GOLWG CYF 100%MAG GOLWG-0.40BWR CYF
100%MAG -0.40BWR
GOLWG CYF 100%MAG GOLWG-0.40BWR CYF 100%MAG -0.40BWR
GOLWG CYF 100%MAG GOLWG-0.40BWR CYF
100%MAG -0.40BWR
GOLWG CYF 100%MAG GOLWG-0.40BWR CYF 100%MAG -0.40BWR
£1.75
Cyfrol 27 . Rhif 6 . Hydref 9 . 2014
Gwobrwyo
Gareth – seren Sbaen a gobaith Cymru
Tatŵs ar groen hŷn
Llyfr newydd Llwyd Owen, am ‘Llwyd Owen’ Band Cymraeg dan bont yn Berlin Colofn newydd Aled Samuel Anghytuno dros y Gymraeg a’r drefn gynllunio
YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN
Mae’ch barn chi’n bwysig! Dyma eich cyfle chi i gael dweud eich dweud am y cynigion ar gyfer Wylfa Newydd, gorsaf bŵer niwclear newydd ar gyfer Ynys Môn, a chwarae rhan yn y gwaith o siapio cynlluniau Horizon ar gyfer y dyfodol.
Tan 8 Rhagfyr, bydd Horizon yn gofyn am eich barn chi mewn nifer o arddangosfeydd ar draws Ynys Môn a Gogledd Cymru. Bydd yr arddangosfeydd hyn yn rhoi cyfle i chi weld y cynlluniau manwl, cwrdd â’r tim a rhoi gwybod i ni beth ydych chi’n ei feddwl - dewch draw a dod yn rhan o’r broses.
Arddangosfeydd Cyhoeddus: Dydd Iau 9 Hydref
Dydd Mercher 29 Hydref
Dydd Sadwrn 1 Tachwedd
Canolfan Ucheldre Mill Bank Caergybi 2pm - 8pm
Canolfan Gymunedol Goffa’r Rhyfel Stryd y Dŵr Porthaethwy 2pm - 8pm
Neuadd Penrhyn Ffordd Gwynedd Bangor 10am - 3pm
Dydd Gwener 10 Hydref
Dydd Iau 30 Hydref
Dydd Iau 20 Tachwedd
Llyfrgell Rhosneigr Stryd Fawr Rhosneigr 2pm - 8pm
Neuadd y Dref Llandudno Stryd Lloyd Llandudno 2pm - 8pm
Clwb Cymdeithasol a Chwaraeon Wylfa Tyn y Maes Cemaes 2pm - 8pm
Dydd Sadwrn 11 Hydref
Dydd Gwener 31 Hydref
Dydd Gwener 21 Tachwedd
The Coach House Gwesty’r Bull Sgwâr Bulkely Llangefni 10am - 3pm
Gwesty’r Celtic Royal Stryd Bangor Caernarfon 2pm - 8pm
Canolfan Agewell Amlwch Y Neuadd Goffa 18 Stryd y Farchnad Amlwch 2pm - 8pm
Beth sy’n digwydd os na allaf ddod i’r digwyddiadau hyn? Mae sawl ffordd o gymryd rhan a gallwch ymateb yn Gymraeg neu yn Saesneg. I gael gwybod rhagor, gallwch gysylltu â ni drwy: Drwy ebost: ymholiadauwylfa@horizonnuclearpower.com
Gwefan: www.horizonnuclearpower.com/ymgynghoriad
Drwy ffonio: 0800 954 9516
Cyfeiriad Rhadbost: FREEPOST HORIZON NUCLEAR POWER CONSULTATION
104-PAC 1 YVC AD-GOLWG-340x220mm (FINAL).indd 1
03/10/2014 15:49
Cofio’r gwasanaeth lleol
M
ae pen-blwyddi yn aml yn gyfle i fwrw golwg yn ôl yn hiraethus at ddyddiau da’r gorffennol ond hefyd yn gyfle i gael ail wynt ac edrych ychydig yn wahanol ar y dyfodol. Dyna sy’n dod i feddwl wrth drafod pen-blwydd un o orsafoedd radio masnachol cyntaf Cymru. Mae’n 40 mlynedd ers i orsaf Sain Abertawe ddechrau darlledu yn ne orllewin Cymru – rhwng Pen-y-bont ar Ogwr yn y dwyrain a Chrymych yn y gorllewin – gan greu cynnwrf a gwasanaeth mentrus newydd sbon i’r ardal. Cafodd ei sefydlu yn nhraddodiad y gorsaf pirate Radio Caroline a oedd yn cystadlu’n uniongyrchol â’r BBC am gynulleidfa newydd ifanc. Yn Abertawe yr orsaf fasnachol oedd y gyntaf yng Nghymru i gynnig gwasanaeth rhaglenni Cymraeg yn 1974 gan ddylanwadu’n gryf ar ddatblygiad Radio Cymru nid yn unig wrth i’r gwasanaeth cenedlaethol efelychu rhai o’r rhaglenni cynnar ond drwy gynnig gwaith i gnwd o ddarlledwyr a newyddiadurwyr oedd yn ennill eu profiad cyntaf ar orsaf annibynnol. Mae’n anodd disgrifio wir ddylanwad y profiadau cynnar hynny. Fel gydag unrhyw le bach, roedd cyfle i droi llaw at bob agwedd o’r gwaith a delio gyda phob math o straeon a dysgu drwy brofiad a drwy gamgymeriadau wrth ddarlledu’n fyw. Roedd yn bwysig, ac mae’n dal yn bwysig, i afael ym mhob cyfle gyda dwylo agored - “fe fyddi di’n talu am y profiad ond yn dysgu popeth am y gwaith” meddai un cyn ddarlledwr gyda’r orsaf wrtha i cyn i mi fentro ar y gwaith ar ôl dyddiau’r coleg yng nghyfnod cyffrous 1979. Doedd y cyflog, arian parod mewn
amlen frown bob wythnos ddim mor bwysig â’r cyfle i weithio a chyrraedd Cymry Cymraeg a oedd yn gwrando’n frwd ar raglenni ‘Amrywiaeth’ bob nos. Ac roedd tîm o wirfoddolwyr brwd yn cyfrannu’n gyson at y rhaglenni. Roedd dilyniant ffyddlon i’r orsaf a oedd yn dod â newyddion lleol ac yn adlewyrchu’r gymdeithas a’i phobol drwy’r rhaglenni. Er bod penaethiaid Sain Abertawe yn mynnu mai cadw at yr egwyddorion ac yn agos at eu cynulleidfa sy’n gyfrifol am y llwyddiant hyd heddiw, mae un erthygl yn tynnu sylw at dranc y math yma o ddarlledu a newyddiaduraeth heddiw. Deugain mlynedd yn ddiweddarach mae’r diwydiant radio yn dirywio, swyddi yn diflannu a rhaglenni sy’n cael eu cynhyrchu yn lleol yn diflannu o’r tonfeddi wrth i’r perchnogion ganoli’r gwasanaeth yn y dinasoedd neu yn Llundain. Mae uno gorsafoedd yn golygu bod llais lleol yn mynd ar goll ond gyda hynny nifer fawr o swyddi mewn diwydiant sydd wedi cryfhau’r cymunedau a rhoi llwyfan trafod dros y blynyddoedd. Mae Marc Webber are clickonwales yn sôn am golli 40% o’r gweithwyr ac wrth i Aelodau Cynulliad feirniadu’r diffyg trafodaeth ddemocrataidd am bynciau’r dydd yn y wasg brint, prin yw’r sôn am bwysigrwydd rhaglenni lleol yng Nghymru. Wrth drafod dylanwad yr orsaf leol sy’n dal i ddarlledu o adeilad dinod yn Nhre Gŵyr, efallai ei bod hi’n bryd ystyried sut i’w cefnogi er mwyn creu gwir amrywiaeth yn y cyfryngau yng Nghymru a sicrhau bod llais y Cymry yn dal i gael ei glywed.
Blwch Post 4 Llanbedr Pont Steffan Ceredigion SA48 7LX Ffôn 01570 423 529 Ffacs 01570 423 538 e-bost ymholiadau@golwg.com safwe www.golwg360.com Golygydd Gyfarwyddwr Dylan Iorwerth Cyfarwyddwr Busnes Enid Jones
cynnwys hydref 9 . 2014 AR Y CLAWR
4
4 Anghytuno dros y Gymraeg a’r drefn gynllunio 14 Tatŵs ar groen hŷn 20 Llyfr newydd Llwyd Owen am ‘Llwyd Owen’ 24 Band Cymraeg dan bont yn Berlin 26 Gwobrwyo Gareth – cyfweliad Osian Roberts 27 Colofn newydd Aled Samuel
STRAEON ERAILL
14
10 13 14 18
Camp y beirdd a Wonga Esme – y ffarmwraig “anarferol” Chwarae yn y chwarel Cyfarchion cynnes i Innes
BOB WYTHNOS 8 Yr Wythnos – pigion newyddion golwg360 Bwrlwm y Bae Llun newyddion yr Wythnos 9 Byd y blogiau
20
9 Cartŵn Cen Williams 10
Llythyrau
12
Portread
Rhys Davies 16
20-1 – Eurwyn Pierce Jones
Gwaith 18 Tu ôl i’r llenni 17
22
22
Y Calendr
24
Y Babell Roc
Yr Ods dan bont yn Berlin
25 Pobol
a diwylliant
Keith Morris
Colofnau
26
8 Dylan Iorwerth 10 Cris Dafis 11 Leighton Andrews 22 Manon Steffan Ros 23 Ar y bocs – Dylan Wyn Williams Jac Codi Baw 26 Phil Stead 27 Aled Samuel
Chwaraeon 26 Osian Roberts yn barod am yr her
Cysylltiadau Golygydd Siân Sutton Dirprwy Olygydd Barry Thomas Gohebydd Celfyddydau Non Tudur Gohebydd y Cynulliad Gareth Pennant Gohebydd Cyffredinol Siân Williams Dylunio Dyfan Williams
Swyddog Hysbysebion Heledd Evans Swyddog Marchnata Lowri Steffan Swyddog Cyllid Rhiannon Lloyd Williams Swyddog Gweinyddol Wendy Griffiths Swyddog Tanysgrifiadau Mair Jones
Llun Clawr: Gareth Bale Ffotograffydd: FAW
Cyhoeddir Golwg gan Golwg Cyf gyda chymorth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru. Nid yw ein noddwyr o angenrheidrwydd yn cytuno gyda’r farn yn y cylchgrawn. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost fel papur newydd. Argraffwyd gan Argraffwyr Cambrian.