C&V UHB – Gwybodaeth Ymarferol Ynghylch Marwolaeth eich Plentyn - Cymraeg

Page 1

Gwybodaeth Ymarferol Ynghylch Marwolaeth eich Plentyn


Pan mae plentyn yn marw, mae’n gyfnod ofnadwy i’r teulu cyfan, a bydd yn rhaid i chi wneud penderfyniadau anodd ar adeg pan fydd popeth yn ymddangos yn ddryslyd iawn. Nod y llyfryn hwn yw rhoi gwybodaeth i chi a fydd yn eich helpu i wneud y dewisiadau cywir ar eich cyfer chi a'ch teulu. Gofynnwch gynifer o gwestiynau ag y dymunwch, hyd yn oed os ydych yn poeni y gallent ymddangos yn wirion.

Ysbyty Athrofaol Cymru Parc y Mynydd Bychan Caerdydd De Morgannwg CF14 4XW Ffôn: 029 2074 7747

Enw'r chwaer ar y ward neu'r brif nyrs yw a gellir cysylltu ag ef/hi ar Meddyg Ymgynghorol eich plentyn oedd a gellir cysylltu â'i ysgrifennydd/ysgrifenyddes ar os oes gennych unrhyw ymholiadau.


Cynnwys Yr Oriau a'r Diwrnodiau Cyntaf

2

Beth fydd yn digwydd yn syth ar ôl marwolaeth fy mhlentyn? 2 A allaf weld fy mhlentyn yn yr ysbyty?

3

A fydd modd rhoi meinweoedd?

4

Pa gyfleusterau sydd ar gael i deuluoedd a chanddynt gredoau crefyddol a diwylliannol?

4

Beth sy'n digwydd os ceir gofynion diwylliannol dros y penwythnos neu dros gyfnod gŵyl y banc?

5

Beth fydd yn digwydd os bydd fy mhlentyn yn marw yn yr Uned Achosion Brys? 6 Beth os adroddir ynghylch y farwolaeth wrth y Crwner?

7

A allwn ni ofyn i'r ysbyty gynnal archwiliad post-mortem?

9

A allaf fynd â’m plentyn adref?

10

Y Diwrnodiau Canlynol

11

Sut mae casglu’r 'Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth'?

11

Sut mae cofrestru marwolaeth fy mhlentyn?

12

Sut mae trefnu angladd fy mhlentyn?

15

Cymorth sydd ar gael gan y Bwrdd Iechyd

16

Y Gwasanaeth Coffa Plant blynyddol

18

Detholiad o rifau ffôn a gwefannau sy’n cynnig cymorth/gwybodaeth

19-23

Nodiadau

24-25

Adborth i'r Gwasanaeth Profedigaeth

26-27 1


YR ORIAU A'R DIWRNODIAU CYNTAF Beth fydd yn digwydd yn syth ar ôl marwolaeth fy mhlentyn? Rydym yn gobeithio i chi gael cynnig i dreulio amser gyda'ch plentyn ar y ward neu'r uned ar ôl iddo farw, a’ch bod wedi cael cyfle i olchi a gwisgo eich plentyn os oeddech am wneud hynny. Efallai y byddwch am i'r staff gymryd cofroddion i chi. Gall y cofroddion hyn helpu i greu atgofion ar gyfer y dyfodol, a gallant gynnwys: • Cudyn o wallt y plentyn • Blwch atgofion • Cast clai o law'r plentyn • Printiau llaw a throed • Taflen goffa ar gyfer arysgrif i'w gosod yn y llyfr coffa (yn y Noddfa ar B5) Does dim rhaid i chi gael unrhyw un o'r rhain. Chi piau'r dewis, ac fe gewch hefyd newid eich meddwl. Os ydych yn dymuno eu cael, cofiwch na fydd pob un o'r opsiynau hyn yn bosib bob tro. Os bu farw eich plentyn yn yr Uned Achosion Brys, sylwch ei bod hi'n bosibl na fydd modd i chi gael y cofroddion ar unwaith. Os ydych am gael rhagor o wybodaeth, gofynnwch i aelod o staff yn yr uned. Gallwch hefyd drefnu i fendithio eich plentyn. Gall Caplan yr ysbyty wneud hyn, neu cewch hefyd gysylltu â gweinidog o'ch dewis, wrth gwrs. Mae Caplan yr ysbyty ar gael bob awr o'r dydd a phob dydd o'r flwyddyn, a gall pobl o bob ffydd, neu heb ffydd, gysylltu ag ef am gymorth ysbrydol a chrefyddol. 2


A allaf weld fy mhlentyn yn yr ysbyty? Gallwch. Cewch weld a threulio amser gyda'ch plentyn ar y ward neu'r uned, yn syth ar ôl y farwolaeth. Yn yr ysbyty, ceir hefyd ystafell lle gallwch ddychwelyd i dreulio amser gyda'ch plentyn; mae'r ystafell hon wrth ymyl y corffdy. Os ydych am ddefnyddio'r ystafell bydd angen i chi wneud apwyntiad. Trefnir apwyntiadau fel arfer rhwng 9.00yb - 4.00yp o ddydd Llun i ddydd Gwener. I wneud apwyntiad yn ystod yr oriau hyn ffoniwch aelod o staff yn y corffdy ar 029 2074 4269 a bydd yn trefnu dyddiad ac amser sy'n gyfleus i bawb. Bydd y staff yn gwneud eu gorau i fodloni eich dymuniadau, ond weithiau ni fydd hyn yn bosib bob tro. Mewn amgylchiadau eithriadol y tu allan i'r oriau hyn, ffoniwch 029 2074 7747 a gofynnwch i aelod o'r switsfwrdd anfon neges at y Rheolwr Safle. Ar ôl i'ch plentyn adael gofal yr ysbyty, cewch hefyd weld eich plentyn yn y parlwr angladdau.

3


A fydd modd rhoi meinweoedd? Ar ôl i'ch plentyn farw, gall roi organau neu feinweoedd os dymunwch. Efallai y byddwch yn gallu rhoi cornbilennau (rhan o'r llygad) a falfiau calon eich plentyn ar ôl iddo farw, ond dylech fod yn ymwybodol nad yw hyn yn bosibl bob tro. Gellir rhoi cornbilennau hyd at 24 awr ar ôl y farwolaeth a falfiau'r galon hyd at 48 awr ar ôl y farwolaeth. Os byddwch yn penderfynu rhoi organau neu feinweoedd, a bod hynny'n bosibl, ni fydd hynny'n eich atal rhag gallu ffarwelio â'ch plentyn nac yn effeithio ar drefniadau'r angladd. Os ydych yn dymuno trafod y posibilrwydd o roi meinwe, cewch ofyn i aelod o staff gysylltu â'r Nyrsys sy'n Arbenigo mewn Rhoi Organau. Mae'r nyrsys ar gael bob awr o'r dydd a gallwch gysylltu â nhw drwy ffonio 07659591889 a rhoi eich manylion cyswllt.

Pa gyfleusterau sydd ar gael i deuluoedd a chanddynt gredoau crefyddol a diwylliannol? Mae'r Noddfa wedi'i lleoli ym Mloc B ar lefel 5 yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae'r cyfleuster hwn ar gael i bobl o bob ffydd a rhai heb ffydd.

4


Beth sy'n digwydd os oes gofynion diwylliannol dros y penwythnos neu dros gyfnod gŵyl y banc? Os oes angen claddu corff eich plentyn dros y penwythnos neu yn ystod gŵyl y banc, mae canllawiau wedi'u sefydlu er mwyn i'r staff geisio helpu i drefnu hyn, ond bydd angen gwneud rhai pethau yn gyntaf. • Yn gyntaf, rhaid i feddyg lenwi'r dystysgrif feddygol o achos marwolaeth. • Yna mae angen cofrestru'r farwolaeth gyda'r Cofrestrydd Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau cyn i'ch plentyn adael yr ysbyty. • Hefyd, os bydd y claddu'n digwydd ym mynwent y Gorllewin yn Nhrelái, bydd angen i'ch Trefnydd Angladdau gysylltu â Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc, ond bydd costau ychwanegol ar y diwrnodau hyn. Os adroddwyd ynghylch marwolaeth eich plentyn wrth y Crwner, ni fydd y staff yn gallu cwblhau'r gwaith papur angenrheidiol, ac yn anffodus ni fydd modd claddu eich plentyn nes bo'r farwolaeth wedi'i hadrodd, a nes bo unrhyw ymchwiliadau wedi'u cynnal.

5


Beth fydd yn digwydd os bydd fy mhlentyn yn marw yn yr Uned Achosion Brys? Fel arfer, os bydd eich plentyn wedi marw ar y ffordd i'r Uned Achosion Brys, adroddir ynglŷn â'r farwolaeth wrth y Crwner. Ceir Swyddog Heddlu yn yr adran sy'n gweithredu fel swyddog y Crwneriaid. Bydd angen i'r swyddog gymryd datganiad gennych, a bydd gofyn i chi adnabod eich plentyn yn ffurfiol. Ar ôl hyn, cewch weld eich plentyn. Dyma'r broses a ddefnyddir yn rheolaidd ar gyfer marwolaethau yn yr Uned Achosion Brys. Yna bydd angen i feddyg yn yr adran roi adroddiad i'r Crwner am farwolaeth eich plentyn, a bydd y Crwner yn penderfynu beth fydd yn digwydd nesaf. Bydd swyddog y Crwner yn cysylltu â chi i'ch cynghori ynghylch beth fydd yn digwydd nesaf, neu gallwch gysylltu ag ef ar 101 (Gorsaf Heddlu Canol Caerdydd) a gofyn am swyddogion y crwneriaid. Bydd y swyddogion yn dweud wrthych: • a all y Meddyg Teulu gyhoeddi tystysgrif feddygol o achos marwolaeth neu • a all yr ysbyty gyhoeddi tystysgrif feddygol o achos marwolaeth neu • a fydd archwiliad post-mortem neu gwest yn cael ei gynnal Os yw'r Meddyg Teulu'n cyhoeddi tystysgrif feddygol o achos marwolaeth, bydd angen i chi gysylltu ag ef i gael gwybod pryd y gallwch gasglu'r dystysgrif. Os na all meddyg gyhoeddi'r dystysgrif, bydd swyddog y crwner yn dweud wrthych beth i'w wneud nesaf. 6


Beth os adroddir ynghylch marwolaeth y plentyn wrth y Crwner? Weithiau, hyd yn oed os yw eich plentyn wedi marw ar ward neu mewn uned yn yr ysbyty, mae angen i feddyg gyflwyno adroddiad am farwolaeth eich plentyn i'r Crwner, cyn y bo modd i chi gael tystysgrif feddygol o achos marwolaeth. Dyma rai o'r amgylchiadau lle bydd hyn yn digwydd: • lle bydd achos y farwolaeth yn anhysbys; • os digwyddodd y farwolaeth cyn pen 24 awr ar ôl derbyn y plentyn i'r ysbyty; • os digwyddodd y farwolaeth yn ystod neu ar ôl llawdriniaeth neu weithdrefn lawfeddygol; • os yw achos y farwolaeth yn annaturiol e.e. damwain (gan gynnwys gwrthdrawiadau traffig ffyrdd), gwenwyno, dynladdiad neu esgeulustod posibl.

Nesaf, bydd y Crwner yn penderfynu naill ai: • nad oes angen cynnal post-mortem. Yn yr achos hwnnw, bydd yn rhoi gwybod i'r Cofrestrydd Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau am hyn, drwy ddefnyddio Ffurflen A, a bydd tystysgrif feddygol o achos marwolaeth yn cael ei chyhoeddi. Sylwch, os bydd Ffurflen A wedi cael ei chyhoeddi, gall hynny weithiau achosi oedi wrth gofrestru marwolaeth eich plentyn; neu • fod angen cynnal archwiliad post-mortem, a bydd angen iddo ofyn i Batholegydd (meddyg) wneud hyn.

7


Ar ôl cynnal archwiliad post-mortem, bydd y Crwner naill ai'n penderfynu: • nad oes angen cymryd unrhyw gamau pellach, ac os felly bydd yn hysbysu'r cofrestrydd am hynny drwy ddefnyddio Ffurflen B: neu • fod angen iddo gynnal cwest; os felly, bydd swyddog y y Crwner yn rhoi gwybod ichi beth fydd yn digwydd nesaf. Mae post-mortem Crwner yn rhwymedigaeth gyfreithiol, ac ni chaiff teuluoedd ei wrthod. Fodd bynnag, os oes amser i drefnu hyn ymlaen llaw, caiff teuluoedd sicrhau bod eu meddyg eu hunain yn bresennol i'w cynrychioli yn yr archwiliad. Mae swyddogion y Crwner ar gael: o 7.30yb tan 3.30yp ar ddydd Llun i ddydd Iau o 7.30yb tan 3.00yp ar ddydd Gwener (ac eithrio ar wyliau banc) drwy ffonio 101 (drwy Orsaf Heddlu Canol Caerdydd).

8


A allwn ni ofyn i'r ysbyty gynnal archwiliad post-mortem? Er na fydd y Crwner yn gofyn am archwiliad post-mortem, efallai y byddwch chi neu'r meddyg am i'r ysbyty gynnal archwiliad post-mortem. Gall post-mortem roi gwybodaeth fanylach am achos y farwolaeth, ond nid yw bob amser yn cynnig yr holl atebion. Gellir hefyd gynnal archwiliad cyfyngedig ar eich plentyn, ond mae'n bosibl y bydd hynny hefyd yn cyfyngu ar y canfyddiadau. Does dim rhaid i chi gytuno i ganiatåu i'r ysbyty gynnal archwiliad post-mortem, a chi piau'r dewis a fydd archwiliad o'r fath yn cael ei gynnal ai peidio. Mae llyfryn ar gael am archwiliad post-mortem yr ysbyty os ydych am gael rhagor o wybodaeth. Cynhelir yr archwiliad post-mortem mewn modd sensitif, ac fel rheol ni ddylai achosi oedi i drefniadau'r angladd. Dywedwch wrth y Trefnydd Angladdau fod yr archwiliad yn cael ei gynnal. Anfonir yr adroddiad wedyn at y Meddyg Ymgynghorol fu'n gofalu am eich plentyn; gall gymryd sawl wythnos i gwblhau'r adroddiad hwn. Gallwch gysylltu â threfnydd angladdau i wneud cynlluniau dros dro cyn gynted ag y dymunwch. Does dim rhaid aros nes i chi gofrestru marwolaeth eich plentyn.

9


PRUDic Ymateb Gweithdrefnol i Farwolaethau Annisgwyl yn ystod Plentyndod Hysbysir y Crwner am bob marwolaeth anesboniadwy neu annaturiol ymhlith plant cyn gynted ag y bydd ffaith marwolaeth wedi’i chadarnhau, a rhoddir ystyriaeth i’r angen am ymchwiliad llawn gan yr heddlu/crwner. Mae’r weithdrefn hon yn gosod safon ofynnol ar gyfer ymateb i farwolaethau annisgwyl ymhlith babanod a phlant yng Nghymru. Mae’n disgrifio’r broses cyfathrebu, y gweithredu ar y cyd a’r rhannu gwybodaeth sy’n digwydd yn dilyn marwolaeth annisgwyl plentyn. Mae’r broses yn casglu’r holl wybodaeth berthnasol a ddelir gan weithwyr proffesiynol er mwyn ei rhannu gyda’r Crwner a’r Patholegydd cyn yr archwiliad Post Mortem. Nod y PRUDic yw sicrhau bod yr ymateb yn ddiogel, cyson a sensitif i’r rheini sy’n gysylltiedig, a bod unffurfedd ar draws Cymru parthed ymateb i farwolaethau annisgwyl plant. Mae’r ymateb gweithdrefnol yn rhoi strwythur y gellir ei ddefnyddio i ddod i farn resymegol wrth werthuso marwolaeth annisgwyl plentyn ar sail yr holl wybodaeth sydd ar gael. Cydlynir yr ymateb gweithdrefnol ar ran y Crwner gan yr heddlu, neu drwy gytundeb lleol gan yr Ymarferydd PRUDic (gweithiwr iechyd proffesiynol arbenigol). Cydlynir cynllun profedigaeth a rhoddir ystyriaeth i alw cyfarfod yn y dyfodol. Rhoddir manylion y broses PRUDic i’r rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant.

10


Y rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant Nod y rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant yw nodi a disgrifio patrymau ac achosion marwolaethau plant yn cynnwys unrhyw dueddiadau, ac argymell camau er mwyn lleihau’r perygl bod ffactorau y gellir eu hosgoi yn cyfrannu at farwolaethau plant yng Nghymru. Yn ganolog iddi mae ymdrech i ddeall a chynorthwyo i atal marwolaethau plant yng Nghymru drwy ganolbwyntio ar ffactorau y gellir eu haddasu a allai fod wedi cyfrannu at y marwolaethau hynny. Nid yw’r adolygiadau yn ceisio beio unigolion nac asiantaethau ond maent yn hytrach yn canolbwyntio ar yr hyn y gellir ei wneud i atal marwolaethau yn y dyfodol. Mae llwyddiant y rhaglen yn dibynnu’n fawr ar y partneriaethau rhwng y rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant a sefydliadau eraill a bod gweithwyr proffesiynol yn rhannu gwybodaeth ynglŷn ag amgylchiadau marwolaeth pob plentyn. Ni wahoddir rhieni i fod yn rhan o’r rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant ond efallai y gwahoddir hwy i gyfrannu unrhyw sylwadau a all fod ganddynt i adolygiad marwolaeth y plentyn. Ni fydd yr adroddiad yn ymwneud ag achos unigol, ond efallai y gwneir argymhellion er mwyn atal unrhyw drasiedïau rhag digwydd yn y dyfodol.

11


A allaf fynd â'm plentyn adref? Os ydych yn dymuno, efallai y cewch fynd â'ch plentyn adref ar ôl iddo farw, ond ni fydd hyn bob tro'n bosibl yn syth ar ôl y farwolaeth. Mewn sefyllfa felly, byddwn yn trafod y rhesymau pam nad ydych yn gallu mynd â'ch plentyn adref gyda chi. Os ydych yn mynd â'ch plentyn adref, mae angen i chi feddwl sut y byddwch yn ei drosglwyddo, ac ym mha fath o gerbyd. Bydd staff yn yr ysbyty hefyd yn cysylltu â'r heddlu lleol i roi gwybod iddynt y byddwch yn teithio gyda'ch plentyn. Ar ôl cyrraedd adref (neu cyn gadael yr ysbyty), byddai'n ddoeth siarad â Threfnydd Angladdau ynghylch sut i ofalu am eich plentyn. Mae hefyd yn synhwyrol sicrhau eich bod yn cadw eich plentyn mewn ystafell oer sydd wedi'i hawyru'n dda, yn enwedig yn ystod tywydd poeth. Ar ôl diwrnod neu ddau, efallai y bydd hi'n werth siarad â'ch Trefnydd Angladdau er mwyn cael cyngor pellach, yn enwedig os nad yw'r angladd yn cael ei chynnal yn syth.

12


Y DIWRNODIAU CANLYNOL Sut mae casglu’r 'dystysgrif feddygol o achos marwolaeth'? Os nad yw'r Crwner yn cynnal unrhyw ymchwiliad, byddwch yn cael 'tystysgrif feddygol o achos marwolaeth' gan yr ysbyty. Bydd angen y dystysgrif yma arnoch i gofrestru marwolaeth eich plentyn. Bydd yn rhaid i chi siarad â'r ysbyty lle bu farw eich plentyn, cyn dod i gasglu'r dystysgrif. Mae angen i chi wneud hyn er mwyn sicrhau bod y dystysgrif yn barod ar eich cyfer. • Bydd angen i chi gysylltu â'r Swyddfa Profedigaeth rhwng 9.30yb a 4.30yp er mwyn trefnu i gasglu'r dystysgrif feddygol o achos marwolaeth drwy ffonio 029 2074 2789. Os ydych yn mynd i amlosgi, ac nad yw'r Crwner yn ymwneud â'r achos, bydd angen i ddau feddyg lenwi ffurflen. Dylech ddweud wrth staff y ward neu'r Swyddfa Profedigaeth yn yr ysbyty, a byddant yn trefnu i lenwi'r ffurflen. Bydd hon wedyn yn barod i'w chasglu gan y Trefnydd Angladdau.

13


Sut mae cofrestru marwolaeth fy mhlentyn? Dylid cyflwyno’r dystysgrif feddygol o achos marwolaeth i’r Cofrestrydd Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau cyn gynted ag y bo modd. Mae'n ofyniad cyfreithiol cofrestru'r farwolaeth o fewn pum niwrnod gwaith onid yw'r Cofrestrydd yn ymestyn y cyfnod hwn o amser. Ceir dau ddewis; Opsiwn 1 yn Neuadd y Ddinas: Ar gyfer marwolaethau yn Ysbyty Athrofaol Cymru, gellir cofrestru marwolaeth eich plentyn yn: Swyddfa Gofrestru Caerdydd Rhodfa'r Brenin Edward VII Neuadd y Ddinas Caerdydd CF10 3ND Mae'r fynedfa gyferbyn â Gorsaf Heddlu Canol Caerdydd 029 2087 1684 Dyma'r oriau agor presennol: Dydd Llun 8.30yb - 3.30yp Dydd Mawrth 9.30yb - 3.30yp Dydd Mercher 8.30yb - 3.30yp Dydd Iau 8.30yb - 3.30yp Dydd Gwener 9.00yb - 3.30yp bob dydd drwy apwyntiad yn unig Sylwch ein bod ar gau ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau banc, ond gallai hyn newid.

14


Opsiwn 2 yn Ysbyty Athrofaol Cymru: Cewch hefyd gofrestru marwolaeth eich plentyn yn ystafell y Cofrestrwyr Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau yn y dyrfa, yn Ysbyty Athrofaol Cymru o 9.00yb tan 3.00yp o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gallwch wneud apwyntiadau gyda staff y Swyddfa Profedigaeth drwy ffonio 029 2074 2789. Weithiau, ni fydd y gwasanaeth hwn ar gael. Os felly, bydd staff y Swyddfa Profedigaeth yn rhoi gwybod i chi am hynny. Gallwch gofrestru marwolaeth eich plentyn mewn Swyddfa Gofrestru wahanol, ond ni fydd y gwaith papur yn cael ei gyhoeddi'n syth, ac weithiau gall hyn achosi oedi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae'n well i chi gysylltu â'ch Swyddfa Gofrestru leol i'w trafod.

Pwy sy'n gallu cofrestru marwolaeth y plentyn? Dylai rhiant gofrestru'r farwolaeth, ond os nad yw hyn yn bosibl, gall pobl eraill gofrestru'r farwolaeth, gan gynnwys: 1. Rhywun a oedd yn bresennol ar adeg y farwolaeth 2. Cynrychiolydd o'r sefydliad / ysbyty lle digwyddodd y farwolaeth 3. Y sawl sy’n rhoi cyfarwyddyd i'r Trefnydd Angladdau

15


Pa wybodaeth y mae ar y Cofrestrydd ei hangen? • Y dystysgrif feddygol o achos marwolaeth a gyhoeddwyd gan yr ysbyty, y meddyg teulu neu'r Crwner • Enw llawn a chyfeiriad eich plentyn • Dyddiad a man geni'r plentyn • Enw a galwedigaeth y fam / y tad • Manylion unrhyw fudd-daliadau yr oedd eich plentyn yn eu derbyn • Tystysgrif geni (os yw ar gael). Dywedwch Wrthym Unwaith Mae Dywedwch Wrthym Unwaith yn fenter newydd sy'n ei gwneud hi’n bosibl i hysbysu amryw o adrannau llywodraeth a gwasanaethau awdurdod lleol am farwolaeth. Os ydych am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, bydd y Cofrestrydd Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau yn cymryd yr wybodaeth angenrheidiol pan fyddwch yn cofrestru marwolaeth eich plentyn. Bydd fel arfer yn cymryd pum munud neu ddeg i gwblhau'r wybodaeth yma. Dyma rai o'r adrannau dan sylw: • Yr Adran Gwaith a Phensiynau • Cyllid a Thollau EM • Swyddfa Budd-dal Tai • Llyfrgelloedd • Swyddfa Pasbortau a'r DVLA Mae taflen ar gael gan y Cofrestrydd os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch. Gwasanaeth dewisol yw hwn, a bydd yr wybodaeth y byddwch yn ei rhoi yn cael ei chadw'n ddiogel. 16


Beth fydd yn digwydd nesaf? Bydd y Cofrestrydd yn rhoi tystysgrif i chi (a elwir yn ffurflen werdd). Bydd angen y ffurflen hon ar y Trefnydd Angladdau i'w alluogi i barhau â'r trefniadau ar gyfer yr angladd. Bydd hefyd yn rhoi tystysgrif cofrestru marwolaeth i chi; dylech ddarllen y wybodaeth ac os oes unrhyw ran ohoni'n berthnasol, dylech lenwi'r dystysgrif a'i hanfon neu ei chyflwyno i'r swyddfa nawdd cymdeithasol. Codir ffi am gopïau o'r dystysgrif (marwolaeth). Bydd y Cofrestrydd yn dweud wrthych faint o gopïau y gallai fod arnoch eu hangen. Os bydd angen copïau arnoch yn ddiweddarach, bydd y tâl am hynny'n uwch. Sut mae trefnu angladd fy mhlentyn? Mae'n bwysig iawn eich bod yn cymryd eich amser wrth benderfynu ynghylch angladd eich plentyn. Peidiwch â phoeni does dim brys. Y peth olaf yr ydych chi ei eisiau yw difaru flynyddoedd yn ddiweddarach. Os ydych chi neu aelodau o'r teulu'n teimlo eich bod yn gallu gwneud hynny, efallai y bydd o fudd i chi sgwrsio â mwy nag un trefnydd angladdau, nid yn unig oherwydd costau, ond am ei bod hi'n bwysig i chi deimlo'n gyffyrddus â'r trefnydd, gan mai dyna pwy fydd yn gofalu am eich plentyn. Mae'n syniad da cysylltu â Threfnydd Angladdau o'ch dewis cyn gynted ag y bo modd. Mae'r manylion i'w cael yn y tudalennau melyn neu ar y rhyngrwyd. Bydd y Trefnydd yn rhoi brasamcan i chi o'r gost. Peidiwch â bod ofn trafod ffyrdd i leihau'r dyfynbris. Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn cymorth gyda chostau'r angladd. Ceir gwybodaeth oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau. Gallwch hefyd gysylltu â swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith. Nid yw'r rhan fwyaf o Drefnwyr Angladdau yn codi tâl am ddarparu gwasanaeth ar gyfer babanod a phlant hyd at 16 oed, ond mae rhai ohonynt yn gwneud hynny. Dylech fod yn ymwybodol o'r ffaith y bydd yna gostau eraill i’w talu, fel costau ar gyfer y bedd ac ati os ydych yn penderfynu claddu. 17


Fel arall, gallwch gysylltu â Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd i gael cyngor ynghylch trefnu angladd eich hunan. Does dim rhaid i chi gael seremoni angladdol, na defnyddio gweinidog crefyddol neu Drefnydd Angladdau. Os ydych yn dewis trefnu'r angladd eich hun, dyma rai adnoddau defnyddiol: • Y Ganolfan Marwolaeth Naturiol 0871 2882098 • Gwasanaethau Profedigaeth Prif Nyrsys: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 029 2074 4949 • Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd 029 20544820 Gallai fod yn werth meddwl am recordio'r gwasanaeth angladd, cael llyfr i bobl lofnodi neu gadw'r cardiau o'r blodau, efallai, er mwyn edrych arnynt yn ddiweddarach gall y diwrnod ddod i ben yn gyflym iawn. Cymorth sydd ar gael gan y Bwrdd Iechyd Mae'r Bwrdd Iechyd yn darparu’r cymorth canlynol ar ôl marwolaeth plentyn. Efallai y byddwch yn dymuno derbyn rhywfaint o gymorth, neu'r holl gymorth sydd ar gael, neu beidio derbyn cymorth o gwbl. Chi piau'r dewis. • Tîm Caplaniaeth yr Ysbyty; Gallwch gysylltu â'r tîm yn uniongyrchol neu gall y staff gysylltu â'r tîm ar eich rhan - 029 2074 3230. Ceir hefyd Gaplan ar alwad bob awr y dydd, a gellir cysylltu ag ef y tu allan i oriau swyddfa drwy ffonio 029 2074 7747. Mae'r Caplaniaid ar gael i roi cymorth ysbrydol, crefyddol neu gyffredinol i bobl o bob ffydd neu heb ffydd. Lle tawel i bobl o bob ffydd, neu heb ffydd, gael myfyrio yw'r Noddfa ar B5, ac mae ar agor bob awr o'r dydd. 18


• Meddyg Ymgynghorol Eich Plentyn Efallai y byddwch yn cael bod sgwrs gyda'r Pediatrydd fu'n gofalu am eich plentyn yn fuddiol. Gellir trefnu hyn drwy gysylltu â'i ysgrifennydd drwy switsfwrdd yr ysbyty ar 029 2074 7747 i drefnu amser cyfleus. • Gwasanaethau Profedigaeth y Prif Nyrsys Mae'r brif nyrs ar gael i roi cyngor, cymorth a gwybodaeth drwy ffonio 029 2074 4949.

19


Gwasanaethau Coffa Plant Blynyddol Cynhelir gwasanaethau ar bore dydd Sadwrn, am 11:30 i blant fu farw, ac am 11yb ar gyfer babanod fu farw yn Ysbytai Caerdydd a'r Fro. Mae'r gwasanaethau hyn yn cael eu cynnal bob blwyddyn yn ystod penwythnos olaf mis Tachwedd / dechrau mis Rhagfyr yn y Noddfa ar B5 yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Yn ystod y gwasanaeth, caiff teuluoedd osod seren ar y Goeden Nadolig er cof y baban neu'r plentyn fu farw. Mae lluniaeth hefyd ar gael ar ôl y gwasanaeth, ac mae'r staff wrth law i roi cymorth. Bob blwyddyn, bydd gwahoddiad yn cael ei anfon gan y Bwrdd Iechyd gyda seren amgaeedig, ac fe gewch ddychwelyd y seren hyd yn oed os nad ydych yn dymuno dod i'r gwasanaeth. Mae croeso i chi ddod i'r gwasanaethau hyn, ond does dim rhaid i chi wneud hynny - bydd gwahanol bethau o fudd i wahanol bobl. Bydd gwasanaethau hefyd yn cael eu cynnal yn Amlosgfa Thornhill yn ystod mis Mehefin, a bydd y Gymdeithas Marw-enedigaeth a Marwolaeth Cyn Geni (SANDS) leol yn cynnal gwasanaeth ym mis Rhagfyr.

20


Dyma ddetholiad o rifau ffôn a gwefannau sy'n cynnig cymorth/gwybodaeth ARC: Antenatal Results Choices www.arc-uk.org

Cymorth i rieni sydd wedi gorfod dod â beichiogrwydd i ben gan fod nam ar eu plentyn, neu a fydd yn gorfod gwneud hynny.

Ffôn: 0845 0772290

Gwasanaeth Cwnsela i Deuluoedd Asiaidd:

Cwnsela dros y ffôn

Ffôn: 020 8571 3933

BACP (Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain) www.bacp.co.uk

Cyngor ar ddewis therapydd a rhestr o therapyddion achrededig.

Ffôn: 01455 883300

Canolfan Cyngor ar Brofedigaeth www.bereavementadvice.org

Cyngor pan fydd rhywun yn marw (gwasanaeth ffôn rhad ac am ddim)

Ffôn: 0800 634 9494

Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd

Wedi'u lleoli yn Amlosgfa Thornhill; ar gael i roi cyngor

Ffôn: 029 2062 3294

Wrth ffonio o ffôn symudol; Ffôn: 0207 7137486

Ffôn: 029 2074 3230 Adran Gaplaniaeth Caerdydd Ar gael o 9 a Bwrdd Iechyd Prifysgol y tan 5 ar ddydd Fro Llun i ddydd Gwener. Mae'r tîm hefyd yn darparu gwasanaeth ar alwad 24/7. 21


Y Llinell Gymorth Gwasanaeth ffôn Marwolaeth Plant am ddim i www.childdeathhelpline.org.uk unrhyw un y mae marwolaeth plentyn wedi effeithio arno.

Ffôn: 0800 282986 wrth ffonio o ffôn symudol: Ffôn: 0808 8006019

Profedigaeth Plant y DU www.childbereavement.org.uk

Gwybodaeth, Ffôn: 01494 568900 cefnogaeth a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gofalu am deuluoedd mewn profedigaeth

Y Rhwydwaith Profedigaeth Plant www.childbereavement.org.uk

Elusen Ffôn: 020 7843 6309 genedlaethol yn y DU sy'n darparu gwybodaeth i blant, pobl ifanc a theuluoedd, ac i weithwyr proffesiynol hefyd.

Ymddiriedolaeth Christian Lewis www.christianlewistrust.org

Ffôn: 01792 480500 Gofal a chefnogaeth i deuluoedd yr effeithir arnynt gan ganser plant. Hefyd yn darparu rhaglen wyliau

Canolfan Cyngor ar Bopeth www.citizensadvice.org.uk

Llinell Gyngor

Ffôn: 08451 232304 Rhieni mewn Compassionate Friends www.compassionatefriends.org profedigaeth sy'n cynnig cymorth i rai sydd wedi colli plentyn, waeth beth fo oed y plentyn hwnnw. 22


Swyddfa'r Crwneriaid (drwy Yn dilyn Ffôn: 101 Orsaf Heddlu Canol Caerdydd) marwolaeth annisgwyl ac anesboniadwy Gofal Profedigaeth Cruse Hyrwyddo lles Ffôn: 029 2022 6166 (Caerdydd a'r Fro) pobl mewn www.crusebereavementcare.org.uk profedigaeth a galluogi pawb sydd mewn profedigaeth i ddeall eu galar ac ymdopi â'u colled. Cruse RD4U www.rd4u.org.uk

Gwefan i bobl ifanc

Yr Adran Gwaith a Phensiynau www.dwp.gov.uk

Yn gyfrifol am les a pholisi pensiynau

Donor Family Network Cymorth a www.donorfamilynetwork.co.uk gynhelir gan deuluoedd rhoddwyr ar gyfer teuluoedd rhoddwyr FSID (Sefydliad Astudio Marwolaethau Babanod) www.fsid.org.uk

Ffôn: 0808 808 1677

Ffôn: 0845 680 1954

Ffôn: 080 8802 6868 Cymorth yn dilyn marwolaeth babi. Yn sydyn neu'n annisgwyl.

23


ISSA (Cymdeithas Gwasanaethau Cymdeithasol Islamaidd) www.issa-wales.org

Gwasanaethau Ffôn: 029 2034 5294 cymorth gan gynnwys cwnsela, cyfeillio, eiriolaeth, cyfryngu, caplaniaeth, addysg a gwybodaeth a chyngor

Gwasanaeth Cwnsela i Gwasanaeth Iddewon mewn Profedigaeth Cwnsela MYH (Llinell Gymorth i Fwslimiaid Ifanc) www.myh.org.uk

Ffôn: 0808 808 2008 Gwasanaeth cymorth emosiynol sy'n gyfrinachol ac yn rhad ac am ddim. Mae'r gwasanaeth ar gael dros y ffôn, drwy e-bost a thrwy'r post

NAFD www.nafd.org.uk

Cymdeithas Genedlaethol y Trefnwyr Angladdau

Y Samariaid www.samaritans.org.uk

Llinell gymorth Ffôn: 029 2034 4022 gyfrinachol sydd ar agor bob awr o'r dydd

SANDS www.uk-sands.org

Elusen Marwenedigaeth a Marwolaeth Cyn Geni

SANDS Caerdydd www.cardiff-sands.co.uk

24

Ffôn: 0208 951 3881

Ffôn: 0845 230 1343

Ffôn: 020 7436 5881


Sand Rose Project www.sandrose.org.uk

Gwasanaeth Ffôn: 0845 6076357 am ddim sy'n rhoi seibiant i rai sydd mewn profedigaeth, gyda phwyslais arbennig ar deuluoedd ifanc

Gwasanaethau Profedigaeth y Prif Nyrsys

Cymorth, cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth ymarferol

Ffôn: 029 2074 4949

Survivors of Bereavement by Suicide www.uk-sobs.org.uk

Survivors of Bereavement by Suicide

Ffôn: 0844 561 6855

Ar gael i roi Y Gymdeithas Camesgor www.miscarriageassociation.org.uk cymorth a gwybodaeth ar ôl marwolaeth babi (hyd at 24 wythnos yn y groth) Winston’s Wish www.winstonswish.org.uk

Ffôn: 01924 200799

Ffôn: 0845 2030405 Elusen sy'n cynnig gwybodaeth a chymorth i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd mewn cyfnod o brofedigaeth.

Roedd yr wybodaeth uchod yn gywir ar adeg cyhoeddi. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ac mae yna fudiadau eraill ar gael os ydych yn dymuno cysylltu â nhw. 25


Nodiadau

26


Nodiadau

27


Adborth i'r Gwasanaeth Profedigaeth Rydym yn gwerthfawrogi eich bod yn mynd drwy gyfnod anodd fel teulu, ond fel sefydliad byddem yn gwerthfawrogi eich adborth, boed dda neu ddrwg, gan y bydd yn ein helpu i ddarparu'r gwasanaeth gorau bosib. Gallwch ddychwelyd y ffurflen hon, yn rhad ac am ddim, i; RHADBOST: RSSC-ELSC-RJAC I sylw'r Gwasanaethau Profedigaeth Profiad y Claf Llawr Gwaelod Uchaf Bloc C Ysbyty Athrofaol Cymru Parc y Mynydd Bychan CAERDYDD CF14 4XW

1. Ar ba ward neu uned y bu farw eich plentyn?

2. Pryd ddigwyddodd y farwolaeth?

3. Cyn y farwolaeth, a fodlonwyd eich anghenion gan: Y Meddygon Y Nyrsys Y Timau Arbenigol Sylwadau:

28

Do Do Do

neu Naddo neu Naddo neu Naddo


5. A oedd unrhyw agwedd ar ein gwasanaethau nad oedd o fudd i chi o gwbl yn ystod y cyfnod anodd hwn? Oedd

neu

Nac oedd

Sylwadau:

6. A wnaethoch gofrestru marwolaeth y plentyn ar-safle yn Ysbyty Athrofaol Cymru? Oedd

neu

Nac oedd

Sylwadau:

7. A oes gennych unrhyw awgrymiadau ynghylch sut y gallwn wella ein gwasanaethau profedigaeth? Oedd

neu

Nac oedd

Sylwadau:

29


Fersiwn 2 Ionawr 2017


Os oes gennych unrhyw sylwadau penodol ynglŷn â'r brofedigaeth, cysylltwch â'r Gwasanaethau Profedigaeth yn: Ystafell 4 Y Dyrfa Ysbyty Athrofaol Cymru Parc y Mynydd Bychan Caerdydd CF14 4XW Ffôn: 029 2074 4949

30


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.