.

8


O’r 1af Awst 2014, dyma’r athrofeydd newydd, ynghyd â’r adrannau sy’n perthyn iddynt: Athrofa Wyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Athrofa Addysg, Datblygu Proffesiynol a Graddedigion (IEPDG) • Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes • Gwasanaeth Gyrfaoedd • Canolfan Saesneg Rhyngwladol (IEC) • Cefnogaeth Dysgu • Canolfan er Datblygiad Staff ac Ymarferiad Academaidd (CDSAP) • Yr Ysgol Raddedigion Athrofa Ddaearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a Seicoleg (IGHPP) • Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear

Athrofa Lenyddiaeth, Ieithoedd a Chelfyddydau Creadigol (ILLCA) • Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu • Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol • Adran Ieithoedd Ewropeaidd • Ysgol Gelf • Adran y Gymraeg Athrofa Reolaeth, Cyfraith a Gwyddorau Gwybodaeth (IMLIS) • Ysgol Reolaeth a Busnes • Adran y Gyfraith a Throseddeg • Adran Astudiaethau Gwybodaeth

• Adran Hanes a Hanes Cymru

Athrofa Fathemateg, Ffiseg a Gwyddor Gyfrifiadurol (IMPACS)

• Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol

• Adran Fathemateg

• Adran Seicoleg

• Adran Ffiseg • Adran Wyddor Gyfrifiadurol

9


Hyrwyddo eich Hun Fel Cynrychiolydd, rydych yn gyswllt hanfodol bwysig rhwng eich adran a’ch cydfyfyrwyr, ond mae angen iddynt wybod eich bod yn bodoli! Drwy hyrwyddo eich hun mewn ychydig o ffyrdd syml, gallwch sicrhau bod eich myfyrwyr yn gwybod beth rydych yn ei wneud a sut i gysylltu â chi.

Darlithoedd. Cyn darlith, sesiwn ymarferol neu seminar, gofynnwch i’ch tiwtor am ddwy funud i roi gwybod i fyfyrwyr pwy ydych chi, beth rydych yn ei wneud a sut i gysylltu â chi. Cymorthfeydd. Cyn pob cyfarfod PYMS, rhowch wybod i’ch myfyrwyr y byddwch mewn man penodol ar amser penodol fel y gallant alw heibio a rhoi gwybod i chi sut mae pethau’n mynd. Gallwch wneud hyn yn unigol, neu fel pwyllgor llawn.

Cyfryngau Cymdeithasol. Oes gan eich cwrs dudalen Facebook? Os nad oes, sefydlwch un! Gwnewch eich hun yn adnabyddus arno a defnyddiwch e i gasglu barn a chanfod beth yw’r materion o bryder. Blog. Byddwch yn greadigol a dechreuwch blog rheolaidd er mwyn i’ch myfyrwyr ryngweithio â chi. Siaradwch am eich cwrs, yr hyn rydych wedi bod yn ei wneud fel cynrychiolydd a’ch syniadau ynglŷn â materion allweddol y dydd.

E-byst. Gall anfon e-byst fod yn ffordd effeithiol dros ben o gasglu adborth, cyn belled nad ydych yn gwneud hynny’n rhy aml. Mae adrannau fel arfer yn fwy na bodlon anfon e-bost allan i’r rheiny sydd ar eich cwrs, neu gynnwys eitem yn eu e-byst adrannol rheolaidd.

Rydym yma i helpu. Cysylltwch â ni os ydych chi angen help i sefydlu cymhorthfa, anfon e-bost adrannol neu am syniadau eraill ynglŷn â sut i gysylltu â’r myfyrwyr ar eich cwrs.

10


Cyfarfodydd Pam ydym ni’n cynnal cyfarfodydd? Gwirio. Mae’n ffordd dda o weld beth mae ein cydweithwyr wedi bod yn ei wneud, a sut mae hyn yn effeithio ar ein gwaith ni. Yn fwy ffurfiol, mae’n gyfle i ddal rhai aelodau i gyfrif am yr hyn maent wedi ei wneud, neu i gadw ein hunain ar y trywydd cywir.

Trafodaeth. Weithiau mae’n llawer gwell trafod testun neu syniad wyneb-yn-wyneb, yn hytrach nag anfon e-bost enfawr neu gynnal galwad ffôn hirfaith. Mae hefyd yn gyfle i wella ac addasu syniadau mewn cyfarfod â nifer o bobl, yn hytrach na bod pawb yn gweithio ar eu pen eu hunain.

> Cyn Gwybod pwy yw pwy. Gwnewch yn sicr eich bod yn gwybod pwy fydd yn y cyfarfod. Beth yw eu rôl a pham fyddan nhw yno? Hefyd, gwnewch yn sicr eich bod yn gwybod pwy sy’n cadeirio’r cyfarfod a phwy sy’n cymryd cofnodion. Mae Prifysgol Aberystwyth ac Undeb y Myfyrwyr yn sefydliadau dwyieithog, felly gwnewch yn sicr eich bod yn gwneud cais am gyfieithu os yw’r cyfarfod i gael ei gynnal mewn iaith nad ydych yn ei medru. Darllen y papurau. Methu paratoi, yna paratowch i fethu! Treuliwch amser ymhell cyn y cyfarfod yn mynd drwy gofnodion y cyfarfodydd blaenorol ac unrhyw ddogfennau ychwanegol sydd wedi eu hanfon i chi. Os ydych yn cael y cyfle, e-bostiwch y cadeirydd i ychwanegu unrhyw bwyntiau rydych eisiau eu gosod

ar yr agenda cyn y caiff ei hanfon allan. Pan fyddwch yn derbyn yr agenda, darllenwch drwyddi’n ofalus ac ystyriwch y pwyntiau y byddwch eisiau eu gwneud ar wahanol eitemau. Talu sylw a chymryd nodiadau! Anghofio mynychu cyfarfodydd yw un o’r camgymeriadau mwyaf y gallwch ei wneud yn eich rôl. Gwnewch yn sicr fod y dyddiad yn eich calendr neu ddyddiadur a chadwch eich papurau a’ch nodiadau mewn man diogel fel na fyddwch yn eu hanghofio. Cyn ac yn ystod unrhyw gyfarfod, gwnewch nodiadau er mwyn sicrhau eich bod yn cofio popeth rydych eisiau ei godi ac unrhyw bwyntiau gweithredu i fynd i ffwrdd o’r cyfarfod gyda chi. Os na allwch fod yn bresennol, gwnewch yn sicr eich bod yn anfon eich ymddiheuriadau i’r cadeirydd.

> Yn ystod Cyrraedd yn brydlon. ‘Does dim byd yn fwy amhroffesiynol na chyrraedd yn hwyr. Cofiwch baratoi cyn dod i’r cyfarfod. Dewch â’r dogfennau perthnasol gyda chi, ynghyd â’ch nodiadau, ac eisteddwch gyda’r

bobl y byddwch yn cyflwyno pwyntiau iddynt. Talu sylw. Mae rhai cyfarfodydd yn hir iawn, ond mae angen i chi fod yn effro a gwyliadwrus!

11


> Yn ystod Byddwch yn bositif, yn gwrtais ac adeiladol. Cynhelir y cyfarfod i ddatrys materion, felly peidiwch â gadael i rwystredigaeth na dicter darfu ar hynny. Dylech hefyd roi cyfle i eraill siarad gan gadw unrhyw feirniadaeth yn broffesiynol.

Cynrychiolwch farn eraill. Nid ydych yno er eich mwyn chi eich hun. Ystyriwch y myfyrwyr rydych yno i’w cynrychioli a mynegwch eu barn nhw, hyd yn oed os nad ydych o reidrwydd yn cytuno â’r safbwynt hwnnw.

Cadwch at y pwynt. Peidiwch â malu awyr a byddwch yn glir yn eich dadleuon; os ydych chi’n siarad am ormod o amser, bydd pobl yn peidio gwrando arnoch a byddwch yn llai effeithiol.

Peidiwch â gadael i eraill eich gwneud i deimlo’n anesmwyth. Mae gennych swyddogaeth bwysig i’w gwneud, ac mae gennych chi bob hawl i ddod â materion sy’n effeithio ar fyfyrwyr i’r bwrdd. Hefyd, peidiwch â’i gymryd yn bersonol os yw pobl yn anghytuno â chi.

Holwch gwestiynau. Os oes rhywbeth nad ydych yn ei ddeall, peidiwch â bod ofn holi cwestiynau. Fe gewch eich synnu faint o bobl eraill sy’n teimlo’r un fath. Cadwch y drafodaeth yn berthnasol. Peidiwch â siarad ar bynciau’n ddiangen a gwnewch yn sicr fod yr hyn rydych yn ei drafod yn briodol i’r cyfarfod hwnnw.

Mwynhewch! Efallai nad yw bob amser yn teimlo felly, ond mae cyfarfodydd yn rhan wirioneddol bwysig o’ch rôl, ac maent yn un o’r ffyrdd gorau o sicrhau buddugoliaethau i’ch myfyrwyr. Mwynhewch eich hun a pheidiwch â gadael i unrhyw gamau gwag i dorri eich ysbryd.

> Wedyn Adlewyrchu. Edrychwch dros eich nodiadau cynted â phosib ar ôl y cyfarfod. Ystyriwch y pwyntiau a godwyd a’r hyn sy’n rhaid ei wneud yn eu sgil. ‘Sgrifennwch grynodeb tra bo hyn yn glir yn eich cof; fel yma, byddwch yn gwybod os cofnodwyd eich cyfraniadau’n gywir ac y gweithredir yn gywir yn eu sgil. Bydd hyn hefyd o gymorth pan fyddwch yn trosglwyddo gwybodaeth bwysig i unrhyw un arall a all fod eisiau gwybod. Darllen y papurau…eto! Pan gyhoeddir y cofnodion ar ffurf drafft - fel arfer tua wythnos yn ddiweddarach - cofiwch ddarllen drwyddynt a gwneud yn sicr eu bod yn gywir. Os nad ydych chi wedi eu derbyn o fewn i gyfnod rhesymol o amser, yna peidiwch

12

â bod ofn cysylltu â’r ysgrifennydd neu’r cadeirydd i ofyn amdanynt. Trafod. Siaradwch â’ch cyd Gynrychiolwyr Academaidd, eich Cynrychiolwyr Athrofa neu â ni yma yn yr Undeb, ynglŷn â sut aeth y cyfarfod. Meddyliwch ynglŷn â’ch ymagweddiad i’r cyfarfod a beth aeth yn dda, yn ogystal â’r hyn nad oedd efallai mor llwyddiannus. Yn bwysicaf oll, peidiwch â bod ofn gofyn am gymorth a chefnogaeth pan fyddwch ei angen. Adrodd yn ôl. Defnyddiwch y ffurflen ar ein gwefan i roi gwybod i ni sut aeth y cyfarfod a’r materion a godwyd.


Adnoddau Does dim rhaid i chi ddibynnu ar yr hyn y mae’r Brifysgol neu Undeb y Myfyrwyr yn dweud wrthych am Aberystwyth. Mae cryn dipyn o adnoddau ar gael a allai fod o ddefnydd i Gynrychiolwyr Academaidd. Mae’n bur debyg y cyfeirir atynt yn ystod cyfarfodydd, felly dyma rhai i ddechrau. Setiau Gwybodaeth Allweddol (SGA) Mae’n rhaid i Brifysgolion gyhoeddi gwybodaeth benodol ynglŷn â’u cyrsiau, o oriau cyswllt y cwrs i nifer y graddedigion sydd mewn cyflogaeth ar ôl chwe mis. Mae’r data hwn, sef ‘SGA’, ar gael ar-lein er mwyn i chi allu gweld sut y mae eich cwrs chi yn cymharu â chyrsiau yn genedlaethol. > unistats.com Pwysigrwydd Ansawdd Wedi’i greu gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a’r Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd mewn Addysg Uwch, mae Pwysigrwydd Ansawdd yn hwb hyfforddi ar gyfer cynrychiolwyr fel chithau ar draws y DU. Yma gallwch ymgymryd â hyfforddiant ar-lein, dysgu o arfer da, a gweld beth y mae eich undeb cenedlaethol yn ei wneud i wella profiad addysgol ar draws y wlad. > qualitymatters.nus.org.uk

Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) Bob blwyddyn, mae prifysgolion y DU yn cymryd rhan yn yr ACF – arolwg o bob myfyriwr israddedig yn eu blwyddyn olaf. Mae’r arolwg yn gofyn 23 cwestiwn i fyfyrwyr ynglŷn â’u hamser yn y brifysgol ar bynciau o adborth i ddysgu. Mae’r data yn wych ar gyfer gweld sut y mae’ch adran chi yn cymharu ag adrannau eraill ar draws y Brifysgol ac yn genedlaethol, gan eich galluogi i ddod o hyd i’r union feysydd y gallwch weithio gyda’ch adran i’w gwella. Mae’r data ar gael ar Unistats, a gallwch hefyd ofyn i ni am ddadansoddiad mwy manwl. > unistats.com

Arolwg Ôl-raddedig (APOA a APOY) Yn debyg i’r hyn sydd ar gael ar gyfer israddedigion, ceir arolygon cenedlaethol i ôl-raddedigion hefyd trwy’r Arolwg Profiad Ôl-raddedig a Addysgir (APOA) a’r Arolwg Profiad Ôl-raddedig Ymchwil (APOY). Ni chyhoeddir y data hwn, ond gallwch ofyn i ni am yr ystadegau.

13


Datrys Jargon PMA

Pwyllgor Materion Academaidd – gelwir hwn nawr y ‘Bwrdd Academaidd’.

Bwrdd Academaidd

Pwyllgor y Brifysgol sy’n goruchwylio ac yn penderfynu ar bolisïau academaidd y Brifysgol

CCB

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

CCC

Coleg Cymraeg Cenedlaethol – Sefydliad sy’n bodoli i ddatblygu a hyrwyddo’r ddarpariaeth o addysg drwy gyfrwng y Gymraeg

Cyngor

Corff llywodraethu goruchaf y Brifysgol

CyCC

Cyngor y Cynrychiolwyr Cyrsiau – mae hwn wedi cael ei ddisodli gan y Pwyllgor Gwaith Academaidd

PDGAU

Pen y Daith i’r rhai sy’n Gadael AU – arolwg o’r hyn mae graddedigion yn ei wneud ar wahanol adegau ar ôl gadael y Brifysgol

CDA

Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu

CAI

Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig

CAÔ

Cyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-Raddedig

PG

Pwyllgor Gwaith – gall gyfeirio at reolwyr y Brifysgol neu swyddogion Undeb y Myfyrwyr.

AB

Addysg Bellach

Ll-A

Llawn-Amser

CLl-A

Cyfystyr â Llawn-Amser – mesur a ddefnyddir wrth siarad am niferoedd myfyrwyr. Mae un CLl-A yn golygu un myfyriwr llawn-amser.

SLlA

Swyddog Llawn-Amser (‘Sabothol’) – sef y pum swyddog UMAber rydych chi’n eu hethol.

AU

Addysg Uwch

SAU

Sefydliad Addysg Uwch

AAU

Academi Addysg Uwch

ACAU

Adroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch

CCAUC

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

i-grad

Arolwg blynyddol o fyfyrwyr rhyngwladol.

SGA

Setiau Gwybodaeth Allweddol

Hŷn

Myfyrwyr sy’n 21oed neu drosodd pan fyddant yn dechrau ar gwrs israddedig.

CAEA

Cyrsiau Agored Enfawr Ar-lein

14


ACF

Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr

UCM

Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr

UCMC

Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru

SMT

Swyddfa Mynediad Teg

SBA

Swyddfa’r Beirniad Annibynnol

ÔR ÔRA

Ôl-Raddedig Ôl-raddedig (a Addysgir)

ÔRY

Ôl-raddedig (Ymchwil)

APÔY

Arolwg Profiad Ôl-raddedig Ymchwil

APÔA

Arolwg Profiad Ôl-raddedig a Addysgir

RhA

Rhan-Amser

SRhA

Swyddog Rhan-Amser

PI-G

Pro Is-Ganghellor

ASA

Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd

Sabbs

Swyddogion Sabothol – cyfeirir atynt fel Swyddogion Myfyrwyr neu Swyddogion Llawn-Amser

Senedd

Pwyllgor academaidd uchaf y Brifysgol

GDAM

Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr

UM

Undeb y Myfyrwyr

UCU

Undeb y Prifysgolion a’r Colegau – undeb llafur y staff academaidd.

IR

Israddedigion

UNSAIN

Un o’r undebau llafur sy’n cynrychioli staff anacademaidd y Brifysgol.

IG

Is-Ganghellor – pennaeth y Brifysgol.

LlC

Llywodraeth Cymru

EP

Ehangu Mynediad

15



Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.