Mae yna lawer o bethau y bydd angen i chi eu gwneud yn ystod y dyddiau ac wythnosau yn dilyn marwolaeth eich perthynas neu ffrind, ac mae’r llyfryn hwn yn anelu at eich tywys a’ch helpu trwy’r amseroedd anodd hyn.
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, mae gennym ni Gwasanaeth Gofal ar ôl Marwolaeth penodol, ac mae’r tîm wrth llaw i’ch cefnogi gyda phob mater ymarferol, megis ardystiad marwolaeth, a gall hefyd eich helpu i ddod o hyd i’r gefnogaeth gywir yn ystod eich profedigaeth os ydych chi’n teimlo bod ei angen arnoch chi.
Mae’r Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth ar gael i’w gysylltu 6 diwrnod yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener 9.00am i 6.00pm, a dydd Sadwrn 9.00am i 12.00pm.
Gellir cysylltu â’r tîm ar 01792 703114
Neu drwy e-bost - SBU.CADC@wales.nhs.uk
Cysylltwch â ni os oes angen unrhyw beth o gwbl yn ystod eich profedigaeth neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y wybodaeth darperir yn y llyfryn hwn - gall y tîm eich helpu yn y dyddiau cyntaf, wythnosau, misoedd neu ar unrhyw adeg yn y dyfodol os oes angen.
Unwaith eto, ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, rydym yn estyn ein cydymdeimlad mwyaf diffuant a chalonogol i chi.
Tudalen Cynnwys
Camau Cyntaf
Os yw’ch perthynas neu ffrind wedi marw yn unrhyw un o’n hysbytai -
Bydd y Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth yn eich cefnogi a’ch cynorthwyo gyda’r gwaith papur angenrheidiol a chysylltu â’r bobl eraill sydd fel arfer yn rhan o’r broses yn dilyn marwolaeth, fel y Cofrestrydd, Archwilydd Meddygol neu Swyddfa’r Crwner. Byddwch yn dod o hyd i rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau hyn ymhellach yn y llyfryn hwn.
Yn gyntaf, cysylltwch â’r Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth ar 01792 703114 a byddant yn egluro beth sydd yn digwydd nesaf ynghylch y Dystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth, weithiau fe’i gelwir yn ‘Tystysgrif Marwolaeth’ neu ‘Tystysgrif Feddygol’.
Bydd y Tîm yn gofyn i chi -
• Rhai cwestiynau adnabod er mwyn darganfod pwy yw’r claf
• Eich enw, manylion cyswllt a pherthynas â’r claf
• Cadarnhau os mai chi yw’r person fydd yn gyfrifol am Gofrestru Marwolaeth a threfnu’r Angladd
• Enw’r Trefnydd Angladdau rydych chi am ddefnyddio, os ydych chi wedi penderfynu
• A fydd yr ymadawedig yn cael ei Gladdu neu Amlosgi
Gallwch ofyn i’r tîm unrhyw gwestiynau sydd gennych a byddan nhw yn gallu eich cefnogi chi. Gallwch ffonio’r tîm gymaint o weithiau ag y dymunwch, a byddan nhw’n cadw mewn cysylltiad â chi i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd y gwaith papur. Gallant hefyd roi cyngor i chi am eiddo eich perthynas/ffrind os oes angen.
Pan fydd rhywun rydyn ni’n ei garu yn marw, rydyn ni’n aml yn teimlo ein bod yn cael ein gorlethu ac efallai y byddwch chi’n teimlo ei bod hi’n anodd ymdopi â sut rydych chi’n teimlo. Os ydych yn teimlo fel hyn, gall y Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth helpu i ddod o hyd i’r gefnogaeth iawn i chi yn ystod eich profedigaeth, felly siaradwch â’r tîm os ydych chi’n meddwl y byddai hyn yn eich helpu chi. Gallwch hefyd siarad ag aelod o’r tîm wyneb yn wyneb. Os hoffech wneud hyn, cysylltwch â ni a gallwn ni trefnu apwyntiad i chi.
Os mae eich perthynas neu ffrind wedi marw gartref, neu yn y gymuned -
Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, fel arfer Meddyg Teulu’r claf bydd yn cwblhau’r Dystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth pan fydd rhywun yn marw gartref neu mewn cartref preswyl/gofal. Os ydych chi’n gwybod pwy yw meddyg teulu eich perthynas neu ffrind, gallwch chi gysylltu â nhw am ddiweddariad ar y gwaith papur.
Os yw’r farwolaeth yn sydyn neu’n annisgwyl, efallai bydd Swyddfa’r Crwner ynghlwm. Efallai bydd y Meddyg Teulu neu’r Heddlu (os yw’n bresennol) yn gallu rhoi cyngor i chi am hyn, ac mae rhagor o wybodaeth am rôl y Crwner ymhellach yn y llyfryn.
Fodd bynnag, mae’r Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth yn gallu eich helpu o dan naill sefyllfa neu’r llall, os teimlwch fod angen unrhyw gymorth arnoch. Gallwch gysylltu â nhw yma - 01792 703114.
Gallent gydgysylltu â’r Meddyg Teulu neu’r Crwner ar eich rhan, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd y gwaith papur, yn ogystal â chysylltu â phobl eraill sydd fel arfer yn ymwneud yn dilyn marwolaeth, fel y Cofrestrydd neu’r Archwilydd Meddygol. Cewch fwy o wybodaeth am y gwasanaethau hyn ymhellach yn y llyfryn hwn.
Bydd y tîm yn gofyn i chi -
• Rhai cwestiynau adnabod er mwyn darganfod pwy yw’r claf
• Eich enw, manylion cyswllt a pherthynas â’r claf
• Manylion am amgylchiadau farwolaeth eich perthynas neu ffrind, i ganfod a yw’r Crwner yn gysylltiedig
• Cadarnhau os mai chi yw’r person fydd yn gyfrifol am Gofrestru Marwolaeth a threfnu’r Angladd
• Enw’r Trefnydd Angladdau rydych chi am ddefnyddio, os ydych chi wedi penderfynu
• A fydd yr ymadawedig yn cael i gladdu neu amlosgi
Gallwch ofyn i’r tîm unrhyw gwestiynau sydd gennych a byddan nhw yn gallu eich cefnogi chi. Gallwch ffonio’r tîm gymaint o weithiau ag y dymunwch, a byddan nhw’n cadw mewn cysylltiad â chi i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd y gwaith papur.
Pan fydd rhywun rydyn ni’n ei garu yn marw, rydyn ni’n aml yn teimlo ein bod yn cael ein gorlethu ac efallai y byddwch chi’n teimlo ei bod hi’n anodd ymdopi â sut rydych chi’n teimlo, yn enwedig os oedd y farwolaeth yn sydyn neu’n annisgwyl. Os ydych yn teimlo fel hyn, gall y Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth helpu i ddod o hyd i’r gefnogaeth iawn i chi yn ystod eich profedigaeth, felly siaradwch â’r tîm os ydych chi’n meddwl y byddai hyn yn eich helpu chi. Gallwch hefyd siarad ag aelod o’r tîm wyneb yn wyneb. Os hoffech wneud hyn, cysylltwch â ni a gallwn ni trefnu apwyntiad i chi.
Rol yr Archwilydd Meddygol
Yn unol â gofynion y Llywodraeth a newidiadau i ddiwygiadau ardystio marwolaeth, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Archwilio Meddygol. Mae Archwilydd Meddygol yn feddyg uwch, annibynnol nad yw’n cymryd rhan yng ngofal y claf, sy’n darparu archwiliad annibynnol o bob marwolaeth, ar gyfer unrhyw glaf lle mae Tystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth yn mynd i gael ei gyhoeddi. Gall hyn fod naill ai’n farwolaeth yn yr ysbyty neu yn y gymuned.
Mae’r Gwasanaeth Archwilio Meddygol yn caniatáu i’r Achos
Marwolaeth i gael eu canfod yn well, ac amgylchiadau’r farwolaeth i gael eu hasesu’n fwy gwrthrychol.
Mae gan y Gwasanaeth Archwilio Meddygol dîm o Swyddogion Archwilio Meddygol, a fydd yn cysylltu â chi yn y dyddiau yn dilyn marwolaeth eich perthynas/ffrind. Byddant yn trafod Achos y Farwolaeth gyda chi, ac yn gwrando ar eich barn am y gofal a ddarperir. Gallant ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am achos y farwolaeth ac amgylchiadau’r farwolaeth. Weithiau, efallai y bydd angen atgyfeiriad at y Crwner, nid yw hyn yn rhywbeth i boeni amdano. Os bydd hyn yn digwydd, bydd y Swyddog Archwilydd Meddygol yn trafod gyda chi’r rhesymau pam, ac efallai y bydd angen i chi hefyd siarad â Swyddogion y Crwner. Mae rhagor o wybodaeth am y Crwner yn y llyfryn hwn, a gall y Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth eich helpu i lywio’r broses hon.
Unwaith y bydd eich trafodaeth gyda’r Archwilydd Meddygol wedi digwydd, bydd yr Archwilydd Meddygol yn cysylltu â’r Meddyg a’r Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth i gyhoeddi’r Dystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth.
Bydd y dystysgrif yn cael ei gwirio a’i llofnodi gan yr Archwilydd Meddygol, a fydd yn cael ei anfon at y Cofrestrydd a byddwch yn gallu cofrestru marwolaeth eich perthynas neu ffrind.
Rol y Crwner
Mae’r Crwner yn swyddog annibynnol gyda’r cyfrifoldeb statudol am ymchwilio cyfreithiol rhai categorïau o farwolaethau. Mae’r Crwner fel arfer yn Gyfreithiwr yn ôl cefndir, ac yn cael ei gefnogi gan dîm o Swyddogion y Crwner, sy’n ymchwilio i unrhyw farwolaethau sy’n cael eu cyfeirio at y Crwner.
Bydd y Crwner fel arfer yn ymwneud ag unrhyw farwolaethau sy’n -
• Marwolaethau sydyn neu annisgwyl, heb ystyried oedran;
• Lle mae marwolaeth yn cynnwys trais, trawma, anaf corfforol neu a achoswyd gan ddamwain;
• Lle mae Achos y Farwolaeth yn anhysbys, ac nid yw’r Meddyg yn gallu rhoi Tystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth;
• Lle mae’r farwolaeth wedi deillio o anaf diwydiannol neu glefyd diwydiannol;
• Wedi digwydd o ganlyniad i ddamwain hysbysadwy, gwenwyniad neu glefyd;
• Wedi digwydd o ganlyniad i esgeulustod neu fethiant gofal gan berson arall;
• Lle mae marwolaeth wedi digwydd yn ystod llawdriniaeth, triniaeth neu driniaeth feddygol;
• Lle mae marwolaeth wedi digwydd o ganlyniad i wenwyniad, defnydd cyffur a reolir, cynnyrch meddyginiaethol, neu gemegyn gwenwynol;
• Lle mae marwolaeth wedi digwydd yn y ddalfa neu ddalfa’r wladwriaeth.
Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr, ac mae llawer o resymau eraill pam y gall meddyg gyfeirio marwolaeth at y Crwner. Os bu farw eich perthynas/ffrind yn yr ysbyty, bydd y Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth yn gallu rhoi gwybod i chi oes atgyfeiriad wedi’i wneud i’r Crwner, a gallwch hefyd siarad â’r Swyddog Archwilio Meddygol.
Unwaith mae’r Crwner wedi derbyn atgyfeiriad, bydd un o Swyddogion y Crwner yn cysylltu â chi o fewn diwrnod neu ddau i drafod yr atgyfeiriad gyda chi a gwrando ar unrhyw farn sydd gennych. Byddant yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych yngll yˆn â phroses y Crwner, eich cynghori ar y camau nesaf a’ch cefnogi.
Os yw’r Crwner yn fodlon bod y farwolaeth oherwydd achosion naturiol, bydd yn awdurdodi’r Meddyg i fwrw ymlaen ag ysgrifennu’r Dystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth. Mae hyn yn golygu na fydd angen ymchwiliad pellach i farwolaeth eich perthynas/ffrind, a gallwch fwrw ymlaen â Chofrestru unwaith y bydd y dystysgrif wedi’i chwblhau gan y meddyg a’i llofnodi gan yr Archwilydd Meddygol. Mae mwy o wybodaeth am yr Archwilydd Meddygol yn y llyfryn hwn, a gall y Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth eich helpu i lywio’r broses hon.
Weithiau, efallai bydd y Crwner yn teimlo bod angen ymchwiliad pellach, a gall yr ymchwiliad hwn gynnwys Ymchwiliad. Pan fydd hyn yn digwydd, ni fydd angen i’r meddyg roi Tystysgrif Feddygol Achos Farwolaeth a bydd Swyddfa’r Crwner yn cymryd drosodd pob agwedd o’r gwaith papur sy’n ymwneud â’r farwolaeth.
Mae’r Ymchwiliad yn wrandawiad llys cyhoeddus a gynhelir gan y Crwner i benderfynu pwy fu farw, sut, pryd a ble digwyddodd y farwolaeth. Gall hyn fod gyda neu heb Archwiliad Post Mortem o’ch perthynas/ffrind.
Bydd Swyddogion y Crwner yn esbonio’n glir beth sy’n digwydd nesaf ac egluro’r weithdrefn os yw hwn yn digwydd, yn ogystal â thrafod penderfyniad y Crwner gyda chi ynghylch a oes angen Archwiliad Post Mortem.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanylach am rôl y Crwner a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl drwy ddilyn y ddolen hon: Canllaw i Wasanaethau Crwner i bobl mewn Profedigaeth (www.gov.uk/government/ publications/guide-to-coroner-services-and-coroner-investigationsa-short-guide) a’r rhif cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Crwner yw 01792 450650.
Gall mynd trwy Ymchwiliad fod yn amser gofidus ac yn gymhleth ar adeg sydd eisoes yn anodd i chi a’ch teulu. Os oes angen cymorth arnoch yn ystod y broses hon, Mae ein Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth ar gael i’ch helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnoch, a byddwch yn dod o hyd i’w manylion cyswllt ar dudalen flaen y llyfryn hwn.
Post Mortem Ysbyty
Nid yw Post Mortem ysbyty’r un fath â Post Mortem y Crwner. Mae Post Mortem a gydsyniwyd gan yr ysbyty yn cael ei pherfformio am resymau ymchwil ac addysgol, a allai helpu i drin cleifion eraill neu aelodau teulu yn y dyfodol, neu roi mwy o wybodaeth am Achos y Farwolaeth. Gall y meddyg sy’n trin eich perthynas/ffrind ofyn am Bost Mortem, ond mae’n rhaid i chi roi caniatâd i hyn ddigwydd.
Bydd y meddyg sydd wedi gofyn am y Post Mortem yn trafod y rhesymau dros y cais gyda chi, a byddwch yn cael cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Os ydych yn rhoi caniatâd, byddant yn eich cynghori ar y broses ac wedi hynny byddwch yn gallu trafod canlyniadau’r Post Mortem gyda nhw. Cofiwch, eich penderfyniad chi yw hwn, p’un ai roi caniatâd neu beidio, ac nid oes dewis cywir nac anghywir. Bydd y Meddyg, tîm y corffdy a’r Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth ar gael i’ch cefnogi wrth i chi benderfynu a thrwy gydol y broses.
Cofrestru Marwolaeth
Unwaith mae’r Meddyg wedi cwblhau’r Dystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth, ac mae’r Archwilio Meddygol wedi ei lofnodi, yna byddwch yn gallu cofrestru marwolaeth eich perthynas/ffrind.
Bydd y Dystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth yn cael ei hanfon yn electronig at y Cofrestrydd ar eich rhan gan y Gwasanaeth Archwilio Meddygol. Os bu farw eich perthynas/ffrind yn yr ysbyty, bydd y Tîm
Gofal ar ôl Marwolaeth yn rhoi gwybod i chi pan fydd hyn wedi ei wneud. Os bu farw eich perthynas/ffrind yn y gymuned, dylai’r practis Meddyg Teulu allu eich cynghori pan fydd hyn wedi’i wneud, neu gallwch gysylltu â’r Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth a all gysylltu â’r Meddyg Teulu ar eich rhan.
Bydd yr apwyntiad gyda’r Cofrestrydd yn digwydd yn y Swyddfa Gofrestru Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau, a bydd yn yr awdurdodaeth lle mae’ch perthynas/ffrind wedi marw. Os bu farw yn Abertawe, fel enghraifft, bydd angen i chi gofrestru’r farwolaeth yn Swyddfa Gofrestru Abertawe.
Bydd y Cofrestrydd yn gofyn i chi am:
• dyddiad a lleoliad y farwolaeth
• enw llawn a chyfenw’r person ymadawedig (a’r cyfenw cyn priodi os oedd yr ymadawedig yn wraig briod/partner sifil)
• dyddiad a man geni
• galwedigaeth yr ymadawedig ac, os oedd y person ymadawedig yn briod neu mewn partneriaeth sifil, enw llawn a galwedigaeth ei briod neu bartner sifil
• eu cyfeiriad arferol
• dyddiad geni priod neu bartner sifil sy’n goroesi
• manylion unrhyw bensiwn sector cyhoeddus e.e. gwasanaeth sifil, athro neu’r lluoedd arfog.
Os oes gennych chi rai, byddai’n ddefnyddiol mynd â Thystysgrif Geni, Tystysgrif Priodas neu Bartneriaeth Sifil a Cherdyn Meddygol GIG eich perthynas/ffrind gyda chi, neu lythyr ysbyty diweddar gyda’r rhif GIG.
Efallai y bydd angen i chi hefyd fynd â’ch dogfennau adnabod eich hun gyda chi, fel:
• Pasbort/Trwydded Yrru/Tystysgrif Geni
• Prawf Cyfeiriad (fel bil cyfleustodau neu gyfriflen banc)
Yn aml mae angen y Dystysgrif o Achos Marwolaeth at gyfrifon banc, dibenion yswiriant, neu unrhyw ddiben ariannol neu gyfreithiol arall, felly yn aml mae’n werth prynu rhai copïau os oes angen – ni fydd y rhan fwyaf o leoedd yn derbyn llungopi, dim ond copi gwreiddiol. Gallwch brynu copïau swyddogol ar adeg eich apwyntiad gyda’r Cofrestrydd.
Bydd y Cofrestrydd hefyd yn cyhoeddi ‘Ffurflen Werdd’. Enw swyddogol y ffurflen hon yw’r Dystysgrif Claddu neu Amlosgi. Bydd y Cofrestrydd yn anfon y ffurflen hon yn electronig at eich Trefnwr Angladdau.
Mae dwy Swyddfa Gofrestru yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae
Abertawe:
• Cofrestryddion Abertawe, Swyddfa Gofrestru, Y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN.
Byddwch yn ymwybodol y bydd eich manylion cyswllt wedi’u darparu i Gofrestrydd Abertawe, a bydd yn cysylltu â chi yn y lle cyntaf i drefnu apwyntiad. Eu rhif cyswllt yw 01792 636188.
Mae rhagor o wybodaeth am Gofrestru Marwolaeth yn Abertawe ar gael drwy ddilyn y ddolen hon:
Byddwch yn ymwybodol y bydd angen i chi gysylltu â Chofrestrydd Castell-nedd i wneud apwyntiad unwaith y bydd y meddyg wedi cwblhau’r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth. Eu rhif cyswllt yw 01639 760021.
Mae rhagor o wybodaeth am Gofrestru Marwolaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot ar gael drwy ddilyn y ddolen hon: Marwolaethau - Cyngor Castell-nedd Port Talbot (npt.gov.uk)
Gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith
Mae Dywedwch Wrthym Unwaith yn wasanaeth sy’n cael ei redeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ac mae’n wasanaeth sy’n caniatáu ichi riportio marwolaeth i’r rhan fwyaf o sefydliadau’r llywodraeth ar yr un pryd. Mae hyn yn cynnwys y DVLA, y Swyddfa Basbort, holl wasanaethau Awdurdod Lleol, holl wasanaethau DWP, megis Pensiynau’r Wladwriaeth neu Gymhorthdal Incwm, ac unrhyw wasanaethau CThEM (Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi).
Ar adeg y cofrestriad, gall y cofrestrydd roi rhif cyfeirnod unigryw i chi a fydd yn cael ei ddefnyddio i hysbysu amrywiol adrannau llywodraeth ac awdurdodau lleol am y farwolaeth. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei rhoi i chi gan y cofrestrydd yn eich apwyntiad.
Gallwch naill ai ffonio’r gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith neu lenwi ffurflen ar-lein, ond rhaid gwneud hyn o fewn 28 diwrnod i gael eich cyfeirnod unigryw gan y Cofrestrydd. I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd angen i chi wrth law:
• Rhif Yswiriant Gwladol yr ymadawedig
• manylion unrhyw fudd-daliadau neu wasanaethau y gallent fod wedi bod yn eu derbyn
• eu trwydded yrru
• eu pasbort
Ymweld a'ch perthynas/ ffrind yn y Corffdy
Mae’r Tîm Gwasanaethau Marwdy yn cynnwys grwp bach o staff sydd wedi dewis cysegru eu gyrfaoedd i ddarparu gofal o ansawdd uchel i’r ymadawedig a’r rhai sydd wedi cael profedigaeth. Maen nhw yma i’ch helpu ym mha bynnag ffordd y gallant gan eu bod yn gofalu am eich perthynas/ffrind.
Os hoffech ymweld â’ch perthynas/ffrind, cysylltwch â Thîm Gwasanaeth y Marwdy, a fydd yn gallu cael sgwrs â chi a threfnu apwyntiad. Byddant yn sicrhau bod gennych le, amser a chefnogaeth yn ystod eich ymweliad, a byddant hefyd yn trafod unrhyw opsiynau sydd gennych ar gyfer casglu atgofion. Gallant hefyd gysylltu â’r Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth i’ch cefnogi, os teimlwch fod ei angen arnoch pan fyddwch yn ymweld.
Gofynnwn i aelodau o’r teulu neu ffrindiau sy’n dymuno ymweld â’r marwdy fynychu gyda’i gilydd a chyrraedd ar yr amser a drefnwyd. Rhaid mai chi yw’r perthynas agosaf, neu gael caniatâd gan y perthynas agosaf, i weld yr ymadawedig. I wneud apwyntiad i ymweld, cysylltwch â:
Corffdy Treforys 01792 703250
Oriau agor: 9.00am - 3.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
Corffdy Singleton 01792 285377
Oriau agor 1.30pm - 3.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
Ar hyn o bryd, nid oes cyfleuster gwylio yng Nghorffdy Ysbyty Castellnedd Port Talbot.
Gallwch hefyd gysylltu â’r tîm Gofal ar ôl Marwolaeth a gallant eich helpu i drefnu apwyntiad.
Os nad ydych yn dymuno ymweld â’ch perthynas/ffrind yn y marwdy, neu os na allwch wneud hynny am unrhyw reswm, efallai y gallwch ymweld â nhw pan fyddant yng ngofal y Trefnwr Angladdau o’ch dewis. Os nad ydych yn fodlon ar y marwdy, neu os yw’r rhain yn gwneud hynny am unrhyw etholiad, gall y gweinyddwyr y trefnwyr o’ch dewis.
Cofiwch, nid oes dim cywir nac anghywir o ran ymweld â’ch perthynas/ ffrind ar ôl iddynt farw. Mae’n ddewis personol a ydych yn dewis gwneud hynny ai peidio – bydd y Timau Marwolaeth a Gofal ar ôl Marwolaeth, ynghyd â’ch Trefnwr Angladdau, yn gallu eich cynghori a’ch cefnogi – pa bynnag benderfyniad a wnewch.
‘Nid
anhwylder, afiechyd neu arwydd o
wendid yw galar.
Mae’n anghenraid emosiynol, corfforol
ac ysbrydol, y pris rydych chi’n ei dalu am gariad.
Yr unig iachâd i alar yw galaru’ Earl Grollman.
Galar a Chefnogaeth
Gall marwolaeth fod yn ofidus iawn ac mae galaru yn ymateb dynol arferol i golled neu farwolaeth. Gall galar effeithio ar bobl mewn sawl ffordd wahanol, ac mae pobl yn teimlo llawer o bethau gwahanolmae’n brofiad unigryw a phersonol, ac nid oes ffordd gywir nac anghywir i deimlo pan fyddwch chi’n galaru.
Gall yr elfennau ymarferol a’r tasgau i wneud yn dilyn marwolaeth yn gallu cymryd drosodd a chymryd llawer o’ch amser yn ystod yr wythnosau cyntaf. Yn aml, gall hyn ymddangos yn llethol ar adegau pan fyddwch chi’n galaru, neu i’r gwrthwyneb efallai na fydd eich galar yn eich ‘taro’ yn llawn tan ar ôl i’r holl bethau ymarferol gael eu gwneud.
P’un a oes angen cymorth arnoch yn gynnar yn eich profedigaeth neu’n ddiweddarach, mae’r Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth gallu helpu i’ch cefnogi. Nid cwnselwyr yw’r tîm, ond maent wedi’u hyfforddi mewn cymorth profedigaeth ac yn gweithio gydag ystod eang o bobl a phartïon i’ch helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnoch. Mae rhai o’r bobl mae’r tîm yn gweithio gydag wedi rhestri yn adran ‘Cymorth Pellach’ y llyfryn hwn, ac mae’r rhifau cyswllt ar gyfer y Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth ar y dudalen agoriadol.
Byddwch yn ymwybodol nad yw’r Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth yn gallu darparu cymorth ‘argyfwng’ ac nad ydynt yn darparu llinell gymorth 24 awr, ond os ydych yn teimlo bod angen i chi siarad â rhywun ar frys, gallwch ffonio’r naill neu llall o’r opsiynau cymorth isod -
GIG Cymru 111 Opsiwn 2
Y Samariaid 116 123
Efallai y byddwch hefyd yn dewis gweld eich Meddyg Teulu neu fynd i’r ysbyty os ydych yn teimlo eich bod mewn perygl ac angen cymorth brys.
Cefnogaeth Pellach
• Rhwydwaith Cefnogi Profedigaeth
Ffôn: 0808 168 9607
• Cruse
Yn cynnig cyngor profedigaeth, cyngor a gwybodaeth. Llinell
Gymorth Genedlaethol y DU: 0808 808 1677
E-bost: helpline@cruse.org.uk
Cangen Abertawe
Ffôn: 01792 462845
142 Heol Walter, Abertawe SA1 5RW
• Hope Again (Cruse)
Cefnogi pobl ifanc sydd wedi colli rhywun yn ddiweddar.
Ffôn: 0808 808 1677
E-bost: hopeagain@cruse.org.uk
• Cefnogaeth Profedigaeth Marie Curie
Mae’n cynnig cymorth emosiynol yn ogystal â delio â’r ochr
ymarferol o golli rhywun sy’n agos atoch chi.
Ffôn: 0800 090 2309
• Samariaid
Gellir cysylltu â’r Samariaid unrhyw bryd, ddydd neu nos, a bydd rhywun ar gael i wrando a darparu cymorth emosiynol cyfrinachol ac anfeirniadol.
Ffôn: 116 123 (Saesneg) neu 0808 164 0123 (Cymraeg)
• CiSS -
Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, yn cynnig cymorth i unrhyw un y mae canser wedi effeithio ar ei fywyd.
Abertawe 01792 655025
Castell-nedd Port Talbot 01639 642333
• 2wish
Cefnogi marwolaethau sydyn ymhlith plant ac oedolion ifanc.
Ffôn: 01443 853125
E-bost: info@2wish.org.uk
• Brake
Cynnig cymorth i bobl sydd wedi cael profedigaeth ac sydd wedi’u hanafu’n ddifrifol gan ddamweiniau ffordd.
Llinell gymorth i ddioddefwyr: 0808 800 0401
• Mind Cymru
Darparu cyngor a chefnogaeth i rymuso unrhyw un sydd â phroblem iechyd meddwl.
Ffôn: 0300 123 3393
E-bost: info@mind.org.uk
• Canolfan Maggies Abertawe -
Yn cynnig y cymorth gorau posibl am ddim i unrhyw un â chanser a’u teuluoedd sy’n cerdded drwy ein drysau. Byddwch yn dod o hyd i’n canolfannau ochr yn ochr ag ysbytai’r GIG a gallwn hefyd eich cefnogi ar-lein.
Ffôn: 01792 200 000
E-bost: swansea@maggies.org
• Macmillan
I gael cyngor cyfrinachol am ddim gan ein harbenigwyr canser gallwch: ffoniwch Linell Gymorth Macmillan ar 0808 808 00 00 (ar agor 7 diwrnod yr wythnos, 8am i 8pm. Gall amseroedd agor amrywio ar gyfer gwahanol dimau arbenigol).
• SOBS
Os ydych chi wedi cael profedigaeth neu wedi’ch effeithio gan hunanladdiad a hoffech chi siarad ag un o’n gwirfoddolwyr am eich profiad, gallwch gysylltu â ni.
E-bost: email.support@uksobs.org
• Compassionate Cymru
Helpu pobl i gael mynediad at a chynnig gwybodaeth, gofal a chymorth mewn modd tosturiol yn eu cymunedau.
E-bost: contact@compassionate.cymru
• SANDS
Mae SANDS yn darparu cymorth i rieni mewn profedigaeth a’u teuluoedd pan fydd eu babi’n marw adeg ei eni neu’n fuan ar ôl ei eni.
Ffôn: 0808 164 3332
• Sandy Bear
Mae Sandy Bear yn elusen gofrestredig sy’n darparu gwasanaeth i bob plentyn a pherson ifanc hyd at 18 oed sydd wedi dioddef profedigaeth.
Ffôn: 01437 700272
E-bost: admin@sandybear.co.uk
• Prosiect Cwnsela Anadlu
Rydym yn darparu cwnsela arbenigol a chymorth profedigaeth grisiog i bobl sydd wedi profi profedigaeth drawmatig a/neu alar gymhleth, trwy hunanladdiad neu o ganlyniad i Covid a heriau ychwanegol y pandemig.
Ffôn: 02920 440191 neu anfon neges destun at 07788 314975
• Child Bereavement UK
Llinell gwybodaeth a chymorth.
Ffôn: 0800 028 8840
• Sefydliad DPJ
Darparu cymorth profedigaeth mewn amaethyddiaeth, gan gynnwys cymorth i’r rhai sydd wedi cael profedigaeth yn sydyn a thrwy hunanladdiad.
Ffôn: 0800 587 4262 neu anfon neges destun at 07860 048799
• Llamau
Ein nod yw darparu ymateb aml-haenog i anghenion yn ymwneud â phrofedigaeth a cholled yn yr ystyr ehangach.
Ffôn: 029 2023 9585
E-bost: enquiries@llamau.org.uk
• Gwasanaeth Caplaniaeth a Gofal Ysbrydol Bae Abertawe Cynigir gofal ysbrydol i bawb oherwydd ein bod yn deall y pwysigrwydd y mae’n ei chwarae i’n helpu i lywio bywyd, delio â straen a digwyddiadau anodd ac mae hefyd yn cyfrannu at y broses o wella.
Ffôn: 01792 703301 rhwng 8.30am-4.30pm
Nodiadau
Wedi’i adolygu: Rhagfyr 2024
Dyddiad Adolygu Nesaf: Rhagfyr 2026
Gwasanaeth gofal ar ôl marwolaeth
Cyhoeddwyd: Rhagfyr 2024
Adborth
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, rydym yn deall yn iawn pa mor anodd y gall hwn fod i chi a’ch teulu, ond fel sefydliad rydym yn gwerthfawrogi eich adborth yn fawr, boed yn dda neu’n ddrwg. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn darparu’r cymorth cywir i chi yn ystod eich profedigaeth ac yn darparu’r gwasanaeth gorau posibl.
Gallwch ddychwelyd y ffurflen hon i: Kimberley Hampton-Evans, Rheolwr Gwasanaeth Gofal ar ôl Marwolaeth, Gwasanaeth Gofal ar ôl Marwolaeth, Ysbyty Treforys, Heol Maes yr Eglwys, Abertawe SA6 6NL Neu fel arall cwblhewch y ffurflen adborth hon ar-lein, trwy’r ddolen hon: forms.office.com/r/tAFXnd0m9Y
1. A fyddech cystal â dweud wrthym ble bu farw eich perthynas/ffrind.
2. Gan ein Gwasanaeth Gofal ar ôl Marwolaeth, a oedd unrhyw beth a oedd yn arbennig o ddefnyddiol i chi yn ystod y cyfnod anodd hwn?
3. A oedd unrhyw beth nad oedd yn ddefnyddiol i chi?
4. Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar sut y gallem wella ein gwasanaeth i berthnasau/ffrindiau mewn profedigaeth, neu os hoffech rannu unrhyw farn arall â ni, nodwch eich sylwadau isod.
Diolch i chi am gymryd yr amser i roi eich adborth i ni, rydym yn ei werthfawrogi’n fawr.
The Hospital would like to thank RNS Publications for publishing this information and the following pages contain some features from services o ering their help at this time.
Whilst the Hospital is grateful of their support it does not endorse or recommend any of the services that they provide.
�\\ bereavement ,�port network
stopping mail
STOPPING JUNK MAIL
It is distressing to deal with a bereavement and unsolicited mail can be insensitive and destructive during a grieving process.
By scanning the below QR code on your phone or visiting www.stopmail.co.uk, we are able to securely share this information with mailing organisations and under the Data Protection Act the information will not be used for any other purpose.
Other benefits reduce the possibility of identity fraud, such as assumed identity and you will only have to supply the information once.
MEANINGFUL FUNERALS FOR NON-RELIGIOUS PEOPLE
If your loved one wasn’t religious, a humanist funeral is an authentic and memorable way to celebrate their unique life. Our funerals are personal and heartfelt non-religious ceremonies, led by a professional, trusted humanist celebrant.