Care Society Adroddiad Blynyddol 2015

Page 1

CYMDEITHAS GOFAL THE CARE SOCIETY

ADRODDIAD BLYNYDDOL

2015

www.caresociety.org.uk


Ein

h t e a g i Gweled thasol

mdei iant cy s hrio y w h yn eu heit c l e u a b c y H gl y l rhag , y pery al pob t d a d e y f w e r r eu t digart r ffaith d ’ d u y e w n r f ohe rtre neu lli eu ca ty annigonol o g t n e yng n lle gall w mew efydlog y s b n a n y u bod gos. hiada dd cyfa amgylc e o n r i w s e r m a’ digion Nghere

Ein Ce

nhada

eth

Darpa ru gw asana sy’n c anolb ethau w o yntio weith ar y cw safon io me wn m smer, odd h gan dychm y b l y g, arlo ygus a e c yma sol, Darpa tebol. ru tai addas pobl i a chyn wired orthw du eu yo poten sial lla wn.

01970 639111 info@caresociety.org.uk www.caresociety.org.uk 2

Adroddiad Blynyddol y Gymdeithas Gofal 2015


Cynnwys Adroddiad y Cadeirydd

04

Adroddiad y Cyfarwyddwr Gweithredol

05

Bywgraffiadau Aelodau’r Bwrdd

06

Amcanion a Gwasanaethau

09

Ein Gwasanaethau Cyflawniadau Lloches Nos Enghreifftiau Cadarnhaol o Symud Ymlaen Llety Argyfwng Gweithgareddau i Gleientiaid Cynllun Bond Cynllun Cymorth Tenantiaeth Ledled y Sir

10

Prosiectau Gwirfoddoli

19

Cynlluniau Menter Gymdeithasol Menter Gymdeithasol Gwasanaeth Ystadau a Gosod Siop Elusen Gwasanaethau Cynnal

20

Cyfrifon Talfyredig

24

Adroddiad Blynyddol y Gymdeithas Gofal 2015

3


Adroddiad y Cadeirydd Mae Adroddiad Blynyddol 2014/15 yn rhoi trosolwg o ystadegau, hanesion a gwybodaeth gyffredinol am waith Y Gymdeithas Gofal. Mae’n anrhydedd bod yn Gadeirydd, a gallaf ychwanegu’r geiriau ‘ymroddgar, gwych a heriol’ i ddisgrifio’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y staff, y gwirfoddolwyr a Bwrdd y Cyfarwyddwyr hefyd. Yr hyn rydw i’n ei edmygu fwyaf am Y Gymdeithas Gofal yw ei gallu i addasu a newid yn unol ag amgylchedd sy’n newid yn barhaus. Mae ein sefydliadau partner a’n cyllidwyr wedi gwrando ar yr adborth a ddarparwyd, ac mae hyn yn holl bwysig pan gaiff penderfyniadau anodd eu gwneud gan y bwrdd.

4

th gwai r ’ o h b n falc eud ar bo ’ i w n Ryd l ei w r hyn sydd e a c sy’n nal y r ac yn n y g i lefel ym yn aw u ar genn i adeilad ol. helpu au’r dyfod uni gynll

Adroddiad Blynyddol y Gymdeithas Gofal 2015

Pan fyddaf yn gweld faniau gwaith cynnal a chadw Y Gymdeithas Gofal, yr asiantaethau gosod, y siop elusen a’r holl wasanaethau tai a digartrefedd a ddarperir, rydw i’n falch o’r gwaith sy’n cael ei wneud ar bob lefel. Bydd y gwaith hwn yn cynnal yr hyn sydd gennym yn awr ac yn helpu i adeiladu ar gynlluniau’r dyfodol. Rydym ni fel Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn rhoi’r flaenoriaeth bennaf i ddyfodol Y Gymdeithas Gofal, a does dim ots pa mor anodd yw’r hyn sydd o’n blaenau, byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod gwasanaethau ar gael i’r bobl fwyaf bregus yng nghefn gwlad gorllewin Cymru. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’n hasiantaethau partner a’n cyllidwyr, ein Bwrdd Cyfarwyddwyr ymroddgar a’r staff gwych sy’n gwireddu’r weledigaeth.

Tracy Lee Cadeirydd


Adroddiad y Cyfarwyddwr Gweithredol Yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn, er gwaethaf llymder parhaus, diwygiadau lles a llai o gyllid yn y sector cyhoeddus, mae’r Gymdeithas Gofal wedi gwella gwasanaethau sy’n bodoli eisoes ac wedi cyflwyno prosiectau newydd hefyd i fodloni anghenion unigolion a theuluoedd sy’n byw yng Ngheredigion a Chanolbarth Cymru.

Rydw i’n hynod ddio lchgar am ymroddiad, tost uri ac ymrwymiad ein gwirfoddolwyr, Bwrd d y Cyfarwyddwyr ac i’m cydweithwyr...

Er gwaethaf adnoddau cyfyngedig, mae’r Gymdeithas Gofal wedi cynyddu’r llety lloches nos sydd ar gael i fodloni cynnydd o 19% yn y galw am loches nos. Yn ystod yr un cyfnod, bu cynnydd o 37% hefyd mewn darpariaeth ‘Llety Argyfwng Warden’ ac mae ein portffolio Ystadau a Gosod o lety sector preifat wedi parhau i dyfu. Rydw i’n hynod ddiolchgar am ymroddiad, tosturi ac ymrwymiad ein gwirfoddolwyr, Bwrdd y Cyfarwyddwyr ac i’m cydweithwyr sy’n gweithio yn ein Tîm Cynnal, ein Siop Elusen ac yn ein ‘Gwasanaeth Cymorth Tenantiaeth’ sy’n parhau i helpu cymaint o bobl a bob tro’n mynd y tu hwnt i’r disgwyl. Rydw i’n eithriadol o ddiolchgar hefyd am gefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru, asiantaethau partner yr Awdurdod Lleol, grwpiau cymunedol a sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus a phreifat. Hebddynt, ni fyddai’r Gymdeithas Gofal yn gallu cyflwyno gwasanaethau integredig hanfodol a helpu i fodloni’r heriau penodol sy’n wynebu pobl a chymunedau ar hyd a lled cefn gwlad Canolbarth Cymru. Guy Evans Cyfarwyddwr Gweithredol

Adroddiad Blynyddol y Gymdeithas Gofal 2015

5


Bywgraffiadau Aelodau’r Bwrdd Robert Gray Cafodd Robert ei hyfforddi i fod yn Gyfrifydd Siartredig gydag Ernst Young yng Nghaerlŷr, a daeth yn gyfrifydd cymwys yn 1985. Ar ôl hynny, bu’n gweithio dramor ac ym maes diwydiant cyn dychwelyd i Aberystwyth, lle bu’n fyfyriwr yn y brifysgol, i weithio i gwmni preifat yn 1991 gan arbenigo mewn cleientiaid a oedd yn gwmnïau cyfyngedig ac yn elusennau.

Mark Strong Mae Mark wedi bod yn aelod o’r bwrdd ers 2004 ac mae’n Gadeirydd y bwrdd ers 2010. Mae gan Mark brofiad a dealltwriaeth helaeth o ddeddfwriaeth, y modd y mae llywodraeth leol yn gweithio, y modd y caiff ei hariannu drwy’r strwythur grantiau, a’r modd y gellir cael gafael ar grantiau. Mae ganddo gryn brofiad o ymwneud ag ymgyrchoedd gwleidyddol a gwaith lobïo. Mae Mark yn ymwybodol iawn 6

Adroddiad Blynyddol y Gymdeithas Gofal 2015

o’r trafferthion y mae pobl yn eu hwynebu wrth geisio dod o hyd i gartref, a’r problemau sy’n gysylltiedig â hynny.

Guy Evans Guy yw Cyfarwyddwr Gweithredol y Gymdeithas Gofal ac Ysgrifennydd y Cwmni, ac mae’n defnyddio’r sgiliau a enillodd wrth weithio yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus. Mae Guy yn parhau i oruchwylio gwaith y Gymdeithas Gofal wrth iddi dyfu, sy’n cynnwys sefydlu a datblygu is-gwmni masnachol a phortffolio o fentrau cymdeithasol sy’n hybu amcanion y sefydliad.

Phil Buckman Bu Phil yn gweithio am dros 25 mlynedd fel Cyfarwyddwr Gwerthu a Marchnata ym maes cludo nwyddau dramor ym mhob cwr o’r byd.

Yn 1995, ar ôl colli ei waith, newidiodd ei yrfa’n gyfan gwbl drwy fynd i weithio ym maes gwaith cymdeithasol gyda Chyngor Sir Hampshire, mewn cartrefi plant a gyda theuluoedd a oedd mewn trafferthion. Daeth Phil a’i wraig yn ofalwyr maeth, ac maent wedi gofalu am lawer o blant a phobl ifanc gan gynnwys un a arhosodd gyda nhw am gyfnod hir ac a aeth i’r brifysgol. Mae Phil a’i wraig Barbara yn aelodau gweithgar o Eglwys y Bywyd Newydd, sy’n ymwneud â llawer o waith ieuenctid ac efengylu. Mae Phil hefyd yn aelod o dîm gweinidogaeth Ystafelloedd Iacháu Aberteifi.

Cen Llwyd Ar ôl gadael yr ysgol, bu Cen yn gweithio i’r Cambrian News cyn cael ei hyfforddi i fod yn Weinidog Undodaidd yn Abertawe. Ar ôl gadael y coleg, bu’n gweithio i’r cylchgrawn misol i fenywod, Pais, a bu hefyd yn gweithio i’r cwmni recordiau Cymraeg, Sain, am flynyddoedd lawer.


Bywgraffiadau Aelodau’r Bwrdd Yna, aeth Cen yn ei flaen i weithio i gymdeithas dai yng Nghastellnewydd Emlyn am 25 mlynedd, gan ddod yn rheolwr yr adran dai maes o law. Bellach, mae’n weinidog llawn amser ar chwech o wahanol gapeli yng Ngheredigion ac mae hefyd yn gadeirydd Home-Start Ceredigion, Cymdeithas Cyfeillion Cerddorion Ifanc Ceredigion a Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol Dyffryn Teifi.

Meryl Sharpe Bu Meryl yn gweithio am flynyddoedd lawer yn cynorthwyo ac yn cefnogi pobl a oedd yn ddifreintiedig oherwydd digartrefedd. Ei phrif reswm dros wneud hynny oedd ei chred na ddylai neb fod yn ddigymorth neu’n ddigartref. Drwy ei gwaith mewn Canolfan Eglwysig, medrodd godi arian i gael tai i bobl mewn angen, a datblygodd rwydwaith cymorth ar eu cyfer. Roedd ei gwaith yn cynnwys sefydlu tair siop elusennol, ac roedd un ohonynt yn ymwneud yn benodol â digartrefedd a lleihau tlodi.

Mae gan Meryl brofiad helaeth o reoli prosiectau a threfnu cynadleddau yn y DU a thramor. Bu’n aelod o fyrddau Stonham Housing a Gordana House, sef canolfan adsefydlu i ddefnyddwyr cyffuriau yn Amwythig, a bu’n gwirfoddoli i’r gwasanaeth prawf. Ar ôl symud i Aberystwyth yn 2004, aeth Meryl ati i chwilio am ffyrdd o ymwneud â gwaith elusennol ym maes digartrefedd ac fe’i gwahoddwyd i fod yn aelod o fwrdd cyfarwyddwyr y Gymdeithas Gofal. Mae hefyd yn un o’r gwirfoddolwyr sy’n helpu i redeg Siop Elusennol y Gymdeithas Gofal.

Paula Bentley Mae gan Paula flynyddoedd lawer o brofiad o weithio ym maes rheolaeth ariannol yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Yn ogystal, am dros 10 mlynedd, bu Paula a’i phartner yn rhedeg eu busnes eu hunain, a oedd â’i ganolfan yng Ngheredigion ond a oedd yn cynnig ei wasanaethau ledled y Deyrnas Unedig.

Mae Paula wedi bod yn aelod o’r bwrdd ers 1999, ac mae’n falch o fod yn ymwneud â sefydliad sydd wedi mynd o nerth i nerth ac sydd wedi datblygu’n un o’r darparwyr cymorth mwyaf ac yn llais blaenllaw ar gyfer pobl ddigartref y sir.

Shirley Hart Mae gan Shirley 16 blynedd o brofiad o ddatblygu a rheoli gwasanaethau ar gyfer pobl ddifreintiedig, gan gynnwys pobl ag anabledd dysgu, pobl â phroblemau iechyd meddwl, cyn-droseddwyr a menywod sy’n dianc rhag trais domestig. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio gydag elusennau a mudiadau dielw, ac mae hefyd yn un o ymddiriedolwyr Eiriolaeth Ceredigion. Mae ganddi sgiliau ym maes datblygu a rheoli prosiectau, adnoddau dynol, codi arian, cyllidebau a rheolaeth ariannol.

Adroddiad Blynyddol y Gymdeithas Gofal 2015

7


Bywgraffiadau Aelodau’r Bwrdd Tracy Lee Mae gan Tracy brofiad helaeth o weithio ym maes tai cymdeithasol. Ar ôl bod yn Weithiwr Cymorth Tenantiaeth/Swyddog Tai gydag Orbit Housing yn Lloegr, symudodd ymlaen i weithio mewn partneriaeth â chymdeithasau tai, y gwasanaeth prawf a thimau cyffuriau cymunedol ar brosiectau arbenigol ym maes tai â chymorth yn Swydd Warwig. Ers dychwelyd i Gymru, mae Tracy wedi bod yn Rheolwr Tai â Chymorth gyda chymdeithas dai wledig, yn Bennaeth Tai gyda Hafal, sef elusen iechyd meddwl sy’n gweithio ledled Cymru, ac yn Ymgynghorydd Tai â Chymorth/ Rheolwr Prosiect. Mae Tracy yn ei hystyried yn fraint bod yn gysylltiedig â’r Gymdeithas Gofal, ac mae’n edrych ymlaen at weld y sefydliad yn tyfu ac yn darparu gwasanaethau o safon yn ystod y blynyddoedd nesaf er mwyn helpu’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

8

Adroddiad Blynyddol y Gymdeithas Gofal 2015

Tony Kitchen Symudodd Tony i Gymru gyda’i wraig 10 mlynedd yn ôl. Mae wedi bod yn aelod o’r bwrdd ers naw mlynedd. Mae’n gyfrifydd cymwys, a bu’n gymrawd y Sefydliad Siartredig Cyfrifwyr Rheolaeth am dros 25 mlynedd. Mae gan Tony dyddyn ac mae wedi mwynhau dysgu am gadw defaid ac ieir. Yn ogystal, mae Tony a’i wraig yn berchen ar dŷ a gaiff ei osod drwy’r Gymdeithas Gofal.


Amcanion a Gwasanaethau Hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol er budd y cyhoedd trwy atal pobl rhag cael eu heithrio’n gymdeithasol trwy ddigartrefedd, neu’r sawl sydd mewn perygl o golli eu cartref, sy’n byw mewn llety annigonol neu dan amgylchiadau ansicr yng Ngheredigion a siroedd cyfagos trwy wneud y canlynol:

01 Darparu gwasanaethau o ansawdd da, sy’n canolbwyntio ar y cwsmer

02 Gweithio mewn ffordd hyblyg, arloesol ac ymatebol

03 Cydnabod a darparu tai addas a thrwy gefnogi pobl i gyflawni eu llawn botensial.

Adroddiad Blynyddol y Gymdeithas Gofal 2015

9


Ein Gwasanaethau

Heb gymorth y Gymdeithas Gofal a’r Cynllun Bond, ni fyddwn wedi gallu sicrhau fy fflat fy hun yn y dre gan roi’r dechrau newydd sydd ei angen arnaf. Diolch.

Trwy gydweithio â’r Awdurdod Lleol, Cymdeithasau Tai ac asiantaethau allweddol eraill, rydym wedi parhau i ddatblygu ein gwasanaethau i atal pobl rhag cael eu heithrio’n gymdeithasol yn sgil amgylchiadau ansicr, digartrefedd neu os ydynt yn byw mewn llety annigonol. O ganlyniad, rydym wedi ffurfio ein gwasanaethau i weddu i anghenion y bobl rydym yn eu cynorthwyo. Trwy weithio gyda’n buddiolwyr a thrwy gefnogaeth asiantaethau lleol a’r gymuned leol, rydym yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau hyblyg ac arloesol, ac mae pob un ohonynt yn cynorthwyo pobl i gyflawni eu llawn botensial a helpu i adeiladu cymunedau cryfach. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys: • Lloches Nos • Unedau Llety Argyfwng Rheoledig • Y Cynllun Bond • Cynllun Swyddog Llety • Prosiect Pobl Ifanc • Cynllun Cymorth Tenantiaeth ledled y Sir • Rhaglen Addysgol ac Ymwybyddiaeth

10

Adroddiad Blynyddol y Gymdeithas Gofal 2015


Ein Gwasanaethau Cyflawniadau Yng nghysgod toriadau parhaus mewn gwasanaethau hanfodol, mae’n galonogol ein bod wedi cyflwyno gwasanaethau rhagorol a gwerthfawr i’n buddiolwyr a gallwn fyfyrio ar flwyddyn o gyflawniadau a mentrau, sy’n cynnwys: • A dolygu gweithdrefnau llywodraethu sydd wedi cynnwys ailgynllunio prosesau cyfrifo a chyflwyno dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer prosiectau’r Gymdeithas Gofal. • C ynyddu argaeledd llety sector rhentu preifat trwy ein hasiantaeth osod trwy fuddsoddi mewn meddalwedd bwrpasol a marchnata gwasanaethau. • Y mestyn portffolio gwasanaethau wardeniaid y Gymdeithas Gofal i gynnwys prosiect ymadawyr gofal sydd wedi ei leoli yn Aberystwyth. • A ilstrwythuro’r Siop Elusen a chyflwyno prosesau gwerthu ‘ar-lein’. • G wella safonau eiddo ar draws ein portffolio trwy gyflwyno Mesurau Cynnal a Chadw Ataliol Eiddo. • D efnyddio rhaglen interniaeth i israddedigion sy’n cwblhau prosiectau 12 wythnos dan oruchwyliaeth o fewn y Gymdeithas Gofal. • C ynyddu gwaith partneriaeth gyda Chymdeithasau Tai Ceredigion. • D atblygu portffolio’r sector rhentu preifat trwy ein cynllun Swyddog Llety yn unol â meini prawf Llywodraeth Cymru. Mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn unedau Llety Argyfwng a dewisiadau llety preifat fel ffordd i’n cleientiaid symud ymlaen. • C ynyddu gweithgarwch cleientiaid, gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth, i gyflawni targedau iechyd a lles. Adroddiad Blynyddol y Gymdeithas Gofal 2015

11


Ein Gwasanaethau Lloches Nos

wod ny

13 o

f

d ywo en

Yn ystod 2014 / 15, manteisiodd cyfanswm o 64 cleient (51 o ddynion, ac 13 o fenywod) ar y gwasanaeth ar 1,602 achlysur gwahanol.

fe

Heb Y Gymdeithas Gofal, byddai llawer mwy o bobl yn byw ar y stryd ac yn cysgu ar feinciau parc.

Trwy gydol y 12 mis diwethaf, gwelwyd twf o 19% yn y galw am ein gwasanaethau Lloches Nos, ac rydym wedi parhau i wella safonau darpariaeth trwy roi’r mesurau canlynol ar waith: datblygu cynllun strategol ar gyfer gwella’r Lloches Nos yn y tymor hir, a rhoi arbedion effeithlonrwydd ar waith o ran gorbenion, cyfleustodau a staffio.

14 o

2013 -2014

2014 -2015

40

51

o

dd ynion

o ddynion 2014-2015

0 wa 1 4 hanol

1 ,6 0 2 a 201 c

ol

r gwa ysu 15 han l h -20 4

-2 15 2 0 1 3 r g 2 9 a c l ys u h

12

Adroddiad Blynyddol y Gymdeithas Gofal 2015

Y cynnydd o ran dynion yw 7.5% Y gostyngiad o ran menywod yw 7.4% Achlysuron ar wahân; cynnydd o 4.7%


Ein Gwasanaethau Enghreifftiau Cadarnhaol o Symud Ymlaen

16 i lety preifat 13 i lety argyfwng 1 i ysbyty gadawodd 2 yr ardal aeth 1 i ddarpariaeth adsefydlu manteisiodd 1 ar y Prosiect Tai â Chymorth i Bobl Ifanc aeth 6 yn ôl i gartref y teulu

0

Adsefydlu

5

yn dilyn y prosiect o hyd

Mynd i’r ysbyty

10

Gadael yr ardal

15

Cartref y Teulu

20

Prosiect Tai â Chymorth i Bobl Ifanc

7 yn dilyn y prosiect o hyd

Llety argyfwng

Rydw i wedi byw yn Aberystwyth ers ugain mlynedd, ac yn y cyfnod hwnnw, rydw i wedi datblygu fy ngyrfa, yn y Sector Gwirfoddol yn bennaf. Mae fy rolau wedi cwmpasu bod yn Ysgrifennydd Cwmni, Rheolwr Prosiect, Swyddog Codi Arian a Rheolwr Gwirfoddoli. Cododd cyfle i wneud cais am swydd yn y Gymdeithas Gofal yn haf 2014 ac roeddwn i wrth fy modd pan gefais fy nerbyn ar gyfer y swydd. Gan fy mod yn dal i astudio ar gyfer fy ngradd BA mewn Hanes Celf, fe wnes i allu newid fy nghwrs i fod yn rhan-amser a dechrau fy swydd mewn Llety Argyfwng. Mae’r Gymdeithas Gofal yn sefydliad arloesol sydd o ddiddordeb i mi ar sawl lefel, ac mae’r rhain yn cynnwys: atal digartrefedd, darparu cymorth ac annog datblygiad personol. Rydw i wedi bod yn gyfrifol am gynllunio Rhaglen Weithgareddau ar gyfer preswylwyr a threfnu gweithdai sy’n cael eu cyflwyno gan wirfoddolwyr lleol. Mae’r rhain wedi cynnwys dosbarthiadau coginio, garddio, dosbarthiadau celf a gweithdai crefft. Rydw i’n frwd dros ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol ac yn mwynhau ffotograffiaeth, ysgrifennu a dysgu sut i ddefnyddio Final Cut Pro ar gyfer golygu fideo.

Roedd 40 achos o enghreifftiau cadarnhaol o symud ymlaen yn cynnwys:

Llety preifat

Catherine Beckham, Rheolwr Llety Argyfwng / Cyfathrebu

Adroddiad Blynyddol y Gymdeithas Gofal 2015

13


Ein Gwasanaethau Llety Argyfwng Trwy ein harbenigedd a’n gwybodaeth, rydym wedi parhau i ehangu ein gwasanaethau mewn llety argyfwng. Yn ystod 2014/2015, mae cyfanswm o 122 wedi manteisio ar y gwasanaeth. Y rheswm am y cynnydd hwn o 37% yn ein gwasanaeth yw ein bod wedi cynyddu ein hunedau 48%o 31 i 46 o anheddau ledled y sir.

2013 manteisiodd 89 o unigolion

35 o fenywod

54 o

ddynion

2014 manteisiodd 122 o unigolion

76 o

ddynion

14

Adroddiad Blynyddol y Gymdeithas Gofal 2015

44 o fenywod


Ein Gwasanaethau Gweithgareddau i Gleientiaid Mae cyflwyno gweithgareddau i gleientiaid wedi gwella’r gwasanaeth a’r profiad i’n buddiolwyr. Mae gweithgareddau wedi cynnwys tasgau’r cartref, garddio, dosbarthiadau arlunio, celf a chrefft. Rydym wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan ein preswylwyr sy’n mynychu gweithdai gweithgareddau gan eu bod yn dweud bod hyn yn helpu iddynt wneud ffrindiau ac yn lleihau pryder.

Gwneud gemwaith

Prosiect Garddio

Mân waith atgyweirio Adroddiad Blynyddol y Gymdeithas Gofal 2015

15


Ein Gwasanaethau Cynllun Bond Trwy ein Cynllun Bond, a ddatblygwyd gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, yr Awdurdod Lleol a’r Gwasanaeth Prawf, gallwn gynorthwyo pobl i gael tenantiaethau na fyddent yn gallu eu fforddio fel arall. Trwy gynnig Gwarantau Bond i Landlordiaid, gallwn hwyluso tenantiaeth i rywun na fyddai fel arall yn gallu fforddio’r taliadau cychwynnol angenrheidiol (h.y. blaendaliadau rhent a benthyciadau rhent). Felly, gallwn ymgysylltu â phobl cyn iddynt fod yn ddigartref, gan alluogi pobl a rhoi grym iddynt reoli eu tenantiaethau cynaliadwy eu hunain. 2014 2015 300

250

254 259 214 212

200

150

100

68 70

50

78 44

15 13 0

16

Bondiau Llywodraeth Cymru a Gyfeiriwyd

Adroddiad Blynyddol y Gymdeithas Gofal 2015

Cyfeiriadau Cynllun Bondiau Estynedig

Cyfeiriadau Cynllun Bond Prawf

4 Bondiau Llywodraeth Cymru a Gyflwynwyd

Bondiau Estynedig a Gyflwynwyd

8

Bondiau Prawf a Gyflwynwyd


re, Sarah Moo h rt o hiwr Cym Uwch Weit r Cymorth h Weithiw c w U Pan n ’ i rydw berteifi. ydw i ac swyddfa A e n r y ohonon o o o y M i w h d h t a yn ôl, yn gwei d l d Helo, Sar a e f n o y G l m s ddeg a fi fel mdeitha has un ar lun bond t l gyda’r Gy i n e y d c m y r g ’ o chel ach iawn is â’r teifi – Ra swyddfa f ddechreua r e o b A o i n h y t i oedd ennol, a n gwe yn llythr ni’n unig edden ni’ o r R w a . l h t i r o l cym afel n ni wedi gweithiwr ac un yst nny, rydy y y n h y f s ol. r i E l ! fel loedd n sylwedd – un ysta r ystafel edi tyfu’ ’ w u t m l î l t y r s r e y ’ s c mae b am grisiau’n thiau, ac dyn ni bo dig o wei Gofal, ry y h s c a rhan mewn y h t d d i y u e r m d sy ’r Gym edi cym w w y i n e w ddiaeth s d u y l r felly ag ymwyby , l Gan mai e u a a t d s a y i g n o y n, yn ydd ym o am s codi aria lio deudd yn chwili u u e a r d t a i n d ’ d i digwy rydw gwahodd y nifer o d eithiwr, rteifi yn w e d b y A h i c n y a d o . Gy luogi ni p Tesc gyhoeddus d i’n gal lan i sio e l g a s bu a e u b n t y n w y i yr yn e id yn mis Rhagf neu ddwy cleientia m Yn e d t d . i y s e f u n i n n o a a r nfodol p d lwyddi a o h n siopwyr i y d h y w n b y e bod Abert ifi parseli hyn wedi ’ yma yn e o a r gyfrannu M d . s n o w r a d p a anodd i agor ‘sio odi arian sefyllfa aethon ni annwyd, c n r w f yn y e g n f w a d , d r u y eitema ant y b ddiwedda u i h d t d r y e w w l g l wedi fu ei m ni wedi lle rydym eaf, rydy . Cymaint a ’ g a d e y l n r Y a air haf. l cartref ‘rhoi’r g mwg o gaw anwyn a’r w l g e a r y h e c f n y y a g ar eto ych ei wneud hoedd edr dd addysg fa i’r cy nrychioly d y d c n siarad y y w y s c l a y e F n agor tsili. ysgolio a g a n hyn e d t l a e d w ’n ym id anelu bara, neu l, rydw i fedd. Rha a e f r nhw o t G r n a e s g a a i m h d ynradd, wneud â c y Gymdeit m y n o n i ’ l y o s g yr ys duniau a lemau ant – yn wyniad o am y prob l fl p y c yn y r n e a f r y ar g odd plent g oed pan ofynn yn unol a ynd yn ôl f u n i a m d i r e i f y n n s y fy ar gofy , cefais eulu o ad o hyd yn dd bynnag i helpu t o m F i diwedd yr ! d u n a e t n a a n fl phecy y rhes r! Tuag w n a y l m a d i e o u h ir chwyt gylch ffil bach peda wers o am nyth wedi g u n ref e u t l r d l a o n g f y i n dd reu c gardd gan yn mynd y ydw i’n c r c n , a s d f e d i o a D r h h c : yw fer ysgol uwc hymru am ir erioed io yd yng Ng y arwydda w F h au gweith c h r . n y i y h h w n m y i g n n r y a r s i i a w f d i nrhyw Rydw râm y rw heb fod u mhen ar ff rtrefedd. a y g f dd i y d o d D r a d i t rth diwed d yn dim Dosba iawn ar d gallaf fo n , e l o d w o i a n a l n i l a t i n n l eie fod y ddiwyl f l a m l a l a h gyda’n cl g t r d a n osb d dydd, o addysgu d ar ddiwed ol iawn i n a unei. h r a B w n n y ’ e stilts r a hefyd! Ma ŷ d n a oed o d blant 15

Adroddiad Blynyddol y Gymdeithas Gofal 2015

17


Ein Gwasanaethau Cynllun Cymorth Tenantiaeth Ledled y Sir Mae ein tîm o Weithwyr Cymorth yn darparu cymorth un i un yn gysylltiedig â thenantiaeth ledled y sir. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar deilwra cymorth yn unol ag anghenion pob unigolyn. Mae’r cynllun hwn, a ariennir gan yr Awdurdod Lleol, yn hanfodol i genhadaeth Y Gymdeithas Gofal i gynorthwyo pobl i gyflawni eu llawn botensial.

O 1 Ebrill 2014 – 31 Mawrth 2015, rydym wedi cynorthwyo:

214 64 84 9 35

18

Adroddiad Blynyddol y Gymdeithas Gofal 2015

O BOBL SENGL (cynnydd o 9.74%) O DEULUOEDD (gostyngiad o 15.79%) O BRESWYLWYR MEWN LLETY ARGYFWNG (gostyngiad o 10.64%) O BOBL IFANC (gostyngiad o 10%)

O BOBL ANABL (cynnydd o 25%)


Prosiectau Gwirfoddoli

Deborah Pugh, Cynorthwyydd AD ac Uwch Reoli

Symudais i Ab erystwyth ychy dig dros 26 mlyned d yn ôl. Am y saith mlynedd ddiwethaf, rw yf wedi gweithio i’r Gymdeithas Gofal mewn ro lau amrywiol, gan ddechrau mewn Cyllid/Gweinyd du. Erbyn hyn, ry dw i’n gweith io i’r Uwch Dîm Rheo li ac yn gofa lu am ofynion AD y Gymdeithas Go fal o ddydd i ddyd d. Ar ddiwedd mis Mawrth, ychwan egwyd y swydd cydlynydd gwir foddoli at el fen AD fy rôl. Ma e’n her sylwed dol ond rydw i’n ei mwynhau. Ma e fy rôl yn amry wiol iawn ar y cyfan, ac mae’ n rhoi cipolw g a dealltwriaeth i mi o’r gwai th a wna gweithwy r y Gymdeithas Gofal ledled y sir gan fy mod i’n mynychu eu cy farfodydd tîm, ac ati, yn rheola idd. Y tu allan i’ r swyddfa, rydw i’n parh au â’m rolau AD/ gwirfoddoli gy da Sgowtiaid Gogledd Ceredi gion lle rydw i’n recriwtio arwe inwyr gwirfodd olwyr ar gyfer y gr wpiau yn ein hardal. Rydw i’n mwyn hau beicio he fyd, yn enwedig ar hy d llwybrau ca mlesi yn y DU a thra mor.

Mae gwirfoddoli yn hanfodol i’r modd y mae’r Gymdeithas Gofal yn gweithio. Heb fewnbwn ein gwirfoddolwyr, ni fyddai rhai o’n gweithgareddau’n bodoli. Gall unrhyw un yn y gymuned sydd eisiau cymysgu a chymdeithasu â phobl tra byddant yn gwella’u sgiliau a’u cyflogadwyedd fod yn wirfoddolwr i’r Gymdeithas Gofal. Caiff cyfleoedd gwirfoddoli eu gwasgaru ar draws y sefydliad, a thros y 12 mis diwethaf, mae niferoedd wedi bod yn cynyddu’n gyson. Mae’r cyfleoedd yn amrywio, o weithio yn y warws, ailgylchu ac uwchgylchu dodrefn, gweithio wyneb yn wyneb â chwsmeriaid yn ein siop elusen, gwaith gweinyddol yn ein swyddfeydd, a hyd yn oed gweithgareddau addysgu i ddefnyddwyr gwasanaeth. Mae llawer o’n gwirfoddolwyr wedi mynd ymlaen i gael swydd ac mae rhai ohonynt wedi cael eu cyflogi gan y Gymdeithas Gofal. Yn ogystal â lleoliadau ‘gwaith’, dros y flwyddyn ddiwethaf, mae gwirfoddolwyr wedi ein helpu ni â hyrwyddo. O wisgo i fyny ac addurno cerbyd sioe ar gyfer Carnifal Aberystwyth i weithio ar stondin luniaeth yng Ngŵyl y Deyrnged Fawr (Big Tribute Festival) am benwythnos cyfan a digwyddiadau amrywiol eraill yn Aberteifi ac Aberaeron, mae ein gwirfoddolwyr wedi bod yn brysur. Trwy eu gweithredoedd caredig, rydym yn ymestyn allan at aelodau newydd o’r gymuned y gallai fod angen ein cymorth a’n cefnogaeth arnynt.

19


Cynlluniau Menter Gymdeithasol Menter Gymdeithasol Mae’r Gymdeithas Gofal yn parhau i ddarparu gwasanaethau sy’n cyfrannu at liniaru digartrefedd ledled y sir. Yn y flwyddyn ddiwethaf, dyfarnwyd Gwobr Aber yn Gyntaf am y Sefydliad Trydydd Sector Gorau i ni i gydnabod ein gwaith arloesol yn cyflawni amcanion strategol lleol a chenedlaethol, i ymateb i amgylcheddau economaidd sy’n newid. Rydym yn parhau i adolygu ein holl brosesau monitro a gwerthuso er mwyn amlhau ein heffaith gymdeithasol. Trwy ddatblygu ein gallu, rydym yn helpu i gryfhau strwythur economaidd a chymdeithasol Canolbarth Cymru. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys cofrestru gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol, a chynnig gwasanaethau broceriaeth morgeisi, ystadau a gwerthu.

Cefais fy mhe Cydlyn Rachel Ni gan y n ch ydd Go Gymdei odi yn wei sod a olas, thiwr thas G gyda’r Llety b o o f n U al yn d a ch Sector wch Dîm Rh ymorth eoli i 2002, ac e Preifa rhan s ymla ddatbl Aberte t en i w -amser y ifi fel , ac rydw eithio i wedi gu ac ehan er 200 y Cydl gu T bod yn 8. Ry y dw i’n nydd Llety gweith îm Gosod y Gymdei ar gyf io o s th credu’ er de w n frwd gyrru’ as Gofal a Ceredi yddfa c yn f r pros y n n o gion alch f dau ac iectau ac i g y mod yn yn eu wedi c amcanion y b tasgau orthwyo ei ae n tima laenau yn . fy mae l rhan mew u cysy n s gwei lltied th ig i g yflawni garwch eu

20

Adroddiad Blynyddol y Gymdeithas Gofal 2015


Cynlluniau Menter Gymdeithasol Gwasanaeth Ystadau a Gosod Viv Griffiths, Rheolwr Ystadau a Gosod gion ym 1989 Symudais i Geredi Francis, hn Jo a gweithio i mlynedd, 14 am i Ta Gwerthwr rgeisi. mo fel ymgynghorydd fy hun es sn mu fy Sefydlais 10, 20 yn 2003, ac yna yn Awstralia. i d mu penderfynais sy ddoedd, Ar ôl ychydig flyny gion ac di dychwelais i Gere es blaenorol, sn mu fy ailddechrau am her newydd tra’n cadw golwg swydd yn Y y hefyd. Gwelais ar gyfer Adran l fa Go Gymdeithas wydd. Gwnes Ystadau a Gosod ne y swydd i mi yd iw gais, a chynig . Cefais fy ym mis Hydref 2014 r sgiliau a’r i’ newis am fod gen iol roeddent yn profiad angenrheid i gwblhau cylch chwilio amdanynt efedd i fod yn tr y daith o ddigar f. Ers dechrau berchen ar gartre eithas Gofal, gweithio yn Y Gymd fiad y staff ro ph mae empathi a fawr o bobl en r fe ni u lp sy’n he argraff dda ud ne yn y sir wedi gw eithas md Gy Y b He iawn arnaf. y o bobl mw er Gofal, byddai llaw cysgu ar yn ac d yn byw ar y stry feinciau parc.

Mae ein Gwasanaeth Ystadau a Gosod yn rhedeg Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol o Stryd y Prior, Aberteifi ac o’n swyddfeydd yn Aberystwyth. Mae’r gwasanaeth proffesiynol hwn yn rheoli portffolio mawr o eiddo preswyl ar hyn o bryd, yn ogystal ag eiddo masnachol ledled y sir, gan gynnig dewisiadau cytundeb rheoli a phrydlesu. Ein nod yw lletya aelodau mwy bregus o’n cymdeithas, gan roi cyngor a gwybodaeth gyfreithiol i berchnogion a thenantiaid, tra’n hyrwyddo safonau llety gwell ar draws y sector rhentu preifat.

Adroddiad Blynyddol y Gymdeithas Gofal 2015

21


Cynlluniau Menter Gymdeithasol Siop Elusen Caiff y Siop Elusen ei rhedeg gan wirfoddolwyr a staff ac mae wedi bod yn boblogaidd iawn yn y gymuned. Rydym yn ffodus i gael llawer o gyfraniadau ac fe gaiff rhai ohonynt eu rhoi yn uniongyrchol i’n buddiolwyr, lle rydym yn nodi angen, ac fe gaiff y gweddill eu gwerthu trwy ein siop. Yn sgil ein llwyddiant yn gwerthu eitemau trwy ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol, rydym bellach wedi sefydlu siop eBay sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn.

Gwasanaethau Cynnal Mae is-gwmni masnachu’r Gymdeithas Gofal, sef CGC Trading Limited, wedi wynebu newidiadau sylweddol. Rydym wedi ailstrwythuro’r cwmni sydd bellach yn gweithredu o uned storio fawr, ac mae wedi mynd o nerth i nerth. Mae CGC Trading Limited yn cynnig cyfleoedd swydd, profiad gwaith, lleoliadau prentisiaeth a gwirfoddoli erbyn hyn, ac fe gaiff pob un o’r rhain effaith gymdeithasol ac economaidd gadarnhaol ar y gymuned. Gall y tîm ddarparu gwasanaeth cynnal a chadw eiddo cyffredinol, symud a storio, a gwiriadau iechyd a diogelwch, profion PAT, paentio ac addurno, gwaith cynnal a chadw gerddi, glanhau a gwaredu a gwasanaeth gwneud mân waith atgyweirio.

22

Adroddiad Blynyddol y Gymdeithas Gofal 2015


Gwau

Prosiect Garddio

Dosbarthiadau Arlunio

Celf a Chrefft Adroddiad Blynyddol y Gymdeithas Gofal 2015

23


Cyfrifon Talfyredig Adnoddau sy’n dod i mewn o gyllid a Cyllid gynhyrchwyd anghyfyngedig

Cyllid cyfyngedig

Incwm gwirfoddol

£8,982.00

£8,982.00

Gweithgareddau ar gyfer cynhyrchu cyllid

£139,014.00

£139,014.00

Incwm buddsoddi

£65.00

£65.00

Adnoddau sy’n dod i mewn o weithgareddau elusennol

£853,815.00

£298,642.00

£1,152,457.00

Cyfanswm yr adnoddau sy’n dod i mewn

£1,001,876.00

£298,642.00

£1,300,518.00

Adnoddau sy’n mynd allan o gyllid cynhyrchu

Cyllid anghyfyngedig

Cyllid cyfyngedig

Cyfanswm y cyllid 2015

Dylunio: www.four.cymru Argraffwyd ar bapur wedi’i ailgylchu CS2787 01/2016

Masnachu i godi arian: cost y £148,637.00 nwyddau a werthwyd a chostau eraill

24

Cyfanswm y cyllid 2015

£148,637.00

Gweithgareddau elusennol

£945,914.00

£274,666.00

£1,220,580.00

Costau rheoli

£7,689.00

£5,212.00

£12,901.00

Cyfanswm yr adnoddau a wariwyd

£1,102,240.00

£279,878.00

£1,382,118.00

Cyfanswm y cyllid a gafodd ei gario ymlaen

Cyllid anghyfyngedig

Cyllid cyfyngedig

Cyfanswm y cyllid 2015

Cyfanswm y cyllid 2014

£302,126.00

£0.00

£302,126.00

£383,726.00 (gwnaed colled o £81,600)

Gellir gofyn am gopi llawn o’r cyfrifon drwy anfon neges ebost i’r cyfeiriad canlynol: info@caresociety.org.uk Adroddiad Blynyddol y Gymdeithas Gofal 2015


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.