Golwg Ebrill 24 2014

Page 1

£1.50

golwg . ebrill 24 . 2014

1

Cyfrol 26 . Rhif 32 . Ebrill 24 . 2014

Theatrau Cymru – ‘angen mwy o gefnogaeth ar artistiaid Cymraeg’

Gwenno Saunders – cerddoriaeth a nofelau ffug-wyddonol

Profiad menywod Ystradgynlais Mentro i dir newydd yng Nghwm Gwendraeth

N ô F

n i a w O

t s i t r a c a r golw


Nant Gwrtheyrn 2014 Digwyddiadau i Blant 11.00

Cadw’n heini gyda Heini (Atebol) (hyd at 9 oed)

11.30

Dewch i gwrdd â Nel: Darllen stori a direidi gyda Meleri Wyn James, awdur Na, Nel!

12.00

Dewch â’ch Deinosor i’r Fedwen! Sesiwn yn llawn o sbri gyda llu o ddeinosoriaid (plant cynradd) yng nghwmni Gwion Hallam a Llion Iwan, dau o awduron Trysorfa Deinosoriaid (Gomer).

12.30

Cadw’n heini gyda Heini (Atebol) (hyd at 9 oed)

1.00

Egwyl i ginio

2.00 – 4.00

Gweithdai natur a gwyddoniaeth gan gynnwys sesiynau Waw Gwyddoniaeth (Rily) gyda’r gwyddonydd cyffrous Robyn Wheldon-Williams, cyfres Am Dro (Darllen Mewn Dim, Lolfa), Nansi a Nel (CAA), Adnabod Coed a Blodau (Lolfa). Dewch i roi cynnig ar arbrofi! Rhywbeth i blant o bob oed. Bwrdd lliwio drwy’r dydd

Digwyddiadau i Oedolion 10.30

Yr ardd ym mis Mai: Lansio Tyddyn Sachau – Tyddyn y Blodau (Gwalch) ynghyd â sesiwn holi gyda’r garddwr Medwyn Williams, a stondin blanhigion.

11.00

Llŷn mewn Llyfrau: atgofion am gymeriadau mawr Llŷn: Harri Parri, awdur O’r Un Brethyn (Bwthyn) a Pen Llŷn Harri Parri, yn cyflwyno a rhai o awduron Pobl Olaf Enlli (Carreg Gwalch) a Cofio R.S. (Bwthyn)

12.00

Nofelau i’r arddegau: Alun Jones yn holi Casia Wiliam, Esyllt Maelor, a Guto Dafydd am eu nofelau diweddaraf a’r broses o ysgrifennu i’r arddegau. (Lolfa)

1.00

Anrhegu Alwyn Elis – Gwobr y Fedwen am Gyfraniad Oes (ac egwyl i ginio)

2.00

Dangos ffilm Pysgotwyr Llŷn a lansio Cynefin Glan y Môr, Bethan Wyn Jones, gyda thaith gerdded natur os yw’r tywydd yn caniatâu (Gwalch).

3.00

Lansio Tri: cyfle i gael blas ar gyfrolau newydd o’r wasg Llŷr Gwyn Lewis: Storm ar Wyneb yr Haul (Barddas) Jerry Hunter: Ebargofiant (Lolfa) Marlyn Samuel: Milionêrs (Bwthyn)

4.30

Dathlu bywyd Iwan Llwyd: yng nghwmni Twm Morys, Guto Dafydd, Myrddin ap Dafydd a Geraint Lovgreen a’i fand; cyhoeddir cyfrol Awen Iwan (gol. Twm Morys) yn fuan gan Gyhoeddiadau Barddas.

Stondin blanhigion Tyddyn Sachau a siop lyfrau Llên Llŷn Sali Mali, Sam Tân a Peppa Pinc yn crwydro.

Dydd Sadwrn 3 Mai, 2014


golwg . ebrill 24 . 2014

3

cynnwys ebrill 24 . 2014

w y t h n o s g o lwg

Cyfnod o newid mawr

6 12

Llun: Keith Morris

M

ae penwythnos y Pasg wedi bod yn galondid i nifer o fusnesau sy’n ddibynnol ar y diwydiant twristiaeth er gwaetha’r ofnau mawr. Ar ôl stormydd mawr ddechrau’r flwyddyn, roedd yr ymwelwyr nôl yn eu cannoedd os nad miloedd yn troedio’r Prom yn Aberystwyth. Ac yn ôl y dystiolaeth mae nifer ohonyn nhw yno oherwydd y sylw a gafodd y dre glan y môr ym mis Ionawr wrth i’r tonnau a’r gwyntoedd godi a gwneud y difrod gwaetha o fewn cof. Awgrym bod unrhyw gyhoeddusrwydd yn gallu bod yn beth da? Ond yng Nghwm Gwendraeth, mae sylw ‘anffodus’ i ddadl fewnol wedi creu ansicrwydd ynglŷn â dyfodol y Fenter Iaith leol. Yn Golwg heddiw mae’r Cadeirydd newydd yn ymateb i ymddiswyddiad dau o’r arweinwyr wythnos yn ôl. Ac mae Dr Wayne Griffiths, sy’n hen ben gan ei fod yn gadeirydd yn ystod dyddiau cynta’r gwaith, yn trafod y dyfodol. Wrth ymateb i sawl adroddiad, un am y Mentrau Iaith eu hunain, ac un gan Weithgor Sir Gaerfyrddin ar ddyfodol y Gymraeg yn y sir,

AR Y CLAWR

mae’n rhaid canolbwyntio ar ymateb ar unwaith i’r darlun a ddaeth o ganlyniadau’r Cyfrifiad yn 2011. Mae pryder bod y pwyslais wedi newid o fewn y Fenter sydd wedi symud oddi wrth y gwaith ieithyddol at y gwaith cymunedol. Yn ôl Wayne Griffiths, “mae cymunedau Cwm Gwendraeth wedi colli eu hyder a’u hunan-barch” dros y degawdau diwethaf ac mae’n cydnabod bod angen newid cyfeiriad y gwaith yno. Ac yn Golwg heddiw hefyd mae cymuned arall yng Nghymoedd De Cymru yn cael sylw. Yn ôl adroddiad diweddar gan Sefydliad Bevan, mae menywod yn ardal Ystradgynlais yn wynebu caledi gyda nifer yn diffodd y gwres a mynd heb fwyd er mwyn bwydo’u plant. Mae’r Banc Bwyd lleol yn cynnig cefnogaeth i nifer cynyddol o bobol. Ac mae’r Aelod Cynulliad a gomisiynodd yr adroddiad yn galw am gyfarfod buan yn lleol gyda’r Gweinidog yn llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb am Daclo Tlodi. Efallai nad oes dim byd newydd dan haul am y profiadau yma ond mae’n bosib i’r ymateb fod yn wahanol ac yn well.

5 Mentro i dir newydd yng Nghwm Gwendraeth 7 Theatrau Cymru – ‘angen mwy o gefnogaeth ar artistiaid Cymraeg’ 14 Wynebu Caledi – profiad menywod Ystrad 24 Gwenno Saunders – cerddoriaeth a nofelau ffug-wyddonol 26 Owain Fôn – golwr ac artist

STRAEON ERAILL

13 30 mlynedd o greu cyfleoedd i’r anabl 18 Torri tir newydd yn y leino 20 Ar lan y môr mae broga’r twyni 21 Cofnodi ffordd o fyw pysgotwyr Llŷn 25 ‘Mwy na harddwch’

BOB WYTHNOS

16

– pigion newyddion golwg360 Bwrlwm y Bae Llun newyddion yr Wythnos 9 Byd y blogiau Cen Williams 11

Ffôn 01570 423 529 Ffacs 01570 423 538 e-bost ymholiadau@golwg.com safwe www.golwg360.com Golygydd Gyfarwyddwr Dylan Iorwerth Cyfarwyddwr Busnes Enid Jones Rheolwraig Hysbysebion Helen Sweeney

Llythyrau

12

Portread

– Siôn Meredith

16 20-1 – Marlyn Samuel 19

18

Tu ôl i’r llenni

22 Y

Calendr

24 Y

Babell Roc

– Gwenno Saunders

25 Pobol

a diwylliant

– Bethan Mair

Colofnau

26

Cysylltiadau Golygydd Siân Sutton Dirprwy Olygydd Barry Thomas Gohebydd Celfyddydau Non Tudur Gohebydd y Cynulliad Gareth Pennant Gohebydd Cyffredinol Siân Williams Newyddiadurwraig Gwasanaethau Golwg Llinos Dafydd

Cartŵn

9

8 Dylan Iorwerth 10 Cris Dafis 19 Tu ôl i’r llenni 22 Manon Steffan Ros 23 Ar y bocs – Dylan Wyn Williams Jac Codi Baw 26 Leighton Andrews 27 Phil Stead 17

Blwch Post 4 Llanbedr Pont Steffan Ceredigion SA48 7LX

Yr Wythnos

8

Gwaith

Chwaraeon

26 Dwylo destlus Owain Fôn

Dylunio Dyfan Williams Swyddog Marchnata Lowri Steffan Swyddog Cyllid Rhiannon Lloyd Williams Swyddog Gweinyddol Wendy Griffiths Swyddog Tanysgrifiadau Mair Jones

Cyhoeddir Golwg gan Golwg Cyf gyda chymorth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru. Nid yw ein noddwyr o angenrheidrwydd yn cytuno gyda’r farn yn y cylchgrawn. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost fel papur newydd. Argraffwyd gan Argraffwyr Cambrian.

Llun Clawr: Owain Fôn Williams PA Photos


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.