Prosbectws Poced 2026

Page 1


Pam Bangor?

Ein lleoliad

Dinas Bangor

Map campws Bangor

Campws Wrecsam

Costau byw

Llety

Undeb y Myfyrwyr

Cymryd rhan

Gwirfoddoli a lleoliadau

Astudio neu weithio

Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Bwrsariaethau ac ysgoloriaethau

Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Darpariaeth cyfrwng Cymraeg

Ysgol Feddygol

Gogledd Cymru

Cyrsiau

i wneud cais

CROESO DIWRNODAU AGORED 2025

Dydd Sadwrn, 05 Gorffennaf

Dydd Sul, 17 Awst

Dydd Sul, 12 Hydref

Dydd Sadwrn, 01 Tachwedd

Dydd Sadwrn, 22 Tachwedd

Diwrnod Agored Rhithiol

Dydd Mercher, 01 Hydref

CROESO

Mae Prifysgol Bangor, sydd wedi ei lleoli ym mhrydferthwch gogleddorllewin Cymru, yn adnabyddus am ragoriaeth academaidd, am ymchwil sydd gyda’r gorau yn y byd ac am ei chymuned groesawgar.

Gyda mynyddoedd ysblennydd a thraethau godidog ar garreg y drws, byddwch yn astudio yn un o’r ardaloedd prydferthaf yn ynysoedd Prydain.

PAM BANGOR?

Agosach nag y byddech yn ei feddwl

Gyda ffyrdd a chysylltiadau trafnidiaeth gwych i drefi a dinasoedd gan gynnwys Caer, Lerpwl, Manceinion ac Aberystwyth, ynghyd

â threnau uniongyrchol i brifddinas Cymru, mae Bangor mewn lleoliad cyfleus os ydych eisiau teithio.

Cymuned ddwyieithog

Ymunwch â chymdeithasau fel Côr Aelwyd JMJ neu glybiau chwaraeon y Cymric a mwynhau bywyd a diwylliant yn un o gymunedau mwyaf Cymreig y wlad.

Wedi ymrwymo i gynaliadwyedd

Rydym ymysg yr 11% uchaf o brifysgolion mwyaf cynaliadwy’r byd (Cynghrair Fyd-eang QS: Cynaliadwyedd, 2025).

Y ddinas sy’n cynnig y gwerth gorau i fyfyrwyr

Enwyd Prifysgol Bangor fel y lle mwyaf

fforddiadwy i astudio yn y Deyrnas Unedig gan NoDepositFriend.Com (2024).

Sicrwydd* o lety i ymgeiswyr israddedig

newydd

Dewiswch o amrywiaeth eang o lety, gan gynnwys Neuadd John MorrisJones, sydd wedi ei neilltuo i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr.

*I gael manylion llawn am ein gwarant llety ewch i bangor. ac.uk/llety

Astudio yn Gymraeg

Gallwch ddewis astudio eich gradd gyfan neu ran ohoni trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae cymorth ariannol ar gael os ydych yn cofrestru i astudio modiwlau cyfrwng Cymraeg.

Ymchwil chwyldroadol

Byddwch yn cael eich addysgu gan

academyddion y mae eu hymchwil yn helpu i ddatrys rhai o heriau penna’r byd. Mae 85% o ymchwil Prifysgol Bangor gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, 2021).

Gwell rhagolygon gyrfa

Cewch gefnogaeth ac adnoddau pwrpasol gan ein tîm Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, i’ch helpu i wneud cais am y swydd rydych wedi breuddwydio amdani.

Byddwn yn gofalu amdanoch

Mae ein harweinwyr cyfoed yno i’ch helpu i ymgartrefu yn y brifysgol, ac mae’r system diwtoriaid personol yn golygu bod gennych aelod staff academaidd i droi ato bob amser.

EIN LLEOLIAD

Mae lleoliad Bangor yn anhygoel, ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri.

Mewn llai na 30 munud o deithio mewn car, gallwch ymweld ag un o draethau godidog Ynys Môn, archwilio cestyll o bob math, padlo ar lynnoedd tawel neu gerdded i gopaon niferus Eryri.

DINAS BANGOR

Mae’n hawdd mynd o le i le

Dinas fechan ydy Bangor ac mae’n hawdd crwydro o’i hamgylch ar droed neu ar feic.

Gallwch gerdded mewn dim o dro o’ch llety prifysgol i un o’r darlithfeydd niferus neu i ganol y ddinas.

Mae yna lawer i’w weld

Mae gan Fangor dirnodau rhyfeddol, gan

gynnwys Pier y Garth gyda’i giosgau

Fictoraidd; Eglwys Gadeiriol Sant

Deiniol, lle mae llawer o dywysogion

brodorol Cymru wedi eu claddu, a Phont y Borth, sef pont grog Thomas Telford.

Dinas a’i llond o hanes

Bangor yw dinas hynaf Cymru, ac agorodd y brifysgol ei drysau am y tro cyntaf ar 18 Hydref, 1884. Dinas Myfyrwyr fwyaf fforddiadwy Cymru - Edumentors, 2024

Cymuned groesawgar i fyfyrwyr

Mae Bangor wir yn ddinas i fyfyrwyr, gydag un o’r cymarebau uchaf rhwng myfyrwyr a thrigolion parhaol yn y Deyrnas Unedig. Mae tua un o bob pump o’n myfyrwyr yn siarad Cymraeg, a gall llawer o aelodau staff eich helpu a’ch cefnogi yn y ddwy iaith.

Mae yma bopeth y bydd ei angen arnoch

Mae archfarchnadoedd, siopau, caffis, bwytai, siopau tecawê a thafarndai i gyd o fewn cyrraedd, ac mae digon o siopau a bwytai annibynnol i’w darganfod hefyd.

Dinas sy’n llawn diwylliant

Ewch i Pontio, sef Canolfan Celfyddydau ac Arloesi’r Brifysgol, i fwynhau’r gorau o fyd sinema, theatr, celfyddydau a diwylliant.

Dinas sy’n dathlu amrywiaeth

Mae hon yn ddinas prifysgol sy’n gartref i fyfyrwyr rhyngwladol o fwy na 120 o wledydd, gan roi cyfle i chi wneud ffrindiau o sawl diwylliant a chefndir gwahanol.

MAP CAMPWS BANGOR

ADEILADAU
ALLWEDDOL AR Y CAMPWS
Prif Adeilad y Brifysgol
Adeilad Cerddoriaeth
Pontio Neuadd JP

Campws Wrecsam

Prifysgol Bangor

Mae Campws Wrecsam

Prifysgol Bangor wedi’i neilltuo i bynciau Gwyddorau Iechyd. Gan fod y campws yn llai ei faint mae ein myfyrwyr yn cael cyfle i ymwneud â’r holl staff academaidd, ac mae’r gymhareb rhwng myfyriwr a staff yn wych.

Dim ond deg munud mae’n ei gymryd i gerdded i ganol y ddinas. Wrecsam yw un o ddinasoedd ieuengaf Cymru, ar ôl ennill statws dinas yn 2022.

COSTAU BYW

Bangor: Y lle rhataf i astudio yn y

Deyrnas Unedig

(NoDepositFriend.com, 2024)

Mae cost cyfleustodau, megis trydan, nwy a dŵr, ynghyd â WiFi wedi eu cynnwys os byddwch yn byw yn neuaddau’r brifysgol.

Gallwch wylio’r ffilmiau diweddaraf yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, a dim ond £6 ydy pris tocyn myfyriwr.

Mae bron pob un o’r prif archfarchnadoedd i’w cael ym Mangor gan olygu bod rhywbeth at bob angen a phob cyllideb.

Mwynhewch ddigwyddiadau cymdeithasol sydd (gan fwyaf) yn rhad ac am ddim ac yn cael eu cynnal gan Campws Byw, ynghyd ag aelodaeth am ddim o’r gampfa yng Nghanolfan Brailsford os ydych yn byw mewn neuadd.

Arbedwch ar gostau cludiant - mae modd cerdded i bobman ym Mangor bron!

Gallwch fwynhau prydau poeth fforddiadwy o ddydd Llun i ddydd Gwener yng Nghaffi Teras a Bar Uno y Brifysgol.

Mae mynediad i fannau dysgu cynnes 24/7, felly mae rhywle i fynd bob amser i gadw’n gynnes a gwefru batris.

Gall Uned Cefnogaeth Ariannol y Brifysgol eich helpu i gyllidebu.

Mae mynediad at Gronfa

Caledi i gefnogi myfyrwyr gyda chostau hanfodol na ellir eu rhagweld.

Mangor

Mae byw yn ein neuaddau preswyl fforddiadwy, cyfforddus a diogel yn ffordd ddelfrydol o wneud y gorau o’ch profiad prifysgol.

Gydag ychydig dros 2,600 o ystafelloedd, mae llety wedi’i warantu* i bob ymgeisydd israddedig newydd yn un o’n pentrefi myfyrwyr sef Pentref y Santes Fair neu Bentref Ffriddoedd.

*I gael manylion llawn am ein gwarant llety ewch i bangor.ac.uk/llety

Eich opsiynau

• Ystafelloedd gwely en-suite (gan rannu cegin)

• Ystafelloedd gwely fforddiadwy (gan rannu cegin ac mae rhai yn rhannu ystafelloedd ymolchi)

• Stiwdios (gydag ystafell wely en-suite a chegin fach breifat)

• Tai tref (gan rannu cegin / ystafelloedd ymolchi)

• Ystafelloedd hygyrch, gan gynnwys rhai â mynediad i gadeiriau olwyn

• Darpariaethau i fyfyrwyr ag amhariad ar y clyw

• Neuaddau i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith

• Neuaddau i fyfyrwyr gofal iechyd

• Neuaddau tawel

• Fflatiau i ferched yn unig

• Fflatiau di-alcohol

Beth sydd

wedi’i

gynnwys ym mhris y neuadd

Ffioedd

llety

Pob bil (dŵr, gwres, trydan) Wi-Fi cyflymder uchel

Atgyweirio a chynnal a chadw amserol

Ceginau a ardaloedd a

rennir sy’n cael eu glanhau’n wythnosol Yswiriant cynnwys

Aelodaeth o’r gampfa ac aelodaeth Campws Byw

(yn seiliedig ar brisiau 2025/26)

Yn dechrau o £99 yr wythnos

Ystafell gydag ystafell ymolchi i’w rhannu

Yn dechrau o £119 yr wythnos

Ystafell en-suite

Yn dechrau o £125 yr wythnos

Tŷ tref gydag ystafell ymolchi i’w rhannu

Yn dechrau o £210

yr wythnos

Stiwdio gydag ensuite a chegin fach breifat

PENTREF FFRIDDOEDD

Ffriddoedd yw ein pentref preswyl mwyaf ac mae wedi ei leoli ym Mangor Uchaf, sy’n ardal brysur yn llawn myfyrwyr. Mae tua 5 munud ar droed o’r orsaf drenau, a 10 munud ar droed o Brif Adeilad y Brifysgol neu ganol y ddinas.

Beth sydd ar y safle?

• Tua 1960 o ystafelloedd - y rhan fwyaf gydag ystafelloedd ymolchi en-suite.

• Siop

• Golchdy

• Ystafelloedd cyffredin gyda mannau astudio, mannau ymlacio ac ystafelloedd cyfrifiaduron

• Bar caffi Bar Uno

• Canolfan Chwaraeon Brailsford

Neuadd John Morris-Jones yw’r neuadd benodedig i fyfyrwyr

israddedig sy’n siarad Cymraeg ac sy’n dysgu Cymraeg. Gallwch wneud cais i fyw yma os hoffech fyw gyda Chymry Cymraeg eraill.

PENTREF Y SANTES FAIR

Mae pentref myfyrwyr y Santes Fair yn llai ac mae wedi’i leoli ar fryn yn edrych i lawr dros ddinas Bangor. Mae tua 5 munud ar droed o ganol y ddinas, a 15 munud ar droed o’r orsaf drenau a Phrif Adeilad y Brifysgol.

Beth sydd ar y safle?

• Mae tua 650 o ystafelloedd ar y safle, gan gynnwys ystafelloedd gwely en-suite, ystafelloedd fforddiadwy, fflatiau stiwdio a thai tref.

• Siop

• Golchdy

• Ystafelloedd cyffredin gyda mannau astudio, mannau ymlacio ac ystafelloedd cyfrifiaduron

• Ystafell ffitrwydd (gall myfyrwyr hefyd ddefnyddio canolfan chwaraeon Brailsford)

• Caffi Barlows

• Gofod adloniant Acapela

UNDEB Y MYFYRWYR

Undeb Bangor,

yw enw undeb y myfyrwyr, sy’n rhoi llais i fyfyrwyr ac yn darparu canolbwynt i fywyd myfyrwyr ym Mangor. Mae’r undeb wedi ei leoli ar bedwerydd llawr Pontio ac oddi yno maen nhw’n trefnu clybiau chwaraeon, rhwydweithiau, cymdeithasau a phrojectau gwirfoddoli.

Undeb Myfyrwyr Cymraeg

Bangor (UMCB)

sy’n gofalu am les myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a dysgwyr Cymraeg, ac unrhyw un arall sydd â diddordeb yn yr iaith Gymraeg a’i diwylliant ym Mangor.

Caiff Undeb y Myfyrwyr ei arwain gan gynrychiolwyr myfyrwyr etholedig sydd yno i gyfoethogi a gwella profiad myfyrwyr ym Mangor. Os oes unrhyw beth yr hoffech ei newid neu sydd angen cael ei newid, maent yno i wrando arnoch a’ch cefnogi.

CYMRYD RHAN

Ym Mangor, cewch gyfle i fwynhau mwy o weithgareddau a mwy o chwaraeon nag y gallech chi fyth ei ddychmygu! Mae’n ffordd wych o wneud ffrindiau, cwrdd â phobl newydd a rhoi cynnig ar rywbeth newydd.

Yn ystod yr Wythnos Groeso, bydd Undeb y Myfyrwyr yn trefnu digwyddiad o’r enw Serendipedd, sef Ffair y Glas lle byddwch yn gallu gweld beth y medrwch chi fod yn rhan ohono. Bydd yr holl glybiau, cymdeithasau a phrojectau gwirfoddoli yno, felly galwch heibio i’w stondinau i ddysgu mwy a chofrestru i gael gwneud sesiynau blasu.

DROS 150 O

GLYBIAU, CYMDEITHASAU

A PHROJECTAU

GWIRFODDOLI

CLYBIAU CHWARAEON

P’un a oes gennych ddiddordeb mewn

chwaraeon traddodiadol fel rygbi neu

bêl-rwyd, neu weithgareddau awyr agored fel padlfyrddio - mae clwb i bob dim ym

Mangor! Gallwch hefyd ymuno â chlybiau

chwaraeon y Cymric, sef clybiau cyfrwng

Cymraeg y brifysgol.

CYMDEITHASAU

Mae ein cymdeithasau’n dod â phobl o’r un anian at ei gilydd, o gymdeithasau sy’n

gysylltiedig â chyrsiau, fel y Gymdeithas

Ieithoedd Modern; cymdeithasau sy’n seiliedig ar diddordebau fel y Gymdeithas

Ffilm, neu gymdeithasau Cymraeg fel Côr

Aelwyd JMJ.

GWIRFODDOLI A LLEOLIADAU Gwneud gwahaniaeth

Yn ystod eich amser rhydd, gallwch ymuno â phrojectau gwirfoddoli trwy Gwirfoddoli

Myfyrwyr Bangor, sef cynllun anhygoel sy’n cyfrannu 2600 awr y flwyddyn at brojectau cymunedol.

Mae’n ffordd wych o roi rhywbeth yn ôl i’r

gymuned a chwrdd â ffrindiau newydd, a hynny tra byddwch yn ennill profiad gwerthfawr yr un pryd i roi hwb i’ch cyflogadwyedd.

Mae dros 25 o brojectau gwirfoddoli

gwahanol sydd i gyd yn dod o dan un o’r

categorïau canlynol:

Amgylcheddol Canolbwyntio ar y gymuned Ymgyrchoedd a digwyddiadau codi arian

Lles Yr Henoed Plant

BLWYDDYN AR LEOLIAD

Mae blwyddyn ar leoliad yn darparu

cyfleoedd gwych, yn eich helpu i ddatblygu sgiliau newydd ac yn eich gwneud yn fwy

cyflogadwy. Ym Mangor, gallwch wneud

blwyddyn ar leoliad fel rhan o bron pob gradd israddedig yr ydym yn eu cynnig.

Byddwch yn cael y cyfle i ystyried yn llawn a yw’r opsiwn hwn yn addas i chi a gwneud cais ar ôl i chi ddechrau ar eich gradd ym Mangor.

Pam dewis blwyddyn ar leoliad?

• Ehangu eich gorwelion

• Datblygu sgiliau newydd

• Ennill profiad sy’n berthnasol i’ch pwnc

• Gwneud cysylltiadau gwerthfawr

• Gwella eich cyflogadwyedd

ASTUDIO NEU WEITHIO DRAMOR

Cyfleoedd byd-eang

Mae astudio neu weithio dramor yn gyfle

gwych i gael profiad o ffordd wahanol o fyw a dysgu am ddiwylliannau eraill, a pharhau i ennill credydau tuag at eich

gradd a dysgu safbwyntiau newydd am eich pwnc.

Gallwch ddewis Blwyddyn Profiad

Rhyngwladol yn y rhan fwyaf o’n cyrsiau israddedig a chewch gyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn wrth astudio eich gradd ym Mangor.

CAEL PROFIAD O’R BYD

Mae gan lawer o’n cyrsiau opsiwn blwyddyn sylfaen ar gael, gyda thariff mynediad is.

Mae ein cyrsiau blwyddyn sylfaen yn berffaith os nad yw’r cymwysterau

angenrheidiol gennych i wneud cwrs ar lefel gradd neu os ydych yn ailddechrau mewn addysg.

Gall myfyrwyr rhyngwladol wneud ‘Blwyddyn Sero’ yng Ngholeg Rhyngwladol Prifysgol Bangor.

BLWYDDYN SYLFAEN

CEFNOGI MYFYRWYR

Ym Mangor, rydym yn rhoi pwyslais mawr ar gefnogi a gofalu am ein myfyrwyr.

O reoli eich arian i ddod o hyd i swydd ar ôl graddio, mae ein gwasanaethau yno i’ch helpu i wneud yn fawr o’ch amser yn y brifysgol.

Ymhlith y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig i gefnogi myfyrwyr mae:

• Cyngor ariannol

• Cefnogaeth iechyd a lles

• Cyngor iechyd meddwl

• Cefnogaeth dyslecsia

• Cwnsela

• Gwasanaethau anabledd

• Tîm y Gaplaniaeth

• Cefnogaeth sgiliau astudio

GWASANAETH GYRFAOEDD A CHYFLOGADWYEDD

Os ydych yn ystyried eich opsiynau o ran gyrfa, yn gwneud profiad gwaith neu’n sefydlu eich busnes eich hun, byddwn

yn cynnig cefnogaeth i chi ac yn darparu ystod o adnoddau

i’ch helpu i ddatblygu eich cyflogadwyedd a’ch hyder ac i wireddu eich uchelgais o ran gyrfa.

Mae rhai o’r adnoddau’n

cynnwys:

• Hyb Cyflogadwyedd ar-lein

• Help i ddod o hyd i waith rhan amser, interniaethau, lleoliadau a phrofiad gwaith

• Cefnogaeth i baratoi a chwilio am swyddi ar ôl graddio

• Cyfleoedd i wneud cais i gynllun interniaethau cyflogedig y Brifysgol.

Awen Edwards

Y Gyfraith gyda

Chymraeg (LLB), 2020

Cyfreithiwr yn DAC

Beachcroft LLP, Llundain

• Rhaglen i ddatblygu eich sgiliau entrepreneuriaeth

• Llwybrau Sgiliau ar CyswlltGyrfa; cwrs ar-lein

i’ch helpu i baratoi ar gyfer eich gyrfa ddelfrydol

BWRSARIAETHAU AC YSGOLORIAETHAU

Mae gennym nifer o fwrsariaethau ac ysgoloriaethau sydd wedi’u cynllunio i’ch helpu trwy gydol eich astudiaethau.

Mae rhagor o wybodaeth am yr

hyn sydd ar gael, cymhwystra a’r broses ymgeisio ar gael ar ein gwefan trwy sganio’r cod QR isod.

YSGOLORIAETHAU’R COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL

Mae ysgoloriaethau ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio naill ai:

• 80 credyd y flwyddyn (Prif Ysgoloriaeth, £1000 y flwyddyn) trwy gyfrwng y Gymraeg.

• 40 credyd y flwyddyn (Ysgoloriaeth Cymhelliant, £500 y flwyddyn) trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dim ond ar gyfer y Brif Ysgoloriaeth y bydd angen i chi sefyll arholiad.

DARPARIAETH CYFRWNG CYMRAEG

Astudio yn Gymraeg

Mae gan fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith y cyfle i astudio eu gradd gyfan neu ran o’u gradd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae galw mawr am weithwyr

proffesiynol ifanc sy’n gallu gweithio’n ddwyieithog yng Nghymru, a bydd astudio

trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol yn rhoi sylfaen ardderchog i’ch gyrfa.

YSGOL FEDDYGOL GOGLEDD CYMRU

Ym mis Medi 2025, bydd Ysgol Feddygol Gogledd

Cymru yn ehangu ac yn lansio ei gradd fferylliaeth

gyntaf, gan alluogi myfyrwyr i astudio fferylliaeth yng ngogledd Cymru am y tro cyntaf erioed.

Mae rhaglen meddygaeth Prifysgol Bangor yn galluogi myfyrwyr i gwblhau eu rhaglen

meddygaeth gyfan yng ngogledd Cymru, gan weithio mewn cydweithrediad agos â Bwrdd Iechyd

Prifysgol Betsi Cadwaladr a darparwyr Gofal

Cychwynnol ar draws yr ardal.

Mae ein gradd meddygaeth

yn cynnig amgylchedd dysgu cyfoethog i fyfyrwyr, gyda rhagor o bwyslais ar ddysgu wrth ymarfer ac yng nghanol cymunedau lleol yn unol â chynllun

Llywodraeth Cymru, “Dyfodol Iachach i Gymru”.

CYRSIAU MEYSYDD PWNC:

Addysg, Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid

Bancio, Cyfrifeg, Cyllid ac Economeg

Bioleg a Biotechnoleg

Busnes, Marchnata a Rheolaeth

Cadwraeth, Daearyddiaeth a’r Amgylchedd

Cerddoriaeth a Drama

Cyfrifiadureg

Cymraeg

Ffilm, Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau

Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer

Gwyddorau Eigion

Gwyddorau Meddygol ac Iechyd

Hanes ac Archaeoleg

Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth

Ieithoedd Modern (Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg, Eidaleg a Tseineeg)

Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu

Creadigol

Peirianneg a Dylunio Cynnyrch

Seicoleg

Swoleg

Troseddeg, Plismona a Gwyddorau

Cymdeithas

Y Gyfraith

Edrychwch ar dudalennau 34-47 i weld cyrsiau unigol

Blwyddyn Sylfaen

Mae opsiynau i astudio Blwyddyn

Sylfaen ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o’n graddau.

Ewch i’r tudalennau cyrsiau ar ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth.

Opsiynau cyfrwng Cymraeg

Mae’r Brifysgol yn cynnig llawer o gyfleoedd i fyfyrwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

I gael gwybod faint o’ch cwrs

sydd ar gael yn Gymraeg, ewch i: colegcymraeg.ac.uk

Cod Teitl y Rhaglen

Cymhwyster

Addysg, Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid

X131 Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig (cwrs cyfrwng Saesneg)

X130 Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig (cwrs cyfrwng Cymraeg)

X313 Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid (cwrs cyfrwng Saesneg)

X314 Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid (cwrs cyfrwng Cymraeg)

X319 Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Seicoleg

X315 Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg (cwrs cyfrwng Saesneg)

X316 Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg (cwrs cyfrwng Cymraeg)

X321 Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg (cwrs cyfrwng Cymraeg)

Bancio, Cyfrifeg, Cyllid ac Economeg

N391 Bancio a Chyllid

N39F Bancio a Chyllid (gyda Blwyddyn Sylfaen)

Tariff Mynediad (2026) Hyd y cwrs (Bl)

BA (Anrh) 104-128 3

BA (Anrh) 104-128 3

BA (Anrh) 96-120 3

BA (Anrh) 96-120 3

BA (Anrh) 96-120 3

BA (Anrh) 96-120 3

Blwyddyn

Lleoliad / Profiad

Rhyngwladol ychwanegol (dewisol)

BA (Anrh) 96-120 3

BA (Anrh) 96-120 3

BSc (Anrh) 104-128 3

BSc (Anrh) 48-96 4

N312 Bancio gyda Thechnoleg Ariannol BSc (Anrh) 104-128 3

N32F Bancio gyda Thechnoleg Ariannol (gyda Blwyddyn Sylfaen)

BSc (Anrh) 48-96 4

Cod Teitl y Rhaglen

Bancio, Cyfrifeg, Cyllid ac Economeg

NN4H Cyfrifeg a Chyllid

NN4F Cyfrifeg a Chyllid (gyda Blwyddyn Sylfaen)

N4N2 Cyfrifeg a Rheolaeth

N4NF Cyfrifeg a Rheolaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen)

L110 Economeg

L10F Economeg (gyda Blwyddyn Sylfaen)

L1N3 Economeg a Chyllid

L1NF Economeg a Chyllid (gyda Blwyddyn Sylfaen)

Bioleg a Biotechnoleg

C100 Bioleg

Cymhwyster

Tariff Mynediad (2026) Hyd y cwrs (Bl)

BSc (Anrh) 112-136 3

BSc (Anrh) 64-104 4

BSc (Anrh) 104-128 3

BSc (Anrh) 48-96 4

BSc (Anrh) 112-136 3

BSc (Anrh) 64-104 4

BSc (Anrh) 104-128 3

BSc (Anrh) 48-96 4

Blwyddyn

Lleoliad / Profiad Rhyngwladol ychwanegol (dewisol)

BSc (Anrh) 112-136 3

C101 Bioleg MBiol (Anrh) 128-144 4

C10F Bioleg (gyda Blwyddyn Sylfaen)

C511 Bioleg gyda Biotechnoleg

BSc (Anrh) 48-104 4

BSc (Anrh) 112-136 3

C510 Bioleg gyda Biotechnoleg MBiol (Anrh) 128-144 4

Cod

Teitl y Rhaglen

Busnes, Marchnata a Rheolaeth

Cymhwyster

Tariff Mynediad (2026) Hyd y cwrs (Bl)

N313 Dadanosoddeg Data Busness BSc (Anrh) 104-128 3

N31F Dadanosoddeg Data Busness (gyda Blwyddyn Sylfaen) BSc (Anrh) 48-96 4

N501 Marchnata

N50F Marchnata (gyda Blwyddyn Sylfaen)

(Anrh) 104-128 3

(Anrh) 48-96 4

N111 Menter Busnes ac Entrepreneuriaeth BSc (Anrh) 104-128 3

N206 Rheolaeth Busnes Rhyngwladol BSc (Anrh) 104-128 3

N2N6 Rheolaeth gyda Rheolaeth Adnoddau Dynol

N26F Rheolaeth gyda Rheolaeth Adnoddau Dynol (gyda Blwyddyn Sylfaen)

N200 Rheoli Busnes

N20F Rheoli Busnes (gyda Blwyddyn Sylfaen)

(Anrh) 104-128 3

(Anrh) 48-96 4

(Anrh) 104-128 3

(Anrh) 48-96 4

N507 Rheoli Cyfathrebu Marchnata BSc (Anrh) 96-120 3

N832 Rheoli Twristiaeth BSc (Anrh) 96-120 3

Cadwraeth, Daearyddiaeth a’r Amgylchedd

D447 Cadwraeth Amgylcheddol BSc (Anrh) 104-128 3

D515 Cadwraeth a Rheoli Coetiroedd BSc (Anrh) 104-128 3

C347 Cadwraeth ac Ecoleg Bywyd Gwyllt BSc (Anrh) 104-128 3

5DKD Cadwraeth gyda Choedwigaeth BSc (Anrh) 88-120 3

D500 Coedwigaeth BSc (Anrh) 88-120 3

L700 Daearyddiaeth BA (Anrh) 104-136 3

Blwyddyn

Lleoliad / Profiad Rhyngwladol ychwanegol (dewisol)

Cod Teitl y Rhaglen

Cadwraeth, Daearyddiaeth a’r Amgylchedd

F800 Daearyddiaeth

F801 Daearyddiaeth

F900 Gwyddorau’r Amgylchedd

F850 Gwyddorau’r Amgylchedd

F90F Gwyddorau’r Amgylchedd (gyda Blwyddyn Sylfaen)

Cerddoriaeth a Drama

W300 Cerddoriaeth

Cymhwyster

Tariff Mynediad (2026) Hyd y cwrs (Bl)

BSc (Anrh) 104-136 3

MGeog (Anrh) 112-144 4

BSc (Anrh) 104-128 3

MEnvSci (Anrh) 120-136 4

BSc (Anrh) 48-96 4

Blwyddyn

Lleoliad / Profiad Rhyngwladol ychwanegol (dewisol)

BA (Anrh) 104-128 3

W302 Cerddoriaeth BMUS (Anrh) 104-128 3

W30F Cerddoriaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen)

BA (Anrh) 48-96 4

W32F Cerddoriaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen) BMUS (Anrh) 48-96 4

WW38 Cerddoriaeth ac Ysgrifennu Creadigol BA (Anrh) 104-128 3

W3R8 Cerddoriaeth ac Ieithoedd Modern BA (Anrh) 104-128 4

W311 Cerddoriaeth a Ffilm BA (Anrh) 104-128 3

WW43 Cerddoriaeth a Drama BA (Anrh) 104-128 3

P34W Ffilm a Drama BA (Anrh) 96-128 3

QW34 Llenyddiaeth Saesneg a Drama BA (Anrh) 104-128 3

P31W Y Cyfryngau a Drama BA (Anrh) 96-128 3

Cod Teitl y Rhaglen

Cyfrifiadureg

G400 Cyfrifiadureg

Cymhwyster

Tariff Mynediad (2026) Hyd y cwrs (Bl)

BSc (Anrh) 120-136 3

H117 Cyfrifiadureg MComp (Anrh) 128-144 4

G40F Cyfrifiadureg (gyda Blwyddyn Sylfaen) BSc (Anrh) 48-112 4

I103 Cyfrifiadureg a Dylunio Gemau BSc (Anrh) 120-136 3

H118 Gwyddor Data a Deallusrwydd Artiffisial BSc (Anrh) 120-136 3

H114 Gwyddor Data a Delweddu BSc (Anrh) 120-136 3

I110 Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol BSc (Anrh) 104-128 3

IN00 Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol i Fusnesau

GW49 Technolegau Creadigol

Cymraeg

Q565 Cymraeg i Ddechreuwyr

Q562 Cymraeg1

QW53 Cymraeg a Cherddoriaeth

LQ35 Cymraeg a Chymdeithaseg

QV51 Cymraeg a Hanes

QMV2 Cymraeg a Hanes Cymru

3Q5Q Cymraeg a Llenyddiaeth Saesneg

Q5VV Cymraeg ac Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd

(Anrh) 104-128 3

(Anrh) 104-128 3

Blwyddyn

Lleoliad / Profiad Rhyngwladol ychwanegol (dewisol)

(Anrh) 96-120 4

(Anrh) 104-128 3

(Anrh) 104-128 3

(Anrh) 104-128 3

(Anrh) 104-128 3

(Anrh) 104-128 3

(Anrh) 104-128 3

(Anrh) 104-128 3

Cod Teitl y Rhaglen

Cymraeg

Cymhwyster

Tariff Mynediad (2026) Hyd y cwrs (Bl)

QQ15 Cymraeg ac Ieithyddiaeth BA (Anrh) 104-128 3

Q5WK Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol BA (Anrh) 104-128 3

Q563 Cymraeg Proffesiynol BA (Anrh) 104-128 3

QWM5 Cymraeg, Theatr a’r Cyfryngau BA (Anrh) 104-128 3

Ffilm, Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau

WPQ3 Celfyddydau Creadigol BA (Anrh) 96-128 3

33PQ Ffilm a Llenyddiaeth Saesneg BA (Anrh) 104-128 3

P318 Y Cyfryngau, Ffilm a Newyddiaduraeth

(Anrh) 96-128 3

P320 Y Cyfryngau, Ffilm a Newyddiaduraeth (gyda Blwyddyn Sylfaen) BA (Anrh) 48-88 4

P302 Y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg

P323 Y Cyfryngau a Cherddoriaeth

WP38 Y Cyfryngau ac Ysgrifennu Creadigol

Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer

(Anrh) 104-128 3

(Anrh) 104-128 3

(Anrh) 104-128 3

Blwyddyn

Lleoliad / Profiad

Rhyngwladol ychwanegol (dewisol)

C611 Gwyddorau Chwaraeon Antur BSc (Anrh) 104-128 3

C616 Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer BSc (Anrh) 104-128 3

C61F Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer (gyda Blwyddyn Sylfaen)

(Anrh) 72-96 4

C617 Gwyddorau Chwaraeon, Addysg Gorfforol a Hyfforddi BSc (Anrh) 104-128 3

C680 Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer BSc (Anrh) 104-128 3

Cod Teitl y Rhaglen

Gwyddorau Eigion

C160 Bioleg Môr

C167 Bioleg Môr

C16F Bioleg Môr (gyda Blwyddyn Sylfaen)

Cymhwyster

Tariff Mynediad (2026) Hyd y cwrs (Bl)

BSc (Anrh) 120-144 3

MSci (Anrh) 128-152 4

BSc (Anrh) 48-112 4

CF17 Bioleg Môr ac Eigioneg BSc (Anrh) 120-144 3

F712 Bioleg Môr ac Eigioneg MSci (Anrh) 128-152 4

CC13 Bioleg Môr a Swoleg

C169 Bioleg Môr a Swoleg

C355 Cadwraeth Fertebratau’r Môr

C356 Cadwraeth Fertebratau’r Môr

BSc (Anrh) 120-144 3

MSci (Anrh) 128-152 4

BSc (Anrh) 112-128 3

(Anrh) 128-152 4

F840 Daearyddiaeth Ffisegol ac Eigioneg BSc (Anrh) 112-128 3

F650 Eigioneg Ddaearegol

F652 Eigioneg Ddaearegol

F62F Eigioneg Ddaearegol (gyda Blwyddyn Sylfaen)

BSc (Anrh) 120-144 3

MSci (Anrh) 128-152 4

BSc (Anrh) 48-112 4

F734 Eigioneg Ffisegol MSci (Anrh) 128-152 4

F700 Gwyddorau’r Eigion

BSc (Anrh) 112-128 3

F715 Gwyddor Môrol a Chadwraeth BSc (Anrh) 112-128 3

F7F6 Yr Eigion a Geoffiseg

BSc (Anrh) 120-144 3

Blwyddyn

Lleoliad / Profiad Rhyngwladol ychwanegol (dewisol)

Cod Teitl y Rhaglen

Gwyddorau Meddygol ac Iechyd

B720 Bydwreigiaeth

B763 Nyrsio Anableddau Dysgu2

B762 Nyrsio Iechyd Meddwl2

B741 Nyrsio Oedolion2

B732 Nyrsio Plant2

Cymhwyster

Tariff Mynediad (2026) Hyd y cwrs (Bl)

BMid (Anrh) 112-120 3

BN (Anrh) 96-120 3

BN (Anrh) 96-120 3

BN (Anrh) 96-120 3

BN (Anrh) 96-120 3

B200 Ffarmacoleg BSc (Anrh) 120-136 3

B20F Ffarmacoleg (gyda Blwyddyn Sylfaen) BSc (Anrh) 48-104 4

B230 Fferylliaeth MPharm Gweler y wefan 4

B231 Fferylliaeth gyda Blwyddyn Baratoadol MPharm Gweler y wefan 5

B102 Gwyddor Biofeddygol

B112 Gwyddor Biofeddygol (gyda Blwyddyn Sylfaen)

B100 Gwyddorau Meddygol

B110 Gwyddorau Meddygol (gyda Blwyddyn Sylfaen)

BSc (Anrh) 120-136 3

BSc (Anrh) 64-112 4

BMedSci (Anrh) 120-136 3

BMedSci (Anrh) 64-112 4

B751 Hylendid Deintyddol DipHE 80 2

L510 Iechyd a Gofal Cymdeithasol BA (Anrh) 96-112 3

B821 Radiograffeg Diagnostig3

BSc (Anrh) 120 3

A100 Meddygaeth (BMBS) MBBCh Gweler y wefan 5

A101 Meddygaeth: Mynediad i Raddedigion (BMBS)

MBBCh Gweler y wefan 4

Blwyddyn

Lleoliad / Profiad Rhyngwladol ychwanegol (dewisol)

Cod Teitl y Rhaglen

Hanes ac Archaeoleg

V100 Hanes

V10F Hanes (gyda Blwyddyn Sylfaen)

V103 Hanes ac Archaeoleg

VW13 Hanes a Cherddoriaeth

3QV1 Hanes a Llenyddiaeth Saesneg

V140 Hanes Modern a Chyfoes

V130 Hanes yr Oesoedd Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar

VV41 Treftadaeth, Archaeoleg a Hanes

Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth

QQC3 Iaith Saesneg a Llenyddiaeth

Saesneg

QQCF Iaith Saesneg a Llenyddiaeth

Saesneg (gyda Blwyddyn Sylfaen)

Q318 Iaith Saesneg ar gyfer Therapi Iaith a Lleferydd

Q315 Iaith Saesneg ar gyfer Addysgu

Saesneg fel Iaith Dramor

Q3WL Iaith Saesneg gydag Ysgrifennu

Creadigol

Q1C8 Ieithyddiaeth a Seicoleg

Q140 Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg

Q3R8 Ieithyddiaeth ac Ieithoedd Modern

Cymhwyster

Tariff Mynediad (2026) Hyd y cwrs (Bl)

BA (Anrh) 104-128 3

BA (Anrh) 48-96 4

BA (Anrh) 104-128 3

BA (Anrh) 104-128 3

BA (Anrh) 104-128 3

BA (Anrh) 104-128 3

BA (Anrh) 104-128 3

BA (Anrh) 104-128 3

Blwyddyn

Lleoliad / Profiad

Rhyngwladol ychwanegol (dewisol)

BA (Anrh) 104-128 3

BA (Anrh) 48-96 4

BA (Anrh) 104-128 3

BA (Anrh) 104-128 3

BA (Anrh) 104-128 3

BA (Anrh) 104-128 3

BA (Anrh) 104-128 3

BA (Anrh) 104-128 4

Cod Teitl y Rhaglen

Cymhwyster

Tariff Mynediad (2026) Hyd y cwrs (Bl)

Ieithoedd Modern (Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg, Eidaleg a Tseineeg)

R817 Astudiaethau Ieithoedd Modern4

R800 Ieithoedd Modern4

R808 Ieithoedd Modern (gyda Blwyddyn Sylfaen)4

R805 Ieithoedd Modern a Chymraeg4

R818 Ieithoedd Modern a Ffilm4

R804 Ieithoedd Modern a Hanes4

R801 Ieithoedd Modern a Llenyddiaeth Saesneg4

R807 Ieithoedd Modern a Throseddeg a Chyfiawnder Troseddol4

R820 Ieithoedd Modern a’r Cyfryngau4

R806 Ieithoedd Modern ac Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd4

BA (Anrh) 104-128 3

BA (Anrh) 104-128 4

BA (Anrh) 48-96 5

BA (Anrh) 104-128 4

BA (Anrh) 104-128 4

BA (Anrh) 104-128 4

BA (Anrh) 104-128 4

BA (Anrh) 104-128 4

BA (Anrh) 104-128 4

BA (Anrh) 104-128 4

Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

8H25 Llenyddiaeth Saesneg BA (Anrh) 104-128 3

2P17 Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

(Anrh) 104-128 3

32N6 Llenyddiaeth Saesneg a Cherddoriaeth BA (Anrh) 104-128 3

W801 Ysgrifennu Creadigol BA (Anrh) 104-128 3

W8R8 Ysgrifennu Creadigol ac Ieithoedd Modern BA (Anrh) 104-128 4

Blwyddyn

Lleoliad / Profiad

Rhyngwladol ychwanegol (dewisol)

Cod Teitl y Rhaglen

Peirianneg a Dylunio Cynnyrch

H607 Peirianneg

H608 Peirianneg

H60F Peirianneg (gyda Blwyddyn Sylfaen)

H611 Peirianneg Electronig

Cymhwyster

Tariff Mynediad (2026) Hyd y cwrs (Bl)

BEng (Anrh) 120-136 3

MEng (Anrh) 128-144 4

BEng (Anrh) 48-112 4

BSc (Anrh) 104-120 3

H610 Peirianneg Electronig BEng (Anrh) 120-136 3

H601 Peirianneg Electronig MEng (Anrh) 128-144 4

H61F Peirianneg Electronig (gyda Blwyddyn Sylfaen)

BEng (Anrh) 48-112 4

H661 Peirianneg Rheolaeth ac Offeryniaeth MEng (Anrh) 128-144 4

H612 Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol BEng (Anrh) 120-136 3

H617 Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol MEng (Anrh) 128-144 4

W240 Dylunio Cynnyrch (cwrs cyfrwng Saesneg)

W241 Dylunio Cynnyrch (cwrs cyfrwng Cymraeg)

Seicoleg

C800 Seicoleg

Blwyddyn

Lleoliad / Profiad Rhyngwladol ychwanegol (dewisol)

BSc (Anrh) 96-128 3

BSc (Anrh) 96-128 3

BSc (Anrh) 112-136 3

C80F Seicoleg (gyda Blwyddyn Sylfaen) BSc (Anrh) 64-104 4

C801 Seicoleg gyda Niwroseicoleg BSc (Anrh) 112-136 3

C880 Seicoleg gyda Seicoleg Glinigol ac Iechyd BSc (Anrh) 112-136 3

C813 Seicoleg gyda Seicoleg Fforensig

BSc (Anrh) 112-136 3

Cod Teitl y Rhaglen

Swoleg

C300 Swoleg

Cymhwyster

Tariff Mynediad (2026) Hyd y cwrs (Bl)

BSc (Anrh) 112-136 3

C301 Swoleg MZool (Anrh) 128-144 4

C30F Swoleg (gyda Blwyddyn Sylfaen) BSc (Anrh) 64-112 4

C3L2 Swoleg gyda Chadwraeth BSc (Anrh) 112-136 3

CD34 Swoleg gyda Chadwraeth MZool (Anrh) 128-144 4

C304 Swoleg gyda Herpetoleg BSc (Anrh) 112-136 3

C303 Swoleg gyda Herpetoleg MZool (Anrh) 128-144 4

C330 Swoleg gydag Ornitholeg BSc (Anrh) 112-136 3

C334 Swoleg gydag Ornitholeg MZool (Anrh) 128-144 4

C329 Swoleg gyda Phrimatoleg BSc (Anrh) 112-136 3

C333 Swoleg gyda Phrimatoleg MZool (Anrh) 128-144 4

C335 Swoleg gyda Rheolaeth Anifeiliaid BSc (Anrh) 112-136 3

C336 Swoleg gyda Rheolaeth Anifeiliaid MZool (Anrh) 128-144 4

C350 Swoleg gyda Swoleg Môr BSc (Anrh) 112-136 3

C353 Swoleg gyda Swoleg Môr MZool (Anrh) 128-144 4

C3D3 Swoleg gydag Ymddygiad Anifeiliaid BSc (Anrh) 112-136 3

C302 Swoleg gydag Ymddygiad Anifeiliaid MZool (Anrh) 128-144 4

Blwyddyn Lleoliad / Profiad Rhyngwladol ychwanegol (dewisol)

Cod Teitl y Rhaglen Cymhwyster

Troseddeg, Plismona a Gwyddorau Cymdeithas

Tariff Mynediad (2026) Hyd y cwrs (Bl)

V5V6 Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd BA (Anrh) 104-128 3

L300 Cymdeithaseg

L30F Cymdeithaseg (gyda Blwyddyn Sylfaen)

LL34 Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol (cwrs cyfrwng Saesneg)

LM39 Cymdeithaseg a Throseddeg a Chyfiawnder Troseddol

LM3Y Cymdeithaseg a Throseddeg a Chyfiawnder Troseddol (Gradd ddwyieithog)

L3LK Cymdeithaseg gyda Pholisi Cymdeithasol (cwrs cyfrwng Cymraeg)

L200 Gwleidyddiaeth

L20F Gwleidyddiaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen)

L436 Plismona Proffesiynol

M930 Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

L34L Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol a Pholisi Cymdeithasol

BA (Anrh) 104-128 3

BA (Anrh) 48-96 4

BA (Anrh) 104-128 3

BA (Anrh) 104-128 3

BA (Anrh) 104-128 3

Blwyddyn

Lleoliad / Profiad Rhyngwladol ychwanegol (dewisol)

BA (Anrh) 104-128 3

BA (Anrh) 104-128 3

BA (Anrh) 48-96 4

BSc (Anrh) 96-120 3

BA (Anrh) 104-128 3

BA (Anrh) 104-128 3

Cod Teitl y Rhaglen

Y Gyfraith

M212 Cyfraith Droseddol

M100 Y Gyfraith

M101 Y Gyfraith (Rhaglen Garlam 2 flynedd)

Cymhwyster

M10F Y Gyfraith (gyda Blwyddyn Sylfaen)

Tariff Mynediad (2026) Hyd y cwrs (Bl)

LLB (Anrh) 112-136 3

LLB (Anrh) 112-136 3

LLB (Anrh) Gradd baglor 2.ii (neu gyfwerth) mewn pwnc arall 2

LLB (Anrh) 64-104 4

M1L3 Y Gyfraith gyda Chymdeithaseg LLB (Anrh) 112-136 3

M1Q5 Y Gyfraith gyda Chymraeg

M1L2 Y Gyfraith gyda Gwleidyddiaeth

M1V1 Y Gyfraith gyda Hanes

M1R8 Y Gyfraith gydag Ieithoedd Modern

M1C8 Y Gyfraith gyda Seicoleg

M1M9 Y Gyfraith gyda Throseddeg

LLB (Anrh) 112-136 3

LLB (Anrh) 112-136 3

LLB (Anrh) 112-136 3

LLB (Anrh) 112-136 3

LLB (Anrh) 112-136 3

LLB (Anrh) 112-136 3

Blwyddyn

Lleoliad / Profiad Rhyngwladol ychwanegol (dewisol)

1 Cwrs ar gyfer siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith yw hwn - gweler y wefan am fanylion pellach

2 Llawn amser, ar y campws. Mae’n bosibl y bydd dulliau eraill o gyflwyno, gan gynnwys hyblygrwydd mewn sut ac ymhle rydych chi’n astudio, dysgu rhan amser a dysgu o bell ar gael ar gyfer y cwrs hwn - gweler y wefan am fanylion.

3 Lleoliad: Campws Wrecsam.

4 Llwybr iaith i ddechreuwyr ar gael - gwelwch y wefan am y dewis llawn.

TELERAU AC AMODAU

Mae Prifysgol Bangor yn

gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod y wybodaeth a geir

yn yr arweinlyfr cyrsiau hwn yn gywir ar adeg ei argraffuChwefror 2025. I weld y telerau a’r amodau llawn, ewch i:

bangor.ac.uk/cy/prosbectws/ telerauacamodau

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyrsiau ac i ddysgu mwy am fywyd myfyriwr ym Mangor, ewch i bangor.ac.uk

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.