BBC NOW - Season 24-25 (Cymraeg)

Page 1

TYMOR 2024-25 CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC bbc.co.uk/now

TUDALEN GYNNWYS

DYDDIAD CYNGERDD TEITL ARWEINYDD LLE? TUD 8/9/24 Sŵn a Sbri Jaime Martín NHC 4 20/9/24 Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru Nil Venditti CL 6 21/9/24 Opera & Elgar gyda BBC NOW Nil Venditti H 8 22/9/24 Opera & Elgar gyda BBC NOW Nil Venditti GAC 8 3/10/24 Stephen Hough yn Chwarae Brahms Ryan Bancroft NBA 10 24/10/24 BBC NOW - NOW! Gemma New NHC 12 7/11/24 Rhapsodïau Rhamantaidd Jaime Martín NBA 15 14/11/24 Darluniau o Brydain Martyn Brabbins CCA 17 15/11/24 Darluniau o Brydain Martyn Brabbins NPJ 17 16/11/24 Cowbois Rhos Botwnnog a’r Gerddorfa John Quirk P 18 21/11/24 Dawnsiau a Duwiau Nil Venditti NHC 21 5/12/24 Argraffiadau a Myfyrdodau Ryan Bancroft NHC 22 12/12/24 Messiah John Butt NHC 25 15/12/24 Carolau’r Ŵyl: Abertawe Adrian Partington NBA 26 19/12/24 Christmas Celebrations Pete Harrison NHC 29 22/12/24 Carolau’r Ŵyl: Wrecsam Adrian Partington NWA 26 11/1/25 Chwedlau a Chariad Antony Hermus NHC 30 12/1/25 Chwedlau a Chariad Antony Hermus NBA 30 30/1/25 La Voix Humaine Jaime Martín NHC 32 14/2/25 Shostakovich 6 Ryan Bancroft NHC 35 15/2/25 Shostakovich 6 Ryan Bancroft NBA 35 21/2/25 ‘Grace’ Emilia Hoving NHC 37 6/3/25 Boulez yn 100 Daniel Cohen NHC 39 13/3/25 March Tour Christoph König CCA 40

NEUADD HODDINOTT Y BBC, CAERDYDD

CADEIRLAN LLANELWY

HAFREN, Y DRENEWYDD

GLAN YR AFON, CASNEWYDD

NEUADD BRANGWYN, ABERTAWE

CANOLFAN Y CELFYDDYDAU ABERYSTWYTH

NEUADD PRICHARD-JONES, BANGOR

BANGOR

WILLIAM ASTON, WRECSAM THEATR BRYCHEINIOG, ABERHONDDU

EGLWYS GADEIRIOL LLANDAF

DEPOT, CAERDYDD

SYMPHONY HALL, BIRMINGHAM

CADEIRLAN CASNEWYDD

DYDDIAD CYNGERDD TEITL ARWEINYDD LLE? TUD 14/3/25 March Tour Christoph König NPJ 40 20/3/25 Gwychder Gwyllt Tadaaki Otaka NHC 43 21/2/25 Gwychder Gwyllt Tadaaki Otaka NBA 43 26/3/25 Cyfansoddi: Cymru Cyngerdd Terfynol Jac van Steen NHC 44 3/4/25 Rhamantwyr Cain Simone Menezes NHC 47 4/4/25 Rhamantwyr Cain Simone Menezes TB 47 10/4/25 Missa Solemnis Andrew Manze EGL 49 11/4/25 Missa Solemnis Andrew Manze NBA 49 27/4/25 CoLaboratory – Fiona Monbet Fiona Monbet D 50 1/5/25 Grym Gwerin James MacMillan NHC 53 2/5/25 Grym Gwerin James MacMillan NBA 53 15/5/25 Diwygiad a Bywiocâd Jörg Widmann NHC 54 29/5/25 Nodau a Gariad Ryan Bancroft SHB 56 30/5/25 Nodau a Gariad Ryan Bancroft NBA 56 20/6/25 Caneuon Tynged Ryan Bancroft NHC 58 3/7/25 Cyngherddau Amser Cinio Lesley Lesley Hatfield NHC 59 4/7/25 Cyngherddau Amser Cinio Lesley Lesley Hatfield CC 59
PONTIO,
NEUADD
NHC CL H GAC NBA CCA NPJ D P NWA TB EGL SHB CC
TRWYN EILIAN, YNYS MÔN, GOGLEDD CYMRU. GOLAU CYNNES Y BORE’N DISGLEIRIO AR DRAWS Y BAE.

CROESO CYNNES GAN EIN CYFARWYDDWR

Camwch i mewn i fyd o gerddoriaeth gyda ni, Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, a’n cyngherddau ar gyfer tymor 24-25. Gyda repertoire llawn dop o gerddoriaeth wych yn cael ei arwain a’i berfformio gan rai o gerddorion gorau’r byd, mae tymor arbennig o adloniant o’ch blaenau!

Os nad ydych chi erioed wedi bod i gyngerdd BBC NOW o’r blaen, gallwn addo cerddoriaeth wefreiddiol, awyrgylch hamddenol a chroeso cynnes iawn i chi.

Rydyn ni’n creu cerddoriaeth ar gyfer pawb yng Nghymru, a byddem wrth ein bodd pe baech chi’n ymuno â ni yn ein perfformiadau.

Felly beth allwch chi ei ddisgwyl gan ein cerddorfa a’n corws y tymor hwn?

O glasuron adnabyddus i gerddoriaeth ffres a chyfoes, o synau jazz atgofus i gyngherddau Nadolig clyd i’r teulu cyfan, byddwch yn sicr o glywed rhywbeth y byddwch yn ei adnabod a’i fwynhau. Byddwn yn croesawu ambell wyneb cyfarwydd yn ôl fel arweinyddion ac unawdwyr, ac rydym yn falch iawn o gyflwyno a darganfod artistiaid newydd.

Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, a byddwn yn parhau i fynd â’n cerddoriaeth o’r neuadd gyngerdd i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn galluogi pobl eraill i brofi cerddoriaeth a chael eu grymuso ganddi.

Ar y sgrin ac ar yr awyr, bydd cerddoriaeth

BBC NOW yn ymddangos mewn amrywiaeth eang o ddarllediadau gan gynnwys Radio 3, Doctor Who, rhaglenni natur, a darllediadau radio yma yng Nghymru. Bydd ein gwefan yn lansio cyfres newydd sbon o’n cyngherddau digidol poblogaidd a byddwn yn ffrydio perfformiadau penodol yn fyw o’n cartref yn Neuadd Hoddinott y BBC.

Mae ein holl waith, boed hynny yn y neuadd gyngerdd, ar y sgrin, ar yr awyr neu yn y gymuned, yn ein galluogi i gyflawni gwerthoedd craidd y BBC i hysbysu, addysgu a diddanu.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau pori drwy’r llyfryn hwn i ddarganfod beth sydd ar y gweill y tymor hwn. Cofiwch ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn i chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf am bopeth rydyn ni’n ei wneud.

Dymuniadau gorau

Cyfarwyddwr

HELO A CHROESO I DYMOR 2024-25.

Mae’r Prif Arweinydd Ryan Bancroft yn dychwelyd i agor y tymor gyda chyngerdd o waith Brahms, sef ei Goncerto 1af i’r Piano, a berfformir gan y rhagorol Stephen Hough, a threfniant cerddorfaol llawn a disglair

Schoenberg o Bedwarawd Piano Brahms yn G leiaf. Mae’r cyngherddau eraill gyda Ryan na ddylid eu colli yn cynnwys 6ed Symffoni Shostakovich ynghyd â’r perfformiad cyntaf yn y byd gan Gyfansoddwr Cyswllt

BBC NOW, Gavin Higgins, a dychweliad yr athrylith ar yr utgorn Håken Hardenberger yng Nghoncerto Weinberg i’r Utgorn. Mae concerto Simon Wills, a ysgrifennwyd ar gyfer ein prif drombôn ein hunain, Donal Bannister, yn cael ei berfformio am y tro cyntaf erioed ac rydym yn parhau â’n harchwiliad cerddorol o’r modernydd Americanaidd Charles Ives, y tro hwn gyda’i Symffoni 1af. Mae’r penigamp James Ehnes yn dychwelyd gyda Choncerto 1af Bartók i’r

Ffidil cyn i ni droi at un o’r gweithiau mwyaf yn y repertoire, sef 5ed Symffoni anferthol Mahler, ac mae Brahms yn ôl gyda Ryan wrth y llyw mewn cyngerdd sy’n cynnwys ei ail Serenâd a Song of Destiny cyn i ni droi at Symphony of Psalms gan Stravinsky lle bydd Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn ymuno â ni.

Mae Jaime Martín yn dychwelyd i’r

Gerddorfa yn ei dymor cyntaf fel Prif Arweinydd Gwadd, gan ddechrau gyda 6ed Symffoni Dvořák a Concerto poblogaidd Tchaikovsky i’r Ffidil gyda Nemanja Radulović. Yn ddiweddarach yn y tymor, bydd Jaime yn dychwelyd i ddathlu pen-blwydd Bruckner yn 200 oed gyda’i 4ydd Symffoni ramantus a Concerto Mendelssohn i’r Ffidil gydag Ellinor D’Melon; ac mae’r soprano Danielle

de Niese yn ymuno â ni ar gyfer opera un act Poulenc La voix humaine ochr yn ochr â’r hyfryd Ma Mère l’Oye gan Ravel. Bydd yr Arweinydd Llawryfog Tadaaki Otaka yn dychwelyd gyda symffoni olaf Rachmaninov, Penillion Grace Williams, ac mae Eldbjørg Hemsing yn ymuno ag ef ar gyfer concerto bywiog Bruch i’r ffidil.

Mae Andrew Manze yn dychwelyd ar gyfer ein cynnig dros y Pasg gyda’r gwaith yr oedd Beethoven yn ei ystyried oedd ei waith gorau, ei Missa Solemnis, lle bydd Corws Cenedlaethol Cymru yn ymuno â ni ynghyd â nifer o unawdwyr rhagorol. Mae’r Corws a grŵp arall o unawdwyr ardderchog yn cyfuno unwaith eto yn Stabat Mater Rossini ynghyd â La boutique fantasque Respighi, y cwbl dan gyfarwyddyd yr arweinydd byrlymus Nil Venditti.

Mae Antony Hermus yn arwain rhaglen

o The Cunning Little Vixen gan Janáček a Petrushka gan Stravinsky, a bydd y chwaraewr soddgrwth gwych Laura van der Heijden yn ymuno ar gyfer Concerto 1af Martinů i’r Soddgrwth. Mae’r cyfansoddwr a’r arweinydd o’r Alban, James Macmillan, yn ein harwain drwy fwy o waith Stravinsky yn ei Symphonies of Wind Instruments a Symphony in Three Movements, yn ogystal â’r perfformiad cyntaf erioed o’i concerto ef ei hun ar gyfer ewffoniwm, a berfformir gan David Childs, a gwaith hyfryd Vaughan

Williams In the Fen Country. Mae’r cyfansoddwr, y clarinetydd a’r arweinydd o’r Almaen Jörg Widmann yn arwain

Reformation Symphony Mendelssohn ochr yn ochr â’r perfformiad cyntaf yn y DU o’i

Concerto i’r Ffidil, a berfformir gan y seren

Carolin Widmann, ac i nodi pen-blwydd y cyfansoddwr/arweinydd Pierre Boulez yn

100 oed, byddwn yn cyflwyno cyngerdd sy’n cynnwys ei gerddoriaeth ef ochr yn ochr â cherddoriaeth y rhai y bu’n eu hyrwyddo. Yn ein cyfres BBC NOW – NAWR! rydym yn dathlu’r gorau o gynigion cerddorol newydd o bob cwr o’r byd, y tro hwn dan arweiniad Gemma New gyda cherddoriaeth gan Huw Watkins, Jessie Montgomery a’r concerto i’r ffidil gan Elena Kats-Chernin Fantasie im Wintergarten, a berfformir gan Emily Sun y cyfansoddwyd y darn ar ei chyfer. Mae ein cyfres Grace yn parhau i ddathlu gwaith Grace Williams ynghyd â chyfansoddwyr, arweinwyr ac unawdwyr benywaidd eraill. Eleni, mae Emilia Hoving yn dychwelyd i’r Gerddorfa i arwain Symffoni 1af Williams ynghyd â’r perfformiad cyntaf yn y DU o ICE gan Cecilia Darmström a’r perfformiad cyntaf erioed o waith Ninfea CruttwellReade, sef Concerto i’r Piano a berfformir gan Clare Hammond. Mae arweinydd gwych eich cerddorfa, Lesley Hatfield, yn ymddangos yn ei chyfres amser cinio ei hun gyda detholiad o’i hoff weithiau, ac ar gyfer tymor y Nadolig rydym yn cyflwyno Messiah Handel a dathliadau eraill yr ŵyl gyda Pete Harrison a’r seren sioeau cerdd Louise Dearman, ynghyd â’n Cyngerdd Carolau traddodiadol.

Rydyn ni’n mynd i Ogledd Cymru ar daith gyda dwy raglen, y gyntaf yn cynnwys Martyn Brabbins a’r mezzo-soprano ragorol Beth Taylor mewn rhaglen o weithiau Grace Williams, Elgar a Vaughan Williams. Mae Christoph König yn dychwelyd i’r Gerddorfa ar gyfer ein hail daith ac yn ymuno â ni bydd seren y sacsoffon Jess Gillam yn perfformio Glasslands gan Anna Clyne ynghyd â gweithiau gan Ravel, Farrenc a Shostakovich. Rydym hefyd yn teithio i

Aberhonddu ac yn perfformio yng Ngŵyl Llais. Ymhellach i ffwrdd, rydym yn teithio i Birmingham, Lichfield, Cheltenham ac wrth gwrs i Lundain ar gyfer yr ŵyl fwyaf un, Proms y BBC.

Yn y cyfamser, mae ein hymrwymiad i’n cynulleidfaoedd ifanc yn parhau gyda’n sioeau i ysgolion a theuluoedd a nifer o brosiectau cymunedol eraill gyda’n sefydliadau partner gwych. Byddwn hefyd yn parhau â’n gwaith recordio ar gyfer

BBC Radio 3, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru a’n partneriaid masnachol, gan ddal ati â’n hamserlen brysur o draciau sain ar gyfer ffilm a theledu ar yr un pryd.

Tymor penigamp o gerddoriaeth amrywiol a gwych yn cael ei harwain a’i pherfformio gan rai o brif gerddorion y byd gyda

Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol

Cymreig y BBC. Edrychaf ymlaen at eich gweld chi yno.

Matthew Wood

Pennaeth Rhaglennu a Chynhyrchu Artistig

SŴN A SBRI

Pa ffordd well o lansio ein tymor yn Neuadd Hoddinott am 2024-25 na dan arweiniad ein Prif Arweinydd Gwadd newydd, Jaime Martín. Gan agor gyda ‘diolch’ cerddorol Brahms – mae Academic Festival Overture yn cyfuno caneuon traddodiadol myfyrwyr gyda threfniant cerddorfaol a deinameg medrus a hynod i arddangos telynegiaeth ysgubol, bywiogrwydd doniol a theimlad anhygoel o hwyl.

Hefyd, un nad oedd byth yn brin o syniadau creadigol oedd Tchaikovsky a ysgrifennodd ei Goncerto i’r Ffidil mewn dim ond pythefnos fer o amser, yn rhyfeddol iawn. Gyda hud anochel a disgleirdeb cyffrous yn cydblethu i greu symlrwydd swynol, coronir y cyfan gan fedrusrwydd cyffelyb i arddangosfa tân gwyllt gan yr unawd ffidil, a berfformir yma gan y godidog Nemanja Radulović. Nid yw cyffyrddiad o aeddfedrwydd Dvořák byth yn fwy amlwg nag yn ei Chweched Symffoni, gyda thelynegiaeth ddi-ben-draw, mynegiant cynnes ac ysbryd Bohemaidd tanllyd byth ymhell o’i gyrraedd.

DYDD SUL 8/9/24 3PM

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

BRAHMS

Academic Festival Overture

TCHAIKOVSKY

Concerto i’r Ffidil

DVOŘÁK

Symffoni Rhif 6 –

JAIME MARTÍN

Arweinydd

NEMANJA RADULOVIĆ

Ffidil

TELYNEGOL RHAGOROL DYRCHAFOL

THREE CLIFFS, PENRHYN GŴYR. GOLYGFA BANORAMIG O’R HAUL YN MACHLUD DROS Y THREE CLIFFS.

5

GŴYL GERDD RYNGWLADOL GOGLEDD CYMRU

Ymunwch â ni yng Nghadeirlan Llanelwy ym mis Medi ar gyfer Gŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol Gogledd Cymru lle bydd yr arweinydd carismatig a deinamig Nil Venditti yn ymuno â ni.

Mae Yr Afon Yn Yr Awyr gan Cameron Biles-Liddell, a ysbrydolwyd gan draphont ddŵr Pontcysyllte, yn archwilio symudiad dŵr, o’i lifeiriant i’w natur ddawnsiol, o’r gwyllt ac egnïol i’r chwareus; cyn i’r pianydd o Gymru, Ellis Thomas, ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i berfformio’r Concerto Cyntaf i’r Piano gan William Mathias yn y flwyddyn pryd y byddai wedi dathlu ei ben-blwydd yn 90eg oed. Gan daro cydbwysedd rhwng yr ysgafn a’r aruchel, mae Enigma Variations gan Elgar yn dod â’r cyngerdd hwn i ben mewn steil – casgliad dyfeisgar o frasluniau cerddorol o’i ffrindiau a hunanbortread craff; mae enigma wedi’i guddio o fewn y sgôr wrth i bob amrywiad gael ei labelu â llythrennau cyntaf llysenwau’r ffrindiau.

NOS WENER 20/9/24 7.30PM Cadeirlan Llanelwy

CAMERON BILES-LIDDELL

Yr Afon Yn Yr Awyr

MATHIAS

Piano Concerto No. 1

ELGAR Enigma Variations –

NIL VENDITTI Arweinydd

ELLIS THOMAS

Piano

PORTREADOL
CYNHESOL SYNHWYRAIDD
7
RHAEADR OGWEN, PARC CENEDLAETHOL ERYRI. DAN LYN OGWEN YM MYNYDDOEDD ERYRI.

OPERA & ELGAR GYDA BBC NOW

Ymunwch â BBC NOW a’r Artist Cenhedlaeth

Newydd Niamh O’Sullivan ar gyfer ‘Noson yn yr Opera’ ym mis Medi.

Bydd yr arweinydd tanbaid, Nil Vendetti, yn ein harwain yn y gala hon o ffefrynnau operatig – o Carmen eiconig a hudolus Bizet, i O mio Fernando rhamantus hyfryd Donizetti, gan deithio heibio Preludio Sinfonico dramatig ac angerddol Puccini ac Intermezzo Cavalleria emynol Mascagni, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau.

Yn yr un modd â darlunio cymeriadau mewn opera, mae Elgar yr un mor fedrus yn ei allu i bortreadu cymeriadau drwy gerddoriaeth, yn ei Enigma

Variations, felly beth sy’n well i ddiweddu’r noson.

Yn ysgafn ond eto’n aruchel, mae’r amrywiadau hyn yn gasgliad celfydd o frasluniau cerddorol o’i ffrindiau a hunanbortread craff; mae enigma wedi’i guddio o fewn y sgôr wrth i bob amrywiad gael ei labelu â llythrennau cyntaf llysenwau’r ffrindiau.

DYDD SADWRN 21/9/24 3PM

Hafren, Y Drenewydd

DYDD SUL 22/9/24 3PM

Glan yr Afon, Casnewydd

BIZET

Agorawd Carmen

BIZET

Habanera o Carmen

BIZET

Chanson Bohème o Carmen

PUCCINI

Preludio Sinfonico

DONIZETTI

O mio Fernando o La Favourite

MASCAGNI

Intermezzo Cavalleria

RUPERTO CHAPI

Al pensar (Carceleras) o Las hijas del Zebedeo

ELGAR

Enigma Variations –

NIL VENDITTI

Arweinydd

NIAMH O’SULLIVAN

Mezzo Soprano

ANGERDDOL DIGAMSYNIOL
LLAWN CYMERIAD
9
PONT DROED DINAS CASNEWYDD, AFON WYSG. YR HAUL YN MACHLUD Y TU ÔL I’R BONT.

STEPHEN HOUGH YN CHWARAE BRAHMS

Mae’r pianydd byd-enwog Syr Stephen Hough yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a’r Prif Arweinydd Ryan Bancroft i ddechrau tymor 2024-25 yn Abertawe gyda rhaglen o Brahms a rhai o’i weithiau mwyaf eiconig ar gyfer y piano.

Yn ddigyfaddawd a meistrolgar, mae ei Goncerto Cyntaf i’r Piano yn dal yn ffefryn gyda’r gynulleidfa a’r perfformiwr fel ei gilydd. O’r symudiad araf disglair i’r diweddglo sionc, mae’r concerto hwn yn dangos cyfuniad hynod ddiddorol o dreftadaeth gerddorol ac agwedd flaengar sy’n unigryw i Brahms.

Wedi’i berfformio am y tro cyntaf yn 1861, a’i drefnu ar gyfer cerddorfa gan Schoenberg yn 1937, mae Pedwarawd Brahms yn arddangosfa ddyfeisgar o amrywiad a thrawsnewid. Mae cymryd syniadau cerddorol ac archwilio eu posibiliadau ar unwaith yn paratoi’r ffordd ar gyfer arddangosfa ar raddfa fawr sy’n datblygu’n gyson gan ddangos ceinder, disgleirdeb a gorfoledd.

NOS IAU 3/10/24 7.30PM

Neuadd Brangwyn, Abertawe

BRAHMS

Concerto i’r Piano Rhif 1

BRAHMS TREFN.

SCHOENBERG

Pedwarawd Piano Rhif 1 –

RYAN BANCROFT

Arweinydd

STEPHEN HOUGH

Piano

MEISTROLGAR DISGLAIR BYWIOG
11
LLYN OGWEN, GOGLEDD-ORLLEWIN CYMRU. TRYFAN, GYDA GOLYGFA O DDŴR DROS GREIGIAU A LLYN HIRGUL.

Mae BBC NOW – NAWR!, ein cyfres bwrpasol ar gyfer y gerddoriaeth newydd orau sy’n cael ei hysgrifennu heddiw, yn ôl yr hydref hwn gyda dau berfformiad cyntaf yn y DU, yn ogystal â symffoni gan ein cyn Gyfansoddwr Cyswllt, Huw Watkins. Yn gyntaf, y perfformiad cyntaf yn y DU o Coincident Dances gan Jessie Montgomery. Mae egni gwyllt a phalet amlddiwylliannol clywedol yn disgleirio yn y portread hwn o seiniau Efrog Newydd. Daw’r ail berfformiad cyntaf yn y DU ar ffurf concerto Elena Kats-Chernin i’r ffidil, Fantasie im Wintergarten, a ysgrifennwyd ar gyfer yr unawdydd heno, Emily Sun. Wedi’i ysbrydoli gan ffilm fud o’r 1920au a oedd wedi’i gosod yn syrcas ffair y Wintergarten yn Berlin, mae’r concerto yn archwilio’r cyferbyniad rhwng cariad a brad – o olau i gysgod, tango i anhrefn, meistrolaeth i delynegiaeth ohiriedig. I gloi, trown at Ail Symffoni Huw Watkins, a ysgrifennwyd yn ystod y pandemig, mae’r gwaith hwn ar raddfa fawr, er ei fod yn gymharol fyr, ac yn rhoi cyflwyniad grymus o wead hudolus ac alaw lydan.

NOS IAU 24/10/24 7.30PM

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

JESSIE MONTGOMERY

Coincident Dances [Premiere DU]

ELENA KATS-CHERNIN

Fantasie im Wintergarten [Premiere DU]

HUW WATKINS

Symffoni Rhif 2 –

GEMMA NEW Arweinydd

EMILY SUN Ffidil

BBC NOW – NOW!
EGNÏOL ERGYDIOL
FFRES
13
BAE LANGLAND, GŴYR, ABERTAWE. YR HAUL YN CODI DROS Y BAE AR HYD ARFORDIR GŴYR.

RHAPSODÏAU RHAMANTAIDD

Wedi’i gyfansoddi ar gyfer ei ffrind annwyl, Ferdinand

David, mae Concerto Mendelssohn i’r Ffidil yn gain a chyfareddol. Yn gyforiog o delynegiaeth a dyfeisgarwch strwythurol, nid yw’n syndod bod y concerto hwn wedi sefydlu ei hun yn gadarn fel un o’r concerti mwyaf poblogaidd ohonynt i gyd. I berfformio, rydyn ni’n falch iawn o groesawu seren newydd ac un sydd wedi ennill sawl gwobr, sef Ellinor D’Melon.

Fel modd o ddathlu ei ben-blwydd yn 200 oed, bydd

Pedwaredd Symffoni Bruckner yn ganolog i ail hanner y cyngerdd hwn, dan arweiniad ein Prif Arweinydd Gwadd, Jaime Martín. Mae unawdau godidog i’r cyrn yn esgyn yn uchel yn erbyn disgleirdeb llinynnau, gyda gorymdeithiau angladdol yn cydblethu â choralau

Almaenig ac mae egni cerddoriaeth hela a thriawdau ysgafn yn ein hatgoffa o Haydn neu Beethoven yn y symffoni liwgar hon.

TRAWIADOL LLIWGAR

RHAPSODIG

NOS IAU 7/11/24 7.30PM

Neuadd Brangwyn, Abertawe

MENDELSSOHN

Concerto i’r Ffidil

BRUCKNER

Symffoni Rhif 4 ‘Rhamantaidd’ –

JAIME MARTÍN

Arweinydd

ELLINOR D’MELON

Ffidil

15
PONT Y BORTH, YNYS MÔN. Y BONT YN EDRYCH DROS Y FENAI.

DARLUNIAU O BRYDAIN

Mae Martyn Brabbins yn camu i’r podiwm mewn rhaglen o gampweithiau Prydeinig wrth i ni deithio i Aberystwyth a Bangor ym mis Tachwedd eleni.

Gan agor gydag agorawd o waith Grace Williams o’r Barri, Hen Walia, a ysbrydolwyd gan alawon gwerin, yn enwedig yr hwiangerdd Huna Blentyn, rydyn ni’n symud ymlaen at gylch caneuon hynod Brydeinig a hudolus Elgar, ei Sea Pictures – portread cerddorol byw o’r môr a’i gymeriadau cyfnewidiol. I berfformio’r gwaith anhygoel hwn, mae’n bleser gennym gael cwmni Beth Taylor, a gyrhaeddodd rownd derfynol Canwr y Byd Caerdydd.

Ar gyfer yr ail hanner, cawn fwynhau symffoni gan athro Grace Williams, sef Vaughan Williams. Wedi’i chyfansoddi yn ystod yr Ail Ryfel Byd, mae ei Bumed Symffoni yn waith myfyriol ond rhythmig gyffrous, sy’n llifo’n odidog ac yn wrthgyferbyniad llwyr i’r cythrwfl o’i chwmpas.

NODWEDDIADOL GOGONEDDUS MOETHUS

NOS IAU 14/11/24 7.30PM

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

NOS WENER 15/11/24 7.30PM

Neuadd Prichard-Jones, Bangor

GRACE WILLIAMS

Hen Walia

ELGAR

Sea Pictures

VAUGHAN WILLIAMS

Symphony No. 5 –

MARTYN BRABBINS

Arweinydd

BETH TAYLOR

Mezzo Soprano

17

COWBOIS RHOS BOTWNNOG A’R GERDDORFA

Yn dilyn llwyddiant ysgubol eu pumed albwm Mynd A’r Tŷ Am Dro a thaith tu hwnt o boblogaidd yn y gwanwyn, bydd cerddoriaeth brydferth a hudolus Cowbois Rhos

Botwnnog yn cael ei berfformio mewn cyngerdd arbennig, gyda John Quirk yn trefnu’r gerddoriaeth ac yn arwain y Gerddorfa. Cyflwynir y noson gan Aled Hughes, BBC Radio Cymru.

DIFYR MYNWESOL UNIGRYW

NOS SADWRN 16/11/24 8PM Pontio, Bangor

GIG PONTIO

Pontio, fe fyddwn ni’n ôl ym mis Mawrth ar gyfer prosiect arall ar y cyd â BBC Radio Cymru. Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol yn nes ymlaen eleni am ragor o wybodaeth.

COWBOIS RHOS BOTWNNOG

JOHN QUIRK Arweinydd

SATURDAY 15/3/25 8PM

Pontio, Bangor

CADWCH Y DYDDIAD YN RHYDD
COWBOIS RHOS BOTWNNOG

SUT I ARCHEBU

NEUADD HODDINOTT Y BBC

Lefel 2, Canolfan Mileniwm Cymru

Plas Bute, Caerdydd, CF10 5AL

Tocynnau: 02920 878444 stdavidshallcardiff.co.uk

NEUADD BRANGWYN

The Guildhall, Abertawe, SA1 4PE

Tocynnau: 01792 475715 brangwyn.co.uk

ABERYSTWYTH ARTS CENTRE

Prifysgol Aberystwyth, Campws Penglais

Aberystwyth SY23 3DE

Tocynnau: 01970 623232 aberystwythartscentre.co.uk

BIRMINGHAM SYMPHONY HALL

Broad Street, Birmingham, B1 2EA

Tickets: 0121 289 6343 bmusic.co.uk/bclassical

NEWPORT CATHEDRAL

Stow Hill, Newport, NP20 4ED

Tickets: newportcathedral.org.uk

PONTIO, BANGOR

Prifysgol Bangor, Pontio

Ffordd Deiniol, Bangor LL57 2TQ

Tocynnau: 01248 382828 pontio.co.uk

ST ASAPH CATHEDRAL

High Street, St Asaph, LL17 0RD

Tickets: nwimf.com/

THEATR HAFREN, Y DRENEWYDD

Dysgwch ragor am Gerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn bbc.co.uk/now neu drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol:

Twitter: @BBCNOW @BBCNOWCYMRAEG

Facebook: Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Instagram: @_bbcnow

Cofiwch ein dilyn i gael yr holl newyddion a chynnwys diweddaraf am BBC NOW, ac rydyn ni bob amser yn falch o glywed gennych chi, felly cofiwch gysylltu drwy unrhyw un o’r uchod, neu drwy anfon e-bost atom yn now@bbc.co.uk

Heol Llanidloes, Y Drenewydd, Powys, SY16 4HU

Tocynnau: 01686 948100 thehafren.co.uk

THE RIVERFRONT

Kingsway, Newport, NP20 1HG

Tickets: 01633 656757

newportlive.co.uk

19
GOLAU’N DISGLEIRIO DRWY WYDR LLIW HARDD.

DAWNSIAU

A DUWIAU

Dychmygwch ddoliau’n dawnsio mewn siop deganau hudolus, a phâr o ddawnswyr can-can gwych yn cynllwynio i aros gyda’i gilydd waeth beth fo’r gost, ac mae gennych chi stori swynol La boutique fantasque. Gyda’i gerddoriaeth fywiog a hwyliog, mae’r bale hwn yn ddilyniant o ddawnsfeydd godidog, pob un yn fwy bywiog na’r un o’i blaen, ac yn bleser pur i wrando arno.

I’r gwrthwyneb, mae Stabat Mater Rossini yn waith sy’n hofran ar ymyl sentimentaliaeth gysegredig ac opera coeg-ddramatig. Mae gorchestwaith ac alawon hudolus a chofiadwy’r ‘Cujus animam’ a thân a brwmstan yr ‘inflammatus et acccensus’ yn cydblethu’n ddi-dor â rhinweddau cwbl gysegredig y ‘Eja Mater’ a’r ‘Quando corpus morietur’, sy’n adlewyrchu nodweddion wylofus cerddoriaeth eglwysig cyn-glasurol – campwaith o’r galon sy’n llawn mynegiant, yn lluniaidd yn lleisiol ond eto’n rhythmig ac yn amlwg operatig.

NOS IAU 21/11/24 7.30PM

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

RESPIGHI

Cyfres La boutique fantasque

ROSSINI

Stabat Mater

NIL VENDITTI

Arweinydd

MASABANE CECILIA

RANGWANASHA

Soprano

TARA ERRAUGHT

Mezzo Soprano

LEVY SEGKAPANE

Tenor

ASHLEY RICHES

Bariton-bas

CORWS CENEDLAETHOL

CYMREIG Y BBC

21
THEATRIG HUDOLUS SWYNOL

ARGRAFFIADAU A MYFYRDODAU

Mae’r Môr Tawel, gyda’i donnau mawr, y llif rhydd a’r sïo ar y tywod, yn gefndir i Tumblebird Contrails gan Gabriella Smith. Mae gwylanod dolefus a brain chwareus uwchben, a llwybr awyren rhithiol yn peintio lluniau ar draws drych yr awyr i gyfeiliant llanw a thrai’r môr yn y portread cerddorol argraffiadol hwn. Mae Donal Bannister o BBC NOW yn camu allan o’r gerddorfa ac i safle’r unawdydd yn y perfformiad cyntaf erioed o’r Concerto i’r Trombôn gan Simon Wills, a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer Donal, cyn i’r Prif Arweinydd Ryan Bancroft barhau i archwilio gweithiau Charles Ives gyda BBC NOW, y tro hwn gyda’i Symffoni Gyntaf. Mae alawon myfyriol yn cyferbynnu â themâu egnïol ac alawon tebyg i emynau sy’n frith o delynegiaeth esgynnol yn y symffoni Ramantaidd hon.

NOS IAU 5/12/24 7.30PM

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

GABRIELLA SMITH

Tumblebird Contrails

SIMON WILLS

Trombone Concerto: Nora

Barnacle Assumes Command [Premiere Byd]

IVES Symphony No. 1 –

RYAN BANCROFT

Arweinydd

DONAL BANNISTER

Trombôn

DYNAMIG FFRI LLIWGAR
23
BAE BARAFUNDLE. DŴR YN COFLEIDIO’R CREIGIAU YN Y BAE. ABATY TYNDYRN, SIR FYNWY. AR LAN AFON GWY.

MESSIAH

Dechreuwch eich Nadolig eleni gydag un o’r gweithiau corawl mwyaf adnabyddus a phoblogaidd yng ngherddoriaeth y Gorllewin, y Messiah gan Handel. Wedi’i hen sefydlu fel un o draddodiadau’r Nadolig i gynulleidfaoedd ledled y byd, mae Messiah Handel yn wir ddathliad o Ŵyl y Geni; yn fywiocaol ac eto’n emosiynol a soniarus iawn. Yn cynnwys testun ysgrythurol a gasglwyd gan Charles Jennes, o Feibl y Brenin Iago a salmau o’r Llyfr Gweddi Gyffredin, mae’r

Messiah yn cynnwys peth o’r gwaith oratorio mwyaf gwefreiddiol yn y repertoire, gan gynnwys ‘Cans i nyni fe aned mab’, ‘Yr utgorn a gân’ a’r corws ‘Haleliwia’ enwog.

Ymunwch â Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, ochr yn ochr â’r arweinydd byd-enwog John Butt, am brofiad gwir orfoleddus dros yr ŵyl!

GORFOLEDDUS

NOS IAU 12/12/24 7PM

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

HANDEL Messiah –

JOHN BUTT

Arweinydd

FFLUR WYN

Soprano

MARTA FONTANALSSIMMONS

Mezzo Soprano

JOSHUA ELLICOTT

Tenor

JAMES ATKINSON

Bass

CORWS CENEDLAETHOL

CYMREIG Y BBC

TYMHOROL YSBRYDOL
25

CAROLAU’R ŴYL: ABERTAWE

Carolau Nadolig mewn siwmperi clyd, plant yn canu’n llawen, darlleniadau gan eich hoff gyflwynwyr BBC Cymru Wales ac offerynnau taro a phres godidog. Beth arall allai fod ei angen arnoch i fynd i ysbryd y Nadolig?

Ymunwch â Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC gyda’u cyfarwyddwr artistig Adrian Partington, ynghyd â chôr

mawr o blant o ysgolion ledled Cymru sydd wedi dod at ei gilydd ar gyfer y dathliad Nadolig blynyddol disglair a mawreddog hwn. Gwledd berffaith i’r teulu i gyd ar brynhawn dydd Sul.

LLAWEN

CALONOGOL SIRIOL

DYDD SUL 15/12/24 3PM Neuadd Brangwyn, Abertawe

ADRIAN PARTINGTON Arweinydd

CORWS CENEDLAETHOL

CYMREIG Y BBC

COR PLANT UNEDIG

TRAPHONT DDŴR PONTCYSYLLTE, LLANGOLLEN. STRWYTHUR CERRIG A HAEARN BWRW AG 19 BWA.

CAROLAU’R ŴYL: WRECSAM

Carolau Nadolig mewn siwmperi clyd, plant yn canu’n llawen ac offerynnau pres ac offerynnau taro dyrchafol. Beth arall allai fod ei angen arnoch i fynd i ysbryd y Nadolig?

Ymunwch â Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC gyda’u cyfarwyddwr artistig Adrian Partington, ynghyd â chôr mawr o blant o bob cwr o Ogledd Cymru sydd wedi dod at ei gilydd ar gyfer y dathliad Nadolig blynyddol disglair a mawreddog hwn. Gwledd berffaith i’r teulu i gyd ar brynhawn dydd Sul.

LLAWEN

CALONOGOL SIRIOL

DYDD SUL 22/12/24 3PM Neuadd William Aston, Wrecsam

ADRIAN PARTINGTON Arweinydd

NEW VOICES

COR PLANT UNEDIG

27
COEDEN NADOLIG AC ADDURNIADAU

CHRISTMAS CELEBRATIONS

Mae ein Dathliadau Nadolig hynod boblogaidd yn ôl!

Bydd un o sêr y West End, Louise Dearman, yn camu i’r llwyfan ochr yn ochr â Cherddorfa Genedlaethol

Gymreig y BBC a’r arweinydd Pete Harrison am noson yn cynnwys eich hoff alawon Nadolig, pob un gyda naws jazz a swing. O Santa Claus is Coming to Town a Have Yourself a Merry Little Christmas, i Sleigh Ride a Rudolph the Red Nosed Reindeer, ynghyd ag ambell syrpreis ar hyd y ffordd, mae’r cracer Nadolig bywiog hwn yn berffaith i’r teulu i gyd ac yn siŵr o’ch rhoi mewn hwyliau da. Felly cofiwch wisgo eich siwmperi

Nadolig a’ch hetiau Nadoligaidd, ac ymunwch â ni yn

Neuadd Hoddinott y BBC i gael noson swingtastig o gerddoriaeth.

HWYLIOG JASAIDD

HWYL

DYDD IAU 19/12/24

3PM & 7PM

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

PETE HARRISON

Arweinydd

LOUISE DEARMAN

Canwr

29

CHWEDLAU A CHARIAD

Dechreuwch ar eich taith gerddorol y mis Ionawr hwn gyda The Cunning Little Vixen, y comedi drasig eithriadol o boblogaidd gan Janáček. Gydag adrannau pantomeim symffonig byr a bachog, wedi’u trefnu’n ddyfeisgar i roi eu motiff rhythmig eu hunain i bob cymeriad, mae’r gyfres werinol hon yn llawn harmoni toreithiog a naws sy’n frith o natur a chariad.

Mae’r chwaraewr soddgrwth hynod boblogaidd

Laura van der Heijden yn dychwelyd i BBC NOW gyda pherfformiad o waith athletaidd a gwerinol

Martinů, ond eto’n llawn mynegiant, sef y Concerto i’r Soddgrwth, cyn i’r arweinydd Antony Hermus droi’n feistr pypedau yn Petrushka gan Stravinsky. Mae Petrushka, y digrifwas gwrthryfelgar yn syrthio mewn cariad â Balerina sy’n syrthio mewn cariad â Mŵr yn y stori werin dynghedus hon, gyda’r pyped sy’n dawnsio ac yn ffustio yn ei anobaith yn cael ei weindio’n gelfydd gan rythm ac offeryniaeth ddyfeisgar Stravinsky.

HUDOLUS TRAWIADOL GWERINOL

DYDD SADWRN 11/1/25 3PM

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

DYDD SUL 12/1/25 3PM

Neuadd Brangwyn, Abertawe

JANÁČEK

Cyfres The Cunning Little Vixen

MARTINŮ

Concerto i’r Soddgrwth Rhif 1

STRAVINSKY

Petrushka (fersiwn 1947) –

ANTONY HERMUS

Arweinydd

LAURA VAN DER HEIJDEN

Soddgrwth

CELLWEIRIWR DIRGEL. EDRYCH TUA’R PELLTER.
31

LA VOIX HUMAINE

Mae’r Prif Arweinydd Gwadd, Jaime Martín, yn ein harwain mewn rhaglen o berlau Ffrengig, gan ddechrau gyda dathliad o 150 mlynedd ers geni Ravel. Mae ei sgôr hudolus, synhwyrus, cyfareddol a chwareus i’r bale Ma Mère l’Oye yn seiliedig ar straeon tylwyth teg clasurol, o Sleeping Beauty a Little Ugly i Tom Thumb a Beauty and the Beast.

Ar ôl yr egwyl, bydd y seren opera, Danielle de Niese, yn perfformio am y tro cyntaf gyda BBC NOW mewn perfformiad wedi’i lwyfannu’n rhannol fel Elle yn opera un-act bwerus Poulenc, La voix humaine. Yn ystod galwad ffôn gan ei chariad, mae galar a gwadu yn arwain at ddicter ac anobaith wrth iddo ddwyn eu perthynas i ben – thema dragwyddol o gariad unochrog yn dod yn fyw o flaen ein llygaid.

NOS IAU 30/1/25 7.30PM

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

RAVEL

Ma Mère l’Oye

POULENC

La voix humaine –

JAIME MARTÍN

Arweinydd

DANIELLE DE NIESE

Soprano

THEATRIG
SYFRDANOL
BYWIOG

PARC CENEDLAETHOL ERYRI. COEDEN UNIG YN EDRYCH DROS Y LLYN PRYDFERTH.

33

SHOSTAKOVICH 6 GYDA RYAN BANCROFT

Bydd y Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, ar y podiwm i arwain y perfformiad cyntaf erioed o waith y Cyfansoddwr Cysylltiedig Gavin Higgins, sef

A Monstrous Little Suite o’i opera The Monstrous Child, cyn i Håken Hardenberger ddychwelyd i BBC NOW ar gyfer un o’r concerti gorau o’i fath, sef y Concerto chwareus, gafaelgar a ffraeth i’r Utgorn gan Weinberg. Gyda chysgodion tywyllwch, i waltz herciog, mae’r concerto hwn yn dyfynnu’n ddyfeisgar gerddoriaeth o rai o’r gweithiau mwyaf poblogaidd sy’n bod, o Carmen gan Bizet i Petrushka gan Stravinsky, o Ymdeithgan Priodas eiconig Mendelssohn i bumed symffoni Mahler. Mae drama dywyll yn cyferbynnu â phenysgafndod llwyr yn Chweched Symffoni Shostakovich, gan ddangos amrywiad caleidosgopig ar ei fwyaf llachar.

Mae’r symudiad agoriadol hir, hiraethus, araf a hyfryd hwn yn ildio i ddau scherzo syfrdanol gydag alaw ac awyrgylch fyrlymol yn carlamu drwy’r gerddorfa yn y syrcas gerddorol fywiog a chroch hon.

NOS WENER 14/2/25 7.30PM

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

NOS SADWRN 15/2/25 7.30PM

Neuadd Brangwyn, Abertawe

GAVIN HIGGINS

A Monstrous Little Suite [Premiere Byd]

WEINBERG

Concerto i’r Utgorn

SHOSTAKOVICH

Symffoni Rhif 6 –

RYAN BANCROFT

Arweinydd

HÅKAN HARDENBERGER Utgorn

BYRLYMUS

AMRYWIOL GWEFREIDDIOL
35
PARC CENEDLAETHOL ERYRI. GOLYFA O’R GADWYN O FYNYDDOEDD A LLYN.

TIR GWASTAD GER JOKULSARLON. DE GWLAD YR IÂ.

‘GRACE’

Rydym yn parhau â’n cyfres Grace sy’n arddangos talent a menywod Cymru mewn cerddoriaeth y gwanwyn hwn gyda gweithiau gan Cecilia Darmström, Ninfea Cruttwell-Reade a Grace Williams, i gyd dan faton Emilia Hoving.

Gan fynegi effeithiau cynhesu byd-eang a chwymp ecosystemau hanesyddol, mae ICE Cecilia Darmström yn darlunio drwy gerddoriaeth y ddaear yn brwydro am ei bodolaeth, a sut y gallem weindio’r broses hon yn ôl.

Bydd Concerto i’r Piano gan y cyfansoddwr o Brydain, Ninfea Cruttwell-Reade, yn cael ei berfformio am y tro cyntaf erioed gyda Clare Hammond, aelod rheolaidd o BBC NOW wrth y piano, cyn i ni droi at yr un a roes ei henw i’r gyfres, Grace Williams. Un o’i gweithiau cynharaf, a chredir mai dyma’r symffoni gyntaf i’w hysgrifennu erioed gan gyfansoddwr o Gymru, mae ei Symffoni Gyntaf ddramatig wedi’i hysbrydoli gan y rebel Cymreig o’r bymthegfed ganrif, Owain Glyndŵr.

NOS WENER 21/2/25 7.30PM

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

CECILIA DARMSTRÖM

ICE [Premiere DU]

NINFEA CRUTTWELLREADE

Concerto i’r Piano [Premiere Byd]

GRACE WILLIAMS

Symffoni Rhif 1 –

EMILIA HOVING

Arweinydd

CLARE HAMMOND

Piano

PERTHNASOL
YSBRYDOLEDIG GWREIDDIOL
37

ABERYSTWYTH, GORLLEWIN CYMRU.

TON YN BYRLYMU AR HYD MUR Y PIER AR FACHLUD HAUL.

BOULEZ YN 100

A hithau’n ben-blwydd Pierre Boulez yn 100 oed, mae’r arweinydd Daniel Cohen yn ymuno â BBC NOW am noson o berlau’r 20fed Ganrif, gan ddechrau gyda Livres pour cordes gan Boulez ei hun. Mae harddwch a dyfnder anfesuradwy yn rhedeg yn ddwfn yn y gwaith onglog a darniog hwn, sy’n hyfryd o delynegol drwyddo.

Bydd Ava Bahari yn ymddangos am y tro cyntaf gyda BBC NOW yng ngwaith enwocaf Berg, a’r un sy’n cael ei berfformio amlaf, ei Goncerto pwerus i’r Ffidil, cyn i Brif Ffliwtydd BBC NOW, Matthew Featherstone, gamu i safle’r unawdydd ar gyfer Memoriale Boulez, arddangosfa ddeinamig a meistrolgar o dechneg ffliwt estynedig. Ei gyn athro, a’i ddylanwad ysbrydoledig, Olivier Messiaen ddaw nesaf wrth i ni archwilio ei Les Offrandes oubliée ac rydyn ni’n profi cynnwrf cariad gwaharddedig yn ymgorfforiad cerddorol Wagner o ddrama, Tristan und Isolde

NOS IAU 6/3/25 7.30PM

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

BOULEZ

Livres pour cordes

BERG

Concerto i’r Ffidil

BOULEZ Memoriale

MESSIAEN

Les Offrandes oubliées

WAGNER

Prelude und Liebestod o Tristan und Isolde –

DANIEL COHEN

Arweinydd

AVA BAHARI

Ffidil

MATTHEW

FEATHERSTONE

Ffliwt

CYFOES DYLANWADOL
GOLEUEDIG
39

SHOSTAKOVICH 9 GYDA CHRISTOPH KÖNIG

Yn 2025 bydd hi’n 50 mlynedd ers marwolaeth Shostakovich, felly i ddathlu ei fywyd, rydyn ni’n mynd â’i Nawfed Symffoni gyffrous i Aberystwyth a Bangor ym mis Mawrth. Ar raddfa fach, ond yn llawn hiwmor, roedd y symffoni hon yn syndod i bawb pan berfformiwyd hi gyntaf, gyda’i chyffyrddiadau o slapstic, themâu bywiog a naws hwyliog tebyg i ddawns.

Mae’r seren sacsoffon, Jess Gillam, yn ymuno â ni ar gyfer Glasslands gan Anna Clyne, gan gyfleu byd dychmygol sy’n cael ei reoli gan fwgan, ac rydyn ni’n archwilio Ail Agorawd Louise Farrenc. Yn cael ei hystyried yn un o gerddorion benywaidd mwyaf blaenllaw ei chyfnod, mae’r agorawd hyfryd hon yn datblygu cymeriad emosiynol tywyll gyda themâu a rhythmau wedi’u plethu’n eang ac yn fedrus, ochr yn ochr â’r telynegol ysgafn. Ond yn gyntaf, Le Tombeau de Couperin gan Ravel – teyrnged nid yn unig i’r cyfansoddwr François Couperin, ond i gerddoriaeth Ffrengig y 18fed ganrif. Mae trefniant cerddorfaol croyw a rhythmau treiddgar yn cyd-fynd â throadau melodaidd a harmonig mewn gwaith a fu’n eiconig i wrandawyr ers genedlaethau.

NOS IAU 13/3/25 7.30PM

Canolfan y Celfyddydau

Aberystwyth

NOS WENER 14/3/25 7.30PM

Neuadd Prichard-Jones, Bangor

RAVEL

Le Tombeau de Couperin

ANNA CLYNE

Glasslands

FARRENC

Agorawd Rhif 2

SHOSTAKOVICH

Symffoni Rhif 9 –

CHRISTOPH KÖNIG

Arweinydd

JESS GILLAM

Sacsoffon

CHWAREUS CYFAREDDOL EPIG

41
RHAEADR PONTARFYNACH, ABERYSTWYTH. CALON MYNYDDOEDD CAMBRIA. TRAETH MARLOES, SIR BENFRO. MORLIN GREIGIOG DDRAMATIG.

GWYCHDER GWYLLT

Mae alawon lled-fyrfyfyr yn plethu â chyfeiliant rhythmig, gan ein hatgoffa o ganeuon gwerin yn cael eu canu â’r delyn yn Penillion Grace Williams.

Mae telynegiaeth fyfyriol yn troi’n ddawnsiau tanllyd, cyffrous yn yr agoriad cyngerdd hudolus hwn, dan arweiniad ein Harweinydd Llawryfog poblogaidd, Tadaaki Otaka.

Mae alaw esgynnol, gwagymffrost hynod, a meistrolaeth andros o anodd yn disgleirio yng

Nghoncerto angerddol Bruch i’r Ffidil. O dân gwyllt yr unawdydd i’w gefndir cerddorfaol cyfoethog, does dim rhyfedd bod y concerto hwn yn dal yn ffefryn gydag unawdwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd, ac i berfformio, mae’n bleser gennym groesawu’n ôl feistr ar y ffidil, sef Eldbjørg Hemsing. Yn yr un modd, mae Trydedd Symffoni Rachmaninov yn un angerddol –mae uchafbwyntiau trawiadol yn ildio i unawdau dwys, gorymdeithiau grymus a dathlu taranllyd, i gyd yn seiliedig ar un motiff cerddorol wedi’i drawsnewid a’i ddatblygu’n fedrus drwyddi draw.

TANLLYD

NOS IAU 20/3/25 7.30PM

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

NOS WENER 21/3/25 7.30PM

Neuadd Brangwyn, Abertawe

GRACE WILLIAMS

Penillion

BRUCH

Concerto i’r Ffidil Rhif 1

RACHMANINOV

Symffoni Rhif 3 –

TADAAKI OTAKA

Arweinydd

ELDBJØRG HEMSING Ffidil

43
CYNHYRFUS CYFOETHOG

CYFANSODDI: CYMRU

Dewch i ddarganfod y cyfansoddiad diweddaraf yng Nghymru y gwanwyn hwn wrth i gyfansoddwyr sy’n haeddu sylw ehangach gael cyfle i weithio gyda’r arweinydd Jac van Steen a’r Cyfansoddwr Cysylltiedig Gavin Higgins ar eu cyfansoddiad cerddorfaol diweddaraf, a’i glywed yn dod yn fyw gyda BBC NOW.

Mae’r prosiect blynyddol hwn a’r cyngerdd sy’n uchafbwynt iddo, yn cael ei redeg ar y cyd â Nimbus Lyrita Arts, Tŷ Cerdd, Chyfansoddwyr Cymru, Gŵyl Bro Morgannwg a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru, ac mae’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu a thynnu sylw at dalent cyfansoddi o Gymru, ac yng Nghymru.

GWEITHDAI AGORED

DYDD LLUN 24/3/25

2-5PM & 6-9PM

DYDD MAWRTH 25/3/25

10AM-1PM

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

CYNGERDD TERFYNOL

NOS WENER 26/3/25 7PM

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

JAC VAN STEEN Arweinydd

YMCHWILIOL CYFOETHOG

ARBENNIG

TŴR Y CYFNOD NORMANAIDD, CASTELL CAERDYDD. WEDI’I AMGYLCHYNU GAN GENNIN PEDR.

45

GOLEUDY TŴR MAWR, YNYS LLANDDWYN. AR ARFORDIR YNYS MÔN.

RHAMANTWYR CAIN

Mae Agorawd rhamantus a hyfryd Fanny Mendelssohn yn gosod yr awyrgylch ar gyfer y cyngerdd hwn o ffefrynnau clasurol. Mae alawon rhapsodïaidd gydag acenion pizzicato yn arwain y ffordd tuag at feistrolaeth a brafado Prydeinig yng Nghoncerto poblogaidd Elgar i’r Soddgrwth, er nad yw ei sarugrwydd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf byth yn bell o’r wyneb, gyda themâu cadarn ond moel, egni sionc a rhinweddau myfyriol. Fel unawdydd, rydyn ni’n croesawu un sy’n perfformio am y tro cyntaf gyda BBC NOW, y chwaraewr soddgrwth sydd wedi ennill sawl gwobr, Bryan Cheng. Yn waith anferthol sy’n llawn grym ac angerdd aruthrol, mae symffoni olaf Brahms, a’i symffoni fwyaf mae’n debyg, sef ei bedwaredd, yn cyfleu harddwch, mawredd ac emosiwn aruthrol, ac mae’n bleser gennym groesawu i’r podiwm yr arweinydd o Brasil, Simone Menezes, sydd â’i gwreiddiau yn yr Eidal, ar gyfer ei pherfformiad cyntaf gyda BBC NOW.

NOS IAU 3/4/25 7.30PM

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

NOS WENER 4/4/25 7.30PM

Theatr Brycheiniog, Aberhonddu

FANNY MENDELSSOHN

Agorawd

ELGAR

Cello Concerto

BRAHMS

Symffoni Rhif 4 –

SIMONE MENEZES

Arweinydd

BRYAN CHENG

Soddgrwth

RHAMANTUS

CAIN EICONIG
47

MISSA SOLEMNIS

Mae Missa Solemnis gan Beethoven, a saif fel cofeb i weithiau corawl cysegredig, yn osodiad o’r offeren o bwysau a graddfa aruthrol. Nid yw mawredd aruchel ac edrych gyda serenedd tua’r nefoedd, dawnsio gyda ffigurau hudolus, cyferbyniadau deinamig ffyrnig yn plethu drwy’r grymoedd mawr sydd wedi’u trefnu’n ofalus, ac ansawdd chwilio sy’n adlewyrchu ei ffydd ei hun, sef edrych y tu hwnt i’n dealltwriaeth ni at Dduw nwmenaidd, byth ymhell o’r wyneb. Yn cael ei ystyried gan Beethoven fel ei waith gorau, mae ei Missa Solemnis yn sicr yn ddarn ‘rhestr bwced’ i’w brofi ac i ryfeddu ato gan bawb sy’n hoff o gerddoriaeth, a gyda rhestr nodedig o unawdwyr yn camu i fyny ochr yn ochr â Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, mae hwn yn berfformiad na ddylid ei golli.

NOS IAU 10/4/25 7.30PM

Eglwys Gadeiriol Llandaf, Caerdydd

NOS WENER 11/4/25 7.30PM Neuadd Brangwyn, Abertawe

BEETHOVEN

Missa solemnis

ANDREW MANZE Arweinydd

CAROLYN SAMPSON Soprano

SOPHIE HARMSEN

Mezzo Soprano

ED LYON Tenor

DARREN JEFFERY

Bass

CORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

O’R
MAWREDDOG CLODFORUS
RADD FLAENAF
CADEIRLAN LLANDAF, CAERDYDD. 49

COLABORATORY –FIONA MONBET

Yn ôl, yn dilyn galw mawr amdani, mae Fiona Monbet a’i thriawd yn dychwelyd i Gaerdydd am noson o jazz gwerinol ynghyd â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Beth am gydio mewn diod, a hyd yn oed tamaid i’w fwyta o un o stondinau bwyd preswyl y Depo, yna dewiswch le i eistedd, ymlacio a pharatoi i gael eich syfrdanu wrth i Fiona gamu i’r llwyfan yn yr arddangosfa wych hon o jazz ar ei orau.

NOS SUL 27/4/25 6PM

Depot, Caerdydd

FIONA MONBET

Arweinydd/Ffidil

ZACHARIE ABRAHAM

Bas Dwbl

AUXANE CARTIGNY

Piano

PHILIPPE MANIEZ

Cit Drymiau

BYWIOG DYFEISGAR SYFRDANOL

BAE CAERDYDD, CAERDYDD, DE CYMRU. GOLYGFEYDD O ADEILAD Y PIERHEAD, Y SENEDD, CANOLFAN Y MILENIWM A NEUADD HODDINOTT Y BBC.

51

GRYM GWERIN

Mae darnau o gerddoriaeth tebyg i alawon gwerin yn plethu i’w gilydd yng ngwaith caleidosgopig Holst, sef Capriccio, ac yn chwarae rhan yr un mor ganolog yn Symphonies of Wind Instruments Stravinsky y mae’r elfennau gwerin Rwsiaidd ac ystyr gwreiddiol ‘symffoni’, sef seinio gyda’i gilydd. Mae gweddïau byr rhwng y gwahanol offerynnau yn dwyn atganau gwrthgyferbyniol ynghyd ar dri chyflymder gwahanol ond cysylltiedig ar yr un pryd.

Mae’r seren ar yr ewffoniwm David Childs yn camu i lwyfan yr unawdydd ar gyfer y perfformiad cyntaf yn y byd o’r concerto newydd gan Syr James MacMillan, Where the Lugar meets the Glaisnock, ac mae cerddoriaeth werin Lloegr yn darparu’r cefndir ar gyfer In the Fen Country gan Vaughan Williams. Mae’r gwaith cynnar hwn, yn creu argraff symffonig drwy bortreadu cynhesrwydd natur, wedi’i gyfosod â gwagle llwm y fens, yn rhoi cipolwg ar iaith gerddorol Vaughan Williams rydyn ni i gyd wedi dod i’w charu. Yna byddwn yn troi unwaith eto at Stravinsky, y tro hwn gyda’i ymateb i erchyllterau’r Ail Ryfel Byd, ei Symphony in Three Movements. I arwain, mae’n bleser gennym groesawu Syr James MacMillan.

NOS IAU 1/5/25 7.30PM

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

NOS WENER 2/5/25 7.30PM

Neuadd Brangwyn, Abertawe

HOLST

Capriccio

STRAVINSKY

Symphonies of Wind Instruments

JAMES MACMILLAN

Where the Lugar meets the Glaisnock [Premiere byd]

VAUGHAN WILLIAMS

In the Fen Country STRAVINSKY

Symphony in Three Movements –

JAMES MACMILLAN

Arweinydd

DAVID CHILDS

Ewffoniwm

ARGRAFFIADOL

SONIARUS YSBLENNYDD
PEN YR OLE WEN, PARC CENEDLAETHOL ERYRI. GOLYGFA O’R SEITHFED MYNYDD UCHAF YN ERYRI.
53

DIWYGIAD A BYWIOCÂD

Mae sibrydion prysur a chyffro bywiog yn arwain at uchafbwyntiau anferth yn agorawd boblogaidd Mozart i’r opera Le nozze di Figaro. Mae’n agoriad perffaith i unrhyw gyngerdd, ac mae’n llawn hwyl a llawenydd. Mae Pumed Symffoni Mendelssohn yn rhagfynegi perseinedd cain tebyg – gyda’r bwriad o fod yn symbol o’r Diwygiad Protestannaidd. Mae’r symffoni hon yn teithio drwy ffrwydradau dramatig, unawdau tebyg i arias a choralau sionc tuag at fuddugoliaeth yn wyneb diwygiad. I arwain, mae’n bleser gennym groesawu Jörg Widmann i ymddangos am y tro cyntaf gyda BBC NOW.

Mae’r feiolinydd Carolin Widmann wedi gwneud enw rhyngwladol iddi’i hun fel un o berfformwyr gorau’r repertoire Clasurol a Rhamantaidd, felly nid yw’n syndod pan glywch iddi ddweud wrth ei brawd Jörg fel gŵr ifanc ei fod yn wallgof wrth ofyn iddi roi cynnig ar rai technegau estynedig! Mae ei ail Goncerto i’r Ffidil, sydd wedi’i gyfansoddi ar gyfer Carolin ac wedi’i gyflwyno iddi, yn defnyddio’r llinell unawdol fel yr adroddwr, gan roi ei llais ei hun i’r ffidil ac archwilio’r arddull Ramantaidd glasurol y mae Carolin mor hoff ohoni.

NOS WENER 15/5/25 7.30PM

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

MOZART

Agorawd Le nozze di Figaro

JÖRG WIDMANN

Concerto i’r Ffidil Rhif 2 [Premiere DU]

MENDELSSOHN

Symffoni Rhif 5 ‘Reformation’ –

JÖRG WIDMANN

Arweinydd

CAROLIN WIDMANN

Ffidil

DRAMATIG BRWDFRYDIG
CAIN
55
ARGAE CRAIG GOCH, CWM ELAN, CYMRU. ARGAE GWAITH MAEN CWM ELAN.

NODAU O GARIAD

Mae hanes hir o gyfansoddwyr yn ysgrifennu anrhegion cerddorol i’r menywod roedden nhw’n eu caru, ac mae’r Cyngerdd i Gloi’r Tymor heno yn cynnwys dau o’r goreuon.

Mae cariad unochrog yn treiddio drwy’r Concerto i’r Ffidil gan Bartók. Mae’r concerto dau symudiad hwn, a ysgrifennwyd ar gyfer y fiolinydd, ac ysbrydoliaeth Bartók, Stefi Geer, yn arddangosfa gerddorol o’i phersonoliaeth – mae’r darn rhapsodïaidd hynod bersonol hwn yn llawn alawon wylofus a neidiadau direidus. Y feiolinydd byd-enwog, James Ehnes, yw pencampwr yr arddangosfa danllyd a meistrolgar hon, ac mae’n dychwelyd i BBC NOW yn dilyn galw mawr amdano.

Yn wahanol i Bartók, cafodd cariad Mahler ei wireddu, ac mewn arwydd o serch at ei wraig newydd, Alma, mae ei Bumed Symffoni’n llawn ffanfferau ar y trwmped, dawns a llawenydd – heb sôn am y symudiad araf cynhyrfus, ei gân serch i’w gariad bid siŵr.

NOS IAU 29/5/25 7.30PM

Symphony Hall, Birmingham

NOS WENER 30/5/25 7.30PM

Neuadd Brangwyn, Abertawe

BARTÓK

Concerto i’r Ffidil Rhif 1

MAHLER

Symffoni Rhif 5 –

RYAN BANCROFT

Arweinydd

JAMES EHNES

Ffidil

SWYNOL YSMALA SWYNGYFAREDDOL
57
GOLYGFA O’R AWYR O DRAETH YNG NGHYMRU. 400 TROEDFEDD YN YR AWYR.

CANEUON TYNGED

Os y bwriadwyd serenadau yn hanesyddol fel cerddoriaeth ar gyfer adloniant, yna mae Brahms yn sicr wedi rhagori yn ei Serenâd Rhif 2. Mae’r gwaith cynnar hwn yn llawn cymeriad Brahmsaidd o’r cychwyn cyntaf gyda’i gynhesrwydd ysgafn, ei rythmau croes bywiog, a’i alawon toreithiog i swyno unrhyw wrandäwr.

Yr un mor nodweddiadol, ond yn fwy pruddglwyfus ei natur, y mae gosodiad llesmeiriol Brahms o’r gerdd

Schicksalslied gan Friedrich Hölderlin. Mewn dau bennill sy’n cyferbynnu bywydau’r tragwyddol ddedwydd â’r rhai sy’n dioddef ffawd greulon, mae Brahms yn symud rhwng yr ysgafn a’r didaro yn erbyn y tymhestlog. I’r gwrthwyneb, mae Stravinsky yn ei Symphony of Psalms yn defnyddio dulliau sy’n adleisio’r siant Gregoraidd traddodiadol, ynghyd â gwrthbwynt ffiwgaidd a motiffau dawns ecstatig i bortreadu testun y salmau... dyma waith o athrylith pur! I arwain Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn eu cyngerdd olaf yn ystod tymor Caerdydd, mae’n bleser gennym groesawu’r Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, yn ôl.

CELFYDD BRWD

DARLUNIADOL

NOS WENER 20/6/25 7.30PM

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

BRAHMS

Serenade Rhif 2

BRAHMS

Schicksalslied

STRAVINSKY

Symphony of Psalms –

RYAN BANCROFT

Arweinydd

CORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

Y MACHLUD DROS ARFORDIR SIR BENFRO

CYNGHERDDAU AMSER CINIO LESLEY

Ymunwch â ni yng Nghasnewydd ac yng Nghaerdydd yr haf hwn ar gyfer ein cyngherddau amser cinio arbennig, a gyflwynir gan Lesley Hatfield, arweinydd BBC NOW. Byddwn yn dechrau gyda Symffoni Rhif 64 gan Haydn, sef ei gampwaith Sturm und Drang.

Mae Punctum gan Caroline Shaw wedi cael ei ysbrydoli gan Ddioddefaint Sant Mathew gan J S Bach, ond mae’n ystumio cyd-destun y dilyniannau modiwlaidd gan ddwyn ysbrydoliaeth gan ôl-strwythuraeth Ffrengig, i greu archwaeth synhwyraidd o glasuriaeth heb ffurf. Yna, gyda’i arddull sy’n amrywio o Cantabile a walts felodaidd araf i scherzos bywiog ac afiaith digrif, bydd y Serenâd i’r Llinynnau gan Dvořák yn dod â’r cyngerdd hwn i ben yn llawn gorfoledd.

CYNGERDD YR YSGOL

Galwad i bob athro... ddydd Iau 26ain Mehefin 2025, bydd BBC NOW yn perfformio ei chyngerdd blynyddol i ysgolion, a’r tro hwn byddwn yn ei gynnal yn Neuadd Brangwyn Abertawe. Gwnewch nodyn yn eich dyddiadur, a chadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau yn y tymor newydd.

THURSDAY 3/7/25 2PM

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

FRIDAY 4/7/25 2PM

Cadeirlan Casnewydd

HAYDN Symffoni Rhif 64

CAROLINE SHAW Punctum

DVOŘÁK

Serenâd i’r Llinynnau –

LESLEY HATFIELD

Cyfarwyddwr/Ffidil

DYDD IAU 26/6/25

Neuadd Brangwyn, Abertawe

IMAGE TITLE. IMAGE DESCRIPTION.

59
CADWCH Y DYDDIAD YN RHYDD Copy Copi: Amy Campbell-Nichols Design Dylunio: BBC Wales Graphics Photography Ffotograffiaeth: Yusef Bastawy, James Fear and Kirsten McTernan
BBC NATIONAL ORCHESTRA AND CHORUS OF WALES CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.