GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
Cyfrol 27 . Rhif 20 . Ionawr 29 . 2015
Colin Firth, Michael CainE a’r Cymro o Aberystwyth
Dafydd El Êl a swyddi Eryri Y Blaid Werdd “yn tyfu” yng Nghymru Siwan yn Saesneg
– “gwledd i’r llygaid”
Rocars v Bancars Barus Mynd dan groen ‘Alfie’
Grav
Ail greu arwr y Cymry
Am y tro cyntaf ers chwe chanrif, fe fydd ymwelwyr â Chastell Harlech yn gallu cerdded dros bont at y porth hanesyddol. Cafodd craen ei ddefnyddio i godi’r pont ‘arnofio’ i’w lle gan gysylltu’r teras a phorthdy’r Castell sy’n Safle Treftadaeth y Byd. Mae’n rhan o ddatblygiad gwerth £6miliwn gan Cadw a’r llywodraeth a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop i ddatblygu’r castell a’r gwesty gerllaw yn ganolfan i dwristiaeth.
Codi pont ar ôl 600 mlynedd
cynnwys ionawr 29 . 2015
Pwysicach nag etholiad
D
oes dim osgoi’r sylw sy’n cael ei rhoi i iechyd yng Nghymru a thu hwnt a hithau’n agosáu at etholiad cyffredinol - 100 diwrnod cyn y diwrnod mawr! Ac wrth i’r pleidiau a’r wasg anelu chwyddwydr at y problemau sy’n wynebu’r gwasanaeth, ac sydd wedi dwysau dros y gaeaf hwn, mae’n rhywfaint o ryddhad gweld bod y Prif Weinidog erbyn hyn yn fodlon ystyried sefydlu trafodaeth ar draws y pleidiau i drafod y dyfodol. Mewn datganiad sy’n mynd yn groes i eiriau’r llywodraeth yn ddiweddar, roedd Carwyn Jones yn cydnabod bod y syniad o sefydlu Comisiwn Trawsbleidiol yn un “teilwng” a bod yr “amser wedi dod” i ystyried sefydlu grŵp o’r fath. Mae Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi galw am sefydlu’r comisiwn ers tro ac yn mynnu y bydd yn “fwy pellgyrhaeddol nag ymchwiliad” wrth drafod yr her sy’n wynebu gwasanaeth cyhoeddus allweddol yn y dyfodol. Ac mae angen sicrhau bod lleisiau annibynnol yn cael eu clywed ar y comisiwn gan gynnwys cynrychiolwyr y sector iechyd, ymchwil, yr undebau a chleifion a’u teuluoedd. Mae’n bwnc sy’n llawer yn rhy bwysig i’w gadw yn nwylo pleidiau gwleidyddol yn unig. Ond wrth ymateb mae’r Prif Weinidog yn codi bwgan arall sy’n tynnu sylw at yr hyn sy’n cael ei ystyried yn un o broblemau mawr y gwasanaeth yn y gorffennol ... gwasanaeth sydd wedi wynebu
ad-drefnu drud, cyflwyno cynlluniau o newid mawr gan ddilyn barn a syniadaeth wleidyddol. “Mae’n anodd asesu a allen ni ei wneud o fewn yr amserlen wleidyddol r’yn ni’n byw ynddo, gydag etholiad eleni a’r flwyddyn nesaf. “Ond rwy’n meddwl bod yr amser wedi dod i gael comisiwn trawsbleidiol i edrych ar y Gwasanaeth Iechyd ac i gynnig gwerthusiad onest o ran cyfeiriad y GIG yn y dyfodol.” Nid mater gwleidyddol yw hyn erbyn hyn ond mae angen newid sylfaenol yn holl adeiladwaith a threfniadaeth y gwasanaethau o’r top i’r gwaelod - gan gynnwys y gwasanaethau yn y syrgeri leol gan y meddygon teulu a nyrsys i’r gwasanaeth ambiwlans a’r ysbytai. Mae angen gwell cydweithio yn enwedig rhwng y gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd. Ac mae angen gwrando ar y bobol brofiadol o fewn y gwasanaethau hynny wrth ystyried y dyfodol. Os ydy hyn yn golygu troi nôl at drefn a oedd yn gweithio’n dda yn y gorffennol drwy gadw gwasanaethau ac ysbytai yn nes at y cleifion a chymunedau, fe fyddai’n dda gweld gwleidyddion a gweinyddwyr yn ddigon dewr i gydnabod hynny. Ond gydag iechyd ar frig yr agenda o ddydd i ddydd, mae’n amlwg nad yw oedi yn dderbyniol bellach a bod angen trafod ar draws a thu hwnt i’r pleidiau gan geisio anwybyddu’r ffaith bod etholiadau ar y gorwel agos ac ymhen blwyddyn.
Blwch Post 4 Llanbedr Pont Steffan Ceredigion SA48 7LX Ffôn 01570 423 529 Ffacs 01570 423 538 e-bost ymholiadau@golwg.com safwe www.golwg360.com Golygydd Gyfarwyddwr Dylan Iorwerth Cyfarwyddwr Busnes Enid Jones
Golygydd Siân Sutton Dirprwy Olygydd Barry Thomas Gohebydd Celfyddydau Non Tudur Gohebydd y Cynulliad Gareth Pennant Gohebydd Cyffredinol Siân Williams Dylunio Dyfan Williams Swyddog Hysbysebion Heledd Evans Swyddog Marchnata Lowri Steffan Swyddog Cyllid Rhiannon Lloyd Williams Swyddog Gweinyddol Wendy Griffiths Swyddog Tanysgrifiadau Mair Jones
4 Dafydd Êl a swyddi Eryri 7 Y Blaid Werdd “yn tyfu” yng Nghymru 14 Colin Firth, Michael Caine... a’r Cymro o Aberystwyth 16 Grav – ail greu arwr y Cymry 19 Mynd dan groen ‘Alfie’ 20 Siwan yn Saesneg – ‘gwledd i’r llygaid’
STRAEON ERAILL
13 ‘Unioni’r cam’ am hanes y Tuduriaid 18 Cefnogaeth frwd yn y Fenni 24 Rocars v Bancars Barus – opera roc
13
BOB WYTHNOS 8 Yr Wythnos – pigion newyddion golwg360 Bwrlwm y Bae Llun newyddion yr Wythnos 9 Byd y blogiau 9 Cartŵn Cen Williams 11
14
24 26
Llythyrau
12
16
Cysylltiadau
Cyhoeddir Golwg gan Golwg Cyf gyda chymorth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru. Nid yw ein noddwyr o angenrheidrwydd yn cytuno gyda’r farn yn y cylchgrawn. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost fel papur newydd. Argraffwyd gan Argraffwyr Cambrian
4
AR Y CLAWR
Portread
– Ashley Wakelin a Julia Marshall
16
20-1 – Gareth ‘Grav’ Bale
17
Gwaith
17
Y tu ôl i’r llenni
22
Y Calendr
24
Y Babell Roc
Ysgol Sul
Colofnau
8 Dylan Iorwerth 11 Cris Dafis 22 Manon Steffan Ros 23 Ar y bocs – Dylan Wyn Williams Jac Codi Baw 26 Phil Stead 27 Aled Samuel
Chwaraeon
26 Clwb y llaeth a’r mêl
Llun Clawr: Taron Egerton Ffotograffydd: Pip