-
IGNITE britishsciencefestival.org
Gwyddoniaeth arloesol Sgyrsiau a thrafodaethau gydag academyddion blaenllaw Parti ar y traeth a thân gwyllts
Gŵyl Wyddoniaeth Prydain 2016
Cynnwys
Parti traeth
03
Darlithoedd gwobrwyol
04
Holi Emily Grossman
07
Hanner canrif o hedfan i’r gofod
08
UPROSA
09
Siemens
10
Cofio dy wyneb
12
Pecyn chwaraeon
13
Pfizer
14
Gwrthdaro mawr
15
Public Service Broadcasting
16
Meddyginiaethu meddyliau ifanc 17 Daisy Fancourt
18
Digwyddiadau i’r teulu
19
Shw’mae a chroeso i Ignite. Dyma flas ar rai o’r digwyddiadau a’r atyniadau gwych sydd i ddod wrth i Ŵyl Wyddoniaeth Prydain lanio yn Abertawe ym mis Medi. Dyma un o’r gwyliau mwyaf hirsefydlog a’r fwyaf o’i math yn Ewrop, byth ers y digwyddiad cyntaf hwnnw nôl ym 1831. Mae dinas Abertawe yn ei chroesawu’n ôl â breichiau agored. Mae’r Ŵyl wedi ymweld ag Abertawe bedair gwaith, gyda’r gyntaf ym 1848 a’r diweddaraf ym 1990. Bu sawl digwyddiad o bwys yn yr Ŵyl, o’r drafodaeth fythgofiadwy honno rhwng Esgob Rhydychen a Thomas Huxley am ddamcaniaeth ddadleuol Charles Darwin sef esblygiad. Yn yr Ŵyl hefyd y defnyddiwyd y gair ‘deinosor’ am y tro cyntaf. Mae’r Ŵyl eleni’n argoeli i fod yr un mor gyffrous, gydag ymchwilwyr, darlledwyr, diddanwyr a chyfathrebwyr o fri yn dod draw i archwilio rhyfeddodau gwyddoniaeth, cymdeithas, a thu hwnt, o bob cwr o’r byd. Dewch i weld Rick Edwards o Channel 4, a fydd yn recordio ei bodlediad Science-ish yn fyw. Ymunwch ag Alan Lewis o Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Abertawe wrth iddo drafod ei frwydr dros fyd y bêl gron. Rhowch gynnig ar gaiacio sonig ym Mae Abertawe. Dewch i ddawnsio dan y sêr yn ein parti traeth enwog. Gallwch hyd yn oed ddod â’r plant gyda chi i fwynhau perfformiadau theatr arbennig yn y Penwythnos Teuluol. Gyda channoedd o ddigwyddiadau am ddim, mae yna rywbeth at ddant pawb. Er nad oes tâl mynediad, dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael, felly ewch i www.britishsciencefestival.org am fwy o wybodaeth ac i archebu’ch tocynnau. Welwn ni chi fis Medi!
Llun clawr ‘Aspirin’ - Yr Athro Vance Williams, yr Adran Gemeg, Prifysgol Simon Fraser
Ar lan y môr mae... tân gwyllt! Taflwch eich cotiau gwynion o’r neilltu! Mae’n bryd i chi gyfnewid eich llosgydd Bunsen am bwced a rhaw ac ymuno â ni ar y bae am barti traeth Gŵyl Wyddoniaeth Prydain. Bydd Bae Abertawe yn fwrlwm o dân gwyllt, cerddoriaeth fyw, carnifal cemeg, hedfan barcutiaid, comedïwyr a gwylio’r sêr i ddathlu diwedd Gŵyl Wyddoniaeth Prydain. Bachwch ddiod a thamaid i’w fwyta, cymerwch ran mewn gweithgareddau ymarferol a phartio hyd yr hwyr. Bydd y parti traeth, a gynhelir nos Wener 9 Medi, yn benllanw cyffrous i Wythnos Wyddoniaeth Prydain ac yn agoriad gwych i’r penwythnos teuluol. Canolbwynt y parti traeth fydd sioe lwyfan gydag arddangosiadau byw maint llawn sy’n esbonio sut mae cemeg, ffiseg a pheirianneg yn cyfuno i greu sioeau tân gwyllt.
gynnwys arddangosiadau ffotocemeg sy’n esbonio cemeg lliw a golau. Gyda dealltwriaeth newydd o sut mae sioeau tân gwyllt yn cael eu creu, cewch gyfle i fwynhau sioe tân gwyllt ysblennydd a fydd yn goleuo’r nos. Hefyd, bydd cyfres o stondinau cemeg rhyngweithiol carnifal eu naws, lle bydd cyfle i gymryd rhan mewn gemau difyr sy’n esbonio’r cysyniadau cemegol y tu ôl i’r heriau a’r defnydd o gemegau mewn bywyd bob dydd. Felly, dewch i ymlacio ac ymuno â ni mewn parti i ddathlu wythnos wych o wyddoniaeth. 17.00 – 22.00 nos Wener 9 Medi, Y Traeth, Canolfan Chwaraeon Traeth a Dŵr 360 Noddir gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.
Mae’r sioe yn datgelu rhai o gyfrinachau’r arddangosfa tân gwyllt i ddilyn, gan
Gŵyl Wyddoniaeth Prydain Abertawe 6–9 Medi 2016
03
Ymchwil arloesol yn dod i Abertawe Mae gan Ŵyl Wyddoniaeth Prydain waddol hirhoedlog; bu’n llwyfan a sbardun i wyddonwyr eithriadol ar gychwyn eu gyrfa. Bob blwyddyn, cyflwynir Darlith Wobrwyol i griw dethol o wyddonwyr mwyaf blaenllaw y DU am eu gwaith ymchwil arloesol a’u sgiliau cyfathrebu penigamp. Mae’n rhoi cyfle iddyn nhw hyrwyddo eu gwaith arloesol yn yr Ŵyl, o flaen aelodau’r cyhoedd ac arbenigwyr o bedwar ban byd. Mae’r broses ddethol yn hynod gystadleuol, ond mae’r Wobr wedi sbarduno gyrfa lewyrchus sawl gwyddonydd o fri. Yn 2006, dyfarnwyd y wobr i’r Athro Brian Cox, sydd bellach yn wyddonydd enwog. Ymhlith yr enillwyr eraill mae Richard Wiseman, y seicolegydd a’r awdur, yn 2002, a Maggie Aderin-Peacock, cyflwynydd The Sky at Night, yn 2008.
04
Mae Darlithfeydd Gwobrwyol nid yn unig yn cydnabod doniau newydd, ond hefyd yn cyflwyno’r enillwyr i gynulleidfaoedd gwahanol i’r arfer. Mae hyn yn agor byd o bosibiliadau iddyn nhw’n bersonol, ac i fyd gwyddoniaeth yn gyffredinol. Gadewch i ni fwrw golwg ar sêr ifanc dawnus eleni:
Datblygiad e-decstilau Dyfarnwyd Darlith Wobrwyol Daphne Oram am Arloesi Digidol i Dr Rebecca Stewart (Prifysgol Queen Mary, Llundain) Dychmygwch ddarn o ddefnydd y gallwch ei dapio neu sweipio yn union fel sgrin gyffwrdd? Neu pe bai synwyryddion wedi'u gwau i orchudd eich sedd yn dweud eich bod yn eistedd yn llipa? Tecstilau electronig yw lle mae cyfrifiadureg, peirianneg drydanol, tecstilau a dylunio yn dod at ei gilydd. Bydd Rebecca Stewart yn trafod poblogrwydd hyn a sut allai newid ein ffordd o ryngweithio â'r byd o'n cwmpas. Yn ei Darlith Wobrwyol, bydd Dr Stewart yn trafod cynnydd y systemau cyfrifiadurol rhyngweithiol hyn y gellir eu gwisgo. Bydd yn archwilio sut gallan nhw newid y modd rydyn ni’n ymwneud â’r byd o’n cwmpas, gan eu bod yn aml yn cwmpasu perfformiad, ffasiwn, cerddoriaeth a/neu ddylunio. Dewch i glywed sgwrs Dr Rebecca Stewart am 12.00 – 13.00, dydd Mawrth 6 Medi, Theatr Taliesin, Canolfan y Celfyddydau Taliesin
Y Llais Dyfarnwyd Darlith Wobrwyol Charles Darwin am Wasanaethau Amaethyddol, Biolegol a Meddygol i Dr Carolyn McGettigan (Royal Holloway, Prifysgol Llundain) Mae Dr McGettigan yn Gyfarwyddwr y Labordy Cyfathrebu Llais yn Adran Seicoleg y Royal Holloway, Prifysgol Llundain. Mae wedi’i chyfareddu’n llwyr gan y llais dynol. Siarad, chwerthin, canu, bît bocsio - mae'r llais dynol yn offeryn unigryw a bron yn gyfan gwbl hyblyg. Bydd yn dangos sut mae technegau newydd, fel sganio MRI, yn cynyddu ein dealltwriaeth o fioleg ac esblygiad y llais dynol a'i gysylltiad â niwrowyddoniaeth rheoli llais.
Hela heintiau
Ydych chi’n cofio wyneb?
Dyfarnwyd Darlith Wobrwyol Rosalind Franklin am Wyddorau Ffisegol a Mathemategol i Dr Adam Kucharski (London School of Hygiene and Tropical Medicine)
Dyfarnwyd Darlith Wobrwyol Margaret Mead am Wyddorau Cymdeithasol, gyda chefnogaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru, i Dr Sarah Bate (Prifysgol Bournemouth)
Mathemateg yw un o'r arfau a ddefnyddir i frwydro yn erbyn clefydau. Sut allwn ni fesur sut mae clefydau'n lledaenu? Sut all ychydig o bobl allweddol siapio achos newydd? Pa heintiau yw'r rhai anoddaf i'w cadw dan reolaeth? Bydd Dr Kucharski yn rhannu ei brofiadau wrth geisio deall peryglon clefydau newydd, o Ebola i ffliw pandemig.
Allwch chi weld dieithryn yn y dorf? Mae hyn yn ail natur i rai, gan fod ganddyn nhw ryw allu cynhenid naturiol - sgiliau adnabod wyneb rhagorol. Pam mae rhai pobl yn gymaint o arbenigwyr ar hyn, a sut maen nhw'n gallu sganio wynebau mor drylwyr? Bydd Dr Bate yn esbonio'r ffenomen, a sut mae'n gweithio gyda'r heddlu i nodi arbenigwyr ar adnabod wynebau o'u plith. Mae'n sgil hollbwysig i'r heddlu; mae gan heddlu Scotland Yard uned 'Uwch-Adnabod' sy'n pori drwy luniau teledu cylch cyfyng am bobl ar goll, dan amheuaeth a throseddwyr.
Dewch i glywed sgwrs Dr Adam Kucharski am 12.00 – 13.00, dydd Mercher 7 Medi, Canolfan y Celfyddydau Taliesin
Mi fetia 'i: cwymp llen iâ'r Antarctig Dyfarnwyd Darlith Wobrwyol Charles Lyell am Wyddorau Amgylcheddol i Dr Tamsin Edwards (Y Brifysgol Agored) Defnyddiodd Tamsin Edwards dair mil o fodelau cyfrifiadur gwahanol o'r Antarctig i wneud pob math o ragfynegiadau gwahanol. Yn ei Darlith Wobrwyol, bydd yn trafod rhai o'r heriau o ragweld pa mor debygol yw'r llen iâ o ddymchwel a sut mae'n cyfathrebu'r ansicrwydd hynny i'r cyhoedd. Hefyd, bydd yn datgelu dylanwad a gwaddol rhewlifoedd a orchuddiai’r DU dros 30,000 o flynyddoedd yn ôl, ar ein tirwedd heddiw. Dewch i glywed sgwrs Dr Tamsin Edward am 12.00 – 13.00, dydd Mawrth 6 Medi, Darlithfa K, Adeilad Faraday
Acwstig natur Dyfarnwyd Darlith Wobrwyol Isambard Kingdom Brunel am Beirianneg, Technoleg a Diwydiant i Dr Rob Malkin (Prifysgol Bryste) O ffonau symudol i gymhorthion clyw, mae meicroffonau yn gyffredin iawn, ac eto mae eu cynlluniau yn cynnwys cryn anfanteision o hyd. All byd natur helpu i wella eu hansawdd? Bydd y peiriannydd Rob Malkin yn dangos sut gallai astudio pryfed ag organau clywed rhyfeddol fod yn allweddol er mwyn ein cynorthwyo i adeiladu dyfeisiau acwstig wedi eu hysbrydoli gan fywydeg.
Dewch i glywed sgwrs Dr Sarah Bate am 14.00 – 15.00, dydd Iau 8 Medi, Theatr Taliesin, Canolfan y Celfyddydau Taliesin.
Sain a’r system imiwnedd Dyfarnwyd Darlith Wobrwyol Jacob Bronowski am Wyddoniaeth a’r Celfyddydau, gyda chefnogaeth Cymdeithas Ddysgiedig Cymru, i Dr Daisy Fancourt (Coleg Cerdd Brenhinol) Gyda chymorth Côr Gofal Canser Tenovus, bydd Dr Daisy Fancourt yn trafod sut gall cerddoriaeth effeithio ar y corff a'r cof, ac yn ystyried ei gwreiddiau bioesblygol posib. Mae ymchwil i gerddoriaeth a'r manteision iechyd wedi cynyddu'n sylweddol dros y degawd diwethaf, gydag astudiaethau'n amrywio o chwarae caneuon rhyfel er mwyn helpu cleifion Parkinson i gerdded yn well, i ddefnyddio cerddoriaeth bop i gynyddu cyflymder a chywirdeb llawdriniaethau mewn theatrau. Ond faint wyddom ni mewn gwirionedd am effaith cerddoriaeth ar rannau mewnol y corff? Dewch i glywed sgwrs Dr Daisy Fancourt am 11.30 – 13.00, dydd Gwener 9 Medi, Theatr Taliesin, Canolfan y Celfyddydau Taliesin
Dewch i glywed sgwrs Dr Rob Malkin am 12.00 – 13.00, dydd Iau 8 Medi, Theatr Taliesin, Canolfan y Celfyddydau Taliesin
See Dr Carolyn McGettigan’s talk at 14.00–15.00, Tue 6 Sept, Taliesin Theatre, Taliesin Arts Centre Gŵyl Wyddoniaeth Prydain Abertawe 6–9 Medi 2016
05
Open Days Undergraduate
IGNITE Full page Ad 210x297mm Diwrnodau Agored (+3mm bleed) Israddedig
Singleton Park Campus & Bay Campus Saturday 15 & 29 October
Campws Parc Singleton a Champws y Bae Dydd Sadwrn 15 a 29 Hydref
Postgraduate
Ôl-raddedig
Singleton Park Campus Wednesday 9 November Bay Campus Wednesday 16 November
Campws Parc Singleton Dydd Mercher 9 Tachwedd Campws y Bae Dydd Mercher 16 Tachwedd
swansea.ac.uk/opendays abertawe.ac.uk/diwrnodau-agored
Dyma Emily Grossman: darlledwr gwyddoniaeth, addysgwr, arbenigwr ar bioleg foleciwlaidd a geneteg, a gafodd amser caled iawn ar wefannau cymdeithasol yn ddiweddar. Y llynedd, fe wnaeth Syr Tim Hunt hawlio’r penawdau ar ôl dweud mai’r drwg am ferched mewn labordai yw eu bod nhw’n llefain wrth gael eu beirniadu. Mewn ymateb, ymddangosodd Emily mewn cyfweliad ar Sky News yn mynegi pryderon am sylwadau niweidiol fel hyn. Arweiniodd hyn at don o ymateb sarhaus yn ei herbyn fel menyw, ar y cyfryngau cymdeithasol. Ers hynny, mae wedi cyflwyno araith TEDx yn UCL, yn ymateb i’w beirniaid, dan y teitl “Why Science Needs People Who Cry”. Mae’n dadlau bod cymdeithas yn elwa ar bobl sy’n llefain, gan fod gonestrwydd emosiynol yn gallu arwain at fwy o oddefgarwch, creadigrwydd a chydweithredu – nodweddion sy’n hanfodol i wyddoniaeth. Rydyn ni’n ffodus dros ben o groesawu Emily i Ŵyl Wyddoniaeth Prydain eleni. Cefais air sydyn gyda hi. Sut ddechreues ti ymddiddori mewn gwyddoniaeth? Dw i wastad wedi hoffi dysgu sut mae pethau’n gweithio. Fy hoff air yn blentyn oedd “pam?”. Bues i’n ffodus iawn o beidio â chael unrhyw negeseuon negyddol gan bobl o’m cwmpas, yn awgrymu na allai merched fod yn wyddonwyr. Yn anffodus, dyw llawer o ferched ddim mor lwcus. Pwy wnaeth dy ysbrydoli di? Fy nhad, heb os. Mae’n endocrinolegydd, ac fe wnaeth e wirioneddol feithrin fy niddordeb mewn gwyddoniaeth. Pan oeddwn i’n ifanc iawn, roedden ni’n arfer mynd am dro hir yn y car, “prynhawniau theori” yn ei eiriau ef – byddai’n dweud pob math o bethau difyr wrtha i am y byd a’i bethau, fel sut oedd pawb wedi esblygu o fwncïod. Roedd yn gallu esbonio pethau mewn ffordd gyffrous a hawdd i’w ddeall. Mae hefyd yn berson emosiynol iawn – does ganddo ddim ofn crïo a dangos ei ochr fregus. Mae’n ysbrydoliaeth enfawr. Beth yw’r peth mwyaf annisgwyl rwyt wedi dod ar ei draws yn dy yrfa? Astudiais ffiseg y tro cyntaf es i i’r brifysgol. Y syndod mwyaf oedd sylwi ’mod i, fel merch, mewn cymaint o leiafrif. Es i ysgol i ferched yn unig, lle’r oedd pobl yn astudio beth bynnag roedden nhw’n ei fwynhau ac ei wneud yn dda. Collais fy hyder, rhoi’r gorau i ddilyn ffiseg a dewis cemeg yn lle – ond er mawr syndod i mi, fe ges i gystal hwyl â’r bechgyn yn yr arholiadau ffiseg. Dwed rhywfaint wrthym am helynt Tim Hunt – sut brofiad oedd yr adwaith? Sioc enfawr. Roedd yr holl ddicter a’r elyniaeth yn brofiad cas a dryslyd. Roedd pobl yn dweud nad yw menywod yn ddigon deallus neu resymegol i fod yn wyddonwyr. Roedden nhw’n dweud na ddylech chi lefain mewn labordy, bod menywod yn rhy emosiynol i fod yn wyddonwyr; bod angen i ni fagu croen eliffant a chaledu. Mae’n hurt! Mae emosiynau yn rhan o’r natur ddynol, nid dim ond menywod yn unig. Ac mae dangos ein hemosiynau yn gallu golygu bod pobl yn Gŵyl Wyddoniaeth Prydain Abertawe 6–9 Medi 2016
wyddonwyr gwell. Roedd hi’n ddigon drwg darllen sylwadau reit annymunol amdana i, ond y peth mwyaf annifyr oedd yr holl gasineb slei tuag at ferched wrth i bobl ddweud wrtha i chwerthin am ben y sylwadau. Mae’n bychanu a lladd ar fenywod yn araf bach. Wyt ti’n credu bod cael menywod fel ti ym myd gwyddoniaeth ac yn llygaid y cyhoedd yn annog mwy o ferched i fynd i fyd gwyddoniaeth? Heb os nac oni bai, ond nid menywod yn unig sy’n gwneud gwahaniaeth. Mae llawer o bobl amlwg ym myd gwyddoniaeth bellach gyda llond gwlad o rinweddau – sensitifrwydd, creadigrwydd, hiwmor, harddwch – sy’n annog y byd a’r betws i gymryd rhan mewn gwyddoniaeth. Mae gwyddoniaeth i bawb, wedi’r cwbl. Beth fyddi di’n ei wneud yn yr Ŵyl? IBydda i’n gwneud sawl peth gwahanol, ond y rhan fwyaf gyffrous yw sgwrs gyda ’nhad. Bydda i’n trafod diabetes, gordewdra a rheoli chwant bwyd gydag e. Mae’n fraint sgwrsio gyda dad. Mae’n rhywbeth y mae’r ddau ohonom yn teimlo’n gyffrous a nerfus yn ei gylch, gan nad ydyn ni erioed wedi gweithio gyda’n gilydd o’r blaen – mae’n brofiad newydd a dieithr i’r ddau ohonom. Ar sail dy brofiadau di, pa gyngor fyddi di’n ei roi i bobl ifanc? Hoffwn i ddweud hyn – mae’n iawn i chi fethu weithiau, dim ond i chi roi cynnig arall arni. Dysgwch o’ch camgymeriadau, ailgydiwch ynddi a daliwch ati.
Bydd Emily’n siarad yng Ngŵyl Wyddoniaeth Prydain a’r Penwythnos i’r Teulu. Y rheolwr tew. Dydd Gwener 9 Medi, 12.00–13.00, Darlithfa, Adeilad M, Faraday, Prifysgol Abertawe. Cefnogir y digwyddiad hwn gan y Gymdeithas Endocrinoleg Ffeithiau rhyfedd a rhyfeddol Dr Emily. Dydd Sadwrn 10 Medi, 11.45-12.45, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
07
Ymunwch â Dallas Campbell, cyflwynydd cyfres “City in the Sky” y BBC ac un sydd wedi mopio ar y gofod, wrth iddo holi un o hoelion wyth NASA, George Abbey. Bydd yn eich tywys trwy rai o ddigwyddiadau tyngedfennol hedfan i’r gofod ac yn bwrw golwg unigryw ar rywun a ddylanwadodd ar anturiaethau dyn i’r sêr.
50 mlynedd o deithiau dyn i’r gofod
Efallai y byddwch chi’n synnu o ddeall bod "Cymro-Americanaidd" o'r enw George Abbey wedi cael mwy o ddylanwad ar deithiau dyn i’r gofod na neb arall mewn hanes. Ychydig iawn o bobl y tu allan i faes archwilio’r gofod sy’n gwybod beth mae wedi’i gyflawni dros hynny. Tan 2001, George Abbey oedd cyfarwyddwr Johnson Space Centre, sef canolfan ymchwil NASA. Ymddeolodd ar ôl 39 mlynedd o wasanaeth i NASA. Mae ei enw’n gysylltiedig â holl gamau datblygu hanesyddol yn hanes teithiau dyn i’r gofod, o daith gyntaf Apollo i’r adeg pan laniodd Neil Armstrong ar y lleuad hyd at sefydlu’r Orsaf Ofod Ryngwladol.
i sicrhau bod gofodwyr Apollo 13 yn dychwelyd adre’n ddiogel. Fel arfer, gweithio’n dawel yn y cefndir oedd e; does dim sôn am George Abbey yn ffilm Ron Howard. Fel arwydd o rym a dylawnad Abbey dros deithiau â chriw, arferai ambell ofodwr gario ei lun gyda nhw i’r Orsaf Ofod Ryngwladol. Bydden nhw hefyd yn ceisio’u gorau glas i dynnu cymaint o luniau â phosib o Gymru, fel arwydd o barch i’w fam. Er mai brodor o Seattle yw George, cafodd ei fam ei geni yn Nhalacharn, Sir Gâr, ac fe wnaeth hi’n siŵr bod Abbey mor driw â phosib i’w wreiddiau Cymreig. Ac yntau bellach yn Gymrawd Anrhydeddus ym Mhrifysgol Abertawe, bydd George Abbey yn dychwelyd i’r ddinas ar gyfer sgwrs arbennig, fel rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Prydain ym mis Medi.
10.00 – 21.00 dydd Iau 6 Medi, Theatr Taliesin, Canolfan y Celfyddydau Taliesin
Roedd Abbey yn aelod o’r tîm y tu ôl i deithiau Apollo, a dyfarnwyd Medal Rhyddid yr Arlywydd iddo – prif wobr sifilaidd yr Unol Daleithiau – am helpu
Our scientists invest years of their lives to discover and develop the medicines that could one day help to save yours
25,000 CHEMICAL COMPOUNDS TESTED 1
References: 1 : ABPI, Developing New Medicines, available at: http://www.abpi.org.uk/industry-info/new-medicines/Pages/default.aspx [accessed July 2016] 2 : ABPI, The Medicine Development Process, available at: http://www.abpi.org.uk/our-work/library/industry/Documents/Medicine%20development%20process.pdf [accessed July 2016] PP-PFE-GBR-0172, July, 2016
CUT OFF LINE
08
OVER 12 YEARS OF RESEARCH & DEVELOPMENT
2
Find out more at www.Pfizer.co.uk/iamscience
UPROSA Cwmni newydd o Brydain yn mynd â lluniau gwyddonol o’r labordy i’r siopau
Yng nghrombil gyriannau caled gwyddonwyr mewn swyddfeydd ymchwil ledled y byd, mae cyfoeth o luniau gwyddonol nad ydynt yn gweld golau dydd. Dyma welodd UPROSA pan dreuliodd dau o sylfaenwyr y cwmni gyfnod yn labordai ymchwil Prifysgol Caergrawnt yn 2014. Ar ôl gweld delweddau trawiadol o graffîn, celloedd yr ymennydd, elfennau cemegol a mwynau, cawsant eu hysbrydoli i greu defnydd amgen o’r lluniau hyn, a’u cyflwyno i’r sector manwerthu. Gwibiwch ymlaen i 2015, pan aned brand newydd o Brydain - UPROSA® (www. uprosa.com), yn cynnig casys trawiadol ac unigryw o luniau microsgopeg gwyddonwyr ar gyfer iPhone a MacBook. Gan fynd y tu hwnt i ‘geek-chic’, mae’r cynlluniau sydd wedi’u dewis a’u dethol yn ofalus gan UPROSA yn hynod boblogaidd y tu allan i’r gymuned wyddonol, gan arwain at erthyglau mewn sawl cyfrwng a chyhoeddiad ffasiwn/technoleg gan gynnwys TechCrunch, Vogue (y DU), Wired (y DU), GQ a PopSugar. Yn 2016, mae eu casys ffasiynol moethus i’w gweld mewn siopau mawr ar hyd a lled y byd fel Virgin Megastores Dubai, iStyle Dubai a LoFT yn Japan, ac ar gyfer pob cas a werthir, mae’r gwyddonydd/ gwyddonwyr y tu ôl i’r cynllun yn cael cyfran o’r elw. Gyda llwyddiant amlwg yn y farchnad ategolion technoleg, dechreuodd dull unigryw UPROSA o ddylunio gwyddonol ddenu sylw cwmnïau manwerthu eraill sy’n chwilio am gynlluniau ar gyfer eu cynnyrch eu hunain. Fe wnaeth hyn sbarduno UPROSA i lansio ei fenter ddiweddaraf, busnes trwyddedu lluniau gyda phwyslais penodol ar ddefnyddio delweddau gwyddonol mewn dylunio masnachol. O gelfi i drywsus ioga, nod UPROSA yw plannu delweddau gwyddonol ar bob math o gynhyrchion defnyddwyr, a chreu incwm seiliedig ar freindaliadau i wyddonwyr wrth wneud hynny. Gyda chymorth ariannol gan gronfa sbarduno Ysgol Fusnes Saïd ym Mhrifysgol Rhydychen, bydd y fenter trwyddedu lluniau newydd yn cael ei lansio fis Medi 2016. Os ydych chi’n wyddonydd/artist gwyddonol, ac am gyflwyno lluniau i fenter fasnachol newydd UPROSA, ewch i www.uprosaimages.com, neu e-bostiwch hello@uprosa.com am fwy o wybodaeth. ‘Nickel Dendrites’ – Stefan Diller
Gŵyl Wyddoniaeth Prydain Abertawe 6–9 Medi 2016
09
When wind powers a local economy. Chloe was working in Congleton when she applied for a Siemens European Apprenticeship. Three years, a placement in Germany, and a degree in mechatronics later, she has the skills needed to bring a wind turbine rotor blade from concept to execution. Chloe is now bringing her expertise back to Alexandra Dock, Hull, where Siemens has invested £160 million in a world-class blade factory, and offshore installation and service facilities. Siemens will create jobs for 1,000 local people. Most of these will be within the blade factory, but hundreds of additional jobs are being created during construction and throughout the extended supply chain. Local blades, made and deployed in the UK, will secure skilled British jobs for the long term. They’ll ensure that future generations benefit from more secure and sustainable, low-carbon energy. That’s Ingenuity for life.
siemens.co.uk/ingenuityforlife
On average a blade turns
100,000,000 times in its lifetime
electricity
Blades rotate to capture
maximum
wind energy
As long as
10
routemaster
buses
tonnes of steel in a turbine As high as
90 red phone boxes Foundation goes
25m into the seabed
Our mission to inspire the next generation We want more young people, like Chloe, to pursue a career in engineering. The Curiosity Project is Siemens three-year engagement programme which aims to bring science, technology, engineering and maths (STEM) to life. We want to reach out to parents, teachers and young people all over the UK to encourage, support and inspire young people to become the engineers of the future. Engineers like Chloe. Join the adventure There are plenty of events coming up to get involved with. Whether you are looking for a great day out with the family, are just curious about STEM, or want to get inspired, you can: • • •
Service teams and vessels based locally
in the UK
•
Visit the British Science Festival, Swansea, 6-11 September Come along to the Greenpower Challenge Final, Rockingham Motor Circuit, 15-16 October Attend the Manchester Science Festival, Museum of Science & Industry, 20-30 October Log on to siemens.co.uk/education to download free resources, games and interactive tools
To find out more about the Curiosity Project and all the events we attend, the organisations we work with and the resources available to download, head to siemens.co.uk/curiosity-project
Uwchadnabod Oes gennych chi’r ddawn o ’nabod wyneb yng nghanol y dorf? Oes gennych chi gof gwerth chweil? Yna, efallai’ch bod chi’n arbenigwr ar adnabod wynebau – rhan o griw prin o bobl sydd â’r gallu anhygoel i gofio ac adnabod pryd a gwedd rhywun. Sut ydyn ni’n adnabod wynebau? Ystyr canfyddiad wynebol yw’r modd mae unigolyn yn deall ac yn dehongli nodweddion, maint a stumiau wyneb. Mae hyn yn hollbwysig o ran esblygiad gan ei fod yn caniatáu i bobl nodi emosiynau, sy’n allweddol ar gyfer cysylltiadau cymdeithasol. Mae hefyd yn ein helpu ni i gael cipolwg ar statws iechyd, tras a chefndir yr unigolyn. Mae canfyddiad wynebol yn cychwyn o’r crud. Credir bod ein hymennydd yn adnabod wyneb o’r eiliad y cawn ein geni. Mae hyn yn digwydd ymhell cyn i ni adnabod gwrthrychau eraill o’n cwmpas.
12
Beth yw ‘uwch-adnabod’? Dim ond 1% - 2% o’r boblogaeth sy’n gallu uwch-adnabod. Mae pobl gyffredin yn gallu adnabod tua 20% o wynebau a welsant o’r blaen, ond mae pobl sy’n uwch-adnabod yn gallu rhagori ar hyn, gan lwyddo i adnabod hyd at 80% o wynebau, sy’n dipyn o gamp. Credir bod y galluoedd hyn yn gysylltiedig â gweithgaredd cynyddol mewn rhan fach arbenigol o’r ymennydd – sef y gwerthydffurf (FFA) sy’n gyfrifol am ein helpu i adnabod wynebau. Mae’r gallu i adnabod yn dueddol o ddatblygu’n ddiweddarach mewn oes, yn bennaf pan fo oedolyn yn ei 20iau neu 30au gan fod galluoedd gwybyddol eraill yn dueddol o fod ar eu gorau pan rydyn ni yn ein harddegau.
Pa ddefnydd yw’r gallu hwn i ni? Although computer facial recognition Er bod rhaglenni cyfrifiadurol adnabod wyneb ar gael ers y 1960au, mae’r heddlu wedi bod yn defnyddio mwy a mwy o bobl sy’n arbenigo ar uwch-adnabod o fewn eu timau eu hunain i daclo troseddau.
Mae’r gyfradd lwyddiant yn uchel iawn, a’r hyn sy’n fwy rhyfeddol yw’r ffaith nad oes angen i arbenigwyr weld y wyneb cyfan i gyfateb yn gadarnhaol – yn aml, mae gweld y trwyn neu bâr o lygaid yn ddigon i adnabod rhywun.
Alla i fod yn arbenigwr ar uwchabnabod? Mae cryn dipyn o waith ymchwil wedi’i wneud i’r ffenomen ryfeddol hon, ac ambell brawf ar-lein wedi’i ddatblygu sy’n gofyn i chi ddewis wynebau o blith rhes ohonynt. Beth am brofi’ch sgiliau adnabod chi?
Dewch i ddysgu mwy am y gwaith a’r ymchwil sy’n gysylltiedig ag adnabod wyneb. Bydd Dr Sarah Bate o Brifysgol Bournemouth yn cyflwyno Darlith Wobrwyol ‘Are you a super-recogniser?’ ar 8 Medi.
Byd y Bale
Am flwyddyn i fyd y bêl! Clwb Leicester City yn synnu pawb trwy gipio coron uwchgynghrair Lloegr, buddugoliaeth funud olaf i Weriniaeth Iwerddon, llwyddiant Gogledd Iwerddon yn yr Ewros, a chanlyniad diddorol Gwlad yr Iâ yn erbyn Lloegr. Ond stori fwya’r haf, heb os, yw camp y crysau cochion! Gydag ychydig dros 3 miliwn o boblogaeth, llwyddodd carfan bêl-droed Cymru i ennill calonnau a gobeithion y genedl. Ym mhencampwriaethau Ewro 2016 yn Ffrainc, aeth criw Coleman gam ymhellach mewn twrnamaint mawr nag erioed o’r blaen yn hanes ein tîm pêldroed cenedlaethol. Mae’n addas iawn felly, â Gŵyl Wyddoniaeth Prydain yn dod i Abertawe, ein bod ni’n anrhydeddu gorchestion y Cymry trwy bwyso a mesur y bêl gron.
Mwy na dim ond gêm? Pan gyhoeddwyd y fersiwn gyntaf o’r gêm bêl-droed gyfrifiadurol Football Manager (FM) ym 1992, roedd y syniad yn syml: defnyddwyr yn rheoli unrhyw glwb pêldroed o bedair adran Lloegr. Maen nhw’n prynu a gwerthu chwaraewyr ac yn dethol eu timau a’u tactegau. Yna, roedd dotiau ar ffurf dynion yn chwarae’r gemau’n seiliedig ar y detholiad hwnnw. Dros y 24 blynedd ddilynol, mae posibiliadau a chymhlethdodau’r gêm wedi datblygu’n aruthrol.
gyda phob math o effeithiau anfwriadol ac annisgwyl yn ei sgil. Mae FM wedi’i nodi mewn 35 o achosion o ysgariad ac yn destun llyfrau, sioeau teledu a theithiau comedi di-ri. Ond efallai mai camp fwyaf masnachfraint FM yw llwyddo i ymdreiddio i’r union ddiwydiant mae’n ceisio ei efelychu. Data sy’n gyfrifol am hyn. Mae rhwydweithiau o sgowtiaid mewn dros 50 o wledydd yn gwneud asesiadau go iawn o briodoleddau 250 o chwaraewyr unigol ar gyfer dros 650,000 o chwaraewyr, gan ddarparu swm rhyfeddol o 162 miliwn o bwyntiau data. Fel pob data mawr sy’n ehangu dros gyfnodau maith, mae modd cloddio drwyddo i dreiddio ymhellach a’i ddefnyddio i ddatblygu algorithmau er mwyn rhagfynegi’r dyfodol. Hefyd, gellir mireinio’r algorithmau gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial er mwyn gwella eu galluoedd rhagfynegi, a chynyddu eu cywirdeb gyda phob rhifyn o’r gêm. Mae pelen grisial cronfa ddata FM yn cynnig cyfle i glybiau chwilio am chwaraewyr dawnus ledled y byd, a’u caniatáu i brynu sêr y dyfodol ac achub y blaen ar gystadleuwyr. Mae cronfa ddata Football Manager yn dal i gael ei ddefnyddio’n fyd-eang er mwyn datblygu pêl-droed fodern mewn sawl ffordd.
I glywed mwy am ei siwrnai anhygoel, ymunwch â Tom Markham ddydd Mawrth 6 Medi ar gyfer Data that powers Football Manager.
Gorau chwarae cyd-chwarae Dyw’r twf ym mhoblogrwydd pêl-droed heb ei gyfyngu i’r byd digidol yn unig. Wrth i’r gêm fynd o nerth i nerth a chyrraedd cynulleidfaoedd ehangach, mae mwy nag erioed o bobl yn heidio i wylio gemau pêldroed ym Mhrydain, diolch i gytundebau teledu drudfawr. Mae hyn yn galluogi’r Uwchgynghrair i ddenu cynulleidfaoedd byd-eang a miliynau o bunnoedd o nawdd i’r timau eu hunain. Gyda’r fath arian yn cael ei daflu o gwmpas, a chymaint mwy yn y fantol, efallai ei bod hi’n naturiol bod pêl-droed wedi esblygu o’r hyn a arferai fod yn ‘gêm y werin’ a rhan annatod o ddiwylliant dosbarth gweithiol Prydain ers talwm. Does ryfedd fod cwestiynau’n cael eu gofyn am rôl y cefnogwr cyffredin heddiw. Gyda chystadleuaeth mor ffyrnig am gyfran o bwrs yr Uwchgynghrair, mae clybiau’n cael eu gorfodi i godi prisiau tocynnau er mwyn ateb y galw a chreu brandiau cyn wynned â’r eira, gan fanteisio ar sêr rhyngwladol eu carfan. Tra bod hyn yn creu cynghrair gyfoethog o ran ansawdd, beth tybed yw’r pris yn y pen draw?
Ddydd Mercher 7 Medi, bydd panel arbenigol yn cynnwys y cymdeithasegydd Mark Doidge ac Alan Lewis o Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Abertawe yn ystyried cwestiynau hyn a mwy, ac yn trafod y berthynas rhwng y cefnogwyr a’r gêm ei hun.
Mae’r hyn a gychwynnodd fel gêm ddigon syml wedi ennill statws cwlt erbyn hyn, Gŵyl Wyddoniaeth Prydain Abertawe 6–9 Medi 2016
13
ADVERTORIAL
Myth ‘Eureka’ Gwyddonydd unig yn profi pob math o gynhwysion dro ar ôl tro nes, o’r diwedd, mae’n gwneud darganfyddiad ‘eureka’ un diwrnod. Dyma sut mae llawer yn dychmygu’r broses o ddarganfod meddyginiaethau newydd. Blerwch Alexander Fleming, a arweiniodd at halogi ei ddysgl Petri a darganfod penisilin maes o law, sy’n gyfrifol i raddau helaeth am hybu’r myth hwn.1 Ond eithriadau yw darganfyddiadau damweiniol fel hyn, yn amlach na pheidio. Mae’n cymryd 12 mlynedd a chryn dipyn o ymroddiad gan ein gwyddonwyr i greu’r feddyginiaeth arferol.2 Yn fwy na hynny, mae’r dasg o ymchwilio a datblygu meddyginiaeth newydd mor gymhleth nes y bydd tua 19 o bob 20 o ddarganfyddiadau cynnar yn methu cyn cyrraedd y cleifion hyd yn oed.2 Ond chafodd Alexander Fleming mo’i foment ‘eureka!’. Tra byddai ei ddarganfyddiad yn mynd ymlaen i achub miliynau o fywydau, fe geisiodd ei orau glas i brofi ei botensial cyn methu a rhoi’r ffidil yn y to ym 1934.1 Roedd hi’n bedair blynedd arall, ddegawd wedi’i ddarganfyddiad cynnar, cyn i’r ymchwilwyr Howard Florey ac Ernst Chain brofi y gallai penisilin wella pobl.3 Ond roedd ganddyn nhw broblem enfawr, roedd hi’n enbyd o anodd cael digon o benisilin i drin hyd yn oed un person.4 Ar ôl hyn, doedd gan Florey a Chain ddim modd o gynhyrchu’r feddyginiaeth i gwrdd â’r galw. Roedd angen arbenigedd gan gwmnïau cemegol mawr America, a gyflwynodd benisilin i’r bobl yn y diwedd.5 Felly, mae darganfod meddyginiaeth yn fwy o gamau bach tuag at ddealltwriaeth, yn gymysgedd o lwyddiannau a methiannau, yn hytrach nag eiliadau ‘eureka’. Gyda’i gilydd, gallai’r camau hyn arbed biliynau o fywydau. Mae’r daith o ddarganfod wedi llamu yn ei blaen wrth i adnoddau a thechnolegau PP-PFE-GBR-0171, July 2016
newydd gael eu dyfeisio sy’n newid sut rydyn ni’n archwilio a deall seicoleg ddynol. Meddyliwch am ficrosgop, er enghraifft, a’n helpodd ni i edrych ar gelloedd am y tro cyntaf. Arweiniodd hyn at gysyniad theori germau gan agor y drws i adnabod germau sy’n achosi clefydau a thriniaethau posib a all achub bywydau.6 Heddiw, rydyn ni’n gwybod mwy nag erioed am y corff dynol. Yn fwy diweddar, rydym wedi dysgu’r glasbrint ar gyfer creu bod dynol, diolch i’r Prosiect Genom Dynol, gwaith ymchwil rhyngwladol sy’n ymroi i nodi dilyniant genom dynol a nodi’r genynnau sydd ynddo.7 Fe gymerodd hi 15 mlynedd, tua $3 biliwn8 a gwyddonwyr niferus o 20 o sefydliadau mewn chwe gwlad i gyflawni’r gwaith hwn9 – yn hytrach na gwyddonydd unig yn gweiddi ‘eureka!’. Nod y Prosiect Genom Dynol yw’n helpu i ddeall pa enynnau sy’n achosi clefyd, ac erbyn hyn, mae dros 1,800 o enynnau clefydau wedi’u nodi.10 Unwaith y byddwn yn gwybod pa enynnau ‘diffygiol’ sy’n achosi i ni fynd yn sâl, gallwn ymchwilio i driniaethau posib i’w trwsio neu eu hadnewyddu. Therapïau genynnau yw hyn. Dyma’n gwaith ni yn Sefydliad Meddygaeth Eneteg Pfizer. Rydyn ni’n gweithio fel criw o wyddonwyr, gyda chwmnïau eraill, prifysgolion, arbenigwyr a grwpiau cleifion o bob cwr o’r byd i gyflymu’r broses o ddatblygu therapïau genynnau newydd ac effeithiol, gan helpu i’w trosglwyddo o’r labordy i’r cleifion. Mae pob darganfyddiad bach a wnawn yn dod â ni’n agosach at drin cleifion â rhai o’r clefydau genynnol mwyaf creulon, fel ffibrosis cystig a haemoffilia. Er mai prin yw’r gwyddonwyr sy’n gweiddi ‘eureuka’, rydyn ni’n mawr obeithio y bydd cleifion un diwrnod yn profi’r eiliadau buddugoliaethus hynny wrth dderbyn triniaeth i’w symptomau neu hyd yn oed wrth iddyntb wella’n llwyr o’u clefydau.
Dr Michael Linden, Pennaeth y Sefydliad Meddygaeth Eneteg; Is-lywydd Therapi Genynnau, Pfizer.
Dewch i ddysgu mwy am ddatblygiadau blaenllaw therapi genynnau gyda Dr Michael Linden: 15.00–16.00 dydd Iau 8 Medi,.Cofrestrwch ar gyfer y sgwrs yn: www. britishsciencefestival.org. Mae sgwrs ‘The Forefront of Gene Therapy’ wedi’i threfnu a’i noddi gan Pfizer Limited. ‘I am Science’ - ymgyrch Pfizer i ddathlu llwyddiannau ein gwyddonwyr ac ysbrydoli’r cenedlaethau nesaf o wyddonwyr ac arweinwyr busnes, arweinwyr sydd â’r grym i newid y dyfodol trwy eu gwybodaeth, profiad ac ymrwymiad. Rhagor o wybodaeth yn www.pfizer.co.uk/iamscience I gysylltu â Pfizer am unrhyw reswm arall, gan gynnwys ceisiadau am adroddiadau neu wybodaeth feddygol, ffoniwch 01304 616161 Cyfeiriadau 1 ABPI. Alexander Fleming and the discovery of penicillin. Ar gael yn: http://www.abpischools.org.uk/page/modules/infectiousdiseases_ timeline/timeline6.cfm [cyrchwyd Gorffennaf 2016]. 2 ABPI, (2015). Time to Flourish. Inside Innovation: The Medicine Development Process. [image] Ar gael yn: http://www.abpi. org.uk/our-work/library/industry/Documents/Medicine%20 development%20process.pdf [cyrchwyd Gorffennaf 2016]. 3 Chemical Heritage Foundation. Howard Walter Florey and Ernst Boris Chain. Ar gael yn: http://www.chemheritage.org/discover/ online-resources/chemistry-in-history/themes/pharmaceuticals/ preventing-and-treating-infectious-diseases/florey-and-chain.aspx [cyrchwyd Gorffennaf 2016]. 4 Brighthub. Fleming, Florey & Chain: The Discovery and Development of Penicillin. Ar gael yn: http://www.brighthub.com/science/ medical/articles/12679.aspx [cyrchwyd Gorffennaf 2016]. 5 ACS. Penicillin Production through Deep-tank Fermentation. Ar gael yn: https://www.acs.org/content/acs/en/education/ whatischemistry/landmarks/penicillin.html [cyrchwyd Gorffennaf 2016]. 6 Big Picture. The history of germ theory. https://bigpictureeducation. com/history-germ-theory [cyrchwyd Gorffennaf 2016]. 7 National Human Genome Research Institute. An Overview of the Human Genome Project. Ar gael yn: https://www.genome. gov/12011238/an-overview-of-the-human-genome-project/ [cyrchwyd Gorffennaf 2016]. 8 Fallows, J. (2013). The Atlantic. When will genomics cure cancer? Ar gael yn: https://www.genome.gov/pages/about/nachgr/ feb2014agendadocs/fallowsatlanticarticle.pdf [cyrchwyd Gorffennaf 2016]. 9 Your Genome. Who was involved in the Human Genome Project? Ar gael yn: http://www.yourgenome.org/stories/who-wasinvolvedin-the-human-genome-project [cyrchwyd Gorffennaf 2016]. 10 Genetics Home Reference. BRCA1. Ar gael yn: https://ghr.nlm.nih. gov/gene/BRCA1 [cyrchwyd Gorffennaf 2016].
Straeon personol yn rhoi bywyd i wyddoniaeth Ymunwch â ni am noson o straeon gwir, personol, ag elfennau gwyddonol. Bydd pump o storïwyr yr Ŵyl yn rhannu eu profiadau cyffrous am y modd mae gwyddoniaeth wedi cyffwrdd â'u bywydau. Rhai'n straeon torcalonnus, eraill yn ddigri tu hwnt; ond pob un yn wir pob gair ac yn ymwneud â gwyddoniaeth mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Dawn dweud gwyddonol, 19.00 – 21.00 nos Iau 8 Medi, Theatr Taliesin, Canolfan y Celfyddydau Taliesin Mae pobl wrth eu boddau’n clywed straeon. P’un ai’n bod yn darllen y nofel ddiweddaraf, wedi ymgolli’n llwyr mewn cyfres sebon neu’n canfod beth wnaeth ein ffrindiau dros y penwythnos – mae straeon yn ein cysylltu ni â’r bobl o’n cwmpas; maen nhw’n bersonol ac yn datgelu rhychwant eang o emosiwn dynol.
Gŵyl Wyddoniaeth Prydain Abertawe 6–9 Medi 2016
Yn 2010, aeth y ffisegwyr Ben Lillie a Brian Wecht i sioe adrodd straeon yn Queens, Efrog Newydd. Daeth y ddau ar draws ei gilydd am y tro cyntaf, a gweld eu bod yn rhannu’r un diddordeb: ochr ddynol gwyddoniaeth. Bod yn ddramodydd oedd nod astudiaethau Ben yn wreiddiol, ond newidiodd i ffiseg ddamcaniaethol, cyn ildio i’w ddiddordeb pennaf unwaith eto a gweithio yn ardal theatrau Efrog Newydd. Mae gan Brian radd mewn cyfansoddi jazz, ond mae hefyd yn ffisegydd dadansoddol. Bu’n Athro Ffiseg yn y Queen Mary, Prifysgol Llundain, ac yn gyfansoddwr caneuon comedi yn ei amser sbâr. Diolch i’w hapgyfarfyddiad a’u diddordeb unigryw, aeth Ben a Brian ati i greu rhywbeth hudolus; a dyma eu cariad angerddol at wyddoniaeth a chreadigrwydd yn arwain at chwip o syniad sy’n enwog heddiw fel y ‘Story Collider’. Wedi’i seilio ar eu cred gadarn bod gwyddoniaeth yn rhan annatod o gymdeithas a phawb sydd ynddi, fe wnaethon nhw ddatblygu cyfres o sioeau byw a phodlediadau wythnosol sy’n dod â straeon personol am wyddoniaeth yn fyw. Camp Ben a Brian yw dod â phobl o gefndiroedd gwahanol at ei gilydd, pobl ddaeth i gysylltiad â gwyddoniaeth mewn ffyrdd da a drwg, ac sydd â stori i’w hadrodd am hynny. Yn eu sioeau, fe glywch chi straeon twymgalon, dadleuol, doniol a phryfoclyd gan wyddonwyr, awduron, comedïwyr, meddygon a llawer mwy – pob un yn trafod gwyddoniaeth mewn rhyw fodd.
Gogoniant y sioe yw ei bod hi’n atgoffa pobl mai camp a chyflawniad dyn yw pob ymdrech wyddonol. Yn hytrach nag adrodd y prif ffeithiau mwyaf cyffredin, maen nhw’n treiddio’n ddyfnach i’r trafferthion, yr hiwmor a’r elfennau ecsentrig sy’n rhan annatod o wyddoniaeth. Hyd yma, mae’r Story Collider wedi adrodd 581 o straeon. Cynhaliwyd 118 o sioeau mewn 21 o ddinasoedd, a recordiwyd 252 o bodlediadau sydd wedi’u lawrlwytho 3 miliwn o weithiau. Gyda’r fath record, roedden ni’n meddwl ei bod hi’n hen bryd i’r Story Collider ddod i Ŵyl Wyddoniaeth Prydain. Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain yw partneriaid swyddogol y Story Collider yn y DU. Cynhaliwyd digwyddiad cynta’r bartneriaeth hon yn ystod Wythnos Wyddoniaeth Prydain 2016, yn y Round Chapel, Hackney, Llundain. Roedd y siaradwyr yn cynnwys Steve Crabtree, golygydd prif raglen wyddoniaeth y BBC, Horizon, a Gaia Vince, awdur Adventures In The Anthropocene: A journey to the heart of the planet we made, a enillodd Gwobr Winton y Gymdeithas Frenhinol am lyfr gwyddoniaeth yn 2015. Yng Ngŵyl Wyddoniaeth Prydain yn Abertawe fis Medi, bydd pum siaradwr yn rhannu gair o brofiad ac yn adrodd straeon cyffrous am sut mae gwyddoniaeth wedi cyffwrdd â’u bywydau nhw.
15
Cyfweliad gyda J. Willgoose, Ysw Public Service Broadcasting
Mae cerddoriaeth yn gallu bod fel glud cymdeithasol. Mae’n dod â phobl ynghyd, yn rhoi hunaniaeth iddyn nhw, ac yn gyfrwng ar gyfer lledaenu negeseuon o gariad, casineb, cyfeillgarwch... hyd yn oed gwyddoniaeth. Public Service Broadcasting yw ffugenw’r ddeuawd gerddorol J. Willgoose Ysw a Wrigglesworth. Maen nhw’n enwog am eu cyfuniad o arddull offerynnol unigryw a samplau o’r archif, megis hen ffilmiau propaganda. Cydnabyddiaeth delwedd: ‘Fractal Flame’ – Scott Camazine, Prifysgol Harvard
16
Bydd J. Willgoose, Ysw yn dod i Ŵyl Wyddoniaeth Prydain eleni i drafod y broses o greu eu halbwm cosmig, The Race for Space: part-historical document, part-immersive soundscape. Mae’r albwm yn plethu ffilmiau newyddion a recordiadau o deithiau Sputnik ac Apollo er mwyn ailadrodd hanes y ras ofod rhwng America a’r Undeb Sofietaidd rhwng 1957 a 1972, ar draws albwm naw trac.
Oes yna neges y tu ôl i’r gerddoriaeth? Pa effaith hoffet ti i’r gerddoriaeth ei chael ar y gynulleidfa? Dechreuodd y cyfan fel prosiect i gadw’n hun yn ddiddig, ac fel rhywbeth i’w wneud, ond mae wedi troi’n tipyn mwy difrifol ers hynny. Rydyn ni eisiau dweud mwy gyda’n cerddoriaeth. Rydyn ni eisiau rhannu negeseuon am gynnydd a bod yn bositif; am gydweithio er dyfodol gwell.
Yn awyddus i wybod mwy am y fenter, cawsom air sydyn gyda’r dyn ei hun.
Sonia fwy am yr albwm, The Race to Space. Beth oedd yr ysgogiad? Mae gen i ddiddordeb ers cyn cof yn y ras i’r gofod. Roedden ni eisiau creu albwm gwych, byrlymus, sy’n taro’n ôl yn erbyn yr holl sinigiaeth yn erbyn yr oes aur honno. Mae yna gryn dipyn o amheuwyr a damcaniaethwyr cynllwynio mas yna o hyd. Mynd i’r gofod a glanio ar y lleuad yw un o orchestion ysbrydol a thechnolegol mwya’r ddynoliaeth, felly dw i’n teimlo’n drist iawn pan mae pobl yn cwestiynu hynny.
Sut wnes ti ddatblygu dy syniad cerddorol unigryw? Ar hap a dweud y gwir. Cefais fy ysbrydoliaeth o wrando ar raglen ‘The Archive Hour’ Radio 4, sy’n edrych yn ôl ar recordiadau archif y BBC. Roeddwn i eisoes yn creu darn o gerddoriaeth electronig gartre’ ac wedi potsian a chyfuno samplau o hen dapiau ffilm a sain. Fe dyfodd y syniad o hynny wedyn. Pryd ymunodd Wrigglesworth â ti? Dechreuon ni berfformio gyda’n gilydd ddwy flynedd yn ôl pan ddechreuais i gyfansoddi’r gerddoriaeth hon. Roeddwn i wedi gwneud ambell gig unigol, ond ro’n i’n casáu perfformio ar fy mhen fy hun. Mae yna gymaint o bwysau a neb i gydweithio ag e. Mae’n gallu bod yn unig iawn. P’un oedd dy gig orau? Mae’n anodd dweud achos mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi bod yn wych. Rydyn ni wedi chwarae’n Glastonbury am dair blynedd o’r bron, sy’n gryn anrhydedd. Dim ond mymryn o hwyl oedd y cyfan i ddechrau, felly mae hi wastad yn bleser cael gwahoddiad i ganu.
Beth allwn ni ei ddisgwyl gen ti yn yr Ŵyl? Bydda i’n trafod y stori y tu ôl i bob cân ar yr albwm. Pam aethon ni ati i’w hysgrifennu, beth oedd yr ysbrydoliaeth, a’r pwnc trafod ras i’r gofod yn ehangach a beth mae’n ei olygu i ni.
Dewch i weld J. Willgoose, Ysw. Sampling the Race for Space, 17:00 – 18:00 nos Wener 9 Medi, Diva’s, Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
Meddyginiaethu meddyliau ifanc Waeth ai agwedd gyffredin yn yr arddegau neu reswm sylfaenol tipyn mwy difrifol sydd i gyfri am ymddygiad plentyn – mae’n bryder cyffredin i rieni. Ydy rhywun sydd mewn hwyliau drwg, yn cadw pellter neu’n achosi ffrae gyson yn arwydd o broblem iechyd meddwl? Mae un o bob deg plentyn a pherson ifanc yn dioddef rhyw fath o broblem iechyd meddwl, gan gynnwys iselder a gorbryder. Mae rhai arolygon hyd yn oed yn awgrymu bod mwy a mwy o bobl ifanc yn dioddef problem iechyd meddwl o gymharu â 30 mlynedd yn ôl. Ai newidiadau i’n ffordd o fyw sy’n gyfrifol am hyn? Neu oherwydd gwelliannau a mwy o ymwybyddiaeth o wybodaeth feddygol, lle byddai’r salwch hwn heb ei drin yn y gorffennol? Neu efallai mai ni sy’n dueddol o wneud môr a mynydd o ymddygiad arferol pobl ifanc yn eu harddegau. Mae blynyddoedd yr arddegau yn gyfnod o fagu annibyniaeth a gwthio ffiniau, yn ogystal â gorfod ymdopi â’r hormonau a chwithdod glaslencyndod. Efallai bod pobl ifanc yn eu harddegau yn pontio i fyd oedolion heb lawer o’r sgiliau angenrheidiol i ymdopi â hynny, a bod hynny’n arwain at straen, tristwch, hunanymwybyddiaeth a rhwystredigaeth. Er hynny, rydyn ni’n gweld mwy a mwy o bobl ifanc yn cael diagnosis o salwch meddwl ac yn cael cyffuriau i fynd i’r afael â hynny. Felly, y cwestiwn yw, sut mae gwahaniaethu rhwng ymddygiad ‘normal’ a’r hyn sy’n cyfiawnhau diagnosis iechyd meddwl i berson ifanc? Un awgrym amlwg fyddai hyfforddi meddygon teulu i wirioneddol ddeall bywydau a hwyliau pobl ifanc, yn ogystal â gwybod pa arwyddion rhybudd i sylwi arnynt. Os yw symptomau’r plentyn yn ddifrifol, yn para am gyfnodau hir, neu’n ymestyn dros sawl rhan o’u bywydau, e.e. yn yr ysgol, gartref a gyda’u ffrindiau, yna gallai’r rhain fod yn arwyddion mwy clir bod yna broblem.
Gŵyl Wyddoniaeth Prydain Abertawe 6–9 Medi 2016
Pryder arall yw’r ffordd rydyn ni’n trin pobl ifanc â diagnosis salwch meddwl. Wrth holi pobl ifanc a’u gofalwyr, fe welodd ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i blant ac iechyd meddwl eu bod yn llawer mwy tebygol o gael cyffuriau presgripsiwn yn hytrach na therapïau, fel CBT, i drin eu cyflwr. Un o’r prif resymau am hyn yw ei bod hi’n anodd cael gafael ar therapïau siarad, oherwydd diffyg darpariaethau a rhestrau aros hir. Mae gan seicotherapïau hanes profedig o wella symptomau i bobl â salwch fel iselder o’r math mwyaf ysgafn neu gymedrol, ac eto mae pobl yn cael dos o dabledi gwrth-iselder yn lle hynny pan nad yw gwasanaeth seicotherapi ar gael yn hawdd. Pam rydyn ni’n gweld cynnydd aruthrol yn y presgripsiynau a roddir i bobl ifanc er mwyn trin salwch meddwl? Mae Dr Ann John o Brifysgol Abertawe wedi bod yn astudio’r pwnc ers blynyddoedd lawer. Dechreuodd ei gyrfa fel meddyg teulu a chafodd brofiad uniongyrchol o’r heriau o roi cefnogaeth a thriniaeth addas i bobl ifanc. Gan ei bod wastad wedi ymddiddori mewn iechyd meddwl, aeth ymlaen i’r maes ymchwil, gan astudio epidemioleg ac atal cyflyrau iechyd meddwl.
Bydd yr Athro Sinead Brophy, hefyd o Brifysgol Abertawe, yn ymuno â Dr Ann John yng Ngŵyl Wyddoniaeth Prydain eleni ar 9 Medi. Byddan nhw’n ceisio ateb y cwestiynau a godwyd uchod: sut allwn ni wahaniaethu rhwng ymddygiad normal person ifanc yn ei arddegau a salwch meddwl, a pham mae mwy a mwy o bresgripsiynau’n cael eu rhoi i bobl ifanc â salwch meddwl?
17
Gwyddoniaeth a’r celfyddydau Gan Daisy Fancourt, enillydd Darlith Wobrwyol Jacob Bronowski mewn gwyddoniaeth a’r celfyddydau Mae gen i gyfaddefiad. Cyn cael fy newis ar gyfer Darlith Wobrwyol Jacob Bronowski, prin roeddwn i’n ei wybod am y dyn ei hun. Efallai mai’r rheswm am hynny oedd ei fod wedi marw cyn i mi gael fy ngeni a bod ei gyfres deledu enwog ar y BBC, The Ascent of Man, wedi’i darlledu flynyddoedd ynghynt. Roeddwn i’n adnabod ei enw ond wnes i ddim gwerthfawrogi ei gyfraniad aruthrol i’r maes dw i’n gweithio ynddo heddiw. Fel mathemategydd, bardd a hanesydd gwyddonol, mae Bronowski yn cwmpasu dau fyd cwbl wahanol ar yr olwg gyntaf: gwyddoniaeth a’r celfyddydau. Yn ysgolhaig o Brifysgol Caergrawnt, gwnaeth Bronowski gyfraniad amrywiol iawn i faes gwyddoniaeth. Roedd yn cynnwys datblygu strategaethau bomio awyrennau’r RAF yn ystod yr ail ryfel byd i weithio fel Cyfarwyddwr Ymchwil Bwrdd Glo’r DU. Yn artist â diddordeb mawr yn y celfyddydau, bu’n gweithio hefyd ar gasgliad o gerddi gyda Laura Riding, bardd o America, ac fe ysgrifennodd fywgraffiad am y bardd William Blake. Gan gyfuno’r ddau ddiddordeb mawr yn ei fywyd, un o gyfraniadau pwysicaf Bronowski oedd edrych ar y berthynas rhwng gwyddoniaeth a’r celfyddydau. Roedd yn anghytuno gyda’r awgrymiadau bod gwyddoniaeth a’r celfyddydau yn gwbl groes i’w gilydd. Yn hytrach, aeth 18
ati i leisio’i farn ar y pwnc mewn cyfres o draethodau enwog ar y celfyddydau, llenyddiaeth a gwyddoniaeth yn The Visionary Eye a thrwy’i gyfres deledu fydenwog The Ascent of Man ar y BBC, am ddatblygiad y gymdeithas ddynol trwy’i ddealltwriaeth o wyddoniaeth. Roedd rhai o brif ddadleuon Bronowski yn erbyn y gwirebau canlynol: Mae gwyddoniaeth yn ymgorffori rheswm tra mae’r celfyddydau yn ymgorffori’r dychymyg Dyma’i ddadl yn The Ascent of Man: “the symbol and the metaphor are as necessary to science as to poetry”. Ymhell o fod yn wahaniaethwr, roedd yn gweld y dychymyg fel un o elfennau cyswllt hollbwysig celfyddydau a gwyddoniaeth. Lleihadaeth a chyfyngiad yw gwyddoniaeth, tra mai synthetiaeth a rhyddid yw’r celfyddydau Yn The Visionary Eye, dadleuodd fod “art and science belong to the everyday of human action, and are essentially human because they explore the freedom which man’s intelligence constantly creates for him” Mae gwyddoniaeth yn darganfod tra bo’r celfyddydau’n creu Yn The Visionary Eye, mae Bronowski’n tynnu sylw at y derminoleg ryfedd sy’n dweud mai dim ond cyflawniadau artistiaid, nid gwyddonwyr, sy’n cael eu hystyried yn ‘greadigaethau’, fel petai artistiaid wedi gwneud rhywbeth newydd a gwyddonwyr dim ond yn darganfod rhywbeth sy’n bodoli’n barod.
Yn hytrach na saernïo’r deuoliaethau neu’r holltau haniaethol hyn, awgrymodd Bronowski fod cydweithredu rhwng gwyddoniaeth a’r celfyddydau yn cynrychioli pinacl camp a chyflawniad dyn. Cafwyd crynodeb hyfryd o gyfraniad Bronowski gan ei wraig, Rita, a ddywedodd “He was an extraordinarily whole person...a thinking man, and endangered species. All his life he treated art and science as the same expression of the human imagination. The theme of the imagination ran like a bright ribbon through the fabric of his thought”. Roeddwn i eisoes wedi cynllunio fy sgwrs ar gyfer Gŵyl Wyddoniaeth Prydain, er hynny, ond synnais o weld bod cymaint o elfennau o nghyflwyniad yn asio’n naturiol â gwaith Bronowski. Yn fy Narlith Wobrwyol yn yr ŵyl, byddaf yn tywys y gynulleidfa’n ôl mewn amser, gan archwilio’r rhyng-gysylltiad rhwng y celfyddydau a gwyddoniaeth. Gan werthfawrogi cyfraniad enfawr Bronowski i’r syniadau hyn, ac yn fwy ehangach i’m maes gwaith i ar hyn o bryd, bydd cyflwyno darlith yn ei enw hyd yn oed yn fwy o fraint. Gobeithio y caf eich cwmni chi yno.
Sain a’r system imiwnedd? 11.30-13.00 dydd Gwener 9 Medi, Theatr Taliesin, Canolfan y Celfyddydau Taliesin
Penwythnos i’r teulu Gyda chwarter y teuluoedd yn cyfaddef mai dim ond 34 munud maen nhw’n eu treulio gyda’u plant bob dydd, pa ffordd well i wrthbrofi hyn na thrwy archwilio rhyfeddodau gwyddoniaeth mewn penwythnos gwych i’r teulu cyfan yng Ngŵyl Wyddoniaeth Prydain. Cynhelir y cyfan ar 10 ac 11 Medi, gyda chi a’ch plant mewn golwg. Mae gennym amserlen lawn dop o weithgareddau gwyddonol, sgyrsiau, gweithdai a pherfformiadau addas i’r teulu cyfan – a’r cyfan am ddim! Ymunwch â ni rhwng 11am a 4pm ar hyd a lled y ddinas, o Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i Amgueddfa Abertawe a Chanolfan Dylan Thomas.
Ffeithiau gwyllt a gwallgof Dr Emily 11.45-12.45 dydd Sadwrn 10 Medi, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Oeddech chi'n gwybod bod modd blocio goglais? Bod nadroedd yn gallu'ch brathu chi hyd yn oed os ydyn nhw'n gelain? Ein bod ni'n rhannu 50% o'n DNA â banana? Pam ar y ddaear bod môr-ladron yn gwisgo clwtyn llygad? P'un yw'r creadur mwyaf swnllyd? Neu pwy sydd fwyaf heini - perdysyn neu berson? A glywsoch chi am blaned lle mae diwrnod yn para'n hwy na blwyddyn? Pa anifail sy'n gollwng baw sgwâr? Neu ein bod ni'n gwneud penderfyniadau gwell wrth wneud pî pî! Ymunwch â'r addysgwr a'r darlledwr gwyddonol Dr Emily Grossman mewn sioe wyddoniaeth hwyliog a rhyngweithiol, wrth iddi egluro rhai o'i ffeithiau gwyddonol gwyllt a gwallgof. Sesiwn llawn sbri a syfrdan!
Dyma flas o’r hyn sydd ar gael:
Giamocs gwyddonol 13.00-14.00 ac 15.00-16.00 dydd Sadwrn 10 Medi, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Rhyfeddwch ar giamocs gwyddonol go iawn sydd wedi'u hysbrydoli gan straeon Roald Dahl, mewn gweithdy bywiog ymarferol! Gyda Jon Chase, cyfathrebwr gwyddoniaeth CBBC.
Gweithdy modelu hen bethau 11.00-11.45, 12.00-12.45 ac 15.00-15.45 dydd Sul 11 Medi, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Gydag ychydig o ddychymyg ac asbri, gall modelu hen bethau fod yn antur anhygoel. Mae chwarae yn llawn sbort, ac yn hollbwysig ar gyfer pob agwedd ar ddatblygu gan gynnwys eich ymennydd. Drwy ddefnyddio'ch dychymyg ac amrywiaeth o hen bethau a sothach sydd ar gael, allwch chi greu rhywbeth newydd - waeth pa mor ddwl bost neu anghredadwy yw e? Dewch i weld ble gall eich tomen sothach a'ch dychymyg fynd â chi, a dysgwch fwy am beth sy'n digwydd yn eich pen wrth i chi chwarae.
The Ghost of Morfa Colliery Perfformiad, 11.30-12.40 dydd Sadwrn 10 Medi, 14.30-15.40 dydd Sul 11 Medi Croeso'n ôl i un o gynyrchiadau mwyaf poblogaidd Theatr na nÓg, 'The Ghost of Morfa Colliery', yn Theatr Dylan Thomas, Abertawe. Ddydd Llun 10 Mawrth 1890, cafodd 87 o ddynion eu lladd mewn ffrwydrad yng nglofa Morfa, Taibach, Port Talbot. Er bod 450 o ddynion i fod i weithio'r diwrnod hwnnw, penderfynodd 200 aros gartref am ryw reswm. Yn y cwest, soniwyd am rithiau a lleisiau annaearol a glywyd wythnosau cyn y danchwa. Roedd glofa Morfa yn llawn nwyon. Ai rhywbeth goruwchnaturiol oedd yn gyfrifol am y drychineb neu nwy a daniwyd gan fflam noeth? A ddaw'r gwir fyth i'r fei? Mewn perfformiad theatrig cyfareddol a chyffrous, mae cwmni Theatr na nÓg yn adrodd hanes y werin mewn cyfnod rhyfeddol ac yn archwilio bywydau'r plant ifanc a fentrodd eu bywydau wrth lafurio danddaear yn ystod oes Fictoria.
Gŵyl Wyddoniaeth Prydain Abertawe 6–9 Medi 2016
19
-
Gyda diolch i’n partneriaid CEFNOGWYD GAN
CYNHELIR GAN
MEWN PARTNERIAETH GYDA
PARTNER CYFRYNGAU
Cydnabyddiaeth delwedd: ‘Horsemint Flower’ – Stefan Diller