1 minute read
CROESO I’R DIWRNOD DEILIAID CYNNIG
Rydym yn falch o’ch croesawu i’r Diwrnod Deiliaid Cynnig.
Wedi i chi gyrraedd, ewch i Neuadd Prichard-Jones ym Mhrif Adeilad y Brifysgol i gofrestru os gwelwch yn dda (bydd y mannau cofrestru yn agor am 9.30am). Yno, cewch hefyd sgwrsio gyda’n staff am ein gwasanaethau i fyfyrwyr fel Cefnogi Myfyrwyr, Llety, Y Llyfrgell, Derbyniadau, Gyrfaoedd ac Undeb y Myfyrwyr.
Yn ystod y dydd, bydd cyfle i fynychu sesiwn blasu pwnc, lle cewch ofyn cwestiynau am eich cwrs a dysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi fel myfyriwr Prifysgol Bangor.
Mae’r Diwrnod Deiliaid Cynnig hefyd yn cynnwys cyflwyniadau ar destunau fel Llety a Bywyd Myfyriwr, ac mae teithiau i’r pentrefi llety myfyrwyr yn rhedeg trwy’r dydd. Os oes gennych unrhyw gwestiwn yn ystod eich ymweliad, mae ein staff a myfyrwyr wrth law i helpu.
Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau eich amser ar ein campws ac yn cael diwrnod i’w gofio yma ym Mangor.