Caerphilly Arts & Theatre Annual Report 2016w

Page 1

Adroddiad Blynyddol 2016

GWASANAETH THEATR A CHELFYDDYDAU CAERFFILI

COAL gan Gwmni Gary Clarke. Credyd Joe Armitage


Ffigurau Cyfranogiad 23,932 o bobl

wedi cyfrannu at weithgareddau’r celfyddydau

£291,200 Cyllid allanol a gyrchir drwy geisiadau grant a gweithio mewn partneriaeth

Yn 2016 cymerodd

76,350 o bobl ran yn y Celfyddydau

52,418

o aelodau cynulleidfa wedi mynychu ein digwyddiadau

£xx

£410,200 incwm a enillwyd

£ ££

1 Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Theatr a Chelfyddydau Caerffili


TROSOLWG O WEITHGARWCH SEFYDLIAD Y GLOWYR COED DUON

CYLLID CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU Ymunodd y Sefydliad â phortffolio o 67 sefydliad a ariannwyd o’r cyllid refeniw ym mis Ebrill 2016; mae’r arian ychwanegol wedi ein galluogi i ddatblygu a gwella’n rhaglen, sydd wedi bod yn difyrru cynulleidfaoedd eleni.

Am y tro cyntaf erioed archebais 5 sioe o flaen llaw ym mis Medi... Roedd o leiaf 5 sioe arall ar y rhestr y byddwn wedi bod yn hapus i’w mynychu. Lleoliad adloniant gorau yn Ne Cymru am werth am arian!

2 Trosolwg o weithgarwch Sefydliad y Glowyr Coed Duon

Sefydliad y Glowyr Coed Duon

Mae perfformiadau gwych bob amser yn y Coed Duon, gwerth ardderchog am arian, profiad gyfeillgar ardderchog drwy gydol y flwyddyn. Da iawn


Credyd Cyril Preddy

CYFLWYNODD SEFYDLIAD Y GLOWYR COED DUON 178 PERFFORMIAD YN YSTOD Y FLWYDDYN. Ymhlith uchafbwyntiau’r rhaglen oedd…

COAL Daeth y coreograffydd gwobrwyol Gary Clarke â’r ddrama ddawns ‘Coal’ i Goed Duon ym mis Tachwedd 2016, sioe bwerus ac emosiynol am fywyd ar y talcen glo. Perfformiwyd gan 7 o ddawnswyr proffesiynol, cast lleol o fenywod, ac yn cynnwys aelodau o Fand Tref Tredegar, mewn stori am gymuned, undod a goroesi.

Roedd yn fraint i fod yn un o’r gwragedd pwll. @ GaryClarkeUK wedi cofleidio calon y gymuned. Diolch. #reconnected 3 Trosolwg o weithgarwch Sefydliad y Glowyr Coed Duon

Sefydliad y Glowyr Coed Duon

THE REVLON GIRL Cafodd y ddrama sensitif, bryfoclyd ac ysgogol hon ei chanmol gan gritigiaid yn West End Llundain, ac mae’n seiliedig ar ddigwyddiadau bywyd go iawn ac i gyd-fynd ag atgofion 50 mlynedd trychineb glofaol Aberfan ym 1966.


Mae ein cynyrchiadau teulu yn cynnwys gweithgareddau cofleidiol yn y cyntedd i deuluoedd mwynhau gyda’i gilydd, gan gynnwys celf a chrefft, gwneud pypedau ac ymweliad arbennig iawn gan dylluanod (i gyd-fynd gyda THE OWL AND THE PUSSYCAT’S TREASURY OF NONSENSE) trwy garedigrwydd Gwarchodfa Tylluanod a Bywyd Gwyllt Cymru.

Am le gwych ar gyfer plant ag anghenion arbennig. Es a fy merch (sydd â ASD) i weld perfformiad hamddenol y Owl a’r Pussycat. Roeddwn wrth fy modd ein bod wedi derbyn stori weledol o’r adeilad ac ati Mae’r staff yn ASD hyfforddedig, ac mae’r actorion yn rhyngweithio â’r plant mewn ffordd ryfeddol. 4 Trosolwg o weithgarwch Sefydliad y Glowyr Coed Duon

Sefydliad y Glowyr Coed Duon

THEATR AR GYFER PLANT, POBL IFANC A THEULUOEDD Fe gyflwynom 41 o berfformiadau ar gyfer plant a theuluoedd, sy’n dangos ein hymrwymiad i fod yn theatr flaenllaw sy’n cyflwyno gwaith ar gyfer pobl ifanc. Roedd cynyrchiadau’n cynnwys SHINY a SPONGE, dau gynhyrchiad rhyngweithiol wedi’u hanelu at fabanod a phlant ifanc iawn; dau berfformiad o THE STICK MAN a werthodd allan yn llwyr; a WELSH IS MAGIC gan Martyn Geraint a aeth o gwmpas 16 ysgol yn y sir. Cafodd tri pherfformiad hamddenol eu rhaglennu, wedi’u cynllunio’n benodol i groesawu pobl sy’n cael budd o berfformiad gydag amgylchedd mwy hamddenol, gan gynnwys pobl â Chyflwr Sbectrwm Awtistiaeth, anhwylderau synhwyraidd a chyfathrebu neu anabledd dysgu.


Credyd Theo Moye

COMPANY OF WOLVES yng Nghoedwig Cwmcarn Crëwyd y sioe theatr awyr agored unigryw hon yn benodol ar gyfer rhedwyr a cherddwyr ac mae’n rhoi rhywbeth ychydig yn wahanol i gynulleidfaoedd! Yn seiliedig ar gasgliad straeon clasurol Angela Carter, gall aelodau’r gynulleidfa ddewis fod yn heliwr (y rhedwyr) neu gasglwr (y cerddwyr) yn camu’n ofalus ar hyd llwybr y goedwig, lle cafodd stori Burn The Curtain ei rannu ar hyd y ffordd.

PANTOMEIM Croesawodd y Sefydliad 15,377 o ran cynulleidfaoedd ar gyfer tymor pantomeim y Nadolig, nifer syfrdanol a wnaeth chwalu pob ffigwr gwerthiant tocynnau blaenorol. Roedd Owen Money, sydd bob amser yn boblogaidd, wedi serennu yn ‘Beauty and the Beast’, gyda 48 o berfformiadau’r sioe

Es i wylio ‘Beauty and the Beast’ am y tro cyntaf i Goed Duon, ac mae’n rhaid i mi ddweud diolch enfawr i bawb, y panto gorau rwyf wedi ei weld ers blynyddoedd. 5 Trosolwg o weithgarwch Sefydliad y Glowyr Coed Duon

Sefydliad y Glowyr Coed Duon

Dwi newydd gymryd rhan yn y ‘Company of Wolves’ yng Nghoedwig Cwmcarn ac roedd yn hollol wych. Allai ddim aros nes bod y Cwmni Theatr yma’n dychwelyd. Roedd yn hollol anhygoel.


Credyd Marina Newth

Cyd-gynyrchiadau a Chymorth Artistiaid Am y seithfed flwyddyn yn olynol cyd-weithiom â Black RAT Productions a Theatrau Rhondda Cynon Taf wrth gymryd cynhyrchiad ar daith genedlaethol yng Nghymru. Agorodd BOUNCERS, comedi anhygoel gan John Godber yn Sefydliad y Glowyr Coed Duon cyn mynd ar daith i 15 theatr.

Rydym hefyd wedi cefnogi a gweithio ar y cyd ag artistiaid a chwmnïau er mwyn dod â’u syniadau i ddwyn ffrwyth, er enghraifft THE GOOD EARTH gan Motherlode a oedd wedi cael cyfnod llwyddiannus Efrog Newydd cyn mynd ar daith ledled Cymru, a phrosiect peilot Leeway Productions o TEN MINUTE MUSICALS, syniad ar gyfer datblygiad theatr gerddorol newydd yn Yr Ystafell Arall yng Nghaerdydd.

2,811 o bobl wedi gweld ein cynyrchiadau ar daith o gwmpas Cymru

6 Trosolwg o weithgarwch Sefydliad y Glowyr Coed Duon

Sefydliad y Glowyr Coed Duon

Rydym hefyd wedi datblygu dau berthynas cyd-gynhyrchu newydd; JASON & THE ARGONAUTS, fersiwn newydd o’r chwedl glasurol a addaswyd gan Mark Williams ar gyfer teuluoedd, a KISS ME LIKE YOU MEAN IT drama a ysgrifennwyd gan awdur Broadchurch a Doctor Who, Chris Chibnall ac wedi’i chyfarwyddo gan Angharad Lee. Cafodd y ddau gynhyrchiad eu profi drwy ymchwil a datblygu, a’u cyflwyno i gynulleidfaoedd prawf, gyda’r gobaith o’u datblygu i fod yn gynyrchiadau llawn yn y dyfodol.


Dementia Cyfeillgar Daeth Sefydliad y Glowyr Coed Duon yn theatr Dementia Gyfeillgar achrededig - y cyntaf yng Nghymru. Daeth y theatr yn Ddementia Gyfeillgar yn dilyn sawl mis yn cydweithio’n agos â’r Gymdeithas Alzheimer er mwyn sicrhau bod y lleoliad yn cydymffurfio â’r safonau uchel sydd eu hangen i gael y fath statws mawreddog, gan gynnwys bod pob aelod staff wedi cael eu hyfforddi fel ‘Ffrindiau Dementia’. Yn ystod y flwyddyn, cynigiom ddigwyddiadau Dementia Gyfeillgar gan gynnwys dawns te a pherfformiad Dementia Gyfeillgar gan gantor Only Men Aloud, Ross Leadbeater, yn ystod wythnos ymwybyddiaeth dementia.

Prosiect Goroeswyr Dyfarnwyd Grant Pobl a Lleoedd o £240,000 gan y Loteri Fawr i sefydliad Creu Cymru, sef yr asiantaeth ddatblygu ar gyfer theatrau a chanolfannau celfyddydau yng Nghymru, er mwyn cyflwyno’r Prosiect Goroeswyr. Mae’r prosiect yn dod â chwmni theatr cynhwysol Chickenshed a lleoliadau theatr ranbarthol ar draws Cymru at ei gilydd, gan gynnwys Sefydliad y Glowyr Coed Duon, ac yn cefnogi’r sefydliadau hynny i weithio gydag unigolion sydd wedi profi cam-drin domestig, mewn cyfres o weithdai a sesiynau creadigol dwys dros gyfnod o 18 mis.

Hefyd, cododd ein staff £32 i’r Gymdeithas Alzheimer ym mis Rhagfyr wrth wisgo i fyny fel ellyllon ar gyfer DIWRNOD YR ELLYLLON. 7 Trosolwg o weithgarwch Sefydliad y Glowyr Coed Duon

Sefydliad y Glowyr Coed Duon

Mae Marina Newth, ein Dirprwy Reolwraig Theatr wedi mynd ymlaen ers hynny i ddod yn Hyrwyddwraig Ddementia, ac mae wedi’i hachredu i ddarparu’r hyfforddiant Cyfaill Dementia yn ogystal â chynnig sesiynau gwybodaeth Cyfaill Dementia misol i bobl yn y gymuned leol.


Mae’r plant yn gwerthfawrogi eu profiad yn fawr iawn ac maent ar dân heddiw. Maent wedi bod yn holi yn barod os cant ei wneud eto. Roedd yn brofiad gwych iddynt. 8 Trosolwg o weithgarwch Sefydliad y Glowyr Coed Duon

Sefydliad y Glowyr Coed Duon

Diwrnod Meddiannu 10fed Tachwedd oedd Diwrnod Meddiannu cenedlaethol Plant mewn Amgueddfeydd; diwrnod lle mae plant a phobl ifanc yn cael y cynnig o brofiad unigryw o fod yn gyfrifol am amgueddfa neu leoliad diwylliannol, yn gweithio ochr yn ochr â staff ac yn derbyn rolau ystyrlon ar gyfer y diwrnod. Mae pobl ifanc yn cymryd rhan lawn yng ngwaith y sefydliad, yn gwneud penderfyniadau ac yn darparu cyfraniad gwerthfawr. Gwahoddwyd blwyddyn 10 ac 11 o Ysgol Gyfun Heolddu i gymryd drosodd ein hadeilad ar gyfer cyngerdd gan Allan yn y Fan. Cymerodd bobl ifanc rolau fel tywyswyr, derbynyddion tocynnau, rheolwr ar ddyletswydd, peirianwyr sain, a rheolwyr llwyfan, yn ogystal â pherfformio darnau cerddoriaeth a dawns eu hunain i’r gynulleidfa gyhoeddus. Cawsom argraff hynod o dda ohonynt, yn dilyn y ffordd yr oedd y bobl ifanc wedi cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif, a gweithio’n galed iawn i wneud yn sicr bod y noson wedi mynd yn dda. Rydym wrth ein bodd bod un o’r myfyrwyr, Luke Nicholls, wedi ymuno â’r tîm blaen y tŷ ers hynny ar leoliad gwirfoddoli, yn ennill llawer o brofiad a sgiliau newydd.


Cyfnodau Penderfynol Yn ystod hanner tymor mis Hydref, cynaliasom breswyliad Ffotograffiaeth a Dawns Cyfnodau Penderfynol, lle treuliodd cyfranogwyr lleol bum wythnos yn mynychu gweithdai ffotograffiaeth neu ddawns, gyda ffotograffwyr yn canolbwyntio ar ffotograffiaeth stryd a dal delweddau dawns gyfoes, a dawnswyr yn mynychu gweithdai dawns a choreograffeg ansawdd uchel gyda dawnswyr proffesiynol.

Arddangosfa Ddawns Gymunedol Perfformiodd dros 230 o gyfranogwyr, o 11 o ysgolion a grwpiau dawns, yn y sioe dawns gymunedol flynyddol, o flaen 585 aelod y gynulleidfa. Roedd y galw i berfformio yn yr arddangosfa eleni mor uchel, fel y bu’n rhaid i ni gynyddu nifer y perfformiadau o dri i bedwar. Cynllun Prentisiaeth Dechnegol Ar y Cyd Gyda chyllid oddi wrth Sefydliad Andrew Lloyd Webber, mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi bod yn arwain ar gynllun prentisiaeth dechnegol ar y cyd, yn cynnig naw lleoliad prentisiaeth dechnegol mewn theatrau ar draws Cymru. Ym mis Mehefin 2016, dewiswyd Joshua Purnell-Jones i ymuno â thîm technegol Sefydliad y Glowyr Coed Duon ar gyfer ei leoliad prentisiaeth 12 mis, yn ennill profiad gwerthfawr ac yn gweithio tuag at ei dystysgrif Dinas ac Urddau lefel 3 mewn Theatr, Sain, Golau a Llwyfan Technegol.

9 Trosolwg o weithgarwch Sefydliad y Glowyr Coed Duon

Sefydliad y Glowyr Coed Duon

Lletya grwpiau a digwyddiadau cymunedol Drwy gydol y flwyddyn, cynaliasom lawer iawn o grwpiau cymunedol, yn darparu iddynt gymorth er mwyn cyflwyno’u gwaith mewn amgylchedd proffesiynol gyda chymorth technegol llawn, gan gynnwys Cymdeithas Theatr Gerddorol Coed Duon, Band Markham, Côr Meibion Rhisga a Chôr Meibion Mynyddislwyn.


TROSOLWG O WEITHGARWCH DATBLYGU’R CELFYDDYDAU

Mae gennym sawl cytundeb partneriaeth traws-sirol mewn lle, sy’n ein helpu i gael gafael ar arian ac arbenigedd ychwanegol ac yn ein galluogi i ddarparu mwy o gyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn gwaith cyffrous, arloesol.

10 Trosolwg o Weithgarwch Datblygu’r Celfyddydau

Datblygu’r Celfyddydau

Mae’r Tîm Datblygu’r Celfyddydau unwaith eto wedi gweld cynnydd mawr yn y bobl sy’n elwa ar ein gwaith, o gymharu â blynyddoedd blaenorol; mae hyn yn bennaf oherwydd ein llwyddiant o ran cael gafael ar gyllid allanol ar gyfer darpariaeth estynedig mewn ardaloedd newydd fel y Prentis Dawns a’r Prosiect Llwybrau Creadigol, gan gynnwys Theatr Ieuenctid Caerffili ac ArtSpark! Rhaglenni ‘Mwy Galluog a Thalentog’.


GWELLA IECHYD Y MEDDWL AC IECHYD CORFFOROL

Prentisiaeth Dawns Gan ddefnyddio grant Cyngor Celfyddydau Cymru, yn ystod 2015/16 rydym wedi cynnig cyfle prentisiaeth mewn dawns gymunedol, a oedd yn canolbwyntio i raddau helaeth ar wella iechyd y meddwl ac iechyd corfforol pobl hŷn mewn cartrefi preswyl, cartrefi gofal a llety gwarchod. Bu ein prentis dawns, Bethan Ryland, yn anhygoel wrth ddarparu sesiynau ymgysylltu sy’n canolbwyntio ar gael pobl yn fwy gweithgar gorfforol a chymdeithasol ac yn gwella lles y meddwl drwy ddawns.

11 Trosolwg o Weithgarwch Datblygu’r Celfyddydau

Datblygu’r Celfyddydau

Inside Out Cymru Mae Inside Out Cymru, elusen celfyddydau cymunedol ac iechyd y meddwl, yn mynd o nerth i nerth ac mae bellach yn darparu gweithgareddau celfyddydau ac iechyd y meddwl rheolaidd ar draws 4 o 5 ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae’r prosiect yn rhan allweddol o Gynghrair Iechyd y Meddwl Gwent ac yn ddiweddar mae wedi ennill y tendr i ddarparu gwasanaethau dydd iechyd y meddwl ar ran y Bwrdd Iechyd. Mae Gwasanaeth Celfyddydau Caerffili o hyd yn cynnig cymorth strategol gan eistedd ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, ac mae’r datblygiadau diweddar yn cynnwys ariannu newydd a staff a newydd ar waith, a fydd yn helpu gyrru’r elusen yn ei blaen.


CEFNOGI’R DIWYDIANNAU CREADIGOL

Mae’r cerddorion ifanc hefyd wedi derbyn cymorth i ddatblygu sgiliau hyrwyddo, ac wedi rhedeg gig yn Ysgol Lewis gyda chymorth Rhwydwaith Hyrwyddwyr Ifanc Gwasanaethau Diwylliannol Rhondda Cynon Taf. Gallwch wrando ar gerddoriaeth Alex Stacey ac Ofelia, neu gadw fyny â’u prosiectau cyfredol drwy ddilyn y ddolen www.forteproject.co.uk/forte2016/ Wythnos Celfyddydau Caerffili Mewn cydweithrediad â’r tîm Cynllun Datblygu Gwledig, roedd Wythnos Celfyddydau Caerffili yn hybu artistiaid a lleoliadau ar draws Bwrdeistref Caerffili, trwy drefnu arddangosfa i hyrwyddo’u gwaith a’u harferion yn Nhŷ Penallta. Defnyddiwyd hwn fel ffordd o godi proffil yr artistiaid gyda’r nod o gynyddu gwerthiant y gwaith.

12 Trosolwg o Weithgarwch Datblygu’r Celfyddydau

Datblygu’r Celfyddydau

The Forté Project Mewn cydweithrediad â phartneriaid Clymu Celf, a diolch i gyllid ychwanegol oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru, cymerodd y Prosiect Forté, a oedd ar waith dros 2015/16, 10 band neu gantor cyfansoddwyr oedd yn dod i’r amlwg, o ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Merthyr Tudful, Penybont-ar-Ogwr a Bro Morgannwg, i weithio ochr yn ochr â mentoriaid oedd wedi’u clustnodi o’r diwydiant, i gefnogi artistiaid ar eu taith ar bwynt critigol yn eu gyrfa gerddorol. Mae’r artistiaid a dewiswyd o Gaerffili, Alex Stacey ac Ofelia, wedi ennill profiad gwerthfawr o’r gweithdai cyfansoddi, seminarau diwydiant-gysylltiedig, cyfleoedd wedi’u cyfeirio, mynediad i fannau ymarfer, sesiynau recordio, cymorth datblygu cynulleidfa pwrpasol, a’r ystod o gyfleoedd byw unigryw drwy gydol y flwyddyn. Ers gweithio â Forte, mae Alex Stacey wedi’i lofnodi i Covert Talent, cwmni rheoli gyrfa sy’n cefnogi artistiaid sy’n dod i’r amlwg.


Gŵyl Ffilm Ddogfennol Ryngwladol Cymru Ym mis Mai 2016, lansiwyd yr Ŵyl er mwyn cynorthwyo gwneuthurwyr ffilmiau dogfennol a chodi dyheadau a lefelau sgiliau pobl ifanc ar draws Cymru drwy ddarparu gŵyl ffilmiau rhyngwladol a rhaglen o weithgareddau gydol y flwyddyn yn y gymuned. Gan ddefnyddio Sefydliad y Glowyr Coed Duon a Sinema Maxime fel canolbwynt ar gyfer yr ŵyl, mynychodd dros 600 o bobl o ledled y DU ac Ewrop gyfres o sgriniadau, dosbarthiadau meistr, hyfforddiant a digwyddiadau rhwydweithio dros y tri diwrnod. Yn nigwyddiad ‘cwrdd â’r comisiynwyr’ BAFTA Cymru, bu 20 o wneuthurwyr ffilmiau lleol yn gallu cwrdd â’r penderfynwyr o’r BBC, Channel 4, S4C a VICE Online er mwyn trafod prosiectau a chynlluniau datblygu. Roedd yr ŵyl hefyd yn cynnig nifer fawr o gyfleoedd gwirfoddoli i fyfyrwyr o sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach i helpu rhedeg y digwyddiad.

13 Trosolwg o Weithgarwch Datblygu’r Celfyddydau

Datblygu’r Celfyddydau

Arddangosfa Cofio’r Holocost Agorodd prosiect siop wag greadigol ar 22ain Ionawr yn Arcêd y Farchnad yng Nghoed Duon. Roedd y prosiect hwn yn nodi Diwrnod Cofio’r Holocost gydag arddangosfa o waith celf a barddoniaeth ingol gan ddisgyblion lleol o Ysgol Uwchradd Cwmcarn, Ysgol Gyfun Coed Duon ac Ysgol Gyfun Gymunedol Rhisga, ochr yn ochr â’r artist proffesiynol David Garner. Cyflwynodd yr arddangosfa waith gan y disgyblion, ynghyd â gwaith celf Garner ‘B for Defiance’, ddyblygiad union o’r arwydd yn Auschwitz. Roedd dros 50 o ddisgyblion wedi cymryd rhan a daeth dros 150 o bobl i’r arddangosfa. Cynhaliwyd digwyddiad swyddogol arbennig am 11am ar ddydd Mercher 27 Ionawr i nodi Diwrnod Cofio’r Holocost, y diwrnod rhyngwladol ar gyfer dioddefwyr yr Holocost a hil-laddiadau eraill. Yn ystod yr arddangosfa, gofynnwyd i’r bobl a ddaeth i weld gwaith i gymryd cerdyn gydag enw rhywun oedd wedi colli eu bywyd yn ystod yr Holocost, ac wedyn cawsant eu hannog i gerdded ar draws yr arwydd ar y llawr i ddangos eu her yn erbyn ffasgaeth cyn gosod yr enw ar y wal gyferbyn.


DYSGU, YMGYSYLLTU A PHOBL IFANC ArtSpark! Bwriad y cynllun hwn oedd canfod a datblygu disgyblion Mwy Galluog a Thalentog a’u helpu i ddilyn gyrfa yn y diwydiannau creadigol. Parhaodd yn y flwyddyn 2016 gyda chyllid oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru. Bwriad y cynllun oedd meithrin dawn a brwdfrydedd am y celfyddydau yn cychwyn ar lefel addysg gynradd, ac i greu rhwydwaith dysgu a chymorth yr holl ffordd drwy yrfa ysgol y person ifanc. Bwriad ArtSpark oedd meithrin a datblygu sgiliau ac i gyfeirio pobl ifanc i gyfleoedd a mentrau pellach megis Criw Celf, Theatr Ieuenctid Caerffili neu’r Celfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol wrth iddynt symud ymlaen. Roedd yn caniatáu i bobl ifanc gwrdd â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y maes, a dysgu am yr amrywiaeth o sgiliau artistig. Yn ogystal â’r 55 oedd wedi cofrestru ar y cynllun yn 2015, fe wnaethom dderbyn 35 aelod pellach yn ystod 2016. Cynhaliwyd y prosiect mewn lleoliadau ar draws y sir gan gynnwys Canolfan Addysg Glaswelltiroedd Aberbargod ar gyfer llosgi ‘raku’ awyr agored, Neuadd y Gweithwyr Bedwas ar gyfer gwaith perfformiad a ffilm, ynghyd â threfnu tripiau ymhellach i ffwrdd i ganolfannau fel Stiwdios Dawns Rubicon. Hefyd, cwblhaodd 3 o’n hartistiaid gweledol yn llwyddiannus eu Gwobr Celfyddydau Archwilio, cymhwyster sy’n cynnig achredu ar gyfer sgiliau celfyddydol.

14 Trosolwg o Weithgarwch Datblygu’r Celfyddydau

Datblygu’r Celfyddydau

It’s My Shout 2016 Bellach yn ei 14eg flwyddyn, rhoddodd y prosiect blynyddol hwn y cyfle i lawer o bobl ifanc ennill profiad gwaith go iawn a gweithio ar ffilmiau byrion a gynhyrchwyd gan y BBC ac S4C. Mae’r prosiect yn darparu hyfforddiant ymarferol i bobl ifanc mewn rolau fel actorion, rhedwyr, golygyddion, sain, goleuo, gwisgoedd a dylunio, ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Yn ystod 2016 cafodd naw ffilm eu gwneud a chafodd 120 o gyfranogwyr o Fwrdeistref Caerffili’r cyfle i weithio ar ffilmiau. Cafodd cyfranogwyr hefyd eu cyfeirio ymlaen i gyfleoedd pellach o fewn y diwydiant ffilm a theledu. Cafodd seremoni wobrwyo proffil uchel a dangosiadau cyntaf eu cynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym mis Tachwedd 2016, a chafodd yr holl gyfranogwyr, partneriaid a Dirprwy Faer CBSC eu gwahodd.


Theatr Ieuenctid Caerffili Yn ystod 2016 fe wnaethom redeg 3 grŵp o Theatr Ieuenctid Caerffili yng Nghoed Duon, Bedwas, a Threcelyn, a pharhaodd yr aelodaeth i gynyddu’n raddol. Bellach, mae tua 60 aelod yn mynychu sesiynau’n rheolaidd.

Roedd Theatr Ieuenctid Caerffili yn llwyddiannus yn ddiweddar yng ngŵyl theatr ieuenctid mawreddog y Theatr Genedlaethol, ‘Connections’. Bob blwyddyn mae’r Theatr Genedlaethol yn cynnig cyfle unigryw i theatrau ieuenctid a grwpiau theatr ysgol i gynnal 10 o ddramâu newydd a ysgrifennwyd ar gyfer pobl ifanc gan rhai o ddramodwyr mwyaf cyffrous y theatr, ac i berfformio mewn prif theatrau ar draws y DU. Dewisodd aelodau Theatr Ieuenctid Caerffili’r ddrama BLACKOUT gan Davey Anderson. Cafodd y cynhyrchiad ei berfformio’n lleol yn Sefydliad y Glowyr Coed Duon ym mis Mawrth, ac yna eto yn y lleoliad partner, Sherman Cymru ym mis Ebrill. Dewiswyd 10 cwmni ieuenctid yn y pen draw i berfformio yn y Theatr Genedlaethol yn Llundain, ac er bod Theatr Ieuenctid Caerffili o drwch blewyn o gael eu dewis ar gyfer rownd derfynol, daethant yn ail ar gyfer eu fersiwn o’r ddrama dan sylw. Rydym yn falch iawn o’r grŵp a lefel y sgiliau y maent wedi rhoi i mewn i’r sioe. Roedd y prosiect hefyd wedi darparu cyfleoedd ar gyfer dau arweinydd grŵp i fynychu penwythnos hyfforddiant yn Llundain, lle cawsant gyfarfod â’r dramodydd a chwmnïau eraill oedd yn gweithio ar yr un darn. Cafodd dau grŵp theatr ieuenctid iaith Gymraeg eu treialu yn ystod y flwyddyn, Theatr Ieuenctid a Theatr i Blant, ac oherwydd eu llwyddiant rydym yn bwriadu sefydlu’r grwpiau hyn fel sesiynau rheolaidd yn 2017.

15 Trosolwg o Weithgarwch Datblygu’r Celfyddydau

Datblygu’r Celfyddydau

Yn ddiweddar daeth y tri grŵp at ei gilydd i berfformio eu cynhyrchiad raddfa fawr flynyddol yn Sefydliad y Glowyr Coed Duon; eleni hyn oedd drama gerddorol boblogaidd ‘GREASE’. Hwn oedd y sioe o’r ansawdd uchaf a mwyaf llwyddiannus erioed ac fe werthom fwy o docynnau nag unrhyw flwyddyn flaenorol. Yn ogystal â pherfformio yn y sioe, fe wnaethom hefyd roi’r cyfle i’r bobl ifanc i weithio tu cefn y llwyfan ac ar y set, celfi a ffitiadau, gwisgoedd, dylunio ac adeiladu. Rydym hefyd wedi rhoi profiad gwaith i ddau o raddedigion diweddar a oedd yn awyddus i ennill sgiliau mewn gwaith theatr.


Mae drama yn gyfrwng creadigol ble rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau ac wedi gwella fy hyder.

Oherwydd ansawdd a nifer o awduron sy’n rhan o’r sgwadiau ‘sgwennu, gwahoddodd Opera Cenedlaethol Cymru aelodau i gymryd rhan mewn datblygu testun ar gyfer eu darn am y Rhyfel Byd Cyntaf IN PARENTHISIS. Cafodd eu testun ei drosi’n adnod a gafodd ei ganu yn ystod yr Opera. Yn ystod yr haf cynhaliwyd preswyliad arbennig ym Maenordy Llancaiach Fawr gyda’r bardd lleol ac awdur, Clare.e.potter. Yn ystod y flwyddyn bu’r sgwad hefyd yn gweithio gyda’r bardd perfformiad Rufus Mufasa a’r cyhoeddwr lleol Burst Publishing ar greu detholiad o farddoniaeth ar thema ffoaduriaid, er mwyn codi arian i Achub y Plant. Y Caws Mawr Roedd ein rhaglennu diwylliannol ar gyfer y Neuadd Fawr yn ystod y Caws Mawr yn cynnwys amrywiaeth o waith ansawdd, gan gynnwys corau a thelynorion, ac yn arddangos y gwaith eithriadol gan gerddorion sy’n rhan o’r prosiect Forté, gan dynnu cynulleidfaoedd mawr i mewn i’r neuadd.

16 Trosolwg o Weithgarwch Datblygu’r Celfyddydau

Datblygu’r Celfyddydau

Sgwadiau ‘Sgwennu’r Ifanc Yn 2016, dechreuwyd sgwad newydd gan Sgwadiau ‘Sgwennu Caerffili a oedd yn cynnwys disgyblion ym mlynyddoedd 5 a 6 ysgolion cynradd. Daw hyn â nifer yr awduron ifanc yn gweithio trwy gyfrwng y Saesneg i 44 a 12 drwy gyfrwng y Gymraeg - oll rhwng 9 ac 14 oed.


Gwersyll Cerddoriaeth Cynhaliwyd gwersyll cerddoriaeth wythnos o hyd ar gyfer pobl ifanc sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa mewn cerddoriaeth. Fe’i darparwyd gan y cerddor Dan Evans o’r band lleol ‘Peasants King’(artist BBC Horizons) a oedd wedi cynnig gweithdai mewn cyfansoddi cân, cerddoriaeth, perfformiad a recordio. Yn ogystal, roedd arbenigwyr y diwydiant yn bresennol i roi cyngor ymarferol ar sut i weithio yn y diwydiant cerddoriaeth. Roedd ystod ac ansawdd y gwaith a gynhyrchwyd gan y bobl ifanc yn ystod y gwersyll yn eithriadol.

Wrth gael arian ychwanegol oddi wrth Ymddiriedolaeth Rhys Davies rydym wedi gweithio gyda’r prosiect Arloesi yn Rhymni (prosiect Addysg Heblaw yn yr Ysgol) a datblygu llyfr graffig o’r enw ‘Bargoed Miracle’. Roedd hyn yn enghraifft wych o weithio’n galed i gyrraedd disgyblion trwy ysgrifennu a meddwl yn greadigol fel ffordd o feithrin hyder a llythrennedd. Cafodd y llyfr ei drawsnewid i fod yn berfformiad theatrig gan grŵp o bobl ifanc o Uwch Grŵp Drama Gymunedol Plant Sefydliad y Glowyr, ac fe’i cyflwynwyd yn ŵyl celfyddydau ieuenctid RawFfest yn Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd yn ystod mis Awst 2016. Roald Dahl a’r ‘Imaginary Menagerie’ Gan ddefnyddio technolegau newydd realiti estynedig fe wnaethom weithio mewn partneriaeth â CADW a Pharc Lansbury a datblygu darn gwaith celf rhyngweithiol a chreu delweddau a storïau ar gyfer blwyddyn Roald Dahl. Cawsom gyllid canmlwyddiant Roald Dahl i weithio gydag awdur, artist a dylunydd graffig i edrych ar anifeiliaid chwedlonol a delweddau yng Nghastell Coch a Chastell Caerdydd fel ysbrydoliaeth. Defnyddiwyd y rhain i greu straeon ein hunain am greaduriaid newydd, a gawsant eu perfformio a’u harddangos yng Nghastell Caerffili fel efallai oedd bwriad yr Ardalydd Bute.

17 Trosolwg o Weithgarwch Datblygu’r Celfyddydau

Datblygu’r Celfyddydau

Llenyddiaeth Yn 2016 rydym wedi parhau i weithio mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru yn ceisio codi safonau llythrennedd a chael mwy o bobl yn ysgrifennu a darllen.


RHWYDWAITH CELFYDDYDAU AC ADDYSG DE DDWYRAIN CYMRU Mae’r Rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg yn elfen fawr o gyd-gynllun Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru ar gyfer Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau rhaglen 5 mlynedd i wella ystod ac ansawdd y celfyddydau mewn ysgolion.

Diben y rhwydwaith yw • Darparu rhaglen o ddatblygiad proffesiynol o ansawdd uchel ar gyfer athrawon, artistiaid, sefydliadau celfyddydol a diwylliannol. • Sefydlu a chydgysylltu cyfleoedd rhwydweithio ar gyfer athrawon, artistiaid a sefydliadau o’r sectorau celfyddydol, creadigol, diwylliannol a threftadaeth yn ddigidol ac wyneb yn wyneb ill dau • Cysylltu ysgolion gydag artistiaid a sefydliadau celfyddydol – yn gweithredu fel ‘brocer’ • Casglu gwybodaeth am y ‘cynnig’ rhanbarthol a rhoi cyhoeddusrwydd i enghreifftiau o arfer gorau • Darparu’r rhaglen Hyrwyddwyr y Celfyddydau Lleol

18 Rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg De Ddwyrain Cymru

Rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg

Enwebwyd Gwasanaeth Theatr a’r Celfyddydau Caerffili i redeg RHWYDWAITH DE-DDWYRAIN Cymru (sy’n cwmpasu Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Blaenau Gwent a Thorfaen).


Hyrwyddwyr y Celfyddydau Mae wyth o Hyrwyddwyr y Celfyddydau wedi’u recriwtio yn ystod y flwyddyn. Mae Hyrwyddwyr y Celfyddydau naill ai’n athrawon celfyddydau profiadol, neu’n ymarferwyr celfyddydau â hanes gref o gyflawni prosiectau addysgol, a byddant oll yn rhannu eu sgiliau, arbenigedd a brwdfrydedd gydag athrawon ac ysgolion eraill, ac yn ymgymryd â rôl eiriolwyr celfyddydau cyhoeddus mewn addysg. Mae ein wyth hyrwyddwr celfyddydau wedi gorfod rhoi cyflwyniadau am yr arferion a’r prosiectau maent wedi’u hwyluso, rhannu enghreifftiau o arfer gorau, ac wedi cael eu defnyddio fel mentoriaid a hwyluswyr o ran hyfforddiant. Datblygiad Proffesiynol a Hyfforddiant Parhaus Mae gan y Rhwydwaith bwyslais gref ar ddatblygiad proffesiynol, a dysgu. Mae’n ofynnol i’r rhwydwaith hwyluso rhaglen o hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar y celfyddydau i athrawon ac ysgolion. Yn dilyn lansiad y rhwydwaith, cynigiwyd tri gweithdy i athrawon yn y rhanbarth, gan gynnwys ‘Gweithdy - Beth Ddylech Wybod os ydych yn Artist sydd â Diddordeb mewn gweithio mewn Ysgolion’ a ‘Sut i Dynnu Lluniau o Gelf a Gwrthrychau’.

19 Rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg De Ddwyrain Cymru

Rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg

Lansiad y Rhwydwaith Ar y 28ain o fis Medi 2016, lansiwyd rhwydwaith yng Nghanolfan Celfyddydau Glan yr Afon. Daeth 67 o athrawon, artistiaid a chynrychiolwyr o sefydliadau celfyddydol i’r digwyddiad. Cawsom sgyrsiau gan gydgysylltydd y rhwydwaith am gynnig y rhwydwaith, 5 siaradwr yn trafod prosiectau celf mewn ysgolion, 3 arddangoswyr gwneud, 2 berfformiad theatrig a pherfformiadau canu gan 3 o blant o Ysgol Lewis Pengam.


CELF AR Y BLAEN Mae Celf ar y Blaen yn sefydliad celfyddydau cymunedol a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac yn cael ei gweithredu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin, Cyngor Bwrdeistref Sirol / Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Mini Movers / Generation Movers Mae Celf ar y Blaen wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chymunedau yn Gyntaf a’r ymarferydd dawns Gina Roberts i gyflwyno cerddoriaeth greadigol a sesiynau symud ym mhentrefi Tir-y-berth, Trinant ac Ynys-ddu ar gyfer rhieni ifanc a’u plant cyn-oedran ysgol. Eleni, ymestynnwyd gwahoddiad gan chwe sesiwn i aelodau hŷn y gymuned iddynt ymuno â hwy yn yr hwyl, fel rhan o Ŵyl y Gwanwyn Age Cymru, sy’n dathlu creadigrwydd ymysg pobl hŷn.

20 Celf ar y Blaen

Celf ar y Blaen

Arty Parky Digwyddodd y trydydd ‘Arty Parky’ yn ystod gwyliau hanner tymor Hydref ym Mharc Morgan Jones, Caerffili, gan ddenu 101 o bobl o bob oed i weithio ochr yn ochr â’r arlunydd amgylcheddol Kate Raggett. Mae’r digwyddiad blynyddol poblogaidd ‘Head4Arts’ yn defnyddio deunyddiau naturiol a gasglwyd yn y Parc i wneud gwaith celf enfawr, gan gyfuno cyfle creadigol gyda gweithgarwch corfforol ar gyfer y teulu cyfan.


Diwrnod Chwarae Cenedlaethol 2016 Defnyddiodd Celf ar y Blaen y digwyddiad eleni ym Mharc Morgan Jones, Caerffili fel cyfle i ddathlu canmlwyddiant Roald Dahl, wrth i 300 o blant weithio gyda’r arlunydd Cindy Ward i greu ‘Utgyrn Whizzpop’ eu hunain wedi’u hysbrydoli gan ‘The BFG’.

Canu dros Iechyd Cydnabyddir bod cyfranogiad mewn côr cymunedol yn ffordd wych o gefnogi lles a lleihau teimladau o unigrwydd. Mae Celf ar y Blaen yn parhau i weithio ochr yn ochr â phartneriaid Cymunedau yn Gyntaf yn darparu cyfleoedd côr rheolaidd yng Nghanolfan y Rhosyn Gwyn, Tredegar Newydd ac ym Margod, gan ganolbwyntio ar wella iechyd y meddwl. ‘Pwy oeddwn i?’ Galluogodd Celf ar y Blaen i gymryd disgyblion o Ysgol Cwm Rhymni a grwpiau o ddau Rwydwaith Rhieni i Archifau Morgannwg er mwyn archwilio deunydd cyfoes ochr yn ochr â’r awdur Phil Carradice, dan brosiect thema Rhyfel Byd Cyntaf a gefnogir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Roedd hyn wedi ysbrydoli rhagor o weithgareddau celfyddydau, gan arwain at arddangosfa o ysgrifennu creadigol, monologau wedi’u ffilmio ac eitemau crefft yn ymwneud â bywyd yn ystod yr amser y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd 11 o bobl ifanc wedi cyflawni lefel Gwobr Archwilio Celfyddydau ac mae’r prosiect wedi helpu datblygu cynnwys a fydd yn ffurfio sail drama gymunedol i gael ei llwyfannu yn 2017.

21 Celf ar y Blaen

Celf ar y Blaen

‘Spinning Yarns, Weaving Communities’: Fochriw Ym mis Gorffennaf cychwynnodd Rhwydwaith Rhieni Caerffili prosiect iechyd a lles yn Fochriw, wedi’i reoli gan Celf ar y Blaen a’i gefnogi gan Loteri’r Bobl. Mae hyn yn cynnwys preswyliad 18 mis gyda’r arlunydd Tracey Moberly lle mae dweud storïau, ysgrifennu creadigol a chrefft tecstilau yn cael eu defnyddio fel catalydd ar gyfer datblygu cymunedol.


Credyd Chris Walters

Yr Iaith Gymraeg a Diwylliant Cymreig Roedd gweithgareddau crefft dwyieithog teulu-gyfeillgar ar gael gan Celf ar y Blaen yn nigwyddiad Ffiliffest eleni mewn partneriaeth â Menter Iaith Caerffili, yn ogystal â’r cyfle i greu “Calennig” traddodiadol yn eu Ffair Nadolig. Mae Llancaiach Fawr hefyd yn darparu lleoliad ar gyfer sesiynau cerddoriaeth draddodiadol Gymreig misol rheolaidd gyda’r Clwb Alawon bellach yn ei drydedd flwyddyn (3ydd Sadwrn y mis).

Cefnogi Dysgu Teuluol Lansiwyd sawl llyfr storïau newydd yn 2016 a ddatblygwyd gan Rhwydwaith Rhieni Caerffili / Petra Publications yn gweithio mewn partneriaeth gyda Tîm Datblygu’r Celfyddydau a Celf ar y Blaen. Mae’r prosiect hwn, sy’n cefnogi rhieni i greu straeon eu hunain a’u defnyddio i hybu dysgu llythrennedd ochr yn ochr â’u plant wedi mynd o nerth i nerth ac nawr yn cael ei ddefnyddio fel model ar gyfer prosiectau ar draws De Cymru.

22 Celf ar y Blaen

Celf ar y Blaen

Gŵyl Ddysgu Oedolion Caerffili Roedd Gŵyl Dysgu Oedolion eleni yn galluogi Celf ar y Blaen i gymryd tri artist i leoliadau cymunedol ledled y Sir er mwyn annog pobl i roi cynnig ar arlunio a gwneud ffelt.


EDRYCH YMLAEN AT 2017 Diolch i gyllid oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru, byddwn yn cynnig rhaglen LLWYBRAU CREADIGOL gydol y flwyddyn o ddosbarthiadau meistr yn y Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau Gweledol, Ffilm a’r Cyfryngau Digidol a Llenyddiaeth. Bydd y rhain yn ystod gwyliau academaidd ac yn targedu disgyblion oed uwchradd. Bydd y sesiynau yn adeiladu ar y gwaith a wneir gyda grwpiau ArtSpark y llynedd yn ogystal â gwahodd artistiaid ifanc eraill ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili i gymryd rhan. BYDD EIN CYD-GYNHYRCHIAD GYDA THEATRAU RHONDDA CYNON TAF A MARK WILLIAMS JASON AND THE ARGONAUTS, yn cychwyn ym mis Ebrill 2017, ac yn mynd ar daith i 11 lleoliad ledled Cymru. Byddwn yn parhau i gyd-gynhyrchu gyda Black RAT Productions a pharhau i gefnogi artistiaid a chwmnïau lleol i greu gwaith newydd. Byddwn yn parhau i gefnogi GŴYL FFILM DDOGFENNOL RYNGWLADOL CYMRU wrth iddynt baratoi i dyfu’r ŵyl ffilm ddogfen am yr ail flwyddyn, yn rhedeg o’r 5ed i’r 7fed Ebrill 2017, ac yn rhoi Coed Duon ar y map gan ddenu mynychwyr a chyfranogwyr rhyngwladol. Bydd Sefydliad y Glowyr Coed Duon yn datblygu GWEFAN DDWYIEITHOG newydd ac uwchraddio i system swyddfa docynnau newydd gwell.

23 Edrych ymlaen at 2017

2017

Bydd y RHWYDWAITH CELFYDDYDAU AC ADDYSG DE DDWYRAIN CYMRU yn lansio’i gwefan llawn gwybodaeth, adnoddau creadigol a phecynnau cymorth i gynorthwyo gwell darpariaeth o’r celfyddydau mewn ysgolion. Bydd hefyd yn lansio nifer o gynlluniau cyllido ar gyfer athrawon ac artistiaid sy’n gweithio neu’n byw yn rhanbarth De-ddwyrain Cymru, gan gynnwys cronfa cyfarfod Athrawon Artistiaid, cronfa sbarduno arloesedd a chronfa ymweld aelodau’r rhwydwaith.


AC YN OLAF... Hoffwn ddiolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Celfyddydau Cymru, oherwydd ni fyddai’n gwaith yn bosibl heb eu cefnogaeth ariannol. Hoffwn hefyd ddiolch i’n partneriaid, cynulleidfaoedd, cyfranogwyr ac yn fwyaf oll ein staff, am eu hymroddiad a’u cefnogaeth barhaus. Bant â ni am flwyddyn gyffrous a chreadigol arall yn 2017! Gwasanaeth Celfyddydau a Theatr Caerffili Sefydliad y Glowyr Coed Duon Y Stryd Fawr, Coed Duon, NP12 1BB 01495 227206 www.sefydliadyglowyrcoedduon.com sefydliadyglowyrcoedduon@caerffili.gov.uk | datblygucelfyddydau@caerffili.gov.uk

A greener place to live, work and visit Man gwyrddach i fyw, gweithio ac ymweld

Roedd ein partneriaid yn 2016 yn cynnwys… Creu Cymru Clymu Celf Black RAT Productions Leeway Productions Gwasanaethau Diwylliannol Rhondda Cynon Taf It’s My Shout Rubicon Motherlode Gŵyl Ffilm Ddogfennol Ryngwladol Cymru Y Gymdeithas Alzheimer Canolfan Mileniwm Cymru Kids in Museums CISWO Llenyddiaeth Cymru Cwmni Gary Clarke Burn the Curtain Cyngor Celfyddydau Cymru Chickenshed Celf ar y Blaen CADW Gwasanaethau Oedolion Caerffili Rhwydwaith Rhieni Caerffili Inside Out Cymru EAS The Kickplate Project Menter Iaith Caerffili Cwm a Mynydd Caerffili


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.