Effaith addysg/llythrennedd y fam ar iechyd plant yn y byd datblygedig Addawodd llywodraeth y DU gael gwared â thlodi plant erbyn 2020. Yn y blynyddoedd diwethaf, roedd y cyfraddau tlodi plant yng Nghymru yn llai na’r cyfartaledd yn y DU; ond, mae ffigurau 2011 yn dangos bod y cynnydd gwreiddiol bellach wedi pallu (Achub y Plant, 2011). Mae Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2011 (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2011) yn canolbwyntio ar dri amcan strategol: i)
lleihau nifer y teuluoedd sy’n byw ar aelwydydd di-waith,
ii)
gwella sgiliau’r rhieni/cynhalwyr a’r bobl ifanc sy’n byw mewn cartrefi incwm isel er mwyn iddynt ddod o hyd i waith sy’n talu cyflog da,
iii)
lleihau’r anghydraddoldebau sy’n bodoli yng nghanlyniadau iechyd, addysg ac economaidd plant a theuluoedd trwy wella canlyniadau’r bobl dlotaf.
Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar y ddau amcan strategol olaf gan ei fod yn edrych ar bwysigrwydd addysg y fam o ran iechyd y plant ac ar ffyrdd lle byddai gwella addysg y fam yn cau’r bwlch sy’n bodoli rhwng iechyd y plant cyfoethocaf a’r rhai tlotaf. Yn yr adroddiad hwn, mae addysg y fam yn cael ei gysylltu â llythrennedd y fam gan fod lefelau darllen is yn debygol o fod yn arwydd o lefelau addysg is ac mae lefelau is o gyrhaeddiad addysgol a llythrennedd y fam yn effeithio’n anffafriol ar iechyd a lles y plentyn (Kutner et al, 2006). Mae addysg yn pennu statws economaidd-gymdeithasol, galwedigaeth a ffordd o fyw sydd, yn ei dro, yn dylanwadu ar incwm, tai ac adnoddau eraill materol (Feldman, 1989). Mae astudiaethau’n dangos bod statws economaidd-gymdeithasol yn dylanwadu ar iechyd plant ac mae’r berthynas hon yn dod yn fwyfwy amlwg wrth iddynt dyfu (Case et al, 2002). Mae plentyn o deulu economaidd-gymdeithasol isel bedair gwaith yn fwy tebygol o farw mewn damwain, dair gwaith yn fwy tebygol o gael afiechyd meddwl, ac mewn mwy o berygl o ddatblygu salwch cronig, heintiau anadlol a gastroenteritis (Palmer, 2005; Yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd, 2007). Os nad yw rhieni plentyn wedi gweithio erioed neu os ydynt wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir, maen nhw 13 gwaith yn fwy tebygol o farw o anaf anfwriadol a 37 gwaith yn fwy tebygol o farw o berygl tân (Yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd, 2007). Y teuluoedd mwyaf tebygol o gael statws economaidd-gymdeithasol is yw teuluoedd di-waith, lleiafrifoedd ethnig a mewnfudwyr, teuluoedd digartref a theulu lle mae’r fam heb gymwysterau (Yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd, 2007). Mae iechyd a lles plant yn dibynnu ar statws menywod (Racine et al, 2007). Mae data’n dangos fod gan 15% o’r mamau tlotaf broblemau llythrennedd a rhifedd sylfaenol ac amcangyfrifir y gall pob blwyddyn ychwanegol o addysg gynyddu incwm menywod rhwng 10 ac 20 y cant (Waldfogel a Washbrook, 2010; Filmer, 1999). Mae incwm ac The impact of maternal education/literacy on child health in the developed world produced by Alicia Regan
addysg (dau fesur o statws economaidd-gymdeithasol) yn effeithio’n uniongyrchol ar iechyd plentyn ac mae iechyd a chyrhaeddiad academaidd plant yn y blynyddoedd cynnar yn effeithio’n aruthrol ar iechyd a lles pobl gydol eu bywydau (Stevens 2006). Mae gwaith o’r byd datblygedig wedi dangos bod addysg y fam yn ffactor pwysig ar gyfer gwella goroesiad ac iechyd plant (Caldwell, 1979). Awgrymir bod mamau mwy addysgedig yn gwybod mwy am ofal iechyd a maeth, bod eu ffordd o fyw yn fwy iachus a’u bod yn darparu amgylchedd glanach a mwy diogel i’w plant. (Strauss a Thomas, 1998.) Mae mwy o waith ymchwil wedi dangos nad yw’r berthynas hon yn gyfyngedig i’r byd sy’n datblygu yn unig. Mae’n dangos bod addysg y fam yn cael effaith sylweddol ar iechyd a thlodi plant mewn gwledydd datblygedig hefyd. Diffinnir iechyd plant fel y graddau y gall plant ddatblygu a gwireddu eu potensial, diwallu eu hanghenion a datblygu’r cymwyseddau sy’n caniatáu iddynt ryngweithio’n llwyddiannus â’r amgylchedd biolegol, ffisegol a chymdeithasol (National Research Council and Institute of Medicine, 2004). Nodir yn erthygl 24 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fod gan blentyn yr hawl i fwynhau'r safon uchaf bosibl o iechyd ac i gael mynediad i gyfleusterau ar gyfer trin ac adfer iechyd. Mae hefyd yn nodi y dylai rhieni gael eu cefnogi gydag addysg a gwybodaeth am agweddau sylfaenol ar sicrhau iechyd da plentyn (UNCRC, 1990). Felly, mae angen i ddarparwyr gwasanaethau a phartïon gwladwriaethol sicrhau bod yna strwythurau perthnasol ar waith sy’n gwireddu’r hawliau hyn i blant a phobl ifanc. Mae Barrera (1990) yn darogan mai addysg y fam sy’n cael yr effaith fwyaf ar iechyd plentyn ymhlith plant 0-2 oed. Mae plant ifanc iawn yn arbennig o sensitif i ddewisiadau iechyd priodol ac ymddygiadau sy’n ymwneud ag iechyd (Barrera, 1990). Mae bwydo o’r fron yn bwysig iawn i’r baban bach. Mae’n bwysig o ran maeth a datblygiad, lleihau heintiau a chlefydau ac mae’n cael effaith gadarnhaol ar wybyddiaeth, geirfa a deallusrwydd (Stanley et al, 2007; Waldfogel a Washbrook, 2010). Mae yna lawer o fanteision hirdymor dros fwydo o’r fron (i’r plentyn tan y bydd yn oedolyn), fel lleihau’r perygl o ordewdra, asthma, diabetes math 1 a math 2, ac mae oedolion a gafodd eu bwydo o’r fron yn fwy tebygol o gael colesterol a phwysedd gwaed is, sy’n ffactorau risg pwysig ar gyfer clefyd y galon (Horta et al, 2007) . Mae bwydo o’r fron hefyd yn lleihau’r perygl o iselder ôl-enedigol a chanser y fron a’r ofari yn y fam (Stanley et al, 2007). Mae astudiaethau’n dangos bod statws economaidd-gymdeithasol is yn gysylltiedig â llai o famau’n bwydo ar y fron. Mae Skafida (2009) hefyd yn cydnabod pwysigrwydd lefelau addysg y fam ac wedi canfod bod cymwysterau addysg uwch yn gysylltiedig â mwy o famau’n bwydo ar y fron. Er y gall dosbarth cymdeithasol ddarogan cyfraddau’r mamau sy’n bwydo ar y fron, gallai addysg mamau fod yn fesur mwy defnyddiol o esbonio a deall y gwahaniaethau yn nifer y mamau sy’n bwydo ar y fron yn y grwpiau economaiddgymdeithasol isaf (Skafida, 2009). Er mwyn lleihau’r anghydraddoldeb iechyd hwn ar draws grwpiau
Effaith addysg/llythrennedd y fam ar iechyd plant yn y byd datblygedig gan Alicia Regan
economaidd-gymdeithasol, rhaid i’r wladwriaeth wneud ymyriadau uniongyrchol, fel gwneud dosbarthiadau cynenedigol yn fwy hygyrch i’r rhai dan anfantais, gwella’r cymorth gan fydwragedd ar adeg yr enedigaeth (Skafida, 2009) a galluogi mwy o famau i gael mwy o gysylltiad ag ymwelwyr iechyd ar ôl yr enedigaeth, fel ehangu’r mentrau Cychwyn Cadarn a Dechrau'n Deg yng Nghymru a Lloegr i gynnwys mwy o famau. Mae gan y DU y cyfraddau isaf yn Ewrop am fwydo ar y fron, sef 66%. Yng Nghymru, mae’r cyfraddau bwydo ar y fron yn llawer is ar 48%, gyda chyfraddau o ddim ond 35.67% ym Merthyr Tudful (Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, 2010). Yn 2001, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru'r strategaeth, ‘Buddsoddi mewn Gwell Cychwyn: Hybu Bwydo ar y Fron yng Nghymru’. Mae’r rhaglen yn codi ymwybyddiaeth, yn cefnogi ac yn hybu bwydo ar y fron ymhlith y mamau ieuengaf a’r rhai sy’n gadael ysgol yn gynnar. Mae’r rhaglen wedi’i chymeradwyo’n ddiweddar i barhau tan 2014 (Llywodraeth Cymru, 2011). Mae lefelau llythrennedd ac addysg isel ymhlith mamau hefyd yn gysylltiedig â chymryd llai o asid ffolig (Dowd J, 2007). Mae cymryd asid ffolig yn lleihau’r perygl o namau ar y tiwb nerfol o 70%. Canfu astudiaeth gan Ong et al, (2011) fod mamau plant â spina bifida yn fwy tebygol o gael lefel addysg is ac yn fwy tebygol o fod yr unig gynhaliwr ac yn ddi-waith. Gall problemau datblygu gael eu hachosi gan sylweddau niweidiol sy’n cyrraedd y baban yn y groth, fel gwenwynau o ysmygu a chamddefnyddio cyffuriau (Tough et al, 2010). Mae menywod â statws economaidd-gymdeithasol is yn fwy tebygol o barhau i ysmygu yn ystod beichiogrwydd, ond roedd lefel addysg uwch a dechrau ysmygu’n hŷn yn lleihau’r cysylltiad hwn (Stephansson et al, 2001).
Canfu Kleinman a Madans
(1985) fod menywod â chyrhaeddiad addysgol is yn fwy tebygol o ysmygu cyn syrthio’n feichiog, yn llai tebygol o stopio yn ystod beichiogrwydd ac yn fwy tebygol o fod yn ysmygwyr trwm. Gwelwyd hefyd pan fo lefelau llythrennedd y fam yn is, mae’r plant yn llai tebygol o gael eu himiwneiddio. Mae cyfraddau imiwneiddio plant ar eu huchaf erioed, heblaw ymhlith plant incwm isel 2 oed a llai. Mae’r rhwystrau i imiwneiddio, fel mynediad i wasanaethau, yn cynyddu pan fydd lefelau llythrennedd y fam yn isel. (Wilson et al, 2006.) Canfu astudiaeth beilot gan Wilson, pan ddefnyddir taflen hawdd ei darllen ar imiwneiddio (gweler atodiad 1) yn ogystal â gwybodaeth arbennig ar lafar, er mwyn cynyddu gwybodaeth y claf am imiwneiddio, yn y pen draw mae mwy o bobl yn dilyn y broses imiwneiddio. Gwelir bod cyfraddau imiwneiddio yng Nghymru ar gyfer y brechiad 5 yn 1, y Men C a’r brechiad niwmococol i blant un oed yn unol â’r targed, gyda phob un dros 95%. Roedd 91.6% o blant 2 oed wedi cael y brechiad MMR ac 87% o blant 5 oed wedi cael yr ail frechiad MMR (GIG Cymru, 2011). Mae’r data’n dangos perthynas wrthdro rhwng y cyfraddau imiwneiddio ac oedran plant, ac er na roddir esboniad, dylai gwaith ymchwil y dyfodol ganolbwyntio ar weld a yw addysg y fam yn cael effaith ar gyfraddau imiwneiddio plant yng Nghymru, yn enwedig gan fod mamau, wrth i’w Effaith addysg/llythrennedd y fam ar iechyd plant yn y byd datblygedig gan Alicia Regan
plant dyfu, yn cael llai o gysylltiad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, fel ymwelwyr iechyd a bydwragedd wrth i’w plant dyfu, ac felly yn cael llai o wybodaeth am imiwneiddio plant o bosibl. Grŵp arall sydd â chyfraddau imiwneiddio plant isel yw’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr a gellir cysylltu hyn yn rhannol â lefelau llythrennedd isel (Parry, 2004). Grŵp sy’n dioddef allgau cymdeithasol difrifol yw’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr, ac maent yn wynebu tlodi, gwahaniaethu a rhagfarn sylweddol yn aml. Mae’r lleiafrif ethnig hwn yn wynebu nifer o rwystrau allgau cymhleth sy’n effeithio ar eu gallu i gael mynediad i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, addysg, llety a chyflogaeth. Mae hyn yn ei dro’n cyfrannu at lefelau uwch o dlodi (Cemlyn et al, 2009). Mae 62% o Sipsiwn a Theithwyr yn anllythrennog (Greenfields et al, 2011). Mae llawer o Sipsiwn a Theithwyr yn teimlo’n annifyr pan fydd angen defnyddio gwasanaethau iechyd ac un o’r rhesymau yw eu problemau llythrennedd. Yn ôl Cleemput (2000), mae’r mwyafrif o Deithwyr am i’w plant gael eu himiwneiddio, ond mae hi’n anodd i’r mamau ddod o hyd i wybodaeth am imiwneiddio a daw’r rhan fwyaf o’u gwybodaeth o’r teledu. Wedi i ymwelydd iechyd ymweld â chymuned deithiol yn Swydd Durham, adroddodd Nelson (2003) fod 90% o’u plant wedi cael eu himiwneiddio. Trwy’r Rhaglen Dechrau’n Deg, mae clinig babanod yn cael ei redeg ar hyn o bryd ar safle Sipsiwn a Theithwyr yng Nghaerdydd. Dyma ffordd lwyddiannus o gyflwyno gwybodaeth am iechyd i famau newydd ac mae’n helpu i’w cefnogi a’u harwain trwy wybodaeth am iechyd a dewisiadau anodd i’w plant. Mae iechyd Sipsiwn a Theithwyr yn waeth yn gyffredinol, ac mae 1 o bob 5 mam yn colli plentyn, o gymharu ag 1 o bob 100 mam yn y gymuned sefydlog. Un o’r rhesymau yw bod llythrennedd gwael yn golygu nad yw menywod yn defnyddio’r gwasanaethau iechyd (Aspinall, 2004). Nid yw’r fam yn gallu darllen gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael, llythyrau apwyntiad, gwybodaeth am iechyd o’r rhyngrwyd, o lyfrau a thaflenni a chyfarwyddiadau am feddyginiaethau (Parry et al, 2004). Gall mam sy’n brin o sgiliau darllen roi’r feddyginiaeth i’w phlentyn yn rhy aml, neu’r dogn anghywir ac mae’n bosibl na fyddant yn deall effeithiau negyddol cyffur neu fod angen monitro cyson (Yu et al, 2008). Yn yr adroddiad ‘An insight into the health of Gypsies and Travellers’, mae stori Markie’n brofiad cyffredin ymhlith nifer o blant Teithwyr: Roedd Markie’n derbyn meddyginiaeth ar gyfer iselder a gorbryder. Byddai ei fam yn gwneud yn siŵr ei fod yn cymryd y tabledi ac roedd llythrennedd ei fam ac yntau’n wael. Pan waethygodd y symptomau a phan wnaeth Orniston Travellers Initiative Advocacy Service ymyrryd, canfu fod Markie’n derbyn teirgwaith fwy o feddyginiaeth nag y dylai (gweler atodiad 2) (Ymddiriedolaeth Plant a Theuluoedd Orniston, 2008). Felly, mae angen i weithwyr meddygol proffesiynol dreulio mwy o amser yn esbonio’r feddyginiaeth a’r wybodaeth iechyd i’r rhai â lefel llythrennedd is a dylid gwirio bod yr unigolyn yn cymryd y dogn cywir o feddyginiaeth (Cleemput, 2000) mewn apwyntiadau dilynol.
Effaith addysg/llythrennedd y fam ar iechyd plant yn y byd datblygedig gan Alicia Regan
Cyflwynwyd llyfr bwrdd â lluniau 16 tudalen, ‘Be happy, be healthy’, a oedd yn hybu iechyd da, i gymuned deithiol yn Durham. Roedd yn cynnwys cyngor ar gadw llygad ar iechyd, imiwneiddio, diogelwch yn y cartref, deiet ac iselder ac unigrwydd mamau newydd. Roedd llwyddiant y llyfr yn seiliedig ar y cyswllt a wnaed â theuluoedd Sipsiwn a Theithwyr i’w greu, gan fagu perthynas gadarnhaol a chryf rhwng y gweithwyr iechyd a’r teuluoedd. Adeiladwyd ar wybodaeth flaenorol gan ystyried barn Sipsiwn a Theithwyr ar iechyd, clefydau a gwasanaethau gofal iechyd. Roedd hefyd yn cynnwys tâp sain a chwaraeydd casetiau, gan sicrhau felly fod y wybodaeth ar gael i bawb, waeth beth oedd eu gallu llythrennedd (Salkeld, 2002). Yn yr un modd, mae Diabetes UK, fel yr elusen gyntaf i greu tîm cydraddoldeb ac amrywiaeth sy’n canolbwyntio ar helpu grwpiau amrywiol fel Sipsiwn a Theithwyr, wedi cynhyrchu’r adnodd ‘Dont leave it too late’. Mae CD a llyfryn yn darparu gwybodaeth i godi ymwybyddiaeth o ddifrifoldeb diabetes a phwysigrwydd ymyrraeth gynnar i leihau’r perygl o ddatblygu cymhlethdodau (gweler atodiad 3). Er nad yw’n benodol ar gyfer iechyd plant, mae’n braf bod un o’r prif elusennau yn darparu gwybodaeth syml am iechyd, sy’n hawdd i’w ddarllen, i gymunedau Sipsiwn a Theithwyr. Grŵp arall sydd mewn perygl o iechyd gwaeth yw plant mamau ifanc yn eu harddegau. Yn ôl Ong et al, (2011) roedd cyrhaeddiad addysgol mamau yn eu harddegau’n fwy tebygol o fod yn is ac roedden nhw’n llai tebygol o greu amgylchedd i’w plant sy’n eu cefnogi’n emosiynol ac yn wybyddol. Roedd mamau iau â sgiliau llythrennedd is yn llawer mwy tebygol o nodi anawsterau wrth roi meddyginiaeth i’w plant ac yn cael anhawster i gyrchu gwasanaethau iechyd (Sleath et al, 2006). Fodd bynnag, dangoswyd bod cyrhaeddiad addysgol y fam yn cael mwy o effaith hirdymor ar les plentyn nag oedran y fam adeg yr enedigaeth, felly mae angen arian ac ymyriadau i gynorthwyo mamau yn eu harddegau i barhau â’u haddysg ar ôl yr enedigaeth (Sullivan et al, 2001). Mae hyn yn dangos bod angen rhaglenni cyffredinol fel y cynlluniau Cychwyn Cadarn a Dechrau’n Deg, a nodwyd ynghynt yn angenrheidiol er mwyn lleihau tlodi ym mhob grŵp ‘mewn perygl’ gan fod ymyriadau cynnar yn debygol o ddarparu canlyniadau cadarnhaol i’r mwyafrif o blant. Hwyrach na fydd mamau â lefelau addysg isel yn sicrhau digon o ysgogiad gwybyddol i’w plant gan beri eu bod yn methu ffynnu yn yr ysgol ac yn academaidd (Geoffroy et al, 2010). Mae perfformiad academaidd plentyn yn gysylltiedig ag iechyd y plentyn gan ei fod yn ei alluogi i ‘ddatblygu a gwireddu ei botensial’ fel y nodwyd yn y diffiniad o iechyd plant (National Research Council and Institute of Medicine, 2004).
Effaith addysg/llythrennedd y fam ar iechyd plant yn y byd datblygedig gan Alicia Regan
Canfu Geoffroy fod plant mamau â chyrhaeddiad addysg isel, oni bai bod y plant hynny wedi derbyn gofal plant ffurfiol, yn cael sgorau is ar barodrwydd a chyraeddiadau academaidd yn 6 a 7 oed, o gymharu â phlant mamau â chyrhaeddiad addysg uwch. Mae lefel llythrennedd plant yn ymwneud â statws economaidd-gymdeithasol, llythrennedd y fam a chyfarpar cyfryngu a llythrennedd sydd ar gael yn y cartref (Aram a Levin, 2001). Dim ond 45% o’r plant tlotaf sy’n clywed rhywun yn darllen iddynt bob dydd yn 3 oed, o gymharu â 65% o blant teuluoedd incwm canolig a 78% yn y teuluoedd cyfoethocaf. Mae’r plant tlotaf yn llai tebygol hefyd o fynd i lyfrgell a lleoedd o ddiddordeb addysgol fel amgueddfeydd (Waldfogel a Washbrook, 2010). Mae plant sy’n cael anawsterau darllen yn fwy tebygol o deimlo’n rhwystredig ac yn anhapus yn yr ysgol. Mae effeithiau negyddol sgiliau darllen gwael yn debygol o gynyddu gydag oedran wrth i’r plant ddod yn fwy ymwybodol o’u perfformiad o gymharu â pherfformiad eu cyfoedion ac felly gallent deimlo cywilydd, gorbryder ac emosiynau negyddol eraill (Miles a Stipek, 2006). Bydd effeithiau negyddol sgiliau darllen gwael yn parhau yn ystod gweddill eu bywyd a bydd swyddi cyflog uwch y tu hwnt i’w cyrraedd a bydd y gylchred dlodi’n parhau. Mae cynllun Dechrau Da ar waith yn y DU ar hyn o bryd sy’n cynnig llyfrau am ddim i blant ar dri chyfnod allweddol cyn iddynt ddechrau ysgol. Nod y cynllun yw annog plant i fwynhau darllen er mwyn rhoi dechrau teg iddynt mewn bywyd. Rhoddir cymorth ac arweiniad i rieni i’w hannog i ddarllen gyda’u plant. Mae’r llyfrau ar gael yn Gymraeg hefyd. Canfu gwaith ymchwil fod plant y cynllun Dechrau Da ar y blaen i’w cyd-ddisgyblion ym mhob asesiad darllen a rhif wrth ddechrau yn yr ysgol (Wade a Moore, 2000). Mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw cael rhaglenni ymyrraeth gynnar sy’n gallu creu effaith fuddiol ar ganlyniadau’r plant mwyaf difreintiedig a fydd o fantais iddynt fel oedolion hefyd (Waldfogel a Washbrook, 2010). Gwelwyd bod statws economaidd-gymdeithasol yn cael effaith ar lawer o ganlyniadau iechyd gydol ein hoes ac mae astudiaeth gan Kaplan et al (2001) yn dangos y gallai effaith addysg a statws economaidd-gymdeithasol isel y fam gynyddu’r risg o glefyd Alzheimer a chlefydau dementia eraill mewn oedolion. Canfu’r astudiaeth fod cyrhaeddiad addysg y fam yn effeithio’n sylweddol ar allu gwybyddol eu meibion yn 58 a 64 oed, gydag addysg is y fam yn cael ei chysylltu â sgorau is profion niwroseicolegol eu meibion. Roedd gallu gwybyddol gwaeth yn cael ei gysylltu â risg uwch o ddementia. Credir bod ffactorau economaidd a materol, safon a maint y rhyngweithio rhwng rhiant a phlentyn a phrosesau eraill sy’n gysylltiedig ag addysg y fam yn dylanwadu ar ddatblygiad gwybyddol y plentyn; awgryma’r ddamcaniaeth fod rhwydwaith gwell o niwronau (o ganlyniad i fwy o’r pethau a nodwyd uchod) yn creu amddiffyniad yn erbyn dechreuad dirywiad gwybyddol. Felly, daeth yr astudiaeth i’r casgliad fod y gweithgareddau a’r rolau a wneir gan famau’n effeithio ar ddatblygiad gwybyddol eu plant sy’n parhau ymhell i mewn i’w 5ed a’u 6ed degawd (Kaplan et al, 2001).
Effaith addysg/llythrennedd y fam ar iechyd plant yn y byd datblygedig gan Alicia Regan
Gall effeithiau negyddol ar blentyn yn y groth effeithio’n fawr ar blentyn fel oedolyn hefyd. Pwysau geni yw’r ffactor pwysicaf wrth bennu a fydd baban newydd-anedig yn byw, tyfu ac yn datblygu’n iach. Mae babanod a anwyd â phwysau isel yn fwy tebygol o orfod aros mewn ysbyty ar ôl cael eu geni, yn fwy tebygol o gael anableddau a niwed i’r ymennydd, o ddatblygu sgiliau iaith is a chael mwy o namau deallusol ac yn fwy tebygol o fod yn y dosbarthiadau economaidd-gymdeithasol is (Kogan, 1995). Mae babanod a anwyd cyn amser a babanod â phwysau isel yn fwy tebygol hefyd o gael clefydau’n ddiweddarach fel oedolion fel clefyd cardiofasgwlaidd, diabetes a chlefyd rhwystrol cronig
yr ysgyfaint (COPD). Mae amodau economaidd-gymdeithasol gwael fel straen, gorbryder ac addysg y fam yn ffactorau pwysig sy’n achosi genedigaethau cyn amser, ac addysg y fam yw’r un hawddaf i’w newid. (Williams, 2000). Canfu Nanyonjo et al (2002) mai addysg mamau a hyd y cyfnod beichiogrwydd oedd yn cyfrannu fwyaf at ganlyniadau geni negyddol. Mae’r cyfraddau geni cyn amser wedi codi o 11.9 o bob 1000 genedigaeth ym 1994 i 13.7 o bob 1000 genedigaeth yn 2003. Mae hyn yn gynnydd o 2.2% y flwyddyn ar gyfartaledd. Roedd babanod a anwyd i famau yn y degraddau mwyaf difreintiedig 94% yn fwy tebygol o gael eu geni cyn amser (cyn cyfnod beichiogrwydd o 32 wythnos) na’r rhai yn y degraddau lleiaf difreintiedig (Smith et al, 2007). Credir mai agweddau cymdeithasol mwy negyddol sy’n gysylltiedig ag addysg is fel ysmygu, camddefnyddio sylweddau, amodau gwaith a byw gwaeth, iselder, gorbryder a bod yn sengl sy’n rhannol gyfrifol am ganlyniadau geni negyddol (Arntzen et al, 1996; Kleinman a Madans, 1985). Mae addysg y fam nid yn unig yn effeithio ar iechyd plant, ond mae yna dystiolaeth hefyd sy’n awgrymu bod cyrhaeddiad addysg isel mamau’n gysylltiedig â chynnydd ym marwolaethau ffetysau a babanod. Canfu astudiaeth a oedd yn cynnwys 170,948 o fenywod o wlad Belg (Cammu et al, 2010) fod cyfraddau marw ffetysau’n ymwneud cryn dipyn ag addysg y fam, waeth beth oedd y pwysau geni (gweler ffigur 1.) Canfu hefyd fod nifer yr achosion o enedigaethau cyn amser, pwysau geni isel, marwolaethau ymhlith y newydd-anedig a marwolaethau ymhlith ffetysau a babanod yn dilyn graddfa addysgol ac yn llai cyffredin ymhlith mamau â’r lefel addysg uchaf.
Ffigur 1: Lefel addysg y fam mewn perthynas â chyfraddau marw ffetysau a babanod (Cammu et al, 2010)
Effaith addysg/llythrennedd y fam ar iechyd plant yn y byd datblygedig gan Alicia Regan
Tabl 2 Cyfraddau marw ffetysau a babanod sy’n benodol i bwysau geni yn ôl lefel addysg y fam Lefel addysg y fam Lefel Uchel Lefel canolig Lefel Isel Sgwâr Chi 2x3 N pwysau geni >2500g 79,903 67,471 12,150 y Ffetws † (%) 59 (0.7) 60 (0.9) 25 (2.1) p<0.001 Newydd-anedig † 0-27 diwrnod (%) 58 (0.7) 58 (0.9) 16 (1.3) p=0.10 (NS) Ar ôl genedigaeth † 28-365 diwrnod (%) 49 (0.6) 59 (0.9) 22 (1.8) p<0.001 N pwysau geni <2500g 6,266 y Ffetws † (%) 124 (19.8) Newydd-anedig † 0-27 diwrnod (%) 140 (22.8) Ar ôl genedigaeth † 28-365 diwrnod (%) 26 (4.2)
7,081 199 (28.1) 154 (22.4) 28 (4.0)
1,624 91 (56.0) 41 (26.7) 17 (11.1)
p<0.001 p=0.58 (NS) p<0.01
N = Nifer, † = marwolaeth.
Cadarnhawyd hyn ymhellach gan astudiaeth o Oslo (Froen et al, 2001). Daeth yr astudiaeth i’r casgliad fod mamau oedd wedi derbyn addysg am lai na deng mlynedd yn gysylltiedig â phedair gwaith mwy o farwolaethau ffetysau a babanod. Dangosodd adroddiad ystadegau bywyd cenedlaethol o America, sy’n seiliedig ar ddata o 41 o daleithiau, fod cyfradd marwolaethau babanod 49% yn uwch i famau a oedd wedi cwblhau llai na 12 mlynedd mewn ysgol o gymharu â mamau a oedd wedi cwblhau 16 mlynedd a mwy o addysg (Centres for Disease Control and Prevention, 2004; Mathews et al, 2007). Caiff marwolaethau ffetysau a babanod eu heffeithio’n fawr gan wahaniaethau economaidd-gymdeithasol ac yn ôl Stephansson et al (2001) mae menywod sydd â statws economaidd-gymdeithasol isaf ddwywaith fwy tebygol o gael eu heffeithio gan farwolaeth ffetws. Yn yr un modd, gwelwyd mwy o achosion o Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod ymhlith y menywod tlotaf a’r rhai â’r cyrhaeddiad addysg isaf (Cammu et al, 2010). Pe bai cyfradd marwolaethau babanod y grŵp economaidd-gymdeithasol uchaf wedi bod yr un fath i holl fabanod UDA, byddent wedi cael 39,867 yn llai o farwolaethau rhwng 1995 a 2000 yn ôl Singh a Kogan, 2007. Gwellodd cyfradd marwolaethau babanod rhwng 1999 a 2006 (0.63% - 0.7%), ond ni welwyd y gwelliant hwn ymhlith menywod â’r lefel addysg isaf (Cammu et al, 2010). Yn yr un modd, mae data o Norwy ac UDA’n dangos bod cyrhaeddiad addysg a lles wedi gwella’n aruthrol, ond mae’r cyswllt rhwng lefelau addysg isel y fam a marwolaethau ar ôl geni’n fwy amlwg nag erioed (Arntzen et al, 1996; Singh a Kogan, 2007). Fel y nodir gan Arntzen, dylai’r ffaith fod y cyswllt gwrthdro rhwng lefel addysg y fam a marwolaethau babanod wedi cynyddu dros amser achosi cryn bryder oherwydd gallai hyn ddangos nad yw twf y wladwriaeth les wedi cyrraedd pob rhan o’r boblogaeth. Trwy leihau canran y menywod llai addysgedig ymhellach, bydd iechyd y boblogaeth fel cyfanswm yn gwella, ond mae’n Effaith addysg/llythrennedd y fam ar iechyd plant yn y byd datblygedig gan Alicia Regan
bosibl y bydd grŵp economaidd-gymdeithasol bregus tu hwnt yn dod yn fwy amlwg a bydd angen rhoi gwasanaethau gofal iechyd arbennig ar waith i dargedu a helpu’r rhan hon o’r boblogaeth sydd mewn perygl. I gloi felly, mae yna gysylltiad agos rhwng iechyd a thlodi plant ac mae yna anghydraddoldebau iechyd difrifol rhwng y plant mwyaf a lleiaf difreintiedig. Mae addysg y fam yn cael effaith aruthrol ar iechyd plant ac er mwyn cael gwared â thlodi plant, rhaid i bartïon gwladwriaethau gydnabod a mynd i’r afael â’r berthynas hon. Mae lefelau addysg isel y fam yn effeithio ar hawliau’r plentyn a rhaid rhoi gwasanaethau ar waith i ddarparu’r hawliau hyn i blant a phobl ifanc. Rhaid treulio mwy o amser gydag ymwelydd iechyd ar ôl rhoi genedigaeth a rhoi rhaglenni cymorth ar waith i helpu’r mamau ieuengaf i barhau â’u haddysg. Rhaid i raglenni cadarnhaol fel y mentrau Cychwyn Cadarn a Dechrau’n Deg gael mwy o arian er mwyn cynnwys mwy o famau a rhaid hybu ymddygiad iach ymhlith mamau sydd wedi derbyn llai o addysg. Rhaid i wybodaeth am iechyd fod yn fwy hygyrch i’r mamau hynny sydd â lefelau llythrennedd is ac mae angen i weithwyr iechyd proffesiynol dreulio mwy o amser gyda’r mamau hynny. Rhaid i systemau lles a’r wladwriaeth gydnabod yn ddifrifol y ffaith fod cyfradd marwolaethau babanod yn uwch ymhlith mamau â chyrhaeddiad addysg is a bod y berthynas hon yn dod yn fwyfwy amlwg a rhaid iddynt roi ymyriadau ar waith. Y brif ffordd y gall partïon gwladwriaethau fynd i’r afael â thlodi plant yw trwy gynorthwyo’r plant tlotaf i gael iechyd gwell. Trwy wella addysg y fam, rhoi rhaglenni cymorth ar waith, creu ymyriadau cynnar ar gyfer y grwpiau mwyaf bregus a darparu mynediad gwell i ofal iechyd, gellir gwella iechyd plant a lleihau cyfraddau marwolaethau babanod. Bydd hyn yn lleihau anghydraddoldeb iechyd, yn helpu i godi plant allan o dlodi ac yn eu darparu â’u hawliau dynol, gan dorri’r gylchred barhaus o dlodi plant. Cynhyrchwyd yr erthygl gan Alicia Regan, Prifysgol Caerdydd, Ysgol Feddygaeth
Effaith addysg/llythrennedd y fam ar iechyd plant yn y byd datblygedig gan Alicia Regan
Cyfeiriadau Aram, D a Levin, I. 2001. Mother-child joint writing in low SES: sociocultural factors, maternal mediation, and emergent literacy. Cognitive Development 16(3), tud. 831-852. Arntzen, A et al. 1996. The association between maternal education and postneonatal mortality: trends in Norway, 1968–1991. Int J Epidemiol 25, tud.578–584. Aspinall P. 2004. Rhaglen ASERT Iechyd Cymru. [Ar-lein]. Ar gael yn: http://kar.kent.ac.uk/9170/1/Aspinall_GypsyTraveller_ASERT.pdf [Cyrchwyd: 13 Meh 2011]. Barrera, A. 1990. The role of maternal schooling and its interaction with public health programs in child health production. Journal of Development Economics 32, tud. 69-91. Caldwell J. Education as a factor in mortality decline: an examination of Nigerian data. Population Studies. 1979; 33: 395-413. Cammu, H et al. 2010. The higher the educational level of the first time mother, the lower the fetal and post neonatal but not the neonatal mortality in Belgium (Flanders). European journal of obstetrics and gynaecology and reproductive biology 148(1), tud. 13-16. Case A et al. 2002. Economic status and health in childhood: the origins of the gradient. American Economic Review 92(5), tud. 1308-1334. Centers for Disease Control and Prevention. 2004. New CDC report confirms increase in 2002 infant mortality rate. [Ar-lein]. Ar gael yn: http://www.cdc.gov.abc.cardiff.ac.uk/nchs/PRESSROOM/04facts/infant.htm [Cyrchwyd: 6 Meh 2011]. Cemlyn, et al. 2009. Adolygiad o'r anghydraddoldeb mae Sipsiwn a Theithwyr yn wynebu. Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol tud. 1-341. Yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd. 2007. Child and young people today: evidence to support the development of the children’s plan. [Ar-lein]. Ar gael yn: https://www.education.gov.uk/publications/eOrderingDownload/Childrenandyoung_people_today. pdf [Cyrchwyd: 5 Gorff 2011]. Dowd, J. 2007. Early childhood origins of the income/health gradient: the role of maternal health behaviours. Social science and medicine 65, tud. 1202-1213. Feldman, J et al. 1989. National trends in educational differentials in mortality. American Journal of Epidemiology 129, tud. 919-933. Filmer D. 1999. The structure of social disparities in education, gender and wealth. Adroddiad ymchwil polisi ar ryw a datblygiad. [Ar-lein]. Ar gael yn: http://www.onlinewomeninpolitics.org/beijing12/g&w.pdf [Cyrchwyd: 15 Meh 2011]. Froen, J et al. 2001. Risk factors for sudden intrauterine unexplained death: epidemiologic characteristics of singleton cases in Oslo, Norway, 1986–1995. Am J Obstet Gynecol 184, tud.694–702. Geoffroy, M et al. 2010. Closing the gap in academic readiness and achievement: the role of early childcare. J Child Psychol Psychiatry 51(12), tud.1359-1367. Effaith addysg/llythrennedd y fam ar iechyd plant yn y byd datblygedig gan Alicia Regan
Greenfields, M et al. 2011. Dorset traveller needs assessment. Asesiad ar Lety Teithwyr Sipsiwn Dorset. [Ar-lein]. Ar gael yn: http://www.dorsetrec.org.uk/Forum/Docs_GT/Dorset_Acomm_Needs_Assess.pdf [Cyrchwyd: 30 Meh 2011]. Horta, B, et al. 2007. Evidence on the long term effects of breastfeeding systematic review and meta-analysis. Sefydliad Iechyd y Byd. [Ar-lein]. Ar gael yn: http://whqlibdoc.who.int/publications/2007/9789241595230_eng.pdf [Cyrchwyd ar 5 Gorffennaf]. Kaplan, G et al. 2001. Childhood socioeconomic position and cognitive function in adulthood. International Journal of Epidemiology 30, tud. 256-263. Kleinman, J a Madans, J. 1985. The effect of maternal smoking, physical stature and educational attainment on the incidence of low birth weight. Am J Epidemiol 121, tud. 843-855. Kogan ,M. 1995. Social causes of low birthweight. Journal of the Royal Society of Medicine 88, tud. 611-615. Kutner, M et al. 2006. The health literacy of America’s adults: results from the 2003 national assessment of adult literacy. National Centre for Education Statistics. [Ar-lein]. Ar gael yn: http://nces.ed.gov/pubs2006/2006483.pdf [Cyrchwyd: 23 Meh 2011]. Mathews,T et al. 2007. Infant mortality statistics from the 2004 period linked birth-infant death data set. National Vital Statistics Report 55(14), tud.1–32. Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. 2010. Health challenge Merthyr Tydfil needs assessment. [Ar-lein] Ar gael yn: http://www.merthyr.gov.uk/NeedsAssessment/Health+and+Wellbeing/Diet+Nutrition+and+Health/Breast+Feeding+Rates.htm [Cyrchwyd: 5 Gorff 2011]. Miles, S a Stipek, D. 2006. Contemporaneous and longitudinal associations between social behaviour and literacy achievement in a sample of low-income elementary school children. Child Development 77(1), tud. 103-111. Nanyonjo, R et al. 2000. A secondary analysis of race/ethinicity and other maternal factors affecting adverse birth outcomes in San Bernardino County. Matern Child Health J 12(4), tud. 435-441. National research Council and Institute of medicine. 2004. Children’s health the nation’s wealth: assessing and improving child health. Washing DC: the National Academies Press. Nelson, F. 2003. Local action- on the road to good health. Health development today 16, tud. 1617. GIG Cymru. 2011. National immunisation uptake data. [Ar-lein]. Ar gael yn: http://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=457&pid=54144 [Cyrchwyd: 6 Gorff 2011]. Ong, L et al. 2011. Maternal mental health in families of children with spina bifida. World Journal of Pediatrics 7(1), tud. 54-59. Orniston Children and Families Trust. 2008. An insight into the health of gypsies and travellers: a booklet for health professionals in Cambridgeshire. [Ar-lein]. Ar gael yn:
Effaith addysg/llythrennedd y fam ar iechyd plant yn y byd datblygedig gan Alicia Regan
http://www.cumbria.nhs.uk/EqualityAndDiversity/GypsyTraveller/CAMBRIDGESHIREHEALTHBO OKLET.pdf [Cyrchwyd: 15 Meh 2011]. Palmer G et al. 2005. Monitoring poverty and social exclusion in the UK. Joseph Rowntree Foundation and New Policy Institute [Ar-lein]. Ar gael yn: http://www.jrf.org.uk/sites/files/jrf/1859353983.pdf [Cyrchwyd: 17 Meh 2011]. Parry G, et al. 2004. The health status of gypsies and travelers in England. Sheffield: Ysgol Iechyd ac Ymchwil Cysylltiedig, Prifysgol Sheffield. Racine, A a Joyce, T. 2007. Maternal education, child immunisations and public policy: evidence from the US national immunisation survey. Social science and medicine 65, tud. 1765-1772 Salkeld, J. 2002. Be Happy, Be Healthy. Sedgefield: Sedgefield PCT. [Ar-lein]. Ar gael yn: http://www.health-promotion.org.uk/projects/aboutbehappy.htm [Cyrchwyd: 10 Meh 2011]. Achub y Plant. 2011. Child Poverty Solutions: policy context. [Ar-lein]. Ar gael yn:
http://www.childpovertysolutions.com/ChildPovertySolutions_PolicyContext.aspx [Cyrchwyd: 4 Gorff 2011]. Singh, G a Kogan, M. 2007. Persistent socioeconomic disparities in infant, neonatal and postneonatal mortality rates in the United States, 1969–2001. Pediatrics 119, tud. 928–939. Skafida, V. The relative importance of social class and maternal education for breastfeeding initiation. Public Health Nutrition. 2009; 12: 2285-2292. Sleath, B et al. 2006. Literacy and perceived barriers to medication taking among homeless mothers and their children. Am J Health-Syst Pharm 63, tud. 346-351. Smith et al, 2007. Socioeconomic inequalities in very preterm birth rates. Arch Dis Child Fetal Neonatal Argraffiad 92(1), tud. 11-14. Stanley, I et al. 2007. Breastfeeding and maternal and infant health outcomes in developed countries. Adroddiadau Tystiolaeth/Asesiadau Technoleg, Rhif 153. [Ar-lein]. Ar gael yn: http://www.ahrq.gov/downloads/pub/evidence/pdf/brfout/brfout.pdf [Cyrchwyd: 6 Gorff 2011]. Stephansson, O et al. 2001. The influence of socioeconomic status on stillbirth risk in Sweden. Int J Epidemiol 30, tud. 1296–301. Stevens, G. 2006. Gradients in the health status and developmental risks of young children: the combined influences of multiple social risk factors. Maternal and Child Health Journal 10(2), tud. 187-199. Strauss J, Thomas D. Health, nutrition and economic development. Journal of Economic Literature. 1998; 36(2): 766-817. Sullivan, K et al. 2001. Continuing education mitigates the negative consequences of adolescent childbearing. Matern Child Health J 15(3), tud.360-366. Tough, S et al. 2010. Maternal well-being and its association to risk of developmental problems in children at school entry. BMC Pediatrics 10, tud. 1-12.
Effaith addysg/llythrennedd y fam ar iechyd plant yn y byd datblygedig gan Alicia Regan
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliauâ&#x20AC;&#x2122;r Plentyn. 1990. Swyddfa Uwch Gomisiynydd Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig. [Ar-lein]. Ar gael yn: http://www2.ohchr.org/english/law/crc.htm#art24 [Cyrchwyd: 29 Meh 2011]. Van Cleemput, P. Health care needs of Travellers. Archives of Disease in Childhood. 2000; 82: 32-7. Wade, B a Moore, M. 2000. A Sure Start with Books. Early Years 20, tud.39-46 Waldfogel, J a Washbrook, E. 2010. Law income and cognitive development in the UK. Llundain: The Sutton Trust. Llywodraeth Cynulliad Cymru. 2011. Strategaeth Tlodi Plant Cymru. [Ar-lein]. Ar gael yn: http://cymru.gov.uk/docs/dsjlg/policy/110203newchildpovstrategy2cy.pdf [Cyrchwyd: 4 Gorff 2011]. Llywodraeth Cymru. 2011. Continuation of national breastfeeding programme 2011-2014. [Arlein]. Ar gael yn:
http://cymru.gov.uk/publications/accessinfo/drnewhomepage/healthdrs/2011/4699409/?skip= 1&lang=cy [Cyrchwyd: 28 Meh 2011]. Williams, C et al. 2000. Mechanisms of risk in preterm low birthweight infants. Periodontol 23, tud.142-150. Wilson, F et al. 2006. Can easy-to-read immunizations information increase knowledge in urban low-income mothers? Journal of Pediatric Nursing 21, tud. 4â&#x20AC;&#x201C;12. Yu, M, et al. 2008. A comparison study of psychiatric and behaviour disorders and cognitive ability among homeless and housed children. Community Mental Health Journal 44(1), tud.1-9.
Effaith addysg/llythrennedd y fam ar iechyd plant yn y byd datblygedig gan Alicia Regan
Atodiad 1 Llun o’r clawr a thudalen o’r canllaw diwygiedig ‘hawdd ei ddarllen’ ar imiwneiddio (Wilson et al, 2006).
Effaith addysg/llythrennedd y fam ar iechyd plant yn y byd datblygedig gan Alicia Regan
Atodiad 2
Stori Markie (Ymddiriedolaeth Plant a Theuluoedd Ormiston, 2008). Mae Markie* yn ddyn ifanc sy’n dioddef o iselder a gorbryder. Cafodd bresgripsiwn am feddyginiaeth i’w helpu i gysgu ac i leihau ei orbryder. Dywedwyd wrtho am gymryd tair tabled 10mg bob nos. Ei fam oedd yn gofalu am y tabledi ac yn sicrhau ei fod yn eu cymryd. Mae sgiliau llythrennedd Markie a’i fam yn wan ac roedden nhw wedi dweud hyn wrth bobl y feddygfa. Dechreuodd Markie wella’n raddol, ond wedyn, dechreuodd deimlo’n waeth heb reswm arbennig. Roedd yn teimlo’n flinedig, yn swrth ac nid oedd yn credu bod ei feddyginiaeth yn ei helpu. Dywedodd wrth y bobl a oedd yn ei drin ac awgrymwyd y dylai gymryd dogn arall o’i feddyginiaeth er mwyn sefydlogi ei hwyl yn ystod y dydd i weld a fyddai hynny’n helpu. Ar ôl cael cymorth gan wasanaeth eiriolaeth Ormiston Travellers Initiative, llwyddodd Markie i ddweud wrth yr ymgynghorydd nad oedd yn hapus ac i ofyn am adolygiad o’i feddyginiaeth. Cysylltodd yr ymgynghorydd â’r feddygfa ac edrychwyd ar fanylion y presgripsiwn. Gwelwyd bod y feddyginiaeth nos wedi’i newid ac roedd dogn pob tabled yn 30mg bellach. Nid oedd unrhyw un wedi dweud wrth Markie a’i fam, ni allent ddarllen y pecyn felly roedd Markie wedi bod yn cymryd deirgwaith yn fwy na’r dogn bob nos. Yn ogystal â hyn, roedd wedi cymryd un ychwanegol yn ystod y dydd gan ei fod wedi drysu rhwng tabledi’r nos a’r tabledi i sefydlogi ei hwyl, gan eu bod wedi’u darparu mewn pecynnau heb yr enw brand. *Newidiwyd yr enwau i ddiogelu’r unigolyn
Effaith addysg/llythrennedd y fam ar iechyd plant yn y byd datblygedig gan Alicia Regan
Feeling very tired
Going for a wee more, especially at
Atodiad 3
night Diabetes UK yw’r elusen gyntaf i greu tîm cydraddoldeb ac amrywiaeth penodol i helpu grwpiau amrywiol fel Teithwyr
Blurred vision Repeated skin infections or Thrush
a Sipsiwn, ac maent wedi cynhyrchu’r adnodd ‘Dont leave
it too late’, sef CD a llyfryn llawn lluniau sy’n darparu gwybodaeth i godi ymwybyddiaeth o ddifrifoldeb diabetes a phwysigrwydd ymyriadau cynnar i leihau’r perygl o ddatblygu cymhlethdodau
More thirsty than
http://www.diabetes.org.uk/Guide-to-diabetes/Introduction-
usual
to-diabetes/Diabetes---A-guide-for-Gypsies-Roma-andTravellers/
Cuts and scratches are slow to heal
Effaith addysg/llythrennedd y fam ar iechyd plant yn y byd datblygedig gan Alicia Regan
Mae Diabetes UK hefyd yn darparu gwybodaeth hawdd ei darllen ar gyfer y gymuned Sipsiwn a Theithwyr.
Effaith addysg/llythrennedd y fam ar iechyd plant yn y byd datblygedig gan Alicia Regan