Sut i ddefnyddio'r thema 'Newyddiaduriaeth Cymunedol'

Page 1

SEFYDLU Y

THEMA WORDPRESS

Dyluniwyd thema Wordpress Newyddiaduraeth Gymunedol i helpu pobl i rannu newyddion gyda'u cymuned. Mae’n hawdd personoli’r thema, hyd yn oed heb fawr o wybodaeth dechnegol, ac mae'n cynnwys nodweddion fel pennawd sy’n sgrolio, categorïau newyddion wedi eu gosod yn barod, cysylltiadau cymdeithasol a gofod hysbysebu. Y mae hefyd yn gynllun hollol ymatebol felly mae'n edrych yn wych ar liniaduron, cyfrifiaduron tabled a sgriniau ffôn symudol.


Mae'r canllaw hwn yn dechrau o'r sail bod Wordpress wedi ei osod ar safle eich gweinydd, ac y gallwch fynd at eich man gosodiadau Wordpress. Os ydych yn dechrau arni ac nad ydych wedi cyrraedd y pwynt hwn, rydym yn argymell mynd i'r prif safle Wordpress lle mae ganddyn nhw canllawiau cynhwysfawr ar sut i wneud hyn: http://wordpress.org Os ydych eisiau gosod fersiwn Gymraeg o Wordpress, yna gallwch lwytho pecyn Wordpress arbennig i lawr o: http://cy.wordpress.org Unwaith y byddwch wedi gosod Wordpress, gallwch wedyn symud ymlaen i lwytho'r Thema Hyperleol a’i addasu ar gyfer eich anghenion. Os hoffech ragor o fanylion am ddefnyddio Wordpress yn gyffredinol, yna mae prif wefan Wordpress yn lle gwych i ddechrau arni.

Gosod y thema Wordpress Yn gyntaf, llwythwch i lawr y ffeil thema (newyddiaduriaeth-cymunedol.zip) o wefan y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol a'i gadw ar gyfrifiadur. Pan fyddwch yn llwytho'r ffeil i lawr, MAE'N BWYSIG eich bod yn rhoi clic ar fotwm dde’r llygoden i'w lwytho i lawr, gan y byddwch angen cadw’r cynnwys yn y ffeil .zip. Bydd clicio ddwywaith ar y ffeil yn ei agor, ac ni ellir gosod y ffeil yn y fformat hwn. Nesaf, ewch i’ch gosodiadau Wordpress drwy deipio cyfeiriad y wefan yn syth i mewn i far cyfeiriad eich porwr - enw eich gwefan yw hyn fel arfer, yn cael ei ddilyn gan /wp-admin e.e. www.yourdomain.com/wp-admin.

Rhowch eich manylion a'ch cyfrinair yn y blychau yna cliciwch y botwm Log In


Gosod y thema Wordpress

Ar y ddewislen ar y chwith cliciwch: Bwrdd Rheoli > Gwedd > Them창u

Cliciwch: Ychwanegu


Gosod y thema Wordpress

Cliciwch: Llwytho'r thema i fyny

Cliciwch: Choose File

Ffeindiwch y ffeil newyddiaduriaeth足cymunedol.zip a chliciwch choose


Gosod y thema Wordpress

Cliciwch: Gosod nawr

Cliciwch: Gweithredu

Mae angen plugins i'r thema hon weithio. Bydd nodyn ar dop y sgrĂŽn yn eich annog i lawrlwytho'r plugins perthnasol. Cliciwch: Begin installing plugins


Gosod y thema Wordpress

Cliciwch ar y botwm: Gweithred ac yna: Install

Cliciwch i roi tic yn y blwch: Plugin


Gosod y thema Wordpress

Cliciwch ar y botwm: Gosod

Cliciwch: Return to required plugins installer


Gosod y thema Wordpress

Cliciwch: Gweithred > Activate

Cliciwch i roi tic yn y blwch: Plugin


Gosod y thema Wordpress

Cliciwch: Gosod

Ar dop chwith y dudalen cliciwch ar enw eich gwefan i ymweld 창'r wefan gyda'r thema wedi ei gosod.


Gosod y thema Wordpress

Cliciwch: Add Image i ychwanegu eich logo

Dyma sut mae'r wefan yn edrych gyda'r thema, heb ei bersonoli. Fe welwch bod yr enw yr ydych wedi ei roi i'ch gwefan, a rhestr o gategorïau, yn ymddangos yn barod. Y camau nesaf yw gwneud y wefan edrych yn bersonol i chi yn yr adrannau: Creu categorïau a Personoli'r thema. Gallwch naill ai roi eich categorïau neu eich manylion personol nesaf. Yr ydym yn dangos sut i newid y categorïau nawr, ond fe allwch adael y cam yma nes eich bod wedi ychwanegu eich manylion personol, mae'r drefn lan i chi

Cliciwch ar enw'r wefan ar dop chwith y dudalen i fynd yn ôl at y bwrdd rheoli


Newid y Categor誰au

Cliciwch: Cofnodion > Categor誰au

Teipiwch enw categori newydd, ee; Newyddion yna cliciwch y botwm: Ychwanegu categori newydd Gwnewch yr un peth am bob categori arall, ee; chwaraeon, lleisiau lleol, busnes, ayyb


Newid y Categor誰au

Nawr mae angen trefnu'r categoriau yn y dewislen. Mae'r cam yma yn hanfodol er mwyn i'ch categor誰au ymddangos ar y wefan. Ar chwith y dudalen cliciwch: Gwedd > Dewislenni


Newid y Categor誰au

Cliciwch: Categor誰au

Cliciwch: Gweld y cyfan


Newid y Categor誰au

1 2 3

Cliciwch: Categoriau 4

Cliciwch yn y blwch wrth bob categori yr ydych eisiau iddynt ymddangos ar brif ddewislen y wefan. e.e. yr wyf newydd greu'r categor誰au Chwaraeon, Digwyddiadau a Newyddion felly yr wyf wedi rhoi tic yn y blwch wrth y rhain i'w dewis. Yna, cliciwch y botwm Ychwanegu at Ddewislen


Newid y Categorïau

1 2 3

Mae'r categorïau yn ymddangos ar y wefan yn yr un trefn â'r uchod. I ail drefnu llusgwch y blychau i'r drefn gywir

Unwaith yr ydych yn hapus â threfn y categorïau cliciwch Cadw dewislen


Personoli'r thema

Ar ochr chwith y dudalen cliciwch Gwedd > Options

I ychwanegu eich logo, o dan y tab Ymddangosiad, cliciwch Add Image

Wedi dewis ffeil eich logo cliciwch y botwm Dewis


Personoli'r thema

2

1

I newid lliw'r thema o binc i liw o'ch dewis gallwch naill ai (1) clicio yn y blwch a llusgo neu, (2) os oes rhif c么d gennych i liw eich brand gallwch fewnbynnu i'r blwch a chlicio'r botwm Save Options ar y dde

1

Cliciwch ar y tab Gosodiadau. Os ydych am gael eich ffrwd Trydar yn ymddangos ar y wefan rhowch enw eich cyfrif Trydar yma 颅 heb yr @ Os ydych am gynnwys adran 'Beth sy'n digwydd?" (What's on) i'r wefan, ticiwch y blwch (1) i gynnwys y categori yma. Nid yw'r cam yma yn hanfodol.


Personoli'r thema

Cliciwch ar y tab Cysylltiadau Cymdeithasol. Os oes cyfrifon cyfryngau cymdeithasol gyda chi, gallwch arddangos rhain ar eich gwefan. Rhowch y manylion yn y blychau priodol. Cofiwch roi'r URL yn gyfan ­ gan gynnwys http://www. Wedi ychwanegu eich cyfrifon i gyd cliciwch y botwm Save Options

Os ydych wedi ychwanegu eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol byddant yn ymddangos ar dop y sgrîn ar y dde. Wrth glicio ar yr yr eicon, bydd hwn yn agor y gwefan perthnasol.


Hysbysebion Mae'r adrannau ar y dudalen yma yn opsiynol 足 nid yn hanfodol

Mae'r thema yn eich galluogi i arddangos hysbysebion ar eich gwefan newyddion cymdeithasol. Os dymunwch dderbyn hysbysebion ar y wefan ticiwch y blwch drws nesaf i Galluogi hysbysebu. Wedyn cliciwch ar Tudalennau > Hysbysebion ac ysgrifennwch y wybodaeth yma yr hoffech ymddangos pan mae darllenwr yn clicio ar y blwch 'cliciwch yma i hysbysebu'. Mae modd hefyd galluogi Google Adsense. Am fwy o wybodaeth ar sut i greu cyfrif Adsense ewch at https://www.google.com/adsense

Google Analytics

Mae Google Analytics yn eich helpu i ddadansoddi traffig ymwelwyr ac yn creu darlun cyflawn o'ch cynulleidfa a'u hanghenion. Am fwy o wybodaeth ar sut i ddefnyddio Google Analytics ewch at http://www.google.com/analytics/


Checio'r Newidiadau

Os ydych am weld y wefan, gyda'r newidiadau yr ydych newydd eu gwneud, cliciwch ar enw eich gwefan ar dop chwith y sgrîn.

Google Analytics

Dylai'r sgrîn edrych yn debyg i'r llun uchod os ydych wedi lanlwytho logo, newid y lliw ac ychwanegu eich ffrwd Trydar


Ychwanegu Stori

Cliciwch ar enw'r wefan, ar dop chwith y sgrîn, ac ewch yn ôl i'r bwrdd rheoli. Cliciwch ar cofnodion, daw hwn â rhestr o bob cofnod/stori sydd wedi cael eu hysgrifennu ar y wefan ­ drafft ac wedi eu cyhoeddi. Yna cliciwch ar Ychwanegu

Dylai'r sgrîn edrych yn debyg i'r llun uchod os ydych wedi lanlwytho logo, newid y lliw ac ychwanegu eich ffrwd Trydar


Ychwanegu Stori â llun

1

2

3

Cliciwch ar enw'r wefan, ar dop chwith y sgrîn, ac ewch yn ôl i'r bwrdd rheoli. Cliciwch ar Cofnodion, daw hwn a rhestr o bob cofnod/stori sydd wedi cael ei ysgrifennu ar y wefan ­ drafft ac wedi eu cuhoeddi. Yna cliciwch ar

Ychwanegu

Mae yna 3 cham sydd rhaid dilyn er mwyn cyhoeddi stori. 1) Ysgrifennu pennawd i'r stori. 2) Ysgrifennu corff y stori 3) Ychwanegu llun neu ddelwedd i fynd gyda pennawd y stori. Cliciwch ar y botwm Add Image


Ychwanegu Stori 창 llun

Bydd y thema yn agor ar y lluniau yn y llyfrgell. Ar hyn o bryd yr unig lun fydd yn y llyfrgell yw'r un yr ydych wedi ei lanwytho fel logo. Cliciwch ar Llwytho Ffeiliau i Fyny.

Gallwch lusgo a gollwng eich llun neu ddelwedd neu cliciwch ar y botwm Dewis Ffeiliau *Yn ddelfrydol dylai'r llun/delwedd fod o leiaf 630 picsel mewn hyd *


Ychwanegu Stori 창 llun

Gallwch lanlwytho sawl llun ond rhaid dewis un o'r rhain fel y brif delwedd i fynd gyda'r stori. Cliciwch ar y llun yr ydych eisiau ei ddefnyddio ac fe welwch tic yng nghornel y llun dewisiedig. Cliciwch ar y botwm Dewis ar ochr dde y sgrin.

O dan y llun gallwch ychwanegu disgrifiad byr ohono.


Ychwanegu Stori 창 llun

Os yw'r llun wedi cael ei dynnu gan gyfrannydd neu ffotograffydd sydd angen cydnabyddiaeth ar y wefan am ei waith, gallwch ychwanegu enw a URL y ffotograffydd yma. Rhowch y manylion cywir yn y blwch priodol. Bydd yr enw yn ymddangos yng nghornel y llun ar y wefan.

Gallwch hefyd rhoi cydnabyddiaeth ar bob stori i unrhyw gyfranydd. Cofiwch mae'r manylion i gyd yn cael eu cyhoeddi ar y wefan felly mae'n werth checio faint o fanylion mae'r cyfranydd eisiau i chi gyhoeddi.


Ychwanegu Stori â llun

Ar ochr chwith y sgrîn bydd angen rhoi tic mewn blwch drws nesaf i UN categori perthnasol. Peidiwch clicio sawl categori neu bydd yr un stori'n ymddangos ar sawl sgrîn. Yr unig flwch ychwanegol bydd angen clicio yw Slider Story os ydych hefyd am i'r stori ymddangos yn y carwsel ar y dudalen flaen.

1

2

3

Mae 3 botwm ar chwith y dudalen sydd rhaid canolbwyntio arnynt nesaf. Tra'n ysgrifennu stori mae'n werth gwasgu y botwm Cadw'r Drafft (1) yn rheolaidd. Gallwch hefyd wasgu'r botwm yma wedi gorffen y stori os nad ydych yn barod i'w chyhoeddi eto. Mae hwn yn eich galluogi chi, neu aelod arall o'r tîm, i' gyhoeddi'r stori rhyw adeg arall. Gallwch wasgu'r botwm Rhagolwg (2) i weld sut mae'r stori yn edrych hyd yn hyn. Mae'n dangos rhagolwg o'r dudalen yn gwmws fel bydd yn edrych wedi ei chyhoeddi. Pan yr ydych yn sicr bod y stori yn barod, a mae'r llun yn edrych yn iawn yn y rhagolwg, gallwch wasgu'r botwm Cyhoeddi (3). Llongyfarchiadau ­ yr ydych wedi cyhoeddi eich stori gyntaf ar eich gwefan newydd sbon!


Ychwanegu Stori â llun

Cliciwch ar enw'r wefan, ar dop chwith y sgrĂŽn, i weld eich stori wedi ei chyhoeddi ar y wefan.


Ychwanegu Stori 창 llun

Os wnaethoch rhoi cydnabyddiaeth i ffotograffydd y llun bydd yr enw yn ymddangos yng nghornel y llun

Os wnaethoch rhoi cydnabyddiaeth i unrhyw gyfrannydd ychwanegol bydd y manylion yn ymddangos ar ochr dde yr erthygl o dan y pennawd 'Gohebwyr Ychwanegol'.


Ychwanegu defnyddwyr

Yn y bwrdd rheoli cliciwch Defnyddwyr a wedyn y botwm Ychwanegu

Llenwch y manylion, dewisiwch r么l y defnyddiwr yna cliciwch y botwm Ychwanegu Defnyddiwr. Ail颅adroddwch ar gyfer pob defnyddiwr.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.