DIWEDDARIAD
CEREDIGION
2012
Tachwedd
Newyddion a Datblygiadau Croeso i ddiweddariad Ceredigion... Bydd Canolfan Meugan yn cau ddydd Gwener 26 Hydref 2012 gyda pharti i bawb, y staff a gwesteion. Roedd disgwyl i'r ganolfan gau ac mae wedi bod yn amser pryderus i bawb. Ond rhaid i ni gofio na fydd y ganolfan yn uno â'r Hafod, diolch i ymdrechion nifer o bobl a gefnogodd ein pryderon mawr am ddefnyddwyr gwasanaeth Meugan a'r Hafod. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch iddynt. Mae cau Canolfan Meugan yn golygu y bydd cyfnod pan fydd rhaid i bob ohonom wneud y gorau o'r sefyllfa dros dro y mae defnyddwyr gwasanaeth a staff yn ei hwynebu. Bydd y ganolfan gymorth gymunedol yn symud i Neuadd y Dref ac mae'n falch gen i ddweud y bydd y gegin ar gael felly gall y grwpiau coginio barhau. Nid yw Neuadd y Dref ar gael brynhawn Llun ac felly bydd Neuadd Eglwys Gatholig 'Our Lady of the Taper' yn cael ei defnyddio ac unwaith eto, y newyddion da yw bod staff yn teimlo bod hwn yn gyfle gwych i ddechrau'r Clwb Boccia newydd. (Nod y gêm yw taflu peli mor agos ag y gallwch at y belen darged wen, neu'r jac, a gall unigolion, parau neu dimau o'r ddau ryw chwarae'r gêm). Yr hyn y mae'n rhaid i ni gofio yw bod goleuni ar ddiwedd y twnnel, sef canolfan bwrpasol newydd, a bydd cyfarfod ymgynghori yn cael ei gynnal gan Dr Neil Thompson ddydd Iau 15 Tachwedd i drafod hyn. Bydd rhan gyntaf y cyfarfod i ddefnyddwyr gwasanaeth, yna caiff rhieni, teulu ac eraill sydd â diddordeb gyfle i gyfrannu. Felly er ein bod yn delio â sefyllfa dros dro, dylem wneud popeth a allwn i sicrhau bod eich anwyliaid a'r staff yn ymgartrefu'n gyflym yn Neuadd y Dref.
DYDDIADAU A DIGWYDDIADAU I'CH DYDDIADUR Cyfarfod Fforwm Rhieni a Gofalwyr Ceredigion Nos Fercher 7 Tachwedd 2012 18:30 (6.30pm) Gwesty'r Plu Aberaeron Siaradwr Gwadd Sue Dambrook Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Oedolion ac Iechyd Meddwl Dewch i gefnogi'ch fforwm chi. Darperir cinio bys a bawd. ++++++ ‘GOFALU AMDANAF FI FY HUN’ Cwrs 6 wythnos. Dydd Iau 18 Tachwedd 13 Rhagfyr 10am - 12.30pm Gorsaf Dân Aberystwyth
Grŵp Cynghori Anabledd Dysgu Ym mis Gorffennaf eleni roedd Llywodraeth Cymru wedi gwahodd nifer o sefydliadau ac unigolion i gymryd rhan yn y grŵp newydd, sef Grŵp Cynghori Anabledd Dysgu, gan gynnwys Anabledd Dysgu Cymru, Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim a Mencap Cymru, Pobl yn Gyntaf Cymru a ni, Fforwm Cymru Gyfan i gellir hawlio costau cyflenwi gofal Rieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Grŵp yng Nghaerdydd ym mis Medi a bydd yn helpu a chludiant. Llywodraeth Cymru i lunio ei pholisi anabledd dysgu ar faterion megis gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy, mynd i'r afael ag I GADW LLE CYSYLLTWCH Â anghydraddoldebau iechyd, integreiddio cymdeithasol a chynhwysiant. Caroline ar 01554 779 507 DASH. Llongyfarchiadau mawr i chi am ennill £5,000 o Gronfa Gymunedol Grŵp Bancio Lloyds, a diolch yn fawr i bawb a gymerodd yr amser i gofrestru eu pleidlais dros DASH. Y prosiect mawr nesaf yw'r prosiect UNO, sef cais i gynllun Dyfodol Newydd Disglair Cronfa'r Loteri Fawr, sy'n ceisio darparu cymorth mawr ei angen i bobl ifanc anabl 14-25 oed sy'n mynd trwy gyfnod o newid. Mae llawer o blant eisoes yn trosglwyddo i wasanaeth oedolion Ceredigion, gwasanaeth sydd o dan bwysau, felly mae'n rhaid i ni gefnogi DASH a'r prosiect 5 mlynedd cyffrous hwn.
Cofion gorau, Roger
++++++ DIWRNOD HAWLIAU GOFALWYR Dydd Gwener 30 Tachwedd 2012 Cael help llaw trwy gyfnodau anodd 1:30 - 4:00 pm London House Aberaeron +++++++
Ff C G Fforwm Cymru Gyfan i Rieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu
Adeiladau Elliot 21 Cardiff Road Ffynnon Taf Caerdydd CF14 7RB Ffôn: 02920 811120 E-bost: roger.allwalesforum@ comeuro.co.uk Hyrwyddo buddiannau Rhieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu
Newyddion arall … RHIANT/GOFALWR FFORWM YN EISIAU AR GYFER GRŴP ASD Fe wyddoch drwy'r cylchlythyr diwethaf ein bod wedi gofyn am riantofalwr i eistedd ar grŵp monitro ASD gwasanaeth oedolion. Mae Non Jenkins wedi cytuno i gynrychioli’ch fforwm ar y grŵp newydd hwn ond mae’n gadael lle gwag ar grŵp tebyg yn yr adran mewn Gwasanaethau Plant. Fyddai gennych chi ddiddordeb yn y rôl hon? Nid yw'r ymrwymiad amser yn fawr ond mae'n rôl bwysig. Cysylltwch â mi i gael manylion pellach a diolch i Non am ei hymrwymiad parhaus i'r Fforwm. TALIAD ANNIBYNIAETH BERSONOL (TAB) Roeddwn yn bresennol yn y cyflwyniad TAB gyda Ken Davies o'r Adran Gwaith a Phensiynau. Bydd manylion eraill am TAB yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir. Bydd hawl gan unrhyw geisydd sydd ag anabledd dysgu fod yng nghwmni rhiant/gweithiwr cymdeithasol ac ati yn y cyfarfod wyneb yn wyneb, a chadarnhaodd Ken y bydd yr unigolyn hwnnw yn gallu chwarae rôl weithredol. Pwysleisiais hefyd nad yw llawer o weithwyr proffesiynol iechyd yn deall rhyw lawer am anableddau dysgu a dylai ceiswyr gael eu cyfweld gan weithiwr proffesiynol iechyd sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig gyda dealltwriaeth o anawsterau dysgu. Rwyf wedi dilyn hyn drwy anfon ymholiad ysgrifenedig i'r Adran Gwaith a Phensiynau ac rwy'n aros am ymateb. RECRIWTIO YMDDIRIEDOLWYR ANABLEDD DYSGU CYMRU Mae angen ymddiriedolwyr newydd i weithio ar y pwyllgor rheoli o 2012 i 2014. Ei genhadaeth yw: Creu Cymru sy'n gwerthfawrogi ac sy'n cynnwys pob plentyn, person ifanc ac oedolyn sydd ag anabledd dysgu. Diddordeb? Cysylltwch â Joanne Moore ar 029 2068 1160 neu cewch wybodaeth ar y wefan http://www.learningdiasbilitywales.org.uk/manage_com.php.
Ymgynghoriadau Mawr o Ddiddordeb Ymgynghoriad Fframwaith Gweithredu ar gyfer Byw'n Annibynnol Mae'r fframwaith hwn yn ymdrin â'r blaenoriaethau a nodwyd gan bobl anabl, gan adeiladu ar Faniffesto Anabledd Cymru ar gyfer Byw'n Annibynnol a gafodd ei gynhyrchu drwy waith ymgysylltu yn 2010-2011. Mae'r blaenoriaethau wedi cael sylw drwy ddwyn ynghyd profiad ac arbenigedd pobl anabl, sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus a thrydydd sector a swyddogion Llywodraeth Cymru, i adnabod materion allweddol ac arferion da ac awgrymu'r camau cadarnhaol y gellid eu cymryd. Gallwch gyrchu'r ddogfen ymgynghori a fersiwn Hawdd ei Ddarllen wedi'i gynhyrchu gan Anabledd Dysgu Cymru yn: http://bit.ly/Rh6bvv Mae'r Fframwaith Gweithredu yn seiliedig ar fodel cymdeithasol o anabledd. Mae'n ystyried y rhwystrau i gydraddoldeb a chynhwysiant a wynebir gan bobl anabl a'r camau y mae angen eu cymryd i fynd i'r afael â nhw. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i gynnig sylwadau ar gynnwys y Fframwaith. Bydd ymatebion yn helpu i lywio cyfeiriad Llywodraeth Cymru yn y dyfodol yn y maes gwaith hwn. Dyddiad cau 20 Rhagfyr 2012 Mae hwn yn ymgynghoriad pwysig, felly cofiwch gymryd rhan.
Mae Mencap Cymru am gael sylwadau neu ddyfyniadau gan rieni/ofalwyr ar sut y gellir cefnogi eu lles cyffredinol a'u hiechyd yn well. Cysylltwch ag Alli Maskell drwy ffonio 0808 808 1111, Llinell Gymorth Anabledd Cymru. Gofal seibiant yng Ngheredigion Ar hyn o bryd mae'r Awdurdod Lleol yn archwilio gofal seibiant yn y sir er mwyn sicrhau ei fod wedi'i ddyrannu'n deg i ddefnyddwyr presennol ac atgyfeiriadau newydd yn ôl anghenion yr oedolyn sydd ag anabledd dysgu ac anghenion ei ofalwr. Bydd ffurflen gais newydd am ofal seibiant yn cael ei dosbarthu bob chwe mis o Ragfyr 2012 i gadw lle o Ebrill 2013. Yna caiff penderfyniadau eu gwneud yng Nghyfarfod Dyrannu Seibiant newydd y siroedd sydd i'w gynnal yn Ionawr 2013. Bydd gwely brys yn cael ei gadw bob amser ym Mrynsiriol o Ebrill 2013 i helpu i leihau canslo lle. Cadwch lygad ar y wefan a byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi cyn gynted â phosibl. Cysylltwch os oes gennych unrhyw bryderon - manylion isod.
Fforwm Cymru Gyfan Gweithiwr Datblygu Gofal Ceredigion Roger Colman E-bost roger.allwalesforum@comeuro.co.uk Ffôn 01545 580232 Ffôn symudol 07977389505
www.ceredigionpcf.co.uk