Stelcian yn destun nofel
Merched Cymru’n gwirioni ar gamblo – pryder am fetio ar y We
Noson “hudol” Cerys Matthews
Seren roc yn rhoi slogan iaith yn ei ffilm
Cyfrol 25 | Rhif 27 | Mawrth 21 | 2013
Sgwrfa i’r Saeson – Cymru’n gorfoleddu!
£1.50
SIOE OL I H T I E D
a swyn yr ardd
S llaw ioe i’r p n hw y l gyd ant lle l iaf aW Ffri cw a’ ndi i au
Pi Palali
Tocynnau £3 y pen
Manylion y daith:
Amse sioe r deulu
5.30
Ebrill 17 – Canolfan y Morlan, Aberystwyth Ebrill 18 – Theatr Halliwell, Coleg y Drindod, Caerfyrddin Ebrill 19 – Theatr y Gromlech, Ysgol y Preseli, Crymych Ebrill 22 – Neuadd y Plas, Machynlleth Ebrill 24 – Neuadd Goffa Y Felinheli Ebrill 25 – Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst
Sali Mal i
Am fwy o wybodaeth neu i archebu tocynnau Ffoniwch 01570 423529 neu ewch i www.golwg360.com/wcw
golwg Cynnwys AR Y CLAWR
wythnos golwg
R
oedd y gêm rygbi hanesyddol rhwng Cymru a Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm dros y penwythnos yn torri sawl record. Dyma oedd buddugoliaeth orau Cymru yn erbyn ‘yr hen elyn’ ers 1881, yn ôl Alun Wyn Bevan yn Golwg heddiw. Dyma oedd perfformiad gorau’r Crysau Cochion, ychwanegodd, ers 1953 “pan loriwyd y Crysau Duon ar Barc yr Arfau”. Ac wrth gwrs, dyma’r sgôr fwyaf gan Gymru yn erbyn Lloegr, 30 – 3, erioed. A nawr mae ystadegyn hynod arall wedi dod i law ynglŷn â’r nifer oedd yn gwylio’r gêm, nid yn unig y 74,500 a mwy yn y Stadiwm yng Nghaerdydd, ond ar y teledu. Dim ond ffigyrau’r BBC 1 yng Nghymru sydd ar gael ond maen nhw’n torri pob record am gêm rygbi gan fod 1.1 miliwn o bobol wedi eistedd - ar flaen eu cadeiriau neu ar bigau’r draen ar eu traed i annog y chwarae - wrth wylio pnawn Sadwrn diwethaf. Dyma’r drydedd gynulleidfa fwyaf i raglen deledu yn ystod y ganrif hon seremonïau agoriadol a chloi’r Gemau Olympaidd yn Llundain y llynedd oedd ar y brig. Yn ôl Undeb Rygbi Cymru, mae’n brawf bod rygbi wedi ‘cipio calonnau ac eneidiau’!
Llun: Keith Morris
Y wên yn dweud y cyfan... Ac mae llawer o sôn wedi bod am ddod â’r genedl ynghyd drwy’r achlysur cenedlaethol a rhagweld y bydd llwyddiant y tîm rygbi yn rhoi hwb i bob agwedd ar fywyd yng Nghymru - yn economaidd, cymdeithasol a seicolegol. Roedd y sylwebydd Jonathan Davies yn amlwg wrth ei fodd yn trafod y gêm gyda’i gyd-sylwebwyr o Loegr pnawn Sadwrn a’r gynulleidfa mewn tafarn ‘yn rhywle’, yn llawenhau gyda’r tîm wrth y chwiban olaf. Ond mae Alun Wyn Bevan yn cloi ei adroddiad ar Bencampwriaeth y Chwe Gwlad drwy fynnu bod lle i’r Undeb Rygbi newid ei agwedd tuag at y gêm ar lawr gwlad. Roedden nhw’n barod iawn i ganmol yr elw sy’n dod drwy weithgareddau Stadiwm y Mileniwm - £100 miliwn i economi de ddwyrain Cymru, yn ôl arolwg annibynnol. Yn sgil y llwyddiant, peth bach fyddai ymateb i’r galw am ddarpariaeth ar wefan yr Undeb yn nwy iaith Cymru. Ac mae angen edrych o’r newydd ar sefyllfa’r rhanbarthau os yw’r gêm am barhau i ffynnu.
6
STRAEON ERAILL 11 Iolo Williams a’r gwanwyn hwyr 12 Gwaed ar y glo Galw am gwrteisi ar y We 15 Y côr na chafodd ei lorio
12
Ffôn 01570 423 529 Ffacs 01570 423 538 e-bost ymholiadau@golwg.com safwe www.golwg360.com
Golygydd Gyfarwyddwr Dylan Iorwerth Cyfarwyddwr Busnes Enid Jones Rheolwraig Hysbysebion Mary Davies
Cyhoeddir Golwg gan Golwg Cyf gyda chymorth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru. Nid yw ein noddwyr o angenrheidrwydd yn cytuno gyda’r farn yn y cylchgrawn. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost fel papur newydd. Argraffwyd gan Argraffwyr Cambrian.
Yr Wythnos
– pigion newyddion golwg360 10-11 Llythyrau
16
14
20-1 – Kay Holder
16
Portread
– Mike Peters yn y ffrâm
Y Calendr 24 Trydar Catrin Rogers
22
25
Cartŵn
21
Y Babell Roc
– Mr Twlc
Colofnau
20
Golygydd Siân Sutton Dirprwy Olygydd Barry Thomas Gohebydd Celfyddydau Non Tudur Gohebydd y Cynulliad Anna Glyn Gohebydd Cyffredinol Siân Williams Newyddiadurwraig Gwasanaethau Golwg Llinos Dafydd Dylunio Dyfan Williams Swyddog Marchnata Lowri Steffan Swyddog Cyllid Rhiannon Lloyd Williams Swyddog Gweinyddol Wendy Griffiths Swyddog Tanysgrifiadau Mair Jones
BOB WYTHNOS 8
Cysylltiadau Blwch Post 4 Llanbedr Pont Steffan Ceredigion SA48 7LX
6 Merched Cymru’n gwirioni ar gamblo – pryderu am fetio ar y we 16 Seren roc yn rhoi slogan iaith yn ei ffilm 19 Noson “hudol” efo Cerys 20 Stelcian yn destun nofel
8 Gareth Wyn Jones 9 Dylan Iorwerth 10 Gwilym Owen 22 Celf – Cris Dafis 24 Jac Codi Baw 25 Teledu – Dylan Wyn Williams 27 Phil Stead 17-18
Gwaith
Chwaraeon
26
26 Cloriannu Tymor y Chwe Gwlad - Alun Wyn Bevan
Llun Clawr: Y fuddugoliaeth fawr Ffotograffydd: Huw Evans
4
golwg | mawrth 21 | 2013
yn y cefnforoedd mae’r cof
Symud seddi yn y Cabinet M
ae Prif Weinidog Cymru wedi gwadu iddo newid Gweinidog Iechyd ei lywodraeth am nad oedd yr un flaenorol wedi llwyddo i werthu neges y Llywodraeth. Datgelodd Carwyn Jones ei fod am ad-drefnu’r Cabinet ar y wefan Twitter ddydd Iau diwetha. Y newid cyntaf a mwyaf arwyddocaol oedd dod â Mark Drakeford, Aelod Cynulliad Llafur Gorllewin Caerdydd o’r meinciau cefn i fod yn Weinidog Iechyd newydd gan symud Lesley Griffiths i fod yn gyfrifol am y portffolio Llywodraeth Leol. Ond nid pleidlais o ddiffyg hyder ynddi hi oedd hyn, meddai Carwyn Jones. “O safbwynt Gweinidogion, dw i’n hyderus fod gen i dîm cryf o bobol ac mae’n bwysig o bryd i’w gilydd bod pobol yn cael sialensau newydd.” Er bod y person wedi newid,
yr un fydd y polisi iechyd yn ôl y Prif Weinidog. Ar hyn o bryd mae gan nifer o’r Byrddau Iechyd gynlluniau dadleuol i ad-drefnu rhai gwasanaethau a does dim bwriad newid trywydd. “Rydyn ni’n gwybod ein bod ni eisiau gwasanaeth iechyd saff a chynaliadwy yn y dyfodol. Mae hynny’n wir. Fe ddefnyddiais i’r geiriau hynny ychydig wythnosau yn ôl ac mae’n dal yn wir nawr.”
Ad-drefnu eto cyn 2016
Mark Drakeford yw’r unig wyneb newydd yn y cabinet a does neb wedi eu symud i’r meinciau cefn - er bod ambell i weinidog wedi cael cyfrifoldebau ychwanegol neu bortffolio gwahanol. Ond mae Carwyn Jones yn bwriadu ad-drefnu’r Cabinet eto cyn diwedd 2016 ac fe fydd cyfle’r adeg honno am fwy o waed newydd, meddai. “Bydd hwnna yn digwydd y tro
nesaf. R’yn ni’n ffodus dros ben yn y Blaid Lafur bod gyda ni dalent mawr ar y meinciau cefn a’r tro nesaf fydd yr amser i ddod â phobol newydd i mewn wrth edrych ar yr etholiad yn 2016.”
Cwblhau’r gwaith ym myd addysg
Roedd yna sibrydion ymlaen llaw y gallai’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews gael ei symud i fod yn gyfrifol am Fusnes yn Llywodraeth Cymru. Ond dyw hynny ddim wedi digwydd ac mae’r Prif Weinidog yn dweud ei fod yn bwysig ei fod yn gorffen y gwaith sydd wedi’i ddechrau yn y system addysg. “Mae Leighton yn gwneud gwaith da. Mae ganddo sawl peth ar ôl i’w wneud yn nhermau deddfwriaeth, symud pethau yn eu blaen. Mae’n bwysig ei fod yn parhau yn y rôl yma fel ei fod yn medru bwrw ymlaen a gweld y gwaith i’r pendraw.”
Cynhadledd i osgoi trafod Comisiwn Silk
Mae Carwyn Jones yn cydnabod bod yna farn wahanol o fewn y Blaid Lafur ynghylch datganoli’r cyfrifoldeb am yr heddlu i Gymru. Dyma oedd un o argymhellion Llywodraeth Cymru i’r Comisiwn Silk sydd yn edrych ar hyn o bryd ar bwerau’r Cynulliad. “Mae yna wastad drafodaethau ar y materion yma. Yn anorfod pan mae yna gynnig i drosglwyddo o un sefydliad i’r un arall fe fydd yna farn wahanol. Wrth gwrs bydd yna. “Ond o’n safbwynt ni, rydyn ni wedi rhoi tystiolaeth i Silk Rhan Dau ac mae’r dystiolaeth yna yn sefyll.” Er bod cynhadledd y Blaid Lafur y penwythnos hwn yn Llandudno, go brin y bydd Silk ar yr agenda. Nid dyma fydd yr amser i drafod y pwnc, meddai, ond yn hytrach pan mae’r comisiwn wedi dod i’w gasgliadau.
Llifogydd yma i aros Wrth i’r byd gynhesu, fe fydd llifogydd fel y rhai gafwyd yng nghyffiniau Aberystwyth a Llanelwy’r llynedd yn fwy o broblem. Dyna yw rhybudd arbenigwr ar Wyddoniaeth Atmosfferig wrth drafod gwyddoniaeth y tu ôl i’r glaw trwm gafwyd yn 2012. Yn ôl yr Athro Geraint Vaughan o Brifysgol Manceinion sydd wedi gweithio i’r Swyddfa Dywydd, mae pobol yn tueddu i feddwl am gynhesu byd eang a’i effaith ar allu pobol mewn gwledydd poeth i ddyfrio a thyfu cnydau, ond fe all y newid yn yr hinsawdd achosi gaeafau oerach a thywydd gwlypach yng Nghymru. Er bod angen mwy o ymchwil a dadansoddi cyn gallu cynnig atebion pendant, mae patrwm eisoes yn amlwg, meddai. “Yr ydan ni’n gwybod bod pedair o’r blynyddoedd gwlypaf ers canrif a mwy wedi digwydd yn y pymtheng mlynedd ddiwetha’ – 2000, 2007, 2008 a’r llynedd,” eglura’r Athro 58 oed o Ddinbych yn wreiddiol. Cafwyd llifogydd yn Llanelwy fis Tachwedd, ond nid y glaw ar y pryd oedd yn gyfrifol, yn ôl y gwyddonydd. “Beth ddigwyddodd yn ystod 2012 oedd mai yn yr haf cafwyd y glaw anarferol – mi gaethon ni lot o law yn yr hydref hefyd, ond rydan ni’n cael glaw yn yr hydref beth bynnag. “Beth oedd wedi digwydd oedd bod y tir wedi gwlychu cymaint [yn ystod yr haf] fel bod unrhyw law oedd yn disgyn wedyn yn achosi llifogydd. “Roedd rhai o’r llifogydd gwaethaf
Llun: Marian Delyth
yng Nghymru ym mis Tachwedd. “Mewn blwyddyn arall fyse’r glaw yna ddim wedi creu’r fath lanast. Ond oherwydd bod y tir wedi gwlychu cymaint yn ystod yr haf, aeth y dŵr a ddisgynnodd yn syth i’r afonydd.” Mae Geraint Vaughan yn un o’r gwyddonwyr uchaf ei barch yn y byd yn ei faes, ac yn pwysleisio bod tywydd eithafol am daro Cymru eto oherwydd cynhesu byd eang. “Y perygl ydy fod mwy o flynyddoedd fel 2012 i ddod, ag yr ân nhw’n waeth fel mae’r ddaear yn cynhesu.” Un ffactor posibl sy’n achosi’r tywydd gwlyb, drwy gynhesu byd eang, yw’r iâ sy’n toddi yn yr Arctig gan fod yr iâ
yn ei dro yn effeithio ar dymheredd y moroedd. “I ddeall y tywydd mae’n rhaid i chi ddeall y cefnforoedd,” eglura Geraint Vaughan. “Yn y cefnforoedd mae’r cof sy’n helpu i osod y patrymau yn yr atmosffer... be’ sy’n tueddu i ddigwydd ydy bod y cefnfor yr ochr arall i’r Atlantic ger Newfoundland, yn cynhesu o ganlyniad i ddiflaniad yr iâ yn yr Arctig. “Fel rheol mae cerrynt oer yn dod o’r Arctig, ond mae hwnnw’n wannach oherwydd bod yr iâ wedi mynd. “Felly mae’r cynhesu yn y rhan yna o’r Iwerydd yn cael effaith ar ein tywydd ni. “Wedyn mae pobol yn gofyn beth fydd effaith y cynhesu byd eang yma, a’r peth mwya’ tebyg ydy y bydd y patrwm yna’n atgyfnerthu. “Dyma lle mae’n dechrau mynd yn anodd dirnad beth yw effaith lleol cynhesu byd eang. Mi allwn ni ffeindio ein bod ni’n cael gaeafau oerach, er gwaetha’r ffaith bod y ddaear yn cynhesu.” A’r rhybudd clir i Gymru ydy “i fod yn barod am lifogydd. Be’ ddysgon ni’r haf diwethaf oedd eu bod nhw’n gallu digwydd yn rhywle. Rydach chi’n edrych ar Dalybont [ger Aberystwyth] a Llanelwy, a tydyn nhw ddim yn llefydd lle y byddech chi’n draddodiadol yn disgwyl llifogydd.” Darlith ‘Y sychder gwlypaf a welwyd - tywydd 2012’ - Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor yfory am 6.30 yr hwyr.
Merched Cymru’n rhai garw am gamblo Mae mwy o ferched yn gamblo yng Nghymru nag yng ngweddill Prydain. Dyna awgrym arolwg diweddar ar arferion gamblo. Ac yn ôl un Aelod Cynulliad, mae’n bosib mai cynnydd mewn gamblo ar y We sy’n gyfrifol. “Yr awgrym oedd yn cael ei wneud oedd bod gamblo ar y We mae’n bosib yn fwy o fater o bwys i ferched,” meddai Mick Antoniw, AC Llafur Pontypridd, “achos bod merched yn llai tebygol o fynd mewn i’r bwcis, llai parod i ymroi i’r awyrgylch gamblo traddodiadol, boed hynny yn mynd i gasino ac yn y blaen. Ac efallai bod y gallu i gamblo yn y cartref wedi dod yn rhywbeth amlycach.” Cafodd yr arolwg gan y Comisiwn Gamblo ei gynnal tair blynedd yn ôl. Dyma’r astudiaeth fwyaf diweddar, sy’n achos pryder i’r gwleidydd. “Fe gafodd yr arolwg ei wneud gan Lywodraeth Prydain sydd nawr wedi ei ddileu. Felly does gyda
5
golwg | mawrth 21 | 2013
palu yn y ffosydd Y Cabinet ar ei newydd wedd Mark Drakeford yw’r Gweinidog Iechyd Newydd. Mae Jane Hutt yn aros yn Weinidog Cyllid ac Edwina Hart yn parhau yn Weinidog Economi a Gwyddoniaeth ond yn cymryd cyfrifoldeb hefyd am Drafnidiaeth. Lesley Griffiths sydd erbyn hyn yn gyfrifol am Lywodraeth leol tra bod Carl Sargeant wedi ei symud i fod yn Weinidog Tai ac Adfywio. Mae Gwenda Thomas yn parhau yn Ddirprwy Weinidog dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Janice Gregory hefyd yn aros yn Brif Chwip y Llywodraeth. Diwylliant a Chwaraeon yw cyfrifoldebau newydd John Griffiths a’r teitl Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd yn cael ei rhoi i’r cyn ddirprwy weinidog Alun Davies. Does dim newid o ran y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg – bydd Leighton Andrews yn parhau â’i waith. Ond mae Huw Lewis yn Weinidog newydd dros Cymunedau a Threchu Tlodi.
Gamblo – gêm y tlodion Mae Aelod Cynulliad Llafur Pontypridd yn dweud ei fod wedi bod yn bryder erioed mai’r bobol fwyaf tlawd sydd yn mynd i droi at gamblo gyntaf. Ac mae’n beirniadu’r Loteri Genedlaethol am beidio cyhoeddi ym mha ni ddim ffordd o asesu’r niferoedd ers 2010 a’r newid patrwm allai fod yn digwydd gyda gamblo.” Er bod Lloegr a’r Alban wedi dewis rhoi cwestiwn yn eu harolwg iechyd ynglŷn â gamblo nid dyna oedd penderfyniad Llywodraeth Cymru. Mae’r aelod Llafur yn cydnabod ei fod “ychydig yn siomedig” gyda hynny. Ond mae’n dweud nad yw’r dull o dicio bocsys yn yr arolwg y ffordd orau o gael gwybod mwy am arferion gamblo pobol. Yr wythnos ddiwethaf fe drefnwyd cyfarfod rhwng Aelodau Cynulliad ac asiantaethau yn y maes i drafod graddfa’r broblem yng Nghymru a’r help sydd ar gael. Mick Antoniw oedd yn cadeirio. Mae’n poeni am y ffordd mae’r diwydiant gamblo ar y We wedi datblygu yn y blynyddoedd diwethaf. “Yr hyn sy’n bwysig yw cyn lleied rydyn ni’n gwybod am gamblo mewn cyfnod pan
ardaloedd maen nhw’n gwneud eu harian ac yn gwerthu’r niferoedd mwyaf o docynnau. “Mae hyn eto yn rhywbeth rydyn ni wir eisiau gwybod,” meddai Mick Antoniw. “Ond wrth gwrs oherwydd nad oes dim arolwg na dadansoddiad go-iawn, dydyn ni ddim yn cael gwybod.” mae technoleg yn cefnogi a rhoi grym i’r diwydiant mewn ffordd sydd erioed wedi digwydd o’r blaen. Y pryder yw bod y genhedlaeth nesaf o bobol ifanc, sydd yn giamstars efo technoleg gwybodaeth, yn cael eu targedu, a bod yn onest, gan fudiadau gamblo ar y We.” Mae’n teimlo bod angen taclo’r broblem ar unwaith ac yn awgrymu bod angen addysgu disgyblion ysgol am y peryglon. “Rydyn ni yn addysgu pobol am alcohol, cyffuriau ac yn y blaen ac efallai bod angen i bobol fynd o gwmpas ysgolion a siarad gyda phobol am y risg o gamblo ar y we, y risg o gael eich tynnu mewn i’r diwylliant gamblo.” Anna Glyn
Mick Antoniw
‘Dyn da iawn i fod yn y trenches gyda fe’ – Mark Drakeford Ni fydd Gweinidog Iechyd newydd Cymru ag ofn gwneud penderfyniadau anodd, yn ôl cyn Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan. Mae wedi cydweithio’n agos gyda Mark Drakeford sydd wedi bod yn ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru ers 2000 ac yn gyfrifol am swyddfa’r Prif Weinidog. Yn etholiad diwethaf y Cynulliad cafodd ei ethol i olynu Rhodri Morgan yn AC dros etholaeth Gorllewin Caerdydd. Dyw’r gŵr sydd newydd ei ddyrchafu o’r meinciau cefn i’r Cabinet ddim yn ddyn fydd yn eistedd ar y ffens, meddai Rhodri Morgan. “Er bod e‘n academydd, dyw e ddim y math yna o academydd sydd yn dweud ar yr un llaw ‘fe allen ni wneud hyn’ ac ar y llaw arall ‘dylen ni wneud y llall’. “Mae’n rhywun, ar ôl gwneud y darllen a’r gwrando a’r ymgynghori, sydd yn gwneud ei feddwl lan. Does dim problem gyda fe yn gwneud ei feddwl lan.” Mae Mark Drakeford eisoes wedi gweithio yn ymgynghorydd ym maes iechyd i’r llywodraeth ers y flwyddyn 2000 ac fe fydd y profiad hwnnw yn werthfawr iddo, meddai Rhodri Morgan. “Am naw mlynedd roedd e reit yng nghalon y broses lywodraethol ac yn fy nghynghori i ar faterion yn ymwneud ag iechyd a pholisi cymdeithasol. Hynny yw dyw hynny ddim yn golygu bod e’n gwybod y briff yn fanwl, yn yr ystyr bod e wedi darllen papurau wedi’u paratoi gan y gweision sifil yn ystod y blynyddoedd diweddar nawr, am y tair blynedd a chwpl o fisoedd diwethaf. Na dyw e ddim. “Ond dyn gwybodus yn yr ystyr fe fydd e’n gwybod y cefndir i gyd.” Mae’n dweud ei fod yn wrandäwr da fydd â meddwl agored ac y bydd ei gefndir a’i fagwraeth yng nghefn gwlad yn golygu y bydd ganddo ddealltwriaeth o bryderon trigolion sydd yn byw yn yr ardaloedd hynny. “Achos bod e’n dod o Gaerfyrddin yn wreiddiol fe fydd yna gydymdeimlad gyda fe fwy na’r rhan fwyaf o bobol ynglŷn â siwt mae pethau yn edrych pan chi’n byw mas yn y wlad. “Beth yw’r persbectif sydd yn wahanol i bobol sydd yn byw ym mherfeddion Dyfed er enghraifft ynglŷn â’r ffordd maen nhw’n rhagweld problemau trafaelu ymhellach a chael gwasanaethau iechyd mewn ysbyty ac yn y blaen.” Mae sawl pwnc llosg yn wynebu’r Gweinidog Iechyd newydd wrth iddo ddechrau ar ei waith
Pwy yw Mark Drakeford? Cafodd Mark Drakeford ei fagu yng ngorllewin Cymru ond mae wedi byw yng Nghaerdydd ers mwy na 30 mlynedd erbyn hyn. Cyn symud i’r byd gwleidyddol mae wedi bod yn swyddog prawf, yn weithiwr cyfiawnder ieuenctid ac wedi gweithio i’r elusen Barnardos. Yn y 1980au cafodd ei ethol yn gynghorydd Llafur ar hen Gyngor Sir Morgannwg. Ac yn y flwyddyn 2000, cafodd ei benodi yn gynghorydd polisi iechyd a pholisi cymdeithasol i Lywodraeth Cymru ac wedyn yn bennaeth swyddfa wleidyddol y Prif Weinidog. Mae’n Athro mewn Polisi Cymdeithasol a Gwyddorau Cymdeithasol Cynhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn yr etholiad ym mis Mai 2011, cafodd ei ethol i olynu Rhodri Morgan yn AC Llafur Gorllewin Caerdydd. A tan iddo gael ei ddewis yn Weinidog Iechyd newydd, roedd yn Gadeirydd ar Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad. yr wythnos hon. Fe fydd angen iddo lywio’r Bill Trawsblannu Organau a’r cynlluniau dadleuol i ad-drefnu’r gwasanaeth iechyd. Ond yn ôl Rhodri Morgan, sydd wedi adnabod Mark Drakeford ers dechrau ei yrfa wleidyddol yn y 1980au, mae’n ddyn sy’n gallu delio â’r pwysau. “Mae’n aros yn cool iawn o dan wasgu. Hynny yw fi oedd dan y gwasgu ac nid fe. Ond roedd e yn y trenches lawr yna gyda fi a wastad yn dod lan gyda syniadau ynglyn â beth i wneud yn y fath o argyfyngau yma sydd yn rhan hollol anochel o fod yn Brif Weinidog. “Chi’n gallu dibynnu ar Mark i ddod lan â rhyw syniad ynglŷn â’r ffordd i ddod mas o’r broblem o’ch chi yno fe. Dyn da iawn i fod yn y trenches gyda fe. “Nawr fe yw’r dyn sydd yn gwneud y palu yn y trench hefyd. Fe fydd cyfrifoldeb yn gorwedd ar ei ysgwyddau fe. Ond fe fydd yn gorwedd ar ei ysgwyddau fe yn gymharol ysgafn.” Anna Glyn
6
golwg | mawrth 21 | 2013
cecru dros gomisiwn silk
Tŷ Newydd: fel y Bo’n briodol? Mae cwynion wedi dod i law Golwg yn gresynu nad yw Pennaeth newydd Canolfan Ysgrifennu Creadigol Tŷ Newydd, Llanystumdwy yn medru’r Gymraeg. Mae corff Llenyddiaeth Cymru wedi penodi cyn weithiwr gyda chwmni Apple, Bo Mandeville o ogledd Iwerddon, i’r swydd i olynu’r Cyfarwyddwr Sally Baker. Yn ôl Cadeirydd y corff llenyddol, mae’n “meddu ar gyfuniad amhrisiadwy o brofiad yn y celfyddydau ac ym myd busnes” ar ôl ei flynyddoedd gyda’r cwmni cyfrifiaduron. Ond mewn llythyr at Golwg, mae Marian
E Roberts yn gofyn: ‘Sut y gall dyn felly heb ymdrwytho yn y diwylliant Cymraeg, ohebu a gweinyddu a gwneud yr holl waith arall mewn Canolfan o’r fath?’ Ac yn ôl Geraint Jones o Drefor, “Priod waith y lle ydi hybu dysgu ysgrifennu Cymraeg. Rhain rŵan fydd ynglŷn â grantiau i awduron, ac Awduron ar Daith ac ati. Sut all y creadur yma ddelio â dim byd fel’na os nad ydi o yn deall yr iaith? “Bydd dim eisio dweud pa iaith fydd yn rhaid i weinyddiad y lle fod rŵan, na fydd? Penodi Cymro Cymraeg oedd eisio iddyn nhw. Mae yna ddigon o bobol ’tebol, yn saff o fod.” Bydd y Pennaeth yn gyfrifol am faterion gweithredol a datblygu busnes, am gynllunio strategaeth fasnachol, ac am raglen gweithgareddau a chyrsiau’r ganolfan. Roedd pwyslais clir yn y disgrifiad swydd ar ‘gynyddu’n sylweddol incwm masnachol Llenyddiaeth Cymru’.
“Portffolio” ieithoedd “Yn Wyddel amlieithog, bydd Bo yn dod â thrawsolwg ryngwladol i weithgareddau’r Ganolfan,” meddai Cadeirydd Llenyddiaeth Cymru, Damian Walford Davies. “Yn fwy diweddar, sefydlodd ŵyl Storytelling Southeast yn Dún Garbháin (Dungarvan). Bydd y profiadau hyn yn sicrhau dyfodol cynaliadwy a hyfyw i’r ganolfan bwysig hon yng Ngwynedd. “Bydd yn gweithio’n agos gyda’r Prif Weithredwr, Lleucu Siencyn, wrth ddatblygu cynllun busnes newydd i Lenyddiaeth Cymru, ac fe’i cefnogir gan staff amlieithog Llenyddiaeth Cymru, sydd wedi’u lleoli’n strategol ar draws Cymru. “Yn fuan iawn wedi dechrau yn y swydd bydd Bo yn treulio cyfnod yn Nant Gwrtheyrn er mwyn ychwanegu’r Gymraeg at ei bortffolio o ieithoedd. “Ar ran Bwrdd Cyfarwyddwyr Llenyddiaeth Cymru, dymunwn bob llwyddiant iddo yn ystod y cyfnod cyffrous hwn. Croesawn ef a’i deulu yn gynnes i Eifionydd.” Non Tudur
Angen gwyrthiau i Gymru gyrraedd Brasil Dau dîm salaf Grŵp A fydd yn herio’u gilydd nos yfory wrth i Gymru fynd benben â’r Alban yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014. Hyd yma’r Celtiaid yw timau gwaetha’r grŵp, yn is na Gwlad Belg, Serbia, Croatia a Macedonia yn y tabl. Rhaid i dîm Chris Coleman gyflawni gwyrthiau bychain yn y gemau sy’n weddill os ydyn nhw am ddod yn agos at Gwpan y Byd am y tro cyntaf ers 55 o flynyddoedd. Bydd angen buddugoliaethau yn erbyn Yr Alban nos yfory a Chroatia nos Fawrth i gadw gobeithion Cymru’n fyw. Daeth buddugoliaeth o 2-1 y tro diwethaf i’r Celtiaid gwrdd yng Nghaerdydd fis Hydref diwethaf, ac fe ddywedodd y rheolwr Chris Coleman yn y gynhadledd i’r wasg cyn y gêm gyfatebol oddi cartref: “Nid ydym yn mynd i’r Alban am ddiwrnod allan nac i ganu’r anthem. “R’yn ni am gael ychydig o bwyntiau, mor syml â hynny. R’yn ni’n mynd yno i ennill triphwynt. Maen nhw’n gemau pwysig. Mae hon yn gêm fawr
i ni… Dyw hi ddim yn gêm gyfeillgar.” Roedd Chris Coleman yn sôn am ddewis nifer o chwaraewyr ifanc, gan gynnwys y chwaraewr canol cae lled amhrofiadol Jonathan Williams. Hwn oedd yr un enw ar y rhestr oedd yn synnu ambell un yn y cyfryngau, ond mae rheolwr Cymru yn ffyddiog bod chwaraewr Crystal Palace yn barod am yr her. “Mae hon yn gêm r’yn ni’n ei chwarae er mwyn ennill pwyntiau, felly mae gan unrhyw un yn y garfan siawns i chwarae. Rwy’n ymddiried ynddyn nhw. Os oes angen iddyn nhw chwarae, rwy’n ymddiried ynddyn nhw i wneud jobyn dda ohoni. “Mae [Jonathan Williams] yn chwaraewr da, yn chwaraewr clyfar. Mae e wedi bod yn wych i [Crystal] Palace. Mae e wedi bod yn y garfan gyda ni o’r blaen ac wedi edrych yn dda o ran peidio cael ei drechu [gan y profiad]. Mae e wedi chwarae’n dda iawn ac mae e’n chwaraewr deallus. Mae e’n llawn haeddu ei le yn y garfan.”
Rhan bwysig o’r garfan ar goll Daeth cyfle i rai o’r chwaraewyr ifanc yn sgîl nifer o anafiadau i’r chwaraewyr mwy profiadol, gan gynnwys Joe Allen. Daeth cadarnhad ychydig ddiwrnodau ar ôl y gynhadledd i’r wasg na fyddai’n holliach ar gyfer y gemau, a’i fod yn debygol o golli gweddill y tymor. Yn y gynhadledd roedd Coleman wedi datgelu: “Mae [Allen] yn mynd i gael triniaeth [ar ei ysgwydd] ar ôl y gêm ond dydy Lerpwl ddim wedi dweud nad yw e ar gael. Dy’n ni ddim wedi clywed nad yw e ar gael, felly mae e’n sicr yn rhan bwysig o’r garfan. Sawl gêm fydd Joe yn chwarae ynddyn nhw, pwy a ŵyr? Mae Joe yn Gymro i’r carn ac mae e am gynrychioli’i wlad. “Mae Brendan Rodgers [rheolwr Lerpwl] yn dda o ran caniatâu i’w chwaraewyr chwarae dros eu gwlad. Pe bai problem, bydden ni’n gwybod erbyn hyn nad yw Joe Allen yn gallu dod gyda ni.” Dau chwaraewr arall sy’n
Grŵp A Gwlad Belg Croatia Serbia Macedonia Cymru Yr Alban
Ceidwadwyr yn cecru am Gymru Mae yna rwyg rhwng grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad a’r Llywodraeth yn San Steffan ynglŷn â’r hyn ddylai gael ei ddatganoli i Gymru, yn ôl y sylwebydd gwleidyddol Gareth Hughes. Ar hyn o bryd mae Comisiwn Silk yn edrych ar bwerau’r Cynulliad, ac mae’r pleidiau gwleidyddol i gyd wedi cyflwyno eu tystiolaeth. Mae’r grŵp o ACau Ceidwadol wedi dweud y bydden nhw’n hoffi i agweddau o ddarlledu gael eu datganoli yn ogystal ag ynni a gwyliau cyhoeddus. Ond mae Llywodraeth San Steffan yn erbyn datganoli llawer o bwerau newydd. “Beth mae Llywodraeth San Steffan yn dweud ydy bod chi wedi cael digon, steady as you go, gadael pethau setlo lawr, chwarae hi’n saff,” meddai Gareth Hughes. “Yn y bôn dydy’r Blaid Geidwadol yn San Steffan ddim yn blaid sydd yn hoff iawn o ddatganoli. Er eu bod wedi gorfod llyncu’r egwyddor, dydyn nhw ddim yn mynd i lyncu dim mwy.” Mae galw am y pwerau yma yn
Gareth Hughes
rhan o gynllun y gwleidyddion Ceidwadol ym Mae Caerdydd i gael eu gweld yn blaid fwy Cymreig, yn ôl y newyddiadurwr, a’r bwriad yw apelio at aelodau asgell dde Plaid Cymru. Mae’r llwybr yma wedi gweithio yn y gorffennol fel y gwelwyd yn etholiad diwetha’r Cynulliad pan lwyddon nhw i gynyddu eu fôt a
chipio sedd Aberconwy. “Mae hynny wedi bod yn rhan o’u hagenda nhw ers tipyn a fedrwch chi ddim dweud bod nhw ddim wedi bod yn llwyddiannus. Wrth gwrs ar hyn o bryd nhw ydy’r wrthblaid. Maen nhw wedi neidio dros Blaid Cymru yn hynny o beth a chael mwy o aelodau i wneud eu hunain yn wrthblaid.” Ond mae’n credu mai’r Ceidwadwyr yn San Steffan sydd wedi deall teimladau cywir aelodau cyffredin y blaid ynglŷn â datganoli ac nid y grŵp yn y Cynulliad. “Dw i’n meddwl a bod yn onest bod y Ceidwadwyr yn San Steffan yn rhedeg yr un ffordd a’r rhan fwyaf o aelodau’r blaid Geidwadol yng Nghymru. Mae’n debyg mai’r rhai yn y Cynulliad sydd allan o step â’u cefnogwyr, ac nid y blaid yn San Steffan.” Er y gwahaniaethau mae’r dystiolaeth yn dangos bod y Torïaid ym Mae Caerdydd a San Steffan yn gytûn nad oes angen newid y system bresennol o ofyn am bwerau i ddod i Gymru.
7
golwg | mawrth 21 | 2013
codi arian i drin alcoholiaeth cynrychioli’i wlad ar y llwyfan mwyaf un. Wrth ymateb, dywedodd Chris Coleman mai “ychydig o amddiffynwyr fyddai’n mwynhau chwarae yn ei erbyn. “Mae’n chwaraewr o’r radd flaenaf. Mae Gareth yn angerddol am gynrychioli Cymru. Dw i ddim wedi gweld sylwadau Chris Waddle, a dw i ddim yn poeni amdanyn nhw chwaith. Mae’r ffaith nad ydyn ni wedi cyrraedd y rowndiau terfynol ers 1958 a’r ffaith ein bod ni’n genedl o dair miliwn o bobol yn ei gwneud hi’n anodd i ni. Mae dweud nad yw Gareth yn becso am gynrychioli Cymru yn nonsens. “Dw i erioed wedi ‘nabod chwaraewr sydd wedi chwarae mewn gêm ddibwys i Gymru. Gwlad Belg a Chroatia yw’r ddau dîm cryfaf yn y grŵp, ond mae unrhyw beth yn bosib. R’yn ni am ennill.”
Tafarn sych Syr Wynff
Alun Rhys Chivers
Bydd ei dafarn yn gweini bwyd ac yn cynnig digwyddiadau diwylliannol cyson. Bydd modd trefnu partïon preifat a sesiynau busnes hefyd. “Rydyn ni eisiau gwneud y lle yn lle apelgar iawn lle fydd pobol eisiau mynd iddo fo fel destination, fel lle i gyrraedd ato, nid lle i ddigwydd mynd yno wrth alw heibio, ond lle bydd pobol yn benodol eisiau mynd oherwydd y ddarpariaeth fyddwn ni’n gwneud ar eu cyfer nhw.” Doedd o ddim yn fodlon datgelu pa adeilad sydd ganddyn nhw mewn golwg, gan ddweud eu bod ynghanol trafodaethau gyda’r perchennog presennol. Ond mi ddywedodd bod y llecyn ar gyrion canol Caerdydd. “Breichiau Agored fydd enw’r lle, Open Arms, ac ar hyn o bryd rydyn ni wedi comisiynu feasibility study ac wedyn mae’r cynllun busnes yn cael ei baratoi ac mi fydd yna geisiadau yn cael eu gwneud am nawdd ac yn y blaen.” Ar hyn o bryd, maen nhw’n casglu tystiolaeth am yr angen am dafarn sych ac wedi ymweld â cholegau chweched dosbarth i gael eu barn nhw. Mae’n dweud bod yna groeso i’r cynllun a’i fod am i’r lle gael yr un ‘buzz’ a’r dafarn New Ely yn niwedd y 1960au pan oedd y Cymry yn tyrru yno. Y bwriad yw y bydd Breichiau Agored yn creu ffrwd arall o arian er mwyn cynnal y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig yn y Stafell Fyw. Mae Wynford Ellis Owen am ehangu’r ddarpariaeth yng Nghaerdydd a sefydlu Stafell Fyw arall yn y gogledd a’r gorllewin. Bydd tîm proffesiynol yn gyfrifol am y dafarn sych a’r gobaith yw y bydd yn creu gwaith cyflogedig i 17 o bobol.
G E Cy Co Dros Erbyn Pwyntiau
Y garfan ar gyfer y gemau:
4 3 1 0 8 4 3 1 0 6 4 1 1 2 6 4 1 1 2 3 4 1 0 3 3 4 0 2 2 2
Gôl: Myhill, Price, Fôn Williams Amddiffyn: Davies, Collins, Gunter, Lynch, Richards, Ricketts, Ashley Williams Canol cae: Collison, King, Ledley, Ramsey, Vaughan, Jonathan Williams; Ymosodwyr: Bale, Bellamy, Church, Morison, Robson-Kanu, Vokes
1 2 5 4 11 5
10 10 4 4 3 2
Nid dyna farn y pleidiau gwleidyddol eraill sydd eisiau system debyg i’r Alban. Yn ôl y system honno mae pob dim wedi cael ei drosglwyddo i Holyrood oni bai am feysydd arbennig sydd wedi eu dal yn ôl yn San Steffan.
Dim sypreis gan Blaid Cymru Does dim syndod yn y dystiolaeth gafodd ei chyflwyno gan Blaid Cymru, meddai’r sylwebydd. “Mae Plaid Cymru yn dweud beth fysech chi’n disgwyl i Plaid Cymru ddweud, rhowch i ni’r pwerau i gyd. Ond un o’r pethau sydd yn mynd i fod yn anodd iddyn nhw ydy sut ydych chi’n delio efo’r pwerau economaidd heb i chi gael annibyniaeth? “Mae’n anodd iawn credu bod chi’n mynd i gael pwerau Trysorlys i gyd i lawr wedi eu datganoli yng Nghymru. Dydy’r peth ddim yn gredadwy.” Gofyn am bethau tebyg i Lywodraeth Cymru mae’r
Democratiaid Rhyddfrydol megis datganoli’r heddlu a dŵr, ac maen nhw hefyd am weld system ffederal. Yn ôl Gareth Hughes, fe fyddai’n ddiddorol gwybod beth yw barn y Blaid Lafur. Tystiolaeth ar ran Llywodraeth Cymru a gafodd ei chyflwyno i’r Comisiwn. Roedd Carwyn Jones yn y pendraw eisiau grym dros y gyfraith yng Nghymru. “Mae yna densiwn yn mynd i fod yn y blaid rhwng yr Aelodau Seneddol sydd yn gweld eu rôl nhw yn fwy ac yn fwy yn cael ei dynnu lawr. Dydyn nhw ddim yn licio hynny o gwbl achos os ydyn nhw’n gorfod cyfiawnhau’r cyflog mawr maen nhw’n cael mae’n rhaid iddyn nhw ddweud eu bod nhw’n gwneud lot o bethau. “Os ydy holl bwerau’r Swyddfa Gartref yn cael eu datganoli i Gymru, wel dim ond amddiffyn, social security a pholisi tramor sydd yn mynd i fod ar ôl.” Anna Glyn
Cornelu Plaid Cymru Mae Llywodraeth Cymru yn sathru ar draed Plaid Cymru wrth gyflwyno ei thystiolaeth, meddai Gareth Hughes, ac yn ceisio gwthio’r Blaid i gornel. “Yr unig ffordd fedrith Plaid Cymru symud yr agenda yna ymlaen ydy gofyn am fwy a mwy ac yn y pendraw gofyn am annibyniaeth. Dyna’r unig le. “A dw i’n meddwl bod yna elfen o wleidyddiaeth y Blaid Lafur yn dweud: ‘Oce, symudwn ni ymlaen fel bydd rhaid i Plaid Cymru ddod allan yn fwy cadarn a dweud bod nhw yn blaid sydd o blaid annibyniaeth’. “Maen nhw’n gwybod yn iawn fel y Blaid Lafur bod hynny ddim yn gyson efo beth mae rhan helaeth o bobol Cymru eisiau.”
Mae’n fwriad sefydlu tafarn ym mhrifddinas Cymru, lle na fydd alcohol yn cael ei werthu. Gweledigaeth Prif Weithredwr y Stafell Fyw yw hon, y ganolfan sy’n cynnig cymorth i bobol sy’n gaeth i yfed, cyffuriau, gamblo a phethau eraill. Y bwriad yw defnyddio elw’r dafarn ddi-alcohol i helpu gyda’r gost o drin pobol sy’n gaeth i gyffuriau a gamblo ac alcohol. “Mae wastad yn freuddwyd gen i i gael rhywle lle gallwn i fynd â fy nheulu a fy wyrion ac wyresau i fwynhau gêm rygbi dyweder, heb alcohol yn rhan ohono fo,” meddai Wynford Ellis Owen, yr ymgyrchydd yn erbyn goryfed sy’n dal yn cael ei gofio’n bennaf am ei ran yn y gyfres deledu i blant Syr Wynff a Plwmsan. Llun: Emyr Young
Chris Coleman
methu’r gêm nos yfory yw’r amddiffynnwr ifanc Adam Matthews, sydd wedi’i anafu ac ymosodwr Leeds United Steve Morrison. Ond fe fydd y chwaraewr profiadol James Collins yn dychwelyd yn dilyn anaf a gwaharddiad. Daeth hwb pellach i Chris Coleman o wybod fod yr ymosodwr profiadol Craig Bellamy ar gael i Gymru, yn dilyn ansicrwydd ers i Gary Speed farw ddiwedd 2011. “Fe ddywedon ni fod y drws ar agor iddo fe pan fydd e’n barod. Fe ddywedon ni y bydden ni’n cymryd un gêm ar y tro, ac mae Craig yn y garfan hon.” Gyda chymysgedd o brofiad a choesau ffresh yn y garfan yr wythnos hon, mae rheolwr Cymru yn gwybod y gallai unrhyw beth llai na dwy fuddugoliaeth olygu na fydd Cymru ar yr awyren i Frasil haf nesaf. Gallai hynny, fel y dywedodd cyn-chwaraewr Lloegr Chris Waddle yr wythnos hon, olygu na fydd seren y tîm, Gareth Bale yn
Anna Glyn
Nawdd yn sychu Mae’r Stafell Fyw yn y broses o chwilio am arian newydd am fod y nawdd maen nhw’n ei dderbyn gan Gyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau yn dod i ben fis Tachwedd eleni. Fe fydd y dafarn yn un ffrwd o arian yn y tymor hir, ond mae angen cyllid arall cyn hynny. “Mae’n rhaid i ni oroesi a cheisio arian ychwanegol ac mi’r ydyn ni yn y broses o wneud hynny,” meddai Wynford Ellis Owen. “Dim ond cwta dwy flynedd ydyn ni wedi bod yn agored ac mae’n cymryd amser i chi sefydlu eich hun. Fyddwn ni’n apelio am arian ond mi fydda’ i hefyd yn targedu unigolion a gofyn iddyn nhw am gefnogaeth i’r fenter gyffrous yma. “Pe byddai’r Stafell Fyw yn dod i ben mi fyddai hynny yn drasiedi go-iawn oherwydd mae yna wyrthiau yn digwydd yno yn ddyddiol.”
8
golwg | mawrth 21 | 2013
yr wythnos
Golwg arall
Pigion yr wythnos aeth heibio ar www.golwg360.com Newyddion yn torri ar Dadl am reoleiddio’r wasg yn ‘hen ffasiwn’ Wrth i David Cameron amlinellu’r cytundeb ar gyfer corff newydd i reoleiddio’r wasg, mae darlithydd newyddiaduraeth wedi dweud wrth Golwg360 bod y ddadl am reoleiddio’r wasg yn un “hen ffasiwn”. Cyflwyno dros 1300 o addunedau ‘Dw i eisiau byw Mae’r pleidiau’n yn Gymraeg’ yn Sir Gaerfyrddin gytûn y bydd y Heddiw, mae ’adduned’ wedi ei chyflwyno i Gadeirydd corff newydd yn a Dirprwy Brif Weithredwr, Cyngor Sir Caerfyrddin cyflwyno rheolau gan aelodau a chynrychiolwyr Cymdeithas yr Iaith llawer mwy llym Gymraeg. i reoleiddio’r Fe fu’r gyflwynwraig deledu, Heledd Cynwal; Meinir wasg gyda’r Jones o raglen Ffermio; Andrew Teilo (yr actor sy’n gallu i gyflwyno portreadu Hywel Llywelyn ar yr opera sebon, Pobl y dirwyon o hyd at £1 miliwn i bapurau Cwm); Brian Walters (o Undeb Amaethwyr Cymru; Mari, Manon a Gwennan Gravell ynghyg ag aelodau ifanc y newydd sy’n Gymdeithas, i gyflwyno’r adduned ar ran tua 1,500 o camymddwyn a’u bobol sy’n mynnu, “Dwi eisiau byw yn Gymraeg”. gorfodi i gyhoeddi ymddiheuriadau amlwg. wedi cael ei gynllunio er mwyn annog Ond dywedodd Ifan Morgan Jones, pobl ifanc i ysgrifennu rhaglenni sy’n ddarlithydd ym Mhrifysgol cyfrifiadurol. Bangor ac yn gyn-newyddiadurwr, Gwerthwyd pob dyfais, a gafodd ei bod y ddadl dros reoleiddio’r wasg gynllunio yn y DU ac yn costio £25, o mewn perygl o fod yn ddibwys fewn oriau iddo gael ei lansio ac mae ymhen ychydig amser. bron i filiwn o unedau wedi cael eu gwerthu hyd yma. Raspberry Pi am gael ei gynhyrchu yng Nghymru Gwaith yn dechrau ar Bont Briwet Mae Element 14, y cwmni sy’n newydd dosbarthu’r cyfrifiadur bychan, Mae gwaith wedi dechrau ar brosiect Raspberry Pi, wedi datgan y byddan gwerth £19.5 miliwn i adeiladu Pont nhw’n symud gwneuthuriad y Briwet newydd rhwng cymunedau cyfrifiadur o China i ffatri Sony ym Penrhyndeudraeth a Thalsarnau yng Mhencoed ger Pen-y-Bont ar Ogwr. Ngwynedd. Mae’r Raspberry Pi, a gafodd ei Bydd yn cymryd lle’r hen bont bren lansio ym mis Ionawr llynedd yn dros Afon Dwyryd ac sy’n dyddio’n ôl gyfrifiadur maint cerdyn credyd sydd i’r 1860au.
Straeon mwyaf poblogaidd golwg360 yn ystod yr wythnos 1 2 3 4 5
Cymraeg crap cynllun llythrennedd Llywodraeth Cymru Atalnodi yn arddull Ganghan! Ceryddu AC: Senedd yn pasio cynnig Slogan Cymraeg enwog yn ymddangos mewn ffilm ‘Dim byd mewn sment’ – Roy Noble
Yr ynni wrth ein traed Yr Athro Gareth Wyn Jones yn sôn am y posibilrwydd o gael unigolion, grwpiau a chymunedau i gynhyrchu eu hynni eu hunain.
B
ron yn ddieithriad, arbed ynni ydi’r flaenoriaeth. Ond, os oes gan unigolyn neu grŵp neu gymuned ynni ‘gwyrdd’ dros ben i’w werthu, yn ogystal ag arbed arian, mi allai hynny godi arian sylweddol hefyd. Y cwestiwn felly ydi sut i wireddu potensial ynni adnewyddadwy cymunedau Cymru. Yn gyntaf rhaid adnabod pa ffynhonnell sydd ar gael ym mhob ardal. Yn ail, pa dechnolegau sy’n addas. Yn drydydd, rhaid ystyried yn ofalus y gost o ddatblygu, o ble y daw’r cyfalaf i wneud y buddsoddiad a beth ydi’r elw tebygol. Materion eraill pwysig yw cael caniatâd oddi wrth wahanol awdurdodau megis y corff newydd Cyfoeth Naturiol Cymru a’r awdurdodau cynllunio. Yn olaf, os oes bwriad i werthu trydan y tu allan i’r ardal, beth ydi’r cysylltiad gyda’r grid lleol? Ar draws y wlad mae gwahanol ffynonellau’n cynnig eu hunain. Yn amlwg, yn y bryniau y mae’r potensial mwyaf ar gyfer cynlluniau trydan dŵr bach, sef defnyddio afonydd bychain heb orfod adeiladu argaeau sylweddol. Mae’r potensial yn dibynnu ar faint o law sy’n disgyn yno i greu llif yn yr afon a’r uchder i sicrhau fod digon o gwymp. Gan fod sawl ardal yn derbyn mwy na metr a hanner o law, mae yna botensial sylweddol lle mae yna ddalgylch dŵr sy’n uwch na 300 metr.
Ar ddechau’r ganrif ddiwethaf, gyda thechnoleg eitha’ syml, roedd sawl pentref megis Llanuwchllyn yn cynhyrchu ei drydan ei hunan o’i afon leol. Er bod bob cynllun yn unigryw, mae yna sawl cynllun yng Nghymru - o’r Bannau i Eryri – yn gallu talu am y buddsoddiad mewn ychydig o flynyddoedd ac yn ariannol addawol iawn. Mae’n hynod bwysig nad yw’r awdurdodau, yn enw cadwraeth, yn llesteirio cynlluniau o’r fath. Mewn sawl lle, mater dyrys yw cysylltu â’r grid a gobeithio y cawn weld y Cynulliad yn cymryd y mater o ddifri. Yn yr ucheldiroedd, mae yna gynnyrch cynaliadwy o goed caled a meddal ar gael bob blwyddyn. Gyda phoblogrwydd stofiau coed i gynhesu tai mae yna botensial ar gyfer busnesau eraill. Gobeithio y caiff polisi’r Cynulliad ei wireddu, o hybu plannu tua 100,000ha ychwanegol o goed, at y 300,000ha presennol. Byddai hynny’n gyfraniad hir dymor at reoli llifogydd, ynni adnewyddadwy a bioamrywiaeth, heb sôn am leihau nwyon tŷ gwydr. Os dŵr a choed biau hi yn y bryniau, mae potensial ynni haul, naill ai i gynhyrchu trydan neu i gynhesu dŵr tŷ yn amlwg ger y glannau môr. Hyn heb ddechrau sôn am nwy o dail a slyri a gwastraff bwyd, nac am ynni gwynt, na sawl ffynhonnell arall. O arfordir Morgannwg hyd Benfro ac i fyny i ogledd Môn, mae ynni’r haul yn sylweddol. Os oes gennych do sy’n wynebu rhwng y de-ddwyrain a’r de-orllewin, mae’n werth ystyried unedau Photofoltaig. Mae cost unedau o’r fath yn syrthio yn gyflym - yn yr UDA y sôn yw am gost o lai na 45 cent am bob Watt - sef $45O y kW. Oni fuasai’n gall i’r Cynulliad sicrhau bod gan bob tŷ newydd do yn wynebu’r De?
9
golwg | mawrth 21 | 2013
Yr wythnos i ddod Tim merched llwyddiannus Enillodd tîm merched Ysgol Glan Clwyd un o brif wobrau cystadleuaeth Her Formiwla 1 i ysgolion drwy Brydain. Fe enillon
nhw’r wobr gyntaf am ‘feddwl arloesol’ ar ôl dylunio, creu, marchnata a rasio ceir bach o bren balsa. Daeth tîm yr ysgol yn ail yn y gystadleuaeth derfynol am yr ail
Ar y ffordd i Wembley Ac am y tro cyntaf mewn 140 o flynyddoedd, mae Wrecsam ar y ffordd i chwarae ar gae pêl-droed Wembley. Fe fyddan nhw’n wynebu Grimsby pnawn Sul yn rownd derfynol
waith yn eu hanes. “Mae hyn yn ganlyniad anhygoel ac yn dyst o ymroddiad di-flino’r disgyblion a’u gallu i weithio fel tîm,” meddai’r prifathro, Martin Davies.
Byd y blogiau
Tlws FA Lloegr a’r uchafbwyntiau yn cael eu darlledu ar S4C. Er waetha’r achlysur, uchelgais y clwb ar hyn o bryd yw ennill dyrchafiad o’r Gyngres i Gynghrair Lloegr yn y gemau sy’n weddill o’r tymor.
Mae’r blogiau’n ddylanwadol ... dyma y maen nhw’n ei ddweud
Rhyddid y wasg ... go iawn T
ra oedd y wasg a’r cyfryngau yn Llundain yn poeni am Leveson a’r Siarter i reoli’r wasg, roedd blogwyr Cymru’n poeni am ddatblygiad llawn mor ddifrifol – yr achos enllib, pan enillodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Gâr, Mark James, iawndal o £25,000 yn erbyn y blogiwr Caebrwyn. Jacqui Thompson, am sylwadau a wnaeth hi ... “Nid Jacqui yw’r cyntaf, ac nid hi fydd y person olaf yng Nghymru i fod eisiau cael rhan ym mywyd cyhoeddus Cymru a chyfrannu ato ac wedyn cael rhai’n pigo arni a’i distrywio’n bersonol ac yn broffesiynol am dynnu sylw at wendidau ym mholisïau hunanlesol y rhai sy’n rhedeg Cymru ... Felly, efallai y bydd y rhan fwyaf o bobol sy’n darllen y blog hwn yn deall yr angen am ddiwygio gwleidyddol yng Nghymru, gyda llai o awdurdodau lleol, mwy
Yr Wythnos
o ACau i graffu ar Lywodraeth Cymru, cyfryngau Cymreig cryfach (yn lleol a chenedlaethol) ac etholwyr sy’n cymryd mwy o ran mewn pethau achos, heb hynny, bydd y rhai sy’n llywodraethu yn parhau i fynd tros ben llestri a bwlian unrhyw un sy’n mynd yn eu ffordd.” achangeofpersonnel.blosgpot.co.uk “Nododd y barnwr yn ei ddyfarniad mai dim ond incwm bach iawn sydd gan Jacqui a’i gŵr, felly mae’n rhaid gweld bod ei benderfyniad i roi iawndal o £25,000 yn ei herbyn yn un i’w chosbi. Dyw hi ddim yn glir sut y mae cyfiawnder neu’r lles cyhoeddus yn elwa o ddinistrio teulu diwyd a gwobrwyo uchel swyddog llywodraeth leol a gafodd ei gefnogi gan arian cyhoeddus (sy’n dal i fod yn
Digon o ffyddlondeb. Beth am weledigaeth?
M
ae ffyddlondeb yn beth mawr. Os felly, mae Llywodraeth Cymru ar y brig. Anaml iawn y bydd yr un gweinidog yn cael y sac, dim ond eu symud o un swydd i’r llall, ac mae rhai bellach wedi bod yn aelodau Cabinet ers sefydlu datganoli yn 1999. Symud cadeiriau oedd disgrifiad y gwrthbleidiau o’r ad-drefnu a fu ar y prif swyddi ddiwedd yr wythnos ddiwetha’. Dim ond un newid gwirioneddol fawr oedd yna – symud Lesley Griffiths o’r swydd iechyd i ofalu am lywodraeth leol – a hynny’n arwain at ychydig o newid portffolios eraill yma ac acw.
Yr hyn sy’n rhyfedd yw ei bod hi’n cael ei symud o un swydd lle’r oedd angen chwyldro i un arall lle bydd rhaid mynd i’r afael â maint y cynghorau a gwneud penderfyniadau mawr. Mae yna groeso cyffredinol wedi bod i’r penderfyniad i wneud Mark Drakeford yn Weinidog Iechyd – oherwydd parch personol ato fo ac edmygedd o’i wybodaeth am y maes. Ond mae’r penderfyniad yn dangos faint ydi trafferthion y Llywodraeth yn y maes hwnnw. O gofio’r ffyddlondeb yna, roedd yn benderfyniad mawr – fel David Cameron yn cael gwared ar Andrew Lansley am resymau tebyg iawn.
A dyma eiriau Jacqui Thompson ei hun ar ei blog – lle arall?
amheus iawn yn gyfreithiol). I’r wasg a’r gweddill ohonon ni, mae’r penderfyniad yn llawn peryglon. Roedd rhan allweddol o’r dyfarniad yn dweud fod Jacqui Thompson yn euog o harasio trwy ei blog. Ble mae tynnu’r llinell rhwng harasio a beirniadaeth a sylwadau cyfreithlon am adran o lywodraeth? cneifiwr-emlyn.blogspot. co.uk
“Mae gan hyn y potensial i agor y llifddorau ar gyfer achosion tebyg ac rwy’n credu fod gan y penderfyniad ganlyniadau difrifol i eraill sy’n craffu ar eu hawdurdodau lleol ac yn eu beirniadu, gan gynnwys y wasg leol. Dw i ddim yn adnabod y darlun sydd wedi ei baentio ohona’ i; bydd unrhyw un sy’n fy adnabod neu wedi cyfarfod â fi yn gwybod ei fod yn anghywir. Does gen i ddim syniad o ble’r ydw i’n mynd i gael £25,000. Does gen i ddim £25.” carmarthenshireplanning. blogspot.co.uk
Dylan Iorwerth Y cwestiwn mawr ydi – a oedd hyn yn addefiad fod rhywbeth o’i le ar y polisïau, neu’n cydnabod bod Lesley Griffiths wedi colli hyder pobol yn y maes neu wedi methu â chyfathrebu’n ddigon effeithiol? Un feirniadaeth ar yr Aelod Cynulliad o Wrecsam oedd ei bod wedi methu â chyfleu gweledigaeth o gyfeiriad y Gwasanaeth Iechyd. Ond nid hi ydi’r unig un. Un o nodweddion y maes iechyd ydi’r holl newid sydd wedi bod ynddo fo tros y blynyddoedd – un proses o ad-drefnu ar ôl y llall yn dad-wneud ei gilydd. Yr eironi ydi bod dwy o gydaelodau Lesley Griffiths yn y Cabinet ar hyn o bryd hefyd wedi bod yn weinidogion iechyd. Yr un peth sy’n sicr, efo’r toriadau gwario gwaetha’ ar fin cael eu gweithredu o ddifri, mi fydd rhaid diwygio’r Gwasanaeth Iechyd
unwaith eto. Fel arall, fel y dywedodd Carwyn Jones ei hun, mae mewn peryg o chwalu. A’r hyn sydd ei angen ydi gweledigaeth. Dangos sut y bydd y newidiadau’n arwain at wasanaethau gwell – triniaeth ddwys a brys mewn ychydig ganolfannau, efallai, ond gofal yn agos at y bobol. A rhaid i’r trefniadau hynny fod yn eu lle cyn dechrau cau adnoddau. Yn naturiol, mi fydd pobol leol eisio amddiffyn eu hysbytai nhw ac, weithiau, mi fyddan nhw’n iawn. Ond mi fydd rhaid derbyn bod union natur y gwasanaethau yn yr ysbytai hynny’n gorfod newid. Ac efallai ei bod hi’n bryd edrych o ddifri ar y rhaniad rhy ddwfn sydd rhwng gwasanaeth y meddygon teulu a’u timau a’r hyn y mae ysbytai’n ei wneud. Gweledigaeth ydi’r gair.
10
golwg | mawrth 21 | 2013
llythyrau
Gwilym Owen Yn holi a stilio, procio a phryfocio
XFactor Dafydd Wigley M
eddwl roeddwn i y buaswn i, am dipyn o newid, yn sôn am ychydig bethau a barodd syndod i mi dros y pythefnos diwethaf yma. A chychwyn efo sylwadau Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol yn y cylchgrawn hwn. Sylwadau sydd, i’m tyb i beth bynnag, yn cadarnhau fod y corff hwnnw a elwir yn Llys yr Eisteddfod yn gwbl anghofiedig yn y broses o drafod dyfodol y Brifwyl. Mae’r Prif Weithredwr yn cyfeirio at farn y Tîm Rheoli, y Bwrdd Rheoli a Chyngor y Steddfod – ond drwy gydol ei gyfweliad gyda Golwg dydy o ddim yn cyfeirio unwaith at y Llys. Ac eto onid y Llys sydd â’r gair olaf mewn unrhyw drafodaeth ar ddyfodol y Brifwyl? Os yw’r gosodiad yna bellach yn anghywir oni ddylid cael datganiad cyhoeddus i’r perwyl er mwyn inni fân lwch y cloriannau fod yn ymwybodol o’m sefyllfa? Synnu wedyn wrth weld aelodau Cabinet newydd Llywodraeth Cymru yn ymddangos yn bwysig dalog wedi’r sesiwn cyfnewid swyddi. Pob un yn ei dro yn cyfarch y caneuon cyn brasgamu tuag at y ceir mawr costus oedd yn aros amdanyn nhw. A’r hyn a’m synnodd i oedd gweld Carl Sargeant – y Gweinidog Tai newydd – yn teithio’n ôl i’r Bae ar ei ben ei hun. Oni allai John Griffiths y Gweinidog Diwylliant er enghraifft fod wedi teithio efo fo a chael sgwrs fach am eu swyddi newydd? Gallai Carl fod wedi trafod tai efo John, ond efallai y byddai John yn cael trafferth i drafod diwylliant efo Carl! Cael syndod wedyn wrth wrando ar raglen Radio Cymru – Y Post Prynhawn – yn rhoi cymaint o bwysigrwydd i benderfyniad Leanne Wood, Arweinydd Plaid Cymru, i’w chynnig ei hun yn ymgeisydd yn etholaeth Y Rhondda yn etholiad nesaf y Cynulliad Cenedlaethol. Syndod mwy oedd clywed Geraint Davies (cynaelod y Blaid dros yr etholaeth ond a gollodd ei sedd i Leighton Andrews o’r Blaid Lafur) yn honni i Blaid Cymru ennill y sedd yn 1999 oherwydd dylanwad XFactor Dafydd Wigley a oedd ar y pryd yn Arweinydd Plaid Cymru. Ac awgrym Geraint Davies oedd y bydd XFactor Leanne Wood yn sicrhau buddugoliaeth yn Y Rhondda eto yn 2016. Ai awgrymu yr oedd y Bonwr Davies nad oedd dim X Factor yng nghymeriad Ieuan Wyn Jones olynydd yr Arglwydd Wigley a rhagflaenydd Leanne Wood – o leiaf ym marn etholwyr Y Rhondda? Ac o sôn am Y Post Prynhawn, syndod arall oedd gweld Adran Gyhoeddusrwydd BBC Radio Cymru yn gwario swm go dda o arian ar hysbyseb hanner tudalen ym mhapurau Saesneg Trinity Mirror yng ngogledd Cymru. Hysbyseb gyda chlamp o lun o Dewi Llwyd sy’n cyhoeddi mai ganddo fo y cewch chi’r darlun llawn o newyddion Cymru a’r byd ar Y Post Prynhawn am bump o’r gloch yn ddyddiol. Pam fod angen y fath heip? Oni chawson ni ein gwala a’n gweddill yn barod? Ai prinder gwrandawyr ydi’r rheswm am yr ymarferiad unigryw? Ydi’r Post Cyntaf a Taro’r Post yn mynd i gael yr un cyhoeddusrwydd? Ac o hysbysebu oni ellid fod wedi cefnogi’r Wasg Gymraeg drwy geisio denu darllenwyr Y Cymro a Golwg i wrando’n nosweithiol ar y Bonwr Llwyd? Mae angen pob un geiniog o arian hysbysebwyr ar y naill gyhoeddiad a’r llall dybiwn i. Ond haleliwia dyma’r syndod mwyaf un! Credwch neu beidio mae yna arwyddion fod arweinwyr Urdd Gobaith Cymru bellach yn barod i dynnu eu pennau o dywod hunangyfiawnder a hunandyb y blynyddoedd a dechrau ymateb a gwrando ar y llifeiriant o feirniadaeth sydd wedi waldo’r Urdd dros yr wythnosau diwethaf. Maen nhw am gynnal cyfarfod ar Faes Prifwyl Boncath ym mis Mai i roi cyfle i’r beirniaid ddeud eu deud am y gwendidau niferus honedig yng ngweinyddiaeth Eisteddfodau’r Urdd ar bob lefel. Syndod yn wir! Ond peidiwch â disgwyl gormod. Fu cyfaddef gwendidau ddim yn un o gryfderau Urdd Gobaith Cymru erioed.
Codi llais dros y beirniaid Waeth imi osod fy mhen ar y bloc fel petai. Does gen i ddim byd i golli gan fy mod wedi neilltuo erbyn hyn. Eisiau ymddiheuriad, meddech chi Siân (llythyr Siân Harris Golwg 07/03/2013) mewn ymateb i lythyr adeiladol Trystan Lewis? Bûm i yn beirniadu steddfod Sir Eryri [cynradd ] am yr eildro yn neuadd Prichard Jones Bangor yn 1998. Y tro hwnnw ni chefais yr un geiniog goch am fy llafur na chostau teithio. Bûm hefyd yn beirniadu Rhanbarth Eryri [uwchradd] 2007 yn Llanrug ac ni chynigiwyd yr un geiniog goch imi cyn imi ysgrifennu llythyr egwyddorol 5/6 wythnos yn ddiweddarach yn mynegi’r farn mai dibrisio llafur ymdrechion ac arbenigedd beirniaid oedd anwybyddu yn ariannol fel hyn. Gwyddwn fod eraill o’r un farn â fi ond fy mod i’n ddigon gwrol, ynteu wirion, i ddweud fy nweud er lles yr achos fel hyn. Ces ymateb ddigon milain yn fy nwrdio fel ag y cafodd Trystan. Gwir yw dweud fod gymaint yn gwasanaethu’r Urdd yn ddi-dâl. Beirniad
hefyd. Rheini wedi hyfforddi ar hyd y blynyddoedd ac yn dal i wneud efallai yn rhad ac am ddim. Ond yn wir Siân, sawl un o safon sy’ n fodlon beirniadu o fore gwyn tan nos am gyn lleied o arian? Cofiwch, nid cyffredinedd sydd angen i feirniadu ond arbenigedd ac os ydych yn dymuno cael y goreuon i feirniadu er mwyn y tegwch gorau bosib, rhaid talu. Pam? Er mwyn i ieuenctid y genedl elwa o gysondeb, sylwadau adeiladol a thegwch. Dw i’n rhyfeddu weithiau at y penderfyniadau afresymol, y diffyg rhesymeg a geir a’r anghysondeb o ddewisiadau ar gyfer llwyfan. Cytunaf â’r rhan helaethaf o sylwadau Trystan. Gwn mai ei gariad at ieuenctid a phlant Cymru barodd iddo ddatgan y ffasiwn farn. Gobeithio y bydd Siân ac eraill yn hytrach na disgwyl ymddiheuriad yn ddigon diymhongar i gydnabod mai ‘nid da lle gellid gwell’ ac mae llawer o le i wella. Brian Morris Abergele
Cystadleuwyr yn cael cam
i’w plant gael y profiadau gorau yn y maes perfformio, ond os taw dyma’r diolch maent yn derbyn ar y diwedd, yna pa obaith sydd yno i gynnal cystadlaethau o safon yn y dyfodol? Ni fyddai’r Urdd yn dal i fodoli petai’r holl wirfoddolwyr sydd wedi bod wrthi yn hyfforddi’r plant hyn ers blynyddoedd wedi rhoi’r gorau iddi wedi i’w disgyblion gael cam! Mae colli yn un peth, ond mae cael cam gan feirniaid amhrofiadol yn rhywbeth arall! O ddarllen yr amryw lythyrau yn Golwg dros yr wythnosau diwethaf, mae’n amlwg bod llawer o bobol yn teimlo fel hyn dros y pwnc llosg hwn ar hyn o bryd, ac os ydyn ni am barhau i gynnal eisteddfodau yn llwyddiannus yn y dyfodol, mae’n rhaid i’r Urdd weithredu nawr a chreu rhestr genedlaethol o feirniaid (a chyfeilyddion) profiadol ynghyd a chanllawiau sylfaenol am sut i feirniadu. Mae angen sicrhau bod plant a phobol ifanc ledled Cymru yn cael profiadau teg yn yr eisteddfodau. Os nad ydym yn ofalus, mae perygl i’r eisteddfod droi’n ddigwyddiad amhoblogaidd oherwydd penderfyniadau gwallgof beirniaid dibrofiad.
Fel rhywun arall sydd wedi rhoi oriau o amser yn cystadlu a gwirfoddoli i’r Urdd, credaf yn gryf bod yn rhaid i mi hefyd fynegi fy marn ar yr halibalŵ diweddar ynghylch beirniaid eisteddfodau. Cytunaf yn llwyr â phwyntiau R Siencyn Rees, Yr Wyddgrug (Golwg 14/03/13). Rhaid gweithredu nawr er mwyn sicrhau dyfodol disglair i eisteddfodau’r Urdd. Mae rhai beirniaid sy’n cael eu gwahodd i feirniadu eisteddfodau cylch yn sicr yn amhrofiadol ac yn adnabyddus erbyn hyn am wneud penderfyniadau “gwallgof” (gan ddyfynnu geiriau Trystan Lewis). Roeddwn i mewn eisteddfod gylch ddydd Gwener ddiwethaf a gallaf enwi o leiaf dau o gystadlaethau lle’r oedd cystadleuwyr wedi cael cam go iawn. Pa obaith sydd i feirniaid wneud penderfyniad call os nad oes ganddi/ganddo brofiad perfformio/ hyfforddi ei hunan? Gwallgofrwydd? Yn sicr. Ac mae’n codi’r cwestiwn o bwy yw’r beirniaid hyn sy’n ymddangos yn ein heisteddfodau yn flynyddol, beth yw eu cefndir cerddorol a beth yw safon bellach? Mae rhieni yn talu cannoedd os nad miloedd o bunnoedd y flwyddyn er mwyn
Teilo Dyfed Evans Porthcawl
Cofio athrawes arbennig Mae un o ddarllenwyr Golwg wedi tynnu ein sylw at wall yn y darn am raglen arbennig yr awdur o Ardudwy, Phillip Pullman ar BBC Wales. Roedd yr awdur yn trafod ei gysylltiadau Cymreig a dylanwad ei athrawes yn Ysgol Ardudwy, Harlech, Miss Enid Jones ac nid Enid Williams fel y nodwyd yn yr erthygl. Yn ei hangladd yn ddiweddar rhoddodd yr awdur deyrnged i’w athrawes Saesneg “Er na fydd neb yn marcio fy ngwaith o hyn ymlaen, wna’ i byth anghofio ei hesiampl o ofal a chywirdeb wrth lunio brawddegau yn Saesneg, a’i chariad tuag at farddoniaeth.”
11
golwg | mawrth 21 | 2013
beirniadu gwallgof yn yr urdd? Darn Barn
Trystan Lewis yn ymateb Mae’n amlwg, o ddarllen yr ymateb i’m llythyr, bod pobol yn gefnogol i’m sylwadau ac yn teimlo’n gryf iawn am yr hyn a ddywedais. Mae’r llythyrwyr yn gwneud pwyntiau synhwyrol a dilys a thybiaf fod yn rhaid i’r Urdd yn awr wrando ac ymateb iddynt. Mae’r cwestiwn o arian wedi cynhyrfu’r dyfroedd fel yn llythyr Siân Harris, a chredaf fod hynny’n nodweddiadol o agwedd nifer fawr o Gymry at dalu cerddorion. Clywais un canwr poblogaidd yn cyfeirio yn ddiweddar, wrth drafod anghydfod EOS, fod yn rhaid i gerddor yng Nghymru wneud pob math o jobsys i gadw dau ben llinyn ynghyd; ffarmio; gweithio yn y cyfryngau, a ga’ i ychwanegu, hyd yn oed gadw siop! Mae cerddoriaeth yng Nghymru wedi bod yn nwylo amaturiaid ar hyd y blynyddoedd, amaturiaid ardderchog a safonol, ond mae’r cerddor heddiw’n talu’r pris am hynny. Un enghraifft yw neuadd bentref sydd eisiau codi estyniad i gael cegin a thoiledau, ac am gynnal cyngerdd i godi arian. Yn aml, gwirfoddol yw pwyllgor neuaddau pentref, ac felly gofynnir am wasanaeth unawdydd a chyfeilydd a chôr. Wedi i’r cerddorion osod eu ffi, cânt gerydd o’r mwyaf gan ddatgan mai mudiad gwirfoddol ac elusennol yw pwyllgor y neuadd ac a fuasen nhw’n fodlon dod am dri chwarter y pris neu gostau teithio? Tybed a fuasen nhw’n bargeinio yn y fath fodd gyda’r pensaer neu’r adeiladydd neu’r plymwr? Go brin. Rwy’n derbyn fod yr Urdd yn ddibynnol ar wirfoddolwyr, ond siawns bod rhaid talu am arbenigedd o fewn mudiadau gwirfoddol – ac mai dyna yw sail yr holl elusennau dyngarol? Yr agwedd at orfod talu cerddorion yw’r
tramgwydd pennaf. Heddiw, mae’n rhaid i gerddor fyw yng Nghaerdydd neu Lundain i wneud bywoliaeth, ac mae hynny’n plesio’r Cymry oherwydd “ei fod wedi mynd yn bell” ac “wedi gwneud yn dda”. Mae Cymry Cymraeg ddigon prin fel mae yn ein bröydd, heb adael i artistiaid o berfformwyr neu gyfansoddwyr adael y wlad. Mae hi’n ddyddiau dreng ar y celfyddydau ac yn benodol ym myd cerddoriaeth: toriadau yng ngwasanaethau dysgu cerddoriaeth, arian wedi diflannu oherwydd y Gemau Olympaidd bondigrybwyll, a chwaraeon o bob math yn cael blaenoriaeth ar draul y celfyddydau. Mae’n rhaid i gerddor un ai ddibynnu ar un arbenigedd, megis canu yn broffesiynol neu ganu offeryn yn broffesiynol, lle ceir cyfnodau o lanw a thrai yn ariannol, neu mae’n rhaid iddo fo neu hi ddysgu’n breifat neu’n beripatetig, cyfeilio, arwain, canu neu ganu offeryn, ac ie beirniadu. Mae Siân Harris yn ei llythyr yn datgan nad ydynt yng Nghylch Arfon yn talu ffi, ond yn hytrach gostau teithio yn unig i feirniaid, ac fe’i gadawaf iddi hi i benderfynu a yw hynny’n dderbyniol ai peidio. Os cofiaf yn iawn, roedd y diweddar Selwyn Griffith yn un a oedd yn rhannu bwrdd beirniad hefo mi yn Eisteddfod Cylch Arfon yn 2005, ac os oedd o’n cael costau teithio o Benisa’r-waun i Lanrug, yna mi fuasai’n derbyn oddeutu £1 mae’n siŵr gen i! Gyda llaw, nid at Eisteddfod Cylch Arfon yr oeddwn yn cyfeirio, ond at eisteddfod mewn ardal yn Arfon, a hwyrach fod fy nhermyddiaeth i o fröydd/rhanbarthau eisteddfod yr Urdd yn anghywir. Ond siawns bod yr eisteddfod honno’n gwybod na chefais yr un syllten, p’run ai yn fwriadus ai peidio... Trystan Lewis Deganwy
Creu panel i godi llais dros yr Eisteddfod Gwae ni os ymddiriedwn ddyfodol ein Heisteddfod Genedlaethol i fympwy unrhyw lywodraeth, boed honno yng Nghaerdydd neu yn Llundain. Pwy, meddwch chi, mewn cyd-destun Eisteddfodol, ydyw’r ‘deuddeg doeth’ hyn sydd â’r bwriad i wasgu’u llinyn mesur am gorn gwddw hen brifwyl y Cymry, a phwy a’u dewisodd, ac, yn enwedig, ar ba sail? Gofynnaf hyn â’r difrifoldeb mwyaf. Beth yw eu profiad a’u cyfraniad i’r Genedlaethol, ac i eisteddfodau llai Cymru, dros y blynyddoedd? Pa fröydd, tybed, y mae’r hollwybodusion diwylliedig hyn yn eu gwasanaethu a’u gwarchod? Mae’r perygl yn brawychu dyn. I’r rhan fwyaf o eisteddfodwyr go iawn, mae’r bwriad yn amlwg, sef gwthio’r Saesneg fwyfwy i mewn i weithgareddau’r ‘Steddfod, a’i throi o fod yn ŵyl Gymraeg i fod yn un ddwyieithog. Mater bach, anorfod, wedyn fyddai pen-draw y dwyieithrwydd
hwnnw gyda goruchafiaeth yr iaith arall. Rwy’n ddigon hyf i alw fy hun yn eisteddfodwr gan i mi gystadlu ar lwyfan trideg ac un o Eisteddfodau Cenedlaethol, cystadlu’n llenyddol ddwywaith, yn ogystal â darlithio etc. yn y Babell Lên, bod â Stondin droeon (fel eleni eto) ar y Maes, a thalu tâl mynediad hefyd, sylwer. Bûm yn aelod o Gyngor yr Eisteddfod am nifer o flynyddoedd, ac rwy’n parhau yn aelod o’r Llys. Tybiaf fod y cyfryw gymwysterau yn rhoi
cymaint o lais i mi, os nad mwy, na’r ‘deuddeg doeth’ a benodwyd yn y dirgel gan y Cynulliad a’i ddyn Andrews. Dyna pam, yn ogystal â rhesymau eraill, fy mod i a nifer fawr o wir eisteddfodwyr eraill wedi ymffurfio’n ‘banel’ er mwyn cyflwyno argymhellion i awdurdodau’r Eisteddfod Genedlaethol ar sut i fwrw ‘mlaen â phethau yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Mae gennym gymaint, os nad mwy, o hawl na Leighton Andrews a’i apostolion, i fynnu hyn. Cymeraf yn ganiataol y bydd prif awdurdod yr Eisteddfod, sef y Llys, yn rhoi o leiaf llawn cymaint o ystyriaeth i’n hargymhellion ni ag i unrhyw beth a ddywed ‘deuddeg doeth’ ein llywodraeth busneslyd, trahaus a thraarglwyddiaethol. Ynteu ai yn ôl blacmel a chyfraniadau ariannol y mae mesur perchnogaeth ein Heisteddfod Genedlaethol bellach? Gymry! cyrn yr arad amdani, ac na fyddwn wasaidd. Geraint Jones Trefor, Gwynedd
Y Gwanwyn yn hir yn dyfod Mae’r gwanwyn yn hwyr eleni, yn ôl y naturiaethwr Iolo Williams, sydd wedi bod yn chwilio am arwyddion o’r tymor newydd ...
D
ruan o’r bywyd gwyllt sy’n gorfod dygymod â gwanwyn 2013 yng Nghymru. Ar ôl 10 mis o law di-baid, mae’r gwanwyn wedi bod yn anarferol o oer a hyn wedi cael cryn dipyn o effaith ar ein planhigion ac anifeiliaid. Erbyn canol mis Mawrth fel rheol bydd y cloddiau yn fôr o liw gydag eirlysiau wedi hen ddiflannu a blodau melyn briallu, llygad Ebrill a chennin Pedr yn cystadlu am le yn yr haul gyda’r gwenyn cynnar yn cario paill o’r naill i’r llall. Eleni, mae’r eirlysiau yn dal yn eu hanterth ac ychydig iawn o ddail sydd wedi blaguro ar frigau’r coed. Mae llawer o’r adar megis y Titw mawr, y Fronfraith a’r Robin Goch wedi bod yn canu ers rhai wythnosau ond ychydig ohonynt sydd wedi mentro i ddodwy gyda’r tymheredd yn amrywio cymaint o ddydd i ddydd. Dim ond dros y dyddiau diweddaraf mae’r nythwyr cynnar fel y Crëyr Glas a’r Ydfran wedi gorffen ailadeiladu eu nythod a dyw’r pâr o adar duon sy’n nythu’n flynyddol yn yr ardd acw heb hyd yn oed ddechrau’r gwaith o adeiladu eto. Yr wythnos diwethaf, teithiais i i fynyddoedd y Berwyn uwchben pentref Llangynog i weld a oedd llyffantod wedi ymgasglu i ddodwy grifft yn rhai o’r pyllau mawnog. Yn anffodus, dewisais un o ddiwrnodau oeraf y flwyddyn gyda’r tymheredd yn saith gradd o dan y rhewbwynt, a doedd hi’n fawr o sioc i ddarganfod bod y pyllau i gyd wedi rhewi’n gorn, ac roedd unrhyw lyffant gwerth ei halen yn cuddio ymysg y tyfiant trwchus yn aros iddi gynhesu. Mae ‘na arwyddion pendant bod y gwanwyn ar y ffordd beth bynnag, a gyda chyfres o ddyddiau mwyn, rwy’n sicr bydd y dail, y blodau a’r llyffantod i gyd yn ymddangos ar unwaith ac o fewn dim, bydd yr adar mudol yn dychwelyd o’r Affrig i ymuno yng nghôr y wig gydag adar mwy cyfarwydd y coedwigoedd a’r perthi. Mae’r gwanwyn hwyr wedi creu problemau i griw ffilmio cyfres newydd ar S4C, sef Natur: Y Gwanwyn. Dros y tair wythnos diwethaf, rydym wedi bod yn teithio ar hyd a lled y wlad yn chwilio am arwyddion o’r gwanwyn gydag arbenigwyr pennaf Cymru. Bûm yn ffodus iawn i ymweld â hen fwynglawdd aur ger Dolgellau sy’n llawn ystlumod pedol leiaf a thref Aberystwyth lle cheir clwydfan o ddegau o filoedd o ddrudwennod yn clwydo o dan y pier. Mae’r wobr am y creadur dewraf, fodd bynnag, yn mynd i wennol y glennydd a welwyd yn hedfan mewn storm o law dros Fae Caerdydd yn gynnar ym mis Mawrth. Druan ohono! Natur: Y Gwanwyn am 8.25 bob nos o Llun-Gwener, Mawrth 25-29 ar S4C.
12
golwg | mawrth 21 | 2013
cofio aberth y glowyr
Gwaed ar y Glo – pwy sy’n talu’r Casglu tystiolaeth am effaith y diwydiant glo ar iechyd y gweithwyr, fydd dan sylw mewn digwyddiad yn Amgueddfa’r Glannau...
Y
n ôl haneswyr, maes glo De Cymru a ddioddefodd yn fwy nag unrhyw un arall ym Mhrydain o ddamweiniau, marwolaethau, anableddau a chlefydau. Y bwriad wrth gynnal digwyddiad, ‘Gwaed ar y Glo’, yw ymchwilio’n fwy manwl i effaith y diwydiant glo ar y gweithwyr a gafodd eu hanafu a sut y cafodd y glowyr anabl eu trin cyn i’r diwydiant gael ei wladoli yn 1948. Yn ôl un cyn swyddog undeb, mae wedi bod yn frwydr dros y blynyddoedd i gael cydnabyddiaeth bod y diwydiant yn gyfrifol am anafiadau ac anableddau’r glowyr. “Chafodd e erioed ei roi ar blât i ni,” meddai am unrhyw ofal neu iawndal a roddwyd i lowyr. Bydd ymateb yr undebau, perchnogion y pyllau a’r llywodraeth yn cael sylw yn y digwyddiad yn Abertawe dros y penwythnos. “O ddyddiau cynnar y diwydiant glo yn Ne Cymru,” meddai Dr Steven Thomson o adran Hanes Prifysgol Aberystwyth ac sy’n un o drefnwyr y diwrnod, “roedd y gofal a gynigiwyd i rai a ddioddefodd anabledd o ryw fath yn y pwll glo yn amrywio o lodge i lodge. “Doedd dim system ar gael, trwy’r llywodraeth na’r undebau, a oedd yn cynnig trefniant safonol.
Tua diwedd y 19G, fe gyflwynwyd ambell ddeddfwriaeth a ddechreuodd newid y sefyllfa – yr Employers Liability Act er enghraifft ac yna’r Workers Compensation Act. “Ond roedd y glowyr yn gorfod dadlau eu hachos yn unigol, doedd dim yn cael ei gynnig iddyn nhw fel hawl awtomatig.” Roedd y cyfrinfeydd unigol, ym mhob pwll glo, yn casglu arian ar gyfer un o’u plith a oedd wedi colli braich neu goes, neu ddiodde’ un o’r clefydau a gysylltwyd gyda gweithio mewn pwll glo, fel clefyd y llwch. Pan gyflwynwyd y deddfwriaethau newydd, roedd modd dadlau achosion yn y llys er mwyn hawlio iawndal. “Roedd gofyn i bob un a oedd wedi diodde’ trwy ddamwain brofi bod y ddamwain wedi digwydd oherwydd rhyw esgeulustod ar ran perchnogion y pwll,” meddai cyn Is lywydd Undeb y Glowyr yn Ne Cymru, Terry Thomas. “O ganlyniad wrth gwrs, doedd llawer ddim yn mynd i hawlio unrhyw iawndal a allai fod yn ddyledus iddyn nhw. Fe fyddai’n cymryd rhywun dewr iawn i godi ei lais yn erbyn y perchennog.” Y glowyr a’u hundeb - ysbrydoli sylfaenydd y gwasanaeth iechyd “I’r rhai fyddai’n llwyddo yn eu hachosion,” meddai Steven Thomson,
“roedd yr arian yr oedden nhw’n ei gael yn llai na’u cyflog ac fe fydden nhw wedi colli eu cyflog yn llwyr wrth gwrs. Byddai’r swyddogion undeb wedi dadlau achos eu haelodau yn y gwrandawiadau yma ond roedd grym gan y perchnogion y pryd hynny. “Roedd nifer fawr o’r perchnogion yn derbyn bod angen talu iawndal, roedd nifer yn talu pensiwn, neu’n cyfrannu at goes neu fraich artiffisial. Ond y duedd oedd mai’r glowyr hynny oedd wedi bihafio’n dda fyddai’n cael y fath gefnogaeth. Byddai rhywun a fyddai’n weithgar gyda’r undeb ddim yn cael ei drin mor ffafriol.”
Yn ogystal â chefnogi eu haelodau yn eu cymunedau a’u cynrychioli yn y gwrandawiadau, roedd undebau’r diwydiant glo yn cynnig cyfleodd i’r rhai fu mewn damweiniau i wella’n iawn wedi’r ddamwain. “Roedd ‘na ysbytai llai yn agor wrth i’r ganrif ddiwetha’ fynd yn ei blaen, y cottage hospitals, ac roedd y rheiny’n cynnig gofal arbennig i lowyr, yn enwedig y rhai reit ynghanol prysurdeb y maes glo, Glyn Ebwy, Tredegar, Aberdâr, Merthyr Tudful er enghraifft. “Roedd Ysbyty i Lowyr yng Nghaerffili, fel ag yn Nhal-y-garn, Pont-
Byddwch gwrtais ar y We – Elfyn Llwyd Mae’n flwyddyn ers i ddeddf newydd ar stelcian gael ei derbyn gan y llywodraeth yn San Steffan. Ond mae angen mynd i’r afael â’r We, yn ôl un o’r ymgyrchwyr... Dylai pobol ofalu eu bod yn ymddwyn ar y rhyngrwyd yn union fel y bydden nhw yn y byd go-iawn. Dyna farn Arweinydd Grŵp Plaid Cymru yn San Steffan, Elfyn Llwyd, mewn darlith ddiweddar i farnwyr a myfyrwyr y Bar yr Inns of Court yn Llundain. Mae’n flwyddyn union ers i’r Senedd gytuno i ddiwygio’r ddeddf stelcian ac roedd y gwleidydd o Lanuwchllyn yn cadeirio’r Grŵp Undebau Cyfiawnder ac yn arwain ymchwiliad annibynnol ar ‘Stalking Law Reform’. Cododd hyn yn sgîl ymgyrch gan yr elusen ‘Protection Against Stalking’, i dynnu sylw at effaith stelcian ar ferched.
Cafodd casgliadau’r ymchwil ei gyflwyno i’r Senedd fis Chwefror y llynedd ac adroddiad o dystiolaeth gadarn yn seiliedig ar brofiadau pobol gan stelcwyr. Daeth y ddeddf yn gwneud stelcian yn drosedd gyfreithiol i rym ym mis Tachwedd. Bu’n rhaid cynnal chwe mis o gyfnod hyfforddi ar ganllawiau dedfrydu. “Rydan ni hefyd wedi sicrhau cyrsiau hyfforddi i wasanaeth erlyn y Goron, yr Heddlu, swyddogion prawf, gwasanaethau cymdeithasol, barnwyr, llysoedd ynadon ac yn y blaen i ddelio efo’r peth yn y modd cywir,” meddai Elfyn Llwyd. “Fel eu bod nhw’n ymwybodol o ba mor ofnadwy ydi’r
profiad o gael eich stelcian.” Mi glywodd yr ymchwiliad dystiolaeth frawychus gan ddioddefwyr, a rheiny’n ferched gan fwyaf, meddai Elfyn Llwyd. Y dystiolaeth yma “yn rhannol” a berswadiodd y Llywodraeth bod angen deddfwriaeth o’r fath, meddai. “Roedd rhai wedi cael eu stelcian am flynyddoedd. Roedd rhai wedi gorfod symud tŷ, a rhai wedi bod yn ymyl cymryd eu bywydau. A rhieni merched sydd wedi cael eu llofruddio gan y stelcwyr yma.” Roedd y ddeddf gynharach – y ‘Protection from Harrassment Act’ 1997 – yn annigonol, yn ôl Elfyn Llwyd, ac yn cynnwys anghydfod rhwng cymdogion ac yn y cartref. “Roedd stelcian yn digwydd bryd hynny wrth reswm,” meddai. “Roeddwn i’n meddwl byddai’r Mesur hwnnw yn mynd i ateb y gofynion. Doedd hi ddim. Ychydig ar y naw o erlyniadau yn erbyn stelcian sydd wedi llwyddo o dan y Ddeddf 1997.
13
golwg | mawrth 21 | 2013
y we yn cuddio stelcwyr
Brwydro o hyd Er bod y ffordd mae gofal yn cael ei gynnig i lowyr anabl wedi newid wrth i’r diwydiant newid yn 1947, does fawr ddim wedi newid yn ôl un cyn arweinydd Undeb NUM. “Doedd dim byd yn dod i’r glowyr heb frwydro,” meddai Terry Thomas, “pan ddechreuodd y diwydiant glo ac roedd yr un peth yn wir hyd y diwedd. “Wrth feddwl am pneumoconiosos, daeth dim chwarae teg i lowyr oedd â’r cyflwr yna tan ddiwedd yr 1970, er ei fod yn glefyd a gafodd ei gydnabod ddegawdau cyn hynny - a daeth y chwarae teg hynny ddim cyn i ni frwydro drosto yn streic glowyr 1974. “Beth bynnag a enillwyd i gael iawndal, neu ofal meddygol i lowyr a oedd yn gweithio ym maes glo mwya’ peryglus Prydain, chafodd e erioed ei roi ar blât i ni.” Alun Gibbard Gwaed ar y Glo - Sioe ar Daith Hanes Anabledd – Ddydd Sadwrn, Mawrth 23 yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
Gwella ym Mhorthcawl a Bournemouth Un atyniad mawr i lowyr a anafwyd oedd cael y cyfle i fynd i Borthcawl ar wyliau, ac i’r adeilad a alwyd yn ‘The Rest’. “Agorwyd Y Rest yn yr 1860au, wedi i grŵp o dirfeddianwyr a chyflogwyr yn y diwydiant glo ddod at ei gilydd i brynu’r adeilad,” meddai Steven Thomson. “Roedd glowyr yn cael mynd yno am wythnos neu bythefnos ar y tro am ysbaid tra’n gwella o’u damweiniau. Gweithwyr o ardal Caerdydd oedd yn mynd yno ar y dechrau ond gydag amser, roedd pobol o bob rhan o’r maes glo yn mynd yno.” Wedi i’r NUM gael ei sefydlu, yn 1947, fe brynodd yr Undeb adeilad yn Bournemouth, y Court Royal. Roedd pob undeb a oedd yn ymwneud â’r diwydiant glo’r adeg hynny, gan gynnwys undeb rheolwyr y pyllau BACM, yn rhan o’r broses i brynu’r Court Royal ond fel yr Undeb mwyaf o bell ffordd, aelodau’r NUM fyddai’n ei ddefnyddio’n fwy na neb arall. “Bwriad Court Royal,” yn ôl Terry Thomas, “oedd cynnig lle i lowyr wella ar lan y môr, bant o gartre’. Mae’r lle’n dal ar agor, ond mae’n fwy tebyg i westy ar gyfer gwyliau i deuluoedd glowyr nawr gan fod llai a llai o lowyr i gael wrth gwrs. Ond ei brif amcan hyd heddiw, yn ôl y cyfansoddiad, yw cynnig convalescence.’
“Doedd yna ddim canolbwyntio ar stelcian – sy’n fath arbennig o ymddygiad. Roedd Mesur 1997 yn lluchio rhwyd eang dros lot o bethau, ond ddim yn canolbwyntio ar elfennau pethau fel stelcian. Rydan ni wedi canolbwyntio’n llwyr ar yr elfennau hynny.” Stelcian ar y we yn fwy cymhleth Yn ôl Elfyn Llwyd, mae delio gyda stelcian ar y We yn fwy dyrys na stelcian yn y cnawd. “Mae hwnnw’n blaenach ac yn haws i’w adnabod. Beth mae pobol yn ei wneud efo’r cyfryngau electronaidd yw cuddio’i henwau fel eich bod chi’n methu ag adnabod pwy sy’n danfon y pethau. “Dw i’n meddwl bod yn rhaid i ni gael ryw ddealltwriaeth efo’r cwmnïau sy’n gwasanaethu’r servers. Fel eu bod nhw’n cymryd rhan flaengar yn hyn o beth, i rwystro gorddatblygiad o’r ochr yna. Mae o’n digwydd.” Mae mewn cysylltiad â dau
Llun: Source: South Wales Coalfield Collection, Swansea Universi
y-clun hefyd. “Roedd yr ysbytai mewn mannau fel Tredegar yn aml wedi eu sefydlu gan y Medical Aid Societies, system o ofal cymunedol a fu’n ysbrydoliaeth i’r gŵr o Dredegar a sefydlodd y Gwasanaeth Iechyd, Nye Bevan.”
ty
pris am lo?
fargyfreithiwr sy’n arbenigo ar stelcian ar y We. “Maen nhw’n dweud wrthyf fod pobol yn tueddu i fod yn bersonol ar y cyfryngau yma mewn modd y bysan nhw byth wyneb yn wyneb,” meddai. “Maen nhw’n teimlo’n rhydd i fod yn sarhaus am bobol. “Mi ddylech chi ymddwyn ar Twitter ac ar y cyfryngau electronaidd yn yr un modd ag y buasech chi’n siarad un wrth un efo rhywun. Os ewch chi i feddwl am hynny, a meddwl am yr effaith mae’n ei gael ar rywun, hwyrach y buasech chi’n sobri dipyn bach cyn dweud pethau bygythiol neu hyll am bobol.” Beth yw’r Gyfraith? Mae’r drosedd wedi’i rhannu’n ddwy, gyda’r rhan gyntaf yn rhestru yn lled agored y mathau o ymddygiad y mae stelcian yn ei olygu: Rhan 2 (a) - dilyn rhywun, cysylltu neu geisio cysylltu â nhw unrhyw ffordd, argraffu unrhyw beth amdanyn
George Preece o Abercynon, a gollodd un goes a hanner mewn damwain yn 1909. Roedd yn well ganddo ddefnyddio cadair olwyn na’i goesau artiffisial.
nhw, monitro rhywun ar y rhyngrwyd, e-bost neu ffyrdd electronig eraill o gyfathrebu (e.e. stelcian drwy wefannau cymdeithasol), loetran o gwmpas eu cartref, ymyrryd efo’u heiddo nhw, neu gadw golwg/ysbïo arnyn nhw. Byddai’r mater yn mynd o flaen Llys yr Ynadon, gan olygu hyd at 51 wythnos yn y carchar a dirwy sylweddol. “Dydyn ni ddim wedi’u diffinio nhw,” meddai Elfyn Llwyd, “am fydd raid i bob Llys edrych yn ofalus ar beth ydi’r dystiolaeth o’u blaenau nhw.” Rhan 4(a) – bod yr ymddygiad hynny yn achosi ‘serious alarm and distress’. “Hynny yw, rhaid i’r peth fod wedi bod ychydig bach yn fwy dwys,” meddai Elfyn Llwyd. Gall hynny olygu hyd at 5 mlynedd yn y carchar. Ac os na fydd rhywun yn euog o 4 (a), mae gan y Llys yr hawl i’w ffeindio’n euog o 2 (a) beth bynnag. Non Tudur Nofel boblogaidd am bwnc ‘dychrynllyd’ – Tud 20
14
golwg | mawrth 21 | 2013
Mae Canolfan Gymraeg ar fin agor yn y Barri er mwyn rhoi hwb i’r iaith ym Mro Morgannwg. Kay Holder, enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn 2011, yw cadeirydd Tŷ Cadog. Mae’n diwtor iaith, yn fegan ac yn byw yn Ninas Powys …
Kay Holder Pam eich bod yn awyddus i agor Canolfan Gymraeg yn y Barri? Er mwyn darparu gwasanaeth Gymraeg nid fel ffafr ond yn naturiol. Mae fy mhrofiad o fod yn Gymraes ddi-Gymraeg, yn ddysgwr, yn diwtor ac yn siaradwr yn dangos pa mor fodlon ydy’r Cymry Cymraeg i dderbyn siaradwyr newydd – unwaith mae rhywun yn dod o hyd iddyn nhw – a pha mor niweidiol yw’r ffaith bod y Gymraeg yn cuddio.
Ugain cwestiwn i ddod i adnabod pobol yn well
Sut y mae dysgu Cymraeg wedi newid eich bywyd? Dw i wedi darganfod ffordd o fynegi fy hun mewn iaith oedd yn perthyn, yn hanesyddol ac yn swyddogol, i fy mamwlad ond oedd yn ddirgelwch i fi. Roedd angen rhoi’r gorau i’r hen fywyd ond mae anturiau, heriau a chyfeillion newydd wedi llenwi pob eiliad. Beth yw’ch ymateb i’r straeon diweddar am gig ceffyl a labelu bwyd? Dweud clip! clop! wrth bob cigfwytwr. Mae’n od sut mae rhywun yn gallu edrych ar wyneb buwch heb weld pa mor debyg yw hi i geffyl. Mae labelu bwyd yn ofnadwy o bwysig i ni sy’n gwrthod cynhyrchion anifeiliaid, wrth reswm, achos mae llawer o ddioddefaint yn llercian tu ôl i’r label. Beth ydych chi’n dipyn o arbenigwr ar ei wneud? Ymrwymo’n llwyr. Beth ydych chi fwyaf anobeithiol am ei wneud? Chwarae lacrosse ar gae Llandaf, neu unrhywbeth sy’n ymwneud â chreu cysylltiad rhyngof i ac arf hedegog megis pêl. Sut fyddwch chi’n cadw cydbwysedd rhwng gwaith a hamdden? Trwy sicrhau fy mod yn gwneud y pethau sy’n rhoi pleser a chyflawniad i fi. Mae’r dyletswyddau gwirfoddol yn gallu teimlo fel gwaith ond yn rhoi adrenalin. Pan rydym ni’n lwcus, rydym ni’n cael ein talu i wneud pethau sy’ ddim yn teimlo fel gwaith. Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini? Ar hyn o bryd, llawer o gerdded –
mae’r bysiau’n anobeithiol! Sdim ffyrdd saff i feicio arnyn nhw, yn anffodus. Beth yw eich hoff ddilledyn? Fest y Ddraig Goch, sy’n pefrio, ond mae’n dechrau colli sequins – anrheg newydd, rhywun, os gwelwch yn dda! Beth yw’r peth drutaf i chi ei brynu erioed… ar wahân i gar neu dŷ? Piano. Beth hoffech chi weld yn newydd ar S4C? Cyfres yn dangos y gwirionedd am amaethyddiaeth yng Nghymru a’r byd. Un arall yn esbonio sut mae’r diwydiant arfau yn effeithio ar Gymru a’i ysglyfaethau eraill. Gellir creu gofod i’r rheiny gan symud rhaglenni i ddysgwyr i BBC Wales, lle dylen nhw fod. Pwy fyddech chi’n ei wahodd i’ch pryd bwyd delfrydol a beth fyddai’r wledd? Ffrindiau o ledled y byd, yn yr awyr iach, gwledd o fwydydd o’r Dwyrain Canol a dyn golygus i wneud y Caipirinhas! Beth sy’n eich gwylltio fwyaf am Gymru/y Cymry? Y ffaith bod iaith anhygoel o hyfryd a chymhleth yn bodoli sy’ ddim ar wefusau pob trigolyn.
Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r embaras mwyaf i chi? Mae teimlad o embaras yn gyflwr parhaol i fi. Sdim eisiau ychwanegu at hyn drwy gyhoeddi’r ffeithiau. Pa barti oedd y gorau i chi fod ynddo erioed? Parti neu ddau ym Mhrasil neu Giwba, fy mhen-blwydd yn 50 oed ar y Maes yn y Bala gyda dros 20,000 o Eisteddfodwyr yn dathlu gyda fi…? Pwy fuodd y dylanwad mwya’ ar eich bywyd? Fy nhad, pan ddywedais na fuasai’n bosib i un person newid y byd. Atebwyd ganddo “Efallai bydd”. Trwy bethau bychain newidir y byd gan bob un ohonom. Pa mor bwysig oedd ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn i chi yn Eisteddfod Wrecsam 2011? Ac a ydych yn dal i ystyried eich hun yn ddysgwraig? Mae wedi agor drysau i fi trwy gwrdd â llawer o bobol ddylanwadol, ond daeth y dylanwad mwyaf arnaf i, wrth gwrs, o’r Eisteddfodwyr cyntaf yng Nghaerdydd 2008. Fydda’ i ddim wedi talu’r ddyled hon yn ôl tan glywir y Gymraeg ar strydoedd trefi Bro Morgannwg yn ddyddiol. Rydym ni’n tueddu adnabod dieithryn trwy ei ddiffyg diwylliant, nid ei sgiliau ieithyddol.
Dw i’n ddysgwraig, felly, fel rhan fwyaf y Cymry Cymraeg, ar daith i ddarganfod y diwylliant nad oedd yn rhan o’m addysg. Beth sydd yn eich gwneud yn hapus? Canu’r delyn a gweld bywyd gwyllt ar hap. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi grio… a chwerthin nes eich bod yn sâl? Crio heddiw pan ddywedodd ffrind bod hi wedi achub oen bach gan ffonio ffermwr a ddywedodd fuasai’r oen wedi marw dros nos heb ei galwad. Credai fy ffrind taw hanes hapus oedd hi’n adrodd - a fi’n gwybod bod 25% o ŵyn yn marw o esgeulustra ar ddydd eu genedigaeth, ac yn gwybod bydd yr oen yn cael ei ladd yn fuan iawn. Mae anwybodaeth am darddle ein bwyd yn warthus. Beth oedd eich swydd waetha? Swyddog Diogelwch yn y Cynulliad. Am fraint sefyll ar drothwy’n Senedd a chroesawu ymwelydd yn y Gymraeg – ond ychydig iawn o gefnogaeth câi unrhywun oedd am ddefnyddio iaith y nefoedd yn lle’r iaith fain. Beth yw eich hoff air Cymraeg? Cewch, cei a chwtsh. Mae pob un yn gysur.
15
golwg | mawrth 21 | 2013
er gwaetha pawb a phopeth
Y côr na chafodd ei lorio Ar un adeg, roedd Côr CF1 yn cael ei wawdio yn gyhoeddus - ond eleni maen nhw’n dathlu degawd o forio canu...
Y newydd-ddyfodiaid
R
oedd rhai yn cyhuddo’r côr newydd a gafodd ei sefydlu yn y brifddinas ddeng mlynedd yn ôl o sugno doniau ifanc o’r ardaloedd gwledig Cymraeg. Er bod y profiad hwnnw yn eu brifo, yn ôl yr arweinydd, roedd yn rhoi hwb hefyd i’r côr dylanwadol a oedd yn torri tir newydd ym myd cerddoriaeth Cymru. “Mi wnaeth o wneud lot o les i ni fel unigolion,” meddai Eilir Owen Griffiths sydd wedi arwain côr CF1 ers y dechrau. “Ond dros y blynyddoedd, mi wnes i gael lot o bobol yn galw ni’n bob math o enwau. ‘CF...’ - mae’r ‘F’ yna’n gallu bod yn bob math o bethe, a’r ‘C’! Oedden ni’n cael ein bŵio here there and everywhere.” Ond roedden nhw’n “angerddol iawn” tuag at y gwaith, meddai Eilir Owen Griffiths, sydd bellach yn Gyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Llangollen. “Mi oedd yna rai pobol yno’n barod i dynnu ni lawr. Y peth ydi mae’r côr yn dal yn mynd ar ôl deng mlynedd.” Mae Côr CF1 yn cystadlu yn ffeinal Côr Cymru eleni, ar ôl curo corau Tempus, Cywair a Chôr Ger y Lli yn y rownd gynderfynol ar gyfer corau cymysg. “Rydan ni wedi newid a thrawsnewid dros y blynyddoedd i fod yr hyn rydyn ni rŵan ac rydyn ni’n browd iawn o hynny,” meddai. “Beth bynnag roedd unrhyw un eisiau ei ddweud amdanon ni, mae o i fyny iddyn nhw yn y pen draw. “Mi oedd yn brifo’n teimladau ni ar adegau. Cymryd bob cyfle oedden ni mewn ffordd, ac yn reidio’r don, ac mi gawson ni lot o gyfleoedd cyffrous iawn. Mi oedden ni’n amlwg iawn yn y cyfnod yna.”
Sefydlwyd y côr yn sgîl creu Aelwyd newydd yn y brifddinas ac roedd y pwyllgor cyntaf yn “drobwynt mawr” ym mywyd Eilir Owen Griffiths. Roedd eisoes wedi gwneud argraff ar y byd corawl cyn symud i Gaerdydd – trwy ailgodi Côr y Drindod yn y coleg yng Nghaerfyrddin, ac ennill yn Eisteddfod yr Urdd ar y cynnig cyntaf. Ond ar ôl ei ddyddiau’n fyfyriwr doedd y cerddor ddim yn hapus yn y brifddinas. “O’n i’n unig iawn,” meddai. “Mae cyfansoddi yn y Coleg Cerdd a Drama yn bwnc eitha’ unig. Do’n i ddim yn teimlo’r syniad yma o gymdeithas oedd gen i pan o’n i yng Nghaerfyrddin.” Ond ar ôl ei gyfarfod cyntaf gydag aelwyd newydd CF1 cafodd gynnig i arwain y côr. “Mi wnes i dderbyn, a dw i’n cyfri’r cyfarfod yna fel trobwynt mawr iawn yn fy mywyd i. Fyswn i ddim yn gwneud yr hyn dw i’n gwneud rŵan oni bai am y cyfarfod yna. Mi faswn i fwy na thebyg wedi gadael Caerdydd y Dolig hwnnw.”
Cymru a pherfformio’r ‘Carmina Burana’ yn Neuadd Dewi Sant yn 2009 ymhlith yr uchafbwyntiau. Ym mis Awst eleni, fe fydd y côr yn mynd ar daith i berfformio yn yr Eidal, a chyn hynny yn cynnal cyngerdd pen-blwydd arbennig yng Nghaerdydd lle bydd y côr yn perfformio un o gyfansoddiadau Eilir Owen Griffiths, ‘Requiem’. “Fyswn i ddim yn gwybod am ddiwrnod heb fy mod i ynghlwm ag CF1,” meddai’r arweinydd. “Dw i wedi rhoi oriau ac oriau yn ymarfer y côr. Gobeithio ein bod yn herio, ac wedi gwneud pethe’n wahanol o dro i dro. Un peth dw i’n hapus efo’r côr wastad wedi bod ydi’r egni a’r cyffro y mae’r côr wedi’i greu.”
Un nos Wener hydrefol, mi glywodd dau frawd o Abertawe leisiau nefolaidd yn nhafarn Los Iguanas yng Nghaerdydd... ac fe’u hudwyd o’r foment honno. Rhai o aelodau CF1 oedd yn canu ‘Y Tangnefeddwyr’ – addasiad corawl Eric Jones o gerdd enwog Waldo Williams. Aeth y seiri coed, Robert Williams a’i frawd Paul, atyn nhw ac erbyn nos Lun roedd y ddau yn yr ymarfer yn Eglwys y Crwys. Maen nhw’n rhan o’r côr byth ers hynny. “Mae ’mywyd i wedi newid,” meddai Robert Williams, sy’n faswr fel ei frawd. “Dw i’n teimlo fel bod teulu newydd gyda fi nawr. Bob dydd fi’n dihuno lan, yn hapus achos dw i’n rhan o’r côr gorau yng Nghymru. Dw i’n bod yn biased fynna!” Cafodd ganu’r Tangnefeddwyr yng nghyngerdd Nadolig y côr, meddai. “Mae’r gân yn stunning. Oedd cael bod yn rhan ohono fe, ac wynebu’r gynulleidfa yn deimlad amazing.”
Cyngerdd Dathlu’r 10 Côr CF1, Eglwys St Germans, Caerdydd, Ebrill 27, gyda Garry Owen yn llywio’r noson.
Rhoi min ar y cystadlu Dros y blynyddoedd, mae Eilir Owen Griffiths wedi ennill sawl gwobr gyntaf fel arweinydd yn Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol, yn ogystal â Thlws Cerddor y Genedlaethol yn 2008. Ar ôl cyfnod yn Diwtor Cerdd a Threfnydd Celfyddydol ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant, mae’n Gyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Llangollen. A thrwy’r côr hefyd y cyfarfu â’i wraig, Leah. Fe wnaeth Côr Aelwyd CF1 argraff amlwg ar ôl ennill yn Eisteddfod yr Urdd 2003. “Flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl Tawe Nedd ac Afan, roedd yna Aelwyd newydd. Dw i ddim yn gwybod os mai bai CF1 ydi hynny, ond mi oedd yna deimlad o gystadlu a chystadlu brwd. Oedd o’n exciting i fod yn rhan o hwnnw.” Roedd canu yng nghyngerdd agoriadol Canolfan Mileniwm
Cariadon y côr “Dw i wedi cael cymaint o ffrindiau newydd trwy’r côr – a dw i wedi ffeindio gwraig hyfryd hefyd.” Ymunodd Daniel Tiplady â Chôr CF1 tua phedair blynedd yn ôl a bellach mae’n briod ag un o’r aelodau cynharaf, Sioned Wynne Jones, sy’n disgwyl eu babi cyntaf. Maen nhw’n un o tua 10 o
gyplau sydd yn y côr ar hyn o bryd. “Dw i wedi joio mas draw, ar nifer o lefelau,” meddai. “Dw i wedi gweld pethau yn datblygu. R’yn ni’n gôr sy’n canu lot mewn tafarndai, ond nage jyst rhywbeth cymdeithasol y’n ni. Mae ei wneud i safon yn bwysig. A dw i wastad yn dweud: ro’n i wedi ymuno i ffeindio gwraig.”
16
golwg | mawrth 21 | 2013
Y seren roc a’r slogan ar y sgrîn Portread o Mike Peters
M
ae un o’r prif gymeriadau mewn ffilm newydd am y byd roc a rôl yn gwisgo crys-T ‘Nid Yw Cymru Ar Werth’. Yn Vinyl mae slogan Cymdeithas yr Iaith i’w weld ar frest Phil Daniels, actor sy’n enwog am ei rannau yn Quadrophenia, Eastenders a fideo ‘Parklife’ y band Blur. Mae’r ffilm yn seiliedig ar stori wir am Mike Peters yn ffurfio band ffug ifanc i ffryntio ei sengl newydd ‘45 R.P.M.’ yn 2004, a llwyddo i dwyllo’r byd. Nôl yn y 1980au roedd Mike Peters yn enw mawr, yn canu gyda grŵp The Alarm a fu’n teithio gyda U2 a Bob Dylan a chyrraedd rhif 17 yn y siartiau gyda ‘Sixty Eight Guns’. Ond nid yw’n syndod fod y canwr o Ddyserth ger Y Rhyl wedi rhoi llwyfan amlwg i slogan iaith, yn ôl y dyn wnaeth gyflwyno’r byd Cymraeg i Mike Peters. Ar y pryd roedd Dafydd Timothy yn cadw Siop y Morfa, siop Gymraeg Y Rhyl, ac mi fyddai prif leisydd band enwoca’r fro yn galw draw bob hyn a hyn. “Mi fydda fo’n dod i mewn yn dawel bach, ac yn prynu llyfrau Saesneg ar hanes Cymru. Roedd o’n
ddyn diymhongar, yn amlwg efo diddordeb yn hanes ei wlad,” cofia Dafydd Timothy, sy’ bellach yn gyfieithydd 58 oed sy’n dal i drigo yn Y Rhyl. O’r cychwyn hwnnw fe fyddai Dafydd Timothy yn tywys Mike Peters i faes yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn cyfieithu rhai o ganeuon The Alarm i’r Gymraeg. Mi welodd o’r canwr yn ddiweddar yn Ffair Nadolig Ysgol Gynradd Gymraeg Dewi Sant. “Mae’r ffaith ei fod o’n anfon ei feibion i ysgol Gymraeg yn ddweud mawr ynddo’i hun,” meddai Dafydd Timothy wrth drafod penderfyniad Mike Peters i wisgo Phil Daniels mewn crys-T Cymdeithas yr Iaith yn y ffilm. “Mae hynny’n dangos rhyw barch at y Gymraeg, at y Gymdeithas a’u stans chwyldroadol di-drais,” ychwanega. Ddiwedd y 1980au roedd Mike Peters wedi dod ar ofyn perchennog ei siop Gymraeg leol, eisiau iddo drosi caneuon yr albym Change i’r Gymraeg a’i chyhoeddi yr un adeg dan yr enw Newid. Ar y pryd nid oedd Dafydd Timothy yn gwerthfawrogi cweit pa mor enwog oedd Mike Peters. “Wnaeth o anfon un gân i’w chyfieithu ar y dechrau, ac wedyn ges i alwad am hanner nos un noson – roedd Mike yn ffonio o stiwdio recordio yn Llundain, yn gofyn i mi siarad y geiriau lawr y ffôn. Aeth i drafferth i gael ynganiad y geiriau mor gywir ag oedd bosib. “Wnes i gyfieithu pedair cân yn y diwedd, a daeth yr albym allan fel CD yn Gymraeg yn Japan yn unig. Roedd hynny’n od ar y naw - ond tydw i ddim yn deall sut mae’r sîn roc yn gweithio.” Yn wobr am helpu mi gafodd Dafydd Timothy a’r teulu fynd
Mike Peters
i Lerpwl i weld The Alarm yn chwarae’n fyw. “Roedd y sŵn yn annaearol, yr amps yma wedi eu stacio’n uchel. Bu’n rhaid i ni ofyn am wlân cotwm i’w roi yn ein clustiau.” Daeth Mike Peters ar y ffôn unwaith yn holi a fyddai Dafydd Timothy yn ei dywys o amgylch y maes yn Eisteddfod Llanrwst 1989, a dyna sut y bu iddo gwrdd â Brychan Llŷr o’r band Jess. Ymhen blynyddoedd fe fydden nhw’n ffurfio Mike Peters and The Poets of Justice. Ar ôl gweld y Pafiliwn a’r stondinau, aeth Dafydd Timothy â Mike Peters draw i’r Cremlin, y babell roc i’r ifanc. “Fe aethon ni i’r cefn allan o’r ffordd,” cofia Dafydd Timothy, “ac yn yr un rhes â ni roedd Brychan Llŷr yn eistedd ar ei ben ei hun yn edrych ar y band.
“Mae’r ffaith ei fod o’n anfon ei feibion i ysgol Gymraeg yn ddweud mawr ynddo’i hun...” Phil Daniels yn y crys-T
“Wnes i ddweud wrth Mike: ‘He’s Brychan from Jess, and they’re quite famous’... roedd Brychan yn llygadu Mike, a dyma fi’n cyflwyno’r ddau i’w gilydd. “Felly claim to fame fi oedd cyflwyno Mike i Brychan... hynny a chyfieithu’r caneuon!” Bu Mike Peters a Jess yn cydweithio a chyd-ganu yn y 1990au. Mae Brychan Llŷr yn cofio dyn a oedd yn hoffi chwarae pêl-droed pum bob ochr, ond a oedd yn bennaf yn Gymro cadarn wnaeth dorri ei gŵys unigryw ei hun o fewn y Sîn Roc Gymraeg. “Doedd dim rhaid iddo droi at ganu yn Gymraeg, roedd yn gwneud yn iawn gyda’r stwff Saesneg,” meddai canwr Jess, fydd yn cyhoeddi hunangofiant at ddiwedd y flwyddyn. “Mae’n dipyn o beth ei fod e wedi penderfynu gwneud gwaith yn Gymraeg ac ychwanegu at y Sîn Roc Gymraeg, a dod o’r ochr arall. “Achos os edrychwch chi ar fandiau’r Sîn Roc Gymraeg, maen nhw’n dod o gefndir Cymraeg, nid o gefndir o fod wedi llwyddo yn y maes Saesneg gyda sengl fawr tu cefn iddyn nhw.”
gwaith
ymholiadau@golwg.com
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
CYNGOR GWYNEDD
Cangen Prifysgol Aberystwyth
SWYDDI
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cyllido nifer o swyddi academaidd bob blwyddyn mewn prifysgolion ar draws Cymru. Erbyn hyn cyllidir 56 o ddarlithwyr drwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg mewn ystod eang o bynciau a disgyblaethau. Mae bob un o’r staff yma yn addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal Dyddiad dechrau: 1 MEDI, 2013. â chyfrannu at ysgolheictod a datblygu darpariaeth newydd yn y Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cyllido nifer o swyddi academaidd bob blwyddyn mewn prifysgolion ar draws 72 o blant (3 - 11 oed)Cymru. YsgolErbyn Grŵ pcyllidir 1, Pwyntiau (L7 -drwy L13) £43,521 hyn 56 o ddarlithwyr Gynllun Staffio Academaidd y Coleg mewn ystod eang o bynciau a disgyGymraeg yn eu prifysgolion.
Gwahoddir ceisiadau am y swyddi canlynol yr wythnos hon: Coleg LLANBEDROG Cymraeg Cenedlaethol YSGOL GYNRADD Cangen Prifysgol Aberystwyth
PENNAETH £50,359
blaethau. Mae bob un o’r staff yma yn addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â chyfrannu at ysgolheictod a datblygu darpariaeth newydd yn y Gymraeg yn eu prifysgolion.
FFEDERASIWN YSGOLION DYFFRYN DULAS CORRIS ac YSGOL PENNAL Swyddi Academaidd
PENNAETH
1.
Swyddi Academaidd 1. Darlithydd Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgell
Darlithydd Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgell
Dyddiad dechrau: 1 MEDI, 2013. Y Gyfraith 2. Darlithydd 2. Darlithydd Y Gyfraith Darlithydd Cymraeg Proffesiynol 78 o blant (3 - 11 oed)3.4.Ysgol Grŵp 1, Pwyntiau (L7 - L13) £43,521 Darlithydd Peirianneg Meddalwedd £50,359 3. Darlithydd Cymraeg Proffesiynol Gwahoddir unrhyw rai Gwahoddir sydd â diddordeb sydda angen gwybodaeth ceisiadau am y a/neu swyddi uchod fydd yn cychwyn cyn tymor academaidd 2013/14, i’w lleoli4. ymDarlithydd Mhrifysgol Ab- Peirianneg Meddalwedd Bydd deiliaid y swyddi yn chwarae rhan Swyddog allweddol wrth ehangu darpariaeth brifysgol trwy gyfrwng y Gymychwanegol i drafod ynerystwyth. anffurfiol gyda Mr. Keithhyn Parry (Uwch Gwella y swyddi hyn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ond caiff deiliaid y swyddi eu cyflogi gan y brifysgol. Ansawdd Addysg) Rhif raeg. FfônCyllidir 01286 679588. Ffurflenni cais i’w cael gan y Swyddog Gweinyddol, Uned Cefnogi Addysg, Cyngor Gwynedd, Ffordd y fwy o fanylion: Gwahoddir ceisiadau am y swyddi uchod Cob, Pwllheli, Gwynedd,Am LL53 5AA (Rhif ffôn: 01758 704114), ac i'w www.colegcymraeg.ac.uk/cynllunstaffio tymor academaidd 2013/14, i’w lleoli ym dychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn hanner dydd, Dydd Iau, 18 Ebrill, 2013.
a fydd yn cychwyn cyn Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd deiliaid y swyddi hyn yn chwarae rhan allweddol wrth ehangu darpariaeth brifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg. Cyllidir y swyddi hyn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ond caiff deiliaid y swyddi eu cyflogi gan y brifysgol.
Manylion pellach a ffurflenni am y swyddi yma ar gael ar: logo Coleg cais logo Aberystwyth QR Code www.gwynedd.gov.uk/swyddi www.twitter.com/Cyngor Gwynedd 01286 679076
Am fwy o fanylion: www.colegcymraeg.ac.uk/cynllunstaffio
The above is an advertisement for the posts for a Headteacher at Ysgol Llanbedrog and a Headteacher for the federation of Ysgol Dyffryn Dulas, Corris and Ysgol Pennal for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
www.gwynedd.gov.uk
Os am hysbysebu swydd yn Golwg, cysylltwch â Wendy Griffiths ar:
01570 423529
Golwg
Swyddog Maes Llanelli Cyflog: £17,940-£21,857
Rhan amser: 15 awr yr wythnos. Manylion pellach ar gael drwy ffonio 01239 711668 neu drwy ymweld â’n gwefan: www.iaith.eu Dyddiad cau: 12.00p.m.,Dydd Gwener, 5 Ebrill 2013.
Vacancy for a Field Officer for which post fluent Welsh skills are essential.
I gychwyn 1 Medi 2013
To commence 1 September 2013
YSGOL BRYNGWRAN PENNAETH Cyflog: £43,521 - £50,359 y flwyddyn
YSGOL BRYNGWRAN HEADTEACHER Salary: £43,521 - £50,359 per annum
Mae’r gallu i arwain drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma.
The ability to lead through the medium of Welsh and English is essential for this post.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD GWENER 12 EBRILL 2013
CLOSING DATE: 12 NOON, FRIDAY 12 APRIL 2013
Mae gwybodaeth bellach a ffurflenni cais ar gael ar ein safle gwe www.ynysmon.gov.uk neu drwy ffonio 01248 752914. Ffurflenni cais i’w dychwelyd i sylw Carol Snowden, Adran Dysgu Gydol Oes, Ffordd Glanhwfa, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7EY.
Further details and application forms are available from our website www.anglesey.gov.uk or by telephoning 01248 752914. Application forms to be returned for the attention of Carol Snowden, Lifelong Learning Department, Glanhwfa Road, Llangefni, Anglesey, Ll77 7EY.
18
golwg | mawrth 21 | 2013
YR YSGOL ADDYSG
Darlithydd Addysg Cyf: BU00149 Graddfa 7 neu 8: £30,424 - £44,607 y.f. Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod, sy’n barhaol ac yn llawn-amser a disgwylir iddynt ddechrau 1 Mai 2013. Dylai fod gan ymgeiswyr arbenigedd pwnc arbennig ym maes cwricwlwm addysg awyr agored ac addysg gorfforol yn y sector uwchradd. Dylai ymgeiswyr feddu ar radd berthnasol a chymhwyster dysgu. Mae profiad dysgu diweddar mewn ysgolion yn y DU yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Bydd y cyflog ar y raddfa briodol, yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.
Mae Golwg360 yn chwilio am ohebydd Cyfle i weithio gyda’r gwasanaeth ar-lein sy’n torri tir newydd o ran newyddion Cymraeg. Angen brwdfrydedd am stori a gallu i ysgrifennu’n gryno ac yn dda. Profiad newyddiadurol o fantais ond rydym hefyd yn barod i ystyried pobl addawol, gan gynnig hyfforddiant wrth fynd.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig drwy ein gwefan recriwtio yn jobs.bangor.ac.uk. Fodd bynnag, mewn achosion lle ceir trafferth i fynd at y wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio (01248) 383865.
Lle: Swyddfa Golwg yn Llanbed neu Gaernarfon (Caerdydd hefyd yn bosibilrwydd)
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener, 19 Ebrill 2013.
Dyddiad cau: 25/03/13
Cynhelir cyfweliadau: Dydd Mawrth, 30 Ebrill 2013. Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â Mrs Magi Gould, Pennaeth yr Ysgol Addysg, e-bost: m.gould@bangor.ac.uk, ffôn: (01248) 383053.
Cyflog: £16,000 – 18,000 (yn ddibynnol ar brofiad) Manylion pellach: cysylltwch ag Owain Schiavone neu Bethan Lloyd 01570 423 529 / owainschiavone@golwg.com
W e d i Y m r w y m o i G y f l e C y f a r t a l • C o m m i t t e d To E q u a l O p p o r t u n i t i e s
EISTEDDFODAU
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
RHEOLWR CYFATHREBU Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dymuno penodi unigolyn blaengar a galluog i arwain a gweithredu strategaeth gyfathrebu’r Coleg. Byddwch yn gyfrifol am holl waith cyfathrebu a marchnata’r Coleg, gan gynnwys sicrhau ymwybyddiaeth uchel o’n gwaith ymysg disgyblion ysgol, darpar fyfyrwyr, myfyrwyr, athrawon, darlithwyr a staff prifysgolion, ac ystod o ran-ddeiliaid eraill. Bydd gennych brofiad diweddar mewn rôl arweiniol lwyddiannus ym maes cyfathrebu a marchnata ynghyd â diddordeb byw mewn, a dealltwriaeth o, addysg prifysgol a’r sector addysg uwch cyfrwng Cymraeg.
Cyflog: £38,522 - £40,834 Lleoliad: Caerfyrddin Dyddiad cau: 11 Ebrill 2013
Am fwy o fanylion: www.colegcymraeg.ac.uk/swyddi Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gyflogwr Cyfle Cyfartal
29 Mawrth 2013. Eisteddfod Gadeiriol Llandderfel. Neuadd Bro Derfel, Llandderfel, Bala.1.30 o’r gloch y bore, 6.30 o’r gloch yr hwyr. Mrs Rhian Roberts 01678 530 249 neu Llinos Pritchard 01678 530 263 29, 30 Mawrth 2013. Eisteddfod Gadeiriol Llangadog a’r Cylch, Llangadog. 1.00 dydd Gwener, 5.30 dydd Sadwrn Mrs Morfudd James 01550 777 047 neu 01269 591077 30 Mawrth 2013. Eisteddfod y Groglith Dinas Mawddwy. Neuadd Dinas Mawddwy 11o’r gloch dydd Sadwrn Gwawr Davalan 01650 531 297 gwawrdavalan@btinternet.com 1 Ebrill 2013. Eisteddfod y Pasg, Pandy Tudur. Canolfan Addysg Bro Cernyw, Llangernyw Cyfarfod y pnawn am 12.00; cyfarfod yr hwyr am 7.00. Prysor Williams 07813 392 433 Ebost: prysor.williams@gmail.com 3 Ebrill 2013. Eisteddfod Gadeiriol Capely-Groes, Capel-y-Groes, Llanwnnen, Llanbedr Pont Steffan 1.30 o’r gloch. Ysgrifenyddes; Mrs Ann Davies 01559 362626 12 a 13 Ebrill 2013. Eisteddfod Gadeiriol Mynytho. Neuadd y Pentref, Nos Wener – 6.30, Prynhawn Sadwrn – 12.30, Nos Sadwrn – 6.30. Dilwyn Thomas 01758 740 704 17 - 20 Ebrill 2013. : Gŵyl Ddrama, Theatr Fach, Llangefni , Eisteddfod Môn Bro Cefni. Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Eryl Jones 01248 723243 7774523919 20 Ebrill 2013. Eisteddfod Gadeiriol Y Ffôr, Capel Ebeneser, Y Ffôr, ger Pwllheli. 9.30 o’r gloch y bore 1 o’r gloch y pnawn, 6.30 o’r gloch yr hwyr. Eleri Hughes 01758 750 254 26 a 27 Ebrill 2013. Eisteddfod Gadeiriol Penrhyncoch. Neuadd y Penrhyn, Penrhyncoch 5.30 nos Wener – Lleol, 12.30 dydd Sadwrn a 6.30 yr hwyr . Mairwen Jones 01970 820 642 Ceris Gruffudd rhoshelyg@btinternet.com 27 Ebrill 2013. Eisteddfod Gadeiriol Rhydlewis. Neuadd y Pentref, 2.00 o’r gloch Sadwrn. Dai Rees Davies 01239 851489 daiavera@pendre30.freeserve.co.uk 1 Mai 2013. Eisteddfod Leol i bobl ardal Aberystwyth. MORLAN ABERYSTWYTH - 5pm www.steddfota.org aberystwyth@steddfota.org 01970 623003
3 – 6 Mai 2013. Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid. Pafiliwn Pontrhydfendigaid. Dydd Gwener 5.00, Dydd Sadwrn 1.00. Dydd Llun 2.00. Selwyn a Neli Jones glanrhyd@btopenworld.com 01974 831695 5 Mai 2013. Talwrn y Beirdd: Teulu James Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid. Pafiliwn Pontrhydfendigaid Nos Sul am 7.30 Selwyn a Neli Jones glanrhyd@btopenworld.com 01974 831695 6 Mai 2013. Eisteddfod Gadeiriol Maenclochog, Neuadd Gymunedol Maenclochog 1 o’r gloch. Julie Thomas 01994 448 756 07989 651 339 17 a 18 Mai 2013. EISTEDDFOD MÔN 2013 BRO CEFNI Ysgol Gyfun Llangefni . Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Eryl Jones 01248 723243 07774523919 19 Mai 2013. Gymanfa Ganu, Eisteddfod Môn Bro Cefni. Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Eryl Jones 01248 723243 07774523919 10 Mai 2013. Eisteddfod Mynyddygarreg, Neuadd Mynyddygarreg 5yh Nos Wener. Mansel Thomas 01554 890 172 Cystadleuaeth Cymdeithas Eisteddfodau 2013 11 Mai 2013. Eisteddfod Gadeiriol Yr Hendy, Ysgol Gynradd Yr Hendy. 01792 884 036 11 Mai 2013. Eisteddfod Clynnog Fawr a’r Cylch. Neuadd Bentref, Clynnog Fawr. Gwenda Morus 01286 660349 Eisteddfod i blant dan 16 yn unig. 25 Mai 2013. Eisteddfod Gadeiriol Llanuwchllyn, Neuadd Bentref Llanuwchllyn. Alwyn M Roberts 07818 454 190 18 Mai 2013. Eisteddfod Gadeiriol Llandudoch, Neuadd Goffa Llandudoch. 12.00 yn lleol, 1.30 yn agored, 5.000 sesiwn yr hwyr. Melrose Thomas 01239 615196, Llinos Devonald 01239 614661 27 Mai – 1 Mehefin 2013. Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Benfro 2013, Cilwendeg, Sir Benfro eisteddfod@urdd.org 0845 2571 613 Rhif ffôn tocynnau: 0856 2571 639
AR OSOD Fflat braf, dwy ystafell wely i’w rentu yn Nwyrain Llundain. Rent rhesymol. Cysylltwch ag Elen. Rhif Bocs G108 Golwg Cyf
ymholiadau@golwg.com
19
golwg | mawrth 21 | 2013
diolch ei bod yn gymraes bob dydd
Noson “hudol” efo Cerys Ers blwyddyn mae’r gantores Cerys Matthews wedi bod yn trefnu noson agoriadol gŵyl ryngwladol Womex...
M
ae Cerys Matthews yn siarad fel pwll y môr am draddodiad canu Cymru, ac am roi llwyfan teilwng i’r cyfoeth cerddorol mewn gŵyl fawr yn y brifddinas. Cyn-gantores angerddol y grŵp roc Catatonia sy’n gyfrifol am raglen noson agoriadol cynhadledd ‘cerddoriaeth byd’ Womex, a fydd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd yn yr Hydref. Mae disgwyl i 1,500 o gynadleddwyr o bedwar ban byd – cynhyrchwyr, trefnwyr a hyrwyddwyr cerddoriaeth byd – fod yn rhan o’r dathliad cerddorol yng Nghanolfan y Mileniwm. Gobaith Cerys Matthews yw y bydd pawb yn gadael “gyda gwên fawr” ar ddiwedd y noson, ar ôl gloddesta ar arlwy llawn telynau, alawon gwerin ac emynau, corau meibion, cerdd dant, clocsio a llawer mwy. Mae’n trefnu’n ddiwyd ers blwyddyn a mwy, ond nawr mae’r trefnwyr yn datgan mai hi yw’r Cyfarwyddwr Artistig ac y bydd hi’n perfformio ar y noson. Mi fydd y perfformwyr eraill yn cael eu henwi dros y misoedd nesaf. “Dw i’n fwy am roi llwyfan at ein treftadaeth Gymraeg ni, mwy nag ar enwau,” meddai. “Sa’ i eisiau iddo fe fod fel ryw X-Factor thing neu’r Royal
Variety Show; dw i am iddo fe fod yn naturiol iawn ac yn hudol. Mae gennym ni gymaint o gyfoeth, jest o ran repertoire ein caneuon ni, repertoire ein llenyddiaeth ni… a does neb y tu fas i Gymru yn ’nabod y caneuon, nac yn ’nabod y cyfoeth yma sy’ gyda ni. “Yn syml, dw i’n mynd i iwso’r cyfle yma i groesawu pobol Affrica, India, China, Corea, Latfia, Romania… a dweud wrthyn nhw: ‘dyma be’ ni’n ei wneud!’ “Dw i am roi mwynhad mawr i bobol sydd ddim yn gwybod beth yw Cymru, ond hefyd dw i eisiau i bobol Cymru hefyd gael real syrpreis i glywed hen ganeuon cyfarwydd wedi’u gwneud efo egni ffres a cherddorion o’r byd i gyd yn chwarae caneuon Cymraeg.” Hi sydd wedi dewis y caneuon, y setiau, y dawnswyr a’r cerddorion, y corau - “basically yr holl concept,” meddai’r berfformwraig, sydd hefyd bellach yn awdur plant, yn ddarlledwr teledu, yn siaradwr cyhoeddus ac yn drefnydd. Mae’n hen law ar berfformio’r hen ffefrynnau Cymreig ei hun wrth gwrs – wedi rhoi gwaed newydd yn ngwythiennau rhai o’r hen emynau – ‘Arglwydd Dyma Fi’, ‘Cwm Rhondda’ – a degau o alawon gwerin – ‘Wrth fynd efo Deio i Dywyn’, ‘Migldi Magldi’, ‘Bachgen Bach o Dincar’. Cafodd gymaint o hwyl â’i chasgliad o alawon Cymraeg, Tir, fel ei bod ar fin recordio dilyniant iddo. “Dw i wedi bod yn canu’r caneuon yma trwy’r byd i gyd, ac mae pobol yn eu joio nhw,” meddai. “Dy’n nhw ddim yn
Gwneud i’r byd ganu Bydd Cerys Matthews yn dewis recordiau gan gyfansoddwyr o bedwar ban byd ar ei rhaglen ar BBC 6 Music fore Sul, ac mae ar fin cyhoeddi Hook, Line and Singer gyda gwasg Penguin - caneuon poblogaidd i’r teulu ganu gyda’i gilydd, fel ‘Let’s Go Fly a Kite’ ac ‘Oh Susannah’ gyda’i hanesion personol hi am y caneuon. “I’ve got it in my head that we need to sing more in this world,” meddai.
“Rydym ni’n mynd i fod yn canu i delegates sydd erioed wedi clywed ‘Hen Wlad fy Nhadau’...”
gwybod pa iaith dw i’n siarad. Ond mae’n iaith ryngwladol pan chi’n joio great tunes.”
Corau Meibion yn hanfodol Yn aml wrth deithio, mae Cerys Matthews yn ceisio esbonio’r gwahaniaeth rhwng traddodiad canu Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. “Beth yw e yw’r harmoneiddio greddfol yma,” meddai. “Rydan ni wrth ein boddau yn neidio i mewn, canu am bopeth, bron yn shamanistically. R’yn ni’n credu mewn rhyw hud pan rydan ni’n canu. Mae rhywbeth yn digwydd. Dyna i mi sy’n ein gosod ar wahân i reels yr Alban, neu Iwerddon, a’u math arbennig nhw o gerddoriaeth. “I mi, dyna yw e – y corau meibion, canu ar y terasau, yr harmoneiddio mewn grwpiau bach, a’r mwmial tawel wrth i chi weithio.” Bydd blas rhyngwladol ar noson Womex hefyd, gydag offerynnau Indiaidd, Affricanaidd ac o’r Dwyrain Canol yn rhan o rai perfformiadau. “Os y’ch chi’n edrych ar y byd, mi fyddwch chi’n gweld bod cerddoriaeth wedi teithio am ganrifoedd. Mae e i gyd yn gysylltiedig. Mae’n mynd i fod yn gyffrous iawn.” Fe fydd yna gôr o Fwlgaria yn
canu, yn ogystal â Chôr Meibion Treorci – mae corau meibion yn hanfodol, yn ôl Cerys Matthews. “Mae pŵer mawr mewn côr meibion. Falle rydan ni’n gwbl gyfarwydd ag e. Mae’n ystrydeb i ni. Ond i bobol tu fas i Gymru, smo nhw’n gwybod mai ni yw’r ‘Land of Song’. So let’s tell ’em we are! “Rydym ni’n mynd i fod yn canu i delegates sydd erioed wedi clywed ‘Hen Wlad fy Nhadau’. Smo nhw wedi clywed ‘Calon Lân’ a ‘Chwm Rhondda.’” Er y bydd hi’n perfformio yn y gyngerdd agoriadol, nid amdani hi mae’r noson, meddai. “Mae’r golau ar Gymru a’i threftadaeth. Dw i eisiau i’r noson fod yn lot o hwyl a lot o hiwmor. Does yna ddim pyrotechnics ond bydd digon o hud yn y gerddoriaeth. “Dw i am i ddau beth ddigwydd – eu bod nhw’n gadael gyda gwên fawr a’u bod nhw’n absolutely blown away by a massive singalong at the end!” Mae am wneud hynny trwy daflunio geiriau “un o’r caneuon mawr Cymraeg” –a’r sillafiad ffonetig – ar furiau Canolfan y Mileniwm. “A rhoi dim esgus i neb, hyd yn oed eu bod nhw’n siarad Urdu neu Japaneg… dewch i ganu efo ni.” Non Tudur
20
golwg | mawrth 21 | 2013
yr erotomaniac gymraeg o gaerdydd
Nofel boblogaidd am bwnc “dychrynllyd” M
ae’r llun ar glawr nofel ddiweddaraf Joanna Davies yn debyg i un o gloriau Mills and Boon neu nofel ysgafn i ferched. Ond fe fydd y darllenydd yn cael sioc o ddarllen Ieuan Bythwyrdd. Er ei bod wedi cael ei hysgrifennu mewn arddull ysgafn a phoblogaidd, mae’r nofel yn ymdrin â phroblem ddifrifol iawn - stelcian. Yn y nofel, mae gan y prif gymeriad obsesiwn ag actor enwog ac mae’r ffantasi yn troi’n hunllef wrth iddi fynd i eithafion i gael ei sylw. “Oherwydd bod y clawr dros ben llestri - fe allai pobol feddwl taw ryw chick-lit Mills and Boonaidd yw e,” meddai Joanna Davies. “Ond beth sydd yn ei phen hi yw’r
stwff Mills and Boonaidd; mae’n ail-greu golygfeydd mas o’r ffilmiau adnabyddus y mae’n eu hoffi, gyda hi a fe ynddyn nhw, fel ffantasïau. Erbyn y diwedd, mae’n credu’n llwyr yn y ffantasïau.” Mae’r prif gymeriad, Cassie, sy’n gynhyrchydd teledu yng Nghaerdydd, yn dilyn y sêr trwy gyfrwng Twitter a chylchgronau sgleiniog OK! a Heat. Mae ei hobsesiwn gyda’r actor o Gymru, Ieuan Bythwyrdd, yn troi’n ymddygiad gwallgof gan arwain at dywallt gwaed a ras rhyngddi a’r heddlu dros Bont Hafren. Mae’r nofel yn rhyw fath o rybudd, meddai Joanna Davies, oedd wedi ymchwilio’n i’r pwnc cyn ei hysgrifennu. “Byddwch yn ofalus bod chi ddim yn cwympo dros ben llestri am rywun... a dechrau ffantasïo, achos weithiau mi allith fynd yn beryglus. “Mi allech chi roi’r bai ar y cylchgronau fel OK! a Hello a’r gwefannau sy’n mwydro am y selebs yma byth a beunydd. Felly mae byd
Llun: Paul Elliot
Mae nofel newydd Joanna Davies yn ymdrin ag ‘ymddygiad dychrynllyd’ y stelciwr...
Joanna Davies
y sawl sy’n cael ei stelcian yn cael ei lenwi. Mae’n ddigon rhwydd iddyn nhw ffeindio gwybodaeth am y seleb maen nhw’n dwlu arno, achos maen nhw ymhob man os ydyn nhw’n A-listers, neu hyd yn oed os ydyn nhw’n Z-listers.” Roedd Joanna Davies wedi darllen nifer o adroddiadau seicolegwyr am y gwahanol fath o stelcian wrth ymchwilio i’w nofel ddiweddaraf. Erotomania yw enw’r math o stelcian y mae Cassie yn ei wneud yn y nofel, lle mae rhywun yn dychmygu bod rhywun enwog, neu ‘o statws uwch’, mewn cariad â nhw. “Mae’r person yma rhan fwya’ o’r amser ddim hyd yn oed yn gwybod eu bod nhw’n bodoli,” meddai. Roedd wedi darllen straeon “brawychus” am stelcwyr – fel y rhai oedd yn torri mewn i dai pobol fel y cantorion Rihanna a Madonna, a’r fenyw sy’n trio cyfarfod â’r cyflwynydd Dermot O’Leary mewn digwyddiadau trwy ddweud ei bod hi’n wraig iddo. “Dw i’n teimlo trueni weithiau dros y selebs,” meddai. “Yn enwedig rhai sydd ddim yn mynd i Hello ac yn gwerthu lluniau o’u plant a’u priodasau - y rhai sy’n trio cadw pethau yn breifat ond yn dal i gael eu haslo.” Mae’r nofel hefyd yn dychanu byd y cylchgronau sgleiniog a pha mor faterol ydyn nhw gyda’u pwyslais ar ddillad a gwedd. “Mae Ieuan yn actor ei hun yn obsessed â bod yn seleb. Mae e eisiau bod ar yr A-list, ennill Oscar, eisiau modelu i Burberry... dw i wedi dewis iddo fod yn narsisistig achos mae’n lot mwy o hwyl sgrifennu am rywun fel yna.” Non Tudur * Ieuan Bythwyrdd, Joanna Davies (Gomer, £7.99)
Elfyn Llwyd yn falch Mae’r Aelod Seneddol a’r bargyfreithiwr Elfyn Llwyd, sydd wedi gweithio ar ddiwygio’r gyfraith stelcian, yn falch bod yr awdur yn ymdrin â’r pwnc o ddifri. “Mae ychydig yn annheg i mi ddweud dim amdani heb ei darllen hi,” meddai am y nofel. “Yr unig beth y buaswn i’n dweud amdani yn gyffredinol - a dw i’n siŵr bod pobol yn sylweddoli - nad ydi hwn yn bwnc ar gyfer unrhyw druth ysgafn. Dw i’n falch o glywed ei fod yn cael ei gymryd o ddifri. Mae o’n beth mor ddychrynllyd.” Mi gynhaliodd y gwleidydd o Feirionnydd ymchwiliad annibynnol a chasglu tystiolaeth gan ddioddefwyr stelcian – gan ferched yn bennaf. “Mae o wedi chwalu eu bywydau nhw, wedi creu anhrefn yn eu bywydau nhw, wedi chwalu teuluoedd, wedi golygu iddyn nhw roi’r gorau i’w swyddi, wedi golygu iddyn nhw orfod symud o’u cartrefi a hyd yn oed mewn rhai mannau, trio newid eu henwau ac yn y blaen. Mae o jest yn ddiddiwedd. “Mae o’n ymddygiad dychrynllyd. Yn hanesyddol, mae pobol wedi cymryd yr holl syniad o stelcian yn ysgafn iawn. Mae pobol yn dweud ‘mae o’n licio’r ddynas yma, mae o ar ei hôl hi’n bobman... ’dach chi’n lwcus bod chi’n cael y ffasiwn sylw’. Dydi o ddim yn dderbyniol. “Dw i ddim yn ei weld o’n faes priodol ar gyfer nofel ysgafn. ’Swn i’n ei weld o’n fwy derbyniol ar gyfer nofel arswyd.” Mae’r enwogion yma yn chwarae â thân wrth roi eu gwybodaeth bersonol ar wefannau fel Twitter, yn ôl Elfyn Llwyd. “Mae’r selebs wrth eu boddau yn cael sylw, ac weithiau mae yna bethau anffodus yn dod efo cael gormod o sylw,” meddai. “Ar ddiwedd y dydd, mae pobol yn byw mewn rhyw fyd afreal, yn darllen yr Hello!, yn sbïo ar y rhaglenni yma, yn gwirioni’n lân efo’r holl beth. Ymhob criw o bobol, mae yna rai pobol sy’n mynd i adweithio mewn ffordd anffodus.”
21
golwg | mawrth 21 | 2013
c o r l l e b a yb
Bacon a Nietzsche Ar gefn siaced Radio/Dim Radio, mae gan Mr Twlc sawl dyfyniad diddorol sy’n sail i’w gredo: “In order for the light to shine so brightly, the darkness must be present” – Francis Bacon “He who fights with monsters might take care lest he thereby become a monster” - Nietzsche
‘Rhechfeydd’ ysbrydol mochyn anhysbys Mae gan y Sîn Roc Gymraeg artist sy’n gwrthod datgelu ei enw go-iawn, ond yn fodlon rhannu ei berlau dan y ffugenw Mr Twlc ... ac mae ganddo E.P. newydd o’r enw Radio/Dim Radio... n Pam disgrifio eich cerddoriaeth fel “rhechfeydd electro-diwydiannol”? “Twlc yn hunanwawdio, ond yn y bôn dyna be ydy pob albym celfyddydol nag yw e? Rhech ysbrydol yn gadael y corff. O ddifri, mond trio rhoi disgrifiad o’r sain ôlddiwydiannol electroneg sydd ar recordiau Twlc.” n Mae’r lyrics ar ganeuon Radio/ Dim Radio yn minimalist iawn. Ar y gân ‘Mam’, yr unig eiriau ydy “Be ti isho ar dy fwyd, deud!” - beth yw bwriad bod mor foel a chryno? “Y ffaith fod pobol yn clywed pethau gwahanol yn y gerddoriaeth sydd yn ei wneud e’n arbennig. Dyw Twlc ddim yn dda am ddweud storïau gyda geiriau felly mae’r geiriau prin sydd yn y traciau yna i ychwanegu at naws neu deimlad y trac, yn debyg i offeryn, ac yn cyd-fynd gyda’r gerddoriaeth sydd yn eitha’ minimalist hefyd. [Mae’r geiriau] Fel rhyw fath o slogan ailadroddus sydd yn gwneud i bobol gwestiynu’r neges a chynrychioli ystyr gwahanol i bawb.” n Mae clawr yr E.P. yn ddiddorol, gyda’r teulu niwclear yn eistedd yn gwrando ar y set radio, ond eu hwynebau wedi eu sgriblo drostynt gyda beiro - beth yw’r neges? “Mae’r clawr, fel y gerddoriaeth, wedi’i ddylanwadu rhywfaint gan pop peth post punk. Mae’n atgoffa Twlc o gloriau gan fandiau megis Crass - y teimlad yma o DIY. I ddarllen mwy mewn i’r clawr gellir dweud bod e’n adwaith i normality ac yn dyst i’r ffaith nad yr unigolyn sy’n cyfri i’r cyfryngau neu gymdeithas
fodern. Hynny ydy, ymdrech y cyfryngau mawr a’u meistri i gyflyru’r boblogaeth fel ein bod yn meddwl ac yn ymddwyn yn union yr un fath â’n gilydd. Yn gwrando ar yr un miwsig, bwyta’r un bwyd, pleidleisio i’r un tair plaid. Mae popeth yn y strwythr fodern yn milwra yn erbyn unigolrwydd yr unigolyn. Gellir dweud hynny am y clawr... “ n Ydy teitl yr E.P. - Radio/Dim Radio - yn cyfeirio at y dadlau rhwng Eos a’r BBC? “Yndi, mae’n cyfeirio’n fras at yr anghydfod. Yn syml, un dydd roedd radio Cymraeg a’r nesa’ doedd yna ddim. Cafodd hyn effaith fawr ar nifer o bobol. Collodd y gwrandawyr wasanaeth cyflawn, collodd y cerddorion un o’u prif blatfformau ar gyfer deunydd newydd, collodd staff Radio Cymru llawer noswaith o gwsg yn trio cadw lan ansawdd y gwasanaeth heb un o’r prif gynhwysion. Mae’r ddadl i Twlc wastad wedi bod gyda BBC Llundain, nhw yn y pen draw sy’n rheoli popeth, gan gynnwys eu ‘penaethiaid’ Cymreig. Mae’r berthynas rhwng staff llawr gwlad Radio Cymru a’r boblogaeth yn hynod o agos, ac wrth gwrs maen nhw eisiau gweld y gorau i gerddorion Cymru hefyd. Hoffai Twlc weld BBC Cymru neu Gorfforaeth Ddarlledu annibynnol sy’n wirioneddol wneud penderfyniadau annibynnol yma yng Nghymru. Fydd buddion y cerddorion nac ychwaith Radio Cymru yn cael llawn ystyriaeth tra bod Llundain yn rheoli. Mae hwnna wedi cael ei brofi wrth weld y dirywiad yn y gwasanaeth a’r ffaith fod y BBC yn fodlon rhoi’r staff yng Nghymru dan bwysau yn hytrach na rhoi diwedd ar y monopoli gyda’r PRS.”
“Mae’r ddadl i Twlc wastad wedi bod gyda BBC Llundain, nhw yn y pen draw sy’n rheoli popeth, gan gynnwys eu ‘penaethiaid’ Cymreig...”
n Pam creu’r persona Mr Twlc? “Twlc yn ymwybodol bod llawer o’r Sîn Roc Gymraeg yn dibynnu ar bwy sy’n ‘nabod pwy, y cliciau ffasiynol a.y.y.b. Trwy aros yn anhysbys mae Twlc yn osgoi’r ddilema o gael eu derbyn gan unrhyw ffacsiwn penodol. Hefyd mae Twlc am yr allbwn, y gerddoriaeth, y gelf, yn hytrach na’r personoliaethau tu ôl y prosiect. Gall pobol dderbyn, neu beidio, yn seiliedig ar y cynnyrch yn unig. Yn ogystal â’r absenoldeb o bersonoliaethau unigolion, mae bod yn anhysbys wrth gwrs yn ychwanegu at y dirgelwch, rhywbeth sydd yn rhan annatod o gerddoriaeth Twlc. Tebyg i’r geiriau prin [yn y caneuon minimalist], mae’n ychwanegu at dywyllwch yr holl beth, y dirgelwch o beth yn union sy’n mynd ymlaen gyda Twlc. Does dim digon o dywyllwch yn y Sîn Gymraeg, dim byd gwirioneddol aflonyddus. Prin iawn gall Twlc gymharu dylanwadau gydag unrhywbeth Cymraeg gwaetha’r modd, ond mae’r stwff sy’n dod o stabl [Recordiau] Peski ar hyn o bryd yn gyffrous, Aelod o’r Gorwel ac Odlgymix, yn ogystal â rhechfeydd criw Afiach. Mae yna bethau diddorol yn digwydd mas yna.” Mae’r E.P. Radio/DimRadio am ddim i’w lawrlwytho o’r wefan twlc.bandcamp.com, ac mae modd dilyn Twlc ar soundcloud.com/twlc a facebook, CDs ar gael o sadwrn.com
22
golwg | mawrth 21 | 2013
y calendr
pigion y digwyddiadau celfyddydol
Sadwrn, Mawrth 23 – Sadwrn, Mawrth 30 Rhestr lawnach www.golwg360.com Anfonwch eich digwyddiadau at calendr@golwg.com
CELF EMRYS WILLIAMS Oriel Ffin y Parc, Llanrwst, tan Ebrill 3 Gwaith y peintiwr Emrys Williams a aned yn Lerpwl yn 1958 ond a symudodd i Fae Colwyn gyda’i deulu yn 1969. Astudiodd yn y Slade School of Fine Art yn Llundain. Mae’n artist uchel iawn ei barch a’i luniau mewn casgliadau o Gaerdydd i Efrog Newydd.
MARCHNAD Y PASG Hendre, Bangor, Sul, Mawrth 24 Stondinau gan grefftwyr yr ardal. FFAIR BRIODASAU Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Sul, Mawrth 24 ESTHER ECKLEY Cwch Gwenyn, Aberaeron, tan Sul, Mawrth 31 Tirluniau gan yr artist lleol. DIWRNOD I ELSI Oriel Glyn y Weddw, Llanbedrog, Sadwrn, Mawrth 30 Diwrnod yn dathlu gwaith Mildred Elsi Eldridge i gyd-fynd ag arddangosfa o’i gwaith yn yr oriel tan Ebrill 28. Mi fydd cyfweliad rhwng Tony Brown a Gwydion Thomas trwy Skype; darlith gan Helen WilliamsEllis am fywyd a gwaith Elsi Eldridge; lansio llyfr o gerddi RS Thomas,
Poems to Elsie (Seren), wedi’u golygu gan Damien Walford Davies. Hefyd yn yr oriel, mae arddangosfa FEMINA 28 – gwaith Luned Rhys Parry, Niki Pilkington, Ann Catrin Evans a Lowri Evans.
GIGS
GŴYL GWYDIR HANNER Llanrwst, Sadwrn, Mawrth 30 We Are Animal, Cowbois Rhos Botwnnog, Afal Drwg Efa, DJ Fuzzyfelt – Clwb Legion, Llanrwst Sweet Baboo, Dan Amor, Siddi, Tom ap Dan, Casi Wyn, Rob Dodd – Gardd Gwrw, Tafarn New Inn, Llanrwst.
CABARET PONTIO: CLAUDIA AURORA, A BAND ERYL JONES Neuadd Powis, Bangor, Gwener, Mawrth 22 Cantores sy’n canu alawon gwerin o Bortiwgal, y fado; a grŵp bluegrass a swing Eryl Jones, Billy Thompson, Phil Gardiner ac Alan Wilcox.
SUE DENIM, MEMORY CLINIC, SEN SEGUR, BONE EASIL, BEN HUWS Clwb Cymdeithasol Maesgeirchen, Caernarfon, Gwener, Mawrth 29 Iestyn Jones sydd yn trefnu’r gig yn rhan o daith Deffro’r Deyrnas trwy Gymru.
BASTILLE Solus, Prifysgol Caerdydd, Sadwrn, Mawrth 23
GŴYL CERDDORIAETH GYSEGREDIG Y BYD Llanbedr Pont Steffan, tan Sul, Mawrth 24 NOS SADWRN - Neuadd y Celfyddydau: Cyngerdd - ‘The Armed
MASTERS IN FRANCE Porthaethwy, Mawrth 23
CERDD
Cris Dafis Croesawu’r cyfle i anrhydeddu A
defnyddio hen air poblogaidd yn ardal Llanelli - y byddai’r Beasleys, dw i’n siŵr, wedi bod yn hen gyfarwydd ag e – dw i’n tampan. Yn grac, yn ddig, yn siomedig, nad ydw i wedi gallu gweld yr un o berfformiadau Theatr Genedlaethol Cymru o’i drama ddiweddaraf Dyled Eileen. Nid bai’r Theatr yw hyn – maen nhw wedi teithio’n helaeth i ganolfannau lawer i’w pherfformio – ond oherwydd patrwm bywyd gwaith (a bywyd) hen diwtor fel fi, dw i ddim wedi gallu trefnu bod yn rhydd i’w gweld. Mae’r ymateb cadarnhaol i’r ddrama, a’r canmol mawr sydd wedi bod arni’n fy ngwneud hyd yn oed yn fwy siomedig. Ac er nad ydw i wedi gallu ei gweld, o leiaf mae’r cyhoeddusrwydd o’i chylch wedi’n hatgoffa o frwydr Eileen a Trefor Beasley dros y Gymraeg - brwydr â’i gwreiddiau yn bell cyn i Saunders Lewis alw am chwyldro yn Tynged yr Iaith. Ac wedi gwneud i fi byslo tybed sawl ymgyrchydd lleol brwd arall sydd wedi
mynd yn angof yng Nghymru dros y blynyddoedd. Dyna pam ‘mod i, o leiaf, wedi ‘nghyffroi’n lân â bwriad y llywodraeth i greu system i anrhydeddu Cymry nodedig. Mae angen cydnabod a chofio gweithredoedd lleol gan bobol leol tuag at eu cymunedau. Mae gwleidyddion a sêr Cymru yn cael eu siâr o eilun addoli a chlod - gwobrau, adeiladau, strydoedd, Byrddau Iechyd, er enghraifft, oll yn cadw eu henwau yn fyw. Ond beth am bobol fwy ‘cyffredin’ y mae eu cyfraniadau aruthrol wedi cyfoethogi Cymru gymaint dros y blynyddoedd? Menywod fel Olwen Williams, eto o Lanelli, a gafodd y weledigaeth ac oedd â’r rhuddin cymeriad i ddwyn perswâd ar Awdurdod Addysg i gynnal ysgol gyfrwng Cymraeg gyntaf Cymru. Ble mae’r coffa iddi hi? Petai’r ddwy wraig hyn - Eileen Beasley ac Olwen Williams - yn dal ar dir y byw, hoffwn gredu y byddent ymhlith y cyntaf i dderbyn anrhydeddau newydd Cymru. Dim ond gobeithio mai dyma, yn wir, fydd natur yr anrhydeddau hyn. Ac nad cyfle i wleidyddion ddiolch i’w gilydd a gwobrwyo cyfoethogion a phobol sydd wedi hen adael Cymru y byddan nhw. Amser, mae’n debyg, a ddengys.
23
golwg | mawrth 21 | 2013
NAWS LLE: SUTHERLAND A’R TIRLUN RHAMANTAIDD Oriel y Parc, Tyddewi, tan Orffennaf 8 Mi wnaeth tirlun Sir Benfro argraff ddofn ar yr artist Graham Sutherland (1903 – 1980). Dyma sioe sy’n cynnwys gwaith o gasgliad Amgueddfa Cymru a benthyciad o ddarlun olew pwysig o Tate, ‘Black Landscape’.
Man’, Offeren Heddwch (arweinydd Karl Jenkins) ac ‘Y Tangnefeddwyr’ Eric Jones (arweinydd Eilir Owen Griffiths) gyda Chôr Godre’r Garth, Côr Ger y Lli, Côr y Drindod Dewi Sant. SUL - Capel y Drindod Dewi Sant: Cymundeb a Gorymdaith Sul y Blodau; Neuadd San Pedr: Pryd a Cherddoriaeth Gysegredig; Eglwys San Pedr: Prynhawnol Weddi gyda llafarganu Gregoraidd. KEITH JAMES: THE SONGS OF LEONARD COHEN Eglwys Norwyeg, Bae Caerdydd, Mawrth 28 Teyrnged i ganeuon a cherddi Leonard Cohen. GIG JAZZ Neuadd Hendre, Talybont, ger Bangor, Mercher, Mawrth 27 Gig yng nghwmni rhai o chwaraewyr jazz ifanc mwyaf llwyddiannus sy’n hanu o ogledd Cymru, sy’n gynaelodau o Fand Jazz Ieuenctid Gwynedd a Môn. Yn eu plith mae Josh Harris ar y trombôn, Huw Vaughan Williams ar y bas dwbl, Nathan Williams ar y bas a’r drymiau a Tom Lumleu a Damien Cook ar y sacsoffon.
THEATR HWYLIAU’N CODI (BARA CAWS) Neuadd Goffa Felinheli, Llun, Mawrth 25 Ysgol Uwchradd Botwnnog, Mawrth 26 Canolfan Bro Aled, Llansannan, Mawrth 27 Neuadd Carmel, Caernarfon, Mawrth 28 Canolfan Cynwyd, Mawrth 30 Mae’r cwmni wedi atgyfodi un o’i sioeau rifiws cynhara’, am hanes teulu Davies, perchnogion llongau llewyrchus o Fôn yng nghyfnod teyrnasiad Fictoria. Roedd y cwmni’n gyfrifol am gludo Cymry, glo a nwyddau o bob math o Lerpwl a Llundain i bedwar ban byd. Roedd ochr arall i’r geiniog, a cholledion y llongau’n uchel... Yn y cast mae Rhian Blythe, Rhodri Siôn, Mirain Haf, Gwion Aled a Carwyn Jones. Os bydd yr ymateb yn galonogol, dyhead
y cyfarwyddwr Betsan Llwyd yw creu rhagor o rifiws a sioeau gwleidyddol ar gyfer y cwmni.
DAWNS U. DANCE CYMRU Galeri, Caernarfon, Sul, Mawrth 24 Dathliad cenedlaethol o ddawns ieuenctid, trwy ddod â dawnswyr ifanc dawnus ac aelodau Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru at ei gilydd i greu sioe egnïol ac amrywiol.
LLÊN GŴYL LLENYDDIAETH PLANT Amrywiol lefydd, Caerdydd, tan Sul, Mawrth 24 Yr ŵyl lenyddiaeth gyntaf i blant yn y brifddinas. Cyfle i wrando ar awduron a darlunwyr llyfrau i blant. Mi fydd yr awdur Ion Thomas yn gofyn i’r awduron poblogaidd Bethan Gwanas a Gareth F Williams ‘Ble mae’r Twilight Cymraeg?’ yn Neuadd Dewi Sant, dydd Sadwrn am 2pm. Am 3pm yn Stori Caerdydd, yr Aes, bydd yn trafod ei nofel Sombis Rygbi (addasiad Cymraeg o lyfr Dan Anthony Rugby Zombies) yng nghwmni zombis gwadd; a’r bardd Eurig Salisbury yn rhannu llwyfan gydag Anni ac Owain o’r rhaglen Stwnsh ar S4C, yn Theatr Reardon Smith yn yr Amgueddfa Genedlaethol ddydd Sul - amrywiaeth o farddoniaeth, geiriau a gemau gwyllt. GŴYL GYDA’N GILYDD DILYN YR ASYN - Neuadd Dihewyd, Sul, Mawrth 24 Pererindod ar droed neu yn y car i Eglwys Ciliau Aeron. DW I’N CREDU MOD I’N CREDU - Neuadd Talsarn, Llun, Mawrth 25 Trafodaeth agored yng nghwmni Cynog Dafis a Dylan Iorwerth. ARGLWYDD JONA: RHWNG Y GROES A’R ATGYFODIAD - Festri Tyngwndwn, Felinfach, Dyffryn Aeron, Mawrth, Mawrth 26 Sgwrs gan Patrick Thomas. GWEINIDOGAETH Y FRO A’R GÂN - Capel Cilie Aeron, Mercher, Mawrth 27 Tecwyn Ifan yn diddanu.
Pobol a diwylliant
Gerallt, y Mochyn Du a’r ‘Hen Go’... Mae Caio Iwan yn astudio newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn cael blas garw ar fywyd yn y brifddinas...
M
ae yna lawer i’w ddweud dros fyw ym mhrifddinas Cymru. Dw i’n meddwl mai’r peth gorau ydi bod ystod eang o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yma’n gyson. Mae’r wythnosau diwetha’, dw i’n teimlo, yn adlewyrchu hynny i’r dim. Dyma rai o’r uchafbwyntiau... Ar Ddydd Gŵyl Dewi, cynhaliwyd cystadleuaeth Cân i Gymru yn y Gyfnewidfa Lo ym Mae Caerdydd. I ategu barn y mwyafrif oedd yno ar y noson, hon oedd y CIG (dw i’n casáu’r talfyriad) orau i mi weld o ran effeithlonrwydd y noson a safon y caneuon. Ella bod fy mrwdfrydedd wedi’i danio ymhellach gan ein bod ni a oedd yn ddigon lwcus i fod yno, wedi cael ein swyno gan berfformiadau byw’r noson (tydi’r rhaglen deledu byth yn gwneud cyfiawnder â chyngerdd/gig/cystadleuaeth fyw). Ond roedd y fformat newydd yn chwa o awyr iach ac fe goronwyd enillwyr teilwng iawn. Dw i’n gobeithio gawn ni weld mwy o Rhys Gwynfor hefyd – mae canwr y band Jessop & The Squares (neu Jessop a’r Sgweiri) yn ffryntman naturiol ac i weld yn mwynhau pob munud o fod ar lwyfan. Fel llawer o bobol, ges i fy ysbrydoli gan raglen yn olrhain hanes y bardd Gerallt Lloyd Owen yn ddiweddar. Fy ysbrydoli gymaint nes f’ysgogi i fenthyg llyfrau o gasgliadau ei gerddi o’r llyfrgell, yn ogystal â detholion o rai cynnar TH Parry Williams. Wnes i erioed wneud hynny pan oedd yn rhaid eu hastudio yn yr ysgol! Ond fe ddaeth y llyfrau yn handi, ynghyd
GWEITHGAREDDAU GWYLIAU’R PASG Caerdydd, Llun, Mawrth 25 – Gwener, Ebrill 5 Amserlen lawn ac amrywiol i blant cynradd y brifddinas – o sesiwn rafftio dŵr gwyn i weithdai crochenwaith, crefft a choginio; a diwrnodau chwaraeon a gweithdai criced, athletau a thenis mewn partneriaeth ag adran chwaraeon yr Urdd. Manylion ar wefan Menter Caerdydd.
â photeli o gwrw rhad, ar noson enedigaeth mab un o fy ffrindiau pennaf penwythnos diwetha’. Adrodd cerddi T. H. a chodi gwydr i’r newyddddyfodiad rhwng caneuon Iwcs a Doyle tan oriau mân y bora - be’ all fod yn well na hynny? Wel doedd y dydd Sadwrn canlynol ddim yn ddrwg ‘chwaith. Caerdydd oedd yr unig le i fod ar gyfer penwythnos olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a’r gêm dyngedfennol Caio Iwan rhwng Cymru a Lloegr. Pwy fyddai wedi gallu rhagweld y fath ganlyniad, gyda llaw? Roedd adroddiadau yn honni fod tua chwarter miliwn o gefnogwyr wedi heidio i’r ddinas ar gyfer y gêm - a byswn i’n synnu dim fod y rhan fwyaf o’r rheiny wedi gwthio eu ffordd i mewn i’r Mochyn Du. Mae’n siŵr nad oedd dim i guro’r teimlad o fod yno yn y stadiwm, ond roedd bod yn y dafarn honno yn ail agos i hynny byswn i’n tybio. Hynny ydi, cyn belled nad oedd ots gennych chi gael eich trochi gan gawodydd di-baid o gwrw bob tro roedd Cymru’n sgorio. Hynny a chiwio am chwarter awr er mwyn cael peth yn y lle cynta’. Wedyn, gyda’r fuddugoliaeth hanesyddol heb gael cyfle i suddo mewn yn iawn eto, roedd gig Dafydd Iwan a’r Band yng Nghlwb Ifor Bach yn galw. Doeddwn i heb weld yr Hen Go yn chwarae’n fyw ers amser hir - ond dydi o byth yn siomi chwarae teg. Ffordd dda o goroni diwrnod bythgofiadwy. Yn olaf, braf oedd gweld cyfres boblogaidd Gwaith/Cartref yn dychwelyd i’r sgrin fach nos Sul. Bydd colled ar ôl Teulu, ond o leia’ ni fydd raid gorfod gwylio gymaint o affairs yn digwydd. Wel, dim gymaint beth bynnag...
TUDUR DYLAN JONES Yr Institiwt, Gorseinon, Abertawe, Llun, Mawrth 25 Y Prifardd a fydd yn trafod barddoniaeth gyfoes a’i waith ei hun. Y BILIWNYDD EGSENTRIG: YR ARGLWYDD DE WALDEN A GŴYL Y CYMRY Ysgol Gymuned, Bodffordd, Ynys Môn, Llun, Mawrth 25 Darlith gan Hazel Walford Davies.
PARIS Y Mochyn Du, Caerdydd, Mercher, Mawrth 27 Yr awdur Wiliam Owen Roberts yn sgwrsio am ei nofel hirddisgwyliedig, Paris, y dilyniant i Petrograd. Croeso i bawb. UN NOS OLA LEUAD Gwesty Mynydd Ednyfed, Cricieth, Iau, Mawrth 28 Cyflwyniad ar ôl cinio gan J Elwyn Hughes ar gyfer Cylch Cinio y Ddwy Afon.
24
golwg | mawrth 21 | 2013
Guardian Ddrwg
Llun: Emyr Young
Enw: Catrin Rogers Enw Twitter: @catrin_ntw Lleoliad: Caerdydd Gwaith / Diddordebau: Swyddog y Wasg gyda’r National Theatre Wales Dilyn: 1,682 Dilynwyr: 1,755
@catrin_ntw Pa mor ddibynnol ydych chi ar Twitter? Dw i’n gaeth i Twitter bron bob dydd, drwy’r dydd. Peth cyntaf yn y bore, mi fydda’ i’n gweld pwy sydd wedi dweud beth yn ystod y nos - am y sioeau rydan ni’n eu creu, am be’ mae fy ffrindiau i wedi bod wrthi, be ydy’r straeon newyddion a’r pynciau llosg mawr. Mae yna gymaint i’w ddarllen. Sut ydych yn elwa ohono o ran eich gwaith? Mae gwaith a phresenoldeb digidol yn hollbwysig i National Theatre Wales, felly mae Twitter ynghlwm â’n gwaith pob dydd - dyna sut fyddwn ni’n rhannu newyddion o’r stafell ymarfer (fideos, lluniau ac yn y blaen, neu fanylion am ddigwyddiadau anarferol fel gweithdai). Mae Twitter yn ffordd wych i mi gadw mewn cysylltiad uniongyrchol gyda blogwyr a newyddiadurwyr yng Nghymru a thu hwnt - mae anfon neges uniongyrchol at rywun penodol am sioe yn eu hardal nhw yn gallu bod yn haws na pharatoi datganiad hir, mwy amhersonol. Ychydig fisoedd yn ôl, es i gyfarfod @cdfblogs grŵp o flogwyr ar bob math o bynciau, sy’n cwrdd yn gyson yng Nghaerdydd i gymharu eu profiadau a’u syniadau. O fewn dim fe wnes i lond llaw o gysylltiadau oedd yn trydar am ddigwyddiadau yn y ddinas, ac oedd â diddordeb mawr yn y byd theatr. Diolch i hynny, mi fu criw mawr o bobol yn trydar yn ystod ein sioe ddiwethaf, De Gabay - sioe safle-benodol gafodd ei pherfformio dros Tre-Biwt. Daeth y syniad am y sioe gan grŵp o feirdd Somali yn NhreBiwt oedd eisiau gwneud darn o waith theatr am eu profiad o fyw yna, ac am y camddealltwriaeth taw môr-ladron yw Somaliaid. Trwy Twitter gwnaeth llawer o bobol eraill ddilyn y sioe ar-lein, neu ddod i wylio ar y diwrnod. Dw i’n siŵr bod y gynulleidfa ddigidol wedi gweld pa groeso sydd i bobol yn Nhre-Biwt - roedd hwnna’n neges bwysig iawn i’w rannu.
Dw i nawr yn paratoi ar gyfer cyfnod preswyl National Theatre Wales ar Ynys Môn ym mis Mehefin - mi fyddwn yna am fis yn creu gwaith newydd, cynnal gigs gan fandiau lleol, helpu artistiaid ar yr ynys i ddatblygu eu gwaith ac yn y blaen. Dw i’n creu darlun o broffil digidol yr ynys - a bydd Twitter yn hollbwysig ar gyfer y gwaith ymchwil. Pwy a ŵyr pa ffrindiau newydd fydda’ i’n ffeindio? Pa mor ddidwyll ydych chi ar Twitter? Dw i ddim yn swil am rannu teimladau personol ar fy nghyfrif gwaith - wrth gwrs, rhaid bod yn sensitif a phroffesiynol, ond mae’n bosib gwneud hynny a dangos synnwyr hiwmor, rhannu jôcs a bod yn onest. Pa drydarwyr ydych yn eu hedmygu? Mae @bynickdavies yn arwr i mi, ac yn trydar yn wych ar newyddion yn ymwneud â’r cyfryngau ym Mhrydain. Yn ddiweddar dw i wedi bod yn cydweithio gyda @hassanpanero - bardd Somali o Dre-Biwt yng Nghaerdydd sy’n trydar pytiau o farddoniaeth ysbrydoledig dros ben. Dw i’n hoff iawn o fwyd, ac mae @jayrayner1 yn arbenigwr. Mae’n gallu trydar am ei frecwast mewn ffordd sy’n gwneud i mi chwerthin ac eisiau bwyd. Ac mae @bethanelfyn wedi deall Twitter i’r dim - mae’n rhannu tips am fandiau a’i barn bersonol hi. Dw i wastad yn dysgu rhywbeth newydd ganddi. Ai hwb i’r ego yw Twitter? Mae Twitter yn meritocracy - os nad oes gynnoch chi rywbeth diddorol i’w ddweud, fydd neb yn eich dilyn chi. Os allwch chi fod yn ffraeth fel @charltonbrooker, mae’n werth rhannu’ch syniadau, ond fel arfer does dim lle am ego o gwbl ar Twitter. Os oes rhywun yn eich diflasu, peidiwch â’u dilyn!
Chwarae teg i bapur newydd y Guardian am ganmol asgellwyr Cymru wedi’r fuddugoliaeth fwya’ erioed... ‘Cuthbert and North, ironically both born in England, looked a class above their opposite numbers...’ Onid yw’n rhyfedd o beth, pan fydd Lloegr yn ennill gêm, nad oes fyth sôn bod eu canolwr Manu Tuilagi wedi ei eni yn Samoa a’u prop Maku Vunipola yn frodor o Seland Newydd? Fe gofiwn hefyd i’r pyndit rygbi Dewi Morris chwarae’n safle’r mewnwr i’r Saeson, er iddo gael ei eni yng Nghrughywel a’i enwi ar ôl ein nawddsant. Eironig iawn ynte...
Ond chwarae teg i Ian Chadband ‘Pwy aflwydd ydy Ian Chadband?’... prif ohebydd chwaraeon y Daily Telegraph, oedd yn credu bod buddugoliaeth Cymru ymysg y gorau erioed yn hen hanes y Bencampwriaeth... ‘Not just because of the unbeatable atmosphere but through the sheer awesome force of the Welsh performance, arguably the best in Six Nations annals. It was almost a shame they could not slide back the roof so, as Max Boyce wished, God could have watched them play.’
Nid pawb sy’n licio côr Tydi pawb ddim yn gwirioni’r un fath, ac roedd Gwion Owain yn defnyddio ei gyfrif twitter wrth wylio rhaglen cystadleuaeth côr S4C nos Sadwrn... ‘Diolch byth bod fy rhieni yn rhy ddosbarth gweithiol i ‘ngyrru i Glanaethwy - ne fyswn i wedi troi allan fatha’r shits bach chwdlyd yma ‘fyd!!! Côr bleimi!
25
golwg | mawrth 21 | 2013
ar y bocs “...mae’n bleser dychwelyd i’r
Dylan Wyn Williams
‘stafell ddosbarth a mwynhau awr yng nghwmni cymeriadau rydych chi’n malio amdanyn nhw.”
Dysg a dawn
Golwg ar raglenni'r wythnos Iolo a gwyrthiau bach y gwanwyn
M
addeuwch i mi am fod braidd yn ddwl/ara’ deg drannoeth llesmair y Gêm Enfawr. Dyna lle’r oeddwn i’n awchu am bennod gyntaf o Gwaith Cartref, ac yn ddiolchgar am grynodeb agoriadol o’r un ddiwethaf er yn dal mewn penbleth. Ble mae Simon Watkins ar ôl i’w ddyweddi fachu’i ffrind gorau, a beth ydi hanes Nerys Edwards yr athrawes ddrama? Mae Beca, yr athrawes ymarfer corff drwblus, hefyd yn absennol. Ond dyna ydi hanfod ysgol, debyg, lle mae athrawon yn symud i borfeydd brasach neu’n gadael dan straen targedau’r Tsar Addysg Leighton Andrews, ac enwau newydd ar y gofrestr fel y disgyblion hwythau. Ac mae ’na sawl wyneb newydd ym Mro Taf y tymor hwn, rhwng Mr Aled Jenkins (Gareth Jewell) Cerdd sy’n llwyddo i wylltio a swyno’r Dirprwy o bosib; Miss Llinos Preece (Elin Phillips) Gwyddoniaeth gydag obsesiwn colli pwysau; a Brynmor Davies (Bryn Fôn) sy’n dod i achub yr adran Fathemateg â dos go dda o ddisgyblaeth hen ffasiwn. Mae ’na botensial am densiwn annioddefol wedi i’r fam newydd Sara Harries (Lauren Phillips) ddychwelyd i’r adran Gelf a gwneud llygaid ‘lladdai nhw’ ar Dan a Grug o bell. Ond yr elfen orau heb os yw’r hiwmor sy’n britho’r awr, yn enwedig golygfeydd Gemma Haddon (Siw Hughes) a Gwen Lloyd (Rhian Morgan) sydd efallai’n destun edmygedd benywaidd arall. Does dim angen i Rhodri Evans agor ei geg fel y Pennaeth Rhydian Ellis, gan fod ei
osgo a’i stumiau yn gelfydd o gomic wrth geisio cadw trefn ar staff sy’n fwy o lond llaw na’r plant, a chodi’i Ysgol o gywilydd gwaelodion Band 4. Ond ai fi yw’r unig un sy’n meddwl bod Wyn Rowlands Cymraeg (Richard Elis) yn fwy o gymeriad panto nag erioed, yn llawn sylwadau coeglyd ac yn rholio’i lygaid yng nghefn pawb? Dim ond cyfres neu ddwy yn ôl roedd y ffŵl diniwed hwn yn hen snichyn budr gyda’r genod. Ond ar y cyfan, mae’n bleser dychwelyd i’r ’stafell ddosbarth a mwynhau awr yng nghwmni cymeriadau rydych chi’n malio amdanyn nhw. Prin gallwn i ddweud yr un peth am gymeriadau Teulu yn anffodus, a fu’n cicio a brathu, gweiddi a godinebu am bum cyfres cyn cymodi mewn glân briodas yn y Cei. Er, mae rhywun yn amau y bydd Llŷr unig druan yn paffio yn erbyn ei gysgod ei hun am byth ym Mryncelyn, ar ôl cael allweddi’r aelwyd gan ei fam. Er mai dim ond y bennod olaf welais i, does dim dwywaith ei bod hi’n boblogaidd – llwyddodd y bennod gyntaf i ddenu 67,000 o wylwyr nôl ym mis Ionawr, bron ddwywaith gymaint â ffarwel fawr Alys - a’i bod hi’n wledd i’r llygaid yn y dyddiau darbodus blin ohoni, ond roedd i’n bryd cau pen y mwdwl. Mi fydd hi’n chwith heb gyfraniadau trydar @DrJohnFfug bob nos Sul hefyd. Pwy a ŵyr, efallai y gwelwn ni’r Morganiaid ac Aberaeron hirfelyn tesog yn ôl am sbesials yn y dyfodol. Wedi’r cwbl, mae cenhedlaeth ifanc a hen hen stejars Dallas (Channel 5) newydd gladdu JR yr wythnos hon.
Bydd S4C yn dod â drama ryfeddol gwanwyn Cymru i’r sgrin yn y gyfres Natur: Y Gwanwyn gyda Iolo Williams yn dilyn y tymor newydd wrth iddo flaguro. “Mi fyddwn ni’n mynd i Ddolydd Hafren i weld sgwarnogod a phob math o adar y dŵr; i Ynys Môn yng nghwmni Manon Keir i weld y wiwer goch ac mi fydda’ i’n mynd i hen fwynglawdd aur ym Mharc Cenedlaethol Eryri gyda’r ecolegydd, Dafydd Roberts. “Mae yna lond trol o naturiaethwyr gwych o bob oed, rhai fel Twm Elias, Rhys Gwyn ac Ivy Evans ac mae’n braf eu clywed yn siarad a sgwrsio ar Natur: Y Gwanwyn.” Ond annog pobol i godi a mynd ar eu hantur eu hunain yw prif nod y gyfres fer hon yn ôl y cyflwynydd sydd yr un mor angerddol am fyd natur heddiw ag yr oedd o yn bump oed. “Dw i wirioneddol yn gobeithio y bydd Natur: Y Gwanwyn yn annog pobol i godi oddi ar y soffa a mynd allan i fwynhau cefn gwlad. Os wyt ti allan yn y wlad, yn yr ardd gefn, neu hyd yn oed os wyt ti yng nghanol dinas, mae ‘na gymaint o bethau gwych i’w gweld a’u mwynhau. Cadw meddwl plentyn yw’r gyfrinach; y chwilfrydedd hwnnw. • Natur: Y Gwanwyn Nos Lun, Mawrth 25 – Nos Wener, Mawrth 29 am 8.25, S4C
Uchafbwyntiau Wrecsam yn Wembley Tîm profiadol Sgorio fydd yn cyflwyno uchafbwyntiau Grimsby Town v Wrecsam yn rownd derfynol Tlws FA Lloegr nos Sul. Dyma’r tro cyntaf erioed i dîm Wrecsam chwarae ar faes chwedlonol Wembley ac yn dilyn sawl tymor anodd i’r clwb, mae’r trip i Wembley yn achlysur i’w fwynhau. “Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai cymysg i’r clwb,” meddai sylwebydd Sgorio Malcolm Allen. “Ond gall neb gymryd y diwrnod yma oddi wrthyn nhw ac mae’n ddiwrnod y mae pawb – y chwaraewyr, y cefnogwyr a’r swyddogion - yn llawn haeddu ei fwynhau. “Rhaid canmol pawb sydd wedi bod yn weithgar gyda’r clwb am eu llwyddiannau o ystyried lle roedden nhw dair blynedd yn ôl. A thra bydd un llygad wedi ei hoelio’n gadarn ar ennill dyrchafiad yn ôl i’r gynghrair, gallan nhw roi hynny o’r neilltu am y tro a mwynhau eu diwrnod mawr yn Wembley.” • Sgorio: Grimsby Town v Wrecsam Nos Sul, Mawrth 24 am 7.30, S4C
26
golwg | mawrth 21 | 2013
chwaraeon Holl newyddion chwaraeon diweddaraf ar ...
Cymru 30 Lloegr 3
“... gofynnir bellach i Undeb Rygbi Cymru, sydd wedi bod ar flaen y gad yn nhwf a datblygiad y tîm cenedlaethol, i achub y dydd ar ein rhanbarthau.”
Cafiâr a siampên i’r criw cyfan!
Lluniau: Huw Evans
Y gêm yn erbyn Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm oedd perfformiad gorau’r crysau cochion ers 1953, yn ôl Alun Wyn Bevan...
D
iwrnod i’r brenin!” “Yn dilyn diwrnod y trwynau coch, fe geson ni ddiwrnod y crys
coch.” “Colosseum y Cymry yn datblygu’n theatr breuddwydion!” “Unwaith ac am byth, fe stwffon ni Statud Rhuddlan 1284, Deddf Uno 1536, a Brad y Llyfrau Gleision lawr eu gwddwge nhw!” “Â chwarter awr yn weddill roedd un Sais ar fy mhwys i yn sydyn wedi cofio fod ei hen fam-gu yn hanu o Fochriw!”
Ffaith!
Yn dilyn gêm Camp Lawn 2012 yn erbyn Ffrainc yng Nghaerdydd ac yn dilyn penderfyniad Warren Gatland
i efelychu campau Bob the Builder yn ei gartre’ yn Hamilton, yn ogystal â’i benodiad yn hyfforddwr y Llewod, aeth canlyniadau’r crysau cochion o ddrwg i waeth. Collwyd wyth gêm yn olynol gyda nifer fawr o ohebyddion rygbi a chefnogwyr (ro’n i’n sicr yn un ohonyn nhw) yn dechrau colli ffydd â’r gyfundrefn ac yn dechrau amau gallu Robert Howley (a’i hyfforddwyr wrth gefn) i arwain ac ysbrydoli. Hyd yn oed adeg y buddugoliaethau yn erbyn Ffrainc, yr Eidal a’r Alban yn 2013 roedd y cylchgrawn hwn yn canolbwyntio ar ddiffygion a gwendidau. Cofiwch doedd dim rhaid i chi gytuno. Yn ôl Leo Tolstoy, ‘All
newspaper and journalistic activity is an intellectual brothel from which there is no retreat’. A bod yn onest, ro’n i ac eraill yn dechrau anobeithio ac yn ei gweld hi’n anodd dod o hyd i lygedyn o oleuni. Ond mae yna un peth r’yn ni’r Cymry yn ei wneud yn well na neb arall - barnu, beirniadu a bychanu! Mae’r perfformiadau cofiadwy mas yn Seland Newydd yn 2011 a buddugoliaethau Tymor Camp Lawn 2012 yn rhan o hanes ac yn ddim mwy na chofnod dibwys ar dapiau digidol. Heb unrhyw amheuaeth roedd yna gryn ddiflastod ac anfodlonrwydd ynglŷn â safon chwarae’r tîm cenedlaethol.
Ffaith!
Roedd yna ddiddordeb anhygoel yn y gêm a phan mae papurau Llundain, yn ogystal â radio a theledu, yn ychwanegu at yr hype mae’r tensiwn a’r tyndra yn cynyddu. Roedd bwletinau newyddion yng Nghymru a Lloegr yn frith o’r newyddion diweddaraf am anafiadau a thactegau. Roedd Cymru a’i phobol yn bonkers... stretch-limos ar y draffordd, cennin pedr yn sefyll yn dalsyth ym môn y cloddiau a chrysau rygbi cochion yn wisg hanfodol y diwrnod. Roedd hon, yn ôl papurau Llundain, yn debygol o fod yn glasur gyda bron pob gohebydd yn darogan Camp Lawn i Loegr. Roedd Will Greenwood yn The
27
golwg | mawrth 21 | 2013
Ceisiau’r gystadleuaeth: • Alex Cuthbert - Cymru v Lloegr (yr ail gais) • Wesley Fofana - Ffrainc v Lloegr • Simon Zebo – Iwerddon v Cymru
• Alex Cuthbert - Cymru v Lloegr (y cais cynta’) • Stuart Hogg – Yr Alban v yr Eidal
Chwaraewr Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2013: Leigh Halfpenny
Nifer y Cymry i deithio i Awstralia yn yr haf: 17
Ffantasi Daily Telegraph ddim yn gallu gweld fel gallai Lloegr golli ac Austin Healey ar Trydar yn fodlon cyflwyno punt i bob Cymro a gysylltai petai Lloegr yn colli!
Beth petai Alain Roland wedi cyflwyno carden felen yn hytrach na choch i Sam Warburton ym Mharc Eden, Auckland yn 2011? Tybed, a fydde Cymru wedi hawlio Cwpan Rygbi’r Byd?
Ffaith
Ffaith
Oddiar yr ornest gyntaf un ar gae Mr Richardson yn Blackheath yn 1881, hon oedd un o’r buddugoliaethau gorau erioed i Gymru yn erbyn yr hen elyn ac i ddyfynnu Napoleon Bonoparte, ‘Not victory, annihilation’. Roedd JPR Williams yn proffwydo buddugoliaeth i Gymru a hynny o glydwch ei sedd yn yr eisteddle cyn y gic gynta’ – “From the moment the first note of Hen Wlad Fy Nhadau rang out there was no way back”.
Yn dilyn eu perfformiad y Sadwrn diwetha’ r’yn ni’n gwbl ymwybodol fod gan Gymru garfan sy’n ddigon da i ennill Cwpan Webb Ellis yn Lloegr yn 2015. Profwyd y Sadwrn diwetha’ fod y gêm wedi newid yn chwyldroadol a bod rygbi bellach yn ymdebygu rhywfaint i Bêl-droed Americanaidd heb yr offer diogelwch. Mae’r chwaraewyr yn peryglu’u bywydau drwy hyrddio’n gwbl ddi-ofn ac yn ddifeddwl at ei gilydd ond yn
Rheswm i ddathlu, ond...
B
Leigh Halfpenny
Do, tanberfformiodd Cymru am ddeufis o’r gystadleuaeth ond yng nghrochan berwedig Stadiwm y Mileniwm tawelwyd grym y gelyn gan berfformiad gorau’r crysau cochion oddiar 1953 pan loriwyd y Crysau Duon ar Barc yr Arfau. Roedd y fuddugoliaeth yn un glir, y perfformiad yn un di-nam, y chwaraewyr ar yr un donfedd, y camgymeriadau’n brin a’r tîm cyfan yn ymateb yn bositif i gyngor Robert Howley a’i griw. Ac roedd Howley, McBryde, ac Edwards yn arwyr; maen nhw wedi bod o dan y lach, wedi derbyn beirniadaeth lem ond mewn gêm oedd yn gystadleuol, yn gyffrous a chynhyrfus profwyd eu bod yn feistri yn y maes ac yn fwy na pharod i arwain y wlad yn dilyn ymadawiad Warren Gatland. Ac fe allai’r fuddugoliaeth fod wedi bod yn fwy o lawer - petai Mike Brown wedi torri’i ‘winedd fore’r gêm fyddai George North wedi hawlio cais arall a phetai cic adlam gynta’ Dan Biggar fodfeddi i’r dde yna galle Cymru fod wedi croesi’r deugain pwynt.
Phil Stead
bwysicach fyth, yng nghyd-destun y feirniadaeth, tystiwyd nad yw’r ochr greadigol wedi’i diystyru. Crëwyd cyfleoedd a llwyddodd y chwaraewyr yn y crysau coch ddangos yn glir fod modd i’r ceffylau gwedd ymdebygu i ddawnswyr bale.
Be’ nesa’?
Un sydd wedi bwrw prentisiaeth o dan gapteniaeth Warren Gatland yw’r Cymro tanbaid a Cheidwad y Cledd, Robin McBryde. Gan fydd o leia’ pymtheg, os nad mwy, o Gymry yn teithio gyda’r Llewod i Awstralia yn yr haf fe fydd y gogleddwr yn gyfrifol am arwain carfan o Gymry ifanc mas i Japan. Fe gofiwch chi mai yno y cyflwynwyd capiau am y tro cynta’ i nifer o hoelion wyth y genedl - chwaraewyr o galibr Dwayne Peel, Gavin Henson a Tom Shanklin – ac fe fydd hi’n ddiddorol gweld sut fydd rhai o sêr y dyfodol yn ymateb i’r her. Proffwydaf y bydd Eli Walker, Rhys Patchell, Rhodri Williams, James King, Morgan Allen, Rhodri Jones, Sam Lewis, Owen Williams a Samson Lee ymhlith y rhai a fydd yn gwisgo’r crys coch mas yn Osaka a Tokyo.
Ffaith neu ffantasi?
Mae llawer wedi cael ei ysgrifennu’n ddiweddar ynglŷn â thranc y bêl hirgron yng Nghymru. Mae’r fuddugoliaeth swmpus yng Nghaerdydd y Sadwrn diwetha’ wedi codi proffil rygbi yng Nghymru. Ond gofynnir bellach i Undeb Rygbi Cymru, sydd wedi bod ar flaen y gad yn nhwf a datblygiad y tîm cenedlaethol, i achub y dydd ar ein rhanbarthau. O hyn allan rhaid sicrhau fod y Scarlets, y Gweilch, y Gleision a’r Dreigiau yn cystadlu am brif anrhydeddau’r byd rygbi.
uasech chi’n meddwl y buasai pawb yn hapus fore dydd Sul ar ôl i Gymru guro Lloegr i ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad - roedd y gair #hungover yn trendio yng Nghaerdydd ar Drydar hyd yn oed. Ond na, roedd amserlen y cyfryngau cymdeithasol yn llawn o bobol yn cwyno. Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw’n gefnogwyr pêl-droed, sy’n gwrthwynebu unrhyw sylw i’r gêm maen nhw’n galw yn syml ‘yr wy’. Roedd y cefnogwyr sy’n llenwi Stadiwm y Mileniwm yn ffans rhan amser. Dydy’r rhan fwyaf ohonyn nhw byth yn gwylio rygbi o gwbl, ac yn dod allan dim ond am y gemau mawr rhyngwladol. Roeddwn i’n cwyno fy hun am y lluniau teledu a oedd yn dangos pawb yn y dorf mewn gwisgoedd ffansi yn cymryd dim sylw o’r gêm. Roedd eraill yn cwyno am y cenedlaetholwyr weekend sydd yn angerddol tra bod Cymru yn chwarae ond wedyn yn anghofio am eu gwlad tan y gêm nesa’. Roedd bron pob Cymro ar-lein yn cwestiynu polisi uniaith Saesneg Undeb Rygbi Cymru Ond c’mon bois. Mae’n rhaid i ni gyd fwynhau penwythnos fel hyn. Mae llwyddiant Cymru mewn unrhyw chwaraeon yn ddigon prin, ddylen ni wneud y gorau o bob un. Oes rhaid i bawb fod yn gefnogwr brwd i gael mynd i achlysur fel Cymru yn erbyn Lloegr? Dydy’r gynulleidfa sy’n llenwi Canolfan y Mileniwm ar gyfer perfformiad Madame Butterfly ddim yn gwylio cyngerdd siambr yn wythnosol wedi’r cwbl. Ac a oes rhywbeth yn bod gyda phobol yn gwisgo fyny i gael hwyl? Nid oes rhaid i fywyd fod yn llwyd ac yn drwm fel ein tywydd. A beth yw’r ots os yw rhai pobol dim ond yn dod yn patriotic unwaith y flwyddyn? Dylen ni ganmol rygbi am hynny, nid ei feirniadu. Ond mae un gŵyn yn dal i sefyll. Sut ar y ddaear y mae Undeb Rygbi Cymru yn parhau i gyfathrebu trwy gyfrwng y Saesneg yn unig? Does gen i ddim ateb i hynny.
Ar gael ar gyfer yr iPhone, iPad ac iPod nawr!
I hysbysebu yn
golwg Nos Iau 21 Mawrth 7:30 Nos Wener 22 Mawrth 7:30 Nos Sadwrn 23 Mawrth Nos Lun 25 Mawrth 7:30 Nos Fawrth 26 Mawrth 7:30 Nos Fercher 27 Mawrth 7:30 Nos Iau 28 Mawrth 7:30 Nos Sadwrn 30 Mawrth 7:30
Neuadd Talybont, ger Aberystwyth Falyri Jenkins: 01970 832560 Theatr John Ambrose, Rhuthun Siop Elfair: 01824 702575 Dim cynhyrchiad Neuadd Goffa Felinheli Galeri Caernarfon: 01286 685222 Ysgol Uwchradd Botwnnog Carys: 01758 730748 Canolfan Bro Aled, Llansannan Eilir Jones: 01745 870415 Neuadd Carmel, Mari Emlyn: 01286 675 869 Canolfan Cynwyd Delyth: 07899974180
cysylltwch 창 Mary Davies
01570 423529