Adroddiad Blynyddol 2014/15

Page 1

Adroddiad Blynyddol 2014/15


2


Cyflwyniad Dyma adroddiad ar waith Bron Afon yn ystod 2014/15. Darllenwch ymlaen i gael gwybodaeth am ein gwaith, yn rhentu a thrwsio eich cartrefi yn ogystal â’r gwasanaethau a gweithgareddau eraill yr ydym yn eu darparu a datblygu. Mynnwch wybod y ffeithiau a chael gwybod mwy am effaith yr hyn yr ydym yn ei wneud.

Andrew Lawrence cadeirydd y bwrdd

Lyn Weaver cadeirydd y pwyllgor aelodau

Ond wrth graidd Bron Afon yw’r ffaith ein bod yn gwmni cydfuddiannol, sy’n golygu bod cynnwys tenantiaid a chymunedau yn allweddol yn ein gwaith. Rydym eisiau sicrhau bod pawb, tenantiaid, staff aelodau’r Bwrdd a’n partneriaid yn cael darlun clir o beth y mae hyn yn ei olygu er mwyn i ni fedru adeiladu ar y gwaith hwn a’i ddatblygu ymhellach.

Duncan Forbes prif weithredwr

Yn wir, mae dyfodol pob un ohonom yn dibynnu ar sicrhau ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i wella’r effaith a gawn trwy ein gwaith ym Mron Afon ar ein tenantiaid a’u teuluoedd, ar yr amgylchedd ac ar yr economi lleol a’n cymunedau. Gobeithio y byddwch yn mwynhau’r adroddiad hwn ar ein blwyddyn ddiweddaraf ym Mron Afon ac yn rhannu ein brwdfrydedd ar gyfer yr amser cyffrous o’n blaenau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni.

/bronafon /bronafon /bronafonvideos

Yr iaith Gymraeg Mae ein hadroddiad monitro blynyddol i’r Comisiynydd Iaith Gymraeg ar gael ar ein gwefan yn yr adran Gwybodaeth Gorfforaethol.

3


Bron Afon fel landlord Fel landlord, rydym eisiau’r gorau i’n tenantiaid. Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd i wella’r hyn yr ydym yn ei wneud. Rydym yn ymgymryd ag arolygon parhaus o’n gwaith, gan ystyried sut medrwn wella pethau ar draws ein holl wasanaethau.

Dyma rhai ffeithiau i roi i chi flas ar ein gwaith yn 2014/15:

• Gosodwyd 782 o gartrefi i denantiaid newydd ledled Torfaen. • Deliodd ein tîm gwasanaethau cwsmeriaid ag 83,244 o alwadau ffôn. • Cwblhaodd ein tîm trwsio 35,184 o ddarnau o waith. •B u i ni ddelio ag 889 o achosion ymddygiad gwrth-gymdeithasol a chefnogi’r holl ddioddefwyr.

Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) Mae wedi cymryd saith mlynedd o gynllunio a buddsoddi i ni, er mwyn sicrhau bod ein heiddo yn cyrraedd y safon ac rydym yn gwybod bod ein tenantiaid yn teimlo manteision hyn - ceginau, ystafelloedd ymolchi, ffenestri, drysau, gwaith trydanol a phlymio, boeleri a thoeau newydd. O ganlyniad i’r llwyddiant hwn, mae Bron Afon nawr mewn sefyllfa i fenthyca’r arian i ddechrau ar ein hymrwymiad mawr nesaf - i adeiladu cartrefi newydd yn Nhorfaen. Adeiladu cartrefi newydd Rydym wdi bod yn brysur yn paratoi’r cynlluniau ac yn gwneud y cyfrifiadau ariannol a thechnegol ar gyfer y gwaith hwn, ynghyd ag ail-hyfforddi lllawer o’n haelodau staff. Ein nod yw adeiladu 500 o gartrefi newydd erbyn 2021. Rydym eisiau ymgymryd â’r dasg o adeiladu cartrefi newydd a thrawsnewid rhai adeiladau hŷn am ein bod yn gweld pobl ddigartref yn dod i Fron Afon yn rheolaidd; yn aml iawn meibion a merched ein tenantiaid a’n trigolion ydynt. Y llynedd, fe wnaethom ddarparu cartref i 324 o bobl ag anghenion uchel ag anghenion brys yn cynnwys teuluoedd digartref.

4


5


Mae Bron Afon yn Gwmni Cymunedol Cydfuddiannol Dyma rai o’r gweithgareddau sydd, yn ein barn ni, yn dangos ein hymrwymiad i gynnwys tenantiaid a chymunedau yn ein gwaith a gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud.

• Rydym wedi cefnogi 45 o grwpiau cymunedol yn • • • • •

Nhorfaen i wneud newidiadau cadarnhaol a rhedeg gweithgareddau yn eu cymunedau eu hunain. C afodd 18 o’r gwasanaethau gwahanol rydym yn ei rhedeg eu gwella oherwydd ymgysylltiad uniongyrchol aelodau, sy’n golygu gwell gwasanaethau i’n 8,000 o denantiaid. T reuliodd aelodau 349 o oriau yn ystyried a chraffu ar ein gwasanaethau. M ynychodd 3,500 o drgolion ein hwyl-ddydd lle cafwyd cyfle i gyfarfod â staff a mudiadau lleol. G welodd dwy ‘Gymhorthfa Fawr’ fwy na 100 o denantiaid yn dod i gyfarfod staff i holi a siarad am ein gwasanaethau. T reuliuodd ein haelodau 2,228 awr yn gwirfoddoli ym Mron Afon, yn rhedeg fforymau a phwyllgorau a grwpiau ‘Gorchwyl a Gorffen’, yn galw heibio ac ymweld â’n tenantiaid ac yn gweld gwaith ein timau ar y safle. C aiff unrhyw un o drigolion Torfaen 11 oed neu drosodd ymuno â Bron Afon fel aelod. Mae 267 o aelodau ifanc ac mae gan Ieuenctid Afon, ein fforwm ieuenctid, fwy na 30 o bobl ifanc yn cyfarfod bob mis i leisio barn ar y materion sy’n eu heffeithio nhw. Maent wedi gweithio gyda Chomisiynydd Plant Cymru i greu fideo hyrwyddo. Chwaraeodd Ieuenctid Afon ran mewn gwaith ymchwil a gweithdai yn trafod atebion newydd i broblemau tai i bobl ifanc. H elpodd lesddeiliaid ni i ddatblygu ein polisïau a llawlyfr lesddeiliaid.

Comisiynwyd adolygiad o’n haelodaeth a gwaith cyfranogiad. Rydym wedi dechrau gwella’n gwefan, sut rydym yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, a’n gwaith gyda chymunedau lleol. Yn ystod y flwyddyn nesaf, byddwn yn ehangu’r ffyrdd y medrwch ddweud wrthym am y pethau nad ydynt yn gweithio’n iawn, neu’r pethau y mae angen i ni eu gwybod, a’ch cynnwys yn y datrysiadau i ‘gael pethau’n iawn’.

6


7


Mae Bron Afon yn adfywio Torfaen Rydym yn datblygu ein gwybodaeth a’n harbenigrwydd fel asiantaeth adfywio, gyda’n gwaith mewn gwasanaethau cynorthwyo, gweithgareddau economaidd a gwella ein hamgylchedd. Ein gweledigaeth yw lluosi manteision y gwaith hwn trwy gadw swyddi lleol a chreu lleoedd hyfforddi, a thrwy wario cymaint a fedrwn yn lleol, ar gyflenwyr a busnesau. Rydym wedi ailwampio bloc adfeiliedig yn wyth cartref cychwyn un llofft a darparu cymorth yno i denantiaid a phobl ifanc eraill 16-24 oed. Daeth Tŷ Cyfle yng Ngarndiffaith i fodolaeth trwy ein gwaith gydag Ieuenctid Afon. Cafodd ei ailwampio gan ein staff ein hunain a chreodd cyfleoedd i bobl ifanc hyfforddi trwy Trades That Work. Mae Tŷ Cyfle yn cynnig cyfleusterau hyfforddi a chefnogaeth i’r gymuned ehangach. Rydym wedi cwblhau prosiect i wella Tŷ Miskin yng Nghwmbrân. Ym Maes Bronllys rydym wedi tynnu’r balconïau, wedi trwsio gwaith brics a oedd wedi ei ddifrodi gan ddŵr, wedi ailwampio’r mannau cyffredin a gwella’r storfa biniau gwyrdd. Ym Mryn Eithin rydym wedi gosod inswleiddiad muriau allanol i ddeg bloc o fflatiau ac wedi adnewyddu rhai o’r toeau. Rydym yn bartneriaid gyda Chyngor Torfaen a Chartrefi Melin, gan gyflawni prosiect adfywio yng nghanol tref Pont-y-pŵl. Byddwn yn ailwampio rhyw 20 eiddo a’u defnyddio fel cartrefi. Mae ein crefftwyr mewnol nawr yn ymgymryd â gwaith medrus a fyddai yn y gorffennol wedi ei wneud gan gontractwyr. Maent wedi:

• Gosod inswleiddiad muriau allanol i 55 o gartrefi. • Adnewyddu wynebau toeau ar 51 o gartrefi. •A ddasu cartrefi er mwyn i denantiaid fyw’n • • • • •

8

annibynnol. Gwella llwybrau a ffensys o gwmpas cartrefi. P rynu 21 eiddo gwag mewn tai ymddeol a dechrau eu defnyddio eto. Gwella’r mannau cyffredinol mewn fflatiau. S icrhau bod ein cartrefi gwag yn barod ar gyfer tenantiaid newydd. Trosi tŷ yn gartref i’w rannu ar gyfer tri o bobl.


9


Mae Bron Afon yn trechu tlodi Mae canfod ffyrdd o gynyddu incwm wythnosol a lleihau biliau’r aelwyd ar gyfer ein tenantiaid yn waith pwysig. Dyma rai enghreifftiau o’r hyn a gyflawnwyd gennym y llynedd:

•M ae ein tîm Atebion Ariannol yn galw ar 1,300 o

denantiaid y mis i ddatrys problemau ôl-ddyledion rhent a delio â materion eraill.

•M ae ôl-ddyledion rhent £5,340 (0.47%) yn is na ffigurau 2013/2014.

•M ae ôl-ddyledion rhent tenantiaid a effeithir gan y

cymhorthdal ystafell sbâr £25,603 (2.4%) yn is na 2013/2014.

•M ae ein polisi rhent newydd yn decach trwy

gysylltu lefelau rhent gyda maint y cartref, ei fath a’r lleoliad.

•C efnogwyd 42 o aelwydydd i symud i lety llai i osgoi ôl-ddyledion oherwydd y cymhorthdal ystafell sbâr.

•R hwystrodd ein cynllun achub morgais chwech o aelwydydd rhag dod yn ddigartref. Roedd hyn yn golygu y medrent aros yn eu cartrefi fel tenantiaid Bron Afon.

•R ydym wedi helpu tenantiaid i hawlio cyfanswm o £154,000 mewn taliadau tai dewisol. •H elpodd ein Cynllun Byw gyda Chymorth i 95 o drigolion gynyddu eu hincwm trwy hawlio budd-daliadau nad oeddynt yn gwybod bod ganddynt hawl iddynt.

•D ywedodd 144 o drigolion a chwaraeodd ran yn ein Gwasanaeth Byw Gyda Chymorth eu bod nawr yn teimlo’n fwy hyderus ynglŷn â rheoli eu harian.

•M ae ein paneli PV solar yn helpu 771 o aelwydydd i leihau eu biliau tanwydd. • Rydym wedi sicrhau £4.2m mewn cyllid allanol ers 2008 i wella effeithiolrwydd ynni cartrefi tenantiaid.

10


11


Mae Bron Afon yn cynorthwyo pobl i ddod yn annibynnol ac aros yn annibynnol Flwyddyn ar ôl blwyddyn rydym wedi ehangu’r mathau o gymorth y medrwn ei gynnig i’n tenantiaid. Rydym nawr yn darparu cefnogaeth i bobl ifanc, bod yn gyfaill i’r rheini sy’n byw mewn unigedd, paratoi pobl ar gyfer byd gwaith drwy ddarparu hyfforddiant sgiliau a gwaith, yn ogystal â chynnig cymorth i deuluoedd a chyngor ar fudd-daliadau.

• Rhoddodd ein Gwasanaeth Byw gyda Chymorth help i 500 o bobl hŷn. Rhoddodd bron i 180 o drigolion y gorau i’r cymorth ar ôl cyrraedd y nod o fyw’n annibynnol.

•R hwystrodd ein gwasanaeth clirio llanast blant mewn chwech o deuluoedd rhag mynd i ofal oherwydd cyflwr eu cartref.

Cynorthwyodd Cysylltiadau Teulu 822 o deuluoedd i’w rhwystro rhag mynd i argyfwng. Fe wnaeth eu gwaith rhwystro teuluoedd rhag chwalu neu gael eu troi allan o’u cartrefi a oedd yn golygu bod:

• 5 3 teulu wedi lleihau neu roi’r gorau i ymddygiad gwrth-gymdeithasol.

• 1 07 o bobl yn cymryd rhan mewn rhaglenni bywyd iach.

• 1 30 yn dechrau gweithio, yn gwirfoddoli neu ar gyrsiau hyfforddi achrededig.

Mae seicolegydd plant yn treulio hanner diwrnod yr wythnos gyda’n tîm Cysylltiadau Teulu. Mae’n mynd ar ymweliadau cartref gyda’r tîm os oes angen ac yn rhoi cyngor arbenigol ar ymddygiad.

•M ae ein staff cymorth tenantiaeth wedi eu

hyfforddi i ymgymryd ag asesiadau ar gyfer mân addasiadau.

•M ae ein gwasanaeth addasiadau wedi helpu mwy

na 500 o denantiaid gydag anabledd corfforol i fyw mewn cartrefi diogelach a mwy cyfforddus.

•M ae ein cartrefi nawr wedi eu labelu yn ôl

hygyrchedd er mwyn i ni wneud y gorau ohonynt pan fydd tenantiaid yn gadael.

12


13


Mae Bron Afon yn datblygu sgiliau a dysgu: rydym yn helpu pobl i gael swyddi Rydym yn gweithio i wella cyfleoedd bywyd ein tenantiaid, ein gwirfoddolwyr a staff trwy ddatblygu eu sgiliau, profiadau a’u hyder. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf:

• Cafodd wyth prentis swydd ac mae 67 o bobl ifanc eraill wedi cael lleoliad gwaith neu

brofiad ‘Try a Trade’ i ystyried gyrfa yn y diwydiant adeiladu. •C awsom 26 prentis yn 2014/15. Ers 2008 rydym wedi recriwtio 43 o brentisiaid ac mae 95% wedi mynd ymlaen i ennill cymwysterau ac wedi cael swydd gyda Bron Afon neu sefydliadau eraill. •C afodd pump o bobl swydd neu brentisiaeth ar ôl mynd trwy ein rhaglen ‘Llwybr i Waith’ sy’n cynnwys cyfweliad wedi ei warantu ar gyfer unrhyw swyddi gweigion perthnasol gyda Bron Afon. •B u 16 o bobl ar leoliad hirdymor gwirfoddol i feithrin eu sgiliau a’u hyder. O ganlyniad: - Aeth un ohonynt i swydd gyda chyflogwr arall. - Cafodd un ohonynt swydd gyda Bron Afon. - Mae pedwar ohonynt wedi dechrau NVQ ar gynllun hyfforddiant/prentisiaeth Bron Afon. •C efnogwyd 287 o bobl trwy ein gwaith cynhwysiant digidol. Crëwyd 58 o hyrwyddwyr digidol sydd wedi helpu 900 o bobl i wella’u llythrennedd digidol. •G weithiodd ein tîm buddsoddi a chynhwysiant gyda 275 o bobl i’w helpu i gael hyd i waith, cynyddu eu sgiliau ac ennill yr incwm mwyaf. Symudodd wyth o bob deg ymlaen i wirfoddoli, hyfforddiant neu waith. •C efnogwyd 152 o bobl gan Glwb Gwaith Bron Afon ac mae 71 wedi cael swydd gyda’r rhan fwyaf o’r gweddill yn mynd ymlaen i wirfoddoli neu ddysgu. •D ysgodd 41 o bobl ifanc sgiliau gwaith trwy osod adlewyrchwyr i reiddiaduron mewn 122 o gartrefi. Go Girls yw ein prosiect, sydd wedi ennill gwobrau, gyda Charter Housing ar gyfer merched 15-25 oed i feithrin eu hyder a’u hunan-barch. Cefnogodd Go Girls 74 o bobl ifanc dros chwe mis gyda 56 yn mynd ymlaen i gael gwaith, addysg neu gyfle gwirfoddoli.

14


15


Bron Afon fel cyflogwr Rydym yn ystyried ein bod yn gyflogwr gwych ond rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd i wella. Mae Bron Afon yn cyflogi 515 aelod staff. Dyma rai ffeithiau arwyddocaol:

• Mae 75% o’n staff yn byw’n lleol, sy’n gwneud

cyfraniad arwyddocaol i’r economi lleol ac yn ein gwneud yn gyflogwr mawr yn Nhorfaen.

•M ae gennym achrediad Buddsoddi mewn Pobl

ac rydym wedi cofrestru gyda’r addewid iechyd meddwl ‘Amser i Newid’.

•E in trosiant staff blynyddol yw 6.6% sy’n isel o gymharu â’r sector tai cenedlaethol.

Mae manteision i staff yn cynnwys:

•C yfraddau cyflog cystadleuol.

• Pensiwn. • Amser hyblyg. • Caffi ar y safle. • Cawodydd. • Beiciau benthyg. • Cynllun gofal iechyd. • Sgrinio iechyd. •M entrau iechyd a

llesiant megis cymorth i roi’r gorau i ysmygu a cholli pwysau.

• Hyfforddiant swydd a gyrfa. Rydym yn croesawu pobl o bob cefndir i wneud cais am ein hamrediad eang o swyddi a chyfleoedd.

16


17


Mae Bron Afon yn gwneud Torfaen yn lle gwyrddach i fyw ynddo Cefnogodd y Tîm Amgylcheddol Cymunedol y trigolion i gymryd cyfrifoldeb am y problemau tipio anghyfreithlon rydym yn eu wynebu yn y Fwrdeistref. Mae’r agwedd yn cynnwys siarad â thrigolion lle mae’r broblem yn digwydd a cheisio ailgylchu ac ail-ddefnyddio sbwriel sydd wedi adael fel hyn. Mae hyn yn helpu torri costau tirlenwi. Yn 2014/15 cafodd 1,154 achos o dipio anghyfreithlon ei drin.

• Rydym wedi torri lefel y gwastraff sy’n mynd i’w dirlenwi o’n cartrefi gweigion. Mae hen • •

• • •

ddodrefn nawr yn mynd i brosiectau ailgylchu ar gyfer pobl mewn angen. R ydym wedi cefnogi ein pedwar hyfforddai sy’n astudio ar gyfer Lefel 2 NVQ mewn gwasanaethau gofalu a chyfleusterau. R ydym wedi cynyddu faint o dir a reolir ar gyfer bioamrywiaeth (blodau gwyllt a phryfetach) i fwy na 41,000 medr sgwâr - maint 10 cae pêl droed. Enwebwyd 21 o’n 51 o safleoedd bioamrywiaeth gan drigolion. Cyflawnwyd targedau bioamrywiaeth a bennwyd gan Gyngor Torfaen. R ydym wedi gweithio gyda thenantiaid i greu mannau caeëdig o gwmpas rhai o’n blociau fflatiau. Mae’r tenantiaid yn mwynhau’r teimlad o fwy o ddiogelwch a lle i dyfu eu llysiau eu hunain. R ydym wedi gweithio gyda Chyngor Torfaen i gyflwyno ailgylchu mewn 55 bloc o fflatiau. R ydym wedi helpu disgyblion i blannu a gofalu am lysiau ar welyau uchel ym Mhentre Uchaf. Caiff y cynnyrch ei hel a’i fwyta gan yr ysgol a thrigolion lleol. R ydym wedi gweithio gydag 17 o brosiectau amgylcheddol a garddio lle mae trigolion wedi gwella golwg yr ardal y tu allan i’w heiddo.

Yn 2015/16 rydym yn dechrau gweithio ar ein prif fuddsoddiad mewn gwelliannau amgylcheddol. Eich blaenoriaethau chi ydyn’ nhw - syniadau gan denantiaid a chymunedau. Rydym eisiau i bobl leol chwarae rhan fel bod yr ardaloedd awyr agored cystal ag y medrant fod ar gyfer ein cymunedau.

18


19


Mae Bron Afon yn datblygu ei fusnes ac yn cefnogi’r economi lleol Mae Bron Afon yn ymroddedig i redeg busnes agored a gonest, yn pasio profion ariannol a llywodraethu Llywodraeth Cymru. Ynghyd â rhedeg y busnes yn dda, ein nod yw cefnogi’r economi lleol a datblygu busnes newydd ynghyd â chefnogi cwmnïau lleol.

• Ers 2008 rydym wedi gwario £60,291,957.90 gyda chontractwyr yn Nhorfaen, a

£72,594,218.67 arall yn ne Cymru. Mae’r arian hwn wedi helpu sicrhau a chreu swyddi lleol.

•M ae 75% o’n staff yn byw yn yr ardal leol sy’n golygu bod eu henillion blynyddol cyfun o £10.5 miliwn yn hwb i’r economi.

•M ae’r unedau deori busnes a adeiladwyd yn

Siopau Trefddyn yn helpu busnesau newydd i dyfu.

•R ydym wedi cadw pob un o’n hachrediadau adeiladu.

•M ae Bron Appétit yn gaffi menter gymdeithasol

ac yn agored i bawb. Cynhaliwyd gweithdai cymunedol ar goginio ar gyllideb a bwyta’n iach. Mae’r caffi wedi cefnogi hyfforddai NVQ1 a NVQ2. Cafodd un gwirfoddolwr swydd ran-amser yn y caffi.

•C afodd ein tîm TGCh achrediad y Ganolfan Gyfrifiadureg Genedlaethol.

•C awsom achrediad ISO9001 am ein harferion rheoli contractau.

• L ive and Let Homes yw ein busnes gosodiadau

cymdeithasol newydd, a fydd yn cynnig opsiynau tai amgen i drigolion lleol a gwasanaeth moesegol i landlordiaid.

•R ydym yn arolygu ein strategaeth caffael i’w

gwneud yn haws i gwmnïau lleol wneud busnes gyda ni.

20

Safle Tˆy Rosser


21


Mae Bron Afon yn helpu i bobl deimlo’n ddiogel Rydym eisiau i’n holl denantiaid deimlo’n ddiogel yn eu cartrefi a’u cymunedau. Dyma beth o’r gwaith sy’n cael ei wneud:

• Cwblhawyd 34 cynllun gwella amgylcheddol gan

ddefnyddio syniadau gan drigolion i helpu lleihau trosedd.

•M ae ein harchwiliadau stad yn cynnwys ninnau’n holi trigolion i ddweud wrthym sut y gallai eu cymunedau fod yn ddiogelach.

•R ydym wedi mynd y tu hwnt i ofynion iechyd a

diogelwch statudol trwy osod systemau chwistrellu yn ein tri bloc fflatiau uchel.

•Y mgymerwyd â 1,000 o archwiliadau dyletswydd

gofal. Mae hyn yn cynnwys archwiliadau diogelwch ar ein larymau tân, archwilio ein tiroedd, caeau chwarae, llwybrau a lifftiau.

•A r Nos Calan Gaeaf, cynhaliwyd digwyddiad hafan diogelwch ar gyfer trigolion 75 oed a hŷn fel nad oedd yn rhaid iddynt fod yn eu cartrefi.

•M ae 59 allan o 60 o ddioddefwyr trais domestig

sydd wedi cael cefnogaeth ddwys gennym trwy osod offer diogelwch yn y cartref wedi aros yn eu cartrefi. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ledled Gwent i wella gwasanaethau ar gyfer dioddefwyr trais domestig, er mwyn osgoi digartrefedd.

22


23


Ein cyfrifon ar gyfer 2014/15 Rheoli arian - Incwm a Gwariant

Mae’r ffigurau isod yn dangos perfformiad ariannol blynyddoedd 2013/14 a 2014/15 ar gyfer Grŵp Bron Afon.

Cyfrif Incwm a Gwariant 2014/15 2013/14 £000 £000

Trosiant

41,479

36,769

-32,650

-30,225

8,829

6,544

Elw o Werthu Eiddo

882

575

Llog i’w Dderbyn

496

203

-3,192

-3,173

7,015

4,149

Costau Gweithredu Gwarged Gweithredu

Llogi i’w Dalu Gwarged ar gyfer y flwyddyn

Incwm a Gwariant Cyfalaf Gwariant ar Welliannau Gwariant Cyfalaf Arall

Grant Cyfalaf Cyfanswm Cost Gwariant Cyfalaf Benthyciadau yn y Flwyddyn

-11,447

-20,877

-301

-220

4,445

7,435

-7,303

-13,662

0

4,500

Trosiant yw’r incwm y mae Bron Afon yn ei dderbyn fel rhent, taliadau gwasanaeth a gweithgareddau eraill megis grant Cefnogi Pobl a phaneli solar. Costau Gweithredu yw’r arian yr ydym yn ei wario ar drwsio a rheoli ein cartrefi ac ar ein staff a’n swyddfeydd. Elw o Werthu Eiddo yw’r incwm a gafwyd o werthu ein heiddo dan y Cynllun Hawl i Brynu.

24


Llogau a dalwyd yw cyfanswm y llogau a godwyd ar ein benthyciadau gan y banciau. Gwarged ar gyfer y flwyddyn yw’r gwahaniaeth rhwng yr incwm a’r gwariant. Rydym yn defnyddio’r gwarged hwn i gynnal a chadw ein cartrefi a gwneud gwelliannau. Cyfalaf yw’r arian rydym yn ei wario ar ein hasedau a fydd yn para am fwy na blwyddyn e.e. ar eiddo, cyfrifiaduron a cherbydau. Gwariant ar welliannau yw faint rydym yn ei wario i wella a chynnal ein heiddo. Grant Cyfalaf yw’r arian a dderbynnir gan gyrff eraill e.e. Llywodraeth Cymru i’n cynorthwyo gyda gwaith gwella. Benthyciadau yn y flwyddyn yw’r arian rydym yn ei fenthyg gan y banciau i helpu talu am ein gwariant cyfalaf.

O ble mae pob £1 yn dod 12c Incwm o Weithgareddau Eraill e.e. Paneli Solar 13c Incwm Grant 75c Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth

Sut rydym yn gwario pob £1

2c Costau Eraill e.e. Dyledion Drwg

7c Costau Llogau

11c Dibrisiant Eiddo 24c Cost Cyflwyno Gwasanaethau 27c Gwaith Cynnal a Gwelliannau a Gynlluniwyd 29c Atgyweiriadau Ymatebol

25


Bron Afon Community Housing Limited, Ty^ Bron Afon, William Brown Close, Llantarnam Industrial Park, Cwmbran, Torfaen NP44 3AB Tai Cymunedol Bron Afon Cyfyngedig, Ty^ Bron Afon, Clos William Brown, Parc Diwydiannol Llantarnam, Cwmbr芒n, Torfaen NP44 3AB Tel/Ff么n: 01633 620 111 Freephone/Rhadff么n: 0800 111 42 42


/bronafon /bronafon /bronafonvideos If you would like this document in an email, large print, braille, audio or any other language, then please let us know. Os hoffech chi gael y ddogfen hon drwy ebost, ar brint bras, braille, sain neu mewn unrhyw iaith arall, gadewch i ni wybod.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.