Gwasanaeth Datblygu Sgiliau - Canllaw Cyflogadwyedd

Page 1

CANLLAW CYFLOGADWYEDD • Awgrymiadau ar gyflogaeth y dyfodol • Ffyrdd i gyfathrebu eich priodoleddau • Sut i rwydweithio yn effeithlon

2.


CYFLOGADWYEDD: BETH YW’R FFWDAN I GYD? Mae’r ateb yn amlwg - ar ryw adeg, bydd y brifysgol a’r ffordd o fyw sy’n perthyn iddi yn dod i ben. Byddwch yn ymuno â’r byd gwaith mawr a pan fydd hynny’n digwydd, mae’n rhaid i chi fod yn barod a gallu cael y swydd gorau y gallwch. Mae’r canllaw hwn yn ceisio eich arfogi â nifer o wahanol ffyrdd y gallwch wella eich cyflogadwyedd. Mae’n cynnwys geiriau go iawn gan fyfyrwyr sydd wedi cydnabod pwysigrwydd mynegi eu sgiliau a phwysigrwydd cyflogadwyedd yn eu datblygiad personol a phroffesiynol. Adran 1: Pam mae’n bwysig? Adran 2: Sut i ddatblygu sgiliau allweddol Adran 3: Sôn am beth rydych wedi’i wneud Felly, beth yw cyflogadwyedd? Mae yna nifer o ddiffiniadau, ond dyma’r un fwyaf syml: “Y sgiliau a’r profiad iawn i sicrhau’r swydd rydych eisiau”. Pam mae’n bwysig? Mae yna honiadau diddorol iawn gan gyflogwyr graddedigion: • Mae un o bob tri o’r cwmnïoedd gorau yn ei chael hi’n anodd llenwi swyddi gwag graddedig. • Mae gormod o fyfyrwyr yn gadael y brifysgol heb y sgiliau cywir • Cyflogir mwy na un o bob tri graddedigion diweddar mewn swydd â sgil is o’i gymharu â un o bob pedwar yn 2001.

1.

“Nid yw gradd ar ben ei hun yn ddigon. Mae cyflogwyr yn chwilio am fwy na sgiliau technegol a gwybodaeth o ddisgyblaeth gradd. Maent yn gwerthfawrogi sgiliau megis cyfathrebu, gweithio mewn tîm a datrys problemau. Bydd ymgeiswyr swyddi sydd yn gallu dangos eu bod wedi datblygu’r sgiliau hyn â mantais go iawn.” Digby Jones - Cyn Gyfarwyddwr Cyffredinol Cydffederasiwn Diwydiant Prydain. Mae’r Sefydliad Siartredig Rheolaeth wedi mynd ymlaen i ddweud: “Dylai myfyrwyr arfogi eu hunain gyda’r sgiliau rheoli ac arweinyddiaeth cywir o oedran cynnar drwy gofrestru ar gyrsiau hyfforddi cymeradwy.” • Mae sgiliau cyflogadwyedd yn eich galluogi i drosglwyddo’r gwybodaeth rydych wedi’i ennill i’r gweithle. Sut i ddatblygu sgiliau allweddol Mae’r Gwasanaeth Datblygu Sgiliau yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys: • Arweinyddiaeth • Cyfathrebu • Datrys Problemau • Rheoli Amser • A llawer mwy... Ar ôl mynychu’r gweithdai hyn, sicrhewch eich bod yn cadw cofnod ohonynt, beth rydych wedi ddysgu a sgiliau allweddol rydych wedi’u ennill.


SUT I SÔN AM YR HYN RYDYCH WEDI’I WNEUD Sut i fynegi’r sgiliau rydych wedi’u ennill drwy weithgareddau allgyrsiol i’ch cyflogwyr MYFYRIO AR WEITHREDU Mae myfyrio ar weithredu yn golygu dad-friffio eich profiadau ar ôl y ffaith er mwyn deall ohonynt yn well. Mae rhai ystyriaethau nodweddiadol yn cynnwys: • Beth oedd fy mwriad? • Beth ddigwyddodd? • Beth wnes i’n dda? • Sut gallwn i wella’r tro nesaf? • Beth wnes i ei ddysgu o’r profiad hwn? Enghreifftiau: “Rwyf yn gyflwynydd llawer mwy hyderus ac mae fy ngallu i feddwl yn gyflym ac ymateb i sefyllfaoedd yn y fan a’r lle wedi gwella”.

digwyddiadau.” “Mae’r rôl wedi amlygu fy sgiliau arweinyddiaeth a rheoli allweddol gan fy mod wedi rheoli fy astudiaethau a materion myfyrwyr.” “Fe wnes i fynychu cynhadledd addysg Cymraeg a rhannu profiad ymarferol o bartneriaethau a sefydlu cynlluniau i adeiladau perthnasoedd.” MYFYRIO MEWN GWEITHREDU Gyda myfyrio mewn gweithredu, rydych yn gwerthuso eich perfformiad yn y foment er mwyn gwneud cywiriadau. Mae myfyrio ar y pryd yn eich helpu i addasu eich perfformiad neu steil i weddu’r sefyllfa yn well. Mae rhai ystyriaethau nodweddiadol yn cynnwys: • Beth dwi’n ei wneud yn dda? • Sut gallaf wella?

“Drwy fynd o amgylch neuaddau preswyl y brifysgol fe wnes i roi gwybod i fyfyrwyr sut i ymdrin â’r cyfnod o dai preifat yn eu bywydau.”

• Pa wahaniaeth rydw i’n sylwi yn fy hun? Edrychwch ar y dudalen nesaf am enghreifftiau

“Yn gweithio fel cynorthwyydd gwerthiant, rwyf wedi dysgu am brydlondeb, y gallu i ryngweithio â chwsmeriaid ac ymwneud â chyflogwyr mewn modd busnes moesegol.” “Mae’r rôl wedi caniatáu i mi ennill dealltwriaeth o’r ochr weinyddol a sut mae ysgol academaidd yn rhedeg, yn ogystal â chwarae rôl gweithgar yn trefnu

2.


Drwy fy rôl yn rhedeg cymdeithas rwyf wedi ennill sgiliau arweinyddiaeth, negodi, cyfathrebu, trefnu, rheoli amser a rheoli cyllid.

Fel aelod o’r Criw Croeso fe weithiais yn Wythnos y Glas i helpu llif o bobl drwy’r brifysgol, yn rhoi cyfarwyddiadau i fyfyrwyr newydd ac ateb cwestiynau ar fywyd prifysgol.

Fel goruchwyliwr mewn amgylchedd manwerthu mae gennyf y cyfrifoldeb ariannol a rhoi’r arian yn y banc ac rwyf yn gyswllt rhwng y tîm rheoli a’r staff.

Drwy fy rôl fel cynrychiolydd myfyrwyr rwyf wedi cyflwyno o flaen 410 o fyfyrwyr a chadeirio cyfarfod gyda myfyrwyr a darlithwyr

Fel cynrychiolydd myfyrwyr rwyf wedi ennill profiad yn cydlynu gweithgareddau myfyrwyr a chysylltu â nhw i glywed eu syniadau.

3.

SY’N GOLYGU

SY’N GOLYGU

SY’N GOLYGU

SY’N GOLYGU

SY’N GOLYGU

Rwyf bellach yn gallu trefnu digwyddiadau yn effeithlon ac yn gallu rheoli gwahanol mathau o brosiectau a chyflawni’r canlyniadau dymunol.

Rwyf bellach yn gallu cyfathrebu gydag amrywiaeth o bobl ac amlygu hyder mewn eraill.

Mae’n bosib ymddiried ynof gyda chyfrifoldebau pwysig a dwi’n gallu cymryd menter wrth ddelio gyda phryderon cyd-weithwyr.

Rwyf yn gallu ennyn sylw gwahanol grwpiau o bobl.

Rwyf yn gallu cyfosod yr hyn mae pobl eisiau i ganlyniadau pendant.


RHWYDWEITHIO Mae rhwydweithio wedi cael ei gyfeirio ato fel “y ffordd newydd o weithio” ac felly yn sgil hanfodol y dylai pawb ei feistroli. Cofiwch bod gan bawb yr un genhadaeth i rwydweithio a dyna pam mae grwpiau rhwydweithio wedi’u sefydlu. Eu prif ddiben yw eich helpu i gyfarfod cysylltiadau newydd i benderfynu os oes cysylltiad a dechrau adeiladu perthnasoedd. 1. PARATOI • Gosod Amcanion • Gwneud gwaith ymchwil • Gwisgo’n briodol • Ymarfer eich cyflwyniadau • Peidio â bod yn hwyr! 2. CYFLWYNWCH EICH HUN • Bod yn hyderus • Ystum corff cryf • Gofyn cwestiynau a gwrando 3. BOD YN GOFIADWY • Cardiau Busnes • Cadw mewn cysylltiad â phobl • Linked In 4. YDYCH CHI WEDI GWNEUD Y CANLYNOL? » Proffil LinkedIn: (Rydym yn cynnig gweithdy dosbarth meistr LinkedIn) » Cofrestru ar gyfer Siopswyddi » Gweithdai Gwasanaeth Datblygu Sgiliau

Gwasanaeth Gyrfaoedd

4.


CYNGOR PELLACH Prifysgol Caerdydd Careers@Caerdydd.ac.uk 029 2087 4844 Menter Prifysgol Caerdydd (Cefnogaeth ar Entrepreneuriaeth a Chreadigrwydd) Enterprise@Caerdydd.ac.uk 029 2087 1442 Gwirfoddoli Caerdydd Volunteering@Caerdydd.ac.uk 029 2078 1494 Gweithdai Gwasanaeth Datblygu Sgiliau (Cyrsiau a gweithdai) sds@Caerdydd.ac.uk 029 2087 4828 Sgiliau a Gwirfoddoli Cymru info@svcymru.org Siopswyddi Jobshop@Caerdydd.ac.uk 029 2078 1535/6

5.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.