Golwg Medi 24, 2015

Page 1

“Pwerdy” byd celf Machynlleth

“Y trydydd byd” yn dod i Ewrop

GOLWG CYF GOLWG-0.40BWR CYF 100%MAG 100%MAG -0.40BWR

Rhys yn barod am her newydd GOLWG CYF GOLWG-0.40BWR CYF 100%MAG 100%MAG -0.40BWR

– David Davies yn Calais

GOLWG CYF GOLWG-0.40BWR CYF 100%MAG 100%MAG -0.40BWR

GOLWG CYF GOLWG-0.40BWR CYF 100%MAG 100%MAG -0.40BWR

Cyfrol 28 . Rhif 4 . Medi 24 . 2015

Portreadu plismon Jacob Ifan

Gwledd o rygbi – a gwell i ddod Alun Wyn Bevan


h ys to r i

machynlleth machynlleth machynlleth machynlleth machynlleth

Carreg filltir o dre'

M

ae Machynlleth yn garreg filltir o dre mewn sawl ffordd,” yn ôl Cadeirydd Canolfan Glyndŵr, Allan Wynne Jones. “Mae’n garreg filltir i’r daith droellog rhwng y gogledd a’r de, y newidiadau ieithyddol a daearyddol y tu hwnt i afon Dyfi, ac i’r hanesion rhwng ddoe a heddiw,” meddai Cadeirydd y ganolfan sydd wedi dod ag ail-wynt i’r Senedd-dy yng nghanol y dre’. Un o nodweddion hynotaf Machynlleth, yn ôl Allan Wynne Jones, yw ei bod hi “wedi llwyddo i ddal ei chymeriad fel tre farchnad”. Ddydd Mercher yw diwrnod marchnad Machynlleth, ac mae’r traddodiad yn mynd nôl dros 700 mlynedd. Mae ynddi bob math o stondinau - o ddillad, crefftau, bwydydd, crochenwaith i lyfrau. Ac mae’r stondinwyr a’r bobol leol

yn selog iddi, meddai Allan Wynne Jones, “oherwydd hyd yn oed yn dwll gaea’, dydd Mercher yw diwrnod prysura’ Machynlleth”. Prin yw’r siopau cadwyn sydd yn y dre, a bu ymdrech fawr yn ddiweddar gan y trigolion lleol i gadw un o’r archfarchnadoedd mawrion draw. Mae’r ddwy brif stryd yn frith o siopau bychain - gyda’r hen a’r newydd yn masnachu ochr yn ochr a digon o siopau dillad, crefftau a bwydydd. Ond, yn bennaf oll, mae blas y gorffennol wedi dal ei afael ar y dre hon, am mai yma yn 1404 y coronwyd Owain Glyndŵr yn dywysog Cymru. “Mae’r Senedd-dy yn parhau i fod yn ganolbwynt i fwrlwm y dre,” meddai Cadeirydd y Ganolfan a drefnodd Gŵyl Glyndŵr ar lawnt y Senedd-dy dros y penwythnos. Cafwyd darlith yn olrhain hanes Glyndŵr, ynghyd â digwyddiadau i blant, cystadleuaeth cneifio

cyflym a cherddoriaeth byw gan Henebion, Lobsgows ac Elin Fflur. “Mae’r Senedd-dy wedi agor ei drysau fel canolfan gymunedol,” meddai Allan Wynne Jones. Gellir ymweld ag arddangosfeydd hanesyddol y ganolfan, ynghyd â tharo heibio i’r ddwy siop newydd sydd wedi agor ym mhen arall y Senedd-dy, sef Siop Alys a Lan Llofft. “Mae pobol Machynlleth mor brysur ag erioed,” meddai Allan Wynne Jones wrth gyfeirio at arddangosfeydd Oriel Tabernacl, neu ganolfan MOMA, ynghyd â’r gwyliau di-ri sydd wedi ennill tir ym Machynlleth – yr Ŵyl Gomedi, Gŵyl Machynlleth ac, yn fwy diweddar, Gŵyl Glyndŵr. Felly, er bod Machynlleth yn garreg filltir o dre’, nid tre’ i wibio drwyddi yn unig yw hi. Mae yma hanes, bwrlwm ac acenion unigryw sy’n ychwanegu at gyfaredd hen brif ddinas y genedl.

CYFANFWYD

DYFI

Canolfan Owain Glyndŵr, Machynlleth, SY20 8EE  07530 140248

Lan Lloft Machynlleth

@lanlloft

41 Heol Maengwyn amrywiaeth eang o MACHYNLLETH gynhwysion diddorol (01654) 700552 a chynnyrch eco www.iansnow.com

8 Heol Maengwyn, Machynlleth, Powys SY20 8AE 01654 703945 Ar agor 7 diwrnod yr wythnos

sales@iansnowretail.com


cynnwys medi 24 . 2015

AR Y CLAWR

Wrth galon y gwasanaeth

A

r ôl cyfnod o gasglu tystiolaeth a barn, mae adroddiad annibynnol yn cael ei gyhoeddi’r wythnos hon a allai weddnewid y driniaeth a’r gofal sy’n cael ei gynnig i bobol sydd â chanser. Ar ôl holi 9,000 o gleifion, daeth y Sefydliad dros Materion Cymreig i’r casgliad mai gwella cyfathrebu a hwyluso triniaeth oedd blaenoriaeth y cleifion nid cael y cyffuriau mwyaf newydd. Mae’r sefydliad wedi defnyddio’r dulliau arloesol ‘crowdsourcing’ o gasglu tystiolaeth drwy wahodd pobol â phrofiad uniongyrchol o’r sefyllfa – cleifion a’u perthnasau – i gynnig syniadau ar sut i wella’r gofal a’r driniaeth. Er bod arbenigwyr yn y maes, meddygon a gwleidyddion oll yn trafod a damcaniaethu ynglŷn â’r ffordd orau o wella a newid y ddarpariaeth, roedd yn bwysig mynd at wraidd y profiad a’r hyn sy’n wynebu pobol ar ôl cael diagnosis o glefyd sydd ag angen triniaeth ysbyty, llawdriniaeth, therapi a gofal yn sgil hynny. Dros fisoedd os nad blynyddoedd maen nhw’n dod yn gyfarwydd â’r trefniadau o fewn y gwasanaethau amrywiol sy’n rhan o’r ddarpariaeth

o’r meddyg teulu, i’r ysbytai, elusennau a gwasanaethau gofal wedi hynny. Ac mewn cyfnod o doriadau ariannol i bob math o wasanaethau, mae’r profiadau hynny yn gallu bod yn anodd, rhwystredig a dryslyd ar ben y gofid sylfaenol am afiechyd. Dim syndod felly, mai gwella cyfathrebu gyda chleifion yw un o’r agweddau sydd angen eu gwella ac i roi’r claf a’r teulu wrth galon y gwasanaethau iechyd a gofal. Mae angen llwybr eglur o driniaeth a gofal i hebrwng y claf o’r diwrnod cyntaf. Fe fydd hyn yn galw am symleiddio’r drefn bresennol a’r berthynas rhwng yr holl gyrff a mudiadau o’r llywodraeth i’r bwrdd iechyd a’r mudiadau ac elusennau. Ac wrth bwysleisio’r angen i sicrhau bod y driniaeth a’r gofal ar gael mor agos â phosib at y cartref, mae’n siŵr o godi cwestiynau pwysig mewn sawl ardal sydd ar hyn o bryd yn gweld y gwasanaethau yn ymbellhau oddi wrthyn nhw. Adroddiad penodol am gleifion canser sydd dan sylw’r wythnos hon, ond mae’r egwyddorion a dyheadau’r cleifion a’u teuluoedd yr un mor berthnasol i bob agwedd ar iechyd a gofal.

Blwch Post 4 Llanbedr Pont Steffan Ceredigion SA48 7LX Ffôn 01570 423 529 Ffacs 01570 423 538 e-bost ymholiadau@golwg.com safwe www.golwg360.com Golygydd Gyfarwyddwr Dylan Iorwerth Cyfarwyddwr Busnes Enid Jones

Cysylltiadau Golygydd Siân Sutton Dirprwy Olygydd Barry Thomas Gohebydd Celfyddydau Non Tudur Gohebydd y Cynulliad Gareth Pennant Gohebydd Cyffredinol Siân Williams Dylunio Dyfan Williams Swyddog Hysbysebion Heledd Evans Swyddog Cyllid Rhiannon Lloyd Williams Swyddog Gweinyddol Wendy Griffiths Swyddog Tanysgrifiadau Mair Jones

Cyhoeddir Golwg gan Golwg Cyf gyda chymorth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru. Nid yw ein noddwyr o angenrheidrwydd yn cytuno gyda’r farn yn y cylchgrawn. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost fel papur newydd. Argraffwyd gan Argraffwyr Cambrian

6 “Y trydydd byd” yn dod i Ewrop – David Davies yn Calais 12 “Pwerdy” byd celf Machynlleth 14 Rhys yn barod am yr her nesaf 20 Portreadu plismon – yr actor Jacob Ifan 26 Gwledd o rygbi – a gwell i ddod – Alun Wyn Bevan

5

STRAEON ERAILL 10 13 18 21

13

Cefnogi chwaraewyr rygbi Cymru Denu cymorth y Cymry ar wasgar Cofnod tair o fywyd Patagonia Darlunio corneli cudd y ddinas

BOB WYTHNOS 8 Yr Wythnos – pigion newyddion golwg360 Bwrlwm y Bae Llun newyddion yr Wythnos 9 Byd y blogiau 9 Cartŵn Cen Williams

16

14

11

Llythyrau

12

Portread

Ruth Lambert 16 20-1 – Huw Owen Cyw 17-18 Gwaith

Y Babell Roc 22 John Lawrence canwr protest 24 Y

Calendr

Colofnau 8 Gareth Hughes 11 Cris Dafis 24 Manon Steffan Ros 25 Ar y bocs – Dylan Wyn Williams Jac Codi Baw 26 Phil Stead 27 Aled Samuel

20 26

Chwaraeon 26 Gwledd o rygbi

Llun Clawr: Rhys Lewis Ffotograffydd: Keith Morris


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.