Cymer Ran - Haf 2020

Page 1

Cylchgrawn Gwirfoddolwyr Amgueddfa Cymru

cymerran Haf 2020

Rhifyn

10 mlynedd o wirfoddoli


Croeso i’r rhifyn hwn yn dathlu 10 mlynedd o wirfoddoli! Mae dros 7,000 o bobl wedi rhoi o’u hamser a’u hegni i Amgueddfa Cymru dros y 10 mlynedd diwethaf. Pan greom ni ein polisi gwirfoddoli cyntaf yn 2009/2010 roedd gennym ni wirfoddolwyr, ond dim system i’w cefnogi na ffyrdd i ddatblygu eu sgiliau. Penderfyniad Amgueddfa Cymru i greu ei pholisi cyntaf oedd y cam cyntaf tuag at fuddsoddi yn ein gwirfoddolwyr.

Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf rydym wedi mynd o:

100 o wirfoddolwyr y flwyddyn i DROS

1,000

un ffordd o gymryd rhan, i wirfoddoli mewn GRŴP, FFORYMAU IEUENCTID A LLEOLIADAU

o wirfoddolwyr

bod â gwirfoddolwyr yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i fod â gwirfoddolwyr ym mhob un o’r

7 AMGUEDDFA

GWIRFODDOLI YMA

dim staff gwirfoddoli, I ADRAN BENODOL SY’N GYFRIFOL AM GEFNOGI GWIRFODDOLWYR A’N CYMUNEDAU LLEOL

Ein nod yw parhau i fuddsoddi a datblygu gwirfoddoli am y 10 mlynedd nesaf! Yn y rhifyn hwn byddwch yn gweld ychydig o’r cannoedd o straeon sydd gennym ni ar draws Amgueddfa Cymru. Dyma ddetholiad o straeon sy’n amlygu cyfraniad anhygoel ein gwirfoddolwyr i ni ac i bobl Cymru. Rydych chi’n ysbrydoliaeth – diolch o galon am roi o’ch amser i ni!

2


Cynnwys Clawr Blaen 4

Murlun am Wirfoddoli yn y Tŷ Gwyrdd

Adeiladu o’r Newydd 5

Bryn Eryr

5

Erthygl Arbennig 6

Garddwyr Gwych a Gerddi’r Gwirfoddolwyr

Arddangosfeydd 8

Arddangosfa Dippy

Fforwm Ieuenctid Amgueddfa Cymru 10 Ymgyrch Twitter Palaeontoleg

Y Casgliad 12 Botaneg 13 Owen ac Una

6

8

Gwirfoddolwyr yn Creu 14 Clwb Crefftau 14 Diweddariadau Gwirfoddolwyr

10

Cyfranwyr: Ffion Davies Uwch-gydlynydd Gwirfoddoli a Chydlynydd Strategaeth

Alexander Vieira a Colin John Aelodau Fforwm Ieuenctid Amguddfa Cymu

David Zilkha Cydlynydd Gwirfoddoli

Katherine Slade Curadur: Botaneg (Planhigion Is), Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Danielle Cowell Rheolwr Addysg, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru Kate Evans Swyddog Addysg ac Ymgysylltu Cymunedol, Amgueddfa Wlân Cymru Zoe Gealy Uwch Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Liam Doyle Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Ingrid Jüttner Prif Guradur: Botaneg (Diatomau), Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

14

Sally Whyman Curadur: Botaneg (Planhigion Fasgiwlaidd), Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Elen Wyn Roberts Rheolwr Addysg, Cyfranogiad a Dehongli, Amgueddfa Lechi Cymru

3


Clawr Blaen

Murlun Gwirfoddoli yn y Tŷ Gwyrdd gan Ffion Davies, Uwch Gydlynydd Gwirfoddolwyr a Chydlynydd Strategaeth Yn 2019, aethom ati i gomisiynu artist ifanc (dan 25 oed) i greu murlun yn dathlu gwirfoddoli. Ein nod oedd rhoi cyfle i artist ifanc ennill profiad a manteisio ar y cyfoeth o wybodaeth a chasgliadau sydd gennym yn yr amgueddfa. Roedd safon y ceisiadau yn anhygoel gan danlinellu faint o dalent ifanc sydd gennym yng Nghymru.

4

Enillodd Robin Bonar-Law y comisiwn ac aeth ati i greu murlun wedi’i ysbrydoli gan wirfoddolwyr ar draws Amgueddfa Cymru yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Treuliodd Robin chwe mis yn teithio i bob cwr o Gymru, yn cynnal gweithdai gyda gwirfoddolwyr, ac yn creu’r murlun.

Mae’r murlun bellach yn destun balchder yn y Tŷ Gwyrdd, ein canolfan i wirfoddolwyr yn Sain Ffagan. Rydym hefyd wedi creu bag cynaliadwy newydd o’r dyluniad, a bydd pob gwirfoddolwr yn derbyn un. Bydd copïau o’r murlun hefyd yn cael eu harddangos ym mhob un o amgueddfeydd Amgueddfa Cymru.

Mae’r dyluniad a’r lliw wedi’u hysbrydoli gan faner y gymdeithas gyfeillgar o’n horiel a thapestrïau Llys Llywelyn a grëwyd gan ein gwirfoddolwyr ein hunain. Creodd Robin ei ffurfdeip ei hun ar gyfer y murlun a ysbrydolwyd gan y cerfiadau carreg cynharaf a ganfuwyd yng Nghymru, ar groes ger Aberogwr.

Ariannwyd y Murlun gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.


Adeiladu O’r Newydd

Bryn Eryr gan Ffion Davies, Uwch Gydlynydd Gwirfoddolwyr a Chydlynydd Strategaeth Un o’r projectau gwych mae gwirfoddolwyr wedi cyfrannu ato dros y deng mlynedd diwethaf yw adeiladu Bryn Eryr, ein fferm o’r Oes Haearn. Fe’i hadeiladwyd rhwng 2012 a 2015 fel rhan o’r ‘Project Creu Hanes’ sef y project ailddatblygu mwyaf yn hanes Sain Ffagan. Mae’n ailgread o fferm o’r Oes Haearn a gloddiwyd ger Llansadwrn yng nghornel ddwyreiniol Ynys Môn. Penderfynwyd ail-greu dau dŷ cynharach o’r safle, ac oherwydd eu bod yn agos at ei gilydd mae’n eithaf tebygol eu bod wedi ffurfio un adeilad gyda dwy ystafell. Dim ond yn ddiweddar rydym wedi dod i adnabod adeiladau o’r fath, a elwir weithiau’n ffigur wyth, neu dai crwn cyswllt, ac o ganlyniad prin iawn yw’r math hwn o ailgread. Bu gwirfoddolwyr yn ein helpu ni i godi Bryn Eryr o’r ddaear i fyny! Ochr yn ochr â staff a chrefftwyr allanol fel töwr, bu’r gwirfoddolwyr yn gyfrifol am; • dynnu’r rhisgl o bren o 100 o goed ar gyfer y to a’r waliau • tyfu 8 hectar o sbelt ac yna ei baratoi ar gyfer y to gwellt

• adeiladu waliau clom chwe throedfedd o drwch • gwneud 5 metr o raff o ddanadl poethion • gwyngalchu’r waliau, a • gwneud to gwellt. Ochr yn ochr â’r gwirfoddolwyr, daeth pobl atom hefyd o elusennau fel The Wallich, plant ysgol o bob cwr o Gymru, ein Fforwm Ieuenctid a disgyblion a oedd mewn perygl o gael eu heithrio o Goleg Michaelston. Hyd yn oed heddiw daw elusennau a chwmnïau bob blwyddyn i’n helpu i gynnal Bryn Eryr drwy wyngalchu’r waliau a chynnal y tir o’i amgylch. Ers adeiladu Bryn Eryr mae 30,000 o blant ysgol wedi cymryd rhan mewn gweithdai yma. Mae nifer o wirfoddolwyr Bryn Eryr wedi mynd ymlaen i wirfoddoli gyda’r Amgueddfa mewn gwahanol rolau, neu hyd yn oed wedi dod yn aelod o staff, fel Dafydd sydd bellach yn Oruchwylydd y Siop. Mae’r holl waith caled a’r amser a roddodd y gwirfoddolwyr i helpu i adeiladu Bryn Eryr a’i wneud yn ailgread dilys o fferm o’r Oes Haearn wedi’i grisialu yn ymateb y grwpiau ysgol a’r ymwelwyr â Bryn Eryr sy’n cael golwg go iawn ar fywyd yn yr Oes Haearn yng Nghymru.

5


Prif Stori

Garddwyr Gwych a Gerddi Gwirfoddoli Un o’r llu o lwyddiannau gwirfoddoli mawr dros y deng mlynedd diwethaf fu sefydlu’r gerddi dan arweiniad gwirfoddolwyr yn Sain Ffagan, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru a Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Mae’r erthyglau isod gan oruchwylwyr gwirfoddoli pob gardd yn rhoi cipolwg diddorol iawn ar y gwaith y mae’r gwirfoddolwyr yn ei wneud yn y gerddi.

Gerddi Cymunedol yn Sain Ffagan – gan David Zilkha, Cydlynydd Gwirfoddoli Prif nod ein rhaglen wirfoddoli yw ymgysylltu â’n cymunedau yng Nghymru. Rydyn ni am gymryd camau i gynnwys pobl a allai fel arall wynebu rhwystrau rhag mynediad, ac rydyn ni’n awyddus i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill. Mae’r gerddi cymunedol yn Sain Ffagan yn bodloni pob un o’r tri nod hyn, tra’n cael pobl i ymwneud â natur a chreu mannau awyr agored hardd – cyfuniad perffaith! Mae’r Wallich yn cefnogi pobl sydd wedi profi digartrefedd i wirfoddoli yn yr ardd amgaeedig y tu ôl i’r Tŷ Gwyrdd, bob wythnos fel arfer. Mae cael eich amgáu yn golygu bod llawer o le ar y muriau felly, yn ogystal â’r prif welyau, ac maen nhw wedi adeiladu planhigfeydd wal crog ac rydym wedi trafod cynlluniau ar gyfer creu mosaig crog. Mae’r grŵp yn mwynhau’r ardd, er bod eu canmoliaeth ‘uchaf’ yn mynd i’r adeg y llynedd pan gawsant gyfle i roi cynnig ar her CoedLan, y Cwrs Rhaffau yn Sain Ffagan. Mae Innovate Trust yn cefnogi oedolion ag anableddau i wirfoddoli yn yr Ardd Gudd. Fel arfer maen nhw’n dod sawl gwaith yr wythnos felly maen nhw wedi datblygu’r ardd ymhell y tu hwnt i’r un wreiddiol gyda phwll bywyd gwyllt, gweirglodd blodau gwyllt, gwelyau uwch, a llwybrau sy’n arwain at ardal goediog gudd. Mae’n anodd credu mai hon yw’r ardal a esgeuluswyd gynt ac yr aethon nhw ati i’w thrawsnewid dros 2 flynedd yn ôl.

6

Yr Ardd Rufeinig – gan Danielle Cowell, Rheolwr Dysgu, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru Cafodd yr Ardd Rufeinig ei hysbrydoli gan y Rhufeiniaid a’u defnydd o blanhigion fel moddion llysieuol. Oeddech chi’n gwybod bod rhosynnau’n arfer cael eu defnyddio i wella cur pen? A bod saets yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pen-ôl oedd yn cosi? Yn ystod ei deng mlynedd mae’r gwahanol welyau uchel wedi cael gwahanol blanhigion, o berlysiau i lysiau. Yn 2014 neilltuwyd un gwely yn gyfan gwbl i’r pabi, er cof am y Rhyfel Byd Cyntaf fel rhan o broject Cofio Cymru 1914-1918 ar draws Amgueddfa Cymru. Roedd y Rhufeiniaid yn defnyddio’r pabi at ddibenion meddygol ac fel bwyd, gan rostio’r hadau a’u gweini gyda mêl. Ar hyd ochrau’r gwelyau uwch, mae gennym rodfa o gonwydd, coed ffrwythau a choed olewydd yn ogystal â mannau i eistedd a ffynnon. Mae’n rhaid i bob ymwelydd a phlentyn ysgol gerdded drwy’r ardd ac mae’n rhan bwysig o brofiad yr ymwelwyr â’r amgueddfa ei hun. Mae’r ardd hon yn cael ei chynnal gan wirfoddolwyr a grwpiau dethol fel Brewin Dolphin sy’n helpu.


Gardd Liwurau Amgueddfa Wlân Cymru – gan Kate Evans, Swyddog Addysg ac

Gardd GRAFT Amgueddfa Genedlaethol y Glannau – gan Zoe Gealy,

Ymgysylltu Cymunedol Gwirfoddolwyr Garddio Amgueddfa Wlân Cymru sy’n gyfrifol am yr Ardd Liwurau. Mae’n ardd gynaliadwy wych wedi’i llenwi ag amrywiaeth o blanhigion sydd wedi cael eu defnyddio’n draddodiadol ar gyfer eu lliw naturiol. Cynaeafir blodau, dail a gwreiddiau wrth i’r tymor fynd yn ei flaen a chânt eu sychu neu eu rhewi’n barod i liwio, er enghraifft, cnu, gwlân neu ffabrig yng ngweithdai’r hydref ar ddiwedd y tymor. Mae’r ardd yn ased pwysig i Amgueddfa Wlân Cymru ac yn broject cymunedol.

Uwch Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Dechreuodd GRAFT fel gardd oedd yn seiliedig ar ymgysylltu â’r gymuned, ym mis Ionawr 2018. Mae’r gwirfoddolwyr wedi bod wrth wraidd y project o’r cychwyn cyntaf ac wedi helpu i ddatblygu lawnt blaen yn dirwedd lewyrchus a bwytadwy yng nghanol y ddinas.

Mae’r Gwirfoddolwyr Garddio yn chwarae rhan weithredol yn y gymuned, er enghraifft, maen nhw’n gweithio gyda grŵp eco’r ysgol gynradd leol sy’n cynnig gwahanol weithgareddau gan gynnwys gweithdai lliwurau a garddio cynaliadwy. Y llynedd, dyfarnwyd Gwobr Gymunedol fawreddog Baner Werdd 2019/2020 i’r Ardd Liwurau unwaith eto. Yn 2019, bu’r Gwirfoddolwyr yn gweithio gyda Dr Nicol, o’r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd eu cyfraniad at y Casgliad Botanegol Economaidd a gynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn un gwerthfawr o ran ehangu’r ystod o blanhigion lliwur yn y Casgliad. Unwaith eto, bydd y gwirfoddolwyr yn cynllunio ar gyfer beth i’w blannu’r flwyddyn nesaf ac yn gobeithio datblygu agweddau cynaliadwy’r ardd tra’n cynnal ei phwysigrwydd fel adnodd lliwur hanesyddol.

Gydol y daith mae’r GRAFTERS wedi adeiladu gwelyau uwch a phergola, wedi tyfu planhigion o hadau, wedi cynaeafu cynnyrch sy’n cael ei roi i elusennau lleol ledled Abertawe, ac wedi dysgu a rhannu sgiliau arbed hadau yn ogystal â gwneud piclau a siytni. Mae’r lle wedi dod yn hafan i lawer gan gynnwys ein bywyd gwyllt a’n pryfed peillio lleol, ac mae’r cychod gwenyn yno wedi bod yn ychwanegiad cyffrous. Wrth i’r ardd ddatblygu mae’r gwirfoddolwyr hefyd wedi helpu i adeiladu popty cob, a ddefnyddir i gynnal swper i’r gwirfoddolwyr yn ogystal â’r cyhoedd sy’n talu, ac mae’n ofod gwych i’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn yr amgueddfa ymestyn allan iddo. Mae’r gwirfoddolwyr wedi dod o amrywiaeth enfawr o gefndiroedd a grwpiau fel canolfan Gofal Dydd West Cross a Goleudy, yn ogystal â llawer o unigolion ac mae pawb yn gweithio gyda’i gilydd i feithrin cyfeillgarwch newydd a dysgu sgiliau newydd.

7


Arddangosfeydd

r o s o in e D y y p ip D a Gwirfoddoli gan Liam Doyle, Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Dros y deng mlynedd diwethaf mae gwirfoddolwyr wedi cyfrannu at amrywiaeth eang o arddangosfeydd ar draws yr Amgueddfa, er enghraifft yr arddangosfa Mwydod! ynghyd â theithiau tywys Rhamantiaeth a Myth Byd Celf yn 2014, Y Frenhines: Celf a Delwedd yn 2012, a Bregus yn 2015. Un o’r arddangosfeydd mwyaf y bu gwirfoddolwyr yn rhan ohoni oedd ymweliad Dippy y Diplodocus y llynedd o’r Amgueddfa Hanes Natur Genedlaethol yn Llundain. Dywedodd Liam Doyle, a oedd yn goruchwylio’r gwirfoddolwyr yn ystod y project, fwy wrthym am yr arddangosfa a sut yr ymgysylltodd y gwirfoddolwyr â’r cyhoedd yn ystod ymweliad Dippy â’r Amgueddfa. 8


Ym mis Hydref 2019, croesawodd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd westai arbennig iawn. Daeth Dippy, sgerbwd eiconig Diplodocus o Amgueddfa Hanes Naturiol Llundain, ar ymweliad â Chymru am y tro cyntaf. Mae deinosoriaid bob amser yn boblogaidd gyda’n hymwelwyr, ond roedd Dippy yn serennu! Croesawyd y niferoedd uchaf erioed i’r Amgueddfa ac fe ddaeth yn arfer i dorfeydd ymgasglu yn y Brif Neuadd, i gael cipolwg o’n gwestai newydd 21 metr o hyd. Er mwyn helpu i ddod â Dippy yn fyw, recriwtiwyd tîm o 42 o Wirfoddolwyr Dippy pwrpasol. Roedd y tîm yn cynnwys pobl o bob math – o fyfyrwyr TGAU i bobl wedi ymddeol, gyda phawb yn dod â’i wybodaeth a’i bersonoliaeth ei hun i’r rôl. Ymgysylltodd y tîm â chyfanswm aruthrol o 12,000 o ymwelwyr! Dw i’n credu ei bod yn deg dweud na fyddai’r arddangosfa wedi bod yr un fath hebddynt. Roedd y gwirfoddolwyr yn amlwg yn eu crysau-t coch, gan helpu ymwelwyr o bob oed i gael hwyl a dysgu mwy am Dippy. Dewisodd rhai ddefnyddio’r troli trin a oedd yn rhoi cyfle i ymwelwyr gafael mewn ffosiliau go iawn. Roedd gwybodaeth a brwdfrydedd y gwirfoddolwyr yn heintus. Roedd ymwelwyr wrth eu bodd â’r cyfle i afael mewn ffosiliau a oedd yn fyw ar yr un pryd â Dippy – tua 150 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Roedd gwirfoddolwyr hefyd yn cynnal y certiau celf wedi’u lleoli o amgylch yr amgueddfa. Efallai fod y term ‘cert celf’ yn swnio’n ddiniwed, ond mae’n stori wahanol pan fyddan nhw wedi’u hamgylchynu gan y torfeydd Hanner Tymor! Roedd gan y gwirfoddolwyr amynedd dibendraw gan sicrhau bod pawb yn mynd oddi yno’n hapus. Roedd yn wych gweld yr Amgueddfa’n llawn plant mewn masgiau deinosor yn rhuo o amgylch yr orielau. Ond ddaeth cyfraniad y gwirfoddolwyr ddim i ben yn y fan honno. Gwnaeth un ganllawiau fideo wedi’u trosleisio ar Dippy, a bostiwyd gennym ar ein gwefan. Creodd un arall daflen wybodaeth anhygoel am ddeinosoriaid i’r tîm ei defnyddio. Daeth S4C yno i ffilmio cyfweliad am sut roedd gwirfoddoli gyda Dippy yn helpu un o’r gwirfoddolwyr fel dysgwr Cymraeg.

Yn anffodus, doedden ni ddim yn gallu cadw Dippy am byth. Ddiwedd mis Ionawr cafodd ei ddatgymalu a’i symud oddi yno i barhau â’i daith. Ond fe lwyddon ni i gadw rhywbeth hyd yn oed yn well! Ers hynny, mae llawer o Wirfoddolwyr Dippy wedi ymuno â’n tîm o Wirfoddolwyr Archwilio ac yn parhau i ennyn diddordeb a brwdfrydedd ymwelwyr o bob oed.

9


Stori Fform Ieuenctid Amgueddfa Cymru

Palaeontoleg yn Meddiannu Twitter gan Alexander Vieira a Colin John, aelodau Fforwm Ieunctid Amgueddfa Cymru

Mae’r Fforwm Ieuenctid wedi’i anelu at bobl ifanc rhwng 14-25 oed, sy’n cael eu hannog i fod yn bartneriaid mewn gwneud penderfyniadau a threfnu gweithgareddau yn yr amgueddfa. Mae'r fforymau hefyd yn archwilio barn pobl ifanc ac yn mynd i'r afael â materion sy'n bwysig iddyn nhw yn eu barn nhw. Mae fforymau ieuenctid ym mhob un o safleoedd yr amgueddfeydd ac mae aelodau’r fforwm ieuenctid wedi cymryd rhan mewn ystod eang o wahanol brosiectau megis cynhyrchu map cartŵn, Ein Caerdydd, i gyd-fynd â Thrysorau sy’n cael eu harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gyda’r artist Huw Aaron a adeiladu popty bara yn Bryn Eryr, fferm yr Oes Haearn. Ar 26 Mehefin eleni, fe’n gwahoddwyd gan Adran Addysg yr Amgueddfa i feddiannu y cyfrif Twitter ar thema palaeontoleg, lle buom yn trafod deinosoriaid, arwyr gwyddonol sydd heb eu llawn werthfawrogi, herio stereoteipiau am balaeontolegwyr ac astudio bywyd hynafol. Fe’n hysbrydolwyd gan ein hangerdd dros hanes a gwyddoniaeth, ond yn bennaf oll, roeddem am ddangos bod deinosoriaid a phalaeontoleg i bawb! Mae’r ddelwedd ystrydebol o ddynion gwyn mewn siacedi yn cloddio hen esgyrn yn yr anialwch ymhell o fod yn gynrychioliadol. Mewn gwirionedd, mae palaeontoleg yn faes eang a bywiog sy’n llawn arloesedd, cyffro a

10

gwyddonwyr anhygoel o lawer o wahanol gefndiroedd, ac fe wnaethon ni amlygu rhai ohonynt fel modelau rôl ar gyfer pobl ifanc sydd â diddordeb mewn Gwyddorau Daear. Un o’r rhain oedd Mary Anning, casglwr ffosiliau a palaeontolegydd o’r 1800au a ddaeth yn adnabyddus ledled y byd am ei darganfyddiadau pwysig ar ymlusgiaid morol. Fel y palaeontolegydd benywaidd cyntaf, wynebodd lawer o rwystrau gan ei chyfoedion gwrywaidd yn y gymuned wyddonol. Cymerodd ddegawdau iddi gael ei chydnabod yn iawn am ei llwyddiannau, a hyd heddiw, mae ymdrechion o’r fath yn parhau! Fel gydag ymgyrch ‘Mary Anning Rocks’, sef y nod o godi arian ar gyfer codi cerflun o Mary yn Dorset.


Menyw arall a wnaeth gyfraniad sylweddol i balaeontoleg yw Angela Milner, a fu’n gyfrifol, gydag Alan Charig, am enwi’r Baryonyx, sef deinosor theropod mwyaf cyflawn y DU! Buom hefyd yn adrodd hanes yr arloeswr Palaeontoleg o Wlad Thai, Varavudh Suteethorn, a fu’n gyfrifol, drwy ei waith mapio daearegol, am arwain at y rhan fwyaf o ddarganfyddiadau ffosil yng Ngwlad Thai. Oherwydd diffyg sylw i bobl groenliw yn gweithio fel palaeontolegwyr, nid oedd ganddo hyd yn oed ei erthygl Wikipedia ei hun tan 2018, pan ysgrifennodd un ohonom yr erthygl fel rhan o Fis Asiaidd Wikipedia 2018. Hefyd, mae darganfyddiadau deinosoriaid yn gyforiog o hanes. Yn 1915, enwodd Ernst Stromer y Spinosaurus, sef theropod lled-ddyfrol a’r ysglyfaethwr tir hiraf y gwyddom amdano. Yn anffodus, collwyd llawer o ffosiliau Stromer yn yr Ail Ryfel Byd, ond agorodd ei ymchwil y drws i’r palaeontolegydd Morocaidd-Almeinig Nizar Ibrahim barhau â’i waith drwy ddatgelu mwy o olion o’r anifail anhygoel hwn. A gall y palaeontolegydd croenliw Cameron Muskelly, y mae ei awtistiaeth wedi helpu i danio’i angerdd dros ddaeareg, ein hatgoffa hefyd fod gan fywyd cynhanesyddol fwy i’w gynnig na deinosoriaid, gan ei fod yn arbenigo mewn organebau o’r Cyfnod Cambria, sef cyfnod cyffrous pan oedd bywyd yn ffynnu ac yn esblygu.

Rydyn ni wrth ein bodd â Jurassic Park – cafodd lawer ohonom ein denu at fyd y deinosoriaid oherwydd y ffilm. Ond mae’r ffilm hefyd yn dangos stereoteipiau di-fudd am balaeontolegwyr, ffug-wyddoniaeth a syniadau hen ffasiwn am ddeinosoriaid. Gall y ddelwedd yma o balaeontoleg hefyd fod yn rhwystr i bobl cwiar. Yn ôl un o aelodau ein Fforwm Ieuenctid, fel dyn traws ifanc, mae pobl yn aml yn cwestiynu ei angerdd dros ddeinosoriaid. Mae’n nodi, pan ddaw’n fater o ryw, nad ydym yn gwybod llawer am y deinosoriaid. Gallwn adnabod rhai ffosiliau fel rhai gwryw neu fenyw. Ond yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes digon o dystiolaeth wyddonol i briodoli rhyw i’r ffosiliau. Dyna pam rydyn ni’n hapus bod Sue y T.rex yn ddeinosor anneuaidd sy’n defnyddio’r rhagenw nhw. Mae’r palaeontolegydd traws, Riley Black, yn cymharu darganfod esgyrn deinosor ag hunan-archwilio, gan ddatgelu eu natur nhw eu hunain gymaint ag unrhyw deinosor. Does dim rhaid i chi wisgo fel cowboi, neu hyd yn oed astudio deinosoriaid, i fod yn balaeontolegydd. Mae’r cofnod ffosiliau mor gymhleth ac enfawr fel bod llawer o ddewisiadau ar gyfer yr hyn y gallwch arbenigo ynddo, o darddiad esblygol draenogod môr, i arferion bwydo ankylosauriaid. Felly, yn anad dim, yr hyn rydyn ni am i chi ei gasglu o hyn oll yw nad yw palaeontolegwyr i gyd fel Alan Grant! Yn sicr dydyn ni ddim, ac rydyn ni’n dal i garu hanes naturiol.

11


Cip ar y Casgliadau Mae’r ddwy erthygl ganlynol yn dangos sut mae gwirfoddolwyr wedi chwarae rhan bwysig mewn diogelu a chynyddu hygyrchedd i ddwy adran wahanol iawn o gasgliadau’r Amgueddfeydd.

Gwirfoddoli yn yr Adran Botaneg dros y 10 mlynedd diwethaf gan Katherine Slade, Ingrid Jüttner a Sally Whyman, Adran Fotaneg, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Mae’r timau o wirfoddolwyr rydyn ni wedi’u cael dros y 10 mlynedd diwethaf yn y casgliadau botanegol wedi gwneud mwy o brojectau’n bosibl, ac yn fwy pleserus. Gyda thros 600,000 o sbesimenau botanegol i ofalu amdanynt yn Amgueddfa Cymru, ni allem fod wedi cyflawni cymaint hebddynt. Dyma rai uchafbwyntiau gan ein tîm anhygoel o wirfoddolwyr botaneg.

Ffotograffiaeth Mae’n hollbwysig i’n gwirfoddolwyr ymdrin yn ofalus â’r sbesimenau botanegol bregus yng nghasgliad yr Amgueddfa yn ogystal â meddu ar lygad craff. Elfen allweddol o wneud y casgliadau hyn yn fwy hygyrch yw ffotograffiaeth. Mae sbesimenau wedi’u gwasgu, sy’n cynnwys planhigion blodau, rhedyn, conwydd ac algâu, yn ddelfrydol ar gyfer eu sganio’n ddigidol gan eu bod wedi’u gosod yn wastad ar gerdyn ynghyd â’u data casglu. Er mwyn delweddu’r sbesimenau hyn, mae gwirfoddolwyr yn defnyddio sganiwr herbariwm arbenigol, a ariennir gan y Project Menter Planhigion Byd-eang. Bydd y sganiau o ansawdd uchel sy’n deillio o hynny yn cael eu defnyddio i greu casgliad botaneg rhithwir. Ers dechrau yn 2019, mae’r gwirfoddolwyr wedi delweddu dros 500 o sbesimenau. Y garreg filltir gyntaf a gyrhaeddwyd oedd digideiddio holl sbesimenau Pabi Cymru.

Cadw Caiff casgliadau newydd eu caffael bob blwyddyn ac mae angen gwaith ar bob un ohonynt i sicrhau bod y sbesimenau a’u data yn derbyn gofal ac yn cael eu cadw ar gyfer ymchwil yn y dyfodol. Mae’r Gwirfoddolwyr yn uwchraddio’r deunydd y cedwir y sbesimenau ynddo neu y maen nhw wedi’u gosod arno yn ôl

12

safonau cadwraeth. Gan ddibynnu ar y cyflwr neu’r grŵp botanegol, mae hyn yn gofyn am sgiliau gwahanol, ond mae amynedd da yn hanfodol! Ar hyn o bryd, mae gwirfoddolwyr yn ailbecynnu mwsoglau a gasglwyd gan Dr Tony Smith, gyda phob pecyn newydd wedi’i blygu’n unigol mewn deunydd cadwraeth. Mae’r 8,000 neu fwy o sbesimenau yn llawn cyfoeth o ran deunydd o Gymru ac maent yn cynnwys llawer o gofnodion a oedd gynt yn anhysbys o fwsoglau, gan gyfrannu at ein gwybodaeth am blanhigion Cymru. Mae gwaith yn mynd rhagddo hefyd ar ailosod y casgliad glaswelltydd byd-eang a wnaed gan T.B. Ryves. Mae hon yn dasg enfawr sy’n cynnwys tua 6,500 o sbesimenau o laswellt sy’n bwysig yn economaidd ac yn amgylcheddol. Mae gwirfoddolwyr wedi cael dylanwad mawr ar sicrhau hirhoedledd a hygyrchedd y casgliadau botaneg. Gobeithio y bydd gofalu am ein casgliadau, dod at ein gilydd dros goffi, arddangos gwaith ar ddiwrnodau agored, a hyd yn oed yr ymweliad achlysurol â’r pantomeim, yn ei gwneud yn fwy na gwerth chweil i’n gwirfoddolwyr! Diolch o galon o’r Adran Fotaneg!


Owen ac Una gan Elen Wyn Roberts, Rheolwr Addysg, Cyfranogiad a Dehongli, Amgueddfa Lechi Cymru Roedd Owen yn fyfyriwr yng Ngholeg Glynllifon pan ddaeth i wirfoddoli am y tro cyntaf yn Amgueddfa Lechi Cymru yn 2017. Roedd ei diwtor o’r farn bod yr Amgueddfa yn lleoliad perffaith ar gyfer diddordebau Owen a gofynnodd a allai ddod atom ar brofiad gwaith neu i wirfoddoli. Yn dilyn 18 mis yn gwirfoddoli ddau fore’r wythnos gyda ni, aeth ymlaen i’r rhaglen ‘Ymgysylltu i Newid’ yn Ysbyty Gwynedd. Mae bellach yn gweithio yn Antur Waunfawr ac mae’n bwriadu dychwelyd i wirfoddoli gyda ni un bore’r wythnos, ar ôl i’n rhaglenni ailddechrau. Mae Owen wedi bod yn ymwneud â phob math o weithgareddau yn yr Amgueddfa Lechi – paentio, glanhau ac iro’r peiriannau yn y casgliad, ond yr hyn a fwynhaodd fwyaf oedd paratoi Una’r injan stêm ar gyfer y cyhoedd. Dydy Owen ddim yn arbennig o siaradus, ond dywedodd ei weithiwr cymdeithasol ei fod yn siarad yn ddi-baid am ei amser yn yr Amgueddfa! Mae’n sicr wedi magu hyder mewn sawl ffordd – mae wedi dod yn gyfarwydd â’r staff, mae’n cyfarch pawb wrth eu henw ac mae’n cyfathrebu llawer mwy na phan ddechreuodd wirfoddoli yma. Mae wedi bod mewn cysylltiad â’r ymwelwyr wrth weithio ar Una, ac mae wedi dod yn gyfarwydd â’n systemau a beth yw diwrnod gwaith arferol yma; mae wedi magu dealltwriaeth ymarferol am iechyd a diogelwch mewn sefyllfa ‘go iawn’ yn y gweithle a dealltwriaeth am bwysigrwydd cyfarpar diogelu personol.

Mae’r gwaith y mae Owen wedi’i wneud yn amlwg yn werthfawr i’r Amgueddfa, ond hefyd mae ein staff wedi dod i ddeall Owen ac wedi magu hyder drwy weithio gydag ef, gan ennill mwy o ymwybyddiaeth o agweddau ar awtistiaeth.

“Dw i’n hoffi gweld y gwahaniaeth ar ôl glanhau gwaith pres Una – eu gweld yn newid o fod o fudr i sgleinio. Dwi wedi mwynhau dysgu sut i ddefnyddio’r polish yn iawn.” Owen

13


Gwneuthurwyr Gwirfoddol

Clwb Crefftau gan David Zilkha, Cydlynydd Gwirfoddoli Rydyn ni’n ffodus iawn bod dylunwyr a gwneuthurwyr talentog iawn ymhlith ein gwirfoddolwyr. Mae’r erthygl isod gan y Cydlynydd Gwirfoddoli David Zilkha yn bwrw goleuni ar waith un o’r grwpiau hyn - y Clwb Crefftau yn Sain Ffagan. Grŵp o wirfoddolwyr yw’r Clwb Crefftau sydd â sgiliau gweithio gyda thecstilau. Daw’r Grŵp i mewn unwaith y mis, gan ddefnyddio’r ardal fawr gyda byrddau yn y ganolfan wirfoddoli yn y Tŷ Gwyrdd fel arfer. Mae’n grŵp cyfeillgar a chymdeithasol iawn, sydd wedi dod i adnabod ei gilydd yn dda ers iddynt ffurfio dros 5 mlynedd yn ôl. Rydyn ni’n gofyn i’r adrannau ym mhob un o’n hamgueddfeydd am unrhyw beth sydd ei angen arnynt sydd wedi ei wneud o decstilau. Mae’r adran yn darparu’r deunydd a briff byr, ac yna mae’r gwirfoddolwyr yn mynd ati i greu rhyfeddodau. Maen nhw wedi creu bagiau lafant o blanhigion sy’n tyfu yng ngardd Sain Ffagan i’w gwerthu yn y siop, matiau clytiau i helpu i ddiogelu tu mewn yr adeiladau hanesyddol rhag esgidiau mwdlyd yr ymwelwyr, a byntin wedi’i wneud â llaw ar gyfer digwyddiadau. Crëwyd gwisgoedd i blant eu gwisgo yn ystod gweithgareddau addysg yn Llys Llywelyn (y llys canoloesol yn Sain Ffagan) ac maen nhw bellach yn gweithio ar wisg unwaith eto, y tro hwn i Big Pit. Mae’r Amgueddfa’n bwriadu rhoi mwy o sylw i rôl menywod mewn mwyngloddio, ac fel rhan o hyn, mae angen gwisg ar gyfer ‘Merch y Pwll’, ac mae’r grŵp wrthi’n ei chreu. Maent wedi derbyn, gyda chalon drom, y bydd angen i’w holl ddillad sydd wedi’u saernïo’n ofalus â llaw gael eu gwneud yn fudr neu eu gorchuddio mewn llwch glo cyn cael eu harddangos! Yn ystod y cyfnod clo, dydy’r grŵp ddim wedi gallu cyfarfod yn bersonol, ond rydyn ni wedi dal i fyny’n fisol drwy Zoom. Mae’r gwirfoddolwyr wedi gallu parhau â rhywfaint o’u gwaith ar Ferch y Pwll gartref. Mae nifer o aelodau’r grŵp hefyd wedi bod yn weithgar wrth wneud cyfarpar diogelu personol ar gyfer gweithwyr allweddol, yn enwedig yn y GIG. Dydy hyn ddim wedi bod yn waith i’r amgueddfa, ond rydyn ni’n falch bod rhwydwaith y Clwb Crefftau wedi bod yn ddefnyddiol wrth rannu awgrymiadau ar roi offer amddiffyn personol at ei gilydd gyda sefydliadau sydd ei angen a mynediad at offer arbenigol fel ‘overlocker’. Rhaid i mi gyfaddef dydw i’n dal ddim yn deall yn iawn beth yw’r fath beth, er gwaethaf ymdrechion gorau’r grŵp i’m haddysgu! Wrth i ni baratoi ar gyfer ailagor gam wrth gam ac ailgychwyn rhaglenni gwirfoddoli yn raddol, rydyn ni wedi galw ar adrannau eraill i roi syniadau neu geisiadau i ni am yr hyn sydd ei angen nesaf. O ystyried yr ystod o bethau y mae ein hamgueddfeydd yn eu cwmpasu, gallai fod yn unrhyw beth.

14

Cysylltu am Wirfoddoli Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn Amgueddfa Cymru neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cylchlythyr hwn, anfon e-bost i gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch a gadewch neges ar (029) 2057 3002, a byddwn yn ymateb i’ch ymholiad cyn gynted â phosibl. I glywed y newyddion a’r cyfleon diweddaraf, dilynwch ni ar: @amgueddfavols www.facebook.com/amgueddfavols


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.