5 minute read

VIEW Welcome to the second edition of The View

The second Welsh Sale catalogue and the second Selections catalogue of 2023.

It was a record year for the company in 2022 and a record year for the wider fine art market. Based on results so far this year, we may well eclipse last year’s record year. The forecast for the market is to remain resolute during these uncertain times, there has through the decades been a detachment between the market and the economy. It remains a good time to sell in many categories and a good time to invest.

It is a similar story for another monumental lot in this Welsh Sale, in that we regularly sell smaller works from the versatile John Petts (1914-1991), but his most famous work is on a much larger scale. The Wales Window for Alabama, 1964, stained-glass window installed at 16th Street Baptist Church in Birmingham Alabama is an icon for the civil rights movement. To our knowledge another stained glass by John Petts has not been offered at auction before. We are very excited to have such significant artwork in the sale.

This July Welsh Sale has again delivered exciting lots and the Welsh art section is especially strong. Special mention to the excellent entry of pictures by Sir Kyffin, including from the collection of the Late Roberta Condon who died in 2016. Roberta was the owner of The Kyffin Gallery in Woodstock, Oxfordshire, so named in honour of the great man. The pictures have been entered by Roberta’s family on the back of the auction records we have been achieving in the last two years.

I must also mention two monumental art pieces that have come from private sources for this Welsh Sale. We regularly sell works by Peter Prendergast (1946-2007) in The Welsh Sale, but it is rare that his huge landscape paintings appear on the market. But ironically, it is these massive works of tapestry form landscapes in oils that Peter Prendergast is best known for, with the most famous examples held at The National Museum of Wales (‘Blaenau Ffestiniog’, 1993) and at The Tate (‘Bethesda Quarry’, 1980-81).

My first written musings on the Welsh art market were for my A-Level Art & Design course many years ago. I wrote a potted history of the Welsh art market and of locations in north Wales which were repeatedly used as a subject matter by artists over the years. There were two artists who bookended my dissertation – Richard Wilson RA (1714-1782) and Sir Kyffin Williams. I could never have predicted that over thirty years later I would be cataloguing and auctioning works by these two artists. Wilson is regarded as the founding father of Welsh landscape painting, and I am thrilled to be able to offer an example. Continuing with the serendipity, I now live in mid-Wales just five minutes from Wilson’s rectory home in Penegoes. It is odd how things work out over the course of thirty years!

As always, the Selections auction follows hot on the heels of The Welsh Sale. Meaning that if you choose to bid in the room for The Welsh Sale, you can stick around for the next auction. This July Selections auction is high on quality with the cream of items that we have had consigned across the nation in the last three months. There is once again a strong section of gent’s watches, very good jewellery and the most intriguing of all is a collection of historical weightsit will be very interesting to see how those balance out.

I hope you enjoy this publication, and we hope to see you in the lead up to these two exciting auctions.

Best Wishes

Ben Rogers Jones

Croeso i ail rifyn Bwrw Golwg

Ail gatalog yr Arwerthiant Cymreig ac ail gatalog yr Arwerthiant

Dewisiadau ar gyfer 2023.

Bu 2022 yn flwyddyn werth chweil i’r cwmni ac yn flwyddyn werth chweil i’r farchnad celfyddydau cain yn gyffredinol. Ar sail y canlyniadau hyd yn hyn eleni, efallai y byddwn yn rhagori ar y flwyddyn ardderchog a gawsom y llynedd. Mae’r rhagolygon ar gyfer y farchnad yn parhau i fod yn ddiysgog yn ystod y cyfnod ansicr sydd ohoni; mae yna ryw ddiffyg cysylltiad wedi bod erioed rhwng y farchnad a’r economi. Mae’n dal i fod yn amser da i werthu mewn nifer o gategorïau, ac yn amser da i fuddsoddi.

Unwaith eto, ceir lotiau cyffrous yn Arwerthiant Cymreig mis Gorffennaf ac mae adran y celfyddydau Cymreig yn eithriadol o gryf. Dylid sôn yn arbennig am y lluniau rhagorol gan Syr Kyffin, yn cynnwys rhai o blith casgliad y ddiweddar Roberta Condon a fu farw yn 2016. Roedd Roberta yn berchen ar The Kyffin Gallery yn Woodstock, Swydd Rydychen, a enwyd er anrhydedd y gŵr gwych. Mae teulu Roberta wedi penderfynu gwerthu’r lluniau ar sail y canlyniadau gwych a gafwyd yn ein harwerthiannau yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.

Rhaid imi sôn hefyd am ddau waith celf eithriadol o bwysig sydd wedi deillio o ffynonellau preifat ac a gynhwysir yn yr Arwerthiant Cymreig. Rydym yn gwerthu gweithiau Peter Prendergast (1946-2007) yn rheolaidd yn yr Arwerthiant Cymreig, ond pur anaml y bydd ei luniau tirlun enfawr yn ymddangos ar y farchnad. Ond, yn eironig ddigon, caiff Peter Prendergast ei adnabod yn bennaf ar sail y gweithiau tapestri enfawr hyn, sef tirluniau mewn olew. Cedwir yr enghreifftiau enwocaf yn Amgueddfa Cymru (‘Blaenau Ffestiniog’, 1993) ac yn Amgueddfa Tate (‘Bethesda Quarry’, 1980-81).

Mae gan lot hollbwysig arall yn yr Arwerthiant Cymreig stori debyg, yn yr ystyr ein bod yn gwerthu gweithiau llai yr amryddawn John Petts (1914-1991) yn rheolaidd, ond bod ei waith enwocaf ar raddfa lawer mwy. Mae The Wales Window for Alabama, 1964 – sef ffenestr gwydr lliw a osodwyd yn Eglwys y Bedyddwyr yn 16th Street Birmingham, Alabama – yn eicon ar gyfer y mudiad hawliau sifil. Cyn belled ag y gwyddom, nid oes ffenestr gwydr lliw arall gan John Petts wedi’i chynnig mewn arwerthiant erioed o’r blaen. Rydym yn llawn cyffro o gael gwaith celf mor arwyddocaol yn yr arwerthiant.

Lluniais fy myfyrdodau cyntaf ynglŷn â marchnad gelf Cymru pan oeddwn yn astudio cwrs Safon Uwch mewn Celf a Dylunio sawl blwyddyn yn ôl bellach. Ysgrifennais grynodeb o hanes marchnad gelf Cymru a lleoliadau yng ngogledd Cymru a gâi eu defnyddio dro ar ôl tro gan artistiaid dros y blynyddoedd. Ar ddechrau a diwedd fy nhraethawd, soniais yn benodol am ddau artist – sef Richard Wilson RA (1714-1782) a Syr Kyffin Williams. Bychan a wyddwn ar y pryd y buaswn, dros ddeg mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, yn catalogio ac yn arwerthu gweithiau’r ddau artist hyn. Ystyrir mai Wilson a sefydlodd yr arfer o baentio tirluniau Cymreig, ac rwy’n llawn cyffro o gael cynnig enghraifft o’i waith yn yr arwerthiant. Gan barhau â’r serendipedd, rwy’n byw erbyn hyn yng nghanolbarth Cymru, rhyw bum munud oddi wrth reithordy Penegoes, sef cartref Wilson. Onid yw hi’n rhyfedd sut y mae pethau’n datblygu dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain!

Fel bob amser, bydd yr Arwerthiant Dewisiadau yn dilyn yn dynn ar sodlau’r Arwerthiant Cymreig. Felly, os dewiswch wneud cynnig am eitem yn yr ystafell yn ystod yr Arwerthiant Cymreig, gallwch aros yno ar gyfer yr arwerthiant nesaf. Mae Arwerthiant Dewisiadau mis Gorffennaf yn llawn eitemau o’r radd flaenaf – y goreuon o blith yr eitemau a drosglwyddwyd i’n gofal o bob cwr o’r wlad yn ystod y tri mis diwethaf. Unwaith eto, ceir oriorau gwych i ddynion a gemwaith da iawn, ond yr eitemau mwyaf diddorol yw casgliad o bwysynnau hanesyddol. Gwaith diddorol iawn fydd pwyso a mesur gwerth y rhain.

Gobeithio y cewch flas ar y cyhoeddiad hwn. A gobeithio hefyd y cawn eich gweld cyn y ddau arwerthiant cyffrous hyn.

Dymuniadau Gorau

Ben Rogers Jones

This article is from: