season seventeen the box tymor Un deg saith y blwch Anders Weberg | Tim Shore | Ginnetta Correli, Alastair Cook | Jaume Plensa | David Nash
Anders Weberg Mamo/Mother This poignant short film was made during a visit to Birkenau (Auschwitz II) in Poland. It sharply evokes the senses and memories of childhood and motherhood within this emotionally charged setting. The work was filmed with a mobile phone, showing the huge potential of our everyday gadgets. Anders Weberg works in video, sound, new media and installations. He is primarily concerned with identity. The human body lies at the root of his projects which chart identity and its construction, as a preamble to broaching matters of violence, gender, memory and ideology. In his work personal experiences co-exist with references to popular culture, the media and consumerism. Specialising in digital technologies, he aims to mix genres and ways of expression to explore the potential of audio visual media.
Gwnaethpwyd y ffilm fer deimladwy hon yn ystod ymweliad â Birkenau (Auschwitz II) yng ngwlad Pwyl. Mae’n tynnu’n gryf ar synhwyrau ac atgofion plentyndod a mamolaeth yn erbyn y cefndir emosiynol hwn. Ffilmwyd y darn gyda ffôn symudol, sy’n dangos potensial aruthrol ein dyfeisiadau beunyddiol. Mae Anders Weberg yn gweithio gyda fideo, sain y cyfryngau newydd a gosodweithiau. Ei brif ddiddordeb yw hunaniaeth. Ycorff dynol sydd wrth wraidd ei brosiectau sy’n cofnodi hunaniaeth a’i gwneuthuriad, fel rhagymadrodd i godi materion megis trais, cenedl, cof ac ideoleg. Yn ei waith mae profiadau personol yn bodoli ar y cyd gyda chyfeiriadau at ddiwylliant poblogaidd, y cyfryngau a phrynwriaeth. Yn arbenigo mewn technoleg ddigidol, mae’n anelu at gymysgu genres a ffyrdd o fynegiant er mwyn archwilio potensial y cyfryngau clywedol gweledol. Filmed with mobile phone. ( Nokia N82 Black). Ffilmwyd gyda ffôn symudol. ( Nokia N82 Du). Upsized to 16:9 PAL. Codwyd y maint at 16:9 PAL Video and Sound Duration: 2.30 min; August 2008. Hyd Fideo a Sain: 2.30 munud; Awst 2008
Tim Shore Cabinet Tim Shore’s ‘Cabinet’ is a complex experimental film which uses the Unabomber’s Manifesto as its central subject. The work confronts the tension between America’s idea of itself as a land of freedom in wide open spaces and the tightly controlled technological society that has emerged. The Unabomber Theodore Kaczynski’s wooden cabin which features in ‘Cabinet’ brings to mind President Abraham Lincoln’s famous log cabin. Featuring several layers of images, sounds and texts, both original and archive, this work encourages the audience to question the mythlogising of national identities. Tim Shore’s practice includes moving image, drawing and installation. His practice is grounded in research and is concerned with the impact of technologies on society and the individual. He graduated from the RCA in 2002; Cabinet was his fourth film.
Ffilm arbrofol gymhleth yw ‘Cabinet’ gan Tim Shore sy’n defnyddio Maniffesto’r Unabomber fel ei gwrthrych canolog. Mae’r gwaith yn ymwneud â’r tensiwn rhwng y syniad sydd gan America ohoni’i hun fel gwlad fawr, agored sy’n cynnig digonedd o ryddid, a’r gymdeithas dechnolegel gyfyng sydd wedi dod i’r amlwg. Mae caban pren yr Unabomber Theodore Kaczynski a nodweddir yn y ffilm yn atgoffa un am gaban pren enwog yr Arlywydd Abraham Lincoln. Yn nodweddu sawl haenen o ddelweddau, synau a thestun, yn wreiddiol ac o’r archif, mae’r gwaith hwn yn annog y gynulleidfa i gwestiynu mytholeg hunaniaethau cenedlaethol. Mae ymarfer Tim Shore yn cynnwys delwedd symudol, arlunio a gosodwaith. Mae ei ymarfer yn seiliedig ar ymchwil ac yn ymwneud ag effaith technolegau ar gymdeithas a’r unigolyn. Graddiodd o’r Coleg Celf Brenhinol yn 2002; ‘Cabinet’ oedd ei bedwaredd ffilm. Dv s8 16mm colour ; Duration: 18’20” United Kingdom 2006 Dv s8 16mm lliw ; Hyd 18’20” Y Deyrnas Unedig 2006
Ginnetta Correli, Alastair Cook Ground ‘Ground’ is a ‘film-poem’, first shown at the Dimensions Film Event San Francisco 2011 . “Ground has an impenetrable quality. The film imagery, poem and reading approach each other without quite meeting. In that circle of visual and verbal imagery and the emotion of the voice of the reader, we witness a flame dancing without knowing who lit it, who blows on it, or why it goes out, if it does. Something profound happens. But what? Is the poem notes on death and what resurrects us through life? Or the dream of a life? At the end, the man... but you must watch to see this. … As in dream, the images in Ground are vivid, strong, and reveal something important if elusive. “ Brenda Clews ‘Rubies in Crystal’ Marshmallow Press Productions
Barddoniaeth ar ffurf ffilm yw ‘Ground’, a ddangoswyd am y tro cyntaf yng Ngweithgaredd Ffilm ‘Dimensions’ San Francisco 2011 . “Mae gan ‘Ground’ nodweddion anhreiddiadwy. Mae delweddau’r ffilm, y farddoniaeth a’r darllen yn dod at ei gilydd heb gyfarfod yn union. Yn y cylch hwnnw o ddelweddaeth weledol a llafar, a’r emosiwn yn llais y darllenydd, ‘rydym yn dystion i fflam yn dawnsio heb wybod pwy sydd wedi’i chynnau, pwy sy’n chwythu arni, neu paham mae’r fflam yn diffodd, os yw’n diffodd. Mae rhywbeth mawr yn digwydd. Ond beth? A yw’r farddoniaeth yn sôn am farwolaeth a beth sy’n ein cynnal trwy fywyd? Neu’r freuddwyd am fywyd? Yn y diwedd, mae’r dyn... ond rhaid gwylio i weld hyn. … Fel mewn breuddwyd, mae’r delweddau yn Ground yn llachar, yn gryf, ac yn datgelu rhywbeth pwysig os anniffiniadwy.” Brenda Clews ‘Rubies in Crystal’ Cynyrchiadau Gwasg Marshmallow Written & Narrated: Ysgrifennwyd & Adroddwyd gan: Alastair Cook Directed & Edited: Ysgrifennwyd & Adroddwyd gan: Ginnetta Correli Soundtrack: Trac sain: Pierrepoint’s Epitaph by/gan Dirk Drieson
Jaume Plensa at Yorkshire Sculpture Park This is one of two films about leading sculptors which were kindly lent by Yorkshire Sculpture Park for this Season in the box. Jaume Plensa is an acclaimed Catalan artist and sculptor and the film follows him during preparations for his exhibition at Yorkshire Sculpture Park. Over the past 25 years, Plensa has produced a complex body of work in both the studio and in the public realm. He often combines traditional heavy sculptural materials such as glass, steel, bronze, aluminium; with water, light, sound and video, often incorporating text. He has created over 30 projects in cities including Chicago, Dubai, London, Liverpool, Nice, Tokyo, Toronto, and Vancouver; including the glass and steel sculpture ‘Breathing’ which rises above BBC Broadcasting House. The film is a fascinating insight into both the artist and the process of public exhibition. "Art should be an echo," Plensa once told the Wall Street Journal, "a feeling of your heart . . . a mirror, a container of memory. With grateful thanks to Yorkshire Sculpture Park . film by pixelfoundry.co.uk
Dyma un o ddwy ffilm am gerflunwyr blaenllaw a fenthycwyd yn garedig gan Barc Cerfluniaeth Swydd Efrog ar gyfer y Tymor hwn yn y blwch. Mae Jaume Plensa yn gerflunydd Catalanaidd adnabyddus ac mae’r ffilm yn ei ddilyn wrth iddo baratoi am ei arddangosfa ym Mharc Cerfluniaeth Swydd Efrog. Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae Plensa wedi cynhyrchu corff cymhleth o waith yn y stiwdio ac mewn mannau cyhoeddus. Yn aml mae’n cyfuno deunyddiau cerflunio trymion traddodiadol megis gwydr, dur, efydd, alwminiwm gyda dŵr, golau, sain a fideo, weithiau yn cynnwys testun hefyd. Mae wedi creu dros 30 o brosiectau mewn dinasoedd yn cynnwys Chicago, Dubai, Llundain, Lerpwl, Nice, Tokyo, Toronto, a Vancouver; gan gynnwys y gerfluniaeth wydr a dur ‘Breathing’ sy’n codi uwchben Tŷ Darlledu’r BBC. Mae’r ffilm yn cynnig cipolwg hynod diddorol ar yr artist a’r proses o arddangos yn gyhoeddus. "Dylai celf fod yn adlais," dywedodd Plensa un tro wrth y Wall Street Journal, "teimlad o’ch calon . . . drych, rhywbeth sy’n dal cof. Gyda diolch i Barc Cerfluniaeth Swydd Efrog. Ffilm gan pixelfoundry.co.uk
David Nash at Yorkshire Sculpture Park, December 2013 This is the second of two films about leading sculptors which were kindly lent by Yorkshire Sculpture Park for this Season in the box. Internationally renowned artist David Nash (OBE, RA) from Blaenau Ffestiniog talks about his long standing relationship with Yorkshire Sculpture Park and about the works he has made for them. David Nash studied at Kingston College of Art, Brighton College and Chelsea School of Art but in the late ‘60s he moved to Blaenau Ffestiniog in North Wales in order to escape the ‘unnecessarily competitive' metropolitan art world. From the late 1960s he developed his approach to his sculpture; his first exhibition ‘Briefly Cooked Apples’ at York revealed his belief that his activity was a collaboration with nature. Wood became Nash's main material, being used in both temporary and permanent land-based works. Nash is today one of Wales’ foremost artists. With grateful thanks to Yorkshire Sculpture Park . film by pixelfoundry.co.uk
Dyma’r ail o ddwy ffilm am gerflunwyr blaenllaw a fenthycwyd yn garedig gan Barc Cerfluniaeth Swydd Efrog ar gyfer y Tymor hwn yn y blwch. Mae’r artist rhyngwladol enwog David Nash (OBE, RA) o Flaenau Ffestiniog yn siarad am ei berthynas hir gyda Pharc Cerfluniaeth Swydd Efrog ac am y gwaith y mae wedi creu iddynt. Astudiodd David Nash yng Ngholeg Celf Kingston, Coleg Brighton a Choleg Celf Chelsea ond yn hwyr yn y 60au symudodd i Flaenau Ffestiniog yng Ngogledd Cymru er mwyn dianc rhag y byd celf metropolitanaidd ‘diangen o gystadleuol’. O’r 1960au hwyr datblygodd ei ymarfer cerflunio; bu ei arddangosfa gyntaf ‘Briefly Cooked Apples’ yng Nghaerefrog yn datgelu ei gred bod ei ymarfer yn gydweithrediad gyda natur. Pren oedd prif gyfrwng Nash, a ddefnyddiwyd mewn darnau dros dro a rhai parhaol yn seiliedig ar y tir. Erbyn heddiw Nash yw un o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru. Gyda diolch i Barc Cerfluniaeth Swydd Efrog . ffilm gan pixelfoundry.co.uk
canolfan y celfyddydau aberystwyth arts centre
www.aberystwythartscentre.co.uk
ISBN ? Design Stephen Paul Dale Design spdale@live.com