season nineteen the box tymor pedwar ar bymtheg y blwch Consuelo Radcl yf fe | L i n d s a y Pe r t h | B i l l V i o l a | M a r t i n C l a r k a n d Ja n i c e Pa r ke r | A n t o n Hecht
Consuelo Radclyffe GONE! Mafalda may be small, but she’s not going to let anyone stand in the way of her pet-owning happiness. This fun animation was made in just two days by ceramic artist Consuelo Seixas Radclyffe, with ‘Oliver’s Island’. “Childhood memories are my main inspiration. These figures are often described as dark, joyful and weird. ..My intent is not just to attract mere contemplation; the approach is deeper and more reflexive. … My work derives more from my spirit than the skill of my hands, and that is precisely why my work shows such … communicability.’ Consuelo Radclyffe lives and works in London, UK and Salvador, Brazil.
Mae’n wir bod Mafalda yn fach, ond nid yw am adael i unrhyw un sefyll yn ffordd ei hapusrwydd o fod yn berchen ar anifail anwes. Animeiddiad hwyliog a wnaethpwyd mewn deuddydd gan yr artist serameg Consuelo Seixas Radclyffe gydag ‘Oliver’s Island’ “Atgofion plentyndod yw fy mhrif ysbrydoliaeth. Disgrifir y ffigyrau hyn yn aml fel tywyll, llawen a rhyfedd … nid yw’n fwriad gennyf ddenu myfyrdod yn unig; mae’r agwedd yn ddyfnach ac yn fwy atblygol. … Mae fy ngwaith yn deillio mwy o’m hysbryd na sgil fy nwylo, a dyna’n union paham mae natur fy ngwaith mor … fynegiadwy.’ Mae Consuelo Radclyffe yn byw ac yn gweithio yn Llundain, y DU a Salvador, Brasil.
Lindsay Perth One Hundred Blinks One hundred faces, aged 0 to 100, are shown in order of age; each face changing to the next during a blink. Seen in close up with eyes in sharp focus, each portrait is an individual with character, wisdom and vulnerability. Filmed in slow motion at 200 frames per second Perth attempts to slow down time and gives us an opportunity to celebrate each unique human being. Lindsay Perth is an Edinburgh-based Artist and Photographer. Canadian born, she has lived in Scotland since 1986. She has exhibited and curated artwork nationally and internationally and worked with arts organisations across Scotland for 17 years as a collaborative artist. Although predominantly lens-based, Perth’s work is interdisciplinary and includes performance, text-based work and installation. Filmed in Edinburgh and NHS Forth Valley, ‘One Hundred Blinks’ was made during a residency at NHS Forth Valley. Lindsay Perth – Director and Producer; Cameraman – Steven Cassidy; Cameraman – Andrew Begg; Sound – George Joseph Miller IV
Dangosir cant o wynebau o 0 i 100 oed, mewn trefn oedran; pob wyneb yn newid i’r nesaf yn ystod amrantiad. Mae pob portread, a welir yn agos gyda’r llygaid mewn ffocws clir, yn mynegi unigolyn gyda chymeriad, doethineb a bregusrwydd. Wedi’i ffilmio mewn symudiad araf ar 200 ffrâm yr eiliad, mae Perth yn ceisio arafu amser ac yn rhoi i ni’r cyfle i ddathlu pob unigolyn unigryw. Artist a Ffotograffydd yw Lindsay Perth sy’n gweithio yng Nghaeredin. Fe’i ganwyd yng Nghanada ac mae wedi byw yn yr Alban ers 1986. Mae hi wedi arddangos a churadu gwaith celf yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gan weithio gyda mudiadau celf ledled yr Alban am ddwy flynedd ar bymtheg fel artist cydweithrediadol. Er bod ymarfer Perth yn seiliedig yn bennaf ar ddefnydd lens, mae’r gwaith yn rhyngddisgyblaethol gan gynnwys perfformiad, darnau’n seiliedig ar destun a gosodwaith. Wedi’i ffilmio yng Nghaeredin ac NHS Forth Valley, gwnaethwpyd ‘One Hundred Blinks’ yn ystod cyfnod preswyl. Lindsay Perth – Cyfarwyddwraig a Chynhyrchydd; Dyn camera – Steven Cassidy; Dyn camera – Andrew Begg; Sain – George Joseph Miller IV
Bill Viola Five Angels In 2003 Bill Viola installed his “Five angels for the millennium” at the Gasometer, ‘a huge industrial Cathedral’, in Oberhausen where he participated at the new festival Ruhrtriennale. Filmmaker Ralph Goertz made this film document during the installation, including an interview with the artist. “‘Five Angels for the Millennium’ has five complementary video sequences: the Ascending Angel, the Birth Angel, the Creation Angel, the Departing Angel and the Fire Angel.” On huge screens on the steel walls of the Gasometer, suspended at heights between 12 and 64 metres the images shimmered, shone, sprayed and exploded. In addition there were sounds which, with the special acoustics of the Gasometer, gave you an inkling of infinity.” (Gasometer Oberhausen) A film by Ralph Goertz © IKS/Ralph Goertz Institut für Kunstdokumentation und Szenografie; In cooperation with the festival Ruhrtriennale iks-medienarchiv.de
Yn 2003 gosododd Bill Viola ei ‘Bum Angel ar gyfer y Mileniwm’ yn y Gasomedr, ‘eglwys gadeiriol ddiwydiannol enfawr’, yn Oberhausen lle cymerodd ran yn yr ŵyl Ruhrtriennale newydd-sefydliedig. Bu’r gwneuthurwr ffilm Ralph Goertz yn creu’r ffilm ddogfen hon yn ystod y gosodwaith, gan gynnwys cyfweliad gyda’r artist. “Mae gan ‘Bum Angel ar gyfer y Mileniwm’ bump o gyfresi fideo cyflenwol: yr Angel Esgynnol, Angel y Geni, Angel y Greadigaeth, yr Angel Ymadawiadol ac Angel y Tân. Ar sgriniau anferth ar furiau dur y Gasomedr, yn hongian o uchder rhwng 12 a 64 medr, bu’r delweddau yn pelydru, yn disgleirio, yn chwistrelllu ac yn ffrwydro. Yn ogystal cafwyd synau a oedd, gydag acwsteg arbennig y Gasomedr, yn rhoi i chwi awgrym o anfeidroldeb.” (Gasometer Oberhausen) Ffilm gan Ralph Goertz © IKS/Ralph Goertz Institut für Kunstdokumentation und Szenografie; Mewn cydweithrediad â gŵyl Ruhrtriennale iks-medienarchiv.de
Martin Clark and Janice Parker You said you liked the dancing This work is a celebration of the impact of dance, music and art in people’s lives. Janice Parker and Martin Clark made the film with members of a dementia support group in Stirling during a residency organised by MacRobert Arts Centre. Janice engaged the group in the creation of a beautiful performance, made to a soundtrack of Leonard Cohen’s ‘Dance me to the end of love’. The song acquires a new and moving resonance in this context, expressed in the movement of the performers. Dementia seems to have replaced cancer as the unmentionable disease. Artists like Janice Parker are beginning to remake the image of dementia by working with people who have the condition. Changing perceptions is not always a primary concern of their work, which is about creating life-enhancing experiences for people with dementia, but that is often the result. Mae’r gwaith hwn yn ddathliad o effaith dawns, cerddoriaeth a chelf ar fywydau pobl. Gwnaethpwyd y ffilm gan Janice Parker a Martin Clarkgydag aelodau grŵp a sefydlwyd i gefnogi pobl gyda dementia ynStirling yn ystod cyfnod preswyl a drefnwyd gan Ganolfan Gelf MacRobert. O dan arweiniad Janice bu’r grŵp yn creu perfformiad hyfryd, i gydfynd â thrac sain ‘Dance me to the end of love’ gan Leonard Cohen. Mae gan y gân ystyr newydd a theimladwy yn y cyswllt hwn, a fynegir yn symudiad y perfformwyr. Ymddengys fod dementia wedi cymryd lle cancr fel y salwch na ellir sôn amdano. Mae artistiaid megis Janice Parker yn dechrau ailgreu delwedd dementia trwy weithio gyda phobl sy’n dioddef o’r cyflwr. Nid newid agwedd yw prif fwriad eu gwaith, sy’n ymwneud â chreu profiadau i wella bywyd pobl gyda dementia, ond yn aml dyna yw’r canlyniad.
Anton Hecht Angel Aberystwyth
|
Connect 2
A second opportunity to see this lively and imaginative film work by artist Anton Hecht, made with the people and places of Aberystwyth; part of the digital project Connect 2. The original project, which involved some 500 local people, was presented as a three screen projection in the Gallery. For the box, the elements of the work have beeen presented in different ways – including the Angel flying over Aberystwyth, the person-powered mannequin and the tuneful CôrMeibion Aberystwyth singing on the beach and in the Museum. Soundtrack to main film: courtesy Côr Meibion Aberystwyth, conductor Carol Davies, accompanist Elenid Thomas. Ail gyfle i weld y ffilm fywiog, ddychymygus hon gan yr artist Anton Hecht, a wnaethpwyd gyda phobl yn ardal Aberystwyth; rhan o’r prosiect digidol Connect 2. Cyflwynwyd y prosiect gwreiddiol, gyda tua 500 o bobl leol yn cymryd rhan, fel tafluniad ar dair sgrîn yn yr Oriel. Ar gyfer y blwch, mae elfennau’r gwaith wedi eu cyflwyno mewn gwahanol ffyrdd - gan gynnwys yr Angel yn hedfan dros Aberystwyth, y model a bŵerwyd gan bobl a’r Côr Meibion Aberystwyth melodaidd yn canu ar y traeth ac yn yr Amgueddfa. Trac sain i’r brif ffilm: trwy gwrteisi Côr Meibion Aberystwyth, arweinydd Carol Davies, cyfeilyddes Elenid Thomas.
c a n o l fa n y c e l f yd d yd a u a b e r y s t w yth ar ts centr e www.a ber ystwythar tscentr e.co.uk
ISBN 978-1-908992-18-5
Design Stephen Paul Dale Design spdsot@gmail.com