Golwg 6 Hydref, 2016

Page 1

Cyfrol 29 . Rhif 6 . Hydref 6 . 2016

‘Cân ora’r Super Furry’s

Brexit

cam yn ôl i ddatganoli, medd David Melding

‘O’r tywyllwch i’r goleuni’

Awstria v Cymru

Karl Jenkins yn trafod Aberfan

GOLWG CYF 100%MAG GOLWG-0.40BWR CYF 100%MAG -0.40BWR

GOLWG CYF 100%MAG GOLWG-0.40BWR CYF 100%MAG -0.40BWR

gêm gyfartal “yn fwy na derbyniol”

Flex Lewis

GOLWG CYF 100%MAG GOLWG-0.40BWR CYF 100%MAG -0.40BWR

ar y brig yn yr Amerig GOLWG CYF 100%MAG GOLWG-0.40BWR CYF 100%MAG -0.40BWR

GOLWG CYF 100%MAG GOLWG-0.40BWR CYF 100%MAG -0.40BWR

GOLWG CYF 100%MAG GOLWG-0.40BWR CYF 100%MAG -0.40BWR


Diwrnodau Agored Y Drindod Dewi Sant Campws Caerfyrddin 7 ac 8 Hydref 2016 4 Chwefror 2017

Campws Llambed 5 Tachwedd 2016 28 Ionawr 2017

Campws Abertawe 5 Tachwedd 2016 3 Rhagfyr 2016 18 Chwefror 2017

BA Perfformio (Caerdydd) 5 Tachwedd 2016 26 Tachwedd 2016 11 Chwefror 2017

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

@AstudioYDDS

#DyddieDa

www.ydds.ac.uk/cy/ymweld


cynnwys hydref 6 . 2016

AR Y CLAWR

Er c of a m

y pl a n t

C

afodd y bws tipyn o drafferth i barcio ar y strydoedd culion o dai teras fel petai’n pwysleisio’r profiad anodd o ymweld â man sy’n gymaint rhan o hanes diwydiannol a chymdeithasol Cymru. Roedd teimlad anghyfforddus o fod yn ymweld â chymuned sydd wedi byw dan gysgod digwyddiad a gafodd sylw’r byd hanner canrif yn ôl pan fu farw 116 o blant ac 28 o oedolion ar un bore o hydref. Mae’r rhesi o gerrig beddi a’u negeseuon hiraethus ym mynwent Aberfan yn dystiolaeth o’r drasiedi. Erbyn hyn mae hen safle ysgol gynradd Pantglas wedi’i thrawsnewid yn ardd goffa er bod adfeilion y waliau yn atgof o’r hyn a fu wrth i blant ddod at ei gilydd bob dydd am eu gwersi. Dyma’r olion gweledol o’r digwyddiad erchyll a laddodd genhedlaeth o blant, eu hathrawon a chymdogion cyfagos wrth i domen lo lithro ar ben yr ysgol gynradd ar fore Hydref 21, 1966. Hanner can mlynedd yn ddiweddarach mae’r dagrau’n agos a’r llais yn torri wrth i un o blant Aberfan gofio ei blentyndod a’r diwrnod a newidiodd ei hanes. Roedd yn bedair oed ac yn rhy ifanc i fod yn yr ysgol a dim ond tair gwaith y buodd yn yr ardd goffa erioed. Roedd y ffaith iddi gael ei chreu a’i chynnal a chadw gan arian a

ddaeth ar ôl brwydr hir y trigolion lleol, yn ddraenen yn ei ystlys. Roedd y Bwrdd Glo a Llywodraeth Lafur y dydd wedi mynnu bod y gronfa er cof am y plant yn talu am waith i ddiogelu’r tomenni glo a bu’n rhaid aros tan 1997 cyn i Ysgrifennydd Cymru Ron Davies ad-dalu peth o’r arian ac yn fwy diweddar ar £2filiwn yn cael ei gyfrannu at elusennau lleol gan Rhodri Morgan. Mae Golwg eisoes wedi siarad â rhai o’r plant a’u teuluoedd sydd wedi byw gyda’u hanafiadau, eu colledion a’u galar. Roedd noson cyhoeddi llyfr Gaynor Madgwick yn gyfle i drigolion lleol ddod at ei gilydd ac i drafod eu profiadau a’u teimladau am y tro cyntaf erioed. Fe fydd cyfres o raglenni yn tynnu sylw at Aberfan a chwestiynau eisoes wedi cael eu codi am weithredoedd a chyfrifoldeb arweinwyr gwleidyddol y dydd. Roedd y newyddiadurwr Vincent Kane yn difaru peidio â holi’n galetach Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, George Thomas, ac mae disgwyl i’r darlledwr Huw Edwards feirniadu Cadeirydd y Bwrdd Glo, Alf Robens a’r ymchwiliad cyhoeddus gan ei ddisgrifio fel “un o sgandalau mwya’r ganrif aeth heibio yng Nghymru”. Mae cyngerdd er cof am y plant a’r rhaglenni yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o’r anghyfiawnder a’r cam a wnaed â‘r gymuned lofaol hanner canrif yn ôl ac yn ymgais i leddfu hiraeth y teuluoedd a’r gymdogaeth a’u tynnu ‘o’r tywyllwch i’r goleuni’.

Blwch Post 4 Llanbedr Pont Steffan Ceredigion SA48 7LX Ffôn 01570 423 529 Ffacs 01570 423 538 e-bost ymholiadau@golwg.com safwe www.golwg360.cymru Golygydd Gyfarwyddwr Dylan Iorwerth Cyfarwyddwr Busnes Enid Jones

Cyhoeddir Golwg gan Golwg Cyf gyda chymorth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru. Nid yw ein noddwyr o angenrheidrwydd yn cytuno gyda’r farn yn y cylchgrawn. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost fel papur newydd. Argraffwyd gan Argraffwyr Cambrian

6

STRAEON ERAILL

12 16

6 7 13 14 18 19

Byw gyda diffyg fitamin B12 Darn Barn am Gatalonia Cofio “Tywysog y Gôl-geidwaid” Patrymau o’r 1950au yn ysbrydoli Gwaith yr artist Meinir Wyn David Barnes a’i olwg ar Gymru Profiad dwy sy’n barddoni

BOB WYTHNOS 8 Yr Wythnos – pigion newyddion golwg360 Bwrlwm y Bae 9 Llun newyddion yr Wythnos Byd y blogiau 9 Cartŵn Cen Williams 11 Llythyrau 12

Portread o Flex Lewis

16

20-1 – Ceri Cunnington

17

Gwaith

Y Babell Roc

19

Cysylltiadau Golygydd Siân Sutton Dirprwy Olygydd Barry Thomas Gohebydd Celfyddydau Non Tudur, Bethan Gwanas Gohebydd y Cynulliad Mared Ifan Gohebydd Cyffredinol Siân Williams Dylunio Dyfan Williams Swyddog Cyllid Rhiannon Lloyd Williams Swyddog Gweinyddol Wendy Griffiths Swyddog Tanysgrifiadau Mair Jones

4 Brexit – cam yn ôl i ddatganoli, medd David Melding 6 Awstria v Cymru – gêm gyfartal “yn fwy na derbyniol” 10 ‘Cân ora’r Super Furry’s’ 12 Flex Lewis ar y brig yn yr Amerig 20 ‘O’r tywyllwch i’r goleuni’ – Karl Jenkins yn trafod Aberfan

22 Recordio, blogio ac ar y radio – anturiaethau Lisa Angharad 24 Y

Colofnau

20 26

Calendr

8 Dylan Iorwerth 10 Cris Dafis 24 Manon Steffan Ros 25 Ar y soffa – Huw Onllwyn 26 Phil Stead 27 Aled Samuel

Chwaraeon 26 Beth yw effaith chwarae rygbi?

Llun Clawr: Flex Lewis


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.