Box 18

Page 1

season eighteen the box tymor deunaw y blwch W ill Ander son | S u s a n K a e G r a n t | N ev a d a W i e r | L i z z i e S y ke s | K a r i M c Q u e e n



Will Anderson The Making of Longbird A BAFTA winning short animation which explores the god-like art of creation, in a self deprecating ‘mockumentary’ style. Combining cut-out animation with live-action, the film follows a young artist as he attempts to resurrect an iconic character called Longbird, created by an animator called Vladislav Aleksandrovich Feltov. “The relationship between the insecure but ambitious young animator and his character seamlessly inverts the status of creator and creation. Anderson creates a reflective distance to the film’s own animation, in tune with his conviction that animation as a means of storytelling should be justified.” Miriam Wendschoff TV Bomb ‘The Making of Longbird’ has been presented at over 50 Film festivals, winning prizes at Warsaw Film Festival, Brooklyn Film Festival, Edinburgh International Film Festival, as well as Stuttgart, Annecy and London International Animation Festivals. Will Anderson is a writer, director and animator; originally from the Scottish Highlands, he currently lives in Edinburgh.

Animeiddiad byr a enillodd wobr BAFTA sy’n archwilio’r ddawn ddwyfol o greu, mewn dull dynwaredol, hunan-fychanol. Gan gyfuno animeiddiad gyda gweithredu byw, mae’r ffilm yn dilyn artist ifanc wrth iddo geisio adfywio’r cymeriad eiconig ‘Longbird’, a greuwyd gan animeiddiwr o’r enw Vladislav Aleksandrovich Feltov. “Mae’r perthynas rhwng yr animeiddiwr ifanc ansicr ond uchelgeisiol a’i gymeriad yn gwrthdroi’n ddi-drafferth statws y creawdwr a’r greadigaeth. Mae Anderson yn creu pellter myfyriol i animeiddiad y ffilm ei hun, sy’n cydfynd â’i argyhoeddiad y dylai animeiddiad fel modd adrodd stori gael ei gyfiawnhau.” Miriam Wendschoff TV Bomb Cyflwynwyd ‘The Making of Longbird’ mewn dros 50 o wyliau Ffilm, gan ennill gwobrau yng Ngŵyl Ffilm Warsaw, Gŵyl Ffilm Brooklyn, Gŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin, yn ogystal â Gwyliau Animeiddiad Rhyngwladol Stuttgart, Annecy a Llundain. Mae Will Anderson yn ysgrifennwr, cyfarwyddwr ac animeiddiwr; o Ucheldiroedd yr Alban yn wreiddiol, mae’n byw ar hyn o bryd yng Nghaeredin.



Susan Kae Grant This film, one of two films in Season 18 presented in association with Verve Gallery Santa Fe, is about artist/photographer Susan Kae Grant. Her work is often autobiographical in origin, concerning relationships, dreams and gender issues. Like a film director, she stages and controls all aspects of her photographic images and the theatrical narratives she constructs. For the ‘Night Journey’ Series for example she worked with sleep scientist John Herman to access her unconscious visual memory. Grant was awakened from REM sleep at night and she used tapes of interviews made at that point as inspiration to create her imagery for the ‘Night’ series. “Using the shadow as metaphor, I create images that explore notions associated with dreams and memory and provide pictorial access to the unconscious and unexplainable experiences. These works oftentimes conjure up childhood imaginings, fairy tales and nightmares while portraying a sense of surprise and wonder. By using mythic characters and ambiguous objects, I delve into the fantastic to create phantom-like tableaux. These tableaux capture lost and forgotten fragments of experience and emotion.” Grant is a Professor and head of the photography & bookmaking programme at Texas Woman’s University and teaches workshops annually at the International Center for Photography in New York City.

Mae’r ffilm hon, un o ddwy ffilm yn Nhymor 18 a gyflwynir mewn cydweithrediad â Verve Gallery Santa Fe, yn ymwneud â’r artist/ffotograffydd Susan Kae Grant. Mae ei gwaith yn aml yn hunangofiannol yn y bôn, yn ymwneud â pherthnasau, breuddwydion a materion cenedl. Fel cyfarwyddwr ffilm, mae’n llwyfannu ac yn rheoli pob agwedd o’i delweddau ffotograffig a’r naratifau theatraidd y mae’n eu hadeiladu. Ar gyfer y gyfres ‘Night Journey’ er enghraifft gweithiodd gyda’r gwyddonydd cwsg John Herman i gyrraedd ei chof gweledol anymwybodol. Cafodd Grant ei deffro o’i chwsg REM yn y nos a defnyddiodd dapiau o gyfweliadau a wnaethpwyd ar yr adeg honno fel ysbrydoliaeth i greu ei delweddaeth ar gyfer y gyfres. “Gan ddefnyddio’r cysgod fel metaffor, ‘rwy’n creu delweddau sy’n archwilio syniadau sy’n gysylltiedig â breuddwydion a chof ac sy’n gweithredu fel modd darluniadol i gyrraedd yr anymwybodol a phrofiadau nad ellir eu hegluro. Mae’r gweithiau hyn yn aml yn cymell dychymyg, straeon tylwyth teg ac hunllefau plentyndod, tra’n portreadu teimlad o syndod a rhyfeddod. Trwy ddefnyddio cymeriadau mythegol a gwrthrychau amwys, ‘rwy’n archwilio’r ffantastig er mwyn creu tableaux rhithiol. Mae’r rhain yn cyfleu elfennau colledig ac angof o brofiad ac emosiwn.” Mae Grant yn Athro ac yn bennaeth y rhaglen ffotograffiaeth a chreu llyfrau ym Mhrifysgol Menywod Tecsas ac mae’n arwain gweithdai yn flynyddol yn y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Ffotograffiaeth yn Ninas Efrog Newydd.



Nevada Wier This film, one of two films in Season 18 presented in association with Verve Gallery Santa Fe, is about Navada Wier; an award-winning American photographer who specialises in documenting the remote areas and cultures of the world. Nevada’s journeys have taken her throughout the deserts, mountains and urban jungles of the globe. She has been published in many national and international publications, including National Geographic, Geo, National Geographic Adventure, Islands, Outdoor Photographer, Outside, and Smithsonian. Her books include ‘The Land of Nine Dragons - Vietnam Today’ (Abbeville Press), winner of the Lowell Thomas Best Travel Book award. She is a Fellow of The Explorer’s Club and a member of the Women’s Geographic Society. “I tell my students that there are four possibilities in a colour image: great colour, great light, great action (whether is it grand or subtle), or great pattern or composition. There have to be at least two of those. And, the gesture must be complete if it is essential to the image. However, fundamentally, I am striving for an image that has an emotional impact. I know it when I see it, because I feel it. … I’ve become more conscious about what I want to achieve in my images and more willing to experiment to achieve a powerful photograph. I think photography is hard. I feel that becoming a “virtuoso of seeing” is an ambitious goal. However, my years of experience and understanding of technical issues certainly are helping me along in my goal. I’ve learned to be more conscious of what I’m doing, to be aware of my surroundings and environment, and to know the powerful moment when I’m photographing.”

Mae’r ffilm hon, un o ddwy ffilm yn Nhymor 18 a gyflwynir mewn cydweithrediad â Verve Gallery Santa Fe, yn ymwneud â Navada Wier, ffotograffydd Americanaidd arobryn sy’n arbenigo mewn cofnodi ardaloedd a diwylliannau anghysbell y byd. Mae teithiau Nevada wedi mynd â hi trwy ddiffeithdiroedd, mynyddoedd a jynglau trefol y byd. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi mewn llawer o gyhoeddiadau cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys National Geographic, Geo, National Geographic Adventure, Islands, Outdoor Photographer, Outside, a Smithsonian. Mae ei llyfrau yn cynnwys ‘The Land of Nine Dragons - Vietnam Today’ (Gwasg Abbeville), enillydd gwobr Lowell Thomas am Lyfr Teithio Gorau. Mae hi’n Gymrawd y Clwb Fforwyr ac yn aelod o’r Gymdeithas Ddaearyddol i Fenywod. “’Rwy’n dweud wrth fy myfyrwyr bod ‘na bedwar posibilrwydd mewn delwedd liw: lliw gwych, golau gwych, gweithredu gwych (unai’n amlwg neu’n gynnil), neu batrwm a chyfansoddiad gwych. Rhaid cael o leiaf dwy o’r elfennau hyn i lwyddo. A rhaid i’r elfen fod yn gyflawn os yw’n hanfodol i’r ddelwedd. Fodd bynnag, yn y bôn, ‘rwy’n anelu at ddelwedd sy’n gwneud argraff emosiynol. Byddaf yn gwybod pan mae hyn yn digwydd oherwydd gallaf ei deimlo. … ‘Rwyf wedi dod yn fwy ymwybodol o’r hyn yr wyf am gyflawni gyda’m delweddau ac yn fwy parod i arbrofi er mwyn cyflawni ffotograff pŵerus. Credaf fod ffotograffiaeth yn anodd. Credaf fod llwyddo fel “arbenigwr ar weld” yn gôl uchelgeisiol. Fodd bynnag, mae fy mlynyddoedd o brofiad a dealltwriaeth o faterion technegol yn sicr yn fy nghynorthwyo i gyrraedd y nod. ‘Rwyf wedi dysgu i fod yn fwy ymwybodol o’r hyn yr wyf yn gwneud, i fod yn ymwybodol o’r hyn sydd o’m cwmpas a’r amgylchedd, ac i adnabod yr ennyd pŵerus pan ‘rwyf yn cymryd llun.”



Lizzie Sykes Note and Are you there Lizzie Sykes’ work is site specific and primarily concerned with movement and the moving image within landscape; she collaborates with dancers, composers and technicians in live and recorded works. She is also a Senior Lecturer and community filmmaker; prior to working in higher education, she set up a production company making creative films for social change; she has written a guide for community filmmaking (http://film.edusites.co.uk/article/creating-film-projects-guide/). ‘Note’ is the result of an ongoing cross arts collaboration between dancer/choreographer Cathy Seago, Lizzie Sykes and the Europa String Choir, namely Cathy Stevens and Udo Dzierzanowski. The original aim of the project was to explore creative possibilities when composers who specialise in live improvisation and dance film synthesise within an exhibition space. The outcome was a soundtrack composed and performed live, to a ten minute screen dance triptych. Shot at night, Cathy Seago is silhouetted in an empty art gallery. Behind her the gallery interior forms a series of horizontal lines. Conceptually, Cathy is a note on a sheet of musical notation. She moves slowly, part shadow puppet, partly in response to the shapes of the gallery. Multiple images suggest notes that form visual cues for the composers. Are You There was made during a residency in 2014 at Mottisfont, a National Trust property in Hampshire. It is a response to the location as well as to the fact that at the time of the residency, the main house at Mottisfont was being cleared and all kinds of objects that had been in storage were being uncovered and archived: from collections of stuffed animals to teapots. As visitors to historic buildings, we become part of the ever shifting flux of presence and interpretation. You can see more of Lizzie Sykes’ films on Vimeo at vimeo.com/lizziesykes

Mae gwaith Lizzie Sykes yn seiliedig ar safle penodol ac yn ymwneud yn bennaf â symudiad a’r ddelwedd symudol o fewn y dirwedd; mae hi’n cydweithio gyda dawnswyr, cyfansoddwyr a thechnegwyr mewn gweithiau byw a rhai sydd wedi eu recordio. Mae hi hefyd yn Uwch Ddarlithydd ac yn wneuthurwraig ffilm gymunedol; cyn iddi weithio ym myd addysg uwch, sefydlodd gwmni cynhyrchu yn gwneud ffilmiau creadigol ar gyfer newid cymdeithasol; mae wedi ysgrifennu llawlyfr ar gyfer gwneuthur ffilm yn y gymuned. (http://film.edusites.co.uk/article/creating-film-projects-guide/). Canlyniad yw Note o gydweithredu ar draws y ffurfiau celf rhwng y ddawnswraig / coreograffydd Cathy Seago, Lizzie Sykes a Chôr Llinynnol Europa, sef Cathy Stevens ac Udo Dzierzanowski. Bwriad gwreiddiol y prosiect oedd i archwilio’r posibiliadau creadigol pan mae cyfansoddwyr sy’n arbenigo mewn darnau byrfyfyr byw a ffilm ddawns yn cydweithio o fewn safle arddangos. Y canlyniad oedd trac sain a gyfansoddwyd ac a berfformwyd yn fyw, yn cydfynd â thriptych sgrîn-ddawns deg munud. Wedi’i ffilmio yn y nos, amlinellir Cathy Seago mewn oriel gelf wag. Y tu ôl iddi mae tu mewn yr oriel yn ffurfio cyfres o linellau gwastad. Yn gysyniadol, daw Cathy yn nodyn cerddorol ar dudalen. Mae hi’n symud yn araf, yn rhannol yn byped cysgod, yn rhannol mewn ymateb i siapiau’r oriel. Mae’r delweddau amryfal yn awgrymu nodau sy’n ffurfio ciwiau gweledol ar gyfer y cyfansoddwyr. Gwnaethpwyd Are You There yn ystod cyfnod preswyl yn 2014 ym Mottisfont, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Hampshire. Mae’r darn yn ymateb i’r lleoliad yn ogystal ag i’r ffaith bod y brif dŷ ym Mottisfont, ar adeg y cyfnod preswyl, yn cael ei glirio gyda phob math o eitemau oedd wedi eu storio yno yn cael eu datgelu a’u harchifo: yn amrywio o gasgliadau o anifeiliaid wedi eu stwffio i debotau. Fel ymwelwyr ag adeiladau hanesyddol, daethom y rhan o’r proses, sy’n newid o hyd, o bresenoldeb a dehongliad. Gallwch weld rhagor o ffilmiau Lizzie Sykes’ ar Vimeo ar vimeo.com/lizziesykes



Kari McQueen Curiosity (2012) The Tekhne project was born at the Interrarium Creation Residency at the Banff Centre of the Arts in 2009, where Kari McQueen experienced and observed the collective approach of an artists’ group searching for a creative breakthrough. After the residency, Kari McQueen completed six experimental shorts in collaboration with six audio artists, reflecting the collaborative processes of the creative residency. ‘Curiosity’ is the first of this six part video series; a series which explores the possibilities uncovered through the creative process, based upon the six steps to revelation developed by Marghanita Laski (1915 –1988), with themes as follows: 1. Curiosity 2. Search 3. Stasis 4. Hopeless 5. Breakthrough 6. Translation Kari McQueen Kari holds a BFA from the Alberta College of Art & Design and is a media artist based in Calgary; she joined Calgary Arts Development in 2014 as Community Investment Officer.

Ganwyd y prosiect Tekhne yn ystod Cyfnod Preswyl yr Interrarium yng Nghanolfan Gelf Banff yn 2009, lle bu Kari McQueen yn profi ac yn gwylio criw o artistiaid yn chwilio am ddatblygiad creadigol cyffrous. Ar ôl y cyfnod preswyl, cwblhaodd Kari McQueen chwe ffilm fer arbrofol mewn cydweithrediad gyda chwech o artistiaid clywedol, yn adlewyrchu prosesau cydweithrediadol y cyfnod preswyl creadigol. ‘Curiosity’ yw’r darn cyntaf yn y gyfres fideo chwe-darn hon; cyfres sy’n archwilio’r posibiliadau a ddatgelwyd trwy’r proses creadigol, yn seiliedig ar y chwe cham i ddatguddiad a ddatblygwyd gan Marghanita Laski (1915 -1988), gyda themâu fel a ganlyn: 1. Chwilfrydedd 2. Chwilio 3. Stasis 4. Anobaith 5. Torri drwodd 6. Cyfieithiad Mae gan Kari McQueen Kari gymhwyster BFA o Goleg Celf a Dylunio Alberta ac mae hi’n artist y cyfryngau sy’n gweithio yn Calgary; ymunodd â Datblygiad Celfyddydau Calgary yn 2014 fel Swyddog Buddsoddi yn y Gymuned.


c a n o l fa n y c e l f yd d yd a u a b e r y s t w yth ar ts centr e www.a ber ystwythar tscentr e.co.uk

ISBN 978-1-908992-17

Design Stephen Paul Dale Design spdsot@gmail.com


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.