Box 20

Page 1

season twenty the box tymor ar hugain y blwch Danilo Balducci | D e p i c t ! | D e e p G r e e n S e a | Te m p o r a r y S e r v i c e s | C h r i s t i n a Re a d



Danilo Balducci photographer/ffotograffydd A slideshow of works by the award winning Italian documentary photographer Danilo Balducci; prepared by The Eye International Festival. The next The Eye Festival is in October 2016 http://theeyefestival.co.uk/ Danilo Balducci’s main interests are social, war and post-war reportage but he is also experienced in the field of fashion and advertising. He graduated from the High School of Photography of Rome, with a specialisation in social reportage; he has worked as a professional photographer since 1996. Danilo is a regular contributor to Italian and international photo-agencies and he teaches photography and photojournalism at the Accademia di Belle Arti di L’Aquila. Sioe sleidiau o waith gan y ffotograffydd dogfen Eidalaidd arobryn Danilo Balducci; paratowyd gan Ŵyl Ryngwladol y Llygad. Cynhelir gŵyl nesaf Y Llygad ym mis Hydref 2016. http://theeyefestival.co.uk/ Prif ddiddordebau Danilo Balducci yw croniclo cymdeithasol, rhyfel ac ôl-ryfel ond mae ganddo brofiad hefyd ym maes ffasiwn ac hysbysebu. Graddiodd o Ysgol Ffotograffiaeth Uwch Rhufain, gydag arbenigedd mewn croniclo cymdeithasol; mae wedi gweithio fel ffotograffydd proffesiynol ers 1996. Mae Danilo yn cyfrannu’n rheolaidd at asiantaethau-ffoto Eidalaidd a rhyngwladol ac mae’n darlithio mewn ffotograffiaeth a ffotonewyddiaduraeth yn yr Accademia di Belle Arti di L’Aquila.



Depict! An annual favourite - 20 of the very best films of under 90 seconds, from Watershed Bristol’s super-short film making competition 2014. The Depict! Challenge encourages creativity through brevity, with submissions annually from all over the world. Ffefryn blynyddol - 20 o’r ffilmiau gorau oll o dan 90 eiliad, o gystadleuaeth ffilmiau byrion Watershed ym Mryste 2014. Mae sialens The Depict! yn annog creadigedd trwy fyrder, gyda cheisiadau bob blwyddyn yn cael eu cyflwyno o bob rhan o’r byd. The films/ y ffilmiau: Although Eszter Jánka; Anyone Can Change The World Katy Davis; Boo Bear Dance Class Joe Holman; Carpark Ant Blades; Crow’s Nest Robert Milne; Full Fat Simon Dave Anderson; Junk Mail Henning M. Lederer; La Forêt Sauvage Joseph Wallace; Loose Ends Tom Lox; Modifried Joe Magee; Nati Daniel Chisholm; Night Lights Tatiana and Marina Moshkova; Night-Walkers Chris Lang; No Words Kike Arroyo; Population Explosion Juniper Reflection Debanjan Nandy; The Collector Stas Santimov; The Peace of Wild Things Adam DJ Laity; Webbed Nick Rowell & Gabriel Farnese; YAWA – nemesis Damijo Efe Young



Deep Green Sea

The Art of Making – The Carpenter

Deep Green Sea is a Greek multi-disciplinary group of artists whose work combines creative capabilities with technology. ‘The Carpenter’ is the first in a series of short films which reflects on the art and science of professionals who work with their hands; a thoughtful and carefully observed film it features a sophisticated use of motion tracking. “The ‘Art of Making’ series aspires to display and highlight certain people who go against the spirit of today’s pessimism and desperation. They dare to dream and create with zeal and imagination. Armed with passion for knowledge and emotion, they attempt to combine the precision of science with the elegance and resourcefulness of art. We thank them wholeheartedly for their contribution.” Deep Green Sea

Grŵp aml-ddisgyblaethol o artistiaid Groegaidd yw Deep Green Sea sy’n cyfuno doniau creadigol gyda thechnoleg. ‘The Carpenter’ yw’r gyntaf mewn cyfres o ffilmiau byrion sy’n adlewyrchu celf a gwyddoniaeth pobl broffesiynol sy’n gweithio gyda’u dwylo; yn ffilm fyfyrgar a chynhwysfawr mae’n nodweddu defnydd soffistigedig o gofnodi symudiad. “Mae’r gyfres ‘Art of Making’ yn anelu at arddangos a ffocysu ar unigolion penodol sy’n mynd yn erbyn pesimistiaeth ac anobaith y byd cyfoes. Maent yn meiddio breuddwydio a chreu gydag eiddgarwch a dychymyg. Yn angerddol ynglyn â gwybodaeth ac emosiwn, maent yn ceisio cyfuno manylrwydd gwyddoniaeth gyda cheinder a dyfeisgarwch celf. ‘Rydym yn diolch iddynt o waelod calon am eu cyfraniad.” Deep Green Sea



Framing the Artists: Artists & Art in Film and Television by Temporary Services A very entertaining (yet deathly serious) look at how living artists are viewed by society: “So what do these representations reveal to us about artists and their work? Many depictions center on artists’ unusual behavior, love affairs, or self-destruction through drugs and alcohol. Jokes about not being able to understand modern art are endless. Very few biographies of actual or fictive artists seriously attempt to consider the artist’s creative process in a nuanced way. Framing The Artists is an overview of many examples of these characterizations…” Brett Bloom and Marc Fischer are Temporary Services; they are based in Chicago and Copenhagen and have been creating art projects, public events, publications, and exhibitions since 1998. “We champion public projects that are temporary, ephemeral, or that operate outside of conventional or officially sanctioned categories of public expression.” Golwg hynod difyr (ond hynod difrifol) ar sut y mae cymdeithas yn ystyried artistiaid: “Felly beth mae’r cynrychiolaethau hyn y datgelu i ni am artistiaid a’u gwaith? Mae llawer o gyflwyniadau yn canolbwyntio ar ymddygiad anghyffredin artistiaid, eu carwriaethau, neu eu hunan-ddinistriad trwy gyffuriau ac alcohol. Mae’r jôcs ynglyn â methu deall celf fodern yn ddi-ddiwedd. Ychydig iawn o fywgraffiadau artistiaid sy’n ceisio ystyried o ddifrif proses creadigol yr artist mewn ffordd drylwyr. Mae ‘Framing The Artists’ yn arolwg o lawer o enghreifftiau o’r nodweddiadau hyn …” Brett Bloom a Marc Fischer yw Temporary Services; maent yn gweithio o Chicago a Copenhagen ac maent wedi bod yn creu prosiectau celf, gweithgareddau cyhoeddus, cyhoeddiadau ac arddangosfeydd ers 1998. “’Rydym yn ffafrio prosiectau cyhoeddus sydd dros dro, yn fyrhoedlog neu sy’n gweithredu y tu allan i gategoriau confensiynol neu swyddogol mynegiant cyhoeddus.”



Christina Read: The Myth of Sisyphus ‘Sometimes reading and understanding feels like pushing a rock up a hill.’ A book reading performance by an artist from Auckland, New Zealand. Christina Read’s art centres on personal and unorthodox relationships between language and object, text and image. She uses her own ‘unspectacular’ life as her source, finding humour and poetry in the everyday. Regular themes are handmade or home-made objects; neuroses and fears; self-delusion and the gap between ideals and reality. She uses various media including sculpture, video and performance. “If worries were things, like worms for example, I expect they would burrow right into you; make convoluted routes through and within the digestive system; sometimes crossing and colliding with one another, sometimes not. …..I am interested in the point at which everyday triviality becomes humorous or strange. I like things that are poetic yet down to earth.” ‘Weithiau mae darllen a deall yn teimlo fel gwthio carreg fawr i fyny rhiw’. Perfformiad darllen llyfr gan artist o Auckland, Seland Newydd. Mae celf Christina Read yn ffocysu ar berthnasau personol ac anghonfensiynol rhwng iaith a gwrthrych, testun a delwedd. Mae’n defnyddio ei bywyd ‘dinod’ ei hun fel ei ffynhonnell, yn dod o hyd i hiwmor a barddoniaeth mewn bywyd bob dydd, Themâu rheolaidd yw eitemau a wnaethpwyd â’r llaw; niwrosis ac ofnau; hunan-gamargraff a’r bwlch rhwng delfrydau a realiti. Mae’n defnyddio amrywiaeth o gyfryngau gan gynnwys cerflunwaith, fideo a pherfformiad. “Pe bai pryderon yn bethau, fel mwydod er enghraifft, mae’n debyg y byddant yn turio reit i fewn i chi; yn tyllu i fewn i’r system dreulio; weithiau’n croesi ac yn gwrthdaro yn erbyn ei gilydd, weithiau dim. …. ‘ rwy’n ymddiddori yn y pwynt lle y daw pethau dibwys bob dydd yn ddoniol neu’n rhyfedd. ‘Rwy’n hoffi pethau sy’n farddonol ac sydd eto’n ddiffwdan.”


c a n o l fa n y c e l f yd d yd a u a b e r y s t w yth ar ts centr e www.a ber ystwythar tscentr e.co.uk

ISBN 978-1-908992-19-2

Design Stephen Paul Dale Design spdsot@gmail.com


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.