22
23
YMCHWIL I YNNI CARBON ISEL A’R AMGYLCHEDD YN CYCHWYN CYFNOD NEWYDD
MENTER AR Y CYD NEWYDD I’R LLONG SYDD YN HYFFORDDI’R GENHEDLAETH NESAF O WYDDONWYR MOROL
Penodwyd y gwyddonydd cadwraeth, yr Athro Julia Jones, yn Gyfarwyddwr Sêr Cymru, sef Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Llywodraeth Cymru i Ynni Carbon Isel a’r Amgylchedd (NRN-LCEE).
Meddai: “Mae hwn yn rhwydwaith ymchwil hollbwysig sy’n mynd i’r afael â rhai o’r heriau pwysicaf y mae ein planed yn eu hwynebu. Mae’r gwaith a wnaed yn ystod y cam cyntaf yn dangos pa mor flaengar yw gwyddor yr amgylchedd yng Nghymru.” Yn ystod y cam cyntaf, enillodd sefydliadau Cymru gyllid cystadleuol ar gyfer 97 o brojectau, a chyfuno i ysgogi gwerth £33 miliwn o gyllid ymchwil.
Canfu un llinyn o’r ymchwil, ‘Cleaner Cows’, ddulliau cynhyrchu llaeth ac eidion mwy cynaliadwy, a fydd yn helpu i leihau’r effaith amgylcheddol wrth sicrhau na cheir effaith negyddol ar gynhyrchiant. Edrychodd un arall, ‘Climate Smart Grass’, ar effaith llifogydd a sychder ar gaeau a glaswelltiroedd ffermio. Ymchwiliodd ‘Resilcoast’ i forfeydd heli, adnoddau arfordirol gwerthfawr gyda lefelau dŵr y môr yn codi oherwydd newid yn yr hinsawdd Archwiliodd ymchwil a ariannwyd gan NRN-LCEE hefyd sut y gallwn leihau ein hallyriadau carbon ar adeg o alw cynyddol am ynni trwy ddefnyddio ynni a gynhyrchir gan y llanw a thonnau, maes y mae Cymru eisoes yn arweinydd rhyngwladol posibl ynddo.
Sefydlwyd Cyd-fenter newydd ym mis Ionawr 2021 rhwng Prifysgol
Bangor ac O.S. Energy. Mae O.S. Energy, sydd wedi’i leoli yn Newcastle a’r Almaen, yn gwmni teuluol sy’n arbenigo yn niwydiant ynni gwynt y môr a gwaith arolygu amgylcheddol ym Môr y Gogledd a’r Môr Baltig, ac mae ganddynt nifer o longau.
Yn ogystal â rhoi cyfleoedd dysgu i fyfyrwyr Prifysgol Bangor, mae gan y Prince Madog draddodiad hir o gyfrannu at ymchwil môr ym mhob disgyblaeth. Disgwylir i hyn barhau, gyda ffocws newydd ar ddiwydiant ynni adnewyddadwy’r môr, y mae’r Prince Madog a gwyddonwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion wedi bod yn ei gefnogi trwy eu hymchwil. Mae’r fenter ar y cyd yn sicrhau y gall Prifysgol Bangor adeiladu ar ei dealltwriaeth, sydd gyda’r gorau yn y byd, am amgylchedd a lleoliad ffisegol safleoedd ynni. Mae ehangu’r sector môr yn fasnachol yn dibynnu ar wybodaeth wyddonol, ac mae ein harbenigedd yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion a thrwy’r Prince Madog yn rhan annatod o gefnogaeth y Fenter ar y Cyd i’r sector diwydiannol pwysig hwn.
53.2293° N, -4.1309° W
A N N UA L
R E V I E W
2 0 2 0
-
2 0 2 1
Yn unigryw yn y Deyrnas Unedig, mae’r llong yn galluogi gwyddonwyr
môr i astudio bioleg, cemeg, daeareg a ffiseg ein moroedd. Fe’i chynlluniwyd i gario hyd at 10 o wyddonwyr, 20 myfyriwr a chriw ac mae’n mynd â myfyrwyr ar deithiau dysgu am ddyddiau hyd at ymyl y silff gyfandirol. Bob blwyddyn mae mwy na 250 o fyfyrwyr yn elwa o’r profiad unigryw o weithio ar long ymchwil ar y môr, gan ddefnyddio offer gwyddonol i asesu prosesau ac ansawdd dŵr a mesur helaethrwydd a dosbarthiad bywyd y môr.
A D R AO ND ND U IAAL D R BE LP VYO IN ERY W TD 2D 0O2L 0 2 -0 22 00 2- 1 2 0 2 1
Y Prince Madog yw’r llong ymchwil fwyaf yn sector addysg uwch y DU, ac mae’n gallu gweithio mewn ceryntau cryf a bron ym mhob tywydd. Cafodd ei hadeiladu yn arbennig i gynnal arolygon gwyddonol ar draws holl sbectrwm gwyddorau’r môr - o ddyfroedd arfordirol hyd ymyl yr ysgafell ynghyd â darparu llwyfan effeithiol ac effeithlon ar gyfer addysgu, ymchwil a gwaith siartr yn y sector morol.