hystori
, Atodiad Geid i r Gwyliau Gwledd o wyliau Cymreig at bob dant Wrth i’r haf agosáu mae tymor y gwyliau ar fin cyrraedd a’r gwyliau Cymreig yn prysur gyhoeddi eu harlwy ar gyfer eleni.
Mae amrywiaeth ardderchog o wyliau yng Nghymru, rhywbeth i bawb heb os. I’ch helpu i gynllunio eich calendr ar gyfer yr haf felly, dyma ganllaw Geid i’r Gwyliau Golwg i’ch rhoi ar ben ffordd.
Gŵyl Arall – nôl am y nawfed
Caernarfon Cystadleuaeth Golwg
Chwech o 6
Mae Gŵyl Rhif 6 yn chwech oed ac yr un mor unigryw ag erioed. Mae’n unigryw oherwydd y lle – gyda’r perfformiadau’n digwydd o amgylch pentre’ Eidalaidd Clough Williams-Ellis ym Mhortmeirion, hyd yn oed yn rhai o’r adeiladau. Mae’r cynnwys yn unigryw hefyd oherwydd y gymysgedd o gerddoriaeth, a hynny’n cynnwys elfen gre’ o fandiau a cherddorion Cymraeg a Chymreig. Eisoes ar gyfer eleni, mae’r perfformwyr
Bydd y nawfed Gŵyl Arall yn benwythnos llawn dop o gerddoriaeth, llenyddiaeth, drama, comedi a chelf, a hynny gyda thîm cryfach nag erioed o wirfoddolwyr y tu cefn iddi . “Mae ‘na fwy ohonom ni eleni,” meddai un o’r trefnwyr, Rhian George, “ac mae’n naturiol bod mwy o amrywiaeth yn yr arlwy.” Un peth fydd yn denu sylw fydd gwaith celf trawiadol yn addurno’r gwahanol leoliadau yn y dref – y grŵp o artistiaid lleol, CARN, sydd wedi cyfrannu eu gweledigaeth wrth arwain gweithdai yn ogystal ag arddangos gweithiau celf eu hunain. “Mae cyd-weithio yn hanfodol i’r ŵyl ers y dechrau” meddai. “Braf, yw gweithio efo cyhoeddwyr sy’n cynnal lansiadau llyfrau a chylchgronau, cyd-hyrwyddo digwyddiadau fel Protest Fudur a Mae Gen i Go ac adeiladu ar ein perthynas â chwmnïau fel Frân Wen, sy’n rhoi cyfleon i bobol ifanc ym maes theatr eto eleni.” Mae arlwy gerddorol yr ŵyl yn un gref, gyda Cowbois Rhos Botwnnog ac Alys Williams ymysg
yn cynnwys amrywiaeth mor eclectig â Band Pres Llareggub, Côr Meibion y Brythoniaid a Charlotte Church’s Late Night Pop Dungeon. Mae’r cyfranwyr o’r tu allan i Gymru yr un mor amrywiol ac eleni’n cynnwys dathliad arbennig – 50 mlwyddiant cyhoeddi albym Sergeant Pepper y Beatles a ‘Haf Cariad’ 1967, a oedd yn cynnwys ymweliad y band o Lannau Mersi â Bangor. Fe fydd y dathliad hwnnw’n gweld rhai fel y Bootleg Beatles a Cherddorfa Philarmonig Lerpwl yn cymryd rhan ochr yn ochr â rhes o enwau mawr o’r byd cerddoriaeth annibynnol – o Laura Mvula i The Flaming Lips a Mogwai. Mae’r ŵyl eleni’n digwydd rhwng 7 a 10 Medi gyda threfniadau newydd sbon ar gyfer parcio a mynd – ar dir uchel ar fferm ar gyrion Porthmadog.
yr enwau amlwg sy’n perfformio. Bydd Yr Eira a Candelas hefyd yn hedleinio gigs yn Neuadd y Farchnad ar y nos Wener a Sadwrn. Lleoliad newydd eleni ydi Eglwys y Santes Fair, ble fydd Elinor Bennett a’r grŵp gwerin VRI, yn cynnal cyngerdd go arbennig ar y nos Wener. Fel erioed, siop Palas Print fydd y ganolfan ar gyfer tocynnau, a bydd tocynnau penwythnos bargen cynnar ar gael o 13 Fai, sef diwrnod Gŵyl Fwyd Caernarfon, ble mae llwyfan dan nawdd Gŵyl Arall yn gaddo gwledd gerddorol arall.
Cyfle i ennill pâr o docynnau penwythnos gyda gwersylla i Ŵyl Rhif 6 2017. I fod â chyfle i ennill y wobr, y cyfan sydd angen i chi wneud ydy ateb y cwestiwn canlynol: Pa gôr meibion o’r Gogledd sydd wedi selio eu lle fel un o uchafbwyntiau blynyddol Gŵyl Rhif 6? Anfonwch eich atebion, ynghyd â manylion cyswllt i ymholiadau@golwg.com neu Golwg, Blwch Post 4, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7LX
Pen-y-Bont ar Ogwr, Taf ac Elái h y s t o r i 29/05–03/06/2017
Gwledd o wyliau Cymreig at bob dant
Eisteddfod yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái 29/05-03/06 2017 urdd.cymru/eisteddfod
tocynnau bargen! Prisiau gostyngol tan 1 Mai plant
£5
oedolion
£13
urdd.cymru/tocynnau 0845 257 1639
Gigs Cymdeithas – ymestyn tu hwnt i ffiniau’r maes Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ôl yr arfer yn ymestyn i’r gymuned leol yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, gyda Fferm Penrhos ger Bodedern yn leoliad ar gyfer eu gigs. Mae lein-yp lawn yr wythnos eisoes wedi’i gyhoeddi, ac yn agor gyda clamp o noson yng nghwmni Bryn Fôn, Calfari ac Y Chwedlau ar nos Sadwrn 5 Awst. Nid dim ond cerddoriaeth sydd ar y fwydlen, mae nosweithiau comedi wedi bod yn rhan amlwg o arlwy’r Gymdeithas ers rhai blynyddoedd. Bydd y ffefryn lleol, Tudur Owen, yn arwain y noson stand-yp ar y nos Sul gyda Beth Angell, Hywel Pitts ac Eilir Jones hefyd yn codi’r chwerthin Mae cyfle i gydweithio â label I Ka Ching ar y nos Lun i lwyfannu Candelas, Ysgol Sul, Cpt Smith a DJ Branwen Ikaching, ac mae noson arbennig i artistiaid o Fôn ar y nos Fercher, ‘Noson Gwlad y Medra’, gyda
urdd.cymru/eisteddfod 0845 257 1639
Dathlwch amrywiaeth gyda ni! Y Gymraeg i BAWB, nid i’r rhai ffodus yn unig Eisteddfod yr Urdd eisteddfodurdd
Dewch i’n gweld ar faes Eisteddfod yr Urdd, Tafwyl, yr Eisteddfod Genedlaethol a nifer o ddigwyddiadau eraill. Tocynnau i’n gigs + gwersylla yn Steddfod Môn ar gael nawr: cymdeithas.cymru/steddfod hysbyseb amrywiaeth.indd 1
Meinir Gwilym, Panda Fight a Cordia. Bydd mwy o amrywiaeth gyda noson Bragdy’r Beirdd ar y nos Fawrth, a Steve Eaves ydy prif atyniad lein-yp gref nos Wener gyda Kizzy a Lowri Evans yn gwmni. Er hyn, mae’n debyg mai uchafbwynt y gigs fydd y nos Sadwrn olaf gyda Gai Toms, Bob Delyn
a 24/04/17 21:06
a’r Ebillion a’r brenin ei hun, Geraint Jarman yn cloi yr wythnos. Yn ogystal â’r gigs, mae’r Gymdeithas yn cynnig maes gwersylla ar Fferm Penrhos ac mae’r tocynnau wythnos, sy’n cynnig gostyngiad o £15 ar brynu tocynnau’n unigol, ar werth nawr.
Gwledd o wyliau Cymreig at bob dant
hystori
Pen -blwydd hapus Sesiwn Fawr Dolgellau Bydd cryn ddathlu yn Nolgellau ar benwythnos 21-23 Gorffennaf eleni wrth i ŵyl enwog y dref ddathlu chwarter canrif ers ei sefydlu ym 1992. Ac mae croeso i unrhyw un ymuno â’r parti! Mae digon o ddanteithion cerddorol i’w mwynhau gyda Peatbog Faeries o’r Alban, oedd yn boblogaidd iawn yn yr ŵyl ddwy flynedd yn ôl, yn dychwelyd a’r grŵp lleol, Sŵnami, hefyd yn perfformio. Bydd y grŵp gwerin Cymreig, Calan, yn uchafbwynt arall ynghyd ag enwau diddorol fel Coco and the Butterfields o Loegr a Dallahan o Iwerddon. Ychwanegwch enwau Lewis a Leigh, Steve Eaves, Alys Williams, Lowri Evans, Tecwyn Ifan, Fleur de Lys, Climbing Trees, Nantgarw a Teulu at y rhestr ac mae’r arlwy gerddorol yn dod â dŵr i’r dannedd. Ond mae’r Sesiwn fawr yn fwy na dim ond gŵyl gerddorol gyda chymysgedd o weithgareddau celfyddydol i’r teulu – comedi, llenyddiaeth ac eleni mae dawnswyr Nantgarw yn perfformio cyn cynnal gorymdaith o gwmpas y dref.
@SesiwnFawr |
SesiwnFawr | Tocynnau a rhagor o wybodaeth – sesiwnfawr.cymru
Parti teilwng i nodi
carreg filltir arbennig.
Cartref dros dro i
Tafwyl Mae gŵyl Gymraeg boblogaidd Caerdydd, Tafwyl, yn symud i gartref dros dro yng Nghaeau Llandaf ar 1-2 Gorffennaf, ond bydd y croeso mor gynnes ag erioed. Gyda mynediad yn rhad ac am ddim mae llu o weithgareddau ac adloniant yn ôl yr arfer hefyd. Ymysg y prif enwau cerddorol eleni mae Bryn Fôn, Geraint Jarman, Yws Gwynedd, Alys Williams, Kizzy Crawford, Meic Stevens, Candelas, Y Niwl, Heather Jones a The Gentle Good. Ond yn ogystal â’r enwau sefydledig, mae trydydd llwyfan eleni, Yurt T, sy’n cynnig cyfle i berfformwyr ifanc gan gynnwys Mabli Tudur, Hyll a Mellt. Bydd digon o gerddoriaeth amgen dros y ddeuddydd hefyd
gyda Rêf Teulu ‘Big Fish Little Fish’ yn dod i’r ŵyl am y tro cyntaf. Ac ar y thema o rêfs, nos Sadwrn a nos Sul bydd Gareth Potter a Mark Lugg o’r grŵp Tŷ Gwydr yn atgyfodi eu clwb chwedlonol, REU, i nodi ugain mlynedd ers noson enfawr ‘Claddu Reu’ yn Eisteddfod Aberystwyth. Mae cerddoriaeth werin yn cael lle amlwg yn Nhafwyl hefyd, gyda Trac a Chwpwrdd Nansi yn curadu prynhawn o gerddoriaeth werin ar y dydd Sul. Nid dim ond cerddoriaeth sydd yn Nhafwyl cofiwch, mae’n nefoedd i unrhyw un sy’n ymddiddori mewn bwyd gyda mwy o stondinau bwyd stryd nag erioed, a digonedd o fariau diod. Gwledd i’r glust ac i’r stumog!
BANDIAU * BWYD * CELFYDDYDAU * CHWARAEON
GORFFENNAF 1 + 2 JULY * 11AM - 9PM CAEAU LLANDAF AM DDIM / FREE
Gwledd o wyliau Cymreig at bob dant
Dwy ŵyl mewn un wrth ddathlu , hanesion hudol Fe fydd Gŵyl Gregynog taith trwy Flwyddyn y eleni yn ddwy ŵyl Chwedlau yng Nghymru,” mewn un, wrth i ŵyl meddai Rhian Davies. gerddoriaeth glasurol Mae hi wrth ei hynaf a mwyaf bodd gyda rhai o’r mawreddog Cymru “straeon hudol” o’r ail-greu cerddoriaeth o ŵyl yn Harlech, am Llŷr Williams ddigwyddiad rhyfeddol gyngherddau yng ganrif yn ôl. nghartref y Prif Weinidog Ar ôl 20 mlynedd o David Lloyd George yng ymchwil, mae curadur Nghricieth neu gyngerdd Gŵyl Gregynog, byrfyfyr ar y piano Rhian Davies, yn gallu rhwng y cerddor talu teyrnged i Ŵyl Harriet Cohen a’r Gerddorol Castell dramodydd George Harlech a’r “hafau Bernard Shaw. Amy Dickson hyfryd” pan ddeuai Fe fydd atgofion cerddorion, artistiaid, hudol Gregynog eleni yn awduron a dawnswyr i cael eu creu gan rai fel gyd at ei gilydd. y ddeuawd arall, y Gyda chyngherddau pianydd Llŷr Williams ar hyd a lled Cymru, a’r sacsoffonydd Amy mae pob cyngerdd Dickson yng Nghastell yng Ngŵyl Gregynog y Waun, neu ddarn eleni yn adfer darnau comisiwn arbennig gan Joy Dunlop a berfformiwyd yng Light, Ladd ac Emberton ngŵyl Harlech, a llawer o’r ar Draeth Harlech. rheiny wedi eu sgrifennu yno a’u Gyda’r thema gyffredinol hysbrydoli gan dirwedd a chwedlau Pasiantri, gobaith Rhian Davies yw y bydd miloedd yn tyrru i Ŵyl Cymru. Gregynog eleni fel y gwnaethon “Mae hynny’n amserol iawn o nhw i Ŵyl Castell Harlech gynt. gofio ein bod yn cychwyn ar ein
Pageantry 16 Mehefin 2 Gorffennaf 2017
g
hystori
gw ˆ yl gregynog festival
ABERYSTWYTH 16 MEHEFIN Paul Dooley // Thomas Dunford GREGYNOG 17-18 MEHEFIN Michala Petri // Mahan Esfahani // Ricercar Consort Y WAUN 23-25 MEHEFIN Amy Dickson // Robert Plane // Gould Piano Trio // Llyˆr Williams HARLECH 28 MEHEFIN-2 GORFFENNAF Narek Hakhnazaryan // Sara Trickey // Clare Hammond Joy Dunlop // Rex Lawson // Light, Ladd & Emberton // Septura
01686 207100 www.gregynogfestival.org
28-30 Ebrill: Gŵyl Gomedi Machynlleth 5-6 Mai: Gŵyl Gaerwen, Ynys Môn 11-14 Mai: Focus Wales, Wrecsam 13 Mai: Gŵyl Fwyd Caernarfon 20 Mai: Bedwen Lyfrau, Aberystwyth 20 Mai: Tregaroc, Tregaron 25 Mai – 4 Mehefin: Gŵyl y Gelli, Gelli Gandryll 27 Mai: Gŵyl Madam Wen, Bryngwran, Ynys Môn
29 Mai – 3 Mehefin: Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Pen-y-bont ar Ogwr
Pigion gwy l i au Cy m r e i g yr haf
2-3 Mehefin: Live on the Wye, Sir Fynwy 2-4 Mehefin: Gŵyl Tân yn y Mynydd, Ceredigion 8-11 Mehefin: Gŵyl Gottwood, Ynys Môn 9-10 Mehefin: Gŵyl X Music, Parc Biwt, Caerdydd 9-11 Mehefin: Gŵyl Lenyddiaeth RS Thomas, Aberdaron 10 Mehefin: Gŵyl Cefn, Llangefni
16 Mehefin – 2 Gorffennaf: Gŵyl Gregynog, Aberystwyth / Gregynog / Y Waun / Harlech 17-25 Mehefin: Gŵyl Cricieth 23-24 Mehefin: Gŵyl Maldwyn, Cann Office, Llangadfan 23 Mehefin – 1 Gorffennaf: Gŵyl Y Felinheli
1-2 Gorffennaf: Tafwyl, Caeau Llandaf, Caerdydd 7-8 Gorffennaf: Gŵyl Nôl a Mla’n, Llangrannog
7-9 Gorffennaf: Gŵyl Arall, Caernarfon 15 Gorffennaf: Parti Ponty, Parc Ynysangharad, Pontypridd
21 – 23 Gorffennaf: Sesiwn Fawr Dolgellau 24 Gorffennaf – 1 Awst: Gŵyl Gerdd Ryngwladol Abergwaun 28 Gorffennaf – 5 Awst: Gŵyl Trefynwy 4-12 Awst: Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bodedern, Ynys Môn
5-12 Awst: Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith, Fferm Penrhos, Bodedern 17-20 Awst: Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Bannau Brycheiniog 25 – 27 Awst: Gŵyl HUB, Stryd Womanby, Caerdydd 25-27 Awst: The Big Tribute Festival, Aberystwyth 2 Medi: Gŵyl Pendraw’r Byd, Aberdaron
7-10 Medi: Gŵyl Rhif 6, Portmeirion