Golwg Hydref 2 2014

Page 1

GOLWG CYF 100%MAG GOLWG-0.40BWR CYF 100%MAG -0.40BWR

GOLWG CYF 100%MAG GOLWG-0.40BWR CYF 100%MAG -0.40BWR

Cyfrol 27 . Rhif 5 . Hydref 2 . 2014

£1.75

Busnes yn ffynnu – gof yn gwenu

‘Shagcharts’ Caerdydd – “hollol anghyfrifol”

Steddfod yn sensro monolog, Golwg yn cyhoeddi

Ymbilio am damaid o Dafydd Iwan


canllaw oed 14+

sion ifan gwawr loader rhys parry jones eiry thomas

www.theatrbaracaws.com #Garw

ond ! m Di m is y 25 ÂŁ1.

Llond lle o straeo n, posau a chystadlaethau bob mis Ar wer th mewn siopau lleol ar draws Cymru. Ac oes nad oes siop yn gyfleus, gallwch archebu drwy’r post neu drwy eich ysgol - 01570 423 529 neu e-bostiwch - marchnata@golwg.com


cynnwys hydref 2 . 2014

Gweithred o gariad a’r ‘shagcharts’

S

hagchart’ – mae’r enw yn dweud cyfrolau. Yn y bôn, mae cwmni o dde Cymru yn ceisio tynnu sylw at eu nosweithiau cymdeithasol drwy roi posteri i fyfyrwyr am ddim. Mae’r posteri yn annog y bobol ifanc i gadw sgôr o’u concwestau rhywiol. Nid oes angen dweud peth mor ffiaidd yw hyn. Gweithred o gariad yw rhyw, yn amlwg, ond mae rhai pobol ifanc yn rhwym o fynd yn wyllt wrth gael eu traed yn rhydd am y tro cyntaf...ond mae cynhyrchu deunydd sy’n hyrwyddo’r math yma o ymddygiad yn anfoesol. Mae cwestiynau mawr i’w gofyn am nosweithiau’r cwmnïau hyn hefyd, wrth iddyn nhw annog myfyrwyr i yfed yn drwm a chofnodi sawl gwaith y maen nhw’n cyfogi. Mae’n gosod cynsail peryglus ar gyfer patrwm anffodus o yfed yn drwm, sy’n gostus i’r sawl dan sylw a’r Gwasanaeth Iechyd. O gofio mai’r syniad yw anfon hufen ymenyddol cymdeithas i gael addysg brifysgol, mae’r cwmnïautrefnu-meddwi yn tanseilio’r ddelfryd ac yn bwydo ar feddyliau ifanc sy’n aml iawn yn rhy naïf i amau’r hyn maen nhw’n rhan ohono.

Y darlun ehangach

Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn galw am gynhadledd

i drafod ‘lad culture’, sef yr arfer o yfed yn drwm a thrin merched fel baw. Ond mewn gwirionedd mae angen trafodaeth genedlaethol ehangach sy’n cynnwys pynciau poenus megis pornograffi, plant yn secstio a’r arfer afiach o wneud jôcs am dreisio. Oherwydd dylanwad porn, mae merched ifanc yn dweud eu bod yn teimlo dan bwysau i ymddwyn fel y merched yn y ffilmiau, ac mae syniadau dynion ifanc o’r hyn yw caru yn hollol wyrdroedig. Ffaith drawiadol yn ein stori ar dudalen pump heddiw - sy’n adrodd cyfrolau, yn anffodus - yw bod cynnydd o 219% wedi bod mewn achosion o drin y clefyd rhywiol gonorrhoea dros y pedair blynedd ddiwetha’ yng Nghymru, a’r mwyafrif o’r achosion o afiechydon rhywiol ymhlith pobol 20 i 25 oed. Yn amlwg mae cysgu o gwmpas yn broblem sydd ar gynnydd. Oherwydd dylanwad anferthol y We, mae hi am fod yn anodd dychwelyd at y syniad mai gweithred o gariad yw rhyw...ond mae angen i wleidyddion wynebu’r broblem ac edrych o ddifrif ar sut i atal plant rhag gweld gormod yn rhy ifanc. Ac mae angen i bawb o bob plaid gondemnio’r ‘shagchart’ ffiaidd yn glir a chroyw.

Blwch Post 4 Llanbedr Pont Steffan Ceredigion SA48 7LX Ffôn 01570 423 529 Ffacs 01570 423 538 e-bost ymholiadau@golwg.com safwe www.golwg360.com Golygydd Gyfarwyddwr Dylan Iorwerth Cyfarwyddwr Busnes Enid Jones

AR Y CLAWR

4 14 20

STRAEON ERAILL

4 Cofio Dannie Abse Awdurdodau lleol – rhaid newid, medd Leighton 6 Carwyn mewn picil Rhybudd am siarcod benthyg arian 10 Americanes a’r llyfrau am Gymru 13 Rhoi trefn ar y byd addysg 14 Monologau dadleuol mewn print Y Llwybr Du – y penderfyniad iawn? 18 Codi cwestiynau dwfn drwy gerflun Cerdd fawr i’r bardd Cymreig mwya’ enwog 21 Creu gemwaith o wydr lliw

BOB WYTHNOS 8 Yr Wythnos – pigion newyddion golwg360 Bwrlwm y Bae Llun newyddion yr Wythnos 9 Byd y blogiau 9 Cartŵn Cen Williams 10

Llythyrau

12

Swyddog Hysbysebion Heledd Evans Swyddog Marchnata Lowri Steffan Swyddog Cyllid Rhiannon Lloyd Williams Swyddog Gweinyddol Wendy Griffiths Swyddog Tanysgrifiadau Mair Jones

Portread

Cathy Davies

25

Cysylltiadau Golygydd Siân Sutton Dirprwy Olygydd Barry Thomas Gohebydd Celfyddydau Non Tudur Gohebydd y Cynulliad Gareth Pennant Gohebydd Cyffredinol Siân Williams Dylunio Dyfan Williams

5 ‘Shagcharts’ Caerdydd – “hollol anghyfrifol” 6 Steddfod yn sensro monolog, Golwg yn cyhoeddi 20 Busnes yn ffynnu – gof yn gwenu 25 Ymbilio am damaid o Dafydd Iwan

16

20-1 – Lleucu Roberts

Gwaith / Tu ôl i’r llenni 18 Tu ôl i’r llenni 17

22

Y Calendr

24

Y Babell Roc

26

Grafftio i gael Stiwdio

25 Pobol

a diwylliant

Deian Owen

Colofnau

8 Dylan Iorwerth 10 Cris Dafis 11 Gwilym Owen 22 Manon Steffan 23 Ar y bocs – Dylan Wyn Williams JCB 26 Phil Stead 27 Llythyr o America

Chwaraeon 26 Holi hyfforddwr Morgannwg “Sioc” o weld Slade yng Nghaerdydd

Llun Clawr: Ann Catrin y Gof Ffotograffydd: Alan Dop

Cyhoeddir Golwg gan Golwg Cyf gyda chymorth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru. Nid yw ein noddwyr o angenrheidrwydd yn cytuno gyda’r farn yn y cylchgrawn. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost fel papur newydd. Argraffwyd gan Argraffwyr Cambrian.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.