APÊL DAEARGRYN TWRCI-SYRIA
© Hasan Belal/DEC/Fairpicture
Adroddiad Cynnydd
Eich haelioni ar waith. Adam*, myfyriwr mewn ysgol yn nhalaith Aleppo, Syria, gyda thoiledau a chyfleusterau ymolchi a gafodd eu hailsefydlu gan Action Against Hunger gan ddefnyddio arian o apêl DEC.
Cyhoeddwyd Ionawr 2024 Fersiwn Cryno
RHAGAIR Ar 6 Chwefror 2023, tarodd dau ddaeargryn wlad Twrci (a elwir bellach yn Türkiye). Dyma’r daeargrynfeydd mwyaf a welwyd yn y wlad yn y 100 mlynedd diwethaf. Roedd y daeargryn cyntaf yn mesur 7.8 a’r ail yn mesur 7.6. Collwyd degau o filoedd o fywydau, ac achoswyd difrod eang i gartrefi ar draws de Twrci a gogledd-orllewin Syria. Fe darodd y daeargryn cyntaf yn ddirybudd yn oriau mân y bore tra roedd pobl yn cysgu. Ychydig oriau’n ddiweddarach creodd yr ail ddaeargryn hyd yn oed rhagor o ddifrod mewn llawer o’r un ardal. Cafodd tua 300,000 o adeiladau eu dinistrio ar draws y ddwy wlad, gan gynnwys blociau o fflatiau, ysbytai ac ysgolion, ynghyd â difrod i ffyrdd, cyflenwadau pŵer a dŵr. Gadawyd bron i 18 miliwn o bobl mewn angen dybryd am gymorth dyngarol, gan gynnwys dŵr glân, bwyd a lle i fyw. Lansiodd y Pwyllgor Argyfyngau Brys (DEC) Apêl Daeargryn Twrci-Syria ar 9 Chwefror. O fewn pythefnos, roedd yr apêl wedi codi £100 miliwn. Roedd aelod elusennau’r DEC a’u partneriaid lleol yn ymateb yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt yn Nhwrci a Syria o fewn oriau i’r daeargryn cyntaf, gan ddarparu bwyd, dŵr, cysgod, dillad gwely a thriniaeth feddygol i bobl yr effeithiwyd arnynt. Yn yr wythnosau a’r misoedd ers y daeargrynfeydd, maent wedi parhau i ddarparu ystod eang o gymorth i ddiwallu anghenion sylfaenol pobl. Diolch i haelioni cyhoedd y DU, mae dros £150 miliwn wedi’i godi ers lansio’r apêl. Mae’r cyfanswm hwn yn cynnwys £5 miliwn gan Lywodraeth y DU fel rhan o’r cynllun Aid Match. Gyda’r arian hwn, mae elusennau DEC a phartneriaid lleol wedi gallu cefnogi cannoedd o filoedd o bobl yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt ar draws y ddwy wlad.
LLINELL AMSER YR APÊL Mae Cam 1 yn cwmpasu’r chwe mis cyntaf ac yn canolbwyntio ar ymateb brys. Mae Cam 2 yn rhedeg am y 18 mis nesaf, gyda ffocws yn symud i’r tymor hwy. Cam 2
Cam 1 6 Chwefror 2023 Daeargryn enfawr yn taro de Twrci am 4.17am, ac yna un arall oriau yn ddiweddarach 9 Chwefror 2023 DEC yn lansio Apêl Daeargryn Twrci-Syria
© Karam Al-Masri/DEC
19 Chwefror 2023 Y gwaith chwilio ac achub yn dod i ben yn y rhan fwyaf o ardaloedd 23 Chwefror 2023 Rhoddion i’r apêl yn cyrraedd £100 miliwn
Mawrth 2023 Llywodraeth Twrci yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer safleoedd cynwysyddion Mawrth-Ebrill 2023 Llifogydd yn effeithio ar dde Twrci a Syria
Gorffennaf 2023 Tywydd poeth eithafol yn gweld tymheredd yn codi i’r entrychion yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt 3 Awst 2023 Rhoddion i’r apêl yn cyrraedd £150 miliwn 31 Awst 2023 Diwedd prosiectau cymorth brys Cam 1 DEC
1 Medi 2023 Dechrau prosiectau adfer Cam 2 DEC
Ionawr 2024 Dyddiad cyhoeddi’r Adroddiad
Ionawr 2025 Diwedd prosiectau a ariennir gan y DEC, gyda gwaith yn cael ei barhau gan aelod elusennau’r DEC
Amal* yn eistedd gyda’i mab o flaen pabell yn nhalaith Aleppo, Syria, bedwar diwrnod ar ôl y daeargryn.
Digwyddodd cam cyntaf ymateb y DEC am chwe mis rhwng 9 Chwefror a 30 Gorffennaf 2023. Yn y cyfnod hwn, canolbwyntiodd aelod elusennau’r DEC ar roi cymorth hanfodol i’r cymunedau yr effeithiwyd arnynt fwyaf, gan gynnwys darparu bwyd a thaliadau arian parod uniongyrchol, atgyweirio seilwaith dŵr a ddifrodwyd ac adeiladu toiledau. O fis Awst 2023 mae gweithgareddau wedi symud tuag at gymorth tymor hwy, gan gynnwys adfer bywoliaeth pobl, tra’n parhau i helpu i ddiwallu anghenion sylfaenol y bobl fwyaf agored i niwed y mae’r drychineb wedi effeithio arnynt. Mae’r adroddiad hwn yn esbonio sut y mae aelod elusennau’r DEC a’u partneriaid lleol wedi ymateb i’r drychineb, gan roi trosolwg ac enghreifftiau o’r hyn a gyflawnwyd gyda’r arian. Mae’n dangos sut mae cyllid DEC wedi helpu aelod elusennau a’u partneriaid lleol i ymateb i effaith uniongyrchol y daeargrynfeydd a dechrau paratoi ar gyfer y llwybr hir i adferiad. Drwy gydol yr adroddiad hwn mae’r enwau a nodir â * wedi’u newid i ddiogelu hunaniaeth y bobl.
CYD-DESTUN
CYD-DESTUN
YR ARGYFWNG DYNGAROL Tua 4.17am amser lleol ar 6 Chwefror 2023, tarodd daeargryn oedd yn mesur 7.8 de-ddwyrain Twrci, ac yna ychydig oriau yn ddiweddarach daeargryn yn mesur 7.6. Effeithiodd y daeargrynfeydd ar ardal fawr o dde Twrci a gogledd-orllewin Syria, gan ladd dros 56,000 o bobl gyda nifer fawr iawn yn rhagor wedi’u hanafu.
Cyd-destun gwledydd Mae’r sefyllfa yn y ddwy wlad yn wahanol iawn. Mae Awdurdod Rheoli Trychinebau ac Argyfwng (AFAD) llywodraeth Twrci yn arwain ac yn cydlynu’r ymateb yn Nhwrci. Canolbwyntiodd cefnogaeth uniongyrchol ar chwilio ac achub, darparu gofal meddygol i bobl a anafwyd, a darparu bwyd, dŵr a lloches brys i gymunedau bregus. Mae AFAD wedi sefydlu gwersylloedd ffurfiol i gartrefu pobl mewn pebyll a chynwysyddion llongau. Mae llawer o bobl wedi symud i rannau eraill o’r wlad ar ôl colli eu cartrefi. Ers oriau cyntaf y daeargrynfeydd, mae aelod elusennau’r DEC a’u partneriaid lleol wedi bod yn cyfrannu at yr ymateb, gan helpu i ddiwallu anghenion hanfodol pobl. Mae hyn yn cynnwys darparu dŵr glân, bwyd, cysgod, gwres, dillad cynnes, cyfleusterau glanweithdra diogel a hygyrch, a gofal iechyd o safon uchel.
O ganlyniad i dros ddegawd o ryfel cartref ac ansefydlogrwydd, mae gan Syria un o’r poblogaethau dadleoledig mwyaf yn y byd. Cyn y daeargrynfeydd roedd tua 60% o bobl gogledd-orllewin Syria wedi cael eu gorfodi i ffoi o’u cartrefi er mwyn osgoi gwrthdaro. Mae llawer o bobl yn byw mewn llochesi dros dro a gwersylloedd pebyll gyda mynediad cyfyngedig at fwyd, dŵr glân a gofal iechyd. Ychwanegodd y daeargrynfeydd argyfwng arall at sefyllfa a oedd eisoes yn ddinistriol. Mae amcangyfrifon yn dangos bod tua 2 filiwn o bobl bellach yn byw mewn gwersylloedd a llochesi yng ngogledd-orllewin Syria. Mae gwersylloedd a chymunedau gorlawn wedi cael eu rhoi dan hyd yn oed mwy o straen yn sgil dyfodiad teuluoedd y cafodd eu cartrefi eu dinistrio neu eu difrodi’n ddrwg gan y daeargrynfeydd.
Effeithiwyd yn uniongyrchol ar bron i 18 miliwn o bobl ar draws y ddwy wlad gan y daeargrynfeydd. Cafodd o leiaf 300,000 o adeiladau eu dinistrio neu eu difrodi’n ddrwg, gan adael pobl allan yn nhywydd oer y gaeaf heb loches. Tarfwyd ar gyflenwadau bwyd, dŵr glân a phŵer, a difrodwyd ysbytai ac ysgolion. Yn Nhwrci, mae 3 miliwn o bobl wedi’u dadleoli i rannau eraill o’r wlad tra bod llawer o rai eraill bellach yn byw mewn pebyll gorlawn mewn gwersylloedd a chynwysyddion llongau wedi’u haddasu.
Yng ngogledd-orllewin Syria, mae’r cyd-destun gwaelodol yn gymhleth. Mae mwy na degawd o wrthdaro a chynnwrf wedi gadael y boblogaeth yn ymdopi â nifer o argyfyngau. Mae pobl wedi bod yn delio â dadleoli, prinder bwyd a dŵr, chwyddiant yn rhemp, dibrisio arian cyfred, diffyg swyddi, ac argyfwng tanwydd ac ynni ers blynyddoedd. Mae’r rheng flaen rhwng ardaloedd a reolir gan y llywodraeth ac ardaloedd nad ydynt yn cael eu rheoli gan y llywodraeth yn rhedeg drwy’r rhanbarth yr effeithiwyd arno waethaf gan y daeargrynfeydd. Mae hyn wedi ei gwneud hi’n anoddach i asiantaethau dyngarol gyrraedd y bobl sydd â’r angen mwyaf brys am help yn gyflym.
LLEOLIAD AC EFFAITH Y DAEARGRYNFEYDD RWSIA
BWLGARIA
GEORGIA Istanbwl
Nid oes unrhyw ymateb cydgysylltiedig cyffredinol i’r daeargrynfeydd mewn gwlad sy’n dal wedi’i rhannu gan wrthdaro. Gyda llawer o bobl eisoes yn byw mewn caledi eithafol, mae difrod daeargryn wedi difrodi ymhellach wasanaethau sylfaenol megis ysbytai a systemau dŵr, ac wedi tarfu ar lwybrau cyflenwi ar gyfer cymorth dyngarol. Mae hyn
ARMENIA Ankara
TWRCI
hefyd wedi ei gwneud yn anodd dod â deunyddiau adeiladu neu beiriannau trwm i’r ardal. Ar ben yr argyfwng presennol a hirfaith yn Syria, mae’r daeargrynfeydd wedi gwneud yr angen am gymorth dyngarol hyd yn oed yn fwy brys ac yn anoddach i’w gyflawni. Fodd bynnag, gan fod nifer o elusennau DEC eisoes yn gweithio yn Syria, maent wedi gallu addasu a chynyddu eu gwaith.
Amodau tywydd heriol Effeithiwyd ar yr ymateb dyngarol i’r daeargrynfeydd gan achosion o dywydd eithafol. Digwyddodd y daeargrynfeydd yn nhymheredd caled y gaeaf, gyda phobl angen mynediad ar unwaith at lochesi brys, yn ogystal â blancedi a phrydau poeth. Fe wnaeth glaw trwm a llifogydd daro Twrci a Syria ym misoedd Mawrth ac Ebrill, gan olygu bod angen ymyrraeth gyflym gyda dillad a chefnogaeth briodol i osgoi salwch a chlefydau rhag effeithio ymhellach ar gymunedau. Ym mis Gorffennaf, profodd y ddwy wlad y tymheredd uchaf erioed, felly cynyddodd aelod elusennau a’u partneriaid lleol gyflenwad dŵr glân i gymunedau. Roedd y tywydd poeth hefyd yn anodd i staff oedd yn gweithio ar lawr gwlad. Addasodd aelod elusennau’r DEC a phartneriaid lleol oriau gwaith i amddiffyn staff rhag y gwres dwys yng nghanol y dydd. Bron i flwyddyn ar ôl y drychineb, er gwaethaf ymdrechion enfawr y gymuned ryngwladol, mae anghenion y ddwy wlad yn parhau i fod yn fawr oherwydd y difrod enfawr a achoswyd. Mae angen cymorth materol parhaus ar lawer o bobl a chymorth i adennill eu bywoliaeth, ac mae hefyd angen cymorth iechyd meddwl a seicogymdeithasol i helpu pobl i ymdopi â’r profiadau anodd y maent wedi’u dioddef a lleihau’r risg o ddatblygu gorbryder ac iselder. Teuluoedd ar dir hen faes parcio mewn parc thema, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio fel gwersyll Cilgant Coch Twrci i gartrefu rhai o’r degau o filoedd o bobl sydd wedi’u dadleoli gan y daeargrynfeydd yn Osmaniye, de Twrci.
IRAN
Gaziantep Hatay
04
LIBANUS
SYRIA Damascus
Data: Arolwg Daearegol yr Unol Daleithiau. Mae’r ardal yn dangos cryndod o MMI 4.5 ac uwch.
© Bradley Secker/Y Groes Goch Brydeinig
Uwchganolbwynt y daeargryn
IRAC
Idlib
CYPRUS Parth y daeargryn
Aleppo
05
SUT MAE'R DEC YN HELPU
SUT MAE'R DEC YN HELPU
SUT MAE’R DEC YN HELPU Erbyn mis Ionawr 2024 roedd Apêl Daeargryn TwrciSyria y DEC wedi codi £155 miliwn. O hyn, codwyd £102 miliwn gan y DEC, a £5 miliwn drwy gynllun UK Aid Match llywodraeth y DU. Codwyd y £48 miliwn sy’n weddill gan aelod elusennau’r DEC gan ddefnyddio cydfrandio DEC.
31%
Ers lansio’r apêl, mae aelod elusennau’r DEC wedi bod yn gweithio’n uniongyrchol ac ochr yn ochr â phartneriaid lleol i ddefnyddio’r arian i ddiwallu anghenion cannoedd o filoedd o bobl yn Nhwrci a Syria.
£155 MILLWN WEDI'I GODI
Mae 14 o aelod elusennau’r DEC yn rhan o’r ymateb i’r daeargryn.
09/01/2024
DADANSODDIAD O’R GYLLIDEB A GWARIANT
66%
3%
Cyllideb Wedi’i Chadarnhau Cam 1
£30.6 miliwn
£155 miliwn wedi’i godi
Gwariant chwe mis Cam 1
£31.5 miliwn*
*Dygodd aelod elusennau’r DEC arian a ddyrannwyd i Gam 2 yr ymateb ymlaen i ddarparu cymorth ychwanegol yn ystod y cam cyntaf.
£102 miliwn gan Roddwyr Uniongyrchol DEC £5 miliwn gan UK Aid Match
£48 miliwn o Incwm a gedwir gan aelod elusennau
Yn ystod chwe mis cyntaf Apêl Daeargryn Twrci-Syria y DEC, darparodd aelod elusennau a phartneriaid lleol y canlynol:
09/01/2024
921,000
o bobl â mynediad at ddŵr yfed diogel
© Özge Sebzeci/DEC/Fairpicture
186,000
08
Rumeysa, seicolegydd, a Nur, fferyllydd a chynorthwyydd seicogymdeithasol, y ddau gyda Chymdeithas y Meddygon Annibynnol, partner i’r Pwyllgor Achub Rhyngwladol, yn darparu cymorth seicogymdeithasol i bobl sy’n byw mewn gwersyll cynwysyddion yn Nhwrci.
o bobl â phecynnau hylendid yn cynnwys glanedyddion golchi dillad a llestri, brwshys dannedd, past dannedd a sebon
285,000
269,000
o bobl â thaliadau arian parod neu dalebau i brynu bwyd, meddyginiaeth, dillad ac eitemau eraill ar gyfer y cartref
o bobl â pharseli bwyd brys neu dalebau i brynu bwydd
150,000
34,100
o bobl â phecynnau sy’n cynnwys blancedi, eitemau cegin a dillad
o bobl â mynediad at raglenni cymorth iechyd meddwl neu seicogymdeithasol
09
SUT MAE'R DEC YN HELPU
SUT MAE'R DEC YN HELPU
GWARIANT CHWE MIS YN ÔL SECTOR
Diwallu anghenion uniongyrchol
Sut rydym yn adrodd ar ein gwariant
Arian parod amlbwrpas Dŵr, glanweithdra a hylendid Cysgod ac eitemau nad ydynt yn fwyd
Mae’r apêl wedi canolbwyntio ar gael cymorth lle mae ei angen ar y mwyaf o frys a chefnogi’r teuluoedd a’r cymunedau mwyaf agored i niwed. Yn ystod y chwe mis cyntaf, defnyddiodd aelod elusennau a’u partneriaid lleol arian DEC i gyflawni 23 o brosiectau gyda naw yn Nhwrci a 14 yn Syria.
Yn ystod apêl, daw mwyafrif y rhoddion yn syth i’r DEC tra bod eraill yn mynd yn uniongyrchol i aelod elusennau. Mae’r DEC ond yn goruchwylio ac yn adrodd ar y rhoddion sy’n dod yn uniongyrchol i’r elusen, sef £107 miliwn ar gyfer yr apêl hon. Hyd yma, mae’r DEC wedi dyrannu £91 miliwn i aelod elusennau, a fydd yn cael ei wario dros ddwy flynedd. Bydd rhagor o arian yn cael ei ddyrannu i aelodau, i’w wario cyn mis Chwefror 2025.
32% 27% 14% 13%
Bwyd Arall
Yn ystod chwe mis cyntaf yr ymateb, canolbwyntiodd y prosiectau hyn ar ddarparu:
6%
Amddiffyniad
5%
Iechyd
3% 0
Cymorth arian parod: darparu taliadau arian parod neu dalebau fel y gall pobl brynu’r hyn sydd ei angen arnynt, megis bwyd, dillad neu eitemau cartref 5
10
15
20
25
30
35
40
DADANSODDIAD AELODAU O DEC A PHARTNERIAID Aelod elusennau’r DEC
Partneriaid lleol yn Nhwrci a Syria
Wedi’i wario gan bartneriaid lleol a chenedlaethol
14
31
£9.3 miliwn
Cymorth dŵr, glanweithdra a hylendid (WASH): rhoi mynediad i bobl at ddŵr yfed glân, trwsio difrod i seilwaith dŵr, a chyflenwi pecynnau hylendid yn cynnwys eitemau megis padiau misglwyf, dillad isaf, sebon a brwshys dannedd Lloches: darparu pebyll dros dro, tarpolinau, offer cegin, matresi, blancedi a dillad cynnes i bobl oedd wedi colli eu cartrefi a’u heiddo Parseli a thalebau bwyd: sefydlu ceginau cymunedol i ddarparu prydau poeth, dosbarthu parseli bwyd brys a thalebau ar gyfer bwyd Gofal iechyd: sefydlu clinigau iechyd symudol, a helpu i ailstocio pecynnau meddygol a meddyginiaethau Amddiffyn: darparu sesiynau cwnsela i bobl sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl a helpu grwpiau agored i niwed i aros yn ddiogel.
CYNLLUNIAU CAM 2 YN ÔL SECTOR
Awst 2023 – Ionawr 2025 Arian parod amlbwrpas Bywoliaethau
21%
Dŵr, glanweithdra a hylendid
18%
Iechyd
10%
Amddiffyniad
7%
Addysg
4%
Meithrin gallu
4%
Cysgod ac eitemau nad ydynt yn fwyd
4%
Bwyd
3%
Arall
3% 0
10
Mae Cam 2 ymateb y DEC yn rhedeg o fis Awst 2023 i fis Ionawr 2025. Yn ystod y cyfnod hwn bydd aelodau'r DEC a phartneriaid lleol yn cefnogi adferiad parhaus Twrci a gogledd-orllewin Syria. Gyda’i gilydd, byddant yn canolbwyntio ar gefnogi pobl i adennill eu bywoliaeth, cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n cynhyrchu incwm, ailadeiladu cyflenwad dŵr hanfodol a seilwaith glanweithdra, ac ailadeiladu cymunedau.
26%
5
10
15
20
25
30
35
40
Yn Nhwrci mae ffocws parhaus ar gymorth arian parod, gyda chynlluniau i gyrraedd mwy na 130,000 o bobl, tra yn Syria mae gofal iechyd a dŵr, glanweithdra a hylendid yn flaenoriaethau, gyda chynlluniau i ddarparu gwell mynediad at ddŵr glân i dros 680,000 o bobl a 640,000 o bobl i gael cymorth gofal iechyd megis ymgynghoriadau meddygol, dosbarthu meddyginiaethau a darpariaeth pecynnau cymorth cyntaf. Fodd bynnag, mae cyllid DEC wedi’i gynllunio i fod yn hyblyg er mwyn caniatáu i aelod elusennau addasu eu rhaglenni’n gyflym, a gall cynlluniau newid yn unol â’r anghenion newidiol ar lawr gwlad.
Mae’r adroddiad hwn yn esbonio sut mae aelod elusennau a’u partneriaid yn defnyddio arian DEC i gefnogi pobl Twrci a Syria. Yn ystod chwe mis cyntaf yr ymateb, gwariwyd £31.5 miliwn, gyda £10.0 miliwn yn Nhwrci ac £20.8 miliwn yn Syria a £0.6 miliwn ar fentrau ansawdd ac atebolrwydd rhanbarthol. Defnyddir canran fechan (8.2%) o’r arian i dalu costau codi arian, gweinyddu a gweithredu DEC. Mae’r costau hyn yn hollbwysig gan eu bod yn helpu’r DEC i godi’r arian i ariannu ei waith, sicrhau bod arian yn cael ei wario’n dda a sicrhau bod yr elusen yn rhedeg yn effeithlon ac yn effeithiol.
GWARIANT CHWE MIS YN ÔL GWLAD
2% 32%
Syria
66%
TWRCI
Mentrau rhanbarthol
Pam mae mwy o arian wedi’i wario yn Syria nag yn Nhwrci Er bod y daeargrynfeydd wedi achosi dinistr yn Nhwrci a Syria, mae’r sefyllfa yn y ddwy wlad wedi bod yn wahanol (gweler tudalen 4). Mae aelod elusennau’r DEC yn seilio eu penderfyniadau ar ba gymorth i’w ddarparu ac ymhle yn dibynnu ar yr anghenion ar lawr gwlad a pha gymorth arall sydd eisoes yn cael ei ddarparu. Yn Nhwrci, mae’r asiantaeth rheoli trychinebau cenedlaethol, AFAD, wedi bod yn cydlynu’r ymateb dyngarol ac yn darparu cymorth sylweddol. Yn Syria, roedd 12 mlynedd o wrthdaro yn golygu nad oedd un ymateb cydgysylltiedig i’r daeargrynfeydd a llai o adnoddau cenedlaethol ar gael i gynorthwyo cymunedau yr effeithiwyd arnynt.
Roedd yr anghenion yn Syria eisoes yn uchel a chawsant eu gwaethygu gan y daeargrynfeydd. Er enghraifft, difrodwyd seilwaith dŵr bregus yn ddrwg gan y daeargrynfeydd heb neb i’w atgyweirio, ac roedd colera yn bresennol mewn rhai ardaloedd. Roedd llawer o bobl eisoes yn byw mewn gwersylloedd cyn y daeargrynfeydd. Roedd yn rhaid i’r gwersylloedd hyn wedyn groesawu mwy o bobl oedd wedi colli eu tai yn y daeargrynfeydd. Er bod yr anghenion yn y ddwy wlad yn enfawr yn dilyn trychineb mor ddinistriol, mae’n hanfodol bod arbenigwyr ar lawr gwlad yn gwneud y penderfyniad ynglŷn â ble i ganolbwyntio cymorth er mwyn gwneud yn siŵr bod yr ymateb mor effeithiol â phosibl.
Mae Huda* yn gwylio wrth i feddyg o bartner Age International, Cymdeithas Feddygol Alltud Syria, archwilio ei hŵyr Usama* yng ngogledd-orllewin Syria yn y dyddiau ar ôl y daeargryn.
© Karam Al-Masri/DEC
9 Chwefror – 31 Gorffennaf 2023
11
CAMAU NESAF
CAMAU NESAF
CAMAU NESAF Mae ail gam ymateb DEC bellach ar y gweill, gyda ffocws cynyddol ar helpu pobl i wella ac ailadeiladu eu bywydau a’u bywoliaeth, yn ogystal â gofal iechyd a chymorth seicogymdeithasol. Bydd arian a godwyd gan apêl y DEC yn parhau i ariannu’r gwaith hwn tan fis Ionawr 2025, ac wedi hynny bydd aelod elusennau’r DEC yn parhau â’u gwaith hanfodol yn y rhanbarth gan ddefnyddio cyllid o ffynonellau eraill.
© Özge Sebzeci/Fairpicture/DEC
Eich haelioni ar waith.
42
Bydd y DEC yn cynhyrchu adroddiad terfynol ar yr ymateb cyffredinol ar ôl i raglenni ddod i ben ym mis Ionawr 2025.
Prif Weithredwr DEC Saleh Saeed yn cymryd rhan mewn dosbarthiad o ddrws i ddrws gan Achub y Plant mewn pentref mynyddig anghysbell yn nhalaith wledig Gaziantep, Twrci, ym mis Gorffennaf 2023.
43
AELOD ELUSENNAU DEC
DISASTERS EMERGENCY COMMITTEE 17-21 Wenlock Road Llundain N1 7GT Ffôn: 020 7387 0200 www.dec.org.uk Elusen Gofrestredig Rhif 1062638 Rhif Cwmni 3356526