Cylchlythyr ‘Newyddion Oddi Wrth’ Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Mawrth 2024

Page 1

Newyddion Oddi Wrth

Rhagymadrodd

Croeso cynnes iawn i rifyn cyntaf Newyddion Oddi Wrth

Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn 2024.

Bydd hwn yn gylchlythyr bob deufis, yn rhannu newyddion, diweddariadau a digwyddiadau o bob cwr o’r Rhanbarth â chydweithwyr ledled ein 10 Cyngor.

Mae yna lawer i adrodd amdano, yn dechrau gyda diweddariadau am statws Cyd-bwyllgor Corfforaethol sydd ar fin ymddangos gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, a eglurir isod.

Gyda’r statws newydd hwn, byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein Rhanbarth, gan wella ansawdd bywyd i’r bobl sy’n byw yma. Golyga cyfrifoldebau newydd am drafnidiaeth a thai y byddwn yn gallu cynllunio ar gyfer dyfodol y Rhanbarth; er enghraifft, ystyried lle mae ar bobl angen cartrefi a gwell cysylltiadau trafnidiaeth.

Parhawn wedi’n hymrwymo i weithio gyda’n partneriaid yn y Cyngor, a chyda Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig, i gyflawni’n cynlluniau strategol.

Gan weithio gyda chi, fy nghydweithwyr yng Nghabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’n cydweithwyr yn y Cyngor, edrychaf ymlaen at wireddu’r cyfle hwn i ddod â ffyniant cyffredin i breswylwyr ein Rhanbarth.

Rwyf yn falch o fod yn rhan o’r stori esblygol hon, yn helpu’n Rhanbarth i gyrraedd ei botensial fel lle unigryw a boddhaus i fyw, i weithio ac i’w fwynhau.

Un nodyn olaf: rhannwch y rhifyn hwn ymhell ac agos, os gwelwch yn dda, fel bod ein holl aelodau’n deall y gwaith y mae PrifddinasRanbarth Caerdydd yn ei wneud i ddod â budd i’n preswylwyr, ein cymunedau a’n busnesau.

Dymuniadau mwyaf twymgalon,

Y Cynghorydd

Anthony Hunt

Arweinydd Cyngor Bwrdeistref

Sirol Torfaen a Chadeirydd

Cabinet Rhanbarthol PrifddinasRanbarth Caerdydd

Cardiff Capital Region Newsletter Autumn to Winter 2023/24
Eich diweddaru’n rheolaidd gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd
Yr Hydref i’r Gaeaf 2023/24

Diweddariadau Allweddol

Dod yn Gyd-bwyllgor Corfforaethol

Gyda’r gwanwyn yn hwylio i gyrraedd, rydym ar fin dechrau ar bennod newydd gyffrous yn ein hesblygiad. Fel y gallwch fod yn ymwybodol, o’r 1af o Ebrill, 2024, down yn Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru.

Bydd ein corff corfforaethol newydd yn dal i gael ei adnabod fel Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a dyna sut y byddwn yn dal i gael ein hadnabod mewn sgyrsiau beunyddiol, gan sicrhau ein bod yn datblygu ar y gwaith cydweithredol a’r enw da sydd eisoes ar waith, ond Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru fydd ein henw cyfreithiol. Buom yn cydweithredu’n llwyddiannus fel partneriaeth o ddeg o gynghorau er 2017, gan ddarparu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae ein buddsoddiad eisoes wedi creu 3,474 o swyddi newydd ledled ein Rhanbarth; rydym wedi cynorthwyo dros 200 o fusnesau ac wedi buddsoddi miliynau o bunnau yn ein system drafnidiaeth Metro.

Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn pethau sy’n gwella ansawdd bywyd ein preswylwyr – swyddi, trafnidiaeth, cartrefi a chymunedau. Ond golyga cyfrifoldebau newydd am drafnidiaeth a thai y cawn y cyfle i wneud mwy.

Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau

Brycheiniog yn ymuno â ni fel aelod sydd â phleidlais o’r pwyllgor ar faterion cynllunio strategol, a byddwn yn gweithio gyda’n cynghorau a chyda’r awdurdod parc cenedlaethol i flaengynllunio ar gyfer dyfodol y Rhanbarth, gan ystyried lle y bydd ar bobl angen cartrefi a gwell cysylltiadau trafnidiaeth.

Bydd yna broses gadarn a thryloyw o lunio penderfyniadau a wneir yn gyhoeddus gan aelodau a etholir yn ddemocrataidd.

Byddwn yn parhau i weithio’n gydweithredol gyda’n partneriaid yn Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i wella bywydau’n 1.5 miliwn o breswylwyr yn ein Rhanbarth.

Caiff Cyd-bwyllgorau Corfforaethol eu gweithredu ledled y pedwar rhanbarth yng Nghymru, ar ôl Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Byddant yn darparu fframwaith ar gyfer mwy o gydweithredu rhwng cynghorau, gan arwain at ffordd fwy cyson, wedi’i symleiddio ac wedi’i rheoli’n ddemocrataidd o weithio rhanbarthol.

Tom Davies | @tomaesh | tomaesh.co.uk Cardiff Capital Region Newsletter Autumn to Winter 2023/24

Newyddion Buddsoddi…

Bydd camerâu ar waith yn Stiwdios Seren Studios, gyda £12 miliwn o gyllid o’n Cronfa Adeiladau Strategol.

A hwythau’n cael eu rhagweld i ddod yn un o brif ganolfannau Ewrop ar gyfer cynhyrchu Ffilmiau a Theledu, daw Stiwdios Seren Great Point yng Nghaerdydd â budd o’r chwistrelliad hwn o arian..

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn buddsoddi £9.7 miliwn i gwblhau Gwesty Tŷ Casnewydd

Bydd y gwesty’n ffurfio rhan o gochl ehangach Gwesty Hamdden y Celtic Manor, y busnes a sefydlwyd gan yr entrepreneur a anwyd yng Nghymru, Syr Terry Matthews, a sefydlodd dros 100 o fusnesau technoleg llwyddiannus, yn cynnwys Mitel a Rhwydweithiau Trecelyn.

Dewiswyd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fel

Parth Buddsoddi gan Lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru

Yn ôl ym mis Tachwedd ‘llynedd, derbyniodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd newyddion cyffrous bod y Rhanbarth wedi’i ddewis fel derbynnydd cyllid gwerth £160 miliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru.

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn arwain y gwaith o ddatblygu cynigiad Parth Buddsoddi De-ddwyrain Cymru ochr yn ochr â Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill fel rhan o broses borth gydweithredol. Mae hon yn broses bum cam fydd yn cynnwys argymhellion a seilir ar dystiolaeth i:

Nodi’r sectorau a’r clystyrau ffocws.

Darparu dadansoddiad o’r lleoliadau a ddymunir ar gyfer ffocws y buddion ariannol.

Datblygu cynigion ar gyfer dyrannu gwariant hyblyg y cyfalaf a’r refeniw.

Creu amcanion ar gyfer twf economaidd a denu mewnfuddsoddiad preifat.

Datblygu trefniadau ar gyfer goruchwylio datblygu a darparu’r parth buddsoddi.

Rhagwelir y bydd y broses borth yn cymryd chwe mis i’w chwblhau, a disgwylir y bydd cyflenwi yn dechrau cyn diwedd 2024.

Cardiff Capital Region Newsletter Autumn to Winter 2023/24
DARLLENWCH EIN DATGANIAD I’R WASG › DARLLENWCH EIN DATGANIAD I’R WASG
DARLLENWCH EIN DATGANIAD I’R WASG

Mae Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesi yn cyhoeddi buddsoddiad yn Mazuma

Mae’r cyhoeddiad godidog hwn i Ben-y-bont ar Ogwr yn gweld Mazuma, un o’r prif ddarparwyr gwasanaethau cyfrifyddiaeth ar gyfer microfusnesau yn y Deyrnas Unedig, yn derbyn buddsoddiad gwerth miliynau lawer o bunnau i helaethu’i fusnes. A hwythau wedi’u sefydlu gan Lucy Cohen a Sophie Hughes yn 2006, mae Mazuma yn gwahaniaethu’u busnes drwy fodel tanysgrifio sy’n caniatáu i danysgrifwyr ddewis o ystod o becynnau cyfrifyddiaeth a brisiwyd yn gystadleuol ac elwa o’u technoleg berchnogol drwy MazApp®.

Digwyddiadau

Ysgogi’n Rhanbarthol Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Tachwedd a Digwyddiad Torfaen sydd ar y gweill

Cynhaliodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd eu hail sioe deithiol frecwast, ‘Ysgogi’n Rhanbarthol’, ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Tachwedd. Roedd siaradwyr yn cynnwys Kellie Beirne, Prif Swyddog Gweithredol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd; Joanna Pontin o Fortium Technologies; Phil Sampson o PwC; a George Richards of CBRE.

Clywodd dros 100 o fynychwyr gan gwmnïau llwyddiannus oedd wedi sicrhau cyllid gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r effaith a gafodd y cyllid hwnnw ar eu busnesau dros frecwast gwaith yng Ngwesty Coed-Y-Mwstwr.

Ar ôl y llwyddiant ac adborth calonogol o’r ddau ddigwyddiad cyntaf, mae’r trydydd Ysgogi’n Rhanbarthol yn digwydd yng Ngwesty’r Parkway yng Nghwmbran ddydd Mawrth, yr 16eg o Ebrill, 2024.

Cynhaliodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Ddigwyddiad Wythnos Cymru Llundain proffil uchel

Cynhaliodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd dderbyniad buddsoddi yn Nhŷ’r Arglwyddi ym mis Chwefror. Gan hyrwyddo cyfleoedd buddsoddi yn ein Rhanbarth, denodd y digwyddiad dros 90 o fynychwyr, yn cynnwys buddsoddwyr a datblygwyr. Gan gael ei lywyddu gan y Farwnes Wilcox o Gasnewydd, gwnaeth Cyfarwyddwr Prifdinas-Ranbarth Caerdydd, Kellie Beirne, hwyluso trafodaethau rhwng panel o arbenigwyr oedd yn cynnwys Gweinidog Swyddfa Cymru, Fay Jones, AS; Lucy Cohen o Mazuma, a dderbyniodd gyllid cyfalaf yn ddiweddar gan Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i helpu i hybu’i weithgareddau; Michael Magee, Partner yn PwC; a George Richards, uwch-gyfarwyddwr yn CBRE. Mae sgyrsiau’n parhau â’r buddsoddwyr hyn am gyd-fuddsoddiadau dichonol yn y Rhanbarth.

Cardiff Capital Region Newsletter Autumn to Winter 2023/24
CANFYDDWCH FWY O WYBODAETH
DARLLENWCH EIN DATGANIAD I’R WASG ›

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn Arddangos eu Cyfleoedd Buddsoddi gwerth £15 biliwn yn MIPIM 2024

Ac yntau’n cael ei gynnal yn Cannes bob blwyddyn ym mis Mawrth, MIPIM yw prif ddigwyddiad eiddo tirol y byd sy’n tynnu ynghyd yr enwau mwyaf dylanwadol o bob sector o’r sector eiddo rhyngwladol. Gan weithio’n agos gyda rhanddeiliaid allweddol i godi amlygrwydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd hyd yn oed yn rhagor ar gyfer MIPIM 2024, bydd cynigiad buddsoddi cryf Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cael ei hyrwyddo i gynulleidfa fyd-eang. Mynychodd dros 20,000 o ymwelwyr MIPIM y digwyddiad dros bedwar diwrnod, gan fynychu’r gynhadledd a digwyddiadau eraill a theithio i’r cannoedd o arddangosfeydd, yn cynnwys Dinas-Ranbarthau Prydeinig mawrion megis Manceinion, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Llundain a Belfast, ymysg eraill.

Mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd bafiliwn yn agored i’r ymwelwyr hyn, pafiliwn a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ac a fydd yn cynnal trafodaethau panel ac yn llywyddu areithiau gan arweinwyr a swyddogion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac arbenigwyr eiddo a buddsoddi o’r sector preifat. Bydd tîm Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn hyrwyddo’r £15 biliwn cyfredol o gyfleoedd buddsoddi ledled y Rhanbarth, yn cynnwys safleoedd unigol penodol, y caiff llawer ohonynt eu cynnwys ym mhrosbectws buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

GWELER WWW.CCRMIPIM.WALES

Rhaglenni

Lansiwyd Rhaglen Twf Datblygu Clystyrau gwerth

£6.6 miliwn ym mis Rhagfyr 2023

Bydd y Rhaglen, a gyllidir ar y cyd gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chronfa Ffyniant Cyffredin y DU, yn darparu prosiectau wedi’u targedu ledled y rhanbarth, gan gynorthwyo gweithgareddau o fewn sectorau blaenoriaethol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: Technoleg Ariannol, Technoleg Feddygol, Seiberddiogelwch, Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, a Diwydiannau Creadigol, ynghyd ag uchelgais Sero Net Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

DARLLENWCH EIN DATGANIAD I’R WASG ›

Rhaglen Twf Busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i gynorthwyo 75 o fusnesau ledled y Rhanbarth

Mae drysau’n agored i fusnesau ledled y deg cyngor sydd eisiau helaethu a derbyn cymorth wedi’i dargedu. Gwnaeth dros 160 o fusnesau gais eisoes i’r rhaglen hon a ariannir ar y cyd gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chronfa Ffyniant Cyffredin y DU, gyda’r garfan gyntaf o 25 i’w cyhoeddi yn o fuan.

Caiff cyfranogwyr brofiad o weithdy hyfforddi trochi deuddydd gydag arbenigwyr clodwiw o Grant Thornton, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Business in Focus yn cwmpasu cynllunio strategol, meistroli gwerthiant, rheoli doniau, effeithlonrwydd gweithredol, a chraffter ariannol.

Rhannwch hyn â’ch cysylltiadau busnes lleol, gan fod yna hefyd gyfle am lwybr carlam ychwanegol. Caiff y 12 cyfranogwr uchaf yn y garfan gychwynnol eu dewis i ymuno â Sbardunwr Twf Busnesau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan dderbyn cymorth sydd hyd yn oed yn fwy dwys a phenodedig.

DARLLENWCH EIN DATGANIAD I’R WASG ›

AM FWY O FANYLION ›
Cardiff Capital Region Newsletter Autumn to Winter 2023/24

Diweddariad am Orsaf Bŵer Aberddawan

Roedd Aberddawan yn Orsaf Bŵer a redwyd ar lo ac oedd wedi’i datgomisiynu ym Mro Morgannwg. Ar ôl prynu’r safle, sefydlodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gwmni, sef CCR Energy Ltd, i adfer a chyflawni’r uwchgynllun i ailddatblygu’r safle 500 erw. Rhanddeiliaid CCR Energy yw’r deg Awdurdod Lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Wrth graidd y prosiect y mae gweledigaeth a chynllun strategol i greu ynni gwyrdd a glân cynaliadwy am ddegawdau i ddod, ysgogi swyddi newydd a llewyrch i’r rhanbarth, yn ogystal â gwneud cyfraniad sylweddol tuag at dargedau sero net 2050 Llywodraethau’r DU a Chymru.

Wrth inni ddynesu at wanwyn 2024, bydd cynlluniau ar gyfer dymchwel yr hen Orsaf Bŵer yn ddiogel yn dechrau. Trosglwyddwyd y safle i gontractwr dymchwel CCR Energy, sef Erith, sydd â phrofiad enfawr mewn hen safleoedd diwydiannol graddfa fawr. Ers canol Chwefror, maent wedi bod yn paratoi’r safle ar gyfer gwaith dymchwel fydd yn dechrau yn nwyrain y safle, gan fynd rhagddo i strwythurau’r prif adeilad o amgylch neuadd y tyrbin.

Croesawodd y safle lawer o westeion, yn cynnwys gweinidogion, aelodau gwleidyddol lleol, prifysgolion, buddsoddwyr, a chwmnïau twf â buddiant. Mae rhai aelodau o dîm CCR Energy yn MIPIM eleni i hyrwyddo’r safle a’r cyfleoedd buddsoddi y mae’n eu cynnig.

Mae gwefan newydd ar gyfer Aberddawan ar ddod. Yn y cyfamser, a fyddech cystal â ‘like’ a dilyn y Tîm ar Linkedin @CCR Energy

Ymwelodd Fay Jones, AS, ag Aberddawan ym mis Ionawr i weld Uwchgynllun un o brosiectau mwyaf uchelgeisiol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (y gwelir ei llun uchod).

CANFYDDWCH FWY O WYBODAETH ›

Digwyddiadau’r Dyfodol

Dydd Iau, yr 11eg o Ebrill

Menter y Cymoedd Gogleddol

Mae Menter y Cymoedd Gogleddol yn rhaglen gwerth £50 miliwn yn seiliedig ar fuddion sy’n canolbwyntio ar ddarparu prosiectau allweddol sydd â’r gallu i gynorthwyo cynnydd mewn ffyniant ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, a Thorfaen.

Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar sectorau seilwaith, cysylltedd digidol a thwristiaeth, gan gyflawni ystod eang o ddeilliannau, yn cynnwys swyddi, adfywio ecolegol a datgarboneiddio.

Dydd Mercher, yr 17eg - Corfforaethol

Digwyddiad Busnes Gweithredu Sero Net SEWBCC

Bydd digwyddiad nesaf yn y cnawd y Glymblaid yn Gorfforaethol, yn cynnwys diweddariadau gan Lywodraeth Gorfforaethol ynglŷn â chynlluniau i gynorthwyo corfforaethol â’r nod o ddatgarboneiddio, yn ogystal â sgyrsiau am gyflawni statws Corfforaeth B, datblygu sgiliau gwyrdd, a chyllid i gyflawni amcanion sero. Rhannwch hyn â’ch rhwydweithiau busnes, os gwelwch yn dda.

Am ragor o wybodaeth neu i gysylltu â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, anfonwch e-bost at ein Tîm Marchnata a Chyfathrebu drwy info@cardiffcapitalregion.wales

› Cardiff Capital Region Newsletter Autumn to Winter 2023/24
COFRESTRWCH I FYNYCHU YMA

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.