Llwybrau i Gymru: rhaid inni weithredu ar frys
Yr achos dros fwrw ymlaen â diwygiadau
gweledigaethol Llywodraeth Cymru i fynediad i gefn gwlad
Llwybrau i Gymru: rhaid inni weithredu ar frys cyclinguk.org
Yr achos dros fwrw ymlaen â diwygiadau
gweledigaethol Llywodraeth Cymru i fynediad i gefn gwlad
Llwybrau i Gymru: rhaid inni weithredu ar frys cyclinguk.org
I lawer ohonom, roedd cyfyngiadau symud y pandemig Covid yn gyfle annisgwyl i ddysgu’n gyflym am ein daearyddiaeth leol. Yn gaeth i’r tŷ, roedd mynd allan am awr neu ddwy i gerdded a seiclo yn rhan reolaidd o ddiwrnod fy mhlant oedran ysgol gynradd a minnau, gan grwydro ar hyd y llwybrau a chilffyrdd ger ein cartref yn ymyl y Mynyddoedd Du. Roedd ymarfer corff, anadlu awyr iach a throchi ein hunain ym myd natur yn gwneud gwyrthiau i’n llesiant corfforol ac emosiynol yn ystod cyfnod anodd.
O edrych ar y map hawliau tramwy swyddogol yn ddiweddarach, synnais i weld bod uchafbwynt ein hoff daith ar feic – llwybr 1.5 milltir llydan â chlwydi siglo sy’n gyfeillgar i feiciau – yn newid statws ar hap rhwng priffordd, cilffordd a llwybr troed. Dan y gyfraith, roedd fy mhlant a minnau wedi bod yn tresmasu.
Yn aml, nid oes unrhyw berthynas rhwng y sefyllfa ar lawr gwlad a’r gwahaniaeth cyfreithiol rhwng cilffyrdd a llwybrau ceffylau sy’n agored i gerdded, beicio a marchogaeth, a llwybrau troed sy’n agored i gerdded yn unig. Ceir llwybrau ceffylau sy’n dod i ben ar ffin blwyfol, ond sy’n parhau fel llwybr troed. Ceir traciau fferm metlin a thramwyfeydd – llwybrau a ddyluniwyd ac a adeiladwyd ar gyfer teithio ar olwynion –lle mae hawl i gerdded ond dim hawl i seiclo. Cyfyngedig yw’r llwybrau sy’n croesi Tir Mynediad honedig ac sydd ar gael i bobl ar feiciau neu geffylau, os ydynt ar gael o gwbl. A mwy o lwybrau fesul milltir sgwâr o arwynebedd tir na Lloegr a’r Alban, mae Cymru’n ymhyfrydu yn ei llwybrau arfordirol epig a thraciau serth yr ucheldir, hen reilffyrdd
a thramffyrdd mwynau, a’r llwybrau dyddiol diri yn y trefi, pentrefi a maestrefi dinesig ac o’u cwmpas. Wedi’u gwreiddio yn eu defnydd hanesyddol, mae llwybrau Cymru’n dreftadaeth a rennir ac yn bennod ddiddorol iawn yn hanes y genedl. Ac er gwaethaf y wefr o deithio ar hyd hen ffordd borthmyn neu lwybr pererinion hynafol, nid yw cynnal patrymau’r gorffennol yn unig yn ffordd dda o ddiwallu anghenion yr oes sydd ohoni, heb sôn am rai’r dyfodol.
Er clod Llywodraeth Cymru, mae wedi cydnabod y problemau hyn ac wedi llunio cynllun gweithredu beiddgar i gynyddu’r cyfleoedd i fwynhau’r awyr agored yng Nghymru. Yn naturiol, gohiriwyd yr ymdrech hwn gan y pandemig Covid. Mae’r adroddiad hwn yn ymyriad amserol i atgoffa’r Gweinidogion am yr angen dirfawr sydd i wella mynediad i gefn gwlad, a’r gefnogaeth gref sydd iddo ymysg pobl Cymru.
Jack Thurston
Awdur cyfres llyfrau tywys seiclo ‘Lost Lanes’
Ar 4 Ebrill 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru’n ddigamsyniol yr hoffai i fwy o bobl fwynhau cefn gwlad, ac y byddai’n eu helpu i wneud hynny:
“… [r}ydym wedi ymrwymo fel Llywodraeth i alluogi mwy o bobl i fwynhau ein cefn gwlad yn rhwyddach –a gwneud yn fawr o’r manteision niferus o ran iechyd a llesiant a all ddeillio o fynd allan i’r awyr agored.
“Mae cefn gwlad hygyrch yn ategu ein hymdrechion i hybu Cymru fel cyrchfan i dwristiaid a phot mêl i gerddwyr, beicwyr a phobl sy’n chwilio am gyffro.”
Hannah Blythyn AC, Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol y pryd hwnnw, 4 Ebrill 20191
Nid oedd unrhyw syndod am yr ysgogiadau wrth wraidd y weledigaeth hon – iechyd, llesiant a thwristiaeth – gan eu bod yn cydweddu’n berffaith â nodau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Nid oedd penderfyniad y Gweinidog i ddiwygio mynediad i gefn gwlad yn beth newydd chwaith. Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi arolygu barn y cyhoedd ddwywaith, ac roedd y rhan fwyaf o bobl wrth eu boddau â’r syniad:
• Yn 2015, cynhaliodd y Llywodraeth ymgynghoriad ar ‘Wella’r cyfleoedd i gael mynediad i’r awyr agored ar gyfer gweithgareddau hamdden cyfrifol’. Roedd y rhan fwyaf o’r 5,796 a ymatebodd o blaid y syniad bod mwy o bobl yn ymgysylltu â’r awyr agored a natur yng Nghymru.2
• Roedd oddeutu 70% yn cefnogi ymgyrch ‘Trails for Wales’ Cycling UK (CTC y pryd hwnnw) a OpenMTB, gan alw am ddiwygio radical i fynediad cyhoeddus.3
• Yn 2017, aeth y Llywodraeth yn ôl at faes mynediad unwaith yn rhagor ac ymgynghori â’r cyhoedd ar reoli adnoddau naturiol y wlad yn gynaliadwy.4 Cafwyd bron 14,000 o ymatebion i’w chynnig i alluogi seiclo a marchogaeth ar lwybrau troed o dan yr un amodau â’r rheini a ddarperir ar gyfer beicio ar lwybrau ceffylau o dan Adran 30 o Ddeddf Cefn Gwlad 1968, gyda’r mwyafrif llethol o blaid (86%). Roedd dros hanner ohonynt (7,375) wedi’u hysbrydoli unwaith yn rhagor gan ein hymgyrch ‘Trails for Wales’.
Erbyn Ebrill 2019, roedd gan Lywodraeth Cymru y gefnogaeth roedd ei hangen i droi cysyniad ei newidiadau gweledigaethol yn realiti.
Gan gydnabod mai “natur gymhleth y ddeddfwriaeth bresennol oedd un sbardun pwysig dros ddiwygio”, comisiynodd y Gweinidog Grŵp Cynghori ar Ddiwygio Mynediad i ystyried yn fanwl “sut y dylid rhoi’r newidiadau mwy sylweddol i hawliau mynediad ar waith a sut i symleiddio’r dasg o gofnodi, cynllunio a newid mynediad cyhoeddus.”
Roedd cylch gwaith y Grŵp Cynghori ar Ddiwygio Mynediad yn cynnwys edrych ar sut i roi’r cynigion canlynol ar waith:
• Llwybrau aml-ddefnydd (gan ganiatáu beicio a marchogaeth ar lwybrau troed); a
• Lleihau’r cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â thir mynediad agored.
Dilynwyd yr ail gynnig gan y datganiad diamwys hwn: “Byddwn yn codi’r cyfyngiadau ar feicio a marchogaeth, barcuta a pharagleidio, ymdrochi, neu ddefnyddio cwch neu hwylfwrdd ar gyrff dŵr naturiol.”5
Os nad oedd yr uchod yn fwy na digon i gredu bod newidiadau ar y gweill yn fuan, ym mis Mehefin 2021, gosododd Y Rhaglen Lywodraethu amcanion llesiant ar gyfer y pum mlynedd nesaf ym meysydd gofal iechyd, anghydraddoldeb, economi mwy gwyrdd, yr argyfwng natur a thwristiaeth, sydd i gyd yn sbardunau cydategol ar gyfer diwygio mynediad.6
Er hynny, roedd sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar drafodaethau’r Grŵp Cynghori ar Ddiwygio Mynediad a gyhoeddwyd fel ‘Adroddiad Cyngor Terfynol’7 ym mis Tachwedd 2021, yn fwy siomedig.
Yn hytrach na gwneud argymhellion clir, roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar opsiynau yn unig, gan wanhau gweledigaeth feiddgar a deniadol y Llywodraeth yn 2019.8
Roedd hyn yn rhwystredig iawn i Cycling UK a OpenMTB, heb sôn am y miloedd o bobl a gefnogodd ein hymgyrch Trails for Wales.
1 Llywodraeth Cymru. Datganiad Ysgrifenedig ynghylch bwrw ymlaen â chynigion mynediad, 4 Ebrill 2019
2 Llywodraeth Cymru. Gwella’r cyfleoedd i gael mynediad i’r awyr agored ar gyfer gweithgareddau hamdden cyfrifol
3 cyclinguk.org/trailsforwales
4 Llywodraeth Cymru. Bwrw ymlaen â rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy.
Roeddem wedi anfon cynrychiolwyr i dri grŵp arbenigol y Grŵp Cynghori ar Ddiwygio Mynediad, er mwyn dadlau dros ddau newid a fyddai’n ei gwneud hi’n llawer haws i bobl fwynhau cefn gwlad yn egnïol ar gefn beic:
• Codi cyfyngiadau beicio ar y rhan fwyaf o lwybrau troed yn ddiofyn, oni bai fod hynny’n anaddas (yn hytrach na’r broses feichus ac aneffeithlon ‘un achos ar y tro’ sydd ar waith hyd heddiw); a
• Caniatáu gweithgareddau ychwanegol, gan gynnwys beicio ar yr holl dir mynediad a ddynodwyd o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (yn hytrach na dim ond ardaloedd penodol neu goridorau llinellol).
5 Llywodraeth Cymru. Datganiad Ysgrifenedig ynghylch bwrw ymlaen â chynigion mynediad.
4 Ebrill 2019
6 Llywodraeth Cymru. Rhaglen lywodraethu.
7 Cyfoeth Naturiol Cymru. Y Rhaglen Diwygio Mynediad. 2021
8 Cycling UK. Trails for Wales: Access reform recommendations “disappointing”. 18 Tachwedd 2021
“At a personal and societal level the evidence is strong and growing that people tend to be happier, healthier, and more productive, creative, active and engaged in community and civic life when nature is a meaningful part of their lives. […] They are also more likely to care for it.”
Llwybrau i Gymru: rhaid inni weithredu ar frys cyclinguk.org
Fel y mae canfyddiadau arolwg ‘Rides of Way’ Cycling UK yn ei awgrymu, mae agor llwybrau troed yn debygol o drawsnewid profiad beicwyr o gefn gwlad. Ymatebodd mwy na deg mil o bobl ledled Prydain i’r arolwg, ac:
• Roedd saith o bob deg yn dweud y gallent fwynhau mwy o lwybrau amrywiol
• Gallai oddeutu dau draean ohonynt “defnyddio llwybrau gwell” ac osgoi ffyrdd prysur
• Gallai bron hanner ohonynt fynd ar y beic o’r tŷ, a gallai 37% deithio mwy ar y beic yn gyffredinol.9
Ac roedd y rhain yn bobl a wyddai’n union am beth yr oeddent yn siarad, gan eu bod yn feicwyr oddi ar y ffordd profiadol a hirdymor, a dreuliai sawl awr ar eu beiciau bob wythnos. Gallai eu gwybodaeth am yr anawsterau a’u syniadau ynghylch sut i’w datrys helpu i lywio gwelliannau ar gyfer seiclwyr o bob math, yn lleol neu fel arall – teuluoedd, plant a phobl yn defnyddio popeth o feic llaw hyd at feic graean. Wrth reswm, nid dim ond beicwyr a seiclo fyddai’n elwa o gael cefn gwlad mwy agored. Gallai Cymru fel gwlad fod ar ei hennill gan fod treulio amser hamdden yn egnïol mor dda i iechyd a llesiant y cyhoedd, a byddai refeniw o dwristiaeth awyr agored yn hwb i’r economi.
Eto, nid yw hyn yn newydd i’r Llywodraeth. Nôl yn 2005, nododd ‘Dringo’n Uwch’, strategaeth gweithgarwch corfforol Cymru, bod Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy: “…yn agor rhannau helaeth o Gymru i’r cyhoedd. Mae arwynebedd cyfun cefn gwlad agored a thir comin cofrestredig Cymru tua 360,000 hectar, neu tua 20% o arwynebedd tir Cymru. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd sylweddol i bobl wneud mwy o weithgareddau egnïol yng nghefn gwlad, yn ogystal â chyfleoedd cysylltiedig mewn iechyd, busnes ac addysg.”10
Ac eto fyth, pedair blynedd ar ddeg wedyn ar 4 Ebrill 2019, dywedodd y Gweinidog yr hoffai Llywodraeth Cymru agor cefn gwlad ymhellach am yr un rhesymau, mwy neu lai.
Yn anffodus, gadawodd ‘Adroddiad Mynediad Terfynol’ Cyfoeth Naturiol Cymru a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2021, y penderfyniadau terfynol ar y diwygiadau gweledigaethol yn y fantol
Ers hynny, nid oes dim wedi digwydd. Dim cynnydd. Dim penderfyniadau.
Mae wedi bod ar ei farciau, yn barod, ond nid yw wedi mynd.
Mae Cycling UK yn credu y bydd
Cymru, ei phoblogaeth a’i hymwelwyr ar eu colled os yw’r Llywodraeth yn oedi’n hirach.
Nod yr adroddiad hwn yw ailgynnau’r ymrwymiad a nodwyd gan
Lywodraeth Cymru, sydd wedi’i ddogfennu a’i groesawu’n fawr, i agor amgylcheddau naturiol gogoneddus y wlad i fwy o bobl.
Yn yr adrannau isod, rydym yn ategu’r ddau brif gymhelliad sydd wrth wraidd y weledigaeth hon drwy edrych ar y buddion y mae mynd i’r awyr agored a seiclo yn benodol yn eu hachosi o ran:
• Iechyd a llesiant
• Twristiaeth
Rydym yn esbonio wedyn pam mae gormod o bobl yn ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd i fentro i gefn gwlad mewn ffordd egnïol, neu’n teimlo eu bod wedi’u cloi allan ohoni, a sut y credwn y gellid datrys y sefyllfa drwy fynd i’r afael yn uniongyrchol â “natur gymhleth y ddeddfwriaeth bresennol” gan godi cyfyngiadau ar feicio ac agor tir mynediad cefn gwlad a hawliau tramwy i weithgareddau ychwanegol, gan gynnwys beicio.
Llwybrau i Gymru: rhaid inni weithredu ar frys
cyclinguk.org
Seiclo yw un o’r ffyrdd mwy iach o brofi ac ymgysylltu â chefn gwlad hyd at ei eithafion.
Bydd Llywodraeth Cymru’n ymwybodol iawn o’r argyfwng anweithgarwch corfforol, ond rhaid inni bwysleisio pa mor ddifrifol ydyw a pham ei bod yn hollbwysig i gymell pobl i wneud ymarfer corff yn fwy aml:
Yng Nghymru:
1/3
Mae traean o oedolion wedi’u pennu’n anweithgar (yn weithgar am lai na hanner awr yr wythnos) ac mae 62% yn pwyso gormod neu’n ordew11
Yn fwy o bryder efallai:
54%
Mae dros hanner (54%) y plant a phobl ifanc 3-17 oed yn weithgar am lai nag awr y dydd, saith dydd yr wythnos12
1/3
Mae oddeutu traean o’r plant sy’n dechrau yn yr ysgol gynradd yn pwyso gormod neu’n ordew14
Ymysg plant 11-16 oed, mae gan “Gymru rai o’r lefelau gwaethaf o ran gweithgarwch corfforol a’r amser a dreulir yn ymddwyn yn llonydd yn fyd-eang”13
Ar ben hynny, mae ymddygiad llonydd yn faich ariannol sylweddol ar y gwasanaeth iechyd:
£35m
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n amcangyfrif bod GIG Cymru wedi gwario £35 miliwn yn 2014/15 yn trin clefydau ataliadwy a achoswyd gan anweithgarwch corfforol15
1. Cymhelliad un: gwneud yn fawr o’r “manteision niferus o ran iechyd a llesiant a all ddeillio o fynd allan i’r awyr agored”
Mae potensial seiclo i helpu mwy o bobl i fod yn fwy gweithgar yn gorfforol – ac arbed arian i’r GIG – yn amlwg.
Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru:16
• Seiclo yw’r gweithgaredd awyr agored mwyaf poblogaidd yr hoffai pobl wneud mwy ohono; ac
• Ar wahân i gerdded, seiclo yw’r gweithgaredd awyr agored mwyaf poblogaidd.
Ac fel y nodwyd yn ein harolwg ‘Rides of Way’, mae’r rhai sydd eisoes yn seiclo oddi ar y ffordd yn rheolaidd yn teimlo’r budd yn wirioneddol:
90%
nododd 90% o’r rhai a ymatebodd bod seiclo oddi ar y ffordd yn
‘weddol’ bwysig neu’n bwysig
‘iawn’ i’w hiechyd corfforol
91%
dywedodd 91% yr un peth am eu hiechyd meddwl
2/3
Dywedodd bron dau draean ohonynt mai seiclo oddi ar y ffordd yw eu prif ffordd o ymarfer corff17
thebyg o ddewis llwybrau ceffylau a chilffyrdd, a seiclo atynt yn uniongyrchol o’u cartrefi yn hytrach na gyrru yno. Mewn geiriau eraill, mae teithiau pell ar gefn beic yn un peth, ond mae pobl wir yn mwynhau defnyddio hawliau tramwy lleol er mwyn ymgolli yn yr amgylchedd naturiol (os oes modd iddynt wneud hynny).
Efallai bod hanesion personol y rhai a ymatebodd yn dwyn hyd yn oed mwy o berswâd. Dywedodd un ohonynt:
“Mae gen i ffurf ysgafn o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint [COPD] a reolir yn dda, ac mae seiclo yn fy helpu […]. Rydw i’n 79 oed.”
Dywedodd un arall:
“Gan fy mod i’n byw yn ymyl Bannau Brycheiniog, mae defnyddio’r llwybrau troed yn fy ngalluogi i gyrraedd mannau a mwynhau’r harddwch naturiol sydd ond ar gael i gerddwyr. Mae gen i gluniau newydd ar y ddwy ochr ac rydw i eisiau cyrraedd y mannau hyn. Mae seiclo oddi ar y ffordd yn caniatáu imi wneud hynny.”
Roedd y ddau ymatebydd yn dioddef o broblemau iechyd. Serch hynny, roedd mynd ar y beic yn therapiwtig dros ben i’r ddau, fel sy’n wir am lawer o bobl ag anableddau.18
Dangosodd ein harolwg ‘Rides of Way’ hefyd bod seiclwyr oddi ar y ffordd, ar gyfer reidiau wythnosol, yn fwy na
Mewn gwirionedd, mae’r rheidrwydd i gysylltu rhwydwaith cartref o lwybrau seiclo di-drafferth, croesawgar, ym mhob cymdogaeth, yn tyfu o hyd, o gofio Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Cymru. Bydd meddygon teulu a hoffai ragnodi seiclo yn gwerthfawrogi’r sicrwydd bod rhwydwaith o lwybrau heb draffig ar gael yn hawdd i’w cleifion o’u cartrefi.
Yn amlwg, mae gan seiclo lawer i gynnig ym meysydd iechyd cyhoeddus a gofal iechyd, yn ataliol ac yn adferol, heb sôn am fod yn ymarfer deniadol iawn. Felly hefyd mannau gwyrdd Cymru. Mae’r berthynas rhwng y ddau eisoes yn fuddiol i rai, ond gellid gwella llawer mwy o fywydau trwy ei gwneud yn haws seiclo oddi ar y ffordd yng nghefn gwlad – neu, fel y’i gelwir, y gwasanaeth iechyd naturiol.20
Byddai hyn yn helpu i gyflawni un o nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015:
“Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.”21
Rydym wedi pwysleisio’r daioni mae ymgysylltu â natur yn weithgar yn ei greu i iechyd a llesiant pobl. Fodd bynnag, mae tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg yn awgrymu bod y buddion yn mynd y ddwy ffordd: mae natur yn elwa pan fydd pobl yn cysylltu a hi.
Meddai’r Athro Miles Richardson, arweinydd Grŵp Ymchwil Cysylltioldeb Natur Prifysgol Derby: “…when connected to nature, our sense of self can be extended to include it. This leads to a moral and ethical concern for nature, as harming it is harming ourselves.” 22
Mae adroddiad arall yn dweud: “At a personal and societal level the evidence is strong and growing that people tend to be happier, healthier, and more productive, creative, active and engaged in community and civic life when nature is a meaningful part of their lives. […] They are also more likely to care for it.” 23
Fel mae trafodaeth genedlaethol Cyfoeth Naturiol Cymru ‘Natur a Ni’ yn dangos, mae llawer iawn o bryderon ynghylch bygythiadau i’r amgylchedd naturiol eisoes. Yn ddiddorol, dangosodd y drafodaeth hefyd bod y cyfranwyr yn obeithiol oherwydd gweledigaeth o’r dyfodol sy’n cynnwys “mwy o bresenoldeb a hygyrchedd mannau gwyrdd”.24
11 Arolwg Cenedlaethol Cymru 2020-21: ffordd o fyw oedolion.
12 Arolwg Cenedlaethol Cymru (cwestiwn gweithgarwch corfforol plant).
13 MDPI. WALES 2021 Active Healthy Kids Report Card.
14 Rhaglen Mesur Plant Cymru.
15 Iechyd Cyhoeddus Cymru, What is Physical Inactivity Costing NHS Wales? 2017
16 Arolwg Cenedlaethol Cymru (2019-20, Chwaraeon – cwestiynau cyfranogi: gweithgareddau awyr agored yr hoffech chi wneud yn fwy aml/gweithgareddau awyr agored yn y 4 wythnos diwethaf).
Llwybrau i Gymru: rhaid inni weithredu ar frys cyclinguk.org Tudalen
17 Cycling UK. Rides of Way. 2017
Mae cefn gwlad Cymru’n ased amgylcheddol gwerthfawr. Po fwyaf o bobl sy’n ymgysylltu ag ef yn awr, y gorau yw’r siawns y caiff ei dreftadaeth ei amddiffyn rhag un o’r bygythiadau mwyaf erioed i iechyd pobl a chenedlaethau’r dyfodol: newid hinsawdd.
18 Gweler gwefan Wheels for Wellbeing i ddysgu mwy am sut y gellir gwella bywydau pobl anabl drwy sicrhau bod unrhyw un yn gallu manteisio ar fuddion corfforol, emosiynol, ymarferol a chymdeithasol seiclo.
19 https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/cynllun-atgyfeirio-cleifion-i-wneud-ymarfer-corff-cymru/
20 Gan Scotland’s Nature Agency, er enghraifft.
21 Llywodraeth Cymru. Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: yr hanfodion.
22 Prifysgol Derby. Erthygl gan yr Athro Miles Richardson. Pathways to a closer connection with nature. 2018
23 Nature for All / Children & Nature Network. Connecting with Nature to Care for Ourselves and the Earth: Recommendations for Decision Makers. 2018
24 Cyfoeth Naturiol Cymru. Natur a Ni: Adroddiad Cam 1. Gorffennaf 2022
Bydd Llywodraeth Cymru’n ymwybodol iawn o’r argyfwng anweithgarwch corfforol, ond rhaid inni bwysleisio pa mor ddifrifol ydyw a pham ei bod yn hollbwysig i gymell pobl i wneud ymarfer corff yn fwy aml.
Mae Llywodraeth Cymru’n falch o’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru, a hynny’n haeddiannol, gan gydnabod ei allu i dyfu. Ond mae hefyd yn ymwybodol bod rhaid i’w dwf: “...geisio cynnal – nid bygwth – y pethau pwysicaf. Mae angen i ni gydweithio mewn ffordd sy’n cefnogi llesiant y cryfderau sy’n denu pobl yma yn y lle cyntaf – ein tirweddau, diwylliant ac antur.”25
Mae’r anawsterau sydd ynghlwm wrth gydbwyso twf economaidd â chynaliadwyedd yn arbennig o amlwg yn
Ddegawd yn ôl, nododd adroddiad gan Senedd Ewrop bod eisoes oddeutu 1.23 miliwn o deithiau dros nos ar feic yn y DU, yn cyfrannu bron hanner biliwn o bunnoedd i’r economi.27
Mae economi Cymru’n manteisio ar y buddion hefyd. Yn 2014, roedd adroddiad a gomisiynwyd gan Groeso Cymru’n amcangyfrif bod twristiaeth gweithgareddau awyr agored o bob math, gan gynnwys seiclo, yn cynhyrchu £481 miliwn bob blwyddyn, sef 6% o’r cyfanswm a ddaeth o’r holl dwristiaeth yn y wlad.28
Drwy ddadansoddi’r ffigur hwn, mae’r adroddiad yn nodi bod y cyfraniad o dripiau domestig dros nos (£236 miliwn) yn debyg i’r swm a geir o dripiau undydd (£220 miliwn), gyda thripiau gan ymwelwyr tramor yn ychwanegu £24m.
Yn fwy diweddar, nododd arolwg ‘Rides of Way’
Cycling UK am seiclo oddi ar y ffordd y pethau canlynol am seiclwyr, pan oeddent yn teithio i ffwrdd o’u cartrefi i fynd ar y beic:
• Llety oedd gwariant mwyaf y rhai a ymatebodd, gydag oddeutu 29% ohonynt yn gwario rhwng £50 a £100, a 13% dros £100. Meysydd pebyll, llety gwely a brecwast a gwestai annibynnol oedd mwyaf poblogaidd; ac
• Ar ymweliad ‘i ffwrdd’ arferol, roedd ychydig dros hanner yn gwario rhwng £10 a £50 ar fwyd a diod (25% yn gwario £10-20/28.5% yn gwario £20-£50).29
Dangosodd ein harolwg hefyd bod parciau beicio Cymru’n atyniad mawr i ymwelwyr o wledydd eraill y DU – roedd dros hanner wedi teithio oddi cartref i seiclo ynddynt.
nhri Pharc Cenedlaethol Cymru, sy’n chwarae rôl hollbwysig o ran rheoli’r amgylchedd ac annog ymwelwyr i fwynhau’r awyr agored.26
O’i reoli’n dda, gallai seiclo helpu’r diwydiant ac Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol i sicrhau cydbwysedd rhwng twf economaidd a llesiant ehangach Cymru, yn enwedig trwy gyflawni buddion iechyd (gweler yr adran uchod) a chynaliadwyedd.
2. Cymhelliad dau: hybu Cymru fel “cyrchfan i dwristiaid a phot mêl i gerddwyr, beicwyr a phobl sy’n chwilio am gyffro”
Heb os, mae Cymru eisoes yn manteisio’n ariannol o dwristiaeth seiclo, ond gallai datgloi mwy o gefn gwlad i ymwelwyr godi hyd yn oed mwy o refeniw.
Llwybrau i Gymru: rhaid inni weithredu ar frys cyclinguk.org
Yr arenillion o lwybrau cysylltiedig a llwybrau a hyrwyddwyd
Mae tystiolaeth hefyd yn dangos bod datblygu a hyrwyddo llwybrau wedi’u cysylltu’n dda yn gwneud synnwyr yn economaidd:
£547m
Yn 2014, cynhyrchwyd £547 miliwn o wariant uniongyrchol gan gerdded arfordirol yng Nghymru, gyda chyfran fawr o’r teithiau cerdded yn gysylltiedig â Llwybr Arfordir Cymru, sy’n 870 o filltiroedd (1,400 km) o hyd30
112
Awgrymodd amcangyfrifon a gyhoeddwyd yn 2013 y gallai Llwybr Arfordir Cymru fod wedi creu 112 o swyddi cyfwerth ag amser llawn ar ei hyd31
96%
Ond nid dim ond buddion economaidd sydd i’r llwybr – mae hefyd yn creu pleser (yn ôl 96% o’i ymwelwyr) ac wedi helpu i sicrhau bod 88% o’i ymwelwyr yn gwerthfawrogi Cymru a’i diwylliant yn fwy32
£83.40
Mae data diweddar Cycling UK am lwybr King Alfred’s Way yn ne Lloegr yn dangos bod beicwyr yn gwario £83.60 yn dydd ar lety, bwyd a diod ar gyfartaledd.33 Yn wir, mae llawer o fusnesau lleol ar hyd y ddolen 218-milltir (350 km) hon wedi manteisio ar yr hwb mewn masnach sy’n mynd heibio: Dywedodd Joe Wood, uwch fragwr Craft Brews UK yn Surrey wrthym: “Rydym wrth ein boddau â chyfeillgarwch y gymuned seiclo. Mae ei phresenoldeb yn ychwanegu at yr awyrgylch ac yn helpu i ddod â’r bragdy’n fyw.”
Mae cynhyrchydd caws cyfagos wedi creu caws arbennig i ddathlu’r llwybr, o’r enw ‘King Alfred’s Yellow Jersey’.
Mae Cymru “… yn fwyaf tebygol o fod yn gysylltiedig â ‘chefn gwlad a phentrefi hardd’ a ‘gwylltir a natur’”,34 gyda rhai cyrchfannau’n denu nifer sylweddol o dwristiaid yn draddodiadol.
Mae gweithgareddau iachus yn yr awyr agored megis cerdded, seiclo, golff ac ati’n boblogaidd ymysg ymwelwyr undydd – Gwynedd yw’r awdurdod lleol lle mae hyn yn digwydd fwyaf, gyda 20% o’r ymwelwyr yn cymryd rhan mewn gweithgaredd o’r math hwn.35 Mae hwn yn beth da, ond yr hyn sy’n wael amdano yw bod llawer gormod o ymwelwyr yn teithio yno mewn car.
Er enghraifft, mae adroddiad rheoli traffig Parc Cenedlaethol Eryri’n dweud: “...bod yr orddibyniaeth bresennol ar geir i gael mynediad at safleoedd prysur a adwaenir fel rhai ‘pot mêl’ allweddol a’r broblem parcio cronig ar adegau prysur o’r flwyddyn yn fethiant yng nghyd-destun pwrpasau craidd y Parc Cenedlaethol. Mae hefyd yn golygu bod cymunedau lleol a’r economi leol yn dioddef effeithiau negyddol sy’n gysylltiedig â lefelau niferoedd yr ymwelwyr, ac nid ydynt yn cael cymaint o fudd ag y gallant ei gael.”36
25 Llywodraeth Cymru. Croeso i Gymru: Blaenoriaethau i’r Economi Ymwelwyr 2020-2025.
26 Archwilio Cymru: Twristiaeth Gynaliadwy ym Mharciau Cenedlaethol Cymru. Gorffennaf 2022.
27 Weston, R, Davies, N, Lumsdon, L a McGrath, P. The European Cycle Route Network: EuroVelo Study Senedd Ewrop. 2012
28 White, S a Smith, M. The Economic Impact of Outdoor Activity Tourism in Wales. Croeso Cymru. 2014
29 Cycling UK. Rides of Way. 2017
30 McDonough, S a Roche, N. Effaith Economaidd Cerdded Arfordirol yng Nghymru 2014. Adroddiad Tystiolaeth Rhif 171. Cyfoeth Naturiol Cymru. 2016
Nid yw Eryri’n eithriad yn hyn o beth. Mae’r tri Pharc Cenedlaethol yn dioddef o effaith negyddol dibyniaeth ymwelwyr ar geir, yn enwedig yn ystod y tymhorau brig.37
Afraid dweud mai un o’r datrysiadau gorau i hyn yw annog a hwyluso twristiaeth heb gar, sy’n amcan y byddai uwchraddio cynnig Cymru o ran seiclo oddi ar y ffordd (neu seiclo mewn cyfuniad â thrafnidiaeth gyhoeddus) yn ddelfrydol fel rhan o’r broses i’w wireddu.
Yn gyntaf, gellir cyrraedd ac archwilio mwy o dir mewn unrhyw gyfnod penodol ar feic nag wrth gerdded, os yw’r rhwydwaith seiclo’n gydlynol ac yn rhesymegol; ac yn ail, gall seiclo wasgaru ymwelwyr yn fwy eang yng nghefn gwlad, sy’n golygu y byddai agor mwy o lwybrau i feicwyr bron yn sicr o helpu i leihau’r tagfeydd ‘pot mêl’, a lleddfu’r pwysau ar y bobl sy’n byw a gweithio yn y cymunedau cyfagos.
Mae’n anochel y bydd rhai cymunedau’n poeni am wrthdaro ar lwybrau amlddefnydd lleol os yw nifer y bobl sy’n eu defnyddio’n codi’n gyflym. Yr ateb yw dilyn yr Alban a sefydlu Cod Mynediad Awyr Agored (Outdoor Access Code)38 sydd wedi helpu i wneud Deddf Diwygio Tir 2003 yn gymaint o lwyddiant.
31 Cyfoeth Naturiol Cymru. Evaluating the benefits to business of the Wales Coast Path. 2013
32 Pecyn 10fed pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru i’r cyfryngau (2022).
33 Cycling UK. King Alfred’s Way.
34 Llywodraeth Cymru. Adroddiad galw’r farchnad ym maes twristiaeth Croeso Cymru – y DU Mehefin 2022
35 Swyddfa Ystadegau Gwladol. Sub-National Tourism: A spatial classification of areas in England and Wales to show the importance of tourism, at county and unitary authority level, 2011 to 2013. 2015. Nododd yr adroddiad hwn bod un o bob pump (20%) o ymwelwyr undydd â Gwynedd (Eryri) wedi
mwynhau gweithgaredd awyr agored megis cerdded, seiclo, golff ac ati; y ffigyrau cyfatebol ar gyfer ymwelwyr undydd â Phowys (lleoliad Bannau Brycheiniog) oedd 15.5%, a Sir Ddinbych, 15%. Roedd oddeutu 10%-12.5% o ymwelwyr undydd â saith ardal awdurdod lleol arall hefyd yn mynd yno ar gyfer gweithgaredd hamdden awyr agored.
36 Partneriaeth Yr Wyddfa. Adolygiad Trafnidiaeth a Pharcio Yr Wyddfa ac Ogwen ac Arfarniad o’r Dewisiadau. 2020
37 Archwilio Cymru: Twristiaeth Gynaliadwy ym Mharciau Cenedlaethol Cymru. Gorffennaf 2022
38 The Scottish Outdoor Access Code. Gweler hefyd: Sustrans Advice on using shared-use paths; Ymgyrch British Horse Society/ Cycling UK’s ‘Be Nice, Say Hi!; a chod beicwyr mynydd Cycling UK
Gall seiclo wasgaru ymwelwyr yn fwy eang yng nghefn gwlad, sy’n golygu y byddai agor mwy o lwybrau i feicwyr bron yn sicr o helpu i leihau’r tagfeydd ‘pot mêl’.
Mae gorfod cadw at gilffyrdd, llwybrau ceffylau ac unrhyw lwybrau caniataol sy’n caniatáu seiclo – sef yr hyn mae’n rhaid i seiclwyr ei wneud ar hyn o bryd – yn creu profiad darniog, anghyson a rhwystredig.
Gwyddom nad yw seiclo yng nghefn gwlad ddim yn hwyl didrafferth fel y gallai ac y dylai fod.
Dangosodd ein harolwg ‘Rides of Way’:39
80%
y dywedodd mwy nag wyth o bob deg o’r rhai a ymatebodd ei fod yn anodd cynllunio llwybr ‘cyfreithiol’ ar y rhwydwaith hawliau tramwy presennol naill ai’n ‘aml’ neu ‘weithiau’; a
75%
bod oddeutu tri chwarter o’r rhai a ymatebodd yn teimlo nad yw’r rhwydwaith hawliau tramwy’n addas i’w ddefnyddio gan feicwyr heddiw.
Mae rhwydwaith darniog ac anghyson yn creu rhwystrau a sgil effeithiau annymunol o bob math.
39 Cycling UK. Rides of Way. 2017
40 Datganiad i’r wasg Cycling UK: Britain’s potential cyclists put off cycling due to traffic conditions and potholes. 31 Mai 2018
41 Arolwg Cenedlaethol Cymru. Cwestiwn trafnidiaeth.
42 Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. Trafnidiaeth addas ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol. Medi 2018
Mae natur ddigyswllt y rhwydwaith hawliau tramwy i feiciau’n golygu nad yw llawer ohono’n denu ond y bobl fwyaf heini a hyderus, yn enwedig beicwyr mynydd sy’n chwilio am dir technegol ac anodd yn benodol.
Gall fod yn ofidus cynllunio llwybrau cydlynol ar gyfer profiad beicio llai dyrys, sydd yn aml yr un mor gyffrous. Er enghraifft, mae’n ddiflas iawn dod ar draws llwybr troed, cilffordd neu lwybr ceffylau sy’n ddelfrydol ar gyfer seiclo, ond nad oes hawl ichi ei ddefnyddio.
Hefyd, mae gan gerddwyr yr ‘hawl i grwydro’ ar hyd llawer o draciau ar dir mynediad Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy, ond nid oes hawl swyddogol i seiclo, er bod y traciau’n llydan gyda wyneb da, ac yn ddelfrydol i feicwyr o bob gallu. Gall hyn i gyd fod yn ormod o rwystr i deuluoedd, pobl anabl, y rhai a hoffai seiclo’n fwy aml ac yn wir, y rhai nad ydynt yn chwilio am brofiad llawn adrenalin (eto). Yn sicr, mae’n drueni i gadw cymaint o gefn gwlad allan o gyrraedd seiclwyr o bob gallu, yn enwedig wrth i fryniau a phellteroedd hirach ddod yn bosibilrwydd i fwy o unigolion oherwydd beiciau â chymorth trydanol (e-beiciau).
Ar hyn o bryd fodd bynnag, nid yw cefn gwlad Cymru’n cynnig arlwy cyflawn o brofiadau seiclo sy’n apelio i wahanol bobl, neu i’r un bobl ar wahanol adegau o’u bywydau: teithiau byr ar hyd llwybrau ‘mynediad hawdd’; teithiau dros ddyddiau yn dilyn llwybrau pell cydlynol’; neu anturiaethau heriol yn y gwylltir garw.
Gall hefyd atal busnesau yng Nghymru rhag gwireddu eu potensial llawn. Mae Kath Goodey yn rhedeg cwmni tywys beiciau mynydd ger Betws-y-coed ac yn hyfforddi menywod i feithrin eu hyder a’u sgiliau ar ddisgyniadau technegol. Mae’n drist, meddai, bod “rhai tripiau’n anodd eu cynnal yng Nghymru oherwydd diffyg tir addas y gallwn fynd arno yn gyfreithlon, am mai ychydig o ddolennau rhesymegol sydd ar lwybrau ceffylau digon heriol. Felly, mae gen i drip llawn ar gyfer 14 o feicwyr ac rydym yn defnyddio paradwys beicio mynydd dyffryn afon Tweed yng ngororau’r Alban yn lle’r dyffryn sy’n gartref imi. Mae’n dorcalonnus bod rhaid imi gynnaI tripiau fel hyn yn yr Alban pan fyddai’r llety, caffis, bwytai a siopau beiciau yn fy ardal leol i yn gallu cael budd.”
Weithiau nid oes unrhyw ddewis ond seiclo ar hyd ffyrdd brawychus er mwyn cyrraedd y rhwydwaith oddi ar y ffordd sydd ar gael, neu mae’n rhaid eu defnyddio oherwydd diffyg cysylltedd yr hawliau tramwy.
Gall y syniad o amodau gelyniaethus ar y ffyrdd fod yn frawychus iawn: er enghraifft, dangosodd arolwg YouGov a gomisiynwyd gan Cycling UK, fod bron tri o bob pump (59%) o’r rhai a ymatebodd yng Nghymru’n dewis peidio seiclo oherwydd ‘gyrwyr yn mynd heibio’n rhy agos’, gyda’r un ganran yn dewis ‘gorfod rhannu’r ffordd gyda lorïau a cherbydau mawr eraill’.40
Mae darnau brawychus o ffordd a/neu ddiffyg cysylltedd yn gorfodi pobl – preswylwyr a thwristiaid fel ei gilydd – i yrru i gefn gwlad i’w brofi. Rhaid iddynt barcio’r car a mynd o’r fan honno (ac felly cyfrannu at y problemau ‘pot mêl’ a drafodwyd yn adran 2 uchod).
Mae hyn yn cau allan 12% o boblogaeth Cymru sydd heb gar (neu fan) ar gael iddynt neu aelodau eu haelwydydd fel arfer41 – ffigur sy’n debygol o fod yn uwch mewn cymunedau mwy tlawd.42
Mewn gwirionedd, prin fod y syniad o wynebu anawsterau hysbys ac anhysbys yn ystod teithiau a wneir ar drafnidiaeth gynaliadwy a/neu egnïol er mwyn cyrraedd mannau gwyrdd yn helpu’r rhai a allai yrru, ond sy’n penderfynu peidio am resymau amgylcheddol neu resymau eraill.
Wrth reswm, mae’n hanfodol gwella trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig a rhai eraill, ac i’r cynigion presennol i ddiwygio gwasanaethau bws hwyluso teithiau hamdden a theithiau defnyddioldeb ar fws/beic. Ond mae seiclo’r daith gyfan yn ffordd arbennig o gynaliadwy ac iach o fwynhau cefn gwlad ar drothwy eich drws neu dros bellter hirach, a dylid ei hwyluso yn hytrach na’i rwystro.
Gwyddom nad yw seiclo yng
nghefn gwlad ddim yn hwyl didrafferth fel y gallai ac y dylai fod.
Ar hyn o bryd, rhaid creu neu uwchraddio llwybrau i seiclo un ar y tro,fesul hawl tramwy, gyda’r broses yn dibynnu ar fecanweithiau cyfreithiol araf a chymhleth.
Fel y dywedodd y Gweinidog yn 2019: natur gymhleth y ddeddfwriaeth bresennol oedd un sbardun pwysig dros ddiwygio.” 43
P’un a fydd awdurdodau lleol yn fodlon ac yn gallu defnyddio’r ddeddfwriaeth bresennol ai peidio, nid yw’n broses syml iddynt wella eu rhwydweithiau hawliau tramwy lleol ar gyfer seiclo, yn bennaf oherwydd mai dim ond fesul achos y gallant weithredu.
Ac er bod gan awdurdodau ddyletswydd i lunio Cynllun Gwella Hawliau Tramwy er mwyn nodi a blaenoriaethu gwelliannau mynediad o dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy, nid
yw’n ddyletswydd arnynt i’w weithredu. P’run bynnag, mae llawer ohonynt heb yr adnoddau sydd eu hangen i wneud hynny. Felly mae’r broses o wella’r rhwydwaith hawliau tramwy er mwyn caniatáu llawer mwy o seiclo wedi bod, ac yn parhau i fod, yn araf tu hwnt. Dangosodd ymchwiliad Rhyddid Gwybodaeth yn Lloegr gan Cycling UK bod cynghorau wedi creu neu ddiweddaru llai nag un hawl tramwy newydd ar gyfer seiclo y flwyddyn ar gyfartaledd rhwng 2009-201944 . Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod y darlun yng Nghymru yr un mor
1. Cymhwyso hawliau seiclo a marchogaeth yn ddiofyn ar lwybrau troed cyhoeddus, ond gan alluogi awdurdodau lleol i hepgor llwybrau troed yr asesir eu bod yn anaddas trwy broses ffurfiol ac yn unol â meini prawf penodol.
2. Caniatáu seiclo, marchogaeth, barcuta, paragleidio, ymdrochi, a defnyddio cwch neu hwylfwrdd yn ddiofyn mewn ardaloedd â hawl mynediad dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.
3. Lleddfu pryderon ynghylch gwrthdaro ac ymddygiad anghyfrifol drwy ddatblygu a hyrwyddo Cod Mynediad Awyr Agored tebyg i’r un yn yr Alban.
4. Peidio â thrin y rhwydweithiau ar y ffordd ac oddi ar y ffordd fel endidau hollol ar wahân, ond fel rhai cydategol, trwy: cymhwyso canllawiau dylunio’r Ddeddf Teithio llesol i, er enghraifft, cyffyrdd, croesfannau, lonydd seiclo ar wahân ac arwyddion er mwyn helpu seiclwyr i gyrraedd a gadael hawliau tramwy’n ddiogel ac yn gyfleus; a chyfuno prosesau’r Map Rhwydweithiau Integredig a’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy.
Mae Cycling UK yn cydnabod yr heriau a achosir gan y cyfnod pontio hwn ac felly rydym wedi ceisio cydweithio ag eraill i’w goresgyn.
Fel rhan o’r Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer y Sector Gweithgareddau Awyr Agored, rydym wedi cynnig i’r Gweinidog y dylid cynnal treialon mewn ardaloedd penodol er mwyn profi effaith gwella hawliau mynediad cyfrifol i gefn gwlad ar gyfer amrywiaeth ehangach o weithgareddau, a thrwy hynny adnabod yn haws y dull gorau ar gyfer gweddill y wlad.
Mae tirwedd Cymru’n syfrdanol, yn therapiwtig ac yn werthfawr.
Mae archwilio cefn gwlad yn uniongyrchol ar feic yn ddewis iach nid yn unig i ddinasyddion ac economi Cymru, ond i gefn gwlad ei hun.
Er bod cyfres o gynigion ysbrydoledig ar gyfer gwella mynediad cyhoeddus wedi ymddangos a’r rhanddeiliaid arbenigol wedi penderfynu ar yr opsiynau gorau, does dim cynnydd wedi bod.
Mae Cycling UK yn credu y bydd Cymru ar ei cholled os yw’r oedi hwn yn parhau.
Felly rydym yn annog y Llywodraeth i ailafael yn y gwaith, ail-gynnau ei gweledigaeth o ran mynediad cyhoeddus, ac ar ôl blynyddoedd o baratoi, i fynd amdani.
Llwybrau i Gymru: rhaid inni weithredu ar frys cyclinguk.org
“… [r]ydym wedi ymrwymo fel Llywodraeth i alluogi mwy o bobl i fwynhau ein cefn gwlad yn rhwyddach – a gwneud yn fawr o’r manteision niferus o ran iechyd a llesiant a all ddeillio o fynd allan i’r awyr agored.
“Mae cefn gwlad hygyrch yn ategu ein hymdrechion i hybu Cymru fel cyrchfan i dwristiaid a phot mêl i gerddwyr, beicwyr a phobl sy’n chwilio am gyffro.”