Golwg - 25 Awst 2016

Page 1

Cyfrol 28 . Rhif 50 . Awst 25 . 2016

HWB I FERCHED I FYND I FEICIO HOLI HELEDD CYNWAL CHWARAE GEMAU FIDEO YN Y GOEDWIG

Topper nôl ac yn “swnio’n ffres”


Dros yr wythnosau nesaf, yn ogystal â bod yn rhan o brif arddangosfeydd yr ymgynghoriad, bydd aelodau o dîm Horizon yn ymweld â llefydd prysur ar draws Ynys Môn a Gogledd Cymru. Rydyn ni eisiau annog pobl i ddweud eu dweud am Wylfa Newydd, gorsaf bŵer niwclear newydd ar Ynys Môn. Felly os byddwch chi yn un o’r llefydd isod, dewch draw i ddweud helo a chael gwybod sut gallwch chi gymryd rhan yng Ngham Dau yr ymgynghoriad, sydd ar agor rhwng 31 Awst a 25 Hydref 2016.

CADWCH LYGAD AR AGOR AMDANOM YN Y LLEFYDD CANLYNOL: DYDD IAU 15 MEDI 12pm tan 2pm Caffi Siop Mechell, Llanfechell

DYDD MERCHER 28 MEDI 12pm tan 2pm Canolfan Siopa Deiniol, Bangor

DYDD LLUN 26 MEDI 12pm tan 2pm Canolfan Hamdden Caergybi, Kingsland, Caergybi

DYDD IAU 6 HYDREF 12pm tan 2pm Canolfan Hamdden Plas Arthur, Penrallt, Llangefni

Yn ein harddangosfeydd, gallwch gael golwg fanylach ar ein cynlluniau a siarad ag aelodau o’r tîm. I gael gwybod beth yw dyddiadau’r rhain, a lle maen nhw’n cael eu cynnal, ewch i’n gwefan yn www.horizonnuclearpower.com/ymgynghoriad neu ffoniwch ni ar 0800 954 9516.

ap Golwg – fersiwn digidol o’r cylchgrawn ar eich dyfais symudol – nawr ar gael ar Android ac iOS

YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN

Ar grwydr


cynnwys awst 25 . 2016

AR Y CLAWR

Ymchwil newydd i’r Gymraeg

Y

n ôl casgliadau cynnar ymchwil newydd sbon i’r defnydd o’r Gymraeg, mae lle i bryderu am agwedd tuag ati mewn cymunedau sy’n cael eu hystyried yn gadarnleoedd yr iaith. Mae’r Dr Siôn Aled Owen wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yn holi disgyblion a’u rhieni mewn ysgolion Cymraeg ar hyd a lled Cymru am eu hagwedd tuag at y Gymraeg a’u defnydd yn enwedig y tu hwnt i glwydi’r ysgolion. Ac mewn erthygl yn Golwg heddiw mae’n dweud bod lle i bryderu am y sefyllfa gan fod patrwm defnyddio’r iaith y tu hwnt i’r ysgol yn debyg yn ardaloedd de ddwyrain Cymru lle mae lleiafrif yn siarad Cymraeg ac ardaloedd y de orllewin lle mae dros hanner y gymuned yn siarad Cymraeg. Mae ei ymchwil yn cadarnhau ofnau ymgyrchwyr ac arbenigwyr iaith bod y Gymraeg yn colli tir gan nad oes cymaint o gyfle i’r genhedlaeth newydd o siaradwyr ei defnyddio yn naturiol yn eu cymunedau. Gyda’r pwyslais wedi bod ar y twf yn y niferoedd sy’n dweud eu bod yn gallu siarad yr iaith yn yr ardaloedd dwyreiniol lle mae’r

ysgolion Cymraeg yn ffynnu, mae lle i bryderu wrth ystyried y darlun sy’n dod i’r amlwg yn yr ymchwil am ardaloedd eraill ymhellach i’r gorllewin a oedd yn ôl y Cyfrifiad diwethaf yn dangos dirywiad yn nifer y siaradwyr. Yn ddiweddar wrth i’r llywodraeth gyhoeddi cefnogaeth i sefydlu canolfannau Cymraeg newydd ac wrth fuddsoddi mewn cynlluniau newydd i annog rhieni i drosglwyddo’r iaith i’w plant, roedd pwyslais ar yr ardaloedd di-Gymraeg gan fynnu nad oes angen y gefnogaeth mewn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn parhau yn iaith gymunedol. Ond mae awgrym o’r ymchwil diweddaraf nad yw’r ddadl honno’n dal dŵr a bod angen cefnogaeth ar y Gymraeg ble bynnag y mae’n cael ei siarad er mwyn rhoi hyder a chyfle i bawb ei defnyddio yn rhwydd yn y gymdeithas. Ac wrth i lywodraeth Cymru sôn am gynyddu’r nifer o siaradwyr i filiwn erbyn 2050, dylai cynnal a chadw’r iaith ymhob ardal fod yn rhan o’r cynlluniau, a gallai’r dystiolaeth yn yr ymchwil diweddar ymhlith pobol ifanc a’u teuluoedd fod yn werthfawr.

Blwch Post 4 Llanbedr Pont Steffan Ceredigion SA48 7LX Ffôn 01570 423 529 Ffacs 01570 423 538 e-bost ymholiadau@golwg.com safwe www.golwg360.cymru Golygydd Gyfarwyddwr Dylan Iorwerth Cyfarwyddwr Busnes Enid Jones

13

Golygydd Siân Sutton Dirprwy Olygydd Barry Thomas Gohebydd Celfyddydau Non Tudur, Bethan Gwanas Gohebydd y Cynulliad Gareth Hughes Gohebydd Cyffredinol Siân Williams Dylunio Dyfan Williams Swyddog Hysbysebion Heledd Evans Swyddog Cyllid Rhiannon Lloyd Williams Swyddog Gweinyddol Wendy Griffiths Swyddog Tanysgrifiadau Mair Jones

STRAEON ERAILL 10 13 17 18 19 20

“Yr enigma o’r pentref glofaol” Dileu stereoteipiau diwylliannol Jeremi Cockram yn Y Rhondda “Cymeriadau bach” Tri ar y tro – Mametz Lluniau lle’r oedd y lladd – cofnodi canmlwyddiant Mametz

BOB WYTHNOS 8 Yr Wythnos – pigion newyddion golwg360 Bwrlwm y Bae Llun newyddion yr Wythnos 9 Byd y blogiau 9 Cartŵn Cen Williams 10 Llythyrau

14

Portread 12 Rhian Meara 16

20-1 – Heledd Cynwal

17 Gwaith

Y Babell Roc 22 Topper yng Ngŵyl Rhif 6 20 Y

22

Cysylltiadau

Cyhoeddir Golwg gan Golwg Cyf gyda chymorth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru. Nid yw ein noddwyr o angenrheidrwydd yn cytuno gyda’r farn yn y cylchgrawn. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost fel papur newydd. ARGRAFFWYD GAN ARGRAFFWYR CAMBRIAN

11

14 Chwarae gemau fideo yn y goedwig 16 Holi Heledd Cynwal 22 Topper nôl ac yn “swnio’n ffres” 26 Hwb i ferched i fynd i feicio

16

Calendr

Colofnau 8 10 24 25 26 27

Dylan Iorwerth Cris Dafis Gwilym Owen Manon Steffan Ros Ar y soffa – Huw Onllwyn Phil Stead Aled Samuel

Chwaraeon 26 Chwaraeon – Hwb i ferched ar gefn beic

26 Llun Clawr: Dyfrig Topper Ffotograffydd: Iolo Penri


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.