GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR
Cyfrol 27 . Rhif 21 . Chwefror 5 . 2015
“Amser anodd” sylfaenydd Merched y Wawr
Oes o lafur
yr artist Aneurin Jones
Carfan Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad
Rhun ap Iorwerth ar Question Time
Ffilm arswyd Arabaidd y Cymro
Carfan Cymru Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2015
cynnwys chwefror 5 . 2015
Dau benderfyniad
W
rth i Golwg fynd i’r wasg daeth dau gyhoeddiad arwyddocaol. Un gan lywodraeth Cymru a’r llall gan un o’r Cynghorau Sir. Ac mae’r ddau yn adlewyrchu’r newid yn y berthynas rhwng y ddwy haen o lywodraeth yng Nghymru yn ystod cyfnod dadleuol a chythryblus yn ariannol a gwleidyddol. Mae penderfyniad cynghorwyr Sir Benfro i gwtogi ar gyflog y Prif Weithredwr nesaf i gael ei benodi i arwain y sir i’w groesawu. Mae’r sefyllfa yn y sir hon ac eraill yn ymwneud â chyflog, treuliau a phensiynau wedi bod yn sgandal anffodus iawn sydd wedi tynnu sylw at wendidau enfawr yn y drefn a’r defnydd o rym mewn neuaddau sir. Ac yn yr un gwynt mae’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am ad-drefnu llywodraeth leol wedi cyhoeddi adroddiad sy’n amlinellu ei weledigaeth at y dyfodol. Mae’n cynnwys cadw gwell golwg ar gyflogau prif swyddogion ac adolygu’r taliadau i gynghorwyr ac aelodau Cabinet. “Byddai rheolaeth dynn ar daliadau i Brif Weithredwyr a phrif swyddogion eraill,” meddai Leighton Andrews. “Rydym yn cynnig y dylid recriwtio Prif Weithredwyr drwy broses recriwtio genedlaethol ac y dylid diffinio rôl a chyfrifoldebau Prif Weithredwyr mewn Awdurdodau Lleol drwy ddeddfwriaeth.” Yn ôl y rhai oedd yn dadlau o blaid cyflogau mawr mewn llywodraeth leol neu feysydd eraill, roedd yn rhaid eu talu er mwyn denu’r ymgeisydd gorau. A fydd ‘proses recriwtio genedlaethol’ yn gwella ar hynny? Ac a ddylai’r rheolaeth dynn ymestyn i gyrff cyhoeddus a meysydd eraill? Er nad yw’n sôn am ail drefnu
ffiniau awdurdodau yn yr adroddiad hwn, mae’n amlwg bod holl waith a swyddogaeth y cynghorau dan y chwyddwydr yn ogystal â rôl y cynghorwyr eu hunain. Mae’n argymell bod angen gwaed newydd i arwain drwy’r cyfnod nesaf ac y dylid gwtogi ar y cyfnod y gall gynghorwyr wasanaethu i 25 mlynedd. Mae’n gyfnod o gyni ariannol a holl wasanaethau traddodiadol yr awdurdodau yn y fantol. Felly mae’n gyfle i ystyried beth sydd wir ei angen a sut i’w darparu ym myd addysg, gwasanaethau cymdeithasol, gwastraff a chynllunio. Mae rhai yn awgrymu y bydd y cynghorau yn gweithredu fel cyrff comisiynu yn unig yn y dyfodol heb y cyfrifoldeb am drefnu gwasanaethau o’r fath. A yw rhagor o breifateiddio felly’n anochel? Mae’r trafod wedi hen ddechrau gyda’r corff sy’n cynrychioli’r awdurdodau lleol yn croesawu’r cyfle i sicrhau bod llais y cymunedau a’u dymuniadau am ddyfodol y gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei glywed. Ers datganoli grym llywodraethu i Fae Caerdydd a’r galw nawr am ragor o ddatganoli, mae’n gyfle i ystyried o ddifri y berthynas rhwng llywodraeth Cymru a’r bobol y mae’n eu cynrychioli. Does neb yn gwadu bod lle i wella ar y gwaith sy’n cael ei wneud gan yr awdurdodau lleol a’r cynghorau, ond mae’n bwysig bod yr haen yma o ddemocratiaeth yn parhau gan sicrhau gwell cyfle i’r bobol sy’n talu am y gwasanaethau ac yn ddibynnol arnyn nhw o ddydd i ddydd yn cael cyfle i ddweud eu barn. Ac i ethol eu cynrycholwyr neu ddewis un arall os nad yw’n gwneud y gwaith yn ddigon da.
Blwch Post 4 Llanbedr Pont Steffan Ceredigion SA48 7LX Ffôn 01570 423 529 Ffacs 01570 423 538 e-bost ymholiadau@golwg.com safwe www.golwg360.com Golygydd Gyfarwyddwr Dylan Iorwerth Cyfarwyddwr Busnes Enid Jones
Cysylltiadau Golygydd Siân Sutton Dirprwy Olygydd Barry Thomas Gohebydd Celfyddydau Non Tudur Gohebydd y Cynulliad Gareth Pennant Gohebydd Cyffredinol Siân Williams Dylunio Dyfan Williams Swyddog Hysbysebion Heledd Evans Swyddog Marchnata Lowri Steffan Swyddog Cyllid Rhiannon Lloyd Williams Swyddog Gweinyddol Wendy Griffiths Swyddog Tanysgrifiadau Mair Jones
Cyhoeddir Golwg gan Golwg Cyf gyda chymorth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru. Nid yw ein noddwyr o angenrheidrwydd yn cytuno gyda’r farn yn y cylchgrawn. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost fel papur newydd. Argraffwyd gan Argraffwyr Cambrian
AR Y CLAWR
2 Carfan Cymru at Bencampwriaeth y Chwe Gwlad 18 “Amser anodd” sylfaenydd Merched y Wawr 20 Llafur oes yr arlunydd Aneurin Jones 22 Rhun ap Iorwerth ar Question Time 24 Ffilm arswyd Arabaidd y Cymro
6
STRAEON ERAILL
12
13 Y tyrau sy’n herio’r tirlun 14 Dyfodol Abertawe 19 Tafoli nofel newydd Catrin Dafydd 20 “Hunangofiant” mewn lluniau 25 Un frwydr fawr fendigedig
BOB WYTHNOS 8 Yr Wythnos – pigion newyddion golwg360 Bwrlwm y Bae Llun newyddion yr Wythnos 9 Byd y blogiau 9 Cartŵn Cen Williams
14
Y tu ôl i’r llenni 11 Llythyrau 10
12
Portread
– Y Comisiynydd Plant newydd
16
16
20-1 – Anni Dafydd
17
Gwaith
22
Y Calendr
24
Y Babell Roc
Brwydr newydd y Bandiau
Colofnau
8 Dylan Iorwerth 10 Gwilym Owen 11 Cris Dafis 22 Manon Steffan Ros 23 Ar y bocs – Dylan Wyn Williams Jac Codi Baw 26 Phil Stead 27 Aled Samuel
20
Chwaraeon
26 Blwyddyn bwysig i Gymru... a Warren! Alun Wyn Bevan
25
Llun Clawr: Alun gan Aneurin Jones