6 minute read
Cymru’n Cydweithio
Mae gan y wlad fach amryw o ffyrdd i gydweithio a bod yn greadigol. Dyma mewnweliad i’r wlad unigryw...
lle gwnaeth griw ohonom lwyddo i dorri’r record am y nifer fwyaf o bobl yn canu o un i un mewn fideo ar-lein ar un o ddiwrnodau mwyaf arwyddocaol
Advertisement
Cymru – Dydd Gwyl Dewi yn canu ‘Moliannwn’. Mae’r Urdd hefyd yn fudiad sy’n cynnal nifer o ddigwyddiadau ac yn uno’r wlad. Cefais y cyfle i fod yn rhan o un o’u prosiectau arbennig sef canu mewn côr rhithiol i ganu ‘Golau’n dallu’. Yn ôl Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, roedd y prosiect yn gyfle i ‘ymuno pobl ifanc yn Iwerddon, Cymru a ledled y byd, gan gyfuno’r pethau sydd ganddynt mewn cyffredin a’u dychymyg.’
Wrth ddod i gasgliad felly, does dim dwywaith fod arwyddair tîm Pêl-droed Cymru yn cyfleu pa mor bwysig yw cydweithio i ni ac yn ein dysgu mai ‘gorau, chwarae, cyd-chwarae’ yn sicr yw’r nod.
Cerddoriaeth Cymru
Beca Williams
Heb os, un o brif nodweddion y Cymry yw’r ffaith ein bod ni gyd yn un teulu mawr – yn cydweithio ac yn cefnogi ein gilydd. Fel Llywydd ‘y GymGym’ Prifysgol Caerdydd, mae cydweithio yn ran allweddol o fy rôl. Yn wythnosol, rydym ni fel Pwyllgor yn trefnu crôls a digwyddiadau cymdeithasol er mwyn dod â phawb o’r Cymry ynghyd â chael hwyl a sbri yn y broses. Mae digwyddiadau megis yr Eisteddfod a’r Ddawns Rhyng-ol yn dyst o gydweithio, wrth i ni baratoi i’r digwyddiad drwy ddysgu darnau ar gyfer y cystadleuethau, ac yn bwysicaf oll, cymdeithasu a joio gyda Phrifysgolion eraill ar draws y wlad. Yn ogystal, mae teithiau i wylio’r rygbi ym Mhencampwriaeth y chwe gwlad yn Nulyn a Chaeredin yn sicr yn un o uchafbwyntiau yr aelodau gan ei fod yn gyfle i ddod â phawb at ei gilydd ac i ddathlu’r diwylliant Cymraeg. Mae bod yn rhan o’r pwyllgor eleni yn bendant wedi bod yn binacl ac wedi dysgu imi beth yw gwir ystyr cydweithio.
Enghraifft wych o artistiaid sydd wedi uno i greu gwaith a chydweithio oedd y grŵp a ddaeth i’r amlwg yn ystod 2020 gyda’u cyfres o senglau cyfarwydd sef ‘Ystyr’ a brenin y rap Gymraeg sef Mr Phormula. Dywed ei fod yn gydweithrediad cyffrous iawn a phenderfynwyd enwi’r Sengl yn ‘Noson Arall yn y Ffair’. Yn ôl cylchgrawn Y Selar, roedd y sengl yn ‘cyfuno egni y curiad, llif y geiriau, naws y gerddoriaeth, breuddwydion y gorffennol a gobaith y dyfodol’. Dywed y grŵp, sy’n cydweithio i greu cerddoriaeth o ddihangdod, teimlad ac angerdd, mai pwysigrwydd y darn yw’r ffaith ei fod yn ‘nodi atgofion melys nosweithiau hudol yn dawnsio, wrth gynllunio at y newidiadau sy’n rhaid eu gwneud yn ein cymdeithas’. Heb os, teimlaf fod y cyfnod clo wedi gwneud i ni’r Cymry ymdrechu i gydweithio yn fwy a threfnwyd nifer o ddigwyddiadau yn rhithiol. Bum hefyd yn ran o lwyddiant arall i dorri record byd dros y cyfnod clo gyda’r grŵpfacebookenwog; ‘Côr-ona!’
Ffordd arall o’r Cymry’n cydweithio ac yn dod at ei gilydd ydy trwy cerddoriaeth. Pwy yw eich hoff artistiaid cerddorol Cymraeg?
Yn ddiweddar mae Dafydd Iwan wedi cael rhyw fath o ail fywyd yn sgil llwyddiant Cymru gyda’r pêl-droed ac mae pawb bellach yn gwybod Yma o Hyd ar gof. Ond gwerth nodi fod talentau’r cerddorol y Cymry yn mynd i bob cyfeiriad tu hwnt i’r anthem yna!
Un o fy atgofion cyntaf o gig byw Cymraeg oedd gweld Candelas yn chwarae yn Llambed, lle’r oedd yr Eisteddfod Rhyngol eleni. Roeddwn i wrth fy modd yn gweld un o fy hoff fandiau ar y pryd yn chwarae. Dwi yn dal i gael yr un teimlad o fwynhad pur wrth imi fod yn gwrando ar y bandiau yn fyw, boed hynny yn gig lleol yng Nghlwb Ifor, Tafwyl neu MaesB.
Mae’r ffordd mae pawb yn dod at ei gilydd yn beth mor swreal weithiau. Yn ogystal, mae cyd-ganu eich hoff ganeuon gyda pobl o bob cwr o Gymru yn deimlad anhygoel. Dwi hyd yn oed wedi gallu creu ffrindiau yn y gigiau yma. Wrth imi wrando ar y cerddoriaeth eto mae’r atgofion o’r gigiau yn llifo nôl i’r meddwl ac yn dod â ryw fath oserotonin imi. Tra bod cerddoriaeth yn dod â pobl at ei gilydd, mae artistiaid hefyd yn uno a chyd-weithio i greu sengl. Un o fy hoff cydweithrediad cerddorol ydy senglau Band Pres Llareggub gyda Alys Williams, Lisa Jên a Osian Williams. Mae’r band yn arbennig yn fyw, ac yn cael pawb i ddawnsio. Cydweithrediad arall sy’n fwy diweddar ydy Lloyd, Dom a Don gyda Pwy sy’n Galw? a Calon y Ddraig. Mae ei cerddoriaeth nhw yn hynod o fodern ac yn rhywbeth roedd y sîn gerddoriaeth Cymraeg yn colli allan arni. Roedden nhw’n chwarae ar y llwyfan bach yn Maes B ac yna mi wnaeth 3 Hwr Doeth a Sage Todz ymuno hefyd ac mi aeth pawb yn wylllt!
Mae’r Urdd hefyd wedi defnyddio cerddoriaeth i weithio gyda côr Gaeleg sydd hefyd wedi amlinellu pa mor agos yw’r ieithoedd.
Yn sicr, mae grym celfyddyd yn bwerus iawn ac mae sut mae artistiaid cerddorol a ni’n gallu dod gyda’n gilydd a chyd-ganu yn beth ffab!
Y Ddawns Rhyngol
Lowri Powell
Er bod tipyn o gystadleuaeth rhwng prifysgolion Cymraeg i fod y brifysgol gorau yng Nghymru, maen nhw’n parhau i gydweithio i greu cymuned Cymraeg unedig. Daw prifysgol Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, y Drindod Dewi Sant ac Abertawe, sef Undebau Myfyrwyr Cymraeg mwyaf Cymru, i ymuno a’i gilydd yn flynyddol yn Aberystwyth i fwynhau dawns rhyngol. Fel arfer, mae’r ddawns rhyngol yn cael ei chynnal ym mis Tachwedd, felly’n adeg berffaith i freshers dod i’w nabod ei gilydd. Neu, efallai adeg i’r freshers ddysgu sut i yfed! Ond, yn y pendraw, mae’r gymuned Cymraeg yn dod ata’i gilydd i ddathlu’r Gymraeg, cymdeithasu’n Gymraeg, cystadlu yn y Gymraeg ac i fwynhau gyda’i gilydd. Mae pob dim yn mynd ymlaen dros y penwythnos, o dorri esgyrn i wario cannoedd o bunnoedd ar sglods o’r cebab i gropian i fynnu’r bryn enfawr enwog ‘na. Ond wir bwrpas y penwythnos yw cystadlu ym mhob celf, cerddoriaeth a chwaraeon. Ar y nos Wener, yn draddodiadol mae yno eisteddfod dafarn, sy’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr o Brifysgolion Cymru cystadlu yn erbyn eu gilydd trwy farddoniaeth. Ond nid farddoniaeth arferol yw hi gan ystyried mae’n cael ei gynnal yn yr Hen Lew Du, sef dafarn mwyaf enwog Aberystwyth. Barddoniaeth efo bach o sbeis yw hi! Na’i gadw hynny i chi weithio mas eich hun!
Ymlaen at ddydd Sadwrn, mae’r prifysgolion yn mynd ati i daro ei gilydd yn dwrnament pêl droed. Gem gyfeillgar mae e fod, ond dwi ddim yn hollol siŵr am hynny! Yn enwedig pan mai bechgyn
Caerdydd yw’r bois mwyaf cystadleuol yn y byd i gyd - mae’n cyfateb i Gwpan y Byd iddyn nhw. Daw’r penwythnos i ben efo uchafbwynt y penwythnos, efo gig ddawns rhyngol. Yn cynnwys cerddoriaeth Gymraeg gan y bandiau boethaf, mae’n gyfle gwych i gymdeithasu a gwneud ffrindiau gyda myfyrwyr o bob rhan o Gymru. Blwyddyn ddiwethaf, gwnaeth Meinir Gwilym, 3 Hwr Doeth, Di Enw a Maes Parcio perfformio’n wych yn y ddawns rhyngol. Mae’n cyfle i wrando ar ganeuon Cymraeg hen a newydd, tra’n cymdeithasu efo ffrindiau hen a newydd. Noson lawn dawnsio, canu, diodydd di-ri a chwerthin. Nid yn unig benwythnos o bartio yw hon, ond dathliad o’r gymuned Gymraeg ar draws brifysgolion Cymru. Yn fy llygaid i, dyma’r cydweithrediad gorau byth!
Yr Eisteddfod Genedlaethol
Millie
Stacey
Eisteddfod yw un o’r prif ffyrdd y mae Cymru’n uno fel un, a dyna pam ei bod yn cyd-fynd mor dda â thema’r rhifyn hwn o ‘collaboration’. Beth yw’r Eisteddfod? Mae’r Eisteddfod yn ŵyl unigryw flynyddol yma yng Nghymru sy’n symud ar draws y wlad bob blwyddyn. Mae’r ŵyl yn darparu llwyfan cenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg, dawns, a digon o weithgareddau ychwanegol i ddiddanu pob oedran. Mae’r Gymraeg yn rhan annatod a phwysig o’r Eisteddfod, ond mae’r ŵyl yn llawer mwy na digwyddiad Cymraeg. Mae’r Eisteddfod yn gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gynllunio lleoliadau’r ŵyl dros nifer o flynyddoedd. Mae’n cyfle gwych i fusnesau lleol a gymreig i hysbysebu a chymryd rhan mewn yr Eisteddfod fyd gyda’r wyl yn denu tua 150,000 o ymwelwyr a dros 250 o stondinau masnach. Mae trefniadaeth yr eisteddfod yn rhywbeth sydd angen llawer o gynllunio i sicrhau’r wythnos berffaith i bobl ei mwynhau, un ffordd o gyflawni hyn yw drwy gydweithio’n agos gydag awdurdodau lleol y dalgylch am o leiaf ddwy flynedd cyn cynnal yr Eisteddfod. Un ffordd y mae’r eisteddfod yn helpu cydweithio rhwng y Saesneg a’r Cymry Cymraeg yw Maes D. Lle i ddysgwyr Cymraeg ymarfer eu Cymraeg ac adeiladu eu hyder trwy gael sgwrs gydag arbenigwyr. Mae’n un o’r ffyrdd y mae’r digwyddiad yn anelu at wthio ac eiriol dros yr iaith a’i dyfodol. Un o brif atyniadau’r digwyddiad yw’r gystadleuaeth. Mae’r digwyddiad yn galluogi pobl o bob oed i gystadlu mewn canu, dawnsio, y celfyddydau a llawer mwy o draddodiadau Cymreig. Mae hyn yn rhoi cyfle i blant iau i ddod at ei gilydd a dysgu sgil newydd mewn ffordd hwyliog, ryngweithiol a chydweithredol. Rhan fawr o’r Eisteddfod Genedlaethol yw Maes B, sef ŵyl gerddoriaeth Gymraeg sy’n caniatáu i artistiaid fel Adwaith, Eadyth a llawer mwy neidio ar y llwyfan a rhannu eu cerddoriaeth Gymraeg. Mae hwn yn atyniad enfawr ac yn rhan o’r eisteddfod gyda pherfformiadau yn mynd i mewn i’r nos ac yn gorffen am tua 3:30.