Golwg Ebrill 10 2014

Page 1

Cyfrol 26 . Rhif 30 . Ebrill 10 . 2014

£1.50

Claddu gwastraff niwclear Prydain yng Nghymru?

‘Y wefr o weld llun’ – Marian Delyth yn 60

Y farn

heddiw ar feirdd

ddoe

‘Chwa o awyr iach’

Gwenllian Lansdown Davies a’r Mudiad Meithrin


Beth ydy Wcw? Cylchgrawn i blant 3-7 oed gyda chyfieithiad Saesneg hefyd.

Llond lle o straeon, posau a chystadlaethau bob mis Anrhegion cyson ar y clawr Dim ond £1.25 y mis! Ar werth mewn siopau lleol ar draws Cymru. Neu beth am danysgrifio?

£15 am flwyddyn m marchnata@golwg.com c 01570 423529

a’i ffrindiau

Dych chi’n gwneud hyn: Llenwi’r ffurflen, yna anfon y ffurflen a siec am £15 i: Swyddfa Wcw, Golwg, Blwch Post 4, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion SA48 7LX

Enw’r Plentyn: Cyfeiriad y Plentyn:

Eich manylion chi Enw:

Cod Post: Cyfeiriad:

Rhif Ffôn: Ebost:

Pa enw dych chi’n rhoi ar y siec? Wcw a’i Ffrindiau Os dych chi eisiau talu gyda cherdyn credyd, ffoniwch y swyddfa ar 01570 423529 neu ebostiwch marchnata@golwg.com


cynnwys ebrill 10 . 2014

w y t h n o s g o lwg

I’r cenhedlaethau a ddaw...

W

rth i oes gorsafoedd niwclear Prydain ddod i ben mae’r drafodaeth yn parhau am sut i sicrhau digon o drydan at y dyfodol a’r pwyslais ar ynni cynaliadwy. Mae ynni niwclear unwaith eto yn cael ei grybwyll a’r cynlluniau eisoes ar y gweill i godi ail atomfa yn yr Wylfa ar Ynys Môn. Yn Golwg heddiw mae agwedd arall ar y diwydiant yn cael sylw wrth i wybodaeth ddod i law sy’n awgrymu y gallai’r Wylfa yn ogystal â safle atomfa Trawsfynydd ym Meirionnydd gael eu hystyried yn addas ar gyfer claddu gwastraff niwclear dros dymor hir. Mae’r llywodraeth a’r cyrff sy’n ymwneud â gwaredu ar wastraff yn cynnal cyfres o gyfarfodydd i drafod y broses o ddewis safle addas ar gyfer claddu’r gwastraff o Brydain gyfan a’u ddiogelu am filoedd o flynyddoedd. Bron i ddeugain mlynedd yn ôl roedd cynlluniau tebyg ar gyfer canolbarth Cymru a’r tyllu ar fin dechrau i brofi’r creigiau ym Mhowys ond roedd pobol leol a’r mudiad MADRYN yn amlwg eu gwrthwynebiad. Erbyn hyn mae pwyslais y

Pwyllgor annibynnol sy’n Rheoli Gwastraff Ymbelydrol, CoRWM, ar geisio denu cymunedau i gynnig eu hardaloedd ar gyfer y dasg ac mae sôn am roi hwb i’r drafodaeth drwy gynnig codi ysgolion newydd, neuaddau pentre’, ffyrdd neu gyfraniadau ariannol. Dyna mae’n debyg yw’r man cychwyn ar gyfer y broses caniatâd drwy’r cynghorau cymuned i’r sir a’r llywodraeth. Ond mae’n ddyddiau cynnar ar unrhyw geisiadau a dyw llywodraeth Cymru ddim wedi ystyried ei safbwynt yn iawn ar y mater na llunio polisi hyd yn hyn. Mae sawl un yn codi pryderon yn Golwg heddiw am greu mynwent yng Nghymru i wastraff niwclear Prydain. Fe fydd y ddadl yn siŵr o boethi yn yr ardaloedd lle mae atomfeydd y gorffennol eisoes wedi cael caniatad i storio gwastraff. Methiant fu pob ymdrech hyd yn hyn i ddatrys y broblem wleidyddol ac economaidd o ddelio â’r deunydd ymbelydrol sy’n rhan o’r diwydiant niwclear. Ond gyda’r gwastraff yn crynhoi ac yn beryglus am filoedd o flynyddoedd, mae’n broblem sy’n gofyn am sylw ar frys cyn penderfynu ar godi ail genhedlaeth o atomfeydd.

AR Y CLAWR

4 Claddu gwastraff niwclear Prydain yng Nghymru? 12 Chwa o awyr iach – Gwenllian Lansdown Davies a’r Mudiad Meithrin 14 Y wefr o weld llun – Marian Delyth yn 60 16 Y farn heddiw ar feirdd ddoe

4

STRAEON ERAILL

7 Gwylio’r gofal yn Gwalia 10 S4C newid agwedd tuag at ddramau? 11 Yr amser yn brin i arbed y ddaear – Gareth Wyn Jones 13 Galw am ail ystyried y cynlluniau tai 20 Anfadwaith Almaenwyr yn Anogia

16

BOB WYTHNOS

20

Yr Wythnos

8

– pigion newyddion golwg360 Bwrlwm y Bae Llun newyddion yr Wythnos 9 Byd y blogiau

Cartŵn

9

Cen Williams 11

Llythyrau

12

Portread

– Gwenllian Lansdown Davies

16 20-1 – Eurig Salisbury 19

24

Tu ôl i’r llenni

22 Y

Calendr

24 Y

Babell Roc

– Castro

24 Pobol

a diwylliant

– Llŷr Gwyn Lewis

Colofnau

26

8 Dylan Iorwerth 10 Cris Dafis 22 Manon Steffan Ros 23 Ar y bocs – Dylan Wyn Williams 24 Jac Codi Baw 26 Leighton Andrews 27 Phil Stead 17-19

Gwaith

Chwaraeon Blwch Post 4 Llanbedr Pont Steffan Ceredigion SA48 7LX Ffôn 01570 423 529 Ffacs 01570 423 538 e-bost ymholiadau@golwg.com safwe www.golwg360.com Golygydd Gyfarwyddwr Dylan Iorwerth Cyfarwyddwr Busnes Enid Jones Rheolwraig Hysbysebion Helen Sweeney

Cysylltiadau Golygydd Siân Sutton Dirprwy Olygydd Barry Thomas Gohebydd Celfyddydau Non Tudur Gohebydd y Cynulliad Gareth Pennant Gohebydd Cyffredinol Siân Williams Newyddiadurwraig Gwasanaethau Golwg Llinos Dafydd

26 Man Gwyn Man Draw – Cymro yn Awstria Antur fawr y Ficar

Dylunio Dyfan Williams Swyddog Marchnata Lowri Steffan Swyddog Cyllid Rhiannon Lloyd Williams Swyddog Gweinyddol Wendy Griffiths Swyddog Tanysgrifiadau Mair Jones

Cyhoeddir Golwg gan Golwg Cyf gyda chymorth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru. Nid yw ein noddwyr o angenrheidrwydd yn cytuno gyda’r farn yn y cylchgrawn. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost fel papur newydd. Argraffwyd gan Argraffwyr Cambrian.

Llun Clawr: Eurig Salisbury Ffotograffydd: Emyr Young


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.