Menter y Cymoedd Gogleddol
Rhoddir cyllid a chronfeydd arian
i gynorthwyo prosiectau galluogi
yn Ardal y Cymoedd Gogleddol yn
Ne-ddwyrain Cymru
Beth yw Menter y Cymoedd Gogleddol?
A hithau wedi’i lansio ym mis Ebrill, 2024, mae gan Fenter y Cymoedd Gogleddol £50 miliwn ar gael i gynorthwyo busnesau yn Ne-ddwyrain Cymru.
Fe’i crëwyd gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan gael cymorth gan Dîm Cyflawni Awdurdodau Lleol o Flaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.
Mae’r Gronfa yn canolbwyntio ar gyflawni datblygiad mewn tri sector, sef Seilwaith, Cysylltedd Digidol a Thwristiaeth.
Roedd yr ‘ymagwedd raglennol’ gyntaf yn canolbwyntio ar ddarparu buddion sydd yn y pen draw â’r gallu i wella, Cystadleurwydd, Gwerth Ychwanegol Gros, Gwella
Bioamrywiaeth a Gostwng y Carbon sy’n gysylltiedig â’r prosiectau a gwblhawyd.
Caerdydd
Caer li Casnewydd
Thorfaen
Sir Fynwy
Bro Morgannwg
Pen-y-bont ar Ogwr
Rhondda Cynon Taf
Merthyr Tudful
Blaenau Gwent
Pam Buddsoddi yn y Cymoedd Gogleddol?
Mae’r Cymoedd Gogleddol yn cynrychioli elfen sylweddol o ôl troed daearyddol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac mae’n parhau’n flaenoriaeth i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd. Am y 25 mlynedd diwethaf, bu’r ardal yn fuddiolwr net sylweddol o gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd, gyda datblygiadau pwysig diweddar megis deuoli ffordd yr A465 a rhaglenni oedd yn bodoli’n flaenorol fel Cymoedd Technoleg a gwaddol cyflawniadau Tasglu’r Cymoedd.
Mae yna angen yn awr, yn fwy nag erioed, mewn tirwedd economaidd ar ôl COVID a Brexit ac ynghanol argyfyngau costau byw a chostau gwneud busnes, i bartneriaid cyflawni allweddol gydweithredu ar adnoddau i ddod â newid economaidd ystyrlon a chynaliadwy i ardal y Cymoedd Gogleddol / Blaenau’r Cymoedd.
Mae Menter y Cymoedd Gogleddol yn gyson â phedwar o Heriau Allweddol Cynllun Economaidd Rhanbarthol (2023-28) Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:
Mynd i’r afael â gwahaniaethau economaidd a hybu twf.
Gwella galluoedd a chynhwysedd arloesi.
Datgarboneiddio’n hamgylchedd erbyn 2050.
Gwella’n seilwaith ffisegol a digidol.
Grantiau a buddsoddiadau ar gyfer:
Seilwaith
Cysylltedd Digidol
Twristiaeth
£100,00£2 filiwn Rhaglen 5 Mlynedd
(Ebrill 2024 – Mawrth 2029)
Beth sy’n gwneud Prosiect Gwych?
Targedir grantiau a buddsoddiadau fel arfer i fod rhwng £100,000 - £2 filiwn
Mae busnesau o fewn ffin ddaearyddol o ffocws y fenter neu’n symud yno am y cyfnod hir
Cynigion posibl gan y sector cyhoeddus a’r sector preifat, ill dau, ac yn ddichonol y trydydd sector Creu swyddi
Mae’n rhaid iddo gynhyrchu deilliannau fydd yn darparu buddion y rhaglen i Ardal yr Awdurdod Lleol neu Ranbarth y Cymoedd Gogleddol
Canolbwyntio ar
Seilwaith, Cysylltedd Digidol a Thwristiaeth
Amgylcheddol
Gostyngiad mewn allyriadau CO2
Cynnydd mewn Bioamrywiaeth
Cydymffurfio rheoliadol perthnasol
Defnydd dŵr
Rheoli gwastraff
—
Llygru a halogi
Dir, aer a dŵr
A yw’n creu mwy o le
Diwydiannol a Chyflogaeth? Gwell seilwaith digidol
Cynnydd mewn Gwerth
Ychwanegol Gros
Cynhyrchu ynni adnewyddadwy
A oes modd ailddefnyddio ac ôl-osod Safle/Adeilad?
A fydd yna ostyngiad mewn safleoedd diffaith?
Safleoedd agos at / hygyrch
i’r A465
Cadw a gwella bioamrywiaeth
Cynyddu ymwelwyr a gwariant yn rhanbarth y Cymoedd Gogleddol
Rheoli adnoddau naturiol
Cadwyn gyflenwi leol
Cymdeithasol
Cyfrifoldeb cymdeithasol
Cadwyn gyflenwi foesegol
—
Amrywiaeth gweithlu
Cyflogau teg
Amodau gweithwyr
Diogelu
Cyfraniad cymunedol
Llywodraethu
Amrywiaeth arweinyddiaeth
Mesurau gwrth-lwgrwobrwyo a llygredd
Cywirdeb a thryloywder
Trethi teg
Polisïau diogelu seiber
Proses Fuddsoddi 01 02 03 04 05 Dywedwch wrthym am eich prosiect Nawdd Awdurdod Lleol Adolygiad y Tîm Buddsoddi Diwydrwydd Allanol Gweithredu / Gwneud Grantiau
Eglureb o Brosiect Enghreifftiol
Mae yna gyfle i ddefnyddio tir presennol yr awdurdod lleol i adeiladu / alluogi cyflenwi lle diwydiannol:
» Cymorth i gynorthwyo i alluogi seilwaith (ffyrdd, is-orsafoedd, cysylltedd)
» Cymorth i adeiladu seilwaith gwyrdd (Gostwng carbon, gwelliant ecolegol)
» Ychwanegu Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan / Hyb
» Cefnogi adeiladu’r safle cyfan
» Cymorth i wella cysylltedd mewn canolfan arloesi fel y gall busnes a seilir mewn technoleg lwyddo
» Cymorth i ddarparu cysylltedd cyflymder uchel i ‘fannau gwan’, fel bod busnesau a chymunedau wedi’u cysylltu’n well ac fel y gallant gyfrannu tuag at yr economi
Cyfeiriadau E-bost
Menter y Cymoedd Gogleddol
NVI@cardiffcapitalregion.gov.uk & CymoeddyGogledd@cardiffcapitalregion.gov.uk