LLYFRYN TOCYNNAU TYMOR 2017
CROESO Mae’n bryd i chi archebu eich tocynnau ar gyfer BBC Canwr y Byd Caerdydd 2017! Rhwng 11 a’r 18 o Fehefin 2017, bydd dinas Caerdydd, heb sôn am donfeddi’r BBC, yn llawn lleisiau persain yr ugain o gantorion ifanc gorau yn y byd. A gallwch chi fod yno hefyd! Ein cynulleidfa yw un o’r pethau mwyaf anhygoel am gystadleuaeth Canwr Caerdydd – angerddol, pendant, deallus – fyddai ddim yr un fath hebddoch chi. Er mwyn i’n cynulleidfa gael mwy o fewnbwn i’w profiad, yn 2017 byddwn yn gwerthu tocynnau Canwr Caerdydd ar-lein! Bydd tocynnau tymor ar gael o wefan Neuadd Dewi Sant, lle byddwch yn gallu dewis eich seddi eich hunain a phrynu eich tocynnau ar gyfer y Brif Wobr a Gwobr y Gân ar-lein. Gobeithio y byddwch yn gallu ymuno â ni ar gyfer y digwyddiadau cyffrous hyn. Archebwch yn gynnar i wneud yn siw ˆ r eich bod yn cael y seddi y mae arnoch eu heisiau!
David Jackson, Cyfarwyddwr Artistig BBC Canwr y Byd Caerdydd
Mae cantorion eleni mor gyffrous, a rwy’n falch o fod yn Noddwr i’r gystadleuaeth fawreddog hon sy’n gallu newid gyrfaoedd. Dame Kiri Te Kanawa Noddwr
Y GYSTADLEUAETH BBC Canwr y Byd Caerdydd Mae cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd yn brofiad sy’n newid bywyd ugain o gantorion ifanc ar ddechrau eu gyrfa broffesiynol. Ar ôl cael eu dewis o blith cannoedd o bobl sydd wedi ymgeisio o bob cwr o’r byd, bydd y cantorion yn cael cyfle i berfformio gerbron panel o arbenigwyr blaenllaw o fyd opera. Bydd y cantorion yn canu i gyfeiliant dwy gerddorfa sydd gyda’r gorau yn y byd – Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, gyda Thomas Søndergård yn ei harwain a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, gyda Tomáš Hanus yn ei harwain. Bydd y perfformiadau yn cael eu darlledu ar draws y BBC i gynulleidfaoedd ledled y DU a thu hwnt, a chaiff y pum canwr gorau eu dewis i gystadlu yn y rownd derfynol gyffrous yn Neuadd Dewi Sant. Bydd enillydd y brif wobr, BBC Canwr y Byd Caerdydd, yn cael Tlws Caerdydd, a £15,000.
Gwobr y Gân
Gwobr y Gynulleidfa
Caerdydd yn Gân i Gyd!
Bydd y sylw i gyd ar y cantorion yng nghystadleuaeth Gwobr y Gân pan fyddant yn perfformio rhai o’r Lieder a’r caneuon celfyddydol mwyaf prydferth yn eu repertoire, i gyfeiliant y pianyddion Llyˆr Williams a Simon Lepper.
Ein cynulleidfaoedd fydd yn pleidleisio dros Wobr y Gynulleidfa, ac fe’i cyflwynir yn ystod y rownd derfynol. Bydd yr enillwyr yn ennill Gwobr Cynulleidfa’r Fonesig Joan Sutherland, £2,500 a thlws grisial. Caiff y wobr hon ei chefnogi gan Ysgol Gerdd Prifysgol Caerdydd.
Yn 2017, byddwn yn parhau gyda’n cyfres o ddigwyddiadau ymylol ar draws y ddinas; drwy gydol yr wythnos, gall cynulleidfaoedd gael blas ar ddigwyddiadau o bob math ledled y ddinas – o sgyrsiau cyn y cyngerdd i ddosbarthiadau meistr, datganiadau a ffilmiau. Bydd y manylion llawn yn cael eu cyhoeddi ddechrau 2017 – cadwch lygad ar ein gwefan am fanylion.
Bydd y datganiadau personol yn cael eu perfformio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gyda’r rownd derfynol yn cael ei chynnal yn Neuadd Dewi Sant. Bydd yr enillydd yn ennill Tlws Gwobr y Gân BBC Canwr y Byd Caerdydd a £7,500.
bbc.co.uk/cardiffsinger
TOCYNNAU TYMOR Y ffordd orau o brofi’r gystadleuaeth yw yn ei chyfanrwydd, a dyna pam mai ein tocynnau tymor yw’r ffordd orau i chi sicrhau eich seddi. Bydd y Tocynnau Tymor ar gael ar-lein yn unig o 10am ddydd Mawrth 10 o Ionawr 2017, o wefan Neuadd Dewi Sant stdavidshallcardiff.co.uk
Mae ennill BBC Canwr y Byd Caerdydd 2015 yn teimlo fel breuddwyd… dwi wedi cael gymiant o brofiadau ers hynny. Dwi mor falch o fod yn enillydd Canwr y Byd. Nadine Koutcher, Belarws Enillydd BBC Canwr y Byd Caerdydd 2015
TOCYNNAU’R BRIF WOBR Pedwar cyngerdd a’r rownd derfynol yn Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru, sef Neuadd fawreddog Dewi Sant: Cyngherddau Llun 12 Mehefin, 7.30pm Mawrth 13 Mehefin, 7.30pm Mercher 14 Mehefin, 7.30pm Iau 15 Mehefin, 7.30pm Rownd Derfynol y Brif Wobr Sul 18 Mehefin, 7pm
Pris
Lleoliad
A £205*
Seddi’r Llawr Gwaelod Haenau 1, 2, 8 Haen 11 Rhesi A-E
B £155*
Haenau 3, 7 Haen 10 Rhesi A-E Haen 11 Rhesi F-K Haen 12 Rhesi A-E
C £95*
Haen 9 Haen 10 Rhesi F-H Haen 12 Rhesi F-H Haen 13
GG £53*
Golygfa Gyfyngedig
Neuadd Dewi Sant
9 8 7
10
11 1
12
13 2
Seddau Llawr
Llwyfan *Mae Neuadd Dewi Sant yn codi ffi o £3.95 y trafodyn wrth archebu tocynnau.
3
TOCYNNAU TYMOR GWOBR Y GÂN Pedwar datganiad yn Neuadd Dora Stoutzker,** neuadd o’r radd flaenaf yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a’r rownd derfynol yn Neuadd Dewi Sant: Datganiadau Sul 11 Mehefin 2.30pm a 7.30pm Llun 12 Mehefin 2.30pm Mawrth 13 Mehefin 2.30pm Rownd Derfynol Gwobr y Gân Gwener 16 Mehefin 7.30pm
Cynnig Arbennig Archebwch ar gyfer y ddwy gystadleuaeth a thalu £49* yn unig ar gyfer Tocyn Tymor Gwobr y Gân.
Pris £65* * Mae Neuadd Dewi Sant yn codi ffi o £3.95 y trafodyn wrth archebu tocynnau. ** Nid yw’r seddi yn Neuadd Dora Stoutzker yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi’u neilltuo, a rhagwelwn y bydd Tocynnau Tymor Gwobr y Gân yn gwerthu allan yn gyflym iawn – felly peidiwch â cholli’r cyfle i sicrhau eich seddi!
Doeddwn i wir ddim yn disgwyl ennill y wobr yma – ges i gymaint o sioc, doeddwn i ddim yn credu’r peth! Jongmin Park, De Corea Enillydd Gwobr y Gân 2015
Mae’r tocynnau ar gyfer rownd derfynol Gwobr y Gân yn £15* i’r rheini sydd â thocyn tymor y brif wobr (£20* fel arfer)
GWYBODAETH ARCHEBU Bydd Tocynnau Tymor yn mynd ar werth am 10am ddydd Mawrth 10 Ionawr 2017.Yn 2017, bydd modd i chi archebu Tocyn Tymor ar-lein, drwy wefan Neuadd Dewi Sant stdavidshallcardiff.co.uk Ar werth ym mis Ionawr: • Tocyn Tymor y Brif Wobr • Tocyn Tymor Gwobr y Gân • Tocyn Tymor y Brif Wobr + Tocyn Tymor Gwobr y Gân • Archebu rhaglen ymlaen llaw • Rownd Derfynol Gwobr y Gân (i’r rhai sydd â Thocyn Tymor y Brif Wobr yn unig)
Tocynnau Unigol Bydd tocynnau ar gyfer perfformiadau unigol ar gael i’r cyhoedd o fis Mawrth 2017 ymlaen. Cofrestrwch i gael ein e-gylchlythyr yn bbc.co.uk/cardiffsinger i fod gyda’r cyntaf i glywed!
Rhaglen Gallwch archebu rhaglen y gystadleuaeth ymlaen llaw nawr am £10. Bydd taleb yn cael ei hanfon gyda’ch tocynnau, a gallwch ei chyfnewid yn eich digwyddiad cyntaf (Bydd rhaglenni ar wahân ar gael ar gyfer y rownd derfynol).
Mynediad Mae Neuadd Dewi Sant a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn rhan o gynllun cenedlaethol o’r enw Hynt sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydol ledled Cymru i ddarparu’r arfer gorau oll i gwsmeriaid o ran hygyrchedd a pholisi tocynnau teg. Mae gan ddeiliaid cardiau Hynt yr hawl i gael tocyn yn rhad ac am ddim (lle bo’n bosibl) ar gyfer cynorthwyydd neu ofalwr personol ym mhob theatr a chanolfan gelfyddydol sy’n rhan o’r cynllun. Ewch i hynt.co.uk/ cy/ i gael mwy o wybodaeth. Mae Dolenni Clywed ar gael yn y ddau leoliad – mae system isgoch ar gael yn yr awditoriwm yn Neuadd Dewi Sant a gellir ei defnyddio gyda neu heb gymorth clyw. Cofiwch ddweud wrth staff y Swyddfa Docynnau adeg archebu. Bydd yn ofynnol i gwsmeriaid y mae angen
Dolenni Clyw arnynt yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru dalu £5 o ernes a gaiff ei had-dalu. Mae’r ddau leoliad yn hygyrch ar gyfer cadeiriau olwyn, ac mae nifer gyfyngedig o lefydd wedi’u neilltuo ar gyfer cadeiriau olwyn a chynorthwywyr/gofalwyr ym mhob perfformiad. Cysylltwch â’r swyddfa docynnau am wybodaeth bellach ac er mwyn archebu tocynnau 029 2087 844
Dychwelyd Dim ond Tocynnau Tymor (yn cynnwys Tocynnau Tymor Gwobr y Gân) neu docynnau ar gyfer y Rownd Derfynol fydd yn cael eu derbyn i’w hailwerthu gan y swyddfa docynnau. Ni dderbynnir unrhyw docynnau unigolion eraill i’w hailwerthu. Bydd ffi weinyddol o 20% yn daladwy.
I gael mwy o wybodaeth am ein lleoliadau, cyfeiriwch at eu gwefannau unigol; Neuadd Dewi Sant – stdavidshallcardiff.co.uk/Welsh/ Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru – cbcdc.ac.uk
BBC CARDIFF SINGER OF THE WORLD 2017 CANWR Y BYD CAERDYDD 2017 Event Diary / Dyddiadur Digwyddiadau SUNDAY SUL June 11 Mehefin
Song Prize / Gwobr y Gân Recital / Datganiad 1 2:30pm u
MONDAY LLUN June 12 Mehefin
Song Prize / Gwobr y Gân Recital / Datganiad 3 2.30pm u
TUESDAY MARWTH June 13 Mehefin
Song Prize / Gwobr y Gân Recital / Datganiad 4 2.30pm u
WEDNESDAY MERCHER June 14 Mehefin
Main Prize / Prif Wobr Concert / Cyngerdd 3 7.30pm k
THURSDAY IAU June 15 Mehefin
Main Prize / Prif Wobr Concert / Cyngerdd 4 7.30pm k
FRIDAY GWENER June 16 Mehefin
Song Prize Final Rownd Derfynol Gwobr y Gân 7.30pm k
SATURDAY SADWRN June 17 Mehefin
Master Class Day Diwrnod Dosbarthiadau Meistri Details to be announced Manylion i’w cyhoeddi u
SUNDAY SUL June 18 Mehefin
Main Prize Final Rownd Derfynol Prif Wobr 7pm k
Meet the 2017 Jury Panel Beirniaid 2017
Song Prize / Gwobr y Gân Recital / Datganiad 2 7:30pm u
DAVID POUTNEY GRACE BUMBRY v b
JOHN GILHOOLY b
THOMAS QUASTHOFF v b
DAME KIRI TE KANAWA PATRON / NODDWR
bbc.co.uk/cardiffsinger k ST DAVID’S HALL / NEUADD DEWI SANT u ROYAL WELSH COLLEGE OF MUSIC AND DRAMA / COLEG BRENHINOL CERDD A DRAMA CYMRU
SUMI JO v
AILISH TYNAN b
© B Ealovega
Main Prize / Prif Wobr Concert / Cyngerdd 2, 7.30pm k
© Warren Orchard
vb
© Frances Marshall
CHAIR / CADEIRYDD
© Bernd Brundert
Main Prize / Prif Wobr Concert / Cyngerdd 1 7.30pm k
MAIN PRIZE / PRIF WOBR v SONG PRIZE / GWOBR Y GÂN b