GOLWG CYF
Hillsborough
“angen atebolrwydd”
Cyfrol 28 . Rhif 33 . Ebrill 28 . 2016 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
Dysgu o ddamwain Chernobyl GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
Dyn ar dân cofio Merêd
9Bach
Merch ei milltir sgwÂr Carys ‘Tractors’
GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
yn “anadlu fel un” ar yr albym newydd
GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
Cymru gwlad y gwyliau - atodiad arbennig GOLWG CYF
GOLWG CYF
1
1
hystori
atodiad geid gwyliau Cymru - gwlad y gwyliau
M
ae gan Gymru fwy a mwy o wyliau llwyddiannus a mwy a mwy o amrywiaeth ohonyn nhw. Ond mae’n gallu hawlio hen hanes hefyd, gan mai’r Eisteddfod yw un o’r gwyliau diwylliannol hyna’ yn Ewrop gyfan. Mae’r gwyliau sy’n cael sylw yn Golwg yr wythnos hon yn crynhoi llawer o’r amrywiaeth – o ŵyl gerddoriaeth glasurol gyda hanes hir, i gyfres o gigs roc a phop ac un o’r gwyliau amrywiol mwya’ newydd. Er mai cystadlu yw hanfod yr Eisteddfod Genedlaethol, mae hithau bellach yn llawer mwy na hynny ac yn ŵyl sy’n cynnwys pob agwedd bron ar y diwylliant Cymraeg. Os Eisteddfod Aberteifi yn 1176 yw’r gynta’ i gael ei chofnodi, mae’r gyfres
o eisteddfodau cenedlaethol modern hefyd yn mynd yn ôl i 1861 – cyfres gyda dim ond un bwlch tros gyfnod o 155 mlynedd, a hynny ar ddechrau’r Rhyfel Mawr yn 1914. Ers rhai blynyddoedd bellach, mae yna ŵyl arall wedi tyfu o amgylch yr eisteddfod, a gigs Cymdeithas yr Iaith yn cynnig dewis arall i’r digwyddiadau swyddogol min nos, yn cael eu cynnal ar hyd a lled yr ardal ble mae prifwyl y flwyddyn honno. Un arall o’r gwyliau gyda hanes hir yw Gŵyl Gregynog a gafodd ei chynnal am y tro cynta’ yn 1933, gan olygu ei bod flwyddyn yn hŷn na gŵyl glasurol fawr Lloegr, Glyndebourne. Y chwiorydd Davies oedd wedi ei sefydlu yn eu plasty yn Sir Drefaldwyn a chafodd ei hatgyfodi’n achlysurol cyn ei chynnal bob blwyddyn o 1988 ymlaen.
Yr ŵyl ieuenga’ o’r cyfan yw Gŵyl Arall Caernarfon, ond un sydd wedi tyfu’n gyflym yn ei phoblogrwydd gan fanteisio ar awyrgylch hynod strydoedd ac adeiladau’r dref ac mae hithau’n cynnwys pob agwedd ar ddiwylliant Cymraeg modern. Mae gwyliau yn rhan o strategaeth Croeso Cymru – adain dwristaidd Llywodraeth Cymru – o hyn at y flwyddyn 2020. Ond, wrth groesawu ymwelwyr, mae gwyliau atodiad Golwg yn hyrwyddo’r diwylliant er mwyn pobol Cymru hefyd.
Un ‘arall’ Lluniau: Iolo Penri
“Mae fel eisteddfod fach – ond heb y cystadlu.” Dyna sut mae un o drefnwyr Gŵyl Arall yn disgrifio’r ŵyl sydd i’w chynnal yng Nghaernarfon am yr wythfed flwyddyn yn olynol eleni. Mae’r ŵyl sy’n gyfuniad o gerddoriaeth, llenyddiaeth, drama a chelf “yn cynnig rhywbeth gwahanol”, meddai Nici Beech, sydd hefyd yn un o drefnwyr digwyddiadau Noson 4 a 6 yn y dref. Esboniodd fod enw’r ŵyl yn eironig oherwydd, “roedd cymaint o wyliau i’w cael yng Nghymru’n barod – ac roedd hon jest yn ŵyl arall”. Ond, yr hyn sy’n ei gwneud hi ychydig yn wirioneddol wahanol i wyliau eraill yw bod y digwyddiadau’n
cael eu cynnal yn adeiladau’r dref, fel yn y castell neu yn neuadd y farchnad. “Ydan ni eisio dod â blas rhyngwladol i’r dre’ hefyd,” meddai Nici Beech gan esbonio y bydd band pres o India yn perfformio yn yr ŵyl, sef Rajasthan Heritage. Mi fyddan nhw’n perfformio ar y cyd â’r seren o Gricieth, Nesdi Jones, sydd wedi gwneud ei henw ym myd cerddoriaeth gyfoes India. Mi fydd darlith hanes gan Dr Elin Jones ynghyd â gweithdai llenyddol gan Anni Llŷn ac Ifor ap Glyn. “Fel arfer, mae’r ŵyl yn denu tua 2,000 o bobol dros y penwythnos cyfan, ac ydan ni’n edrych ymlaen at eleni eto. “Mae pobol yn mwynhau gweld be’ all Caernarfon ei gynnig.”
hystori
atodiad geid gwyliau
Dathlu cysylltiad Cymru ac Iwerddon A
Llun: Gŵyl Gregynog
m bythefnos ym mis Mehefin eleni, fe fydd naws Wyddelig i ganolbarth Cymru wrth i artistiaid, cerddorion ac awduron o’r Ynys Werdd ymuno â dathliadau Gŵyl Gregynog. Thema’r ŵyl eleni yw ‘Éire’ (Iwerddon) ac, yn ôl Rhian Davies, cyfarwyddwr artistig Gŵyl Gregynog, “mae cymaint o gysylltiadau diwylliannol agos wedi’u creu dros y blynyddoedd rhwng Iwerddon a Chymru. “Bydd rhaglen yr ŵyl yn tynnu sylw at yr holl gysylltiadau hyn,” meddai, gan esbonio y byddan nhw’n canolbwyntio ar y cysylltiadau cerddorol yn bennaf. Un o’r cysylltiadau hynny yw’r cyfansoddwr o Aber-miwl ym Mhowys, Peter Warlock, a dreuliodd gyfnod yn gweithio yn Nulyn. Fe fydd cyflwyniadau i’w gerddoriaeth ynghyd â chyfle i glywed hanes darganfod pinnau’r Delyn Wyddelig yng Nghastell Trefaldwyn.
Bydd y santes o’r chweched ganrif, Melangell, hefyd yn cael sylw yn ystod yr ŵyl a hithau’n hanu o Iwerddon ond yn perthyn bellach i Bennant Melangell yn Sir Drefaldwyn. “Mae disgwyl y bydd llawer o ddiddordeb o ochr draw i Fôr Iwerddon,” meddai Rhian Davies gan esbonio y byddan nhw’n cofio am gyfraniad y chwiorydd Gwendoline a Margaret Davies o Gregynog. Yn 1933, fe wnaeth y ddwy sefydlu’r ŵyl mewn ymgais i ehangu gorwelion y celfyddydau yng Nghymru. Fe fydd y digwyddiadau’n cael eu cynnal ar hyd a lled y canolbarth – o Aberystwyth i’r Drenewydd i Eglwys Pennant Melangell yn Nyffryn Tanat. “Rydym yn disgwyl y bydd llawer o bobol yn ymweld â’r ardal i fwynhau’r digwyddiadau sy’n rhan o’r rhaglen – yn enwedig o ystyried safon eithriadol yr artistiaid fydd yn perfformio.” Llun: Marco Borggreve
^
GWYL
FESTIVAL
GREGYNOG 2016
Mahan Esfahani
Jean Rondeau
Llun: Edouard Bressy
Hespèrion XXI ♣ Martin Hayes Academy of Ancient Music Chamber Choir Ireland ♣ Ailish Tynan Mahan Esfahani ♣ Siobhán Armstrong Irish Consort ♣ Daniel Grimwood Nevermind ♣ Finghin Collins Aoife Ní Bhríain ♣ Goodman Trio
16-26 Mehefin 2016 Y Drenewydd, Powys, SY16 3PW
www.gregynogfestival.org 01686 207100 ♣ @gregynogfest
hystori
atodiad geid gwyliau
Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau 29 Gorffennaf – 6 Awst 2016
Tocynnau bargen gynnar ar gael tan 30/06/16
Tocynnau wythnos a thocynnau teulu ar gael. Manylion llawn ar ein gwefan – www.eisteddfod.cymru
0845 4090 800 www.eisteddfod.cymru
Croesawu’r Pafiliwn newydd
A
m y tro cyntaf mewn canrif a mwy, fe fydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn dychwelyd i Sir Fynwy eleni, a hynny wedi iddi ymweld â thref farchnad Y Fenni ddiwethaf yn 1913. Ac ar ôl degawd yng nghwmni’r pafiliwn pinc – pafiliwn newydd fydd yn croesawu’r dorf i Ddolydd y Castell wrth lan afon Wysg eleni.
Yn ôl trefnwyr yr ŵyl, mae’r pafiliwn newydd wedi’i gynllunio i gynnig profiad gwell i’r cystadleuwyr a’r gynulleidfa, “fel adeilad sy’n fwy cadarn gyda’r gallu i gynnig mwy o adnoddau”. Only Men Aloud fydd y cyntaf i gamu ar y llwyfan hwnnw yn ystod y cyngerdd agoriadol, yng nghwmni Gwawr Edwards a Rebecca Trehearn. Fe fydd cyfle hefyd i fwynhau amrywiaeth fawr trwy’r wythnos yn y pafiliwn newydd – o gerddoriaeth Big Band i gig gan y bandiau roc Candelas, Yr Ods a Sŵnami ac ymlaen at gyngerdd o gerddoriaeth glasurol gan y delynores Catrin Finch a’r soprano Elin Manahan-Thomas. Yn ôl Elen Elis, Trefnydd
yr Eisteddfod, mae rhaglen y nos “wedi datblygu llawer dros y blynyddoedd diwethaf”, gan ychwanegu llawer mwy o amrywiaeth at y cyngherddau clasurol traddodiadol. “Mae’r cyngherddau, wrth gwrs, yn parhau i fod yn rhan bwysig iawn o’r arlwy yn ystod yr wythnos, ac rwy’n gobeithio ein bod wedi rhoi rhaglen a fydd yn apelgar at ei gilydd eleni,” meddai Elen Elis. Ar nos Sul yr ŵyl, bydd cyfle i hel atgofion wrth i Alwyn Humphreys a Band Pres Tredegar gyflwyno’r emynau a gafodd eu canu yng nghymanfa ganu gyntaf yr Eisteddfod gan mlynedd yn ôl. Dau ddatblygiad arall o bwys yn ystod y blynyddoedd diwetha’ yw gwersyll roc a phop Maes B – “un o uchafbwyntiau’r Eisteddfod i lawer a bydd y lein-yps eleni’n sicr o apelio at gefnogwyr y sîn Gymraeg”. Mwy diweddar fyth yw’r llwyfan ar y Maes ei hun a’r nos Wener a nos Sadwrn ola’n datblygu i fod yn ddigwyddiadau mawr ynddyn nhw eu hunain – eleni fe fydd Huw Chiswell yn casglu ei Fand yn ôl at ei gilydd am y tro cynta’ ers pum mlynedd.
hystori
atodiad geid gwyliau
Gigs Cymdeithas yn creu ‘teimlad o undod’ M
ae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi bod yn trefnu gigs ar gyfer wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ers blynyddoedd lawer, a’u cynnal mewn canolfannau y tu hwnt i’r maes. Yn ôl Gwion Llŷr, trefnydd y gigs ar ran y Gymdeithas, “mae’n bwysig defnyddio mannau mewn trefi a dinasoedd ar gyfer y gigs gan eu bod yn dod â theimlad o gymuned yn ôl i’r Eisteddfod. “Mae’r teimlad o undod yn bwysig iawn yng Nghymru er mwyn i’r iaith ffynnu.” Eleni, a’r Eisteddfod yn ymweld â Sir Fynwy, fe fydd gigs y Gymdeithas yn cael eu cynnal yn Stadiwm Pen-Y-Pound yn y Fenni – “ond deg munud o gerdded o Faes yr Eisteddfod,” meddai Gwion Llŷr. Fe ddywedodd hefyd fod yr arlwy gyda’r “mwya’ amgen ers amser maith”. Bydd artistiaid o bob cwr o Gymru’n chwarae yno, gyda noson arbennig wedi ei neilltuo i gerddoriaeth electronig ynghyd â nosweithiau o gerddoriaeth werin, disgo, roc a phop. Bydd rhestr lawn o’r artistiaid yn cael ei chyhoeddi ddechrau mis Mehefin.
C ystadle u aeth Golw g Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2016
Gwobr
cyfle i 2 berson ennill pâr o docynnau i:
CYNGERDD GALA CLASUROL 70 OED Artistiaid: Bas – Bariton: Bryn Terfel Tenor: Joseph Calleja Mezzo Soprano: Eirlys Myfanwy Davies Arweinydd: Gareth Jones Cerddorfa: Sinfonia Cymru
Bydd yr Eisteddfod eleni yn croesawu amrywiaeth eang o gystadleuwyr a pherfformwyr gan gynnwys y cantorion clasurol Bryn Terfel a Katherine Jenkins, perfformiadau o fyd y sioeau cerdd gan Kerry Ellis ac enillwyr ‘Britain’s Got Talent’, Collabro, yn ogystal â pherfformiadau gan lu o artistiaid eraill.
Cwestiwn: Pa ben-blwydd arbennig oedd Bryn Terfel yn ei ddathlu llynedd? Dyddiad Cau: Mai 20fed, 2016 Anfonwch eich ateb at: ymholiadau@golwg.com neu Cystadleuaeth Golwg/Eisteddfod Llangollen 2016, Golwg, Blwch Post 4, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion SA48 7LX
pigion gwyliau Mai 26 – Mehefin 5: Gŵyl y Gelli, Gelli Gandryll 30 Mai - 4 Mehefin: Urdd Gobaith Cymru – Eisteddfod Sir y Fflint 2016 Mehefin 3 – 4: Live on the Wye, Sir Fynwy Mehefin 3 – 4: X Music Festival, Caerdydd Mehefin 3 – 5: Gŵyl Tân yn y Mynydd, Aberystwyth Mehefin 9 – 12: Gottwood Festival, Caergybi, Ynys Môn Mehefin 11: Gŵyl Cefni, Llangefni Mehefin 16 – 26: Gŵyl Gregynog, Y Drenewydd Mehefin 18 – 25: Gŵyl Cricieth Mehefin 24 – Gorffennaf 2: Gŵyl y Felinheli Mehefin 24 – 25 : Gŵyl Cann Office, Llangadfan Mehefin 24 – 27: Gŵyl Lenyddiaeth RS Thomas, Aberdaron Gorffennaf 1 – 3: Beyond the Border, Bro Morgannwg Gorffennaf 2 – 3: Gŵyl Tafwyl, Caerdydd Gorffennaf 5 – 10: Eisteddfod Llangollen Gorffennaf 8 – 9: Gŵyl Nôl a Mla’n, Llangrannog Gorffennaf 8 – 10: Gŵyl Arall, Caernarfon Gorffennaf 15 – 17: Sesiwn Fawr Dolgellau Gorffennaf 21 – Awst 2: Gŵyl Gerdd Ryngwladol Abergwaun Gorffennaf 22 – 30: Gŵyl Trefynwy Gorffennaf 29 – Awst 6: Eisteddfod Genedlaethol – Sir Fynwy a’r Cyffiniau Awst 18 – 21: Gŵyl Y Dyn Gwyrdd, Bannau Brycheiniog Awst 19 -21: Glass Butter Beach, Abersoch Awst 26 - 27: Gŵyl Crug Mawr, Aberteifi Awst 26 – 28: The Big Tribute Festival, Aberystwyth Medi 1 - 4: Gŵyl Rhif 6, Portmeirion Medi 3: Gŵyl Pendraw Byd, Aberdaron Medi 9 – 10: Gŵyl Golwg, Llanbedr Pont Steffan Cymdeithas yr Iaith cymdeithas.cymru/taithbwsmiliwn