Golau
Dyfan Lewis
© Dyfan Lewis 2018 Prosiect Golau. Cyhoeddwyd yn Awst 2018 gan Wasg Pelydr. Argraffiad cyfyngedig. Rhif
'Light, too, encrusts us making visible The motions of the mind and giving form To moodiest nothings...' Wallace Stevens
Dyro i mi'r du dilychwin i orffwys ynddo. Y man nas llygrwyd gan dameidiau llwch. Di-rych, digyffwrdd, caf wylio tuag allan a phrofi heb deimlo creithiau'r pelydrau ar yr ochr draw. Dyro i mi'r du y tu hwnt i drais golau heb waddol rhyw wirionedd yn drwsgl ar draws fy ngwedd. Daw urddas o drigo mewn lle o'r fath. Y du eithaf, y dĂźwch, o'r diwedd!
Daeth fel diferyn i ddechrau, distadl ac addfwyn. Digon pert hefyd, ei olau llosg yn goferu i lawr, llawn lliw. Ein ffrind ydoedd, dangosodd i ni o'r newydd belydr, llafn, doethineb, ein hebrwng at warineb cyn llyncu. Ac felly, ystyriwch hyn; pwy all gyrraedd mewn hwyliau da, a distryw lled hynaws, llawn cynllwyn, llesmeiriol swyn drwy syndod rhith? Dim ond y Grym Gwyn wedi neidio o'i nyth.
Wele! Trasiedi ein hamser, dau begwn byth yn cwrdd dau mor debyg a gwahanol. Sylwch ar y gwacter a'r blerwch sy'n teyrnasu'n ei ganol. Pethau a anffurfiwyd, a wthiwyd i'r cyrion. Pethau y mae modd gweld ynddynt gyffyrddiadau newydd, swil, a chariad rhyngddynt rywle yn y bwlch rhwng ffolineb golau a diffyg llwyr.
'Sdim byd iach am y peth. Dw i am yfed dy wedd a suddo. Troi'n ddiferyn coll yn yr hylif, bodoli ymhlith dy wythiennau, neu'n un o'r cleisiau o bosib rhywbeth bach mwy amlwg. Un peth sy'n sicr: dw i am lifo i lawr a gadael i'r halen dorri i lawr am sbel.
Alla'i ddim cofio'n iawn pryd wnes i groesi draw. Roedd yna ryw ddisgwyl mawr, fel pe bai gofyn i mi gofio, ond alla'i ddim. Alla'i ddim cofio'r amser gynt chwaith, na'r pethau eraill oedd yno. Dim ond y trosi ac wedyn gadael fy Ă´l ar batrymau hudol y creu.
A weli di siapiau'r ehangder? Maent yn estyn ac yn plygu. Cyfarch ei gilydd yn ysbeidiol, mynegi hoffter am wedd a lliw. Gwenu fel mae hen ffrindiau'n arfer gwneud, a phwy all eu beio? Mae'n hawdd bod yn unig weithiau.
Er fy ngeni fel y rhain y lleill sydd yma'n un llanast wyf arall. Ceisiais ymuno â nhw. Newid fy anian, cynnal gwedd ddifrifol; cydymffurfio a chadw'n ffaeleddau'n ddarnau pitw i'w cau mewn tyllau. Ara deg hollti oedd byw, a chydag amser collais fy mhwyll achos yr amser a gollais a'r hyn a ollyngais wrth droi a ffoi rhag eu hanghysur nhw. Ond na. Dim rhagor. Wyf arall eto. Caf fodloni'n fy lletchwithdod. Ar wahân ac effro, eto.
Daeth nam ar y gwydr. Gwasgarodd, gan gymylu eglurder croyw'r realiti y tu hwnt iddo. Fy ngadael wedi drysu ac yn ceisio dehongli'r lliwiau ffaeledig, annelwig ar yr ochr arall. Ac efallai, nawr, daw pethau'n gliriach wrth syllu ar y siapiau cyntefig: ambell newid o'r diwedd. Efallai. Ond yma fydda i nes i ragor wawrio. Yn aros, a dim ond aros fy nhro.
Ati! Tua'r golau. Dwyn i'r co ryw dro cynt. Rhyw ddydd neu ddiwrnodau, efallai, rai hafau yn Ă´l nawr yn olau a lliw a gwres yr haul drostynt.