Cymorth a gwybodaeth ymarferol pan fydd rhywun agos atoch chi yn marw
Llyfryn Profedigaeth Tywysoges Cymru Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2023 Dyddiad adolygu: Rhagfyr 2025 Cyhoeddwyd gan RNS Publications © Ffôn: 01253 832400 R13
CYNNWYS Cyflwyniad .............................................................................. 1 Pan fydd rhywun agos atoch chi yn marw .............................. 2 Amgylchiadau annisgwyl ........................................................ 2 Beth yw’r camau nesaf ........................................................... 3 Y Caplan ................................................................................. 4 Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol ......................................... 5 Marwolaeth yn y gymuned ...................................................... 5 Swyddfa’r Crwner ................................................................... 6 Cofrestru marwolaeth ............................................................. 8 Y Gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith ........................ 10 Ariannu angladd .....................................................................11 Gweld eich anwylyd .............................................................. 12 Ymdopi â galar a cholled ....................................................... 12 Cyfeirio am gefnogaeth ......................................................... 14
CYFLWYNIAD Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg estyn ein cydymdeimlad dyfnaf â chi ar yr adeg hon. Gall delio â galar fod yn hynod o anodd, ac rydym yn gwybod nad yw’n hawdd dechrau meddwl am y trefniadau ymarferol y mae angen eu gwneud bellach. Cafodd y llyfryn hwn ei ysgrifennu i roi’r wybodaeth hanfodol sydd ei hangen arnoch chi ar yr adeg anodd hon. Rydym yn gobeithio y bydd o ddefnydd i chi, a byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw adborth os ydych yn credu y gallem wella ar y llyfryn.
1
PAN FYDD RHYWUN AGOS ATOCH YN MARW Waeth sut mae eich anwylyd wedi marw, gall dod i delerau â beth sydd wedi digwydd fod yn hynod anodd. Efallai y byddwch chi’n teimlo cymysgedd o emosiynau gan fod pobl i gyd yn galaru’n wahanol. Efallai y bydd yn helpu i rannu sut rydych chi’n teimlo gyda ffrindiau a pherthnasau a allai hefyd fod yn profi’r un teimladau o golled a theimlo’n wag. Gall fod angen cymorth ychwanegol ar rai pobl gan wasanaethau cymorth, ac mae gwybodaeth am y gwasanaethau hyn yn y llyfryn hwn. Gall hyn fod yn arbennig o bwysig os yw’r person sydd wedi colli rhywun yn alarus iawn, neu os oes problem iechyd meddwl neu anabledd dysgu gyda fe neu hi. Pan fydd rhywun agos atoch chi yn marw, mae prosesau cyfreithiol y mae’n rhaid eu dilyn a nod y llyfryn hwn yw eich arwain drwyddyn nhw, mor sensitif a pharchus â phosibl.
AMGYLCHIADAU ANNISGWYL Efallai y bydd adegau pan fydd angen newid y wybodaeth yn y llyfryn hwn ar fyr rybudd oherwydd gwybodaeth a ddarperir gan y llywodraeth. Os felly, bydd y newidiadau yn cael eu cyfathrebu’n dda i chi gan ein swyddogion profedigaeth, gan gynnwys manylion am sut y bydd yn effeithio arnoch chi a’ch anwylyd.
2
BETH YW’R CAMAU NESAF? Yn gyntaf, bydd angen i chi gysylltu â’r swyddog profedigaeth yn yr ysbyty perthnasol: Ysbyty Brenhinol Morgannwg Ysbyty’r Tywysog Siarl Ysbyty Tywysoges Cymru Ysbyty Cwm Rhondda Ysbyty Cwm Cynon
Ffôn: 01443 443249 Ffôn: 01685 728625 Ffôn: 01656 754088 Ffôn: 01443 430022 (est. 72644) Ffôn: 01443 715217
Mae’r Swyddogion Profedigaeth ar gael 9:00am-4.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ond fyddan nhw ddim ar gael ar benwythnosau nac ar Wyliau Banc. Yn yr Ysbytai Cymunedol, yr amseroedd agor yw 9:00am tan 12.30pm. Gallwch adael neges lais y tu allan i’r oriau hyn. Bydd y swyddogion yn egluro beth sy’n digwydd nesaf o ran y Dystysgrif Feddygol o Achos y Farwolaeth, enw arall ar hyn yw Tystysgrif Marwolaeth neu Dystysgrif Feddygol. Bydd y tîm yn gofyn rhai cwestiynau adnabod i chi er mwyn canfod pwy yw’r claf, yn ogystal â’ch enw, manylion cyswllt a’ch perthynas â’r claf. Byddan nhw’n sefydlu ai chi yw’r person a fydd yn gyfrifol am Gofrestru Marwolaeth ac yn gofyn am enw’r trefnydd angladdau yr hoffech ei ddefnyddio, os ydych wedi penderfynu. Bydd gofyn i chi hefyd penderfynu ar gladdedigaeth neu amlosgiad, mae hyn er mwyn i’r tîm allu sicrhau bod y gwaith papur cywir yn cael ei gwblhau ar eich cyfer, cyn gynted â phosibl. 3
Byddwch chi’n gallu gofyn unrhyw gwestiynau i’r tîm a byddan nhw’n gallu eich cefnogi. Gallwch ffonio’r tîm gymaint o weithiau ag y dymunwch, a byddan nhw’n cadw mewn cysylltiad â chi i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd y gwaith papur. Gallan nhw hefyd roi cyngor i chi ar eiddo eich perthynas/ffrind. Os ydych chi’n teimlo eich bod chi’n cael trafferth, gallan nhw hefyd helpu i ddod o hyd i’r cymorth cywir i chi yn ystod eich profedigaeth, felly gofynnwch am gymorth os ydych chi’n credu y byddai hyn yn eich helpu.
CAPLANIAETH Mae caplaniaid ysbytai ar gael ar gyfer pob agwedd ar ofal ysbrydol a chyfannol yn ein bwrdd iechyd ar gyfer gwahanol enwadau ffydd. Gallwch gysylltu â nhw drwy rif ffôn y swyddog profedigaeth neu drwy e-bostio ctm.bereavementsupport@wales.nhs.uk Mae rhagor o gymorth ar gael gan y canlynol hefyd: Y Ffydd Iddewig: Synagog Unedig Caerdydd Ffôn: 02920 473728 Y Ffydd Islamaidd: Cyngor Mwslimiaid Cymru Ffôn 02920 224466/02920 344555
4
GWASANAETH ARCHWILWYR MEDDYGOL Yn unol â gofynion newydd y llywodraeth, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol. Mae’r archwiliwr meddygol yn uwch feddyg nad yw’n ymwneud â gofal y claf, sy’n darparu archwiliad annibynnol ar bob marwolaeth. Mae’r gwasanaeth hwn yn caniatáu i achos y farwolaeth gael ei nodi’n fwy cywir, a bod amgylchiadau’r farwolaeth yn cael eu hasesu’n fwy gwrthrychol. Mae gan yr archwiliwr meddygol dîm o swyddogion archwilio meddygol, a fydd yn cysylltu â chi yn y dyddiau ar ôl marwolaeth eich perthynas/ffrind. Byddan nhw’n trafod achos y farwolaeth gyda chi, ac yn gwrando ar eich barn am y gofal sy’n cael ei ddarparu. Gallan nhw ateb unrhyw gwestiynau sydd gyda chi am achos y farwolaeth ac amgylchiadau’r farwolaeth.
OS YW’CH PERTHYNAS/FFRIND WEDI MARW GARTREF, NEU YN Y GYMUNED Depending on Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, fel arfer meddyg teulu’r claf fydd yn cwblhau’r Dystysgrif Feddygol o Achos y Farwolaeth pan fydd person yn marw gartref neu mewn cartref preswyl/gofal. Os ydych chi’n gwybod pwy yw meddyg teulu eich perthynas/ffrind, gallwch gysylltu â nhw i gael rhagor o wybodaeth. Os bydd y farwolaeth yn sydyn, yn annisgwyl neu os dydy eich perthynas/ffrind ddim wedi cael ei weld yn ddiweddar gan ei feddyg teulu, efallai y bydd swyddfa’r crwner yn rhan 5
o’r ymchwiliad. Efallai y bydd y meddyg teulu neu’r heddlu (os yw’n bresennol) yn gallu rhoi cyngor i chi ar hyn. Mae rhagor o wybodaeth am rôl y crwner yn y llyfryn hwn. Fodd bynnag, os ydych chi’n teimlo bod angen unrhyw gymorth arnoch chi, cysylltwch â’r swyddogion profedigaeth ar y rhifau perthnasol a geir yn gynharach yn y llyfryn.
SWYDDFA’R CRWNER Mae’r crwner yn swyddog annibynnol sydd â’r cyfrifoldeb statudol dros ymchwilio cyfreithiol i gategorïau penodol o farwolaethau. Mae gan y crwner gefndir naill ai fel meddyg neu gyfreithiwr , ac yn cael ei gefnogi gan dîm o swyddogion y crwner, sy’n ymchwilio i unrhyw farwolaethau sy’n cael eu cyfeirio at y crwner. Pan fydd marwolaeth wedi cael ei adrodd i’r Crwner, rhaid i’r Cofrestrydd Genedigaethau a Marwolaethau lleol aros i’r Crwner orffen ei ymholiadau cyn y gellir cofrestru’r farwolaeth. Bydd gwaith papur wedyn yn cael ei gyhoeddi i ganiatáu i’r angladd fynd yn ei flaen. Mewn rhai achosion, gall y Crwner agor cwêst sy’n ymchwiliad barnwrol i’r farwolaeth. Mae llawer o resymau eraill pam y gall meddyg gyfeirio marwolaeth at y crwner. Os yw eich perthynas/ffrind wedi marw yn yr ysbyty, bydd swyddfa’r archwilydd meddygol yn rhoi gwybod i chi pan fydd yn ffonio, os oes angen atgyfeiriad crwner, unwaith y bydd wedi siarad â’r clinigwr. Unwaith y bydd y crwner wedi derbyn yr atgyfeiriad, bydd un o swyddogion y crwner yn cysylltu â chi o fewn 48 awr i drafod yr atgyfeiriad gyda chi ac i wrando ar unrhyw farn sydd gyda chi. Byddan nhw’n gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gyda chi 6
am y broses goronaidd, eich cynghori ar y camau nesaf a’ch cefnogi. Os yw’r crwner yn fodlon nad oes angen ymchwiliad i farwolaeth eich perthynas/ffrind, bydd yn cynghori’r meddyg i fwrw ymlaen ag ysgrifennu’r Dystysgrif Feddygol o Achos y Farwolaeth. Mae hyn yn golygu y gallwch fwrw ymlaen â chofrestru unwaith y bydd y meddyg wedi cwblhau’r dystysgrif. Weithiau, efallai y bydd y crwner yn teimlo bod angen ymchwiliad pellach, a gall yr ymchwiliad hwn gynnwys cwêst. Pan fydd hyn yn digwydd, fydd ddim angen i’r meddyg roi’r Dystysgrif Feddygol o Achos y Farwolaeth mwyach a bydd Swyddfa’r Crwner yn cymryd drosodd pob agwedd ar waith papur sy’n ymwneud â’r farwolaeth. Mae cwêst yn wrandawiad llys cyhoeddus sy’n cael ei gynnal gan y crwner i benderfynu pwy sydd wedi marw, sut, pryd a ble y digwyddodd y farwolaeth. Gall hyn fod gyda neu heb yr angen am archwiliad post mortem o’ch perthynas/ffrind. Bydd swyddogion y crwner yn egluro’n glir i chi beth sy’n digwydd nesaf ac yn egluro’r weithdrefn os bydd hyn yn digwydd, yn ogystal â thrafod gyda chi benderfyniad y crwner ynghylch a oes angen archwiliad post mortem. Gall mynd trwy gwêst beri gofid a gall fod yn gymhleth ar adeg sydd eisoes yn anodd i chi a’ch teulu. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch, gweler y cyfeiriad at asiantaethau cymorth yng nghefn y llyfryn.
7
COFRESTRU MARWOLAETH Unwaith y bydd y meddyg wedi cwblhau’r Dystysgrif Feddygol o Achos y Farwolaeth, byddwch wedyn yn gallu cofrestru marwolaeth eich perthynas/ffrind. Bydd y Dystysgrif Feddygol o Achos y Farwolaeth yn cael ei hanfon yn electronig at y cofrestrydd ar eich rhan, naill ai gan y Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol neu’r swyddogion profedigaeth. Bydd yr apwyntiad gyda’r cofrestryddion yn digwydd yn y Swyddfa Gofrestru Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau, a bydd yn y swyddfa yn yr awdurdodaeth lle mae eich perthynas/ffrind wedi marw. Ffôn Rhondda Cynon Taf Ffôn Merthyr Tydfil Ffôn Pen-y-bont ar Ogwr
01443 494024 01685 727333 01656 642392/93/94/91
Bydd y cofrestrydd yn gofyn i chi am: • • • • • • •
dyddiad a lleoliad y farwolaeth enw llawn a chyfenw’r person sydd wedi marw (a’r cyfenw cyn priodi os oedd yr ymadawedig yn fenyw briod/partner sifil) y dyddiad a’r man geni galwedigaeth y person ymadawedig ac, os oedd y person a fu farw yn briod neu mewn partneriaeth sifil, enw llawn a galwedigaeth ei briod neu bartner sifil eu cyfeiriad arferol dyddiad geni priod neu bartner sifil sy’n fyw Manylion unrhyw bensiwn y sector cyhoeddus e.e. y gwasanaeth sifil, athro neu’r lluoedd arfog. 8
Os oes gennych rai, byddai’n ddefnyddiol mynd â Thystysgrif Geni, Tystysgrif Priodas neu Bartneriaeth Sifil a Cherdyn Meddygol y GIG eich perthynas/ffrind gyda chi, neu lythyr ysbyty diweddar gyda rhif y GIG. Efallai y bydd angen i chi hefyd fynd â’ch dogfennau adnabod eich hun gyda chi, fel: • •
Pasbort/Trwydded Yrru/Tystysgrif Geni Prawf Cyfeiriad (fel bil cyfleustodau neu gyfriflen banc)
Bydd y cofrestryddion yn mynd â chi gam wrth gam drwy’r broses gofrestru, ac ar ddiwedd eich apwyntiad byddwch chi’n cael copïau ardystiedig o’r Dystysgrif o Achos y Farwolaeth, y cyfeirir ati weithiau fel tystysgrif marwolaeth. Mae angen Tystysgrif o Achos y Farwolaeth yn aml ar gyfer cyfrifon banc, dibenion yswiriant, neu unrhyw ddiben ariannol neu gyfreithiol arall, felly mae’n aml yn werth prynu rhai copïau os oes angen - fydd y rhan fwyaf o leoedd ddim yn derbyn llungopi, dim ond copi gwreiddiol. Gallwch brynu copïau swyddogol ar adeg eich apwyntiad gyda’r cofrestrydd. Bydd y cofrestrydd hefyd yn cyhoeddi Ffurflen Werdd. Enw swyddogol y ffurflen hon yw’r Dystysgrif Claddedigaeth neu Amlosgiad. Bydd y cofrestrydd yn anfon y ffurflen hon yn electronig at eich trefnydd angladdau.
9
Y GWASANAETH DYWEDWCH WRTHYM UNWAITH Mae Dywedwch Wrthym Unwaith yn wasanaeth sy’n cael ei redeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ac mae’n wasanaeth sy’n eich galluogi i adrodd am farwolaeth i’r rhan fwyaf o sefydliadau’r llywodraeth ar yr un pryd. Mae hyn yn cynnwys y DVLA, y Swyddfa Basbort, holl wasanaethau’r Awdurdod Lleol, holl wasanaethau’r Adran Gwaith a Phensiynau, megis Pensiynau’r Wladwriaeth neu Gymhorthdal Incwm, ac unrhyw wasanaethau Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC). Ar adeg cofrestru, gall y cofrestrydd roi cyfeirnod unigryw i chi a fydd yn cael ei ddefnyddio i hysbysu gwahanol adrannau’r llywodraeth ac awdurdodau lleol am y farwolaeth. Bydd y cofrestrydd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi yn ystod eich apwyntiad. Gallwch naill ai ffonio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith neu lenwi ffurflen ar-lein, ond rhaid gwneud hyn o fewn 28 diwrnod o gael eich cyfeirnod unigryw gan y cofrestrydd. I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd angen i chi gael: • • • •
rhif yswiriant gwladol y person ymadawedig manylion unrhyw fudd-daliadau neu wasanaethau’r gallen nhw fod wedi bod yn eu derbyn eu trwydded yrru eu pasbort
I gael rhagor o wybodaeth, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith drwy www.gov.uk neu ar 0800 085 7308. 10
ARIANNU ANGLADD Yn anffodus, nid yw cost angladd yn rhywbeth y mae pawb yn paratoi ar ei gyfer, a gall fod yn eithaf gofidus i’r person sy’n ceisio ei drefnu. Unwaith y bydd banc yn cael gwybod am farwolaeth rhywun, yr unig beth y gellir ei dalu allan o’u cyfrif yw cost angladd. Gallwch ofyn am angladd sylfaenol gan eich trefnydd angladdau lleol, gan gynnwys opsiwn amlosgi uniongyrchol a allai helpu i gadw costau mor isel â phosibl. Mae’r holl opsiynau hyn yn cael eu cynnal gyda’r urddas a’r parch mwyaf i’r ymadawedig, ond ni fyddai gwasanaethau ychwanegol fel ceir angladd, blodau ac ati yn cael eu cynnwys. Rydym yn gwerthfawrogi efallai na fyddwch yn ymwybodol o gyllid yr unigolyn ac efallai nad ydych erioed wedi trafod arian gyda nhw o’r blaen. Mae’n bwysig i nodi a ellir talu costau angladd cyn gynted â phosibl. Rhowch wybod i’r Swyddog Profedigaeth os oes unrhyw amheuaeth gyda chi. Mewn rhai amgylchiadau, mae grant a all helpu gyda chost angladd. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma: www.gov.uk/funeralpayments. Mae ein tîm profedigaeth ar gael i drafod eich amgylchiadau a’ch cefnogi ar yr adeg anodd hon.
11
GWELD EICH ANWYLYD Efallai y bydd adegau lle gallai fod yn anodd trefnu gweld eich anwylyd tra byddan nhw n ein gofal. Os yw eu gweld yn rhywbeth sy’n bwysig i chi, byddwn ni’n sicrhau y byddwn ni’n gwneud popeth y gallwn ei wneud i’w hwyluso. Os does dim modd gweld eich perthynas/ffrind yn yr ysbyty, neu ein bod chi’n teimlo y byddai edrych ar eich anwylyd yn amhriodol neu’n ofidus, bydd y trefnydd angladdau o’ch dewis yn gallu eich cynorthwyo gydag opsiynau ar gyfer gwneud cof yn y ffordd fwyaf priodol.
YMDOPI Â GALAR A CHOLLED Byddwn ni i gyd yn profi galar yn ein ffordd ein hun. Fodd bynnag, mae rhai teimladau a ffyrdd o ymateb sy’n eithaf cyffredin: • • • • • • • • •
Teimlo’n ddideimlad Teimlo’n ddagreuol iawn un funud yna methu crio’r munud nesaf Dicter tuag at y sefyllfa neu tuag at eraill Pryder i adael y tŷ neu i weld pobl rydych chi’n eu hadnabod Teimlo’n euog a cheisio beio’ch hun y gallech fod wedi atal eu marwolaeth rywsut Heriau tuag at eich ffydd a/neu gredoau Unigrwydd, iselder neu deimladau o fethu ymdopi Teimlo’n unig - Sut y gallan nhw feiddio gadael, beth fyddwch chi’n ei wneud nawr? Bron dim awydd i wneud unrhyw beth, a gall cymryd gofal sylfaenol o’ch hun fod yn heriol hyd yn oed 12
•
Meddwl y gallwch eu clywed neu anghofio eu bod wedi mynd, yna sylweddoli’r gwir yn sydyn
Mae galaru yn broses raddol a all gymryd amser hir; mae’n bwysig eich bod yn rhoi amser i chi eich hun i brosesu beth sydd wedi digwydd ac i ofalu amdanoch chi eich hun ar yr adeg hon. Gall galar ddod mewn tonnau weithiau; gallwch chi deimlo’n iawn un funud cyn teimlo’n isel iawn y funud nesaf, neu gallwch chi gael diwrnodau da a diwrnodau drwg. Weithiau, os oedd perthynas heriol gyda chi â’r person sydd wedi marw, gall fod yn fwy anodd i chi yn hytrach nag yn llai anodd efallai byddwch chi’n galaru am y berthynas roeddech chi’n ei dymuno ynghyd â galaru am y person sydd wedi marw. Os ydych chi’n teimlo bod angen cymorth pellach arnoch gyda’ch iechyd meddwl, dylech estyn allan at eich meddyg teulu a fydd yn gallu gwrando ar eich teimladau ac asesu eich anghenion yn briodol.
13
BLE I DDOD O HYD I GYMORTH Efallai y bydd y sefydliadau canlynol o gysur i chi dros y dyddiau, wythnosau a misoedd nesaf. Gofalwch amdanoch eich hun ac estyn allan at y gweithwyr proffesiynol a restrir os ydych yn teimlo eich bod chi’n cael trafferth ymdopi â’ch galar a’ch colled. Yn olaf, ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i chi ar farwolaeth eich anwylyd ac yn gobeithio y bydd y canllaw hwn yn ddefnyddiol i chi. Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi am unrhyw un o’r prosesau wedi’u hesbonio neu os hoffech roi unrhyw sylwadau neu adborth i ni ar ein llyfrynnau neu wasanaethau, mae croeso i chi e-bostio ctm.bereavementsupport@wales.nhs.uk. Age UK Cymru
Sefydliad cenedlaethol sy’n helpu gyda theimladau o unigrwydd a galar mewn pobl hŷn.
Ffôn: 0300 303 4498
Asian Family Counselling Service www.asianfamilycounselling.org/ At a Loss
Darparu cymorth a chefnogaeth leol a chenedlaethol.
www.ataloss.org/
Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain
Cyngor ar ddewis therapydd drwy restr o sefydliadau achrededig.
Ffôn: 01455 883310 E-bost: bacp@bacp.co.uk www.bacp.co.uk
14
Bereavement Support Network Ffôn: 0808 168 9607 www.bereavementsupport.co.uk Brake
Mae’n cynnig cefnogaeth i bobl sydd mewn profedigaeth ac a anafwyd yn ddifrifol gan ddamweiniau traffig ar y ffyrdd.
Llinell gymorth i ddioddefwyr: 0808 800 0401 Platfform Wellbeing
Mae’n darparu cwnsela arbenigol a chymorth profedigaeth camarweiniol i bobl sydd wedi profi profedigaeth drawmatig a/neu alar cymhleth, trwy hunanladdiad neu o ganlyniad i Covid a heriau ychwanegol y pandemig.
Ffôn: 02920 440191 Tecstiwch: 07788 314975 Child Bereavement UK
Llinell cymorth a gwybodaeth.
Ffôn: 0800 028 8840
Compassionate Friends
Rhieni mewn profedigaeth yn cynnig cymorth i eraill ar ôl colli plentyn o unrhyw oedran.
Ffôn: 0345 123 2304 E-bost: helpline@tcf.org.uk Cymru Garedig
Helpu pobl i gael gafael ar wybodaeth, gofal a chymorth a’u cynnig mewn ffordd dosturiol yn eu cymunedau.
E-bost: contact@compassionate.cymru
15
Swyddfa’r Crwner
Cefnogaeth a gwybodaeth yn dilyn marwolaeth sydyn/annisgwyl.
coroneradmin@rctcbc.gov.uk Ffôn: 01443 281101 Cruse Bereavement Care
Cynnig cefnogaeth, cyngor i oedolion, plant a phobl ifanc pan fydd rhywun yn marw.
Ffôn: 0808 808 1677 (Llinell Gymorth Genedlaethol) www.cruse.org.uk E-bost: helpline@cruse.org.uk Merthyr Tydfil and Rhondda Cynon Taf Ffôn: 01685 876020 E-bost: merthyr.rct@cruse.org.uk Pen-y-bont ar Ogwr Ffôn: 01792 462845 E-bost: morgannwg@cruse.org.uk DPJ Foundation
Mae’n darparu cymorth profedigaeth mewn amaethyddiaeth, gan gynnwys cefnogaeth i’r rhai sydd mewn profedigaeth yn sydyn a thrwy hunanladdiad.
Ffôn: 0800 587 4262 Tecstiwch 07860048799 Hope Again (Cruse)
Cefnogi pobl ifanc sydd wedi colli rhywun yn ddiweddar.
Ffôn: 0808 808 1677 E-bost: hopeagain@cruse.org.uk Llamau
Ei nod yw darparu ymateb amlhaenog i anghenion sy’n gysylltiedig â phrofedigaeth a cholled yn yr ystyr ehangach.
Ffôn: 02920 239585 E-bost: enquiries@llamau.org.uk 16
Llinell gymorth LHDTC+
Cefnogaeth i unrhyw un sydd wedi colli rhywun agos.
E-bost: hello@switchboard.lgbt Llinell Gymorth LHDT+ Switchboard Macmillan
I gael cyngor cyfrinachol am ddim gan eu harbenigwyr canser, gallwch:
Ffonio Llinell Gymorth Macmillan ar 0808 808 00 00 Ar agor 7 diwrnod yr wythnos, 8am i 8pm. (Gall amseroedd agor amrywio ar gyfer gwahanol dimau arbenigol). Cymorth Profedigaeth Marie Curie
Mae’n cynnig cymorth emosiynol yn ogystal â delio â’r ochr ymarferol o golli rhywun agos atoch chi.
Ffôn: 0800 090 2309 Mind Cymru
Mae’n darparu cyngor a chefnogaeth i rymuso unrhyw un sy’n profi problem iechyd meddwl.
Ffôn: 0300 123 3393 E-bost: info@mind.org.uk Morgan’s Wings
Darparu cefnogaeth i deuluoedd yn dilyn camesgoriad.
Ffôn: 02921 326936 E-bost: info@morgans-wings.co.uk Y Samariaid
Gellir cysylltu â’r Samariaid ar unrhyw adeg, ddydd neu nos, a bydd rhywun ar gael i wrando a darparu cefnogaeth emosiynol gyfrinachol ac anfeirniadol.
Ffôn: 116 123 (Saesneg) neu 0808 164 0123 (Cymraeg) Tecstiwch: 07725909090
17
SANDS
Mae SANDS yn darparu cefnogaeth i rieni sydd mewn profedigaeth a’u teuluoedd pan fydd eu babi yn marw adeg ei eni neu’n fuan ar ôl ei eni.
Ffôn: 0808 164 3332 SOBS
Os ydych chi wedi cael profedigaeth neu eich effeithio gan hunanladdiad ac yr hoffech siarad ag un o’u gwirfoddolwyr am eich profiad, gallwch gysylltu â ni.
Ffôn: 0300 111 5065 E-bost: email.support@uksobs.org Welsh Widows
Grŵp o bobl sydd wedi colli eu hanwyliaid trwy amrywiaeth o amgylchiadau gwahanol, gan gynnig clust i wrando ar wefan neu yn bersonol, mewn amgylchedd diogel.
Ffôn: 07749542858 E-bost: friends@welshwidows.co.uk Widowed and Young (WAY)
Sefydliad sy’n cynnig rhwydwaith cymorth gan gymheiriaid i gymheiriaid i unrhyw un sydd wedi colli partner cyn eu pen-blwydd yn 51 oed – priod ai peidio, gyda neu heb blant, gan gynnwys cyfeiriadedd rhywiol, rhyw, hil a chrefydd.
0300 201 0051 o fewn oriau swyddfa. Dydd Llun - Gwener 9.30am - 5:00pm Dydd Sadwrn - Dydd Sul - Ar gau www.widowedandyoung.org.uk Winston’s Wish
Darparu cymorth profedigaeth emosiynol ac ymarferol i blant, pobl ifanc (hyd at 25) a’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw.
Llinell Gymorth Rhadffôn ar 08088 020 021. Rydym ar agor rhwng 8am ac 8pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. www.winstonswish.org 18
2wish
Cefnogi marwolaethau sydyn mewn plant ac oedolion ifanc.
Ffôn: 01443 853125 E-bost: info@2wish.org.uk
Canllaw Cymorth Galar Mae Canllaw Cymorth Galar ychwanegol ar gael er mwyn helpu pobl i ddod o hyd i gefnogaeth sy’n diwallu eu hanghenion unigol. Mae’n darparu gwybodaeth am yr amrywiaeth o gymorth galar sydd ar gael yn y DU, o adnoddau hunangymorth a llinellau cymorth i grwpiau cymorth gan gymheiriaid a chwnsela galar. Mae’r Canllaw hefyd yn cynnwys manylion cymorth i grwpiau penodol o bobl sydd wedi cael profedigaeth, fel gweddwon, plant, grwpiau diwylliannol a ffydd a phobl sydd wedi cael profedigaeth oherwydd mathau penodol o farwolaethau. Mae’r Canllaw hefyd ar gael mewn Bengali, Tsieinëeg, Ffrangeg, Gwjarati, Chaboli, Portiwgaleg, Rwmaneg a Sbaeneg.
19
The Hospital would like to thank RNS Publications for publishing this information and the following pages contain some features from services offering their help at this time. Whilst the Hospital is grateful of their support it does not endorse or recommend any of the services that they provide.
�\\ bereavement
,�port network stopping mail
STOPPING JUNK MAIL It is distressing to deal with a bereavement and unsolicited mail can be
insensitive and destructive during a grieving process.
By scanning the below QR code on your phone or visiting
www.stopmail.co.uk, we are able to securely share this information
with mailing organisations and under the Data Protection Act the information will not be used for any other purpose.
Other benefits reduce the possibility of identity fraud, such as assumed
identity and you will only have to supply the information once.
www.stopmail.co.uk 0808 168 9607 from a landline 0333 006 8114 from a mobile © Bereavement Support Network Ltd 2024
A trading style of Turnside Marketing Ltd
This publication has been jointly developed between ourselves and the hospital. We hope that it has been or will be of help at this time and we welcome any comments or suggestions that you may have. Please contact us either by phone, email or by post.
RNS Publications, Trium House, Broughton Way, Whitehills, Blackpool, Lancashire FY4 5QN
01253 832400 enquiries@rns.co.uk
Established in 2009, Riverside Funeral Services was the first independent female funeral director in the Bridgend borough. The business has grown to be one of the most respected and dignified funeral directors proudly serving your community. Michelle has come from an extensive medical background with over 20 years service as a midwife. At Riverside we pride our services on professionalism, traditional values and quality, mixed with modern principles of choice, compassion and imagination.
If you have any questions, or would like to talk about funeral arrangements including pre-planned funerals, please do not hesitate to contact us. Rear of Bridge Street, Ogmore Vale, CF32 7AL
OGMORE VALE BRANCH 01656 849036 PORTHCAWL BRANCH 01656 788883