Golwg Ebrill 30, 2015

Page 1

Cyfrol 27 . Rhif 33 . Ebrill 30 . 2015

GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR

GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR

Guru seicolegol yr SNP yn troi at Gymru

GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR

GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR

Dyn doethach yw Glyn Wise

GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR

GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR

GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR

GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR

GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR

Tranc yr GOLWG CYF iaith yn Sir 100%MAG -0.40BWR Ddinbych GOLWG CYF – rhybudd i 100%MAG -0.40BWR Wynedd a Môn


JÔCS, JERIWS A JOIO Yn ôl yr Urdd mae dros filiwn a hanner o blant a phobol ifanc wedi gwersylla yn Llangrannog ers ei sefydlu yn 1932. Mae’r mudiad yn apelio am wybodaeth am y bobol a’r lluniau sy’n rhan o arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol tan Awst 29. “Mae’r llecyn arbennig yma yn dwyn atgofion arbennig iawn ymysg pobol Cymru, boed o greu ffrindiau bywyd, glanhau’r ‘jeriws’, gwrando ar straeon ysbryd, creu caneuon neu gymryd rhan yn y gweithgareddau,” meddai Cyfarwyddwr y gwersyll, Steff Jenkins.

Mae casgliad llawn o’r ffotograffau o archif yr Urdd i’w gweld ar wefan Casgliad y Werin Cymru ac agoriad swyddogol yr arddangosfa ar Ebrill 30. Cysylltwch â’r Gwersyll ar 01239 652 140 neu Llangrannog@urdd.org


cynnwys ebrill 30 . 2015

Glo brig

– taro bargen newydd?

W

rth i gais dadleuol arall daro’r penawdau, mae Llywodraeth Cymru wedi galw uwchgynhadledd arbennig i drafod dyfodol y diwydiant glo brig. Ers degawdau mae trigolion mewn sawl cymuned yng Nghymru wedi codi llais yn erbyn cynlluniau i godi glo o’r ddaear drwy grafu’r wyneb yn hytrach na chloddio dan ddaear. Mae’r ceisiadau yn naturiol wedi cynyddu ers cau’r pyllau glo ar hyd maes glo De Cymru. Mewn rhai ardaloedd mae’r cysylltiad â’r diwydiant a nifer fawr o swyddi wedi parhau drwy’r gweithfeydd glo brig ond cymdogion yn cwyno am effaith y cloddio dros erwau lawer o dir ar eu bywydau drwy dyllu’r peiriannau enfawr ddydd a nos, y lorïau ar hyd y ffyrdd a’r llwch anorfod. Mae dadleuon economaidd y cwmnïau yn amlwg - mae galw am y glo a’r swyddi yn yr ardaloedd. Ac unwaith eto mae ofn y bydd swyddi yn cael eu colli oherwydd yr oedi cyn dod i benderfyniad ar gais allai ymestyn oes un o’r gweithfeydd uwchben Dyffryn Aman a Thawe. Yn ôl yr undebau gallai 90 o swyddi ddiflannu onibai i’r cais i godi pentre’ gwyliau ar y safle gael ei gymeradwyo gan gynghorwyr Castell Nedd a Port Talbot.

Does dim cynlluniau gan Celtic Energy i adfer y safle ond mae gan gwmni The Lakes at Rhosamman Ltd gynllun i ddatblygu’r 1,445 acer o dir ger Gwaun Cae Gurwen drwy godi gwesty, cabanau gwyliau a llyn enfawr gyda chanolfan ddeifio a siop. Ac fe fyddai ei ganiatáu yn ymestyn oes y gwaith glo brig o dair blynedd arall. Ond mae’r gwrthwynebiad lleol hefyd yn seiliedig ar ddymuniad i weld y safle yn cael ei adfer a’i ddiogelu at y dyfodol a’r addewidion sydd wedi mynd i’r gwynt ers preifateiddio’r diwydiant. A dyna fydd testun yr uwchgynhadledd sydd wedi’i galw i drafod sut i daro gwell bargen rhwng y diwydiant, yr awdurdodau lleol a’r cymunedau gan fod y Gweinidog Carl Sargeant am sicrhau bod gwell trefn gyda’r bondiau oedd yn sicrhau bod arian wrth gefn i adfer y tir a diogelu tirwedd Cymru unwaith i’r gwaith ddod i ben. Ond wrth i’r Cynulliad bleidleisio i wahardd cloddio glo brig yn ddiweddar mae’r mudiad Cyfeillion y Ddaear yn galw am moritoriwm ar unrhyw benderfyniadau eraill. Fe fyddai hynny’n agor pennod newydd yn hanes Cymru.

Blwch Post 4 Llanbedr Pont Steffan Ceredigion SA48 7LX Ffôn 01570 423 529 Ffacs 01570 423 538 e-bost ymholiadau@golwg.com safwe www.golwg360.com Golygydd Gyfarwyddwr Dylan Iorwerth Cyfarwyddwr Busnes Enid Jones

Golygydd Siân Sutton Dirprwy Olygydd Barry Thomas Gohebydd Celfyddydau Non Tudur Gohebydd y Cynulliad Gareth Pennant Gohebydd Cyffredinol Siân Williams Dylunio Dyfan Williams Swyddog Hysbysebion Heledd Evans Swyddog Marchnata Lowri Steffan Swyddog Cyllid Rhiannon Lloyd Williams Swyddog Gweinyddol Wendy Griffiths Swyddog Tanysgrifiadau Mair Jones

5 Tranc yr iaith yn Sir Ddinbych – rhybudd i Wynedd a Môn 12 Guru seicolegol yr SNP yn troi at Gymru 14 Dyn doethach yw Glyn Wise 24 Y Super Furries nôl ar y lôn

5

STRAEON ERAILL 6 Mwyafrif o blaid plismyn arfog 7 Iechyd, budd-daliadau a gormod o ffraeo 10 Bwthyn roc a rôl 13 Ymateb i gyflafan Kenya 18 Ar y ffordd Gwobr Dafydd Rowlands 20 Ty’d i Ferthyr Tudful i “deimlo” llyfrau Seiniau Cymru a Lloegr yn asio 25 Llwybr Maelog

12

BOB WYTHNOS 8 Yr Wythnos

14

– pigion newyddion golwg360 Bwrlwm y Bae Llun newyddion yr Wythnos 9 Byd y blogiau 9 Cartŵn Cen Williams 11 Llythyrau 10 Phil Stead 12 Portread Claire Howell

24

Cysylltiadau

Cyhoeddir Golwg gan Golwg Cyf gyda chymorth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru. Nid yw ein noddwyr o angenrheidrwydd yn cytuno gyda’r farn yn y cylchgrawn. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost fel papur newydd. Argraffwyd gan Argraffwyr Cambrian

AR Y CLAWR

20

16 20-1 – Siôn Davies 17-18 Gwaith 22 Y

Calendr

24 Y

Babell Roc

Super Furries

Colofnau 8 Dylan Iorwerth 11 Gwilym Owen Cris Dafis 22 Manon Steffan Ros 23 Ar y bocs – Dylan Wyn Williams Jac Codi Baw 26 Phil Stead 27 Aled Samuel

Chwaraeon

26

26 Goliath v Dafydd yn y Drenewydd Llysgennad y pwll nofio

Llun Clawr: Super Furry Animals


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.