8 minute read

Pryd o Daf-od Lowri Davies

Next Article
SPORT

SPORT

roeddwn i’n disgwyl cwrs ymarferol yn helpu trin cleifion; dim i eistedd tu ôl i sgrin cyfrifiadur yn fy stafell wely,” dywedodd.

Nid Celyn oedd yr unig fyfyrwyr oedd yn anfodlon gyda’u profiad academaidd, nododd Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol bod 29% o fyfyrwyr yn y DU yn dweud eu bod yn anfodlon a’u profiad academaidd oherwydd y ffyrdd cafodd yr addysg eu cyflwyno yn sgil y pandemig.

Advertisement

Fe benderfynodd Celyn roi’r gorau i’w breuddwyd pan gychwynnodd lleoliad gwaith yn yr ysbyty, “Roedd gwrando a gwylio fy narlithydd ar Zoom yn hollol wahanol i fod ar leoliad gwaith yn Ysbyty.”

Wrth roi’r gorau i’w breuddwyd o ddilyn gyrfa fel nyrs, mae Celyn yn rhannu teimlad a sawl myfyriwr arall ar draws y byd o fod mewn “limbo.”

Mae Celyn yn dweud bod y cyfnod ar ôl gadael y brifysgol yn anodd iawn yn feddyliol, “Roedd gweld gweddill fy ffrindiau yn llwyddo a mwynhau eu cyrsiau filltiroedd i ffwrdd ohonof i, yn gwneud i fi deimlo fy mod i wedi methu mewn bywyd.”

Yn ystod y cyfnod yma dechreuodd Celyn ganolbwyntio ei meddwl ar fferm ei theulu, drwy helpu gyda’r anifeiliaid, a dyma lle sbardunodd ei diddordeb mewn ffermio.

Ers misoedd yr Haf mae Celyn wedi bod yn ffodus i ddatblygu ei diddordeb mewn ffermio i brentisiaeth gyda milfeddygon lleol fel nyrs filfeddygol. Mae hi wir yn mwynhau pob profiad yn y maes.

Fel Celyn, Bob blwyddyn mae myfyrwyr yn rhuthro mewn i radd yn brifysgol. Yn ôl ffigurau

Trafod gyda’r Taf-od Steff Evans

Beth wyt ti’n astudio ac o le wyt ti’n dod?

Dwi’n astudio Architectural Engineering ac yn dod o’r Bont Faen.

Vodka neu Gin?

Vodka! Mae gin yn afiach!

Beth yw dy farn amhoblogaidd?

Mae Gruff Ab yn rybish yn chwarae rygbi

Oes gen ti unrhyw arferion drwg? Cysgu trwy ddarlithoedd

Hoff albwm? AM - Arctic Monkeys

Beth wyt ti’n edrych ymlaen at wneud eleni?

Mynd i Gaeredin i wylio’r rygbi

“Profa’r cyhoeddiad hwn y math o feddylfryd hirdymor sydd angen er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ein system addysg a bywyd myfyrwyr.”

Yn ôl Jeremy Miles “Ni ddylai costau byw fyth fod yn rhwystr i astudio yn y brifysgol. Bydd y cynnydd hwn yn y cymorth yn sicrhau bod myfyrwyr o bob cefndir yn gallu cael mynediad i addysg uwch. “Er gwaethaf pwysau parhaus ar y gyllideb, rwyf wedi sicrhau bod gwerth y cymorth yn cynyddu ar yr adeg hon o bwysau eithriadol ar gostau byw.”

Ni ddylai costau byw fyth fod yn rhwystr i astudio yn y brifysgol.”

Barn Y BoblA fydd Cymru’n llwyddo yn y Chwe Gwlad eleni?

Towyn Bevan Blwyddyn 3 Cyfryngau a Chyfathrebu arolwg gan asiantaeth newyddion PA o ffigurau diweddaraf Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, roedd 67% o sefydliadau’r DU wedi gweld cynnydd yng nghyfran y myfyrwyr sy’n gadael cyn cwblhau eu cwrs. Roedd yr arolwg yn cynnwys ffigurau dros gyfnod o bum mlynedd tan 2017. Mae effeithiau pandemig COVID-19 yn parhau ac o hyd yn cael cryn effaith ar bobl dros hyd a lled y wlad gan gynnwys myfyrwyr. Ai dyma realiti pobl ifanc ein gwlad? Am ba hyd welwn effeithiau’r pandemig ar y byd addysg? nododd Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol bod 29% o fyfyrwyr yn y DU yn dweud eu bod yn anfodlon a’u profiad academaidd.”

Oes siawns da gyda Chymru yn y Chwe Gwlad y flwyddyn yma? I fod yn swrth, nag oes. Ar ôl pencampwriaeth gwael y flwyddyn diwethaf a perf- formiadau hynod siomedig yn yr Hydref, dydy hi ddim yn syndod bod Wayne Pivac wedi colli ei swydd. Nawr mae Gat- land yn ôl yn ei swydd, mae’n anodd dweud bydd modd gweld gwelliant yn syth. Mae’n hyfforddwr hynod lwyddian- nus ond dydy e ddim yn gallu daparu gwyrthiau yn anffodus. Ar ben hyn, mae timau fel yr Eidal yn edrych yn gyffrous ac mae siawns uchel ganddynt i gael y llwy bren.

Jack Thomas Blwyddyn 1 Cyfryngau a Chyfathrebu

Mae pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni yn peri her enfawr i Garfan Cymru. Braf bydd gwylio Ken Owens, fy hoff chwaraewr fel seren y Scarlets a lej o fachwr, yn arwain y bois, ond yn anffodus mi fydd yn anodd mwynhau llawer mwy. Roedd 2022 yn heriol iawn i gefnogwyr rygbi Cymru, ac rydym yn symud mewn i oes newydd o dan arweinyddiaeth yr arfer-ddibynadwy, Warren Gatland. Ond ai’r Gatland arwrol arferol byddwn yn cael?

Mae nifer fawr o gwestiynau ynglŷn â’r garfan wrth i ni sy- mud rhwng oes euraidd mewn rygbi Cymru at ddyfodol braf (dwi’n gobeithio). Er hyn, dwi’n meddwl mi fydd Cymru yn gweld hi’n anodd yng ngemau’r Chwe Gwlad eleni, ond gob- eithiaf gallwn ddatblygu fel tîm a defnyddio’r bencampwriaeth i danio ein paratoadau at Gwpan y Byd ym mis Medi.

Hoff jôc?

Pa gymeriad yn Frozen sy’n colli pob ras? Olaf!

Sut wyt ti’n gwella hangover?

Archebu gormod o fwyd o Uber Eats

Beth oedd y ffilm ddiwethaf i ti wylio?

Wolf of Wall Street

Hoff gân carioci?

Stacy’s Mom- Fountains of Wayne

Pwy yw dy seleb crush?

Dua Lipa

Pwy fydd yn trafod gyda’r

Taf-od wythnos nesaf?

Eben Pierce

Diwedd cyfnod: Gareth Bale yn ymddeol o bêl-droed

Er mawr tristwch i gefnogwyr Cymru, cyhoeddodd Gareth Bale, 33 ei fod yn ymddeol o chwarae pêl-droed i’w glwb ac i’w wlad mewn neges ar Instagram ar y 9fed o Ionawr eleni. Disgrifiodd y penderfyniad o ymddeol o bêldroed rhyngwladol fel y penderfyniad anoddaf yn ei yrfa.

Dywedodd y Cymro: “My journey on the international stage is one that has changed not only my life but who I am. The fortune of being Welsh and being selected to play for and captain Wales, is something incomparable to anything else I’ve experienced... After all, the dragon on my shirt is all I need.”

Mae’r seren o’r Eglwys Newydd yn wreiddiol, ar gyrion Caerdydd, ac yn arwr i bobl o bob oed ledled y byd, yn enwedig yma yng Nghymru. Wedi gwneud enw i’w hun yn gyntaf yng nghlwb pêl-droed Southampton, symudodd ymlaen at yrfa lwyddiannus iawn gyda Tottenham Hotspur yn 2007. Yn 2011 a 2013 cafodd ei enwi fel chwaraewr y chwaraewyr gan y PFA yn ogystal â’i enwi yn aelod o dîm PFA y flwyddyn. Mewn ffi trosglwyddo record y byd o £85.1 miliwn yn 2013, trosglwyddodd Bale draw i dîm Real Madrid ble’r oedd yn cyd-chwarae â Cristiano Ronaldo am sawl blwyddyn. Enillodd y Copa del Rey yn 2013-2014 a Tlws Cynghrair Pencampwyr UEFA gyda Real Madrid, gan sgorio mewn dwy rownd derfynol. Roedd ei yrfa lewyrchus gyda Real Madrid yn cynnwys ennill cystadleuaeth La Liga yn 2016-2017 a 2019-2020 yn ogystal â thri theitl ychwanegol Cynghrair y Pencampwyr yn 2015-2016, 20162017, a 2017-2018 ymhlith sawl tlws arall.Yn 2020-2021, dychwelodd Gareth Bale yn ôl i Tottenham Hotspur ar fenthyciad, cyn ymuno â chlwb MLS Los Angeles FC yng Ngorffennaf 2022. Yn ei gyfnod byr yn chwarae yn Los Angeles, llwyddodd i ennill Tarian y Cefnogwyr a chwpan MLS y tymor hwnnw. Gwnaeth Bale ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf i Gymru ar 27ain o Fai 2007 gan ennill teitl y chwaraewyr ieuengaf i gynrychioli Cymru ar y pryd. Erbyn ei ymddeoliad, Bale yw’r chwaraewr sydd wedi casgu’r nifer fwyaf o gapiau dros Gymru gan hawlio record o 111 cap. Cafodd y cyfle i gynrychioli Cymru

Streicio yn parhau ledled y wlad

Lowri Davies

Golygydd Taf-od

Nyrsys, athrawon a gweithwyr rheilffordd sydd ymhlith yr rhai sy’n streicio mewn anghydfodau dros gyflog ac amodau gwaith eto yn 2023.

Mae gweithredu diwydiannol o fewn gwahanol sectorau yn parhau i achosi aflonyddwch ledled y DU gyda gwasanaethau yng Nghymru yn cael eu heffeithio bob wythnos. Ar ôl blwyddyn a ddiffinnir gan gynnydd sydyn mewn streic yn 2022, mae undebau’n cynllunio mwy o brotestiadau yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf wrth iddynt frwydro am well cyflog ac amodau gwaith. Ymhlith y rhai sydd ar streic mae nyrsys, parafeddygon, athrawon a gweithwyr rheilffordd. Disgwylir i filoedd o athrawon gerdded allan ar draws pedwar diwrnod yn ystod y mi-

Mae gweithredu diwydiannol o fewn gwahanol sectorau yn parhau i achosi aflonyddwch ledled y DU ”

Mae disgwyl i rai gyrwyr trenau gymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol pellach yn ystod yr wythnosau nesa ” soedd nesaf ar ôl pledleidio’n llethol i streicio mewn anghydfod dros gyflog ac amodau, gyda chau ysgolion bellach yn amlwg iawn ar y cardiau ledled Cymru ar y dyddiau hynny.

Mae aelodau’r Coleg Nyrsio Brenhinol yn cynllunio streiciau pellach ym mis Chwefror ar ôl cynnal dau ddiwrnod blaenorol o weithredu diwydiannol ym mis Rhagfyr, gydag un o’r dyddiadau streic hyn wedi’i osod i gyd-fynd a gweithwyr ambiwlans ledled Cymru hefyd yn cerdded allan.

Ar ôl i streiciau rheilffordd gael eu cynnal trwy gydol 2022, mae disgwyl i rai gyrwyr trenau gymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol pellach yn ystod yr wythnosau nesaf, gan achosi oedi ar wasanaethau ledled y wlad.

Mae staff y llys hefyd ar fin cerdded allan, tra bod Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu wedi bygwth mwy o streiciau post cenedlaethol.

Gyda maint y gweithredu diwydiannol yn digwydd fwy fwy bob wythnos, yn Ffrainc nôl yn 2016 yn nhwrnament yr Euros, yn ogystal ag Euro 2020. Cafodd hefyd y cyfle i gynrycholi Cymru ar lwyfan Cwpan y Byd 2022 gan sgorio’r gôl gyntaf i Gymru yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd ers 1958 yn erbyn yr Unol Daleithiau. Wrth ddisgrifio ei gyfnod gyda thîm pêl-droed Cymru, dywedodd Gareth ei fod wedi rhannu ystafelloedd newid gyda chwaraewyr a ‘ddaeth yn frodyr’, a ‘staff a ddaeth yn deulu’ iddo. Cafodd Gareth y cyfle i chwarae yn nhîm Prydain yn ystod y Gemau Olympaidd yn 2012 ond tynnodd y Cymro yn ôl rhag chwarae yn dilyn anaf i’w gefn, er iddo chwarae 74 munud i Tottenham ychydig wythnosau yn ddiweddarach. Un sydd wedi bod yn dilyn gyrfa

Gareth Bale yn ofalus yw Gruffudd Evans sydd yn fyfyriwr ym Mhrifys - gol Caerdydd. Fel cefnogwr brwd Cymru a Tottenham, mae Gruffudd wedi bod yn dilyn Gareth Bale ers yn ifanc. Disgrifiodd Gruffudd ymddeoliad Gareth Bale fel ychydig o ‘sioc’: “Doeddwn i ddim yn disgwyl iddo ymddeol mor gynnar â hyn yn dilyn y Cwpan y Byd a fuaswn i wedi hoffi ei weld yn chwarae ychydig yn hirach eto dros Gymru.”

Er hynny, dywedodd Gruffudd ei fod wedi gwneud ei orau dros Gymru gan “roi Cymru ar y map” yn ystod cystadleuaeth Cwpan y Byd. Gyda llawer yn beirniadu perfformiad tîm Cymru a Bale yn benodol yn ystod Cwpan y Byd, yn ôl Gruffudd, nid ydynt yn haeddu cymaint o adlach, “yn sicr, rwyf yn credu mai Gareth Bale yw’r chwaraewr pêl-droed gorau ym Mhrydain ac mae wedi rhoi atgofion melys i gefnogwyr Cymru a Tottenham fel fi.”

Mae Gareth i’w weld yn mwynhau ei ymddeoliad gan gyhoeddi y bydd yn cymryd rhan yn nhaith golf PGA yng Nghalifornia ddechrau mis Chwefror.

Gwnaeth Bale ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf i Gymru ar 27ain o Fai 2007 gan ennill teitl y chwaraewyr ieuengaf i gynrychioli Cymru.” gall fod yn anodd gwybod pa wasanaethau sy’n cael eu heffeithio a phryd. Er hyn rydym yn ymwybodol bod gan

Mark Drakeford strategaethau gwahanol i ddatrys amodau’r sector iechyd i’r llywodraeth yn San Steffan.

Yn ei ymateb i lythyr agored gan

UNSAIN, ymbellhaodd y Prif Weinidog ei hun oddi wrth y ffaith bod llywodraeth San Steffan wedi gwrthod trafod gyda’r undebau a dywedodd fod llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol i ddatrys yr argyfwng parhaus ynghylch cyflog ac amodau gweithwyr iechyd yng Nghymru.

Dywedodd Mr Drakeford: “Yn wahanol i lywodraeth y DU, nid ydym yn credu mai’r ymateb cywir yw cyflwyno deddfau gwrth-streic llym, a fydd yn ffrwyno hawl gweithwyr i weithredu’n ddiwydiannol ac yn tanio’r anghydfodau presennol ar draws y sector cyhoeddus ymhellach.”

Daw’r newyddion wrth i undebau llafur ar draws y DU baratoi i lwyfannu diwrnod o weithredu yn erbyn y ddeddfwriaeth gwrth-streic dan arweiniad y Torïaid ddydd Mercher Chwefror 1.

Mewn pleidlais fawr o weithwyr iechyd yng Nghymru dros weithredu diwydiannol gan UNSAIN ym mis

Mae aelodau’r Coleg Nyrsio Brenhinol yn cynllunio streiciau pellach ym mis Chwefror.”

Tachwedd 2022 cafwyd cefnogaeth gan fwy na 90% o’r rhai a ymatebodd. Roedd gweithredu diwydiannol gan weithwyr post a chyfreithiau llym gwrth-undebau llafur yn golygu na chyrhaeddodd UNSAIN y trothwy ar gyfer streic yng Nghymru ond, mae’r undeb bellach yn ail-bleidleisio gweithwyr yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru wrth i gyflogau isel ac amodau gwaith gwael barhau i gymryd eu lle.

Dywedodd Mr Drakeford: “Yn wahanol i lywodraeth y DU, nid ydym yn credu mai’r ymateb cywir yw cyflwyno deddfau gwrth-streic llym.”

This article is from: