Golwg Gorffennaf 9, 2015

Page 1

GOLWG CYF

100%MAG GOLWG-0.40BWR CYF 100%MAG -0.40BWR

GOLWG CYF

100%MAG GOLWG-0.40BWR CYF 100%MAG -0.40BWR

Cyfrol 27 . Rhif 43 . Gorffennaf 9 . 2015

Mhairi Ddu o’r SNP yng Nghaernarfon

Y dyn tu ôl i ganeuon Celt a chomedi Dim Byd Rhoi’r bregus ar ben ffordd – elusen GISDA yn 30 oed

GROEGES YNG NGHYMRU – a’r bobol gyffredin sy’n cael cam

Cyfrol ola’

Gerallt


rondomedia.co.uk | rondo@rondomedia.co.uk 01286 675722 | 02920 223456 golwg-da.pdf

C

M

1

02/07/2015

16:51

Yn cynhyrchu cynnwys yng Nghaernarfon i Gymru a’r Byd.

Y

CM

MY

CY

CMY

K

C YN HIR AR S 4 C

Ras Yr Wyddfa Ar y Dibyn Fferm Ffactor Noson Lawen o’r Steddfod Pethe – Pabell Len Bethan Gwanas – Y Menopôs a Fi Becws2 Pêl-droed Cymru gyda Dewi Prysor W W W.C WMNIDA .T V


cynnwys gorffennaf 9 . 2015

AR Y CLAWR

Ffoi dros dro

M

ae Refferendwm Gwlad Groeg wedi rhoi’r cyfle i bobol y wlad gyfrannu at y penderfyniadau am eu dyfodol. Parhau y mae’r trafodaethau o fewn Ewrop ar sut i ymateb i’r bleidlais a’r argyfwng ariannol sydd wedi codi yno a thu hwnt. Mae Golwg heddiw yn clywed gair o brofiad uniongyrchol am effaith y polisïau o gyni ariannol ar bobol y wlad a’r anhawster i gynnal teuluoedd a phobol oedrannus a sâl. Yn nhymor y gwyliau, mae’n siŵr y bydd nifer yn ail ystyried eu bwriad i fynd i’r wlad ar wyliau eleni. Ac yn ôl un arall yn Golwg mae’r sefyllfa fel troi’r cloc yn ôl ar gefn gwlad Cymru 60 mlynedd yn ôl. Mae’r argyfwng sy’n wynebu gwledydd eraill y byd hefyd yn taro wrth i ni geisio ffoi am gyfnod ar wyliau. Yn yr orsaf drên yn ninas Nice yn Ne Ffrainc, roedd rhes o bobol ifanc yn eistedd ar fainc o dan lygad yr heddlu lleol... a’r hyn oedd yn eu gwahanu oddi wrth y rhan fwyaf o’r teithwyr oedd lliw eu croen. Hyd hynny clywed yn ail law am ymdrechion dirdynnol pobol o Ogledd Affrica i ddianc o ormes a pheryglon eu gwledydd drwy raglenni newyddion ar radio a theledu ond dyma oedd y realiti. Dyma allai fod diwedd y daith i gynifer sy’n rhoi eu bywydau yn y fantol wrth hwylio mewn llongau bregus ar draws Môr y Canoldir

gan lanio ar draethau’r Eidal neu’r Ynysoedd neu gael eu hachub o’r dŵr. Ond yn ôl un llais ar raglen radio doedd cyrraedd yr Eidal ddim yn ddigon da. Roedd yn benderfynol o gyrraedd Prydain am ei fod eisoes wedi dysgu rhywfaint o Saesneg ac y byddai dysgu iaith arall Eidaleg neu Ffrangeg yn ymdrech ychwanegol. Ar drên y byddai’n teithio o Eritrea o’r Eidal drwy Ffrainc ac at Calais er mwyn un ymdrech fawr olaf i groesi’r sianel i Loegr. Ai dyna oedd gobaith y rhes o wynebu â’u llygaid siomedig wrth gael eu hatal rhag teithio ymhellach na De Ffrainc? Ai dyna oedd bwriad y gŵr a gafodd ei ladd yn nhwnnel y Sianel ddechrau’r wythnos? Mae’r cwmni Eurotunnel wedi galw unwaith eto am ddod â diwedd i’r argyfwng yn Calais ac ar lywodraethau i weithredu er mwyn rhoi diwedd ar argyfwng ymfudwyr. Erbyn hyn mae 3,000 o bobol o wledydd fel Eritrea, Syria ac Afghanistan yn gwersylla ger y porthladd ac oherwydd anghydfod diwydiannol mae eu tynged yn dod at sylw ehangach wrth i 3,000 o yrwyr loriau giwio am ddyddiau ar yr M20 yng Nghaint yn dilyn streic ddirybudd gan weithwyr fferi yn Ffrainc. Ond mae’n anodd dychmygu’r cymhelliad a’r amgylchiadau sy’n gorfodi cynifer i ffoi am eu bywydau a bod yn barod i guddio ar loriau a cheisio dianc drwy dwnnel y trên.

4 Groeges yng Nghymru – a’r bobol gyffredin yn cael cam 6 Mhairi Ddu o’r SNP yng Nghaernarfon 12 Y dyn tu ôl i ganeuon Celt a chomedi Dim Byd 14 Rhoi’r bregus ar ben ffordd – elusen GISDA yn 30 oed 20 Cyfrol ola’ Gerallt

4

STRAEON ERAILL 6 Neges o’r Alban i Blaid Cymru 13 Dysgu mwy am Ddysgwyr y Flwyddyn 15 Siôn a Siân – un i mewn, un allan 16 Hystori – Patro yn Dre’ 20 Y gwir yn erbyn y lens 22 Dathlu ffilmiau tramor... yn Gymraeg 23 Melltith... am y tro cynta’ 24 Camp y theatr a gododd o’r pridd

14

BOB WYTHNOS 8 Yr Wythnos

18

– pigion newyddion golwg360 Bwrlwm y Bae Llun newyddion yr Wythnos 9 Byd y blogiau 9 Cartŵn Cen Williams 11

Llythyrau

12

Portread

Barry ‘Archie’ Jones

23

20

18 20-1 – Nici Beech 19 Gwaith

Y Babell Roc 26 Yr awen yn Awstralia Dyddiau Poeth Palenco 28 Y

Calendr

Colofnau Blwch Post 4 Llanbedr Pont Steffan Ceredigion SA48 7LX Ffôn 01570 423 529 Ffacs 01570 423 538 e-bost ymholiadau@golwg.com safwe www.golwg360.com Golygydd Gyfarwyddwr Dylan Iorwerth Cyfarwyddwr Busnes Enid Jones

Cysylltiadau Golygydd Siân Sutton Dirprwy Olygydd Barry Thomas Gohebydd Celfyddydau Non Tudur Gohebydd y Cynulliad Gareth Pennant Gohebydd Cyffredinol Siân Williams Dylunio Dyfan Williams Swyddog Hysbysebion Heledd Evans Swyddog Cyllid Rhiannon Lloyd Williams Swyddog Gweinyddol Wendy Griffiths Swyddog Tanysgrifiadau Mair Jones

Cyhoeddir Golwg gan Golwg Cyf gyda chymorth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru. Nid yw ein noddwyr o angenrheidrwydd yn cytuno gyda’r farn yn y cylchgrawn. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost fel papur newydd. Argraffwyd gan Argraffwyr Cambrian

30

8 10 11 28 29 30 31

Dylan Iorwerth Gwilym Owen Cris Dafis Manon Steffan Ros Ar y bocs – Dylan Wyn Williams Jac Codi Baw Phil Stead Aled Samuel

Chwaraeon 30 Chwaraeon – Cofis yn colli pwysau H.A.B.I.T. yn hybu arferion iach Llun Clawr: Despina Lloyd Goula Ffotograffydd: Alan Dop


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.