GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
Cyfrol 27 . Rhif 44 . Gorffennaf 16 . 2015
GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
Pic yr Ieir yn y Sioe
GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
Fawr
Electro-pop perffaith Anelog Rhoi llais a llwyfan i gyn-filwyr “Dyddiau olaf addysg oedolion”
“Syndod a sioc” i’r Archdderwydd newydd
Colli gwlad
– profiad awdures Â’i gwreiddiau yn Israel
Chwilio am nawdd i barhau i gystadlu
Caernarfon Lluniau: Gerallt Llewelyn
Nofel i baentio’r byd yn
w y rdd Y
r ymgyrch paentio arwyddion ac Arwisgiad y Tywysog Charles yng Nghaernarfon yn 1969 yw testun nofel newydd i blant gan yr awdures Angharad Tomos sydd eisoes wedi cyhoeddi nofel am hanes brwydr teulu Beasley dros yr iaith yn Llanelli, Darn Bach o Bapur. Mae Paent! yn trafod yr Arwisgo trwy lygaid bachgen yn ei arddegau cynnar. “Ro’n i’n frwd o blaid yr Arwisgo,” meddai Angharad Tomos oedd yn ddeg oed yn 1969. “Ro’n i’n ei weld o’n gynhyrfus iawn ac mi gadwais i ddarn o’r Daily Post a oedd yn dweud bod Carlo yn gallu olrhain ei gyndeidiau i Owain Glyndŵr. “Roedd ein teulu yn Blaid Cymru ond mi aethon ni i ddau neu dri o bethau’r Arwisgo ... mi adawodd fy nhad i ni fynd i’r rheina. Roedd pump ohonon ni yn mynd i ddau barti felly roedd 11 o fygiau Prins Charles yn y tŷ!” Dyw’r awdur ddim wedi gochel rhag lledaenu neges genedlaetholgar yn y nofel i blant. “Faswn i ddim yn cuddio hynna,” meddai. “Dw i’n bod yn hollol driw i’r hanes; dw i ddim yn dweud dim byd sydd ddim yn wir. Mae’n rhaid i chi fod yn driw o hanes ond y gogwydd ydi o – pa ogwydd ydach chi’n ei roi. “Mae o’n wahanol i sgrifennu pamffled wleidyddol.”
Cadw cadair Bardd yr Haf yn Nyffryn Nantlle?
Wrth gael ei holi yn rhan o ymgyrch ‘Golwg ar Grwydr’ yng Nghaernarfon, dywedodd Angharad Tomos y dylai Cadair ‘Bardd yr Haf’ gael ei chadw am byth yn Nyffryn Nantlle. Roedd y Gadair, a enillodd R Williams Parry yn Eisteddfod Bae Colwyn 1910, i’w gweld am awr yn Neuadd Goffa Penygroes ger Caernarfon dros y Sul ac ar fenthyg gan y Llyfrgell Genedlaethol. “Mi fuaswn i’n licio cadw’r Gadair yn y Dyffryn,” meddai Angharad Tomos a oedd yn un o drefnwyr gŵyl er cof am R Williams Parry. “Dw i’n teimlo mai fanna dylai hi fod. Dw i ddim yn meddwl bod yna beryg i bobol Dyffryn Nantlle ei rhacsio hi. “Dw i’n siŵr y buasai hi’n reit saff.” Wrth drefnu’r Ŵyl, dywed ei bod wedi rhyfeddu fwyfwy at waith Williams Parry. “Dw i’n trio’u dysgu nhw ar fy nghof,” meddai gan gyfeirio at y cerddi a
Angharad Tomos a’i mab Hedydd yn trafod clawr y nofel newydd i blant, Paent!
sgrifennodd i Saunders Lewis, ar ôl iddo gael ei ddiswyddo gan Brifysgol Cymru am ei ran yn llosgi’r Ysgol Fomio ym Mhenyberth. “Mae pawb yn dweud ei fod yn fardd mor swil,” meddai Angharad Tomos, “ond roedd y safiad wnaeth o wedi i Saunders Lewis golli ei swydd yn safiad go amhoblogaidd. Roedd yn ddyn dewr yn gwneud hynny. “Dw i wedi bod yn chwarae efo’r syniad o sgrifennu drama amdano fo. Mae yna gymaint o groesddweud yn lot o’i waith o. ‘Llwfr wyf ond achubaf gam y dewr’. Dw i wedi gwirioni’n bot ar hyn o bryd.”
Dafydd Iwan yn ysbrydoli
Cyfaddefodd Angharad Tomos mai Dafydd Iwan a’i sbardunodd i ymgyrchu dros yr iaith - yn arbennig y gân ‘Weli di Gymru’, sy’n gofyn ‘pwy all ei hachub / os na wnei di?’ “Roedd o’n gwestiwn mor uniongyrchol,” meddai. “Roedden nhw’n fy ngalw i’n ‘Welsh Nash Hen Ffash’ yn yr ysgol. Llafur oedd pawb yng Nghaernarfon ac yn Nyffryn Nantlle... Roedd sefyll dros Blaid Cymru yn eich gwneud chi’n amhoblogaidd. “Os oeddech chi’n licio pethau Cymraeg mi oeddech chi’n licio pethau hen ffasiwn – doedd dim byd cyfoes Cymraeg. Unwaith y daeth canu poblogaidd Cymraeg, yn enwedig Edward H, mi newidiodd o. “Roedd cyfraniad pobol ifanc i wneud Cymraeg yn rhywbeth cyfoes yn andros o bwysig.”
Angharad Tomos yn cael ei holi gan ohebydd Celfyddydau Golwg
Protest Pantycelyn yn “retro”
Dywedodd Angharad Tomos wrth dorf Golwg ar Grwydr ei bod yn “edmygu” myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Aberystwyth am ymgyrchu i gadw drysau Neuadd Gymraeg Pantycelyn yn agored. “Fuaswn i byth yn meddwl 30 mlynedd yn ôl y buasai’n rhaid gwneud hynna,” meddai. “Mae o’n andros o drist ... eich bod chi’n ail-ymladd brwydrau na ddylid eu brwydro o gwbl. Mae yna rywbeth retro iawn yn hynna.” Non Tudur
ar grwydr 2015
cynnwys gorffennaf 16 . 2015
5
Dŵr dan bont
P
rin y byddai neb wedi rhagweld y byddai codi pont yn gymaint o her ac yn amharu gymaint ar fywyd bob dydd yn yr 21fed ganrif. Ond dros y deunaw mis diwethaf mae’r gwaith peirianyddol ar bont newydd y Briwet dros afon Dwyryd rhwng Penrhyndeudraeth a gogledd Meirionnydd wedi bod yn destun dadl, dyfalu a rhyfeddod yn lleol ac wedi cael sylw cenedlaethol. Mae’n bosib mai tebyg oedd y sôn wrth i William Maddocks fentro i godi’r Cob ar draws y Glaslyn a chreu Porthmadog dros ddwy ganrif yn ôl. Ond erbyn hyn mae’r plant lleol wedi cael y fraint o dorri’r rhuban i gyhoeddi bod y bont a gostiodd £20 miliwn ar agor o’r diwedd. A’r holl ddiflastod, y 16 o filltiroedd ychwanegol o deithio, y dadlau a’r
AR Y CLAWR 6 “Syndod a sioc” i’r Archdderwydd newydd 7 “Dyddiau olaf addysg oedolion” 12 Paratoi at y sioe fawr – Pic yr Ieir 13 Colli gwlad – profiad awdures â’i gwreiddiau yn Israel 20 Rhoi llais a llwyfan i gyn-filwyr 22 Electro-pop perffaith Anelog
STRAEON ERAILL
siom yn dechrau mynd yn angof wrth i’r ceir cyntaf yrru’n esmwyth ochr yn ochr â thrên y Cambrian ar eu taith. Ond mae pobol leol eisoes yn rhybuddio y gallai hwyluso’r drafnidiaeth achosi problemau wrth ymuno â’r ffordd fawr yng nghanol y pentre’. Mae’n anodd credu bod y dadlau a’r gwersi o’r datblygiad yn perthyn i’r gorffennol.
Y Gymraeg yn y brifysgol
Mae athro Cymraeg yn un o brifysgolion Cymru yn mynegi pryder yn Golwg heddiw am ddyfodol y Gymraeg fel pwnc. Wrth i’r galw am bobol i weithio drwy’r Gymraeg gynyddu, meddai Wyn James, mae’r nifer o fyfyrwyr sy’n dewis ei hastudio fel pwnc gradd yn lleihau. Ac nid problem i’r prifysgolion yn unig yw hon gan fod y nifer o bobol sy’n dilyn cyrsiau Cymraeg at lefel A yn yr ysgolion yn lleihau hefyd, yn ôl ystadegau CBAC. Mae awgrym yn Golwg heddiw nad yw natur y cyrsiau TGAU a lefel A yn denu digon o bobol ifanc i barhau â’r pwnc a bod yr amrywiaeth o bynciau sydd bellach ar gael drwy’r Gymraeg o dan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn denu myfyrwyr oddi wrth y Gymraeg fel pwnc gradd. Fe fyddai’n dda gallu datblygu’r drafodaeth ar dudalennau Golwg dros yr wythnosau nesaf. A oes lle i bryderu nad oes cynifer yn astudio’r Gymraeg? Beth sydd angen ei wneud i fywiogi’r pwnc a’i wneud yn fwy apelgar i fyfyrwyr?
Blwch Post 4 Llanbedr Pont Steffan Ceredigion SA48 7LX Ffôn 01570 423 529 Ffacs 01570 423 538 e-bost ymholiadau@golwg.com safwe www.golwg360.com Golygydd Gyfarwyddwr Dylan Iorwerth Cyfarwyddwr Busnes Enid Jones
Golygydd Siân Sutton Dirprwy Olygydd Barry Thomas Gohebydd Celfyddydau Non Tudur Gohebydd y Cynulliad Gareth Pennant Gohebydd Cyffredinol Siân Williams Dylunio Dyfan Williams Swyddog Hysbysebion Heledd Evans Swyddog Cyllid Rhiannon Lloyd Williams Swyddog Gweinyddol Wendy Griffiths Swyddog Tanysgrifiadau Mair Jones
Nofel i baentio’r byd yn wyrdd Dysgu am y Dysgwyr Argyfwng llaeth O fyd teledu i Panorama Troi mewn cylchoedd
BOB WYTHNOS 8 Yr Wythnos – pigion newyddion golwg360 Bwrlwm y Bae Llun newyddion yr Wythnos 9 Byd y blogiau 9 Cartŵn Cen Williams
16
11
Llythyrau
12
Portread
Pic yr Ieir 16 20-1 – Jess Davies 17 Gwaith
Y Babell Roc
23
20
Cysylltiadau
Cyhoeddir Golwg gan Golwg Cyf gyda chymorth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru. Nid yw ein noddwyr o angenrheidrwydd yn cytuno gyda’r farn yn y cylchgrawn. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost fel papur newydd. Argraffwyd gan Argraffwyr Cambrian
12
2 11 14 17 18
22 Anelog Y Reu 24 Y
Calendr
Colofnau 8 11 24 25 26 27
Dylan Iorwerth Cris Dafis Manon Steffan Ros Ar y bocs – Dylan Wyn Williams Jac Codi Baw Phil Stead Aled Samuel
Chwaraeon
26
26 Gwneud sblash yn Samoa Chwilio am nawdd i ralïo
Llun Clawr: Picton Jones Ffotograffydd: Tim Jones