lingo newydd Ebrill-Mai 2016

Page 1

ffasiwn

teledu

bwyd

cymru

pobl

newyddion

un o gyhoeddiadau

Ebrill - Mai 2016 rhifyn 101

newydd

Stwffio’r ‘gath’

‘Y swydd orau yn y byd’ Lisa Gwilym

Trenau o bob math

LINGO NEWYDD 100%MAG -0.40BWR LINGO NEWYDD 100%MAG -0.40BWR

LINGO NEWYDD 100%MAG -0.40BWR LINGO NEWYDD 100%MAG -0.40BWR

LINGO NEWYDD 100%MAG -0.40BWR LINGO NEWYDD 100%MAG -0.40BWR

artist sy’n crosio a ffeltio


H e lo , b a w b ! Ebrill – Mai 2016

M

ae’r gwanwyn wedi dod. Mae natur wedi deffro a’r blodau wedi blodeuo. Mae’r clociau wedi mynd ymlaen hefyd – ac mae’r dyddiau’n mynd yn hirach. Mae mwy o amser i wneud pethau felly! Dyma rai o syniadau lingo newydd ... l Beth am fynd am dro i weld byd natur? Ewch i dudalen 15 i weld pam mae Bethan Wyn Jones yn hoffi’r ddraenen ddu. l Beth am fynd i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Sir y Fflint eleni? Dyna gyfle gwych i siarad Cymraeg! Mae Megan Elias yn dweud, “Mae Eisteddfod yr Urdd wedi newid fy mywyd i.” Ewch i dudalen 10 i ddarllen mwy. l Os dych chi’n mynd i Lundain, beth am fynd i weld Gillian Elisa’n perfformio yn y sioe gerdd Billy Elliot? Ond brysiwch, mae’r sioe’n dod i ben yn fuan. Ewch i dudalen 16. l Mae rhaglenni diddorol ar y teledu. Mae cyfres am gerddoriaeth Gymraeg yn dechrau ar S4C - Stiwdio Gefn. Lisa Gwilym sy’n cyflwyno, ac mae hi’n ateb 10 cwestiwn lingo newydd ar dudalen 18. Ond beth ydy rhaglen gwis hyna Cymru? Mae mwy am gyfres newydd Siôn a Siân ar dudalen 17.

Penderfyniadau Mae llawer o benderfyniadau’n wynebu Cymru. Dych chi’n mynd i bleidleisio yn Etholiadau’r Cynulliad? I bwy tybed? Mae lingo newydd yn gofyn tri chwestiwn mawr am yr etholiad, ar dudalen 8. Un cwestiwn arall – ydy bwyta gwiwer yn syniad da? Mwy ar dudalen 12. Ydy, mae’r Gwanwyn wedi dod ac mae’r dyddiau’n ymestyn – a gobeithio byddwch chi’n cael hwyl yn gwneud yr holl bethau yma!

G eiriau draenen ddu – blackthorn cyfle – opportunity bywyd – life dod i ben – to come to an end yn fuan – soon hyna – oldest penderfyniad,-au – decision,-s wynebu – (to) face

2 dau

pleidleisio – (to) vote etholiad,-au – election,-s y Cynulliad – the (Welsh) Assembly gwiwer – squirrel ymestyn – (to) lengthen yr holl bethau yma – all these things

2 Helo, bawb! Eich tudalen chi: Llythyr gan 3 Sue Hyland a Christine yn ennill cadair 4 – 5 O ddiddordeb: Ar y cledrau Rhywbeth bach: 6 Tacsidermi ffug Gair o’r Eidal 7 8 – 9 Materion cyfoes: Tri chwestiwn mawr yr etholiadau 10 – 11 ‘Newid fy mywyd am byth’ Bwyd: Pate gwiwer 12 13 Y Sêr gyda Chris Needs Silff Lyfrau: Iaith yr Ysgol 14 15 Natur: Y ddraenen ddu 16 Dawnsio yn Llundain Ar y bocs: Siôn a Siân 17 18 10 Cwestiwn: Lisa Gwilym Croesair ac idiom Mumph 19

6

10

G eiriau ennill – (to) win cledr,-au – rail,-s ffug – fake gair – word materion cyfoes – contemporary issues etholiad,-au – election,-s pate – pâté gwiwer – squirrel draenen ddu – blackthorn

19

Lliwiau lingo newydd Mae cod lliw i’ch helpu chi i ddarllen lingo newydd. Darllenwch y darnau glas os dych chi’n dechrau dysgu.

Darllenwch y darnau gwyrdd a glas os dych chi’n fwy profiadol.

Darllenwch y cyfan os dych chi’n brofiadol iawn.

n Dyma liw geiriau’r De. n Dyma liw geiriau’r Gogledd. n Mae’r lliw yma i bawb.

Cyhoeddiad gan gwmni lingo newydd, d/o Golwg, Blwch Post 4, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion. SA48 7LX ( 01570 423529 ( 01570 423538 * e-bost: lingonewydd@golwg.com Cyfranwyr: Megan Lewis, Dylan Iorwerth, Chris Needs, Dyfan Williams, Mumph, Bethan Wyn Jones LLUN CLAWR: Tacsidermi ffug


Annwyl lingo newydd, Y llynedd, mi es i efo fy ng[r i Gaerdydd. Fe aethon ni i Ganolfan y Mileniwm i wylio Les Misérables yn y Gymraeg. Sioe fersiwn ysgolion oedd hi ac roedd y cast

yn ifanc ac yn anhygoel. Roedd o’n brofiad bythgofiadwy. Les Misérables ydy fy hoff sioe gerdd, ac roedd clywed y sioe yn cael ei pherfformio yn y Gymraeg yn wych. Monsieur Thénardier ydy fy hoff gymeriad, ac roedd o’n ddoniol iawn, iawn. Fy hoff gân oedd ‘Fi fy hun’ gan Éponine a dw i wedi dysgu’r geiriau r[an. Dw i’n canu’r gân i’r defaid yn y cae pan dw i’n mynd am dro. Dw i’n dyfalu beth mae’r defaid yn ddweud...? “Baaa-ndigedig!” Llongyfarchiadau mawr i’r cast – roedd pob un yn anhygoel. Cofion cynnes, Sue Hyland Llanidloes, Powys

G eiriau anhygoel – incredible bythgofiadwy – unforgettable yn cael ei pherfformio – being performed cymeriad – character dyfalu – (to) guess

Cadair, Canada a Christine “Roedd cael fy nghadeirio yn brofiad arbennig,” meddai Christine Langham. Enillodd hi gystadleuaeth am ysgrifennu barddoniaeth yn Eisteddfod y Dysgwyr yn Theatr Clwyd ym mis Mawrth eleni. Y wobr oedd cadair. “Dyma’r tro cynta i mi gystadlu ar waith creadigol mewn eisteddfod – a dw i wedi ennill cadair!” meddai Christine. “Cadair fach ydy hi. Dach chi ddim yn medru eistedd arni.” Mae Christine Langham yn dod o Langollen yn wreiddiol. Ond, buodd hi’n byw yng Nghanada am fwy nag ugain mlynedd. “Mi wnes i astudio Seicoleg, Addysg a Saesneg ym Mhrifysgol Bangor. Wedyn, mi wnes i briodi a symud i Ganada. Dw i wedi gweithio fel athrawes ac i Lywodraeth Canada yn Ottawa. “Ond, ar ôl ymddeol, ro’n i’n teimlo hiraeth am Gymru. Roedd cymdeithasau Cymraeg yn Toronto ac Ottawa, ond doedd y rhan fwya o’r bobl ddim yn siarad Cymraeg.”

Daeth Christine yn ôl i Gymru a mynd i ddosbarthiadau Cymraeg gyda’r tiwtor, Aled Lewis Evans, sy hefyd yn fardd. Mae o wedi helpu Christine llawer, meddai. “Mae ysgrifennu’n greadigol yn y Gymraeg yn anodd weithiau, ond dw i’n edrych yn y geiriadur ac mae’n llawer o help.”

Llongyfarchiadau i Sue Hyland Mae Sue wedi ennill cystadleuaeth lingo newydd mis Chwefror-Mawrth am ysgrifennu llythyr i’r cylchgrawn Beth am ysgrifennu llythyr aton ni? Mae lingo newydd isio clywed oddi wrthych chi. Cyfeiriad: lingo newydd, d/o Golwg, Blwch Post 4, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7LX E-bost: lingonewydd@golwg.com

G eiriau llongyfarchiadau – congratulations wedi ennill – has won cystadleuaeth – competition aton ni – to us isio = isie – (to) want oddi wrthych chi – from you

G eiriau barddoniaeth – poetry creadigol – creative medru = gallu – (to) be able to, can llywodraeth – government hiraeth – homesickness, longing y rhan fwya – most ffin – boundary, border, frontier thema – theme undeb – union wedi cael blas ar – enjoyed

Y Ffin

Thema cerdd Christine Langham ydy ‘Y Fffin’. Mae hi’n sôn am y ffin rhwng siaradwyr Cymraeg a siaradwyr Saesneg. Mae hi’n sôn am ei phrofiad ym Mhrifysgol Bangor yn y 1960au. “Ro’n i’n arfer cael coffi bob bore yn yr undeb, ac roedd siaradwyr Cymraeg yn eistedd gyda’i gilydd. Ro’n i’n teimlo bod y Saeson yn edrych i lawr arnon ni ac yn dweud pethau fel ‘Nid fy newis cyntaf oedd dod i Fangor’.” Mae Christine Langham wedi cael blas ar ysgrifennu barddoniaeth yn y Gymraeg. Mae hi’n gobeithio cystadlu mewn mwy o eisteddfodau yn y dyfodol.

tri 3


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.