Blas ar Fwyd cyf 25 Heol yr Orsaf, Llanrwst, Conwy, LL26 0BT t: 01492 640215 f: 01492 642215 criw@blasarfwyd.com www.blasarfwyd.com
Gyda’r Nadolig a cyfnod o gymdeithasu gyda ffrindiau a theulu yn agosau, dyma’r amser gorau i chwilio am winoedd gwahanol ar gyfer pob math o ddathliad. Er mwyn bod o gymorth dyma restr fer o winoedd arbennig, ynghyd a nodiadau blasu, ar gyfer y tymor. ‘Rydym wedi gweithio prisiau arbennig ar gyfer y detholiad yma, ac er mwyn helpu’r achos nid oes cost danfoniad am ddanfon chwe’ potel i unrhyw gyfeiriad yng Nghymru. Cyfle da i ddanfon anrhegion i gyfeillion ella! Wrth gwrs mae gennym gannoedd o wahanol winoedd safonol ar brisiau cystadleuol iawn yn ychwannegol i hyn, ac os ydych eisiau cyngor am flwch o win arbennig cysylltwch a ni. Gallwn gynghori detholiad i’ch plesio neu gallwn argymell blwch i gyllideb arbennig. Gall hynny fod yn flwch £40 neu hyd yn oed £200. Cysylltwch a Deiniol trwy ebost neu ffôn i drafod eich anghenion.
Gwin Gwyn
1 btl
Conviviale Fiano, Yr Eidal £6.80)
(normal
Gwin creisionllyd, yn sych speislyd gyda arogl blodeuog cain gyda awgrym o ffenigl ac eirin gwlanog gwyn. Corff canolig gyda blasau croen ffrwyth sitrws ffres gyda nodau trofannol ysgafn yn cael ei gyd-bwyso gan asidedd da a nodau speisllyd, mwynol ar y cload.
Silvermyn Sauvignon Blanc, Stellenbosch £7.95)
(normal
Trwyn bendigedig o ffrwyth sitrws aeddfed, olew lemwn a melon gwyrdd gyda blasau awchus ar y daflod ac asidedd yn cyd-bwyso yn naturiol. Gwerth gwych am arian ac yfadwy iawn – ac y gywir iawn mi wnaeth Silvermyn Sauvignon gael ei wobrwyo yn Platter's Guide 'Superquaffer of the Year' am 2012!
Le Vieux Quartier Bourgogne Chardonnay
£6.95
(normal £9.95)
Persawr atgofus o aroglau menyn a sitrws yn cyfuno gyda ffrwyth bras ond eto’n sawrus sydd yn cadw at graidd o ffresni glân o fewn y Chardonnay Bwrgwyn clasurol llawn blas yma, sydd yn arddangos dyfnder, hyd, ac uwchlaw popeth strwythur yn y gorffeniad.
Marques de Riscal Blanco Rueda
£6.10
£8.95
(normal £10.20)
Lliw gwellt llachar, Esiampl wych o win un rawnwin y Verdejo sydd gyda cymysgedd o aroglau ffrwyth trofannol ac awgrym o ffenigl a gwair glas ffres. Ceg-deimlad adfywiol, llawn corff a chwinc bach chwerw ar y diwedd yn rhoi cymlethdod a nodweddion personoliaeth y math yma o win. Tudalen 1 o 4 Cynnigion Golwg 12 2013 Blas ar Fwyd – 01492 640 215 criw@blasarfwyd.com
£9.60
Blas ar Fwyd cyf 25 Heol yr Orsaf, Llanrwst, Conwy, LL26 0BT t: 01492 640215 f: 01492 642215 criw@blasarfwyd.com www.blasarfwyd.com
DOM Riesling Qualitatswein Trocken
(normal £10.95)
Aroglau ffrwyth glân nodweddiadol o Riesling – afal aeddfed a croen lemwn, mwynol a hyd da.
Naia, Y Sbaen £11.80)
£9.85
(normal
Trwyn cain a chyfoethog gyda ffrwythau carreg gwyn a sitrws aeddfed. Blasau sitrws, ffrwythau carreg wedi eu pobi a nectarines ffres yn y geg, ynghyd a nodau sawrus pendant. Teimlad ceg hufennog o’r pedwar mis o aeddfedu ar y gwaddodion a’r corddi dyddiol, a’r gorffeniad yn atgoffa o gnau almwnd.
Mon Vieux ‘Hell’s Heights’ Sauvignon Blanc, De Affrica (normal £10.65) Sauvignon Blanc cyhyrog, pwerus sy’n adlewyrchu tarddiad creigiog y grawnwin yn ei arogl carreg tân. Mae hwn yn greisionllyd ac ymwthgar gyda blasau tebyg o dderw cain unllin. Ennyd o fan ac amser, wedi ei wneud a llaw, a’i botelu.
£9.99
£8.75
Domenico de Bertiol Prosecco di Valdobbiadene Spumante NV (normal £11.60) Wedi ei wneud o rawnwin y Prosecco di Valdobbiadane, yn lliw gwellt a gyda swigod bach deniadol. Ysgafn, arogl ffrwythus o ‘falau ffres gwyrdd a gellyg ynghyd a awgrym o furum yn arwain at daflod o befr ysgafn hufennog a pheth coethder cneuog yn cloi. Esiampl wych o’r arddull yma.
Domaine Madeloc Collioure Blanc Cuvee Tremadog, Ffrainc Lliw euraidd, ffroen acasia yn datblygu’n fêl a nodau tôst yn y geg. Mae sioncrwydd y gwin yma yn cael ei gydbwyso’n wych gan ei grinder.
Gwin Coch (normal £9.75)
Aroglau ceirios du a speis cynnil, ffrwyth du cnawdol a rhai nodau perlysieuog, ac asidedd cytbwys.
Boutinot ‘Les Coteaux’ Côtes du Rhône Villages(normal £9.15) Awgrym o gedrwydd a sbeis yn gefn i arogleuon cain aeron. Mae’r tanin meddal, hyblyg yn cyfuno â blasau ceirios i greu gwin cyfoethog a llyfn.
Silver Myn Argentum, Stellenbosch
£8.85 £7.90
(normal £7.95)
Cyfuniad Bordeaux felly fydd hwn ddim mor ddifrifol, ond gyda’r is-ddyfnder o ffrwythau mwyar tywyll, bras a choeth gyda nodau clôf cynnes yn arwain at orffeniad bodlon a gafaelgar gyda tanins cyfunol da.
Mon Vieux ‘Windfall’ Merlot , De Affrica
£6.95
(normal £10.65)
Mae’r Merlot coeth, tywyll yma yn derbyn diffiniad trwy’r ffresni iachus o’i gartref mynydd agored. Mae melysder ffrwyth gweiriog a rhinwedd daearol a mwynol hwn yn ei wneud yn ddifrfol ac unigryw. Eto yn ennyd o fan ac amser, wedi ei wneud a llaw, a’i botelu.
£8.75
(normal £9.25)
Mae nodweddion Chianti Cecchi yn coch llachar, sydd yn tueddu am frowngoch fel mae’n aeddfedu. Arogl aromatic dwys gyda nodau fioled. Yn y geg mae cyd-bwysedd da sydd yn arwydd glasurol o Chianti, sydd yn ei wneud yn gymar cystal i fwyd.
Il Grigio Chianti Classico Riserva
£17.99
1 btl
Rioja Ontanon Crianza
Chianti Cecchi
£9.99
£6.85
(normally £14.85)
Trwyn o ffrwythau coch a mwyar llawn a ffres, gyda nodweddion speis a ‘baco sawrus. Gwead y blas yn agor i arddangos ffrwyth bras dwys, teisen ddathlu a chymeriad daear galed boeth, haenau o ledar, speis a nodau sawrus cnoadwy. Tudalen 2 o 4 Cynnigion Golwg 12 2013 Blas ar Fwyd – 01492 640 215 criw@blasarfwyd.com
£12.75
Blas ar Fwyd cyf 25 Heol yr Orsaf, Llanrwst, Conwy, LL26 0BT t: 01492 640215 f: 01492 642215 criw@blasarfwyd.com www.blasarfwyd.com
Vina Leyda Reserve Syrah, Chile
(normal £10.25)
Syrah mynegianol arddull hinsawdd oer, llwyth o speis, pupur gwyn, nodau blodeuog (fioled) a ffrwyth asidig coch fel mafon. Derw da wedi ei gyfuno’n gywir yn rhoi agwedd myglyd meddal i’r diwedd. Blasu yn ffrwythus, suddog a ffres, gyda asidedd da yn agor y palet. Tanins meddal a melys.
Pablo Y Walter Malbec, Ariannin
£9.25
(normal £9.90)
Corff llawn a chrynodiad gwych o fanila, moca, mwyar duon, sbeis melys a chlôf. Yn gyfoethog ac yn eich cynhesu, ceir blasau fanila, ffrwythau duon, eirin a cheirios gyda nodau lledar. Gwin gwych â gorffeniad ffres.
Mon Vieux ‘Sheer’ Syrah Tannat, De Affrica
£8.75
(normal £9.95)
Yn ddu a speis cynnes gyda nodau o seren anis a blasau ffrwythau fforest daearol, mae gan hwn gymeriad a chynildeb mwynol gyda asidedd sawrus blasus ar y diwedd. Cyfuniad ysbrydoledig o Syrah cain wedi ei lithro i mewn i faneg melfedaidd y Tannat blasus. Eiliad arall o amser a lle.....
£8.75
Monferrato Rosso, Marchesi di Gresy. Yr Eidal (normal £19.50) Ffrwythau fforest aeddfed, speisllyd, aromatig, a nodau eirin coch a du aeddfed wrth arogli. Y gwin yma’n nawsio ceinder; mae’n llawn corff ond eto’n ddwr i ddannedd. Eirin, fanila coeth, ceirios sur a tanin aeddfed. Gwin gyda cynnildeb.
Les Cepages Oublies Cinsault Grenache Noir Vieilles Vignes Ffrainc (normal £8.35) Arogl eithriadol o eirin hyfryd newydd eu casglu a cheirios cigog, awgrym o ddanadl poethion ag ella riwbob yn gymysg a mefus a mafon. Blasau’r geg yn ddrych o’r arogl ond gyda gwead mwy cynnes a’r teimlad o aeddfedu’n yr haul.
Le Vieux Quartier Bourgogne Pinot Noir
San Felice Chianti Classico Magnum
(normal £25.99)
Arogl deniadol o gedrwydd a speis, gyda nodau pêr dyrchafol. Blasau o goffi a siocled tywyll gyda cymeriad tar cynnil a gorffeniad hir ystwyth.
Pierre Fine Grenat, Grenache Noir Vieilles Vignes, Pays d’Oc (normal £9.60) Aroglau ffrwythau coch aeddfed a llond ceg o ffrwyth llawn corff hen winwydd llwyn, blasau mwyar tywyll a speis derw gyda peth tanin derw blasus ar y gorffeniad.
£10.40
£19.99
£7.85
(normal £8.15)
Coch rhudd tywyll, gydag arogleuon dwys eirin a mwyar duon, a fanila a sbeis. Yn y geg ceir nodweddion bywiog ceirios ffres yn gostegu’n gain at flasau gosgeiddig, tawel braf.
Coyam, Chile
£9.90
(normal £11.90)
Shiraz clasurol o’r Barossa gyda blasau sawrus dwys o stiw mwyar duon, pupur du a’r blasau cryf a chadarn nodweddiadol. Dim awgrym o jam yn ‘fama, dim melysder, mae hwn ar gyfer yr oedolyn, gyda asidedd cytbwys, tanin cain melfedaidd a chilflas eithriadol.
Adobe Malbec, Chile
£8.95
(normal £11.80)
Arogl deniadol, peraroglus gyda ceirios, fioled, eirin, nodau balsamig a chymeriad derw speisllyd, melys hudolus. Ffrwyth aeddfed ar y daflod gyda asidedd ffres a tannins anymwthgar ystwyth. Dyma win sy’n cyfuno ffrwyth modern, ffres, suddog, agos atoch gyda strwythyr, dyfnder a coethder ar awgrym lleiaf o licrish.
The Black Craft, Awstralia
£6.99
(normal £9.95)
Y ffroenau ar geg yn datgan purdeb y gwir Pinot Noir o Fwrgwyn. Aroglau o geirios coch a mafon gyda blasau cain aeron coch ffres wedi ei ymglymu o gylch calon cigog, sydd ar yr un pryd yn llyfn iawn ag eto gyda graen cain yn arddangos strwythur a chload adfywiol glan.
Castell del Remei Gotim Bru, Catalonia
£14.50
£7.15
(normal £18.15)
Ymysg y cyfuniadau cyntaf o Chile i gefnogi Carmenere. Ceirios coch bras moethus a grymus, merwydd a mwy o fwyar! Fanila, speis melys gyda rhithyn o sawr perlysieuol. Y geg yn cynnwys yr un grym o aeron, ond hefyd rhyw gymeriad llychlyd cynnes hyfryd, sy’n atgoffa dyn o’i darddle, ac awgrym o fintys a mwyn. Ceg deimlad llawn a chytbwys, yn feddal, tanins crwn a gorffeniad maith sy’n dangos cymeriad a phersonoliaeth. Tudalen 3 o 4 Cynnigion Golwg 12 2013 Blas ar Fwyd – 01492 640 215 criw@blasarfwyd.com
£14.90
Blas ar Fwyd cyf 25 Heol yr Orsaf, Llanrwst, Conwy, LL26 0BT t: 01492 640215 f: 01492 642215 criw@blasarfwyd.com www.blasarfwyd.com
Gwin Rhosynaidd
1 btl
De Gras Rose, Chile
(normal £6.60)
Mae’r gwin yma yn orlawn o fafon, mefus a ceirios coch suddog. Llwyth o flasau ffrwythau coch aeddfed, mymryn o felysder ac egni adfywiol sy’n tynnu dwr i ddannedd.
Silvermyn Cabernet Franc Rose, Stellenbosch
(normal £7.95)
Lliw croen nionyn gwelw gyda ffrwyth llachar suddog a chload gweadol.
Gwin Pwdin a Port ‘Palazzina’ Moscato Passito
(normal £6.90)
(normal £12.60)
Coch dwfn; ffrwyth bras llawn goludog gyda syndod o ddyfnder blas, yn datgan ffrwyth pur, ifanc a safonol.
Krohn LBV 2005 Port
£9.49 £9.85
(normal £14.60)
Lliw coch dwfn gyda aroglau blaengar o eirin duon, speis a perlysiau sych, tanin pendant ac amlwg a gorffeniad hir a chyfoethog. Mae nodweddion llawn eirin hael, ffresni ac aeron pur yn nodweddiadol o LBV Krohn.
Krohn Colheita 2001 Port
£9.95
(normal £10.75)
Browngoch bricsen; arogl cymleth a chain gyda nodau coeth ffrwythau sych speisllyd a chnau. Y daflod yn ddrych o’r arogl, ond gyda ffrwyth ffres, yn cael ei ddilyn gan flasau siwgr coch, molases, ffigys sych a chnau.
Krohn Rio Torto Reserva Port
£5.90
(normal £12.25)
Lliw eur-felyn. Arogl aromatig dwys, yn llawn a melys yn y geg gyda gludiogrwydd hyfryd. Yn faith a hudolus, yn dangos nodweddion croen oren candi, gwyddfid, eirin gwlanog a mêl – hefyd gyda nodau gwellt, taragon a bricyll. Asidedd glân a ffres yn cloi.
Krohn Heritage Tawny Port
£6.95
1 btl
Arogl pwerus o bwdin merang lemwn, marmalêd, caramel caled ag afal toffi. Y geg gyda llwyth o fricyll aeddfed a nodau mêl acasia gyda craidd o gaws lemwn cartref yn rhedeg trwy’r cload hir, ffres sitrws yn llusgo ddarfod.
Senorio de Sarria Moscatel
£5.95
£11.75
(normal £17.75)
Mae Krohn yn enwog am eu Colheita. Mae’r dilyniant yma i win blwyddyn 2000 yn debyg yn ei arddull ac yn opsiwn da i’r LBV. Enillydd Medal Aur yn Sialens Gwin Rhyngwladol eleni, sylwebodd y beirniaid ei fod yn cynnig “arogl toffi meddal gyda aeron wedi caramaleiddio ac awgrym o ffigys sych yn y blas”. Dwr i ddannedd.
£14.50
Krohn Vintage 2005 Port Eithriadol aeddfed, llond ceg o ffrwyth, yn nodweddiadol o flwyddyn boeth gyda nodau Teisen Nadolig speisllyd a hyfryd, mae hwn yn flaengar a rhwydd, yn ddilyniant gwych i’r 2003 ac yn werth da am arian.
Tudalen 4 o 4 Cynnigion Golwg 12 2013 Blas ar Fwyd – 01492 640 215 criw@blasarfwyd.com
£25.50