YN CYFLWYNO’R SIOE BANTOMEIM
(Yn seiliedig ar chwedl Lleu Llaw Gyffes)
CROESO I GYNHYRCHIAD DIWEDDARAF CWMNI MEGA! Amser maith yn ôl pan fyddai mellt yn hollti’r awyr a tharanau yn crynu’r ddaear, credai’r Cymry mai pwerau’r nos a’r dydd oedd yn ymladd. Ar ôl brwydr arbennig o ffyrnig rhwng eryr yr haul a helwyr y nos disgynnodd baban bychan i’r ddaear. Lleu, mab Eryr yr Haul oedd y baban ac yn ystod y cynhyrchiad hwn fe gawn glywed hanes hynod y garwriaeth rhwng Blodeuwedd ac yntau. Ond ydy popeth fel y mae’n ymddangos? Pwy yw Blodeuwedd? Ydy’r gelynion yn cael eu trechu? Dewch i ymuno yn yr hwyl i gael gweld!