Golwg Awst 14, 2014

Page 1

GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR

GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR

GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR

GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR

Cyfrol 26 . Rhif 48 . Awst 14 . 2014

£1.75

Ar drywydd difodiant MRSA

Cofio gwrthwynebwyr y Rhyfel Mawr

Rhywbeth amdani hi

ar Faes y Brifwyl

ar y Maes


Golwg ad 07.14.qxp_Layout 1 28/07/2014 14:50 Page 1

Dyma fan cychwyn eich gyrfa Mae 95% o’n graddedigion yn cael gwaith neu'n cael eu derbyn ar gwrs addysg bellach o fewn 6 mis ar ôl graddio* *DLHE 2012

cardiffmet.ac.uk/ clearing

Llinell Cyngor Clirio:

0300 330 0755 Diwrnodau Agored Clirio:

Dydd Sadwrn 16eg a Dydd Mercher 20fed o Awst 2014

Cyrsiau israddedig ar gael yn y meysydd canlynol:

              

Cyfrifeg, Economeg a Chyllid Celf a Dylunio Gwyddorau Biofeddygol Busnes, Rheoli a Marchnata Cyfrifiadura a Systemau Gwybodaeth Dawns Astudiaethau Addysg a Hyfforddiant i Athrawon Saesneg, Creadigrwydd a’r Cyfryngau Cyfoes Iechyd Amgylcheddol Bwyd, Maetheg a Dieteg Gofal Iechyd a Therapïau Cyflenwol Seicoleg Gwyddorau Cymdeithasol Chwaraeon Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau


cynnwys

Dyddiau da

awst 14 . 2014 AR Y CLAWR 13 Cofio gwrthwynebwyr y Rhyfel Mawr 15 Ar drywydd difodiant MRSA 24 Rhywbeth amdani hi – ar faes y Brifwyl 25 Gremlins ar y Maes

4

A

r ôl y blynyddoedd o baratoi, fe ddaeth y cwbwl i ben i drefnwyr Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr. Roedd hi’n wythnos braf iawn a hwyliog yn Llanelli. Unwaith eto roedd y safle ar Barc y Mileniwm yn llwyddiannus ar gyfer y llu o stondinau o gwmpas y Pafiliwn Pinc. Ond roedd naws wahanol i’r Brifwyl eleni a dylunio lliwgar Gwyn Eiddior wedi cynnig gwedd newydd i’r ŵyl yn enwedig wrth i’r goleuadau hebrwng eisteddfodwyr hwyr o’r cae. Mae Llwyfan y Maes wedi llwyddo i uno cenedlaethau o Gymry i wylio grwpiau hen a newydd ac roedd gweld eisteddfodwyr ifanc yn canu geiriau caneuon Bryn Fôn a Mynediad am Ddim yn wefr i’r rhai oedd yn eu cofio wrth iddyn nhw gael eu canu am y tro cyntaf. Fel gyda chyngerdd Edward H Dafis yn Ninbych y llynedd, roedd pobol o bob oedran - o blant meithrin i bensiynwyr – ynghyd i fwynhau mewn gŵyl wir deuluol. Mae sawl erthygl yn Golwg heddiw yn trafod digwyddiadau yn yr Eisteddfod a’r Cyfarwyddwr yn cloriannu’r wythnos. Does dim amheuaeth ei bod yn datblygu hyd yn oed cyn i’r adroddiad a gafodd ei gomisiynu gan y llywodraeth argymell ‘moderneiddio’. Ac mae cadeirydd y tasglu eisoes wedi ategu

ei alwad am fwy o arian i gefnogi’r achlysur sydd wrth fynd o le i le yn rhoi hwb i’r diwylliant a’r Gymraeg yn yr ardal. Dyna yw’r argoel yn Sir Gâr wrth i’r Eisteddfod ddigwydd ar gyfnod pwysig yn hanes y Gymraeg. Mae’r Cyngor Sir eisoes wedi cyflwyno strategaeth yn ymateb i ffigyrau’r Cyfrifiad diwethaf a sôn am gryfhau’r polisi addysg i roi mwy o gyfle i’r Gymraeg ddod yn rhan o fywydau mwy o ieuenctid yr ardal. Yn ôl Cris Dafis yn Golwg heddiw, mae natur hynod Llanelli hefyd wedi gadael ei hôl ar yr Eisteddfod. ‘ Does dim byd crachaidd am y Gymraeg yn Llanelli’, meddai. Hyd yn oed os yw’r hen ddiwydiant a oedd yn sicrhau mai hi oedd y dref Gymreiciaf yng Nghymru ar un adeg, wedi mynd, mae’r Gymraeg yn dal ar dafodau ac yn isymwybod trwch y boblogaeth. Yn ôl y ffigyrau, mae 3,199 o bobol neu 13.3% o bobol yr ardal yn deall Cymraeg sy’n fwy na’r ganran ar gyfer Sir Gaerfyrddin (11.7%) a’r uchaf yn holl awdurdodau lleol Cymru, yn ôl yr ystadegydd Hywel Jones. Gallai ymweliad yr Eisteddfod fod yn hwb i hyder yr ardal i fynd â’r ddealltwriaeth gam ymhellach a’i siarad a’i defnyddio yn rhan o fywyd bob dydd.

Blwch Post 4 Llanbedr Pont Steffan Ceredigion SA48 7LX Ffôn 01570 423 529 Ffacs 01570 423 538 e-bost ymholiadau@golwg.com safwe www.golwg360.com Golygydd Gyfarwyddwr Dylan Iorwerth Cyfarwyddwr Busnes Enid Jones Rheolwraig Hysbysebion Helen Sweeney

STRAEON ERAILL

13 13

BOB WYTHNOS Yr Wythnos

8

– pigion newyddion golwg360 Bwrlwm y Bae Llun newyddion yr Wythnos 9 Byd y blogiau 9 Cartŵn Cen Williams

18

11

Llythyrau

12

Portread

– Joella Price Dysgwr y Flwyddyn 16

26

Cysylltiadau Golygydd Siân Sutton Dirprwy Olygydd Barry Thomas Gohebydd Celfyddydau Non Tudur Gohebydd y Cynulliad Gareth Pennant Gohebydd Cyffredinol Siân Williams

4 “Ond doedd hi’n steddfod dda?” – barn y cyfarwyddwr 10 Golwg newydd ar hanes Cymru? 11 Newydd-ddyfodiaid yr Orsedd – ‘hynod o falch’ 14 Ymgyrchu yn etholiadau’r Unol Daleithiau 17 ‘Dim amheuaeth’ am ddawn yr awdur dwbl 18 Gwefr dorfol, deuluol Ceri Wyn 19 Rhannu bwrdd gyda dramodydd hyderus 20 Stori liw nos i agor drws dychymyg Y ‘Bradwyr’ wedi diodde’ hefyd 21 Llai yn prynu llyfrau Cymraeg

Dylunio Dyfan Williams Swyddog Marchnata Lowri Steffan Swyddog Cyllid Rhiannon Lloyd Williams Swyddog Gweinyddol Wendy Griffiths Swyddog Tanysgrifiadau Mair Jones

Cyhoeddir Golwg gan Golwg Cyf gyda chymorth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru. Nid yw ein noddwyr o angenrheidrwydd yn cytuno gyda’r farn yn y cylchgrawn. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost fel papur newydd. Argraffwyd gan Argraffwyr Cambrian.

20-1 – Catrin Heledd

22 Y

Calendr

24 Y

Babell Roc

– Elin Fflur

25

Pobol a diwylliant

– Ioan Gwilym

Colofnau

8 Dylan Iorwerth 10 Cris Dafis 22 Manon Steffan Ros 23 Ar y bocs – Dylan Wyn Williams Jac Codi Baw 27 Phil Stead Miriam Elin Jones 17 Gwaith

Chwaraeon

26 Teithio’r byd ar gefn beic

Llun Clawr: Elin Fflur Ffotograffydd: Emyr Young


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.